Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiadau o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.
|
|
Dogfen Ymgynghorol Papur Gwyrdd - Cryfhau Llywodraeth Leol: Cyflawni dros ein Pobl PDF 2 MB Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Prif Weithredwr yn cynnwys safbwynt y cyngor ar ad-drefnu llywodraeth leol ac ymatebion i gwestiynau penodol i’r Cyngor ar gyfer ystyriaeth.
Adroddodd y Prif Weithredwr fod y Papur Gwyrdd yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru ar gyfer ‘Llywodraeth leol gryfach, sy’n fwy grymus yng Nghymru.’ Mae’r Papur Gwyrdd yn dadlau o blaid ad-drefnu - gwahanol safbwynt i Bapur Gwyn 2017 a oedd yn cadarnhau na fyddai’r syniad o ad-drefnu yn cael ei weithredu gyda’r ffocws yn hytrach ar fwy o gydweithio rhwng Awdurdodau. Nododd bod 3 opsiwn yn y Papur Gwyrdd fel a ganlyn:-
Opsiwn 1 – Uno gwirfoddol rhwng awdurdodau lleol Opsiwn 2 – Dull fesul cam erbyn 2026 Opsiwn 3 – Rhaglen uno gynhwysfawr a phenodol erbyn 2022
Nododd fod yr Arweinwyr Grŵp wedi sefydlu Panel Ad-drefnu Llywodraeth Leol er mwyn ystyried ymateb drafft y Cyngor sydd wedi’i atodi fel Atodiad 2 i’r adroddiad. Diolchodd y Prif Weithredwr i’r Aelodau a’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd am eu gwaith mewn perthynas â’r mater hwn.
Dywedodd fod y Panel ac Arweinyddion Grwpiau wedi dod i’r casgliad na chefnogir y cynigion hyn a’u bod yn gwrthwynebu’n gryf unrhyw ad-drefnu o’r awdurdod yn y dyfodol yn seiliedig ar y ffeithiau a gyflwynwyd.
Mae safbwynt y Cyngor wedi’i lunio ar yr egwyddorion a nodir yn nhudalen 1 o’r ymateb drafft sef:
1) Yr angen i ddarparu trigolion Ynys Môn â gwasanaethau effeithiol ac effeithlon. Cydnabyddir y gallai hyn gynnwys cydweithio rhanbarthol ac isranbarthol er mwyn sicrhau bod yr arbenigedd a gwytnwch angenrheidiol yn ei le a bod angen sefydlu trefniant er mwyn sicrhau atebolrwydd uniongyrchol yn lleol ar gyfer ansawdd y gwasanaethau. Yn y cyd-destun hwn, mae angen dealltwriaeth o’r math o wasanaethau a fydd yn cael eu darparu’n rhanbarthol, yn isranbarthol ac yn lleol, wedi’i alinio’n fras â chanfyddiadau Comisiwn Williams ond hefyd yn awgrymu bod angen i lywodraeth leol wneud penderfyniadau ar strwythurau cydweithio.
2) Fe ddylai unrhyw drefniadau cydweithio fod yn seiliedig ar y buddion tebygol i drigolion Ynys Môn neu ar y rhagdybiaeth y gellir darparu gwasanaethau o’r un safon yn rhatach.
3) Mae’r Cyngor o’r farn bod arweinyddiaeth yn seiliedig ar wybodaeth leol yn bwysicach na maint. Mae’r Cyngor o’r farn y gellid bodloni disgwyliadau Llywodraeth Cymru drwy gyfuniad o gydweithio a darpariaeth leol, h.y. estyniad naturiol o’r sefyllfa bresennol. Yn ychwanegol, at hynny, cydnabyddir bod angen rhoi ystyriaeth fanwl i unrhyw bosibilrwydd o ddarparu gwasanaethau mewn modd mwy cost-effeithiol, e.e. lleihau costau rheoli neu wasanaethau cefnogi.
Fe ddylai’r materion allweddol hyn fod yn ganolog i unrhyw benderfyniad ar ad-drefnu llywodraeth leol, yn hytrach na llinellau ar fap.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor y byddai uno ag awdurdod cyfagos yn cael effaith andwyol ar drigolion yr Ynys o ran darpariaeth gwasanaethau; democratiaeth leol ac atebolrwydd ac y byddai hefyd yn effeithio ar yr economi leol a lefelau’r Dreth Gyngor. Dywedodd fod lefel y Dreth Gyngor ar gyfer eiddo Band D yng Ngwynedd dros £100 yn uwch nac ym Môn, sy’n darparu’r un lefel o wasanaethau. Dywedodd yr ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2. |