Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni waned unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

2.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 122 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriwyd, a phenderfynwyd o dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, i gau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y cai gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd a gyflwynwyd.

3.

Penodiadau Staff - Penodi Prif Weithredwr

Penderfynu a ddylid cadarnhau argymhellion y Pwyllgor Penodiadau a gynhaliwyd ar 22 Awst, 2019.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i argymhelliad y Pwyllgor Penodiadau yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Awst, 2019 ynglyn â phenodi Prif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn.

 

Penderfynwyd cadarnhau argymhelliad y Pwyllgor Penodiadau yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Awst, 2019 bod Mrs Annwen Morgan yn cael ei phenodi yn Brif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn.