Rhaglen a chofnodion

Arbennig, Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Llun, 28ain Ionawr, 2019 4.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau.

2.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 125 KB

Ystyried mabwysiadu’r isod:-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm”.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim trafodaeth.

3.

Prosiect Wylfa Newydd

I dderbyn diweddariad, yn dilyn derbyn cais i alw Cyfarfod Arbennig o’r Cyngor Sir, wedi’i arwyddo gan yr Aelodau canlynol – y Cynghorwyr Shaun Redmond, Peter Rogers, Bryan Owen, Aled Morris Jones ac Eric Wyn Jones, yn unol â pharagraff 4.1.3.1.4 o Gyfansoddiad y Cyngor Sir. 

 

 

 

Cofnodion:

Cafwyd cais i alw cyfarfod arbennig o’r Cyngor Sir, wedi’i lofnodi gan yr Aelodau canlynol : Y Cynghorwyr Shaun Redmond, Peter Rogers, Bryan Owen, Aled Morris Jones ac Eric Wyn Jones yn unol â pharagraff 4.1.3.1.4 Cyfansoddiad y Cyngor.

 

Hysbysodd y Cynghorydd Bryan Owen y cyfarfod ei fod yn dymuno tynnu’r cynigiad yn ôl a chyda cadarnhad y cyfarfod, tynnwyd y cynigiad yn ôl a datganodd y Cadeirydd fod y cyfarfod wedi dod i ben.