Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cofnodion pdf eicon PDF 66 KB

Cyflwyno, i’w cymeradwyo, gofnodion drafft cyfarfodydd y Cyngor Sir a gynhaliwd ar y dyddiadau canlynol:-

 

·      11 Rhagfyr, 2018

·      28 Ionawr, 2019 (Cyfarfod Arbennig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion cyfarfodydd canlynol Cyngor Sir Ynys Môn fel rhai cywir :-

 

·      11 Rhagfyr, 2018

·      28 Ionawr, 2019 (Cyfarfod Arbennig)

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd y datganiadau personol canlynol mewn perthynas ag Eitem 7 – Y Gyllideb ar gyfer 2019/20 a’r Strategaeth Ariannol Tymor Canol :-

 

Y Cynghorwyr Richard Dew, Carwyn Jones, Richard O Jones, Llinos M Huws, R Meirion Jones, Dafydd Roberts,  Bryan Owen, Margaret M Roberts, Nicola Roberts, Robin Williams.

 

Cafwyd y datganiadau personol canlynol mewn perthynas ag Eitem 10 – Datganiad Polisi Tâl :-

 

Y Cynghorwyr Richard Griffiths, Aled M Jones, Carwyn Jones, Robert Ll Jones, R Meirion Jones, Alun W Mummery, Robin Williams.

 

Gwnaeth yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth a’r Penaethiaid Swyddogaeth Adnoddau a Busnes y Cyngor ddatganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 10 – Datganiad Polisi Tâl 2019 ac nid oeddynt yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod unrhyw drafodaeth neu bleidlais arni.

 

 

3.

Derbyn Unrhyw Gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu'r Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 Gwnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau a ganlyn:-

 

·      Estynnwyd dymuniadau gorau i’r Cynghorydd Richard O Jones ac aelodau o’r ‘Tîm Pêl-droed Cerdded’ – Tîm Pêl-droed Amlwch a fydd yn cynrychioli Cymru yn St George’s Park ar ddydd Sul;

 

·      Llongyfarchiadau i Ms Christina Darbyshire-Jones, Gweithiwr Cymdeithasol sydd wedi ennill gwobr ‘Asiantaeth Faethu Credo Care fel y Gweithiwr Proffesiynol mwyaf Eithriadol’ yn ddiweddar;

 

·      Llongyfarchiadau i’r Cynghorydd Bryan Owen ar ddod yn daid i efeilliaid.

 

Dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi cael y pleser o gwrdd â theulu o Ffoaduriaid o Syria yn ddiweddar, sydd wedi setlo ar Ynys Môn.

 

Hoffai’r Cadeirydd atgoffa’r Aelodau y cynhelir Cyngerdd Elusennol y Cadeirydd yn Ysgol Gyfun Llangefni ddydd Gwener, 5 Ebrill, 2019 am 7.00 p.m.

 

 

*        *         *          *         *

 

Cydymdeimlwyd â’r cyn Gynghorydd John Chorlton a’i deulu ar golli eu merch Heather yn ddiweddar.

 

Cydymdeimlwyd ag unrhyw Aelod neu staff o’r Cyngor a oedd wedi dioddef profedigaeth.

 

Safodd yr Aelodau a’r Swyddogion mewn tawelwch fel arwydd o’u parch a’u cydymdeimlad.

 

 

 

4.

Cwestiynau a Dderbyniwyd yn unol a Rheol 4.1.12.4 y Cyfansoddiad

I gyflwyno’r cwestiwn canlynol o rybudd gan y Cynghorydd Robert Ll Jones i’r

Deilydd Portffolio Cyllid:-

 

Yn wyneb y gorwariant mawr ar y Gwasanaethau Plant 

 

Pa gamau gymerwyd i adolygu’r gwariant yn yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol ar sail wythnosol ac a oedd hyn yn cael ei ddwyn at sylw’r Pwyllgor Gwaith bob wythnos?

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – y cwestiwn canlynol o rybudd gan y Cynghorydd Robert Ll Jones i’r Aelod Portffolio Cyllid :-

 

Yn wyneb y gorwariant mawr ar y Gwasanaethau Plant :-

 

‘Pa gamau a gymerwyd i adolygu’r gwariant yn yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol ar sail wythnosol ac a oedd hyn y cael ei ddwyn at sylw’r Pwyllgor Gwaith bob wythnos?’

 

Ymatebodd yr Aelod Portffolio Cyllid drwy ddweud fod y Gwasanaethau Plant yn wasanaeth a arweinir gan y galw, a phan fydd Llys yn penderfynu rhoi plentyn mewn gofal, mae’n rhaid i’r Awdurdod ymateb. Mynegodd bod rhaid i’r Awdurdod roi cyfleusterau addas ar gael i blant sy’n cael eu rhoi mewn gofal naill ai gyda rhieni maeth neu mewn unedau arbenigol. Mae’r Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfodydd anffurfiol a’r UDA yn derbyn adroddiadau misol ar bob gwasanaeth ac mae’r Pwyllgor Gwaith llawn yn derbyn adroddiadau bob chwarter. Dywedodd yr Aelod Portffolio ymhellach fod adroddiadau’n cael eu cyflwyno i Banel Sgriwtini y Gwasanaethau Plant ac mae’r Pennaeth Gwasanaethau wedi mynychu’r cyfarfodydd hyn ar ddau achlysur. Yn ogystal, mae’r Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael cyfarfodydd misol gyda Phennaeth y Gwasanaethau Plant ynghyd â Chyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol, a chaiff cyllideb yr adran ei thrafod a’i monitro yn y cyfarfodydd hyn.

 

Diolchodd y Cynghorydd Robert Ll Jones i’r Aelod Portffolio Cyllid am ei ymateb a mynegodd ei werthfawrogiad i’r staff yn y Gwasanaethau Plant am eu gwaith wrth alluogi’r gwelliant sydd wedi digwydd yn y gwasanaeth yn ddiweddar. Dywedodd yr hoffai weld ymagwedd newydd fel y gallai’r adran fforddio cyfleusterau oddi mewn i’r Ynys ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, heb orfod eu lleoli tu allan i’r sir.

 

 

5.

Rhybudd o Gynnig yn unol â Rheol 4.1.13.1 o'r Cyfansoddiad

·           Derbyn y Rhybuddion o Gynigiad isod gan y Cynghorydd Robert Llewelyn Jones:-

 

1.  Ar 27ain Ebrill 2010, penderfynodd y Pwyllgor Gwaith ar y pryd gymeradwyo cynigiad i geisio sicrhau nad oedd yr hyn a ddigwyddodd gyda’r cais cynllunio mawr mewn perthynas â Tŷ Mawr, Llanfairpwll yn 2008, yn digwydd eto.  Cafodd y cais hwnnw ei alw i mewn gan Lywodraeth Cymru a’i wrthod yn y diwedd”.

 

Penderfynwyd cymeradwyo Siartr ar gyfer Cytundeb Perfformiad Cynllunio yn nodi’r modd y dylai’r Awdurdod weithio gyda’r datblygwr, y gymuned a chydranddeiliaid allweddol eraill i sicrhau bod cynigion ar gyfer datblygiadau mawr a chymhleth yn cael eu hystyried yn ofalus mewn modd adeiladol, cydweithredol ac agored.  

 

Ni sefydlwyd Cytundeb Perfformiad Cynllunio mewn perthynas â’r tri datblygiad mwyaf yn ystod y ddeng mlynedd diwethaf ac fe gafodd un ei alw i mewn (Tŷ Mawr) a bu’r ddau arall, sef datblygiadau Glannau Caergybi a Land and Lakes yn gostus iawn i’n hawdurdod ac i bobl Ynys Môn.  Petai Cytundeb Perfformiad Cynllunio wedi bod ar gael, mae yna siawns y byddai’r datblygwyr wedi gwrando ar yr etholwyr.”

 

Rwy’n gofyn i unrhyw ddatblygwyr lofnodi Cytundeb Perfformiad Cynllunio a bod y Cytundeb hwn ar gael i etholwyr Ynys Môn a’u bod yn ymwybodol o’r hyn sy’n cael ei gytuno.  Byddai hyn yn unol arfer mewn Awdurdodau Lleol eraill.  

 

2.  Yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf, mae mwy a mwy o gapeli ac eglwysi  wedi cau ar Ynys Môn gyda hynny’n golygu colli llefydd cyfarfod cymunedol sydd wedi gwasanaethu ein trigolion am dros gant a hanner o flynyddoedd. Roedd ym mhob pentref ar Ynys Môn un neu ragor o addoldai a llawer iawn mwy yn ein trefi.

 

A fedr yr Adran Gynllunio, drwy eu Swyddog Treftadaeth, edrych ar beth sydd wedi digwydd i’r llefydd cyfarfod hyn a pha gofnodiadau sy’n cael eu cadw i ddiogelu hanes yr adeiladau pwysig hyn fel rhan o’n hanes dros yr 150 mlynedd diwethaf. A fyddai modd dod ag adroddiad llawn yn ôl i’r Cyngor. Mae gan nifer o’r capeli a’r eglwysi hyn goflechi marmor a chofnodiadau eraill o’r dynion a’r merched ifanc a fu farw yn y ddau ryfel byd – beth sy’n digwydd i’r rhain ac a fyddai modd eu cofnodi.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·      Cyflwynwyd y Rhybudd o Gynnig canlynol gan y Cynghorydd Robert Ll Jones:-

 

Ar 27ain Ebrill 2010, penderfynodd y Pwyllgor Gwaith ar y pryd gymeradwyo cynigiad i geisio sicrhau nad oedd yr hyn a ddigwyddodd gyda’r cais cynllunio mawr mewn perthynas â Tŷ Mawr, Llanfairpwll yn 2008, yn digwydd eto. Cafodd y cais hwnnw ei alw i mewn gan Lywodraeth Cymru a’i wrthod yn y diwedd.

 

Penderfynwyd cymeradwyo Siartr ar gyfer Cytundeb Perfformiad Cynllunio yn nodi’r modd y dylai’r Awdurdod weithio gyda’r datblygwr, y gymuned a chydran-ddeiliaid allweddol eraill i sicrhau bod cynigion ar gyfer datblygiadau mawr a chymhleth yn cael eu hystyried yn ofalus mewn modd adeiladol, cydweithredol ac agored.

 

Ni sefydlwyd Cytundeb Perfformiad Cynllunio mewn perthynas â’r tri datblygiad mwyaf yn ystod y ddeng mlynedd diwethaf ac fe gafodd un ei alw i mewn (Tŷ Mawr) a bu’r ddau arall, sef datblygiadau Glannau Caergybi a Land and Lakes yn gostus iawn i’n hawdurdod ac i bobl Ynys Môn. Petai Cytundeb Perfformiad Cynllunio wedi bod ar gael, mae yna siawns y byddai’r datblygwyr wedi gwrando ar yr etholwyr.

 

Rwy’n gofyn i unrhyw ddatblygwyr lofnodi Cytundeb Perfformiad Cynllunio a bod y Cytundeb hwn ar gael i etholwyr Ynys Môn a’u bod yn ymwybodol o’r hyn sy’n cael ei gytuno. Byddai hyn yn unol arfer mewn Awdurdodau Lleol eraill.

 

Eiliodd y Cynghorydd Shaun Redmond y cynnig.

 

Dywedodd y Cynghorydd Redmond ei bod yn hanfodol sefydlu cytundebau Perfformiad Cynllunio pan gaiff datblygiadau mawr eu cynnig mewn cymunedau lleol. Nododd fod rhaid i gymunedau lleol gael gwybod am y broses gyda datblygiadau mawr er mwyn lleddfu unrhyw bryderon ynglŷn ag effaith datblygiad o’r fath.

 

Ymatebodd yr Aelod Portffolio Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd trwy ddweud fod y Siarter Cytundeb Perfformiad Cynllunio (CPC) wedi’i ddiweddaru yn 2014 ac mae’r Siarter yn datgan bod CPC yn gytundeb gwirfoddol rhwng datblygwyr prosiectau datblygu mawr a’r Cyngor. Cynhelir trafodaethau gyda’r datblygwyr cyn iddynt gyflwyno cais cynllunio i’r Awdurdod Cynllunio ond nid yw’r Cyngor yn gallu gorfodi datblygwyr i ymrwymo i CPC. Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at y prosiect Land and Lakes a dywedodd na sefydlwyd cytundeb CPC ond roedd y datblygwyr wedi cytuno i dalu costau cyfreithiol y Cyngor ac i lofnodi cytundeb A106. Mewn perthynas â Glannau Caergybi, roedd trafodaethau ynglŷn â’r datblygiad wedi digwydd yng nghyswllt y CPC ond cafodd y cais cynllunio ei gyflwyno cyn oedd y Siarter mewn lle.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robert Ll Jones yr hoffai weld cofnodion manwl yn cael eu cadw yn ystod y drafodaeth ar CPC gyda datblygwyr er mwyn i’r cyhoedd allu cael mynediad at y trafodaethau a gynhaliwyd. Nododd fod cytundeb CPC wedi’i sefydlu mewn perthynas â’r prosiect Wylfa Newydd lle cafwyd cofnod o pa daliadau a wnaed a chyfraniad o £6.8m o’r prosiect. Mynegodd y Cynghorydd Jones, heb CPC wedi’i lofnodi, nid oes cofnod o’r ffioedd a chostau y mae’r awdurdod hwn wedi gorfod eu talu.

 

Adroddodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd y caiff ffi ei chodi am bob cais cynllunio a gyflwynir i’r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Cyflwyno Deisebau

Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â Pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod deiseb wedi dod i law gan y Cynghorydd Kenneth P Hughes gyda 131 o lofnodion arni, yn gwrthwynebu’r estyniad i’r traffig ar yr A5025 ac i’r cynnydd yn y traffig drwy bentref f Llanfachraeth cyn bydd y lôn osgoi yn cael ei hadeiladu.

 

Dywedodd y Cynghorydd K P Hughes fod yna bryderon mawr wedi bod ym mhentref Llanfachraeth ynglŷn â’r cynnydd yn y traffig oherwydd prosiect Wylfa Newydd. Diolchodd i Gadeirydd y Cyngor am gwrdd â chynrychiolwyr o ardal Llanfachraeth ac am dderbyn y ddeiseb. Fodd bynnag, dywedodd oherwydd ar ansicrwydd ynglŷn â phrosiect Wylfa Newydd, efallai na fyddai’r cynnydd mewn traffig trwy bentref Llanfachraeth yn digwydd.

 

7.

Y Gyllideb ar gyfer 2019/20 a'r Strategaeth Ariannol Tymor Canol pdf eicon PDF 648 KB

(a)    Cyllideb Refeniw 2019/20

 

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 18 Chwefror 2019.

 

(b)   Cyllideb Gyfalaf 2019/20

 

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 18 Chwefror 2019.

 

(c)   Datganiad ar Strategaeth Rheoli Trysorlys 2019/20

 

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 18 Chwefror 2019.

 

(ch)  Gosod y Dreth Gyngor

 

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 18 Chwefror 2019.

 

(d)   Diwygio’r Gyllideb

 

Cyflwyno’r gwelliant canlynol i gynigion y Gyllideb gan Grŵp Annibynnwyr Môn, yn dilyn derbyn rhybudd yn unol â Pharagraff 4.3.2.2.11 y Cyfansoddiad fel a ganlyn:-

 

‘Hoffai Grŵp Annibynwyr Môn gynnig cynnydd o 5% yn y Dreth Gyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2019-2020.

Gwneir hynny drwy:-

·        beidio â llenwi swydd wag y Prif Weithredwr Cynorthwyol – arbediad o £100,000;

·        gostwng nifer yr Aelodau sydd ar y Pwyllgor Gwaith o 9 i 7 – arbediad o £26,464;

·        gohirio adeiladu’r Safle i Sipsiwn a Theithwyr yn Star – arbediad o £33,600 yn y taliadau cyllido cyfalaf;

·        gostwng y gyllideb ar gyfer y Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor o ganlyniad i osod Treth Gyngor is na’r un a gynigiwyd gan y Pwyllgor Gwaith – arbediad o £225,000;

·        cynnydd o 5% yn y Dreth Gyngor. Byddai hyn yn golygu fod y dreth ar gyfer Band D yn £1,197.18 – cynnydd blynyddol o £56.97;

·        cynyddu’r premiwm ar dai gwag i 35% yn hytrach na’r 100% a gynigiwyd gan y Pwyllgor Gwaith;

·        byddai’r gostyngiad yn y Dreth Gyngor a’r Premiwm ar Gartrefi Gwag yn golygu lleihad o £1,950,449 yn yr arian a geir drwy’r Dreth Gyngor a byddai modd cyllido hynny drwy ostwng gwariant gan £385449 (gweler uchod), trwy ddefnyddio £1m o’r arian wrth gefn sydd wedi’i glustnodi a chan ddefnyddio £565,000 o’r balansau cyffredinol;

·        os bydd arian ychwanegol yn cael ei ryddhau ar gyfer pensiwn, bydd yn cael ei drosglwyddo’n ôl i’r balansau cyffredinol.’

(Sylwer : Mae angen ystyried y cyfan o’r papurau uchod fel un pecyn).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Portffolio Cyllid gynigion y Pwyllgor Gwaith ar gyfer cyllidebau Refeniw a Chyfalaf 2019/20, y Datganiad ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys a gosod y Dreth Gyngor – eitemau 7(a) i (ch) yn y Rhaglen. Dywedodd mai’r gyllideb hon fu’r gyllideb fwyaf heriol i’r Cyngor orfod ei chyflwyno. Dechreuwyd y broses gyllideb gychwynnol ym mis Mehefin 2018 a chafodd adolygiadau unigol eu cynnal o’r holl wasanaethau o fewn y Cyngor. Fe heriwyd y gwasanaethau i adnabod gwerth £5m o arbedion yn unol â’r Cynllun Ariannol Tymor Canol. Cynhaliwyd nifer o weithdai yn ystod mis Hydref gyda’r gwasanaethau’n cyflwyno eu cynigion arbedion i’w hystyried, a gwahoddwyd holl Aelodau’r Cyngor i fynychu. Roedd yr holl gynigion arbedion a gyflwynwyd yn dod i gyfanswm o £3.747m. Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus o 15 Tachwedd i 31 Rhagfyr, 2018 gan ganolbwyntio ar y 15 o brif gynigion arbedion. Dywedodd yr Aelod ei fod yn gwerthfawrogi’r ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus ac mai’r ymgynghoriad ar y broses o osod y gyllideb sydd wedi derbyn y nifer uchaf o ymatebion erioed gan y Cyngor. Nododd fod y Cyngor wedi cynnal 6 chyfarfod gyda gwahanol grwpiau a budd-ddeiliaid i drafod yr arbedion arfaethedig a chael syniad o’u barn. Y neges gref o’r cyfarfodydd hyn oedd fod angen gwarchod cyllidebau addysg er mwyn cynnig yr addysg orau bosib mewn ysgolion. Cyflwynwyd adroddiad i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 4 Chwefror, 2019 ac fe adroddodd y Cadeirydd yn ôl i’r Pwyllgor Gwaith ar 18 Chwefror, 2019.

 

Nododd hefyd pe na bai’r Cyngor yn gosod cyllideb ddarbodus yn y cyfarfod heddiw, yna mae’n bosib y gallai’r Cyngor wynebu problemau ariannol sylweddol fel yr adroddwyd gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yng nghyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 18 Chwefror, 2019. Mae’n rhaid i’r Cyngor osod cyllideb sy’n cryfhau sefyllfa ariannol y Cyngor, ac yn bwysicaf oll, sy’n gwarchod y gwasanaethau y mae’r bobl fwyaf bregus yn ddibynnol arnynt sef y gwasanaethau oedolion, plant ac addysg. Mae’r sefyllfa ariannol enbyd y mae awdurdodau llywodraeth leol ar draws y DU yn ei hwynebu yn ganlyniad i bolisïau llymder Llywodraeth y DU. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi torri’r ffigyrau setliad i lywodraeth leol; mae awdurdodau lleol yng Ngogledd Cymru a Phowys wedi gweld gostyngiad o dros £2.3m yn y gyllideb gan Lywodraeth Cymru tra bod awdurdodau lleol De Cymru wedi gweld cynnydd o £30m yn eu setliad llywodraeth lleol. Nododd hefyd fod cynnydd mewn dyfarniadau tâl staff a phensiynau athrawon a’r cynnydd ym mhraesept yr Awdurdod Tân wedi rhoi pwysau ar y gyllideb. Dywedodd yr Aelod Portffolio nad oes gan yr awdurdod gyllideb o fewn ei gronfeydd wrth gefn i gau’r bwlch yn y diffyg ariannol y mae’r Cyngor yn ei wynebu. Nododd fod y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 wedi adrodd yng nghyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 18 Chwefror fod lefel y cronfeydd cyffredinol wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol ac na ddylid gadael iddynt ostwng ddim pellach. Dywedodd ymhellach fod yr Archwilydd Cyffredinol yn ei lythyr dyddiedig 5 Chwefror, 2019 i’r Cyngor hwn wedi amlinellu nad  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Adolygiad Canol Blwyddyn - Rheoli Trysorlys pdf eicon PDF 335 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 28 Ionawr 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn ymgorffori adolygiad o’r sefyllfa canol blwyddyn yng nghyswllt y gweithgaredd rheoli trysorlys, er mwyn i’r Cyngor ei dderbyn.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr Adroddiad Adolygiad Canol Blwyddyn ar Reoli Trysorlys 2018/19.

 

9.

Newidiadau i'r Cyfansoddiad: 4.5 Rheolau Gweithdrefn Sgriwtini - 4.5.4 Cynrychiolwyr Addysg pdf eicon PDF 485 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 18 Chwefror 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Corfforaethol i’r Cyngor adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro oedd yn cynnwys newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor:-

 

·      yn cytuno i dynnu’r gofyniad i gael ‘un cynrychiolydd o gredoau neu enwadau eraill’ ar Bwyllgor Sgriwtini pan fydd yn delio â materion Addysg (h.y. pan fydd yn cyfarfod fel Pwyllgor Sgriwtini Awdurdod Addysg Lleol) fel sydd wedi’i gynnwys ar hyn o bryd ym mharagraff 4.5.4.4 y Cyfansoddiad (fel a ddangosir yn ATODIAD 1), fel bod paragraff 4.5.4 yn darllen fel yr hyn sydd wedi’i gynnwys yn ATODIAD 2 yr adroddiad;

·      yn awdurdodi Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro y Cyngor i wneud y newidiadau angenrheidiol i’r Cyfansoddiad i adlewyrchu’r ffaith fod y gofyniad a nodir uchod wedi’i dynnu.

 

10.

Datganiad Polisi Tâll 2019 pdf eicon PDF 332 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, Adnoddau Dynol a Thrawsnewid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Corfforaethol adroddiad y Pennaeth Proffesiwn Adnoddau Dynol a Thrawsnewid mewn perthynas â’r uchod, i’r Cyngor.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Corfforaethol, o dan Ddeddf Lleoliaeth 2011 bod rhaid i awdurdodau gynhyrchu a chyhoeddi polisi tâl ar bob agwedd o Dâl Prif Swyddogion.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Datganiad Polisi Tâl ar gyfer 2019.