Rhaglen a chofnodion

Arbennig, Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Llun, 15fed Gorffennaf, 2019 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

2.

Dogfen Cyflawni Blynyddol 2019/20 pdf eicon PDF 4 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Proffesiwn – Adnoddau Dynol a Thrawsnewid mewn perthynas â’r uchod.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio – Gwasanaethau Corfforaethol fod y Ddogfen Gyflawni Flynyddol yn nodi’r blaenoriaethau dros y deuddeg mis nesaf sydd â chysylltiad â’r dyheadau a’r amcanion sydd yng Nghynllun y Cyngor ar gyfer 2017-2022.  Nododd fod y Ddogfen Gyflawni Flynyddol yn dangos bod yr Awdurdod yn barod i ymafael â’r heriau wrth iddo foderneiddio ei wasanaethau tra’n cadw golwg bob amser ar egwyddorion cynaliadwyedd a chydraddoldeb.  Dywedodd fod pob un o’r amcanion yn y Ddogfen Gyflawni Flynyddol yn bwysig a dygodd sylw at enghreifftiau o’r blaenoriaethau a oedd wedi eu nodi yn yr adroddiad. Cynigiodd fod y Ddogfen Gyflawni Flynyddol ar gyfer 2019/20 yn cael ei chymeradwyo.   

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod y Ddogfen Gyflawni Flynyddol yn nodi’r targedau y mae’r Cyngor am eu cyflawni yn ystod 2019/20 ynghyd â’r weledigaeth i ddarparu’r gwasanaethau gorau posibl ar gyfer etholwyr Ynys Môn. Fe eiliodd hi’r cynnig i gymeradwyo’r Ddogfen Gyflawni Flynyddol ar gyfer 2019/20.

 

Dygodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Prosiectau Mawr a Datblygiad Economaidd sylw at y cynnydd a wnaed gyda phrosiectau economaidd a phrosiectau arloesol ar yr Ynys.

 

Codwyd y prif faterion isod gan Aelodau’r Cyngor:-

 

·           Ni fedr Awdurdodau Lleol gynnal y toriadau blynyddol gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r setliadau ariannol; mae trigolion lleol yn gorfod wynebu codiadau parhaus yn y Dreth Gyngor. Roedd Arweinydd y Cyngor yn cytuno bod y toriadau parhau i setliadau awdurdodau lleol yn annerbyniol ond mae’r awdurdod hwn wedi gallu fforddio darparu gwasanaethau i’r trigolion lleol er gwaethaf yr heriau ariannol;

·           Roedd yr Aelodau’n croesawu’r cymorth ariannol gwerth £495,000 gan yr NDA i helpu i gefnogi Cynllun Adfywio Economaidd Gogledd Ynys Môn er mwyn creu cyfleoedd economaidd newydd ar yr Ynys. Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei bod yn croesawu cyllid yr NDA a dywedodd fod gweithio partneriaethol rhwng y sefydliadau partner yn hanfodol er mwyn denu cyllid ar gyfer prosiectau economaidd;

·           Yr angen am adolygiad llawn o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd rhwng Gwynedd a Môn gan fod y ffiniau datblygu o gwmpas pentrefi yn cyfyngu gormod ac at hynny, nid yw’n hyrwyddo datblygiad economaidd ar yr Ynys.  Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd ac aelod o’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd y gellir adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd os oes angen ond mae’r cynllun yn cael ei adolygu bob blwyddyn; cyflwynir yr adroddiad monitro i’r Cyngor ym mis Hydref;

·           Mynegwyd pryderon am y dyledion y mae’r Cyngor hwn wedi eu dileu. Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid bod y rhan fwyaf o’r dyledion sy’n cael eu dileu yn ddyledion hanesyddol ac y byddai mynd ar ôl rhai o’r dyledion hyn wedi bod yn afrealistig o gostus.        

 

Ar bleidlais, cafodd y Ddogfen Gyflawni Flynyddol ar gyfer 2019/20 fel y cafodd ei chyflwyno, ei chymeradwyo.