Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Blynyddol, Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Mawrth, 15fed Mai, 2018 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cadeirydd

Ethol Cadeirydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn am 2018/19.

 

(Cyfeirir yr Aelodau at y ddogfenTrefn y Gweithgareddauar gyfer ethol

Cadeirydd y Cyngor Sir a ddosberthir yn y cyfarfod).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Dylan Rees yn Gadeirydd y Cyngor Sir am 2018/19.

 

Wrth dderbyn yr anrhydedd o gael ei benodi, sicrhaodd y Cyngor y byddai’n cyflawni ei ddyletswyddau fel Cadeirydd hyd orau ei allu. Diolchodd i’w ragflaenydd, y Cynghorydd Richard O Jones am y modd urddasol ac anrhydeddus y cyflawnodd ei ddyletswyddau dinesig fel Cadeirydd y Cyngor Sir. Dywedodd y Cynghorydd Rees ei fod wedi dewis Hosbis yn y Cartref fel yr elusen y bydd yn ei chefnogi.

 

Diolchodd y Cadeirydd a oedd yn ymddeol, y Cynghorydd Richard O Jones, i’r holl Aelodau a Swyddogion am eu cefnogaeth yn ystod ei dymor yn y swydd, yn enwedig Mrs Carys Bullock a Mrs Janette Jones o’r Adran Gwasanaethau Democrataidd a Mr J Huw Jones, Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd. Roedd yn dymuno diolch i Gwenda, ei wraig, am ei chefnogaeth a chyfeiriodd ar yr anrhydedd a gafodd ef a’i wraig o groesawu’r Eisteddfod Genedlaethol i Fodedern yr haf diwethaf.  Rhoes y Cynghorydd Jones grynodeb o uchafbwyntiau ei flwyddyn fel Cadeirydd y Cyngor, yn enwedig Sul y Cadeirydd yn Eglwys Eleth, Amlwch a’r Cyngerdd Elusennol ym mis Ebrill lle codwyd £2,700.  Yn ystod ei gyfnod yn y swydd, dywedodd y codwyd cyfanswm o dros £3,500 tuag at y Cynllun Diffibrilwyr yn y Gymuned a Beiciau Gwaed Cymru (Ynys Môn).

 

2.

Is-Gadeirydd

Ethol Is-Gadeirydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn am 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Margaret Murley Roberts yn Is-gadeirydd y Cyngor Sir am 2018/19.

 

Diolchodd y Cynghorydd Roberts i’w chyd Gynghorwyr am yr anrhydedd a dywedodd ei bod yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Cadeirydd a’i gefnogi â’i ddyletswyddau yn ystod y flwyddyn nesaf.

 

 

3.

Cyhoeddiadau

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd neu’r Prif Weithredwr ac unrhyw sylwadau terfynol am ei gyfnod yn y swydd gan y Cadeirydd y mae ei dymor yn dod i ben.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim wedi eu derbyn.

 

4.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiadau o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim wedi eu derbyn.

 

5.

Dirprwyaeth gan yr Arweinydd/Aelodaeth y Pwyllgor Gwaith

Yn unol â Pharagraff 4.1.1.2 y Cyfansoddiad, yr Arweinydd i roi gwybod enwau’r Cynghorwyr a ddewiswyd i fod yn Aelodau’r Pwyllgor Gwaith, gan gynnwys eu cynrchiolwyr Portffolio.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Pharagraff 4.1.1.2 y Cyfansoddiad, enwodd yr Arweinydd yr Aelodau isod yr oedd wedi eu dewis i wasanaethu ar y Pwyllgor Gwaith ynghyd â’u cyfrifoldebau Portffolio:-

 

Y Cynghorydd Richard Dew gyda chyfrifoldeb am y Portffolio Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd.

Y Cynghorydd Llinos M Huws (Arweinydd) gyda chyfrifoldeb am y Portffolio Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Y Cynghorydd Carwyn Jones gyda chyfrifoldeb am y Portffolio Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd.

Y Cynghorydd R Meirion Jones gyda chyfrifoldeb am y Portffolio Addysg, Ieuenctid, Llyfrgelloedd a Diwylliant.

Y Cynghorydd Alun Mummery gyda chyfrifoldeb am y Portffolio Tai a Chefnogi Cymunedau.

Y Cynghorydd Bob Parry OBE FRAgS gyda chyfrifoldeb am y Portffolio Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff.

Y Cynghorydd Dafydd R Thomas gyda chyfrifoldeb am y Portffolio Corfforaethol.

Y Cynghorydd Ieuan Williams (Dirprwy Arweinydd) gyda chyfrifoldeb am y Portffolio Trawsnewid a’r Iaith Gymraeg.

Y Cynghorydd Robin Williams gyda chyfrifoldeb am y Portffolio Cyllid.

 

6.

Ethol Cadeirydd ar gyfer y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd am 2018/19

Ethol Cadeirydd yn ynol â Pharagraff 3.4.12.3 y Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Pharagraff 3.4.12.3 y Cyfansoddiad, PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Robert Llewelyn Jones yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd am 2018/19.

 

7.

Cadarnhau'r Cynllun Dirprwyo

Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau’r rhan honno o'r Cynllun Dirprwyo y mae’r

Cyfansoddiad yn nodi mai mater i'r Cyngor ydyw i’w chytuno (fel y nodir ym

Mharagraff 3.5 o'r Cyfansoddiad).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau unrhyw rannau o’r Cynllun Dirprwyo y mae’n rhaid i’r Cyngor, yn unol â’r Cyfansoddiad, gytuno arnynt fel y nodir ym Mharagraff 3.2 y Cyfansoddiad.

 

8.

Cydbwysedd Gwleidyddol pdf eicon PDF 336 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried – adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar drefniadau cydbwysedd gwleidyddol y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD :-

 

  • Cadarnhau’r trefniadau cydbwysedd gwleidyddol a nifer y seddau a ddyrannwyd i bob un o’r Grwpiau yn unol â Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.
  • Bod Arweinyddion y Grwpiau yn rhoi gwybod cyn gynted ag sy’n bosibl i’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd os oes unrhyw newidiadau i aelodaeth y Grwpiau ar Bwyllgorau.

 

9.

Penodi i Gyrff Allanol pdf eicon PDF 791 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried – adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn gofyn am gadarnhau’r rhestr o benodiadau a wnaed i gyrff allanol.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau’r penodiadau fel y’u nodir yn yr atodiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor.

 

10.

Rhaglen Cyfarfodydd y Cyngor Sir am 2018/19

Cymeradwyo’r rhaglen isod o gyfarfodydd  y Cyngor Sir ar gyfer y flwyddyn i ddod:-

 

  25 Medi, 2018                                        -   2.00 pm

  30 Hydref, 2018 (Arbennig)                     -   2.00 pm

  11 Rhagfyr   2018                                      -   2.00 pm

  27 Chwefror, 2019                                     -   2.00 pm

  Mai, 2019 - (Cyfarfod Blynyddol)            -   dyddiad i’w gadarnhau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhaglen ganlynol o gyfarfodydd arferol ac arbennig o’r Cyngor Sir am y flwyddyn nesaf:-

 

·            25 Medi, 2018                                          -   2.00 pm

·            30 Hydref, 2018 (Arbennig)                     -   2.00 pm

·            11 Rhagfyr, 2018                                     -   2.00 pm

·            27 Chwefror, 2019                                  -   2.00 pm

·            Mai, 2019 (Cyfarfod Blynyddol)              -   dyddiad i’w gadarnhau

 

11.

Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2018/19 pdf eicon PDF 288 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democratiadd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried – adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar y cynllun Cydnabyddiaeth Ariannol i Aelodau am 2018/19.

 

PENDERFYNWYD :-

 

·       Cadarnhau y dylid talu cyflogau uwch i ddeiliad y 16 swydd isod yn ystod 2018/19:-

 

  • Cadeirydd y Cyngor
  • Is-gadeirydd y Cyngor
  • Arweinydd
  • Dirprwy Arweinydd
  • Aelodau Eraill y Pwyllgor Gwaith (7)
  • Cadeirydd y ddau Bwyllgor Sgriwtini
  • Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
  • Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu
  • Arweinydd Grŵp yr Wrth-blaid Fwyaf

 

·           Cymeradwyo argymhellion y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 20 Mawrth 2018 ynghylch lefel cyflogau dinesig a chadarnhau lefel y taliadau i’r Pennaeth Dinesig a’r Dirprwy Bennaeth Dinesig ar gyfer 2018/19.

 

·           Awdurdodi swyddogion i ddiwygio Rhan 6 Cyfansoddiad y Cyngor i adlewyrchu’r penderfyniadau a wnaed gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

 

 

12.

Cynllun Cynefino a Datblygu ar gyfer Aelodau 2018/19 pdf eicon PDF 801 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar y Cynllun Datblygu/Cynefino ar gyfer Aelodau Etholedig am 2018/19.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Cynllun Hyfforddiant fel fframwaith ar gyfer Datblygiad Aelodau yn ystod blwyddyn ariannol 2018/19 a rhoi awdurdod i’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd wneud unrhyw addasiadau pellach fel sy’n briodol.

 

13.

Cadarnhau Pwyllgorau

            Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau ailbenodi'r strwythur Pwyllgorau canlynol fel y cyfeirir ato yn Adran 3.4 o Gyfansoddiad y Cyngor, ynghyd â'r canlynol:-

 

  Panel Tâl a Graddfeydd (Is-Bwyllgor o'r Cyngor)

  Panel Penodi i’r Pwyllgor Safonau

  Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol

  Is-Bwyllgor Indemniadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Cadeirydd bod y strwythur Pwyllgorau cyfredol canlynol fel y cyfeirir at hynny yn Adran 3.4 Cyfansoddiad y Cyngor wedi cael ei ail-benodi, ynghyd â’r canlynol:-

 

·       Panel Tâl a Graddfeydd (Is-Bwyllgor o’r Cyngor Sir)

·       Panel Penodiadau’r Pwyllgor Safonau

·       Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol

·    Is-Bwyllgor Indemniadau