Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Blynyddol a Ohirwyd, Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Mercher, 31ain Mai, 2017 3.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 01248 752516 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiadau o ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.     

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Cyhoeddiadau

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu’r Prif Weithredwr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gyda thristwch mawr, cyhoeddodd y Cadeirydd y bu farw Mr Irfon Williams o

Fangor ar ddydd Mawrth yn dilyn brwydr ddewr yn erbyn cancr. Mr Williams oedd Rheolwr y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cydymdeimlwyd â theulu a ffrindiau Mr Williams.

 

Safodd yr Aelodau a'r Swyddogion mewn distawrwydd fel arwydd o barch a

chydymdeimlad.

 

Atgoffodd y Cadeirydd yr Aelodau i gadw’r Rheolau Trafodaeth mewn cof pan fyddant yn annerch y Cyngor llawn.

3.

Aelodaeth y Pwyllgor Gwaith

Yn unol â Pharagraff 4.1.1.2.7 y Cyfansoddiad, cael gwybod gan yr Arweinydd enwau’r Cynghorwyr y mae ef / hi wedi eu dewis i fod yn Aelodau o'r Pwyllgor Gwaith, ynghyd â'u cyfrifoldebau Portffolio.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Pharagraff 4.1.1.2.7 y Cyfansoddiad, enwodd yr Arweinydd yr aelodau canlynol fel y rheini yr oedd wedi eu dewis i wasanaethu ar y Pwyllgor Gwaith, ynghyd â'u cyfrifoldebau portffolio :-

 

Y Cynghorydd Richard A. Dew gyda chyfrifoldeb am y Portffolio Cynllunio a

Datblygu Economaidd;

Y Cynghorydd R. Meirion Jones gyda chyfrifoldeb am y Portffolio Addysg,

Ieuenctid, Llyfrgelloedd a Diwylliant;

Y Cynghorydd John Griffith gyda chyfrifoldeb am y Portffolio Cyllid;

Y Cynghorydd Bob Parry OBE FRAgS gyda chyfrifoldeb am y Portffolio Priffyrdd, Eiddo a Rheoli Gwastraff;

Y Cynghorydd Dafydd R. Thomas gyda chyfrifoldeb am y Portffolio Adnoddau

Dynol, Technoleg Gwybodaeth a Busnes y Cyngor;

Y Cynghorydd Llinos M. Huws (Arweinydd) gyda chyfrifoldeb am y Portffolio Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol;

Y Cynghorydd Ieuan Williams (Dirprwy Arweinydd) gyda chyfrifoldeb am y

Portffolio Prosiectau Mawr a'r Iaith Gymraeg.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ar 12 Mehefin, 2017 mewn perthynas â newid Cyfansoddiad y Cyngor i gynyddu nifer y swyddi ar y Pwyllgor Gwaith sy’n gymwys i gael uwch gyflog.  Nodwyd y bydd angen cymeradwyaeth y Cyngor llawn yn ei gyfarfod arbennig ar 6 Gorffenna, 2017 ar gyfer yr argymhelliad o’r Pwyllgor Gwaith a gynhelir ar 12 Mehefin, 2017.

4.

Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd

Yn unol â Pharagraff 3.4.12.3 o Gyfansoddiad y Cyngor, penodi Cadeirydd ar gyfer y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd am y flwyddyn ddinesig.

[Noder: Paragraff 3.4.12.3.1  Penodir y Cadeirydd gan y Cyngor llawn yn ei ail gyfarfod (a ohiriwyd) o’r Cyfarfod Blynyddol ar ôl i’r Arweinydd gyhoeddi pwy yw Aelodau’r Pwyllgor Gwaith (ac os oes angen mewn cyfarfodydd eraill) trwy bleidlais gudd, a Bydd Rheol Gweithdrefn 4.1.18.5 "Pleidlais a Gofnodwyd" yn cael ei hatal ar gyfer y pwrpas hwn.

Paragraff 3.4.12.3.2  Ni chaiff y Cadeirydd fod yn aelod o grŵp a gynrychiolir ar y Pwyllgor Gwaith (ac eithrio mewn awdurdodau lle mae’r holl grwpiau gwleidyddol yn cael eu cynrychioli ar y Pwyllgor Gwaith, ac yn yr achos hwnnw, ni chaiff y Cadeirydd fod yn aelod o’r Pwyllgor Gwaith)].

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Pharagraff 3.4.12.3 y Cyfansoddiad, PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Robert Llewelyn Jones yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd am 2017/18.

5.

Cadarnhau’r Cynllun Dirprwyo

Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau’r rhan honno o'r Cynllun Dirprwyo y mae’r Cyfansoddiad yn nodi mai mater i'r Cyngor ydyw i’w chytuno (fel y nodir ym Mharagraff 3.5 o'r Cyfansoddiad).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau’r cyfryw ran o’r Cynllun Dirprwyo y mae’r Cyfansoddiad yn nodi mai mater i’r Cyngor ydyw i’w chytuno fel y nodir yn Rhan 3.2 y Cyfansoddiad.

6.

Rhaglen cyfarfodydd Cyffredin y Cyngor Sir

Cymeradwyo’r rhaglen isod o gyfarfodydd cyffredin y Cyngor Sir ar gyfer y flwyddyn i ddod:-

 

  26 Medi 2017                                  -       2.00pm

  12 Rhagfyr 2017                             -       2.00pm

  28 Chwefror 2018                          -       2.00pm

  15 Mai 2018 (Cyfarfod Blynyddol) -      2.00pm          

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhagen ganlynol o gyfarfodydd cyffredin y Cyngor Sir ar gyfer y flwyddyn i ddod :-

 

·      6 Gorffennaf, 2017 am 2.00 p.m. (Cyfarfod Arbennig)

·      26 Medi, 2017 at 2.00 p.m.

·      12 Rhagfyr, 2017 at 2.00 p.m.

·      28 Chwefror, 2018 at 2.00 p.m.

·      15 Mai, 2018 at 2.00 p.m.

7.

Cydbwysedd Gwleidyddol a Phenodi Cynghorwyr i Bwyllgorau pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar adolygiad o drefniadau cydbwysedd gwleidyddol ar Bwyllgorau yn dilyn yr Etholiad Llywodraeth Leol diweddar ar 4 Mai 2017, ac ar benodi Cynghorwyr i Bwyllgorau.

 

[Noder: Mae cydbwysedd gwleidyddol yn berthnasol i grwpiau gwleidyddol ac nid i Aelodau Digyswllt. Yn y cyfarfod heddiw (gohiriedig), bydd y Cyngor yn neilltuo Aelodau a enwir i wasanaethu ar Bwyllgorau yn unol â phenderfyniadau Arweinwyr eu Grwpiau a bydd yn penodi unrhyw Aelodau Digyswllt i seddau Pwyllgor na ellir eu llenwi yn unol â chydbwysedd gwleidyddol].

 

Yn syth ar ôl yr uchod, bydd pob Pwyllgor y cyfeirir ato isod yn cyfarfod am gyfnod byr i benodi ei Gadeirydd a’i Is-Gadeirydd ei hun (ac eithrio’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a fydd wedi cael sylw dan eitem 4 uchod): -

 

   Y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol

   Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio

   Pwyllgor Archwilio

   Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

   Pwyllgor Trwyddedu

   Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd (Is-Gadeirydd)

 

 

[Noder: anfonwyd hysbysiadau ar wahân at holl Aelodau ac aelodau cyfetholedig perthnasol ar gyfer y cyfarfodydd uchod].

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd

ynglyn â threfniadau cydbwysedd gwleidyddol y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD :-

 

·      nodi’r trefniadau cydbwysedd gwleidyddol priodol newydd a nifer y seddau y gellir eu priodoli i bob un o’r Grwpiau o dan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, a nifer y seddau a roddir trwy ddefod ac arfer i’r Aelod(au) nad yw’r trefniadau cydbwysedd gwleidyddol yn berthnasol iddynt;

 

Cadarnhau enwau'r Aelodau a fydd yn eistedd ar y pwyllgorau isod

er mwyn paratoi ar gyfer y cyfarfodydd i ethol Cadeiryddion ac Is-

Gadeiryddion:-

 

Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol;

Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio;

Pwyllgor Archwilio a Llywodraethiant;

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion;

Pwyllgor Trwyddedu;

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd (Is-Gadeirydd yn unig).

 

·      Mewn perthynas â’r pwyllgorau eraill a nodir yn yr atodiad i'r

adroddiad hwn, bod Arweinyddion y Grwpiau yn darparu manylion

am aelodaeth i'r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd cyn gynted

ag y bo modd;

 

·      Penodi’r Cynghorwyr T Ll Hughes MBE a Dafydd R Thomas i

wasanaethuar y Pwyllgor Safonau am gyfnod y Cyngor.

8.

Penodi i Gyrff Allanol pdf eicon PDF 197 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn gofyn am gadarnhau'r rhestr o benodiadau a wneir i gyrff allanol.

 

PENDERFYNWYD :-

 

·      Cadarnhau penodi cynrychiolwyr i wasanaethau ar y cyrff allanol a

restrir yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

·      Os bydd angen gwneud newidiadau yn y dyfodol i gynrychiolaeth y

Cyngor ar gyrff allanol, bod awdurdod yn cael ei roi i'r Prif

Weithredwrwneud hynny mewn ymgynghoriad gydag Arweinyddion

y Grwpiau.

·      Mewn perthynas â chynrychiolaeth y Cyngor ar gyrff llywodraethu

ysgolion, bod awdurdod yn cael ei roi i'r Pennaeth Dysgu wneud

penodiadau o’r fath mewn ymgynghoriad gydag Arweinyddion y

Grwpiau.

·      Bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn ystyried y

trefniadau adrodd ac yn gwneud argymhellion i'r Cyngor.