Rhaglen a chofnodion

Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Mawrth, 14eg Mai, 2019 10.30 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cofnodion pdf eicon PDF 223 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 27 Chwefror, 2019.  

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod o Gyngor Sir Ynys Môn a gynhaliwyd ar 27 Chwefror, 2019 fel cofnod cywir. 

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

3.

Unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu'r Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau canlynol:-

 

·      Cafodd Ms Ann Postle o’r Adran Adnoddau Dynol ei llongyfarch ar dderbyn Gwobr John a Ceridwen Hughes Uwchaled;

·      Llongyfarchiadau i Mrs Mari Pritchard a Chôr Ieuenctid Môn a enillodd ‘Côr y Sioe 2019 a Chôr Plant 2019’ yn ffeinal Côr Cymru yn ddiweddar;   

·      Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi derbyn statws ‘di-blastig’ a diolchodd y Cadeirydd i’r Cynghorydd Dafydd R Thomas am ei ymgyrch ddiwyd;

·      Llongyfarchiadau i Dîm Pêl-droed Llangefni ar eu tymor hynod o lwyddiannus ac am sicrhau dyrchafiad i Gynghrair Pencampwyr Cymdeithas Bêl-droed Cymru;

·      Dymunwyd yn dda i’r timau pêl-droed dynion a merched a fydd yn cynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Gemau’r Ynysoedd a gynhelir yn Ynys Môn fis Mehefin;

·      Dymunwyd yn dda i bawb a fydd yn cymryd rhan yn Eisteddfod Môn, Eisteddfod yr Urdd, Y Sioe Amaethyddol Frenhinol, Sioe Môn a’r Rali Ffermwyr Ifanc.

 

Dywedodd y Cadeirydd bod y Cyngor Sir yn cynnal Diwrnod Lluoedd Arfog a Rhyddid y Sir i’r Gwasanaeth Llongau Tanfor Brenhinol yng Nghaergybi ar 25 Mai, 2019.  

 

*          *          *          *          *

 

Cydymdeimlwyd â’r Cynghorydd Aled Morris Jones a’i deulu wedi iddo golli ei fam yn ddiweddar.

 

Cydymdeimlwyd â’r Cynghorydd Robert Ll Jones a’r deulu wedi iddo golli ei frawd yng nghyfraith yn ddiweddar.

 

Cydymdeimlwyd â’r Cynghorydd Richard Griffiths a’i deulu wedi iddo golli ei fam yng nghyfraith yn ddiweddar.

 

Cydymdeimlwyd â chyn aelod o’r Cyngor Mr Hefin Thomas a’i deulu wedi iddo golli ei fam yn ddiweddar.

 

Cydymdeimlwyd a theulu cyn Arweinydd y Cyngor, Mr Phil Fowlie. Cafodd Mr Fowlie ei ethol i’r Cyngor Sir ym 1999, yn cynrychioli Ward Rhosneigr a bu’n Arweinydd y Cyngor rhwng 2008 a 209. Bu’n rhaid i Mr Fowlie ymddiswyddo fel Aelod o’r Cyngor oherwydd salwch. 

 

Talodd Arweinydd y Cyngor deyrnged i gyn Arweinydd y Cyngor, Mr Phil Fowlie a dywedodd tra roedd yn Gadeirydd Cymdeithas y Ffermwyr Ifanc, fod Mr Fowlie yn Lywydd Cymdeithas Ffermwyr Ifanc Ynys Môn. Dywedodd fod Mr Fowlie yn fridiwr moch enwog a’i fod bob amser yn barod i roi cyngor ac arweiniad yn ystod cystadlaethau beirniadu moch gyda gweithgareddau’r Ffermwyr Ifanc. Bu’r Arweinydd gydymdeimlo â theulu Mr Fowlie, yn enwedig ei feibion a’i wyres ifanc.  

 

Talodd y Cynghorydd Bryan Owen deyrnged i Mr Fowlie fel ffrind agos a chyn Arweinydd y Cyngor. Dywedodd y Cynghorydd Owen, er mai dim ond 7 acer o dir oedd gan Mr Fowlie ei fod wedi dod yn fridiwr ac yn arddangoswr moch o fri ac fe gyflawnodd ei uchelgais oes o ennill Cwpan Aur y Frenhines yn y Sioe Amaethyddol Frenhinol. Dywedodd hefyd i Mr Fowlie dderbyn y fraint o fod yn Llywydd y Sioe Frenhinol ddwy flynedd yn ôl. Fel gwleidydd, roedd Mr Fowlie yn llysgennad da i’r Ynys ac roedd ganddo’r gallu i gynnal sgwrs ag unrhyw un yr oedd yn eu cyfarfod.    

 

Cydymdeimlwyd ag unrhyw Aelod o’r Cyngor neu aelod o staff a oedd wedi dioddef profedigaeth.

 

Safodd yr Aelodau a’r Swyddogion mewn tawelwch fel arwydd o barch.

 

4.

Cwestiynau a dderbyniwyd yn unol a rheol 4.1.12.4 y Cyfansoddiad

·      I gyflwyno’r cwestiwn canlynol o rybudd gan y Cynghorydd Shaun Redmond i’r Deilydd Portffolio Addysg, Ieuenctid, Llyfrgelloedd a

Diwylliant :-

 

Daeth yn amlwg i sawl aelod fod y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion yn ymarfer sy’n cael ei gyrru gan ystyriaethau ariannol yn hytrach na gwelliannau addysgol.

 

Oherwydd bod yr ysgolion uwchradd yn hen adeiladau nad ydynt yn addas ar gyfer darparu pynciau  technegol iawn megis gwyddoniaeth ac yn creu anfantais i’r disgyblion hynny sydd ag angen brys am safonau addysgol uchel o ran y dysgu a’r cymhorthion a’r amgylchedd dysgu, beth yw’r cynlluniau ar gyfer Moderneiddio’r Ysgolion Uwchradd?’

·      I gyflwyno’r cwestiwn canlynol o rybydd gan y Cynghorydd Shaun Redmond i’r Deilydd Portffolio Cyllid :-

 

Gan fod y Cyngor yn parhau i weithredu mesurau i dorri costau, pa gamau ydych chi’n eu cymryd i sicrhau bod dyledwyr – p’un a ydynt yn sefydliadau, yn fusnesau neu’n unigolion yn cael eu herio i dalu’r arian hwn yn ôl i’r Cyngor?’

 

·      I gyflwyno’r cwestiwn canlynol o rybudd gan y Cynghorydd Peter Rogers i’r Deilydd Portffolio Priffrydd, Eiddo a Gwastraff :-

 

Roedd yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith yr wythnos ddiwethaf ar Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolaeth Addysg Bellach yn feirniadol ac yn ddamniol iawn o’r modd y mae Stad David Hughes yn cael ei rhedeg. Am ba hyd fedrwch chi ganiatáu i hyn barhau?’

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·           Cyflwynwyd – y cwestiwn canlynol ar rybudd gan y Cynghorydd Shaun Redmond i’r Deilydd Portffolio Addysg, Ieuenctid, Llyfrgelloedd a Diwylliant:-

 

            ‘Daeth yn amlwg i sawl aelod fod y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion yn       ymarfer sy’n cael ei gyrru gan ystyriaethau ariannol yn hytrach na            gwelliannau addysgol.

           

            Oherwydd bod yr ysgolion uwchradd yn hen adeiladau nad ydynt yn addas            ar gyfer darparu pynciau technegol iawn megis gwyddoniaeth ac yn creu      anfantais i’r disgyblion hynny sydd ag angen brys am safonau addysgol          uchel o ran y dysgu a’r cymhorthion a’r amgylchedd dysgu, beth yw’r       cynlluniau ar gyfer Moderneiddio’r Ysgolion Uwchradd?’

 

Ymatebodd y Deilydd Portffolio Addysg, Ieuenctid, Llyfrgelloedd a Diwylliant fod y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion yn seiliedig ar Strategaeth Addysg Ynys Môn. Mae’r strategaeth wedi ei thrafod yn eang a chynhaliwyd trafodaeth yn y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a’r Pwyllgor Gwaith yn dilyn hynny. Mae’r gyrwyr dros newid wedi eu nodi’n glir o fewn y Strategaeth:- 

 

·      gwella addysg a safonau cyrhaeddiad; mae pwyslais clir ar sicrhau capasiti arweinyddiaeth ac arwain sy’n dylanwadu’n uniongyrchol ar brofiadau disgyblion;

·      lleihau nifer y lleoedd gwag er mwyn gwneud defnydd effeithiol ac effeithlon o adnoddau;

·      lleihau cost y pen disgyblion er mwyn sicrhau cydraddoldeb ar draws yr ysgolion;

·      capasiti arweinyddiaeth a rheoli;

·      cynllunio ar gyfer y dyfodol;

·      ehangu’r defnydd o adeiladau ysgol o fewn y gymuned;

·      gofal plant a chyfleuster cymunedol ar gyfer rhieni a disgyblion hŷn;

·      darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog;

·      darpariaeth meithrin;

·      darpariaeth ôl-16;

·      sicrhau bod adeiladau ysgolion yn addas i’r diben;

 

Roedd y Deilydd Portffolio yn derbyn fod stoc ysgolion uwchradd y Sir yn heneiddio fel y mae’r ysgolion cynradd; mae pob ysgol uwchradd o fewn Band A, B neu C o'r Rhaglen Moderneiddio sef Cynllun Moderneiddio Ysgolion 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru. Nododd fod y strategaeth hefyd yn nodi y gellid rhoi ystyriaeth i fodelau dysgu gydol oes fel opsiynau posibl ar gyfer rhai dalgylchoedd. Mae £18m hefyd wedi’i glustnodi o dan y cynllun hwn o fewn Band B y Rhaglen Moderneiddio sy’n rhannol tuag ar gyfer y Chweched Dosbarth. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Redmond mai’r rheswm iddo gyflwyno’r cwestiwn i’r Cyngor oedd gan ei fod wedi codi cwestiynau’r llynedd o ran y ddarpariaeth o gyfleusterau Gwyddoniaeth yn Ysgol Uwchradd Caergybi.

 

·           Cyflwynwyd – y cwestiwn canlynol ar rybudd gan y Cynghorydd Shaun Redmond i’r Deilydd Portffolio Cyllid:-

 

           Gan fod y Cyngor yn parhau i weithredu mesurau i dorri costau, pa gamau

            ydych chi’n eu cymryd i sicrhau bod dyledwyr – p’un a ydynt yn sefydliadau,          yn fusnesau neu’n unigolion yn cael eu herio i dalu’r arian hwn yn ôl i’r             Cyngor?’

 

Ymatebodd y Deilydd Portffolio Cyllid gan ddweud fod y Cyngor yn gwneud pob ymdrech angenrheidiol, gyfreithlon, i sicrhau bod unrhyw ddyled yn cael ei hadennill. Wrth ddewis pa gamau i’w cymryd bydd y Cyngor yn ystyried maint ac oedran y ddyled ac amgylchiadau ariannol a phersonol y dyledwr. 

 

Holodd y Cynghorydd Redmond pan na heriwyd unigolyn sydd wedi bod mewn dyled o £17k i’r Cyngor ers nifer o flynyddoedd. Awgrymodd y Cadeirydd y dylid delio  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Rhybudd o Gynnig yn unol â Rheol 4.1.13.1 o'r Cyfansoddiad

·      Derbyn Rhybudd o Gynig gan y Cynghorwyr K P Hughes a Bryan Owen :-

 

‘Bod y Cyngor hwn yn cefnogi mewn egwyddor, ac yn amodol ar ganlyniad y prosesau statudol perthnasol, drigolion Llanfachraeth yn eu hymdrechion i ostwng y cyfyngiad cyflymder drwy’r pentref o 30mya i 20mya.’

 

Derbyn y Rhybuddion o Gynigiad isod gan y Cynghorwyr Bryan Owen a Shaun Redmond :-

 

1.     Rhybudd o Gynigiad yw hwn yn gofyn i aelodau’r Cyngor wrthod argymhelliad y swyddogion i beidio ag ariannu ysgolion yn ôl cost lawn yr holl bwysau cyllidebol y byddant yn eu hwynebu yn 2019/20.

 

Gofynnir i’r Cyngor Llawn gefnogi eu cyllido’n llawn er mwyn cwrdd â’r pwysau ariannol a fydd arnynt yn 2019/20.

 

2.     Rhybudd o Gynigiad yw hwn yn gofyn i aelodau’r Cyngor gefnogi cadw’r holl staff dysgu yn holl ysgolion Ynys Môn am weddill cyfnod y Weinyddiaeth hon – hyd at 2022.

 

Yn ychwanegol at hyn, bod yr aelodau’n cefnogi penodi i’r holl swyddi dysgu mewn modd sy’n gymesur â’r lefelau a argymhellir yn ôl niferoedd disgyblion yn ystod yr un cyfnod.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·           Cyflwynwyd – y Rhybudd o Gynigiad gan y Cynghorwyr K P Hughes a Bryan Owen:-

 

           ‘Bod y Cyngor hwn yn cefnogi mewn egwyddor, ac yn amodol ar ganlyniad y

            prosesau statudol perthnasol, drigolion Llanfachraeth yn eu hymdrechion i

     ostwng y cyfyngiad cyflymder drwy’r pentref o 30mya i 20mya.’

 

Dywedodd y Cynghorydd K P Hughes ei fod wedi derbyn deiseb gan drigolion Llanfachraeth yn cynnwys 310 o lofnodion gan oedolion a 26 gan blant mewn perthynas â phryderon bod damwain ddifrifol yn debygol o ddigwydd o ganlyniad i oryrru eithafol drwy’r pentref. Dywedodd, yn ystod prawf cyflymder a wnaed drwy'r pentref, y cyflymder uchaf a gofnodwyd oedd 62mya ar gyfer ceir a 47mya ar gyfer loriau. Yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf mae 4 o gerbydau wedi cael damweiniau traffig ac mewn 2 o'r achosion hynny, roedd angen i’r gwasanaethau brys fynychu. Nododd y Cynghorydd Hughes fod yr Adran Briffyrdd yn ymwybodol o’r pryderon lleol ac eu bod wedi mynychu cyfarfod â chynrychiolwyr o’r pentref, Aelodau Lleol, yr Heddlu, Aelodau Seneddol ac roedd y Deilydd Portffolio Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff hefyd yn bresennol. Nododd hefyd nad oedd yr Aelod Cynulliad yn gallu mynychu’r cyfarfod ond ei fod wedi bod mewn cysylltiad â’r gymuned leol mewn perthynas â’r mater hwn. Mynegodd y safbwynt nad oedd y ffordd drwy Llanfachraeth yn ddigonol i ymdopi â’r traffig sy’n teithio drwy’r pentref. Yn dilyn y cyfarfod, roedd pawb a oedd yn bresennol yn gytûn bod angen mynd i’r afael â’r mater o oryrru drwy’r pentref. Mynegodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod yn fodlon hyfforddi unigolion o’r pentref i ddefnyddio monitor cyflymder (gwn cyflymder) fel y maent wedi’i wneud mewn pentrefi eraill; fodd bynnag, nid yw’r cynnig wedi’i dderbyn. Bu’r Cynghorydd Hughes hefyd dynnu sylw at dair congl ddall yn y pentref a’r ffaith nad yw lorïau yn gallu pasio ei gilydd heb fynd ar y pafin sy’n achosi perygl i gerddwyr a phlant sy’n cerdded adref ar ôl cael eu gollwng gan y bws ysgol. Yn fwy na hynny, dywedodd y Cynghorydd Hughes fod Gweinidog Llywodraeth Cymru sydd â chyfrifoldeb am Drafnidiaeth yn gefnogol o barthau 20mya o fewn cymunedau lleol.            

 

Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Bryan Owen. 

 

Ymatebodd y Deilydd Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo ei fod yn ymwybodol o’r traffig ym mhentref Llanfachraeth ond dywedodd fod yr holl bentrefi ar yr ynys yn profi problemau traffig. Dywedodd fod cais wedi’i dderbyn gan yr Adran Briffyrdd ar gyfer cyfyngiad cyflymder 20mya ar yr A5025 yn Llanfachraeth. Nododd ymhellach, petai’r prosiect Wylfa Newydd wedi mynd rhagddo, ei fod yn cael ei ragweld y byddai ffordd osgoi wedi cael ei hadeiladu ar gyfer Llanfachraeth. Cadarnhaodd y gall yr Awdurdod Priffyrdd osod cyfyngiad cyflymder 20mya drwy bentrefi neu dwmpathau cyflymder lle mae’n ystyried hynny’n briodol o dan Adran 84 Deddf Traffig y Ffyrdd. Byddai proses gyfreithiol yn cael ei chynnal cyn gosod y cyfyngiad cyflymder o 20mya drwy bentref a petai unrhyw wrthwynebiadau’n dod i law byddai angen i Bwyllgor Cynllunio a Gorchmynion y Cyngor  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Cyflwyno Deisebau

Nodi fod dwy ddeiseb wedi eu derbyn yn unol â Pharagraff 4.1.11 o’r Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod tair deiseb wedi eu derbyn fel a ganlyn:-

 

·      Deiseb wedi’i derbyn gan drigolion Llanddaniel yn cynnwys 57 o lofnodion mewn perthynas â materion parcio – deiseb wedi ei hanfon ymlaen at y Deilydd Portffolio Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff a’r Pennaeth Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff;

·      Deiseb wedi’i derbyn gan drigolion Bryngwran yn cynnwys 107 o lofnodion yn nodi bod angen i Lôn Fferm Bryngwran gael ei mabwysiadu gan y Cyngor Sir – deiseb wedi’i hanfon ymlaen at y Deilydd Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo a’r Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo;

·      Deiseb wedi’i derbyn gan drigolion Llanfachraeth yn cynnwys 336 o lofnodion mewn perthynas â’r cais i ostwng y cyfyngiad cyflymder drwy’r pentref o 30mya o 20mya - deiseb wedi’i hanfon ymlaen at y Deilydd Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo a’r Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo;  

 

7.

Adroddiad Blynyddol Arweinydd 2018/19 pdf eicon PDF 55 KB

Ystyried Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor yn unol â pharagraff 4.1.11 o’r Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor ar gyfer 2018/2019.

 

Darparodd Arweinydd y Cyngor grynodeb o’r cynnydd a wnaed yn y flwyddyn a aeth heibio, fel a ganlyn:-

 

·      Mae newyddion diweddar ynghylch gohiriad prosiect Wylfa Newydd wedi amlygu pwysigrwydd y datblygiad. Er y newyddion hyn, parhawyd i weithio er lles Ynys Môn gan gymryd rhan yn y broses cynllunio a chyflwyno tystiolaeth i warchod buddiannau'r Ynys gyda’r cytundeb 106 yn dystiolaeth o’n cyflawniad o ran lliniaru. Parheiru i bwyso ar y llywodraethau yng Nghaerdydd a Llundain i wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau datblygiad Wylfa Newydd.

·      Mae’r gwaith Cynllunio Lle wedi symud ymlaen gryn dipyn mewn cydweithrediad â Medrwn Môn. Mae’r ardaloedd cychwynnol wedi dechrau ar y gwaith o adnabod eu blaenoriaethau er mwyn creu cymunedau cryf a llewyrchus.

·      Mae trawsnewid gwasanaethau wedi parhau yn flaenoriaeth ac mae’n bosib bellach i drigolion Ynys Môn wneud mwy o ddefnydd o’r we wrth ddelio gyda’r Cyngor.

·      Agorwyd Ysgol Gynradd newydd Santes Dwynwen ac mae’r drafodaeth wedi cychwyn ar ddyfodol addysg ôl-16 ynghyd â chydweithio gyda GwE, Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau eraill er mwyn sicrhau’r cyfleoedd gorau i’n Hathrawon a’n Prifathrawon. Mae’r awdurdod wedi derbyn adroddiadau da gan Estyn ar ein hysgolion ac nid oes yr un ysgol ‘goch’ ym Môn.

·      Mae gwaith wedi parhau i sicrhau cydweithio effeithiol â sefydliadau partner h.y. Coleg Menai, Bwrdd Iechyd, CSSIW, Partneriaeth Ynys Môn a Gwynedd, Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol;

·      Agorwyd Hafan Cefni yn Llangefni sydd wedi rhoi cyfle i bobl gael byw yn

annibynnol;

·      Cydweithio gyda pherchnogion tai gwag er mwyn dod â nhw yn ôl i ddefnydd. Tai Cymdeithasol newydd yn cael eu datblygu yng Nghaergybi a Moelfre;

·      Cafodd nifer o bobl ifanc y cyfle i weithio i’r Cyngor dros yr haf diwethaf fel rhan o’r cynllun Denu Talent gyda rhai o’r rhain yn mynd ymlaen i weithio i’r Cyngor.

·      Parhau i fynegi gwrthwynebiad y Cyngor i beilonau

·      Ailgylchu – hwn oedd yr awdurdod gorau yng Nghymru gyda 72% o wastraff yn cael ei ailgylchu.

 

Rhoddwyd cyfle i’r Cyngor ofyn cwestiynau i’r Arweinydd am gynnwys yr Adroddiad Blynyddol.  

 

Mynegodd y Cynghorydd R Ll Jones fod angen i’r Cyngor hyrwyddo newid hinsawdd ac i weithio gyda Llywodraeth Cymru a’r Llywodraeth Ganolog ar lefel leol er mwyn cyflawni rhaglen Newid Hinsawdd y DU yng Nghymru. Ymatebodd Arweinydd y Cyngor fod gan y Cyngor Bolisi Effeithlonrwydd Ynni a bod targedau wedi eu gosod o fewn y polisi. Mae’r holl Ysgolion 21ain Ganrif ar yr Ynys yn cydymffurfio â safonau BREEAM sy’n nodi fod angen i ysgolion gydymffurfio â safonau effeithlonrwydd ynni. Mae’r Adran Dai hefyd yn mesur effeithlonrwydd ynni o fewn y stoc tai cymdeithasol ac mae’r systemau goleuadau yn Swyddfeydd y Cyngor wedi eu haddasu er mwyn lleihau’r defnydd o ynni. Mae cerbydau trydan ymysg rheolaeth fflyd yr Awdurdod. 

 

Nododd y Cynghorydd Peter Rogers fod angen i blant gael y dechrau gorau posib mewn bywyd. Nododd fod angen cymorth ac arweiniad ar deuluoedd amddifad. Cytunodd Arweinydd y Cyngor y dylai pob plentyn a pherson ifanc gael  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Strategaeth Gyfalaf a Rhaglen Gyfalaf 2019/20 i 2021/22 pdf eicon PDF 872 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151mewn perthynas â’r uchod.

 

Adroddodd y Deilydd Portffolio Cyllid bod Cod Darbodus diwygiedig CIPFA, Medi 2017 wedi cyflwyno’r gofyniad bod rhaid i bob awdurdod gynhyrchu strategaeth gyfalaf. Mae’n rhaid i’r strategaeth hon osod allan y cyd-destun tymor hir lle caiff penderfyniadau ar wariant a buddsoddiadau cyfalaf eu gwneud. Diben y gofyniad hwn yw sicrhau bod awdurdodau yn gwneud penderfyniadau cyfalaf a buddsoddiadau yn unol ag amcanion y gwasanaethau a’u bod yn rhoi ystyriaeth wirioneddol i stiwardiaeth, gwerth am arian, doethineb ariannol, cynaladwyedd a fforddiadwyedd. Mae’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ers 2016/17, wedi cynhyrchu Strategaeth Gorfforaethol gadarn i arwain y Rhaglen Gyfalaf.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2019/2020 – 2021/2022.

 

 

9.

Adroddiad Blynyddol Cadeirydd y Pwyllgor Safonau 2018/19 pdf eicon PDF 30 MB

Cyflwyno adroddiad gan Mr Michael Wilson, Cadeirydd Annibynnol y Pwyllgor Safonau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2018/19 gan Mr Michael Wilson, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau. Bu Mr Wilson grynhoi cyraeddiadau’r Pwyllgor Safonau yn erbyn ei Raglen Waith 2018/19 fel y nodir yn yr atodiad ynghlwm â’r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·           Nodi’r Rhaglen a ddarparwyd gan y Pwyllgor Safonau rhwng Ebrill 2018 a Mai 2019 y ATODIAD A. 

 

·           Cymeradwyo Rhaglen Waith y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2019/2020 fel y’i hamlinellwyd yn ATODIAD B.

 

10.

Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Sgriwtini 2018/19 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan Gadeiryddion y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr Adroddiad Trosolwg a Sgriwtini blynyddol ar gyfer 2018/19 gan Gadeiryddion y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio. 

 

Adroddodd y Cynghorydd G O Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio fod y Cadeiryddion Sgriwtini wedi ymwneud â datblygu blaen raglenni gwaith y ddau Bwyllgor Sgriwtini. Nodwyd fod angen penodi Pencampwr Sgriwtini i hyrwyddo’r swyddogaeth trosolwg a sgriwtini o fewn y Cyngor yn ogystal â gyda phartneriaid allanol yr Awdurdod.  

 

PENDERFYNWYD:-

 

·      Cymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Sgriwtini ar gyfer 2018/19;

·      Nodi’r cynnydd parhaus a wnaed wrth weithredu ein siwrnai gwella Sgriwtini yn lleol a’r effaith mae’n ei gael ar arferion;

·      Penodi Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol fel y Pencampwr Sgriwtini ar gyfer y cyfnod Mai 2019 i Mai 2020.   

 

 

11.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu 2018/19 pdf eicon PDF 112 KB

Cyflwyno adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar 23 Ebrill, 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar gyfer 2018/19 gan y Cynghorydd Peter Rogers, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar gyfer 2018/19.

12.

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Adroddiad Blynyddol 2018/19 pdf eicon PDF 33 KB

Cyflwyno adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer 2018/19 gan y Cynghorydd Robert Ll Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r materion a ystyriwyd gan y Pwyllgor yn ystod 2018/19.

 

13.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 17 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-

 

“Penderfynwyd o dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

 

14.

Gemau'r Ynysoedd - Cais i Warantu Costau'r Gemau

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Prif Weithredwr mewn perthynas â’r uchod.

 

Croesawodd y Cadeirydd Mr Gareth Parry, Cadeirydd Pwyllgor Cais Gemau’r Ynysoedd 2025 i’r cyfarfod. 

 

Rhoddodd Mr Parry gyflwyniad manwl i’r Cyngor am gefndir Cais Gemau’r Ynysoedd i gynnal y Gemau yn 2025. Cynhaliwyd sesiwn cwestiwn ac ateb yn dilyn y cyfarfod.

 

Gadawodd Mr Parry y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a ddilynodd.

 

Adroddodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod cais wedi’i dderbyn i’r Cyngor warantu’r gost o gynnal Gemau’r Ynysoedd yn 2025. Yn wreiddiol, gwnaeth Pwyllgor Bid Ynys Môn gais i Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn 2018 er mwyn iddynt ystyried cyfrannu £300k tuag at y gost o gynnal Gemau’r Ynysoedd yn 2025. Nododd y cais fod Pwyllgor y Bid mewn sefyllfa freintiedig sef bod penderfyniad amodol wedi cael ei wneud iddynt gynnal Gemau’r Ynysoedd Rhyngwladol yn 2025 ac y byddai hyn yn denu miloedd o ymwelwyr i’r Ynys. Nododd yr ohebiaeth hefyd y byddai Llywodraeth Cymru yn rhoi arian cyfatebol i unrhyw arian a roddir gan Ynys Môn a fod y Pwyllgor hefyd yn hyderus o gael mynediad i ffynonellau eraill o gefnogaeth ariannol. O ganlyniad, penderfynodd yr Ymddiriedolaeth Elusennol gefnogi’r cais, mewn egwyddor, gydag amodau penodol, gan gynnwys cael gweld Cynllun Busnes llawn er mwyn sicrhau priodoldeb gwariant yr arian elusennol. Yn Awst 2018, gofynnodd Cadeirydd Pwyllgor BidYnys Môn a fyddai’r Ymddiriedolaeth Elusennol yn cytuno i warantu’r gost o gynnal y gemau.     

 

Dywedodd y Deilydd Portffolio Cyllid fod angen i Adroddiad Blynyddol ar gynnydd Bwrdd Gemau’r Ynysoedd Ynys Môn gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith. Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts fod angen i’r Adroddiad Blynyddol hefyd gael ei ystyried gan y Pwyllgor Sgriwtini.

 

Nododd y Cadeirydd ar y pwynt hwn, gan fod y Pwyllgor bellach wedi para am dair awr, yn unol â pharagraff 4.1.10 o Gyfansoddiad y Cyngor bod angen gwneud penderfyniad gan mwyafrif yr Aelodau hynny o’r Pwyllgor sy’n bresennol i allu parhau â’r cyfarfod. PENDERFYNWYD y dylai’r cyfarfod barhau. 

 

Yn unol â pharagraff 4.1.18.4 o’r cyfansoddiad fe ofynnodd y nifer angenrheidiol o aelodau am gael pleidlais gofnodedig ar yr argymhelliad fel y’i nodir uchod.   

 

Cafwyd pleidlais gofnodedig fel â ganlyn:-

 

Cefnogi’r argymhellion o fewn yr adroddiad:-

 

Cynghorwyr Lewis Davies, R Dew, John Griffith, Richard Griffiths, Glyn Haynes, K P Hughes, T Ll Hughes MBE, Vaughan Hughes, Llinos Medi Huws, Carwyn Jones, Eric W Jones, Richard Owain Jones, G O Jones, R Meirion Jones, Alun W Mummery, Bob Parry OBE FRAgS, Dylan Rees, Alun Roberts, Dafydd Roberts, J A Roberts, Margaret M Roberts, Nicola Roberts, Dafydd Rhys Thomas, Ieuan Williams a Robin Williams.             CYFANSWM 25

 

 

Yn erbyn yr argymhellion o fewn yr adroddiad:-

 

Cynghorwyr Robert Ll Jones, Bryan Owen, Shaun Redmond a Peter S Rogers.

                                                                                                                        CYFANSWM 4

 

Atal y bleidlais:                                                                                           Dim

 

 

PENDERFYNWYD fod y Cyngor yn cytuno i warantu’r Gemau ond gydag amodau penodol:-

 

·      Bod yr ymrwymiad i warantu’r Gemau yn amodol ar Bwyllgor Bid Ynys Môn yn derbyn £400k o gyllid gan Llywodraeth Cymru;

·      Bod y Cyngor  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 14.