Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cadeirydd

Ethol Cadeirydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn am 2019/20.

 

(Cyfeirir yr Aelodau at y ddogfen ‘Trefn y Gweithgareddau’ ar gyfer ethol Cadeirydd y Cyngor Sir a ddosberthir yn y cyfarfod).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Margaret Murley Roberts yn Gadeirydd y Cyngor Sir ar gyfer 2019/20.

 

Wrth dderbyn y fraint o gael ei phenodi, bu’r Cynghorydd Roberts sicrhau’r Cyngor y byddai’n gwneud pob ymdrech i gyflawni ei dyletswyddau fel Cadeirydd hyd ei gallu. Diolchodd i’w rhagflaenydd, y Cynghorydd Dylan Rees, am y ffordd urddasol ac anrhydeddus yr oedd wedi cyflawni ei ddyletswyddau dinesig fel Cadeirydd y Cyngor Sir. 

 

Bu’r Cyn-gadeirydd, y Cynghorydd Dylan Rees ddiolch i’r holl Aelodau a Swyddogion am eu cymorth yn ystod ei gyfnod yn y swydd ac yn enwedig i Mrs Carys Bullock, Mrs Janette Jones a Mr Chris Davies o’r Gwasanaethau Democrataidd ynghyd â Mr J Huw Jones, Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd. Dymunodd ddiolch i’w wraig Liz am ei chymorth a cyfeiriodd at y fraint a gafodd ei wraig ac yntau o fynychu gwahanol seremonïau a chyngherddau ledled yr Ynys. Rhoddodd y Cynghorydd Rees grynodeb o'i uchafbwyntiau yn ystod ei flwyddyn fel Cadeirydd y Cyngor Sir gan nodi’n benodol Sul y Cadeirydd yng Nghapel Moreia, Llangefni a’r Gyngerdd Elusennol a gynhaliwyd yn Ysgol Gyfun, Llangefni. Cyfeiriodd ymhellach at y daith gerdded elusennol ar hyd llwybr arfordirol Ynys Môn pryd cafwyd cyfle hefyd i glirio chewch o draethau Ynys Môn ar hyd y ffordd. Dywedodd fod cyfanswm o dros £10,400 wedi’i gasglu tuag at ei elusen dewisedig, Hosbis Dewi Sant, yn ystod ei gyfnod yn y swydd.    

 

 

2.

Is-gadeirydd

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn am 2019/20.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Glyn Haynes yn Is-gadeirydd y Cyngor Sir ar gyfer 2019/20. 

 

Diolchodd y Cynghorydd Haynes i’w gyd-aelodau am y fraint a dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Cadeirydd ac at ei chefnogi gyda’i dyletswyddau dros y flwyddyn i ddod.

3.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

4.

Cyhoeddiadau

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd neu’r Prif Weithredwr ac unrhyw sylwadau terfynol am ei gyfnod yn y swydd gan y Cadeirydd y mae ei dymor yn dod i ben.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

5.

Rhaglen Cyfarfodydd y Cyngor Sir ar gyfer 2019/20

Cymeradwyo’r rhaglen isod o gyfarfodydd y Cyngor Sir ar gyfer y flwyddyn i ddod :-

 

  10 Medi, 2019                               -   2.00 o’r gloch yp

 29 Hydref, 2019 (Arbennig)        -   2.00 o’r gloch yp

  10 Rhagfyr, 2019                          -   2.00 o’r gloch yp

  25 Chwefror, 2020                       -   2.00 o’r gloch yp

  Mai 2020 (Cyfarfod Blynyddol)  -   dyddiad i’w gadarnhau 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhaglen ganlynol o gyfarfodydd y Cyngor Sir ar gyfer y flwyddyn i ddod:-

 

·      10 Medi, 2019                                                     -      2.00 pm

·      29 Hydref, 2019 (Arbennig)                            -      2.00 pm

·      10 Rhagfyr, 2019                                               -      2.00 pm

·      25 Chwefror, 2019                                             -     2.00 pm

·      Mai 2020 (Cyfarfod Blynyddol) – dyddiad i’w gadarnhau

 

6.

Dirprwyaeth gan yr Arweinydd/Aelodaeth y Pwyllgor Gwaith

Yn unol â Pharagraff 4.1.1.2 y Cyfansoddiad, yr Arweinydd i roi gwybod enwau’r Cynghorwyr a ddewiswyd i fod yn Aelodau’r Pwyllgor Gwaith, gan gynnwys eu Portffolio.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Pharagraff 4.1.1.2 y Cyfansoddiad, nododd yr Arweinydd enwau’r

Cynghorwyr a ddewiswyd i fod yn Aelodau’r Pwyllgor Gwaith, gan gynnwys eu

Portffolio:-

 

Y Cynghorydd Richard Dew gyda chyfrifoldeb am y Portffolio Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd.

Y Cynghorydd Llinos M Huws (Arweinydd) gyda chyfrifoldeb am y Portffolio Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Y Cynghorydd Carwyn Jones gyda chyfrifoldeb am y Portffolio Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd.

Y Cynghorydd R Meirion Jones gyda chyfrifoldeb am y Portffolio Addysg, Ieuenctid, Llyfrgelloedd a Diwylliant.

Y Cynghorydd Alun Mummery gyda chyfrifoldeb am y Portffolio Tai a Chefnogi Cymunedau.

Y Cynghorydd Bob Parry OBE FRAgS gyda chyfrifoldeb am y Portffolio Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff.

Y Cynghorydd Dafydd R Thomas gyda chyfrifoldeb am y Portffolio Corfforaethol.

Y Cynghorydd Ieuan Williams (Dirprwy Arweinydd) gyda chyfrifoldeb am y Portffolio Trawsnewid a’r Iaith Gymraeg.

Y Cynghorydd Robin Williams gyda chyfrifoldeb am y Portffolio Cyllid.

 

 

7.

Ethol Cadeirydd ar gyfer y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd am 2019/20

Ethol Cadeirydd yn unol â Pharagraff 3.4.12.3 y Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Pharagraff 3.4.12.3 y Cyfansoddiad, PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Robert Llewelyn Jones yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd am 2019/20.

 

 

8.

Cadarnhau'r Cynllun Dirprwyo

Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau’r rhan honno o'r Cynllun Dirprwyo y mae’r

Cyfansoddiad yn nodi mai mater i'r Cyngor ydyw i’w chytuno (fel y nodir ym

Mharagraff 3.2 o'r Cyfansoddiad).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau unrhyw rannau o’r Cynllun Dirprwyo y mae’n rhaid i’r Cyngor, yn unol â’r Cyfansoddiad, gytuno arnynt fel y nodir ym Mharagraff 3.2 y Cyfansoddiad.

 

9.

Cydbwysedd Gwleidyddol pdf eicon PDF 104 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried – adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar drefniadau cydbwysedd gwleidyddol y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·           Cadarnhau’r trefniadau cydbwysedd gwleidyddol a nifer y seddau a ddyrannwyd i bob un o’r Grwpiau yn unol â Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.

·           Bod Arweinyddion y Grwpiau yn rhoi gwybod cyn gynted ag sy’n bosibl i’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd os oes unrhyw newidiadau i aelodaeth y Grwpiau ar Bwyllgorau.

 

 

 

10.

Cyrff Allanol pdf eicon PDF 89 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried – adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn gofyn am gadarnhau’r rhestr o benodiadau a wnaed i gyrff allanol.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau’r penodiadau fel y’u nodir yn yr atodiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor.

 

11.

Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol- Fframwaith ar gyfer Taliadau i Aelodau yn 2019/20 pdf eicon PDF 435 KB

Cyflwyno adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog 151 ar Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd mewn perthynas â’r uchod.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyriedadroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar y cynllun Cydnabyddiaeth Ariannol i Aelodau ar gyfer 2019/20. 

 

PENDERFYNWYD:-

 

·         Cadarnhau y dylid talu cyflogau uwch i ddeiliaid y 16 swydd isod yn ystod 2019/20:-

 

Cadeiryddy Cyngor

Is-gadeirydd y Cyngor

Arweinydd

Dirprwy Arweinydd

Aelodau Eraill y Pwyllgor Gwaith (7)

Cadeiryddy ddau Bwyllgor Sgriwtini

Cadeiryddy Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu

Arweinydd Grŵp yr Wrth-blaid Fwyaf

 

·      Awdurdodi swyddogion i ddiwygio Rhan 6 Cyfansoddiad y Cyngor i adlewyrchu’r penderfyniadau a wnaed gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

 

12.

Cadarnhau Pwyllgorau

Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau ailbenodi'r strwythur Pwyllgorau canlynol fel y

cyfeirir ato yn Adran 3.4 o Gyfansoddiad y Cyngor, ynghyd â'r canlynol:-

 

• Panel Tâl a Graddfeydd (Is-Bwyllgor o'r Cyngor)

• Panel Penodi i’r Pwyllgor Safonau

• Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG)

• Is-Bwyllgor Indemniadau

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Cadeirydd bod y strwythur Pwyllgorau cyfredol canlynol fel y cyfeirir at hynny yn Adran 3.4 Cyfansoddiad y Cyngor wedi cael ei ail-benodi, ynghyd â’r canlynol:-

 

·         Panel Tâl a Graddfeydd (Is-Bwyllgor o’r Cyngor Sir)

·         Panel Penodiadau’r Pwyllgor Safonau

·         Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol

·         is-Bwyllgor Indemniadau

 

13.

Cynllun Datblygu Aelodau 2019/20 pdf eicon PDF 192 KB

I gyflwyno adroddiad gan  y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 2 Mai 2019. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried - adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 2 Mai, 2019  

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.