Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Council Chamber - Council Offices

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cofnodion pdf eicon PDF 33 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfodydd o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-

 

  10 Medi 2019

  7 Hydref 2019 (Arbennig)

  22 Hydref 2019 (Arbennig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfodydd canlynol o’r Cyngor Sir yn gywir :-

 

·      10 Medi, 2019

·      7 Hydref, 2019 (Arbennig)

·      22 Hydref, 2019 (Arbennig)

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

3.

Derbyn unrhyw ddatganiadau gan y Cadeirydd, yr Arweinydd, neu'r Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau a ganlyn: -

 

  Llongyfarchiadau i'r rheini a fu'n llwyddiannus yn y Ffair Aeaf ym Mona fis diwethaf a hefyd yn Llanfair ym Muallt;

  Llongyfarchiadau i'r Ffermwyr Ifanc o Ynys Môn a gystadlodd yn Eisteddfod Genedlaethol y Ffermwyr Ifanc yn Wrecsam yn ddiweddar;

  Llongyfarchiadau i'r Cynghorydd Dylan Rees a benodwyd yn ddiweddar yn Is-Gadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.

 

Estynnwyd dymuniadau gorau i'r Cynghorydd Peter Rogers am wellhad buan yn dilyn ei lawdriniaeth ddiweddar. Diolchodd y Cadeirydd i staff a defnyddwyr Gerddi Blaen y Coed a Haulfre am addurno Coeden Nadolig y Cyngor Sir yn ardal y dderbynfa.

 

* * * *

Cydymdeimlwyd â Mr Marc Jones, Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn dilyn marwolaeth ei dad yn ddiweddar.

 

Cydymdeimlwyd â Mrs Anwen Davies, Rheolwr Sgriwtini yn dilyn marwolaeth ei thad yn ddiweddar.

 

Cydymdeimlwyd ag unrhyw Aelod o'r Cyngor neu staff a oedd wedi dioddef profedigaeth.

 

Safodd yr Aelodau a'r Swyddogion mewn teyrnged dawel fel arwydd o'u parch a'u cydymdeimlad.

 

4.

Rhybudd o Gynigiad yn Unol â Rheol 4.1.13.1 y Cyfansoddiad

Derbyn y Rhybudd o Gynigiad isod gan y Cynghorydd Robert Llewelyn Jones:-

 

Yn y gorffennol, gorchuddiwyd Ynys Môn gan goed Derw ond erbyn heddiw mae’n un o’r ardaloedd lleiaf coediog yng Nghymru. Rhoddwyd caniatâd i Goedwig Penrhos yng Nghaergybi gael ei throi’n Barc Chwarae ar gyfer Cabannau Gwyliau.

 

Mae angen i ni fel Cyngor wrthdroi’r dirywiad yn ein coetiroedd a chymryd camau pendant i annog plannu mwy o goed ar Ynys Môn.

 

Rydw i’n gofyn am ymgyrch ledled yr ynys gyda phob ysgol a’u disgyblion yn cymryd rhan yn y gwaith  plannu coed ac i’n Cyngor a’n cwmnïau lleol eu noddi.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 Cyflwynwyd – y Rhybudd o Gynigiad isod gan y Cynghorydd Robert Llewelyn Jones: -

 

Yn y gorffennol, gorchuddiwyd Ynys Môn gan goed Derw ond erbyn heddiw mae’n un o’r ardaloedd lleiaf coediog yng Nghymru. Rhoddwyd caniatâd i Goedwig Penrhos yng Nghaergybi gael ei throi’n Barc Chwarae ar gyfer Cabanau Gwyliau.

 

Mae angen i ni fel Cyngor wrthdroi’r dirywiad yn ein coetiroedd a chymryd camau pendant i annog plannu mwy o goed ar Ynys Môn.

Rydw i’n gofyn am ymgyrch ledled yr ynys gyda phob ysgol a’u disgyblion yn cymryd rhan yn y gwaith plannu coed ac i’n Cyngor a’n cwmnïau lleol eu noddi.”

 

Eiliwyd y cynigiad gan y Cynghorydd Bryan Owen.

 

Cynigiodd Arweinydd y Cyngor welliant i baragraff olaf Rhybudd o Gynigiad y Cynghorydd R Ll Jones, sef bod y Cynghorau Tref a Chymuned yn ymwneud â’r gwaith o blannu’r coed. Nododd fod gohebiaeth wedi ei hanfon at bob Cyngor Tref a Chymuned trwy Fforwm Cyswllt y Cynghorau Tref a Chymuned i godi ymwybyddiaeth o fenter Ymddiriedolaeth Coed Cymru i roi coed am ddim i grwpiau cymunedol i’w plannu’n lleol. Dywedodd ymhellach ei bod hi, fel Arweinydd, yn bwriadu mynd ar ôl cyllid cyfalaf a refeniw tymor hir gan Lywodraeth Cymru tuag at brosiect plannu coed ar yr Ynys. Roedd aelodau'r Cyngor yn cefnogi'r angen i fynd i'r afael â'r gostyngiad yn nifer y coetiroedd a’r angen i annog busnesau a chymunedau lleol i gymryd rhan yn y fenter plannu coed.

 

Yn y bleidlais ddilynol fe gafodd y gwelliant i’r Rhybudd o Gynigiadei gario.

5.

Cyflwyno Deisebau

Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â Pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddeisebau.

6.

Cyfansoddiad y Cyngor - Proses Gosod y Gyllideb pdf eicon PDF 63 KB

I ystyried penderfyniad Gweithredol a wnaed gan yr Arweinydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – penderfyniad gweithredol a waned gan yr Arweinydd fel a ganlyn:-

 

‘Bod y Cyngor yn cymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad.’

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad.