Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cofnodion pdf eicon PDF 306 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, cofnodion drafft y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 28 Chwefror, 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion cyfarfod Cyngor Sir Ynys Môn a gynhaliwyd ar 28 Chwefror, 2018.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiadau o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

3.

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu’r Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 Gwnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau a ganlyn:-

 

·      Llongyfarchwyd Mrs Carys Edwards sydd wedi ei phenodi’n Bennaeth Trawsnewid Corfforaethol.

·      Llongyfarchwyd Mr Dennis Williams o Lanfairpwll a Dr Haydn Edwards o Langefni ar yr anrhydedd o gael eu derbyn i Orsedd y Beirdd yr Eisteddfod Genedlaethol.

·      Llongyfarchwyd Band Biwmares a ddaeth yn 3ydd drwy Ewrop yng Nghystadleuaeth Bandiau Pres Ieuenctid Ewrop yn Utrecht yn yr Iseldiroedd a hefyd Merin Lleu a enillodd wobr yr unawdydd gorau.

·      Dymunwyd yn dda i bawb fydd yn cystadlu yn Eisteddfod Môn, Eisteddfod yr Urdd, Sioe Frenhinol Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol a Sioe Môn.

·      Bydd Ynys Môn yn cynnal Twrnamaint Pêl-droed Gemau’r Ynysoedd 2019. Mae Ynys Môn wedi cytuno i gynnal y twrnamaint pêl-droed answyddogol fel rhan o’i fid i gynnal Gemau’r Ynysoedd yn 2025.

 

Roedd y Cadeirydd yn dymuno diolch i staff y Cyngor Sir, Biffa a’r holl wirfoddolwyr sydd wedi bod yn cynorthwyo i lanhau traethau’r Ynys yn ddiweddar yn dilyn y difrod a wnaed i Farina Caergybi.

 

*          *          *          *

 

Cydymdeimlwyd â’r Cynghorydd John Griffith a’i deulu yn dilyn eu profedigaeth yn ddiweddar.

 

 

Cydymdeimlwyd ag unrhyw Aelod o’r Cyngor neu aelod o staff sydd wedi cael profedigaeth yn ddiweddar.

 

Safodd yr Aelodau a’r Swyddogion mewn teyrnged dawel fel arwydd o’u parch a’u cydymdeimlad.

 

 

4.

Cyflwyno Deisebau

Nodi fod dwy ddeiseb wedi’u derbyn yn unol â Pharagraff 4.1.11 o’r Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod 2 ddeiseb wedi eu cyflwyno mewn perthynas â’r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion – Ardal Llangefni (Corn Hir, Bodffordd a Henblas). Derbyniwyd deiseb gyda 43 llofnod arni yn gwrthwynebu cau Ysgol Gynradd Bodffordd a deiseb gyda 107 o lofnodion arni yn gwrthwynebu cau Ysgol Gynradd Henblas. Cafodd y ddwy ddeiseb eu hystyried fel rhan o adroddiad yr ymgynghoriad statudol a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 23 Ebrill, 2018 a’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 30 Ebrill, 2018.

 

 

5.

Adroddiad Blynyddol Arweinydd Cyngor Sir Ynys Mon am 2017/18 pdf eicon PDF 211 KB

I ystyried Adroddiad Blynyddol Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn yn unol â Pharagraff 4.1.16 y Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor ar gyfer 2017/18.

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at yr uchafbwyntiau o ran y cynnydd a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn flaenorol fel a ganlyn :-

 

·      Sefydlwyd portffolio ychwanegol i roi sylw i’r heriau sylweddol sy’n deillio o brosiect Wylfa Newydd ac i sicrhau fod y capasiti angenrheidiol ar gael i wneud y gorau o’r buddiannau ar ran pobl Ynys Môn;

·      Mae’r Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod ‘cynllunio lle’ yn yr ardaloedd;

·      Cytunwyd ar gyllideb 2018/19 ac mae’n parhau i amddiffyn gwasanaethau’r Cyngor;

·      Symudwyd ymlaen â’r rhaglen foderneiddio ysgolion a’r Strategaeth Addysg. Cynigiwyd rhaglen hyfforddiant i athrawon i’w paratoi ar gyfer rôl Pennaeth;

·      Agorwyd Canolfan Garreglwyd, Caergybi ar gyfer pobl o Ynys Môn sydd â dementia dwys; cynllun ar y cyd â’r Bwrdd Iechyd yw hwn er lles pobl Ynys Môn;

·      Sefydlwyd Tîm Teuluoedd Ynys Môn (Teulu Môn) ble mae modd i deuluoedd gael mynediad at wasanaethau cefnogi drwy gyfrwng un pwynt mynediad;

·      Mae Hafan Cefni, cyfleuster gofal ychwanegol fydd yn cefnogi pobl hŷn i fyw’n annibynnol, yn cael ei adeiladu yn Llangefni. Cymeradwywyd cynllun Gofal Ychwanegol arall ym Miwmares;

·      Mabwysiadwyd cynllun busnes ar gyfer adeiladu tai cymdeithasol yn Ynys Môn fydd yn golygu buddsoddiad o dros £26m dros y 4 blynedd nesaf i adeiladu 195 o dai;

·      Pwysleisiwyd pwysigrwydd busnesau lleol yn yr holl drafodaethau gyda chwmnïau mawr ac mewn unrhyw drafodaethau economaidd rhanbarthol;

·      Sefydlwyd prosiect caffael mewnol i sicrhau fod system mewn lle fydd yn caniatáu i gwmnïau lleol fanteisio ar gyfleoedd sydd ar gael yn y Cyngor;

·      Sefydlwyd cynllun ‘Denu Talent’ 12 wythnos i roi cyfle unigryw i bobl ifanc yr Ynys brofi nifer o yrfaoedd posib gyda’r Cyngor;

·      Mae’r Cyngor yn parhau i wrthwynebu cynlluniau’r National Grid i godi peilonau ar draws yr Ynys;

·      Mae Cyngor Gwynedd a Chyngor Ynys Môn wedi cytuno ar Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd;

·      Mae targedau ailgylchu’n parhau i wella.

 

I gloi ei hadroddiad diolchodd yr Arweinydd i’r Uwch Dîm Rheoli, Penaethiaid Adrannau a holl staff y Cyngor am eu gwaith. Yn ogystal, diolchodd i staff y Cyngor a Biffa a fu’n gweithio’n ddiflino yn y tywydd garw yn ystod y gaeaf ac ym Marina Caergybi yn ddiweddar.

 

Rhoddwyd cyfle i’r Cyngor ofyn cwestiynau am yr Adroddiad Blynyddol i’r Arweinydd. Gofynnodd yr Wrthblaid am gadarnhad ynglŷn â’r prif bwyntiau a ganlyn :-

 

·           Er mai nod y Cyngor yw gwneud arbedion effeithlonrwydd, gofynnwyd pam

na chafodd y broses dendro gofal cartref ei hatal tan y munud olaf ac ar ôl treulio tri diwrnod yn cyfweld cwmnïau oedd wedi tendro am y gwasanaeth. Mae’r cwmnïau oedd wedi tendro am y gwasanaeth gofal cartref yn dal i ddisgwyl ymateb gan y Cyngor ac ystyriwyd fod amser staff ac adnoddau wedi eu gwastraffu mewn perthynas â’r mater hwn. Ymatebodd Arweinydd y Cyngor drwy ddweud fod y Cyngor yn edrych ar sut i gryfhau prosesau caffael. Cyfeiriodd at y broses dendro gofal cartref a dywedodd fod y contractau’n gyfartal  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Rhybudd o Gynigiad yn unol a Rheol 4.1.13.1 y Cyfansoddiad

Derbyn y Rhybuddion o Gynigiad isod gan y Cynghorydd Carwyn E Jones:-

 

(a)   Ymmarn Cyngor Sir Ynys Môn, nid yw Deddf Cynllunio 2008 (DC2008),

ynghydâ’i deddfwriaeth eilaidd a chanllawiau gan gynnwys y Datganiadau Polisi Cenedlaethol yn gyfredol mwyach nac ychwaith yn addas i’r pwrpas yng Nghymru. Nid yw DC2008 yn cymryd i ystyriaeth y ddeddfwriaeth gyfredol yng Nghymru gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) a Deddf Teithio Llesol (Cymru) (2013).

 

O ran llinellau trawsyrru uwchben y ddaear, ystyrir nad yw Rheolau Holford (1959, a ddiwygiwyd yn y 1990’au) a Rheolau Horlock (nad oes dyddiad ar eu cyfer ar wefan National Grid) yn gyfredol chwaith ac nid ydynt yn gydnaws â’r ddeddfwriaeth gyfredol yng Nghymru.

 

Mae awdurdodau lleol yng Nghymru Welsh yn ymrwymedig i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Deddf Teithio Llesol (Cymru). O ran prosiectau seilwaith mawr o arwyddocâd cenedlaethol (NSIPs), mae hyn yn cynnwys ystyried y modd y bwriedir lliniaru effaith prosiectau, naill ai drwy gytundeb Adran 106 neu ofyniad cynllunio. Yn ogystal, bydd awdurdodau lleol yn gyfrifol am rai elfennau o’r NSIPs, megis y gofynion cynllunio.

 

Mae’ndebygol y bydd angen cymryd camau lliniaru mwy sylweddol o lawer na’r ‘6 phrawf’ (gweler isod) mewn perthynas â’r deddfwriaethau yng Nghymru y cyfeirir atynt uchod oherwydd maent yn ymwneud hefyd â llesiant cenedlaethau’r dyfodol:

 

1. Yn angenrheidiol

2. Yn berthnasol i gynllunio ac;

3. I’r datblygiad sydd i’w ganiatáu;

4. Yn un y gellir ei orfodi;

5. Yn fanwl gywir ac;

6. Yn rhesymol ym mhob ffordd arall.

 

O’rherwydd, mae Cyngor Sir Ynys Môn o’r farn y dylid diweddaru DC2008 a’r holl ddeddfwriaeth eilaidd a chanllawiau angenrheidiol ar frys er mwyn sicrhau y gall awdurdodau Lleol yng Nghymru ddiwallu eu dyletswyddau statudol a sicrhau bod modd cymryd camau lliniaru digonol.

 

Gofynnafi’r Cyngor gefnogi’r sylwadau hyn a bod llythyr ffurfiol yn mynegi’r uchod yn cael ei anfon ar ran Cyngor Sir Ynys Môn at y Gwir Anrhydeddus James Brokenshire AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am Ddeddf Cynllunio 2008. Bydd copïau o’r llythyr hefyd yn cael eu hanfon at:

 

Y Gwir Anrhydeddus Greg Clark AS (BEIS)

Y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns AS

Y Prif Weinidog Carwyn Jones

Lesley Griffiths AC

Albert Owen MS

       Rhun Ap Iorwerth AC

 

 

(b)  Cefndir

 

Mae diffyg gwybodaeth fanwl a ddarperir gan y Grid Cenedlaethol ynghylch ei gysylltiad arfaethedig yng Ngogledd Cymru hyd at hyn yn golygu nad yw'r Cyngor mewn sefyllfa i ddeall yr effeithiau llawn o'r datblygiad ar Ynys Môn, ei chymunedau na’i hamgylchedd. Er enghraifft, mae'r Cyngor yn pryderu nad yw’r gymuned leol o gwmpas safle arfaethedig adeilad Pen y Twnnel (gan gynnwys Llanfair Pwll a Llandaniel Fab) wedi derbyn y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i werthfawrogi maint llawn y symudiadau HGV a cherbydau eraill yn yr ardal, na’r cynnig i gau Lôn Pont Rhonwy. Mae  ...  view the full Rhaglen text for item 6.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – y Rhybuddion o Gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Carwyn E Jones:-

 

(a)  Ym marn Cyngor Sir Ynys Môn, nid yw Deddf Cynllunio 2008 (DC2008), ynghyd â’i deddfwriaeth eilaidd a chanllawiau gan gynnwys y Datganiadau Polisi Cenedlaethol yn gyfredol mwyach nac ychwaith yn addas i’r pwrpas yng Nghymru. Nid yw DC2008 yn cymryd i ystyriaeth y ddeddfwriaeth gyfredol yng Nghymru gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) a Deddf Teithio Llesol (Cymru) (2013).

O ran llinellau trawsyrru uwchben y ddaear, ystyrir nad yw Rheolau Holford (1959, a ddiwygiwyd yn y 1990’au) a Rheolau Horlock (nad oes dyddiad ar eu cyfer ar wefan National Grid) yn gyfredol chwaith ac nid ydynt yn gydnaws â’r ddeddfwriaeth gyfredol yng Nghymru.

 

Mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn ymrwymedig i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Deddf Teithio Llesol (Cymru). O ran prosiectau seilwaith mawr o arwyddocâd cenedlaethol (Nhsips), mae hyn yn cynnwys ystyried y modd y bwriedir lliniaru effaith prosiectau, naill ai drwy gytundeb Adran 106 neu ofyniad cynllunio. Yn ogystal, bydd awdurdodau lleol yn gyfrifol am rai elfennau o’r Nhsips, megis y gofynion cynllunio.

 

Mae’n debygol y bydd angen cymryd camau lliniaru mwy sylweddol o lawer na’r ‘6 phrawf’ (gweler isod) mewn perthynas â’r deddfwriaethau yng Nghymru y cyfeirir atynt uchod oherwydd maent yn ymwneud hefyd â llesiant cenedlaethau’r dyfodol:

 

1. Yn angenrheidiol

2. Yn berthnasol i gynllunio ac;

3. I’r datblygiad sydd i’w ganiatáu;

4. Yn un y gellir ei orfodi;

5. Yn fanwl gywir ac;

6. Yn rhesymol ym mhob ffordd arall.

 

O’r herwydd, mae Cyngor Sir Ynys Môn o’r farn y dylid diweddaru DC2008 a’r holl ddeddfwriaeth eilaidd a chanllawiau angenrheidiol ar frys er mwyn sicrhau y gall awdurdodau Lleol yng Nghymru ddiwallu eu dyletswyddau statudol a sicrhau bod modd cymryd camau lliniaru digonol.

 

Gofynnaf i’r Cyngor gefnogi’r sylwadau hyn a bod llythyr ffurfiol yn mynegi’r uchod yn cael ei anfon ar ran Cyngor Sir Ynys Môn at y Gwir Anrhydeddus James Brokenshire AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am Ddeddf Cynllunio 2008. Bydd copïau o’r llythyr hefyd yn cael eu hanfon at:

 

Y Gwir Anrhydeddus Greg Clark AS (BEIS)

Y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns AS

Y Prif Weinidog Carwyn Jones

Lesley Griffiths AC

Albert Owen MS

Rhun Ap Iorwerth AC

 

(b)  Cefndir

 

Mae diffyg gwybodaeth fanwl a ddarperir gan y Grid Cenedlaethol ynghylch ei gysylltiad arfaethedig yng Ngogledd Cymru hyd at hyn yn golygu nad yw'r Cyngor mewn sefyllfa i ddeall yr effeithiau llawn o'r datblygiad ar Ynys Môn, ei chymunedau na’i hamgylchedd. Er enghraifft, mae'r Cyngor yn pryderu nad yw’r gymuned leol o gwmpas safle arfaethedig adeilad Pen y Twnnel (gan gynnwys Llanfair Pwll a Llandaniel Fab) wedi derbyn y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i werthfawrogi maint llawn y symudiadau HGV a cherbydau eraill yn yr ardal, na’r cynnig i gau Lôn Pont Rhonwy. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod y Cyngor wedi gofyn am wybodaeth bellach.

 

Mae Cyngor Sir Ynys Môn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer Wylfa Newydd pdf eicon PDF 6 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Datblygu Economaidd a Rheoleiddio er ystyriaeth gan y Cyngor.

 

Dywedodd y Deilydd Portffolio Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd fod rhaid adolygu a diweddaru’r Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) ar gyfer Wylfa Newydd oherwydd bod nifer o newidiadau sylfaenol wedi digwydd ers mabwysiadu’r Canllawiau yn 2014. Y newid mwyaf arwyddocaol yw Deddf Cymru 2017 a gafodd Gydsyniad Brenhinol ar 31 Ionawr 2017. Mae’n caniatáu i hyrwyddwyr prosiectau (Horizon) gynnwys datblygiadau cysylltiedig (megis cyfleusterau parcio a theithio, llety gweithwyr dros dro ac ati) yn eu cais DCO yn hytrach na’u cyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol i gael eu hystyried o dan y Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref. Yn ogystal rhaid i’r CCA adlewyrchu deddfwriaeth newydd allweddol megis Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 ac mae’n rhaid i’r Awdurdod hwn ddangos sut mae’r prosiect/polisi yn bodloni 7 nod llesiant a’r gydblethiad rhwng amcanion y CCA a nodau llesiant. Ychwanegodd fod Horizon wedi cynnig nifer o ddiweddariadau prosiect ers i’r CCA gael eu mabwysiadu yn 2014. Y newid prosiect mwyaf arwyddocaol yw’r penderfyniad i gynyddu maint y llety ar gyfer gweithwyr dros dro ar y safle o fod yn llety ar gyfer 500 o weithwyr i fod yn llety ar gyfer 4,000 o weithwyr mewn campws dros dro pwrpasol ar y safle. Dywedodd y Deilydd Portffolio fod y Cyngor wedi cynnal ymgynghoriad cyhoeddus dros gyfnod o 6 wythnos o 11 Ionawr i 22 Chwefror 2018 a threfnwyd sesiwn ‘Galw Heibio’ i Aelodau oedd yn rhoi cyfle i Aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau ar y CCA. Derbyniwyd 168 o sylwadau gan 10 o unigolion a sefydliadau ac mae crynodeb o’r holl sylwadau i’w gweld yn yr ‘Adroddiad Sylwadau’ yn Atodiad A yr adroddiad. Mae’r Swyddfa Rheoli Rhaglen wedi gweithio’n agos â Burgess Salmon Solicitors i ystyried y sylwadau a dderbyniwyd. Mae’r holl newidiadau a wnaed i’r CCA wedi’u cynnwys yn y ddogfen ‘Newidiadau â Ffocws' sydd i’w gweld yn Atodiad B yr adroddiad. Nododd fod 74 o’r sylwadau a dderbyniwyd ar y CCA wedi cael eu derbyn. Roedd y prif bryderon a godwyd yn ymwneud â llety i weithwyr ac mae angen i’r Cyngor Sir adlewyrchu hynny yn y CCA. Mae angen rhoi sylw i gwestiynau ynglŷn â pha bolisïau sy’n berthnasol i Horizon a hefyd pa bolisïau sy’n berthnasol i sefydliadau trydydd parti h.y. safle Land and Lakes a safle Rhosgoch. Dywedodd fod ystyriaeth wedi’i roi i hynny yn y CCA sydd ynghlwm i’r adroddiad. Cynhaliwyd sesiwn briffio ar gyfer Aelodau Etholedig ym mis Ebrill i esbonio’r broses ymgynghori a’r camau nesaf mewn perthynas â’r mater hwn.

 

Dywedodd y Deilydd Portffolio ei bod yn bwysig cymeradwyo’r CCA er mwyn sicrhau fod gan yr Awdurdod sylfaen gadarn er mwyn ymateb i brosiect Wylfa Newydd. Drwy fabwysiadu’r CCA bydd yr Awdurdod mewn sefyllfa gryfach i ymateb i ymchwiliad cyhoeddus y DCO a gynhelir maes o law.

 

Diolchodd y Cynghorydd Aled M Jones i’r Deilydd Portffolio a’r Swyddogion perthnasol am eu gwaith mewn perthynas â’r mater hwn ond dywedodd nad yw  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Cynllun Llesiant Ynys Mon a Gwynedd (BwrddGwasanaethau Cyhoeddus) pdf eicon PDF 1005 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 30 Ebrill, 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, er ystyriaeth, adroddiad y Prif Weithredwr yn ymgorffori Cynllun Llesiant Gwynedd ac Ynys Môn fel y cafodd ei gymeradwyo gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn.

 

Adroddodd Arweinydd y Cyngor fod y Cynllun Llesiant yn amlinellu sut mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn bwriadu gwneud gwahaniaeth i fywydau preswylwyr drwy weithio gyda’i gilydd i gyflawni amcanion llesiant y cytunwyd arnynt ar gyfer ardal Gogledd Cymru gyfan. Cyfeiriodd at y ffaith fod y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio wedi craffu ar y Cynllun yn ei gyfarfod ar 8 Mawrth 2018, yn ystod cyfnod ymgynghori statudol o dri mis ar y Cynllun Llesiant, gan fod y Pwyllgor yn ymgynghorai statudol ac wedi’i ddynodi fel y pwyllgor penodedig ar gyfer craffu ar fusnes y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

PENDERFYNWYD :-

 

·      Cymeradwyo Cynllun Llesiant Ynys Môn a Gwynedd ar gyfer ei gyhoeddi gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus;

·      Mabwysiadu’r Cynllun Llesiant a’i ymgorffori fel rhan o Fframwaith Polisi’r Cyngor i ddisodli’r Cynllun Integredig Sengl yng Nghyfansoddiad y Cyngor;

·      Mai’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio fydd y Pwyllgor Sgriwtini dynodedig ar gyfer craffu ar waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus;

·      Diwygio adran 3.2 o Gyfansoddiad y Cyngor i gynnwys cymeradwyo penderfyniadau mewn perthynas â’r ‘Cynllun Llesiant’ fel swyddogaeth na fedr ond y Cyngor llawn ei harfer; a dileu’r cyfeiriad at y ‘Cynllun Integredig Sengl’;

·      Diwygio adran 2.6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor er mwyn penodi’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio fel y Pwyllgor sgriwtini dynodedig ar gyfer craffu ar waith y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus;

·      Awdurdodi Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro’r Cyngor i wneud unrhyw welliannau yn y dyfodol, fel a pan fyddant yn codi, i gyfansoddiad y Cyngor (a) pan fyddant yn ymwneud â, neu (b) yn codi o ganlyniad i'r materion uchod, yn amodol ar ymgynghori ag arweinwyr grwpiau a dim gwrthwynebiadau yn codi.

 

 

9.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau 2017/18 pdf eicon PDF 860 KB

Cyflwyno adroddiad gan Mr Michael Wilson, Cadeirydd Annibynnol y Pwyllgor Safonau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2017/18 gan Mr Mike Wilson, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau. Cyflwynodd Mr Wilson grynodeb o’r gwaith a gwblhawyd gan y Pwyllgor Safonau yn erbyn amcanion y Rhaglen Waith ar gyfer 2017/18 fel yr amlinellir yn yr Atodiad i’r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD :-

 

·      Nodi’r rhaglen a gyflawnwyd gan y Pwyllgor Safonau rhwng Ebrill 2017 a Mai 2018;

·      Cymeradwyo Rhaglen Waith y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2018/19 fel y’i hamlinellir yn Atodiad C yr adroddiad.

 

 

10.

Protocol Datrysiad Lleol pdf eicon PDF 446 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad ar y Protocol Datrys Anghydfodau yn Lleol diwygiedig gan y Deilydd Portffolio Corfforaethol a Chadeirydd y Pwyllgor Safonau.

 

PENDERFYNWYD diddymu’r Protocol Datrys Anghydfodau yn Lleol presennol a mabwysiadu’r Protocol Datrys Anghydfodau yn Lleol diwygiedig drafft yn Atodiad 2 i’r adroddiad.

 

11.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Sgriwtini 2017/18 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan Gadeiryddion y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol Sgriwtini ar gyfer 2017/18 gan y Cynghorydd Aled M Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a’r Cynghorydd Gwilym O Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio.

 

Mae Cadeiryddion Sgriwtini wedi bod yn rhan o’r gwaith o ddatblygu blaen raglenni gwaith yn ystod y flwyddyn. Nodwyd fod angen penodi Pencampwr Sgriwtini i hyrwyddo’r swyddogaeth drosolwg a sgriwtini yn y Cyngor ac ymysg partneriaid allanol yr Awdurdod.

 

PENDERFYNWYD :-

 

·      Cymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Sgriwtini ar gyfer 2017/18;

·      Nodi’r cynnydd parhaus a wnaed o ran y siwrnai leol i wella Sgriwtini a’r effaith y mae hyn yn ei gael yn ymarferol

·      Penodi Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio yn Bencampwr Sgriwtini ar gyfer y cyfnod Mai 2018 i Mai 2019.

 

 

12.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu 2017/18 pdf eicon PDF 365 KB

Cyflwyno adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar 24 Ebrill, 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio 2017/18 gan y Cynghorydd Peter Rogers, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar gyfer 2017/18.

 

13.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Gwasanaethau Democratadd 2017/18 pdf eicon PDF 218 KB

Cyflwyno adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer 2017/18 gan y Cynghorydd Robert Ll Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r materion a ystyriwyd gan y Pwyllgor yn ystod 2017/18.