Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cofnodion pdf eicon PDF 104 KB

Cyflwyno, er cymeradwyaeth, cofnodion drafft y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-

 

  15 Mai, 2018

  15 Mai, 2018 (Cyfarfod Blynyddol)

  7 Mehefin, 2018 (Arbennig)

  16 Gorffennaf, 2018 (Arbennig)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion cyfarfodydd canlynol Cyngor Sir Ynys Môn fel rhai cywir :-

 

·      15 Mai, 2018

·      15 Mai, 2018 (Cyfarfod Blynyddol)

·      7 Mehefin, 2018 (Arbennnig)

·      16 Gorffennaf, 2018 (Arbennig)

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Llinos M Huws ddiddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 13 – Cynllun Gwella Hawliau Tramwy 2018 – 2028.

 

Datganodd y Cynghorydd Eric W Jones ddiddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 4 – Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru : Diweddariad Ariannol ac Ymgynghoriad 2019-20.

 

Datganodd y Cynghorydd Dylan Rees ddiddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 4 – Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru : Diweddariad Ariannol ac Ymgynghoriad 2019-20.

 

3.

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu'r Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau a ganlyn :-

 

·       Llongyfarchiadau i’r rhai oedd yn llwyddiannus yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Sioe Frenhinol Cymru a Sioe Môn yn ddiweddar;

·       Llongyfarchiadau i ddisgyblion ysgolion uwchradd a lwyddodd yn eu harholiadau TGAU a Lefel A;

·       Llongyfarchiadau i ddisgyblion o Flwyddyn 11 Ysgol Gyfun Llangefni fu’n cystadlu yn y gystadleuaeth ‘Fformiwla 1 i Ysgolion’ yn Singapore yn ddiweddar. Roedd y Cadeirydd yn falch o adrodd bod Ysgol Gyfun Llangefni wedi ennill y wobr ‘Ferrari Best Team Identity’.

·       Llongyfarchiadau i Mr Pete Roberts a Cai Roberts, gŵr a mab y Cynghorydd Nicola Roberts fu’n cynrychioli Cymru mewn cystadleuaeth saethu yn ddiweddar;

·       Llongyfarchiadau i’r Cynghorydd Robert Ll Jones a’i wraig Mrs Gillian Jones fydd yn dathlu eu Pen-blwydd Priodas Aur ar 30 Medi;

·       Llongyfarchiadau i’r Cynghorydd Aled M Jones sydd wedi cael ei benodi’n Llywydd Mudiad Ffermwyr Ifanc Ynys Môn.

 

 

Cyhoeddodd y Cadeirydd y bydd Sul y Cadeirydd yn cael ei gynnal yng Nghapel Moreia, Llangefni ar 14 Hydref, 2018.

 

*          *          *          *          *

 

Cydymdeimlwyd â’r Cynghorydd Robin Williams sydd wedi colli ei dad yn ddiweddar.

 

Cydymdeimlwyd â’r Cynghorydd Alun Mummery sydd wedi colli ei frawd yng nghyfraith yn ddiweddar.

 

Cydymdeimlwyd â’r Cynghorydd Eric W Jones sydd wedi colli ei chwaer yng nghyfraith yn ddiweddar.

 

Cydymdeimlwyd â theuluoedd y cyn Gynghorwyr Mr Gwyn Jones, Dwyran, Mr John Meirion Davies, Porthaethwy, Mr J V Owen, Caergybi a Mr Barrie Durkin a oedd yn cynrychioli ardal Benllech.

 

Cydymdeimlwyd ag unrhyw Aelod o’r Cyngor neu aelod o staff sydd wedi cael profedigaeth yn ddiweddar.

 

Safodd yr Aelodau a Swyddogion am funud o dawelwch fel arwydd o’u cydymdeimlad.

 

4.

Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru: Diweddariad Ariannol ac Ymgynghoriad 2019-20

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Meurig Ll Davies, Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, Ms Helen McArthur, Prif Swyddog Cynorthwyol (Adnoddau) a Ms Sian Morris, Prif Swyddog Cynorthwyol (Polisi a Chynllun Corfforaethol) i roi cyflwyniad mewn perthynas â Diweddariad Ariannol ac Ymgynghoriad 2019/20 Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.

 

Cyflwynodd cynrychiolwyr Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru amlinelliad byr o’r ymgynghoriad cyhoeddus sy’n cael ei gynnal er mwyn annog pobl i fynegi eu barn ynglŷn â sicrhau gwasanaethau tân ac achub fforddiadwy, cyn i’r gyllideb ddrafft ar gyfer 2019/20 gael ei gosod ym mis Rhagfyr 2018. Mae pob Cyngor Sir yng Ngogledd Cymru’n cyfrannu tuag at y gost o ddarparu gwasanaeth tân ac achub ac mae’r bwlch rhwng amcangyfrif o gostau’r Awdurdod yn 2019/20 a lefel y cyfraniadau ariannol gan Gynghorau yn 2018/19 wedi cyrraedd bron i £1.9m. Er bod yr holl wasanaethau cyhoeddus yn wynebu penderfyniadau ariannol anodd mae dyletswydd ar yr Awdurdod Tân ac Achub i sicrhau ei fod yn parhau i fod mor effeithlon â phosib a sicrhau ei fod yn darparu gwasanaethau tân ac achub sy’n cwrdd â disgwyliadau’r cyhoedd o ran lefel ac ansawdd heb gyflwyno elfen annerbyniol o risg. Adroddwyd bod arbedion effeithlonrwydd wedi eu gweithredu er mwyn newid y polisi mewn perthynas ag ymateb i larymau tân awtomatig ac achub anifeiliaid mawr ynghyd â rhoi pwyslais parhaus ar atal tanau. Nododd y Swyddogion bod Cyngor Sir Ynys Môn wedi cyfrannu £3,356,175 at Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn 2018/19, sy’n cyfateb i 10.02% o’r dyraniad. Rhagwelir y bydd angen cyfraniad ychwanegol o £190,272 gan yr Awdurdod hwn fyddai’n gynnydd o £6.53 yn y Dreth Gyngor ar gyfer eiddo cyfartalog Band D.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd a gwnaed y pwyntiau a ganlyn :-

 

·       Gofynnwyd am eglurhad ynglŷn â’r ymweliadau cartref a gynhelir gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru er mwyn gosod larymau tân. Dywedodd y Prif Swyddog Cynorthwyol (Polisi a Chynllun Corfforaethol) fod gwneud gwaith ataliol drwy gynnal ymweliadau cartref yn holl bwysig a phe bae’n rhaid i’r Gwasanaeth Tân ddelio â digwyddiad cyn cynnal ymweliad cartref ataliol, byddai’r gost yn llawer iawn uwch. Pwysleisiodd y dylid cael larwm tân ym mhob cartref ac mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn achub y blaen drwy osod larymau tân mewn cartrefi. Cyfeiriwyd hefyd at y cydweithio sy’n digwydd gydag Awdurdod yr Heddlu. Cyfeiriodd y Prif Swyddog Cynorthwyol at enghreifftiau o gydweithio gyda’r Heddlu h.y. cynorthwyo i chwilio am bobl fregus sydd ar goll, atal tanau bwriadol. Nododd bod cydweithio â’r Heddlu yn gallu lleihau costau ariannol y ddau wasanaeth;

·       Gofynnwyd am eglurhad ynglŷn ag awgrym mewn ymgynghoriad blaenorol ar gyllideb Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru y byddai un o’r ddwy injan dân yn Wrecsam yn cael eu dileu. Dywedodd y Prif Swyddog Cynorthwyol (Polisi a Chynllun Corfforaethol) bod 2 injan dân llawn amser ac 1 rhan amser yn Wrecsam a ddwy flynedd yn ôl cododd cyfle i gael gwared ar un o’r rheini.  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Cwestiynau a dderbyniwyd un unol â rheol 4.1.12.4 y Cyfansoddiad

Gofynnwyd y cwestiwn isod y cafwyd rhybudd ohono gan y Cynghorydd Peter Rogers i’r Cynghorydd Robin Williams, Deilydd Portffolio Cyllid :-

 

‘Fe adawodd y diweddar Mr David Hughes a fu farw yn 1609 etifeddiaeth o dros 1,200 erw o dir i gefnogi Addysg ar yr Ynys.  Yn 1887, roedd y gwaddol hwn yn cyfrannu £1,400 y flwyddyn.  Faint wnaeth Addysg ar yr Ynys elwa o hwn llynedd?’

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·           Cyflwynwyd – y cwestiwn a ganlyn y rhoddwyd rhybudd ohono gan y Cynghorydd Peter Rogers i’r Cynghorydd Robin Williams, Deilydd Portffolio Cyllid :-

 

Fe adawodd y diweddar Mr David Hughes a fu farw yn 1609 etifeddiaeth o dros 1,200 erw o dir i gefnogi Addysg ar yr Ynys.  Yn 1887, roedd y gwaddol hwn yn cyfrannu £1,400 y flwyddyn.  Faint wnaeth Addysg ar yr Ynys elwa o hwn llynedd?

 

Yn absenoldeb y Deilydd Portffolio Cyllid, ymatebodd Arweinydd y Cyngor drwy ddweud fod y rhan fwyaf o’r gwariant yn 2016/17 mewn perthynas â Stad Mân-ddaliadau David Hughes, wedi cael ei ddefnyddio i wella adeiladau’r stad. Mae Gweithred Ymddiriedolaeth Stad Mân-ddaliadau David Hughes yn pennu na chaniateir defnyddio’r adnoddau a gynhyrchir gan y stad i gefnogi addysg yn gyffredinol ar yr Ynys. Yn 2017/18 rhoddwyd cyfraniad o £1,000 i ddisgyblion a chyn-ddisgyblion yn unol â meini prawf Stad David Hughes.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Peter Rogers a oedd y cyfraniad o £1,000 yn 2017/18 yn daliad unwaith ac am byth neu’n daliad blynyddol. Dywedodd yr Arweinydd fod y cyfraniad wedi ei wneud yn unol â thelerau Ymddiriedolaeth David Hughes.

 

6.

Rhybudd o Gynnig yn unol â Rheol 4.1.13.1 y Cyfansoddiad

·           Cyflwyno’r Rhybudd o Gynnig a ganlyn gan Y Cynghorwyr Aled Morris Jones, Kenneth P Hughes ac Robert Llewelyn Jones:-

 

(1)   “Dylid diwygio Cyfansoddiad Cyngor Sir Ynys Môn i ganiatáu i aelodau unigol o’r cyhoedd a phartïon â diddordeb, h.y. Llywodraethwyr ysgol, annerch y Pwyllgor Gwaith neu Gabinet y Cyngor Sir.”

 

(2)   “Dylid diwygio Cyfansoddiad Cyngor Sir Ynys Môn fel bod y ddau Bwyllgor Sgriwtini yn cael eu gwe-ddarlledu”.

 

(3)   “Dylid diwygio Cyfansoddiad Cyngor Sir Ynys Môn i ganiatáu i rybuddion o gynigiad sydd wedi cael eu cyflwyno gan aelodau’r cyhoedd a’u cefnogi gyda llofnodion 50 o unigolion sy’n byw yn Ynys Môn gael eu trafod mewn cyfarfodydd o’r Cyngor llawn.”

 

·           Cyflwyno’r Rhybudd o Gynnig a ganlyn gan Y Cynghorwyr Robert Llewelyn Jones a Bryan Owen :-

 

“Yn wyneb y newidiadau sydd ar fin dyfod yn sgil Brexit, dylid sefydlu Panel er mwyn cael gwybodaeth ynghylch problemau posibl ac i bwyso ar Lywodraethau Cymru a Phrydain yr angen am ymagwedd gadarn er mwyn cefnogi’r diwydiannau hyn ar Ynys Môn ym mhob ffordd bosib.

 

(1) Y diwydiant ffermio sy’n gyflogwr pwysig iawn ar Ynys Môn.

 

(2) Porthladd Caergybi sydd eto’n gyflogwr mawr a fydd ar reng flaen unrhyw newidiadau.

 

(3) Wylfa Newydd, y Peilonau a’r hyn y bydd tynnu allan o’r Gymuned Economaidd Ewropeaidd yn ei olygu o ran cyllido’r prosiect a’i ddichonolrwydd.

Rydym ni’n cefnogi pobl Ynys Môn ac mae angen i ni ddangos ein bod yn deall eu pryderon ac yn eu cefnogi ym mhob ffordd bosib.

 

Rydym yn mynd i mewn i gyfnod anghyfarwydd ac mae’n rhaid i ni fel corff etholedig, gael ein gweld yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gynorthwyo’r diwydiannau pwysig iawn hyn ar Ynys Môn i oroesi a ffynnu wedi i ni adael y Gymuned Economaidd Ewropeaidd. Mae’n fater rhy bwysig i adael i adrannau eraill yn y Llywodraeth edrych ar ôl economi ein hynys yn y cyfnod ansicr hwn.”

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·           Cyflwynwyd - y Rhybuddion o Gynnig a ganlyn gan y Cynghorwyr Aled M Jones, Kenneth P Hughes a Robert Llewelyn Jones :-

 

·       Cyflwynodd y Cynghorydd Aled M Jones y Rhybudd o Gynnig a ganlyn :-

 

 Dylid diwygio Cyfansoddiad Cyngor Sir Ynys Môn i ganiatáu i aelodau unigol o’r cyhoedd a phartïon â diddordeb, h.y. Llywodraethwyr ysgol, annerch y Pwyllgor Gwaith neu Gabinet y Cyngor Sir.”

 

Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd K P Hughes.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd R Thomas, Aelod Portffolio Corfforaethol, nad oes gan y Cyngor Sir awdurdod mewn perthynas â’r mater hwn. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro fod Arweinydd y Cyngor yn meddu ar yr hawl i ganiatáu i aelodau o’r cyhoedd annerch y Pwyllgor Gwaith ac nid yw’r Cyngor Sir yn gallu atal Arweinydd y Cyngor rhag ymarfer y disgresiwn hwnnw.

 

Dywedodd yr Arweinydd ei bod yn fodlon fod llais y bobl wedi cael ei glywed yng nghyfarfodydd diweddar y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol. Nododd bod cyfle i unrhyw Aelod Etholedig ofyn am gael siarad ar ran eu cymunedau lleol yn y Pwyllgor Gwaith.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Shaun Redmond am eglurhad ynglŷn ag a oes gan yr Arweinydd yr hawl i ganiatáu siarad cyhoeddus yn y Pwyllgor Gwaith a’r Cyngor Llawn. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro fod gan yr Arweinydd yr hawl i ganiatáu siarad cyhoeddus yn y Pwyllgor Gwaith ond nid y Cyngor Llawn. Byddai modd i’r Cyngor llawn fabwysiadau cynllun siarad cyhoeddus ond ni fyddai’n bosib gorfodi’r Pwyllgor Gwaith i fabwysiadu cynllun o’r fath.

 

Yn y bleidlais a ddilynodd PENDERFYNWYD gwrthod y cynnig.

 

(Ataliodd y Cynghorwyr Glyn Haynes a Shaun Redmond eu pleidlais).

 

·       Cyflwynodd y Cynghorydd A M Jones y Rhybudd o Gynnig a ganlyn :-

 

Dylid diwygio Cyfansoddiad Cyngor Sir Ynys Môn fel bod y ddau Bwyllgor Sgriwtini yn cael eu gwe-ddarlledu.”

 

Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Shaun Redmond.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd R Thomas, Deilydd Portffolio Corfforaethol, ei fod yn cefnogi’r cynnig ond ei fod yn dymuno cynnig gwelliant, sef bod y mater yn cael ei gyfeirio i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ei ystyried ac adrodd yn ôl i’r Cyngor llawn.

 

Eiliwyd y gwelliant gan y Cynghorydd R Ll Jones fel Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

 

Yn y bleidlais a ddilynodd PENDERFYNWYD derbyn y gwelliant i’r cynnig.

 

·       Cyflwynodd y Cynghorydd A M Jones y Rhybudd o Gynnig a ganlyn :-

 

Dylid diwygio Cyfansoddiad Cyngor Sir Ynys Môn i ganiatáu i rybuddion o gynigiad sydd wedi cael eu cyflwyno gan aelodau’r cyhoedd a’u cefnogi gyda llofnodion 50 o unigolion sy’n byw yn Ynys Môn gael eu trafod mewn cyfarfodydd o’r Cyngor llawn.”

 

Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd K P Hughes.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd R Thomas, Deilydd Portffolio Corfforaethol, ei fod yn dymuno cyflwyno gwelliant i’r cynnig, sef bod y mater yn cael ei gyfeirio i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ei ystyried ac adrodd yn ôl i’r Cyngor llawn yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr.

 

Dywedodd y Cynghorydd A M Jones y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cyflwyno Deisebau

Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â Pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddeisebau.

8.

Datganiad o Gyfrifon ac Adroddiad ISA 260 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno’r adroddiadau canlynol, fel y’u cyflwynwyd i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar 19 Medi 2018:-

 

  Datganiad o Gyfrifon ar gyfer 2017/18;

  Adroddiad yr Archwiliwr Allanol ar archwilio’r Datganiadau Ariannol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – yr adroddiadau canlynol gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y’u cyflwynwyd i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar 19 Medi, 2018 :-

 

·      Datganiad o Gyfrifon ar gyfer 2017/18;

·      Adroddiad yr Archwilwyr Allanol ar archwilio’r Datganiadau Ariannol.

 

PENDERFYNWYD :-

 

·      Derbyn y Datganiad Cyfrifon ar gyfer 2017/18;

·      Nodi bod y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu wedi cymeradwyo’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2017/18 ac wedi cyfeirio’r ddogfen at Arweinydd y Cyngor a’r Prif Weithredwr i’w llofnodi.

9.

Adolygiad Blynyddol ar Reoli Trysorlys ar gyfer 2017/18 pdf eicon PDF 475 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 17 Medi 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 17 Medi, 2018.

 

PENDERFYNWYD :-

 

·      Nodi’r ffigyrau alldro a gynhwysir yn yr adroddiad;

·      Nodi’r dangosyddion pwyllog a thrysorlys dros dro ar gyfer 2017/18 a gynhwysir yn yr adroddiad.

 

10.

Mabwysiadu Pwerau gan y Cyngor a Dirprwyo i Swyddogion pdf eicon PDF 149 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a’r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 21 Mai 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a’r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 21 Mai, 2018.

 

PENDERFYNWYD :-

 

·       Mabwysiadu’r pwerau a restrir yn Adran A Atodiad 1;

·       Diwygio’r Cynllun Dirprwyo yn y Cyfansoddiad er mwyn dirprwyo ymarfer y pwerau a nodir yn Adran A Atodiad 1, i’r Pennaeth Gwasanaeth (Rheoleiddio a Datblygu Economaidd);

·       Dileu’r pwerau a restrir yn Adran B Atodiad 1, o’r Cynllun Dirprwyo yn y Cyfansoddiad, sydd yn dirprwyo’r Pwerau hyn i’r Pennaeth Gwasanaeth (Rheoleiddio a Datblygu Economaidd);

·       Awdurdodi Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro’r Cyngor i wneud y newidiadau angenrheidiol i’r Cynllun Dirprwyo, ac unrhyw newidiadau canlyniadol i adlewyrchu mabwysiadu, dirprwyo a dileu’r cyfryw bwerau;

·       Awdurdodi Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro’r Cyngor i wneud newidiadau i’r Cyfansoddiad yn y dyfodol, heb orfod cael cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith neu’r Cyngor llawn, lle bo’r newidiadau hynny o ganlyniad i newidiadau deddfwriaethol pan fod angen ychwanegu/newid y ddirprwyaeth i Swyddogion er mwyn gweithredu’r pwerau neu hawliau ychwanegol a roddwyd i’r Cyngor dan y ddeddfwriaeth ddiwygiedig neu newydd;

·       Diwygio’r Cynllun Dirprwyo yn y Cyfansoddiad er mwyn dirprwyo i’r Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro :-

 

‘Adolygu a diweddaru Cyfansoddiad y Cyngor o bryd i'w gilydd, i gynnwys unrhyw newidiadau achlysurol sy'n deillio o ddeddfwriaeth ddiwygiedig, deddfwriaeth sy’n cymryd lle un arall neu ddeddfwriaeth newydd; unrhyw ailstrwythuro o'r sefydliad sydd eisoes wedi ei awdurdodi fel bo’r angen ac i gynnwys dirprwyaethau newydd i swyddogion, sef y Pennaeth Gwasanaeth sydd â chyfrifoldeb am y gwasanaeth perthnasol, i gael awdurdod dirprwyedig llawn i gyflawni'r swyddogaeth ar ran y Cyngor, oni bai ei bod yn fater sydd wedi ei neilltuo i’r Cyngor, Pwyllgor Gwaith neu Bwyllgor.’

 

 

11.

Rôl ac Atebolrwydd y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol pdf eicon PDF 229 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes a Chyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr (Llywodraethu a Thrawsnewid Prosesau Busnes a Chyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol) fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 17 Medi, 2018.

 

PENDERFYNWYD :-

 

·       Mabwysiadu’r protocol sydd wedi’i gynnwys yn Atodiad 1 yr adroddiad;

·       Awdurdodi Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro’r Cyngor i wneud y newidiadau angenrheidiol i’r Cynllun Dirprwyo ar gyfer y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethu a Thrawsnewid Prosesau Busnes) yn y Cyfansoddiad, ac unrhyw newidiadau’n deillio o hynny, er mwyn adlewyrchu’r ffaith fod y protocol yn Atodiad 1 wedi cael ei fabwysiadu.

 

 

 

12.

Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2017/18 pdf eicon PDF 4 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes a Chyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol) fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 5 Gorffennaf, 2018, a’r Pwyllgor Gwaith ar 16 Gorffennaf, 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethu a Thrawsnewid Prosesau Busnes a Chyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol) fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 5 Gorffennaf, 2018 a’r Pwyllgor Gwaith ar 16 Gorffennaf, 2018.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

13.

Cynllun Gwella Hawliau Tramwy 2018-2028 pdf eicon PDF 3 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo Dros Dro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo Dros Dro mewn perthynas â’r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy (2018 – 2028) newydd a pholisïau hawliau tramwy diwygiedig.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy 2018 – 2028 newydd a’r polisïau hawliau tramwy diwygiedig.