Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Cyflwyno unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

DERBYN UNRHYW GYHEDDIADAU GAN Y CADEIRYDD, YR ARWEINYDD, AELODAU’R PWYLLGOR GWAITH NEU BENNAETH Y GWASANAETH CYFLOGEDIG

 

Gwnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau canlynol :-

 

·      Llongyfarchwyd pawb o Ynys Môn a fu’n llwyddiannus yn Sioe Frenhinol Cymru yn ddiweddar.

·      Estynnodd y Cadeirydd ei ddymuniadau gorau am Eisteddfod Genedlaethol lwyddiannus ym Modedern yr wythnos nesaf ac i Sioe Amaethyddol Môn a gynhelir ar 15 ac 16 Awst, 2017.

 

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at gofeb canmlwyddiant Brwydr Passchendaele yng Ngwald Belg, lle collwyd llawer o fywydau.

 

Cydymdeimlwyd â’r Cynghorydd Eric W. Jones ar golli ei chwaer-yng-nghyfraith.

 

Cydymdeimlwyd â Mrs. Ann Holmes, Swyddog Pwyllgor ar golli ei mam yn ddiweddar.

 

Cydymdeimlwyd ag unrhyw Aelod o’r Cyngor neu aelod o staff oedd wedi cael profedigaeth.

 

Safodd yr Aelodau a’r Swyddogion mewn distawrwydd fel arwydd o barch a chydymdeimlad.

2.

Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn pdf eicon PDF 375 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd i'r Cyngor gan yr Aelod Portffolio (Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Datblygu Economaidd).

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio (Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Datblygu Economaidd) bod rhaid i awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru baratoi cynlluniau datblygu lleol o dan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004. Mae'r Cynllun Datblygu Lleol yn nodi gweledigaeth ar gyfer newid yn yr ardal yn ystod y cyfnod 2011 - 2026 ac mae’n cynnwys polisïau manwl ac yn dynodi safleoedd ar gyfer eu datblygu ac yn nodi faint o dir sydd ei angen ar gyfer tai newydd, cyflogaeth, siopau ac ati.  Mae hefyd yn dynodi tiroedd a ddiogelir rhag  datblygiadau fel y gellir eu cadw’n fannau agored.   Oherwydd bod angen i Gyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Gwynedd ill dau baratoi Cynllun Datblygu Lleol, penderfynwyd y byddai'r ddau gyngor yn cydweithio i baratoi Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Nododd hefyd y sefydlwyd Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd ac arno aelodau etholedig o Gyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Gwynedd i ddelio â materion yn ymwneud â'r gwaith o baratoi'r Cynllun. 

 

Dywedodd fod y gwaith o baratoi'r cynllun wedi dechrau yn 2011 a bod yr holl ddatblygiadau tai a adeiladwyd ers 2011 a’r holl geisiadau cynllunio a gymeradwywyd wedi eu cynnwys yn y ffigwr a nodir yn y Cynllun Datblygu ynghylch nifer y tai y rhagwelir y bydd eu hangen. Mae'r Cynllun yn nodi y bydd angen 3,472 o gartrefi newydd ar Ynys Môn ond mae 783 o anheddau eisoes wedi eu hadeiladu a 1,251 o geisiadau cynllunio wedi eu cymeradwyo.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ymhellach yr ymgynghorwyd yn helaeth â'r cyhoedd ar y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ac y cwblhawyd fersiwn derfynol gytunedig ym mis Ionawr 2016.  ‘Roedd Lywodraeth Cymru wedi penodi dau Arolygydd i archwilio cadernid y Cynllun a chynhaliwyd cyfarfod cyn-gwrandawiad ym mis Mehefin 2016 a dechreuodd y rownd gyntaf o 16 o Sesiynau Gwrandawiad ar 6 Medi 2016 ac ‘roeddent yn ymdrin ag ystod eang o bynciau ynghylch pob agwedd ar y Cynllun h.y. Tai a Dosbarthiad, Tai Fforddiadwy, Anghenion Sipsiwn a Theithwyr, yr Economi, yr iaith Gymraeg, Ynni Adnewyddadwy yn ogystal â materion a sylwadau oedd yn ymwneud â safleoedd penodol.   Ar ôl cwblhau rownd gyntaf y Sesiynau Gwrandawiad, cyhoeddodd y Cyngor Restr o Newidiadau Materion yn Codi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus (a oedd yn mynd i’r afael â phwyntiau gweithredu a godwyd gan yr Arolygwyr) a cheisiodd sicrhau bod y Cynllun yn cwrdd â gofynion y profion cadernid a’i fod yn ymateb i’r angen i gydymffurfio â pholisi cenedlaethol a deddfwriaeth sylfaenol. Cynhaliwyd ail rownd o 2 sesiwn gwrandawiad yn Ebrill 2017 i ystyried pynciau ffocws ac, yn dilyn y sesiynau gwrandawiad, cyhoeddodd y ddau Gyngor y Rhestr Derfynol o Newidiadau Materion yn Codi a gyhoeddwyd yn y Llyfrgell Archwilio ac a anfonwyd ymlaen at yr Arolygwyr i'w hystyried wrth lunio eu hadroddiad.   Derbyniodd y Cynghorau Adroddiad Cyfrwymol yr Arolygydd ar 30 Mehefin 2017. Yn unol â rheoliadau statudol, mae'n  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.

3.

Cymeradwyo cynnwys y cais am Aelod arall ar gyfer y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 604 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Portffolio (Materion Corfforaethol) adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro i'r Cyngor ei ystyried.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio (Materion Corfforaethol) fod y Cyngor, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf  2017 wedi cymeradwyo, mewn egwyddor, gyflwyno cais i amrywio'r cap statudol ar nifer yr Aelodau etholedig sydd â hawl i dderbyn uwch gyflog o 15 i 16. Nododd mai pwrpas y cais yw galluogi penodi Aelod ychwanegol i wasanaethu ar y Pwyllgor Gwaith i arwain ar brosiectau isadeiledd mawr, materion datblygu economaidd ac yn enwedig Wylfa Newydd.

 

Eglurodd y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro fod Atodiad 1 a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad yn nodi rôl a disgrifiad swydd yr aelod ychwanegol o'r Pwyllgor Gwaith ac y bydd y cais yn cael ei gyflwyno i'r Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i'w gymeradwyo . 

 

‘Roedd Grŵp yr Wrthblaid yn anfodlon gyda’r bwriad i gynyddu aelodaeth y Pwyllgor Gwaith ac i benodi aelod ychwanegol i arwain ar brosiectau datblygu economaidd mawr.  Awgrymwyd y gellid sefydlu Pwyllgor gydag aelodau etholedig i ddelio â datblygiadau mawr o'r fath ar yr Ynys. 

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei bod o'r farn bod cael aelod o’r Pwyllgor Gwaith ar gyfer datblygiadau mawr yn hanfodol i sicrhau'r buddion i drigolion yr Ynys.

 

Yn unol â pharagraff 4.1.18.4 y Cyfansoddiad, gofynnodd yr aelodau o Grŵp yr Wrthblaid am bleidlais gofnodedig ar argymhellion yr adroddiad.  Ni chafwyd y nifer ofynnol o aelodau o blaid cael pleidlais gofnodedig.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo cynnwys y cais yn Atodiad 1 a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad.