Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol Wedi’i Ffrydio’n Fyw (Ar hyn o bryd, nid oes modd i’r cyhoedd fynychu)

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cofnodion pdf eicon PDF 783 KB

Cyflwyno, i'w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2021.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 9 Mawrth yn gywir.

2.

Datganiadau o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb

3.

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu'r Prif Weithredwr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau canlynol:-

·      Diolchodd y Cadeirydd i staff y Cyngor am eu gwaith diflino i gynnal gwasanaethau’r Cyngor yn ystod y cyfnod heriol ers dechrau’r pandemig. Er bod y sefyllfa wedi gwella o safbwynt y coronafeirws mae’n bwysig bod pawb yn dilyn y canllawiau cenedlaethol. Yr oedd hefyd yn dymuno diolch i bartneriaid allweddol y Cyngor am yr holl waith y maent wedi’i gyflawni ar yr Ynys.

·      Bu i’r Cadeirydd longyfarch a chroesawu’r aelodau newydd o’r Cyngor Sir -

Y Cynghorydd Jeff Evans sydd wedi’i ethol i gynrychioli ward Caergybi a’r Cynghorydd Gary Pritchard sydd wedi’i ethol i gynrychioli ward Seiriol.

·      Estynnwyd llongyfarchiadau i Mr Mark Drakeford ar gael ei ail-ethol yn Brif Weinidog Cymru.

·      Estynnwyd llongyfarchiadau i Mr Rhun ap Iorwerth ar gael ei ail-ethol i gynrychioli etholaeth Ynys Môn yn y Senedd.

·      Estynnwyd llongyfarchiadau i Mrs Heledd Fychan ar ennill sedd ranbarthol i gynrychioli Canol De Cymru yn y Senedd. Mae Mrs Heledd Fychan yn ferch i’r Cynghorydd Vaughan Hughes.

·      Estynnwyd llongyfarchiadau i Westy Lastra, Amlwch ar ennill y wobr Best Small Hotel Award 2021.

·      Roedd y Cadeirydd hefyd yn dymuno diolch i staff y Gwasanaeth Etholiadol am eu gwaith caled dan amgylchiadau anodd.

*         *          *          *

·      Bu i’r Cadeirydd longyfarch Mr Fôn Roberts ar gael ei benodi’n Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yn ddiweddar.

·      Bu i’r Cadeirydd hefyd longyfarch Mr Christian Branch ar gael ei benodi’n Bennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd yn ddiweddar.

 

*          *          *          *

·      Estynnwyd cydymdeimlad i deulu’r Cyn-Gynghorydd Sir Mr John Arwel Edwards a fu farw’n ddiweddar.  Roedd Mr Edwards yn cynrychioli ardal Llanfairpwll. 

 

·      Estynnwyd cydymdeimlad i deulu’r Cyn-Gynghorydd Sir Mr Keith Evans a fu farw’n ddiweddar. Roedd Mr Evans yn cynrychioli ardal Porthaethwy ac fe roddodd oes o wasanaeth i Lywodraeth Leol ac roedd hefyd yn gyn-gadeirydd o’r Cyngor Bwrdeistref.

 

·      Estynnwyd cydymdeimlad i Mrs Iola Richards a’i theulu ar golli ei gŵr yn ddiweddar.

 

·      Estynnwyd cydymdeimlad i deulu Mr Trefor Wyn Jones a fu farw’n sydyn yn 55 oed yn dilyn salwch byr. Roedd Mr Jones yn gweithio yng Ngweithdy Canolfan Byron ers 2003.

 

Estynnwyd cydymdeimlad i unrhyw Aelod o’r Cyngor neu Staff a oedd wedi dioddef profedigaeth.

4.

Rhybudd o Gynigiad yn unol â Rheol 4.1.13.1 o'r Cyfansoddiad

Cyflwyno'r Rhybudd o Gynigiad canlynol gan y Cynghorydd Robert G Parry:-

 

Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn dymuno cydnabod y camweinyddiad cyfiawnder sylweddol a ddioddefwyd gan y cyn Gynghorydd Mr Noel Thomas pan y’i cafwyd yn euog o gyfrifyddu anwir, un ar bymtheg mlynedd yn ôl. Hoffai’r Cyngor wahodd Mr Thomas i fynychu’r cyfarfod llawn nesaf er mwyn iddo dderbyn pleidlais ffurfiol o ddiolch am ei wasanaeth ffyddlon fel Cynghorydd Sir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Rhybudd o Gynigiad canlynol gan y Cynghorydd Bob Parry OBE FRAgS:-

 

‘Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn dymuno cydnabod y camweinyddiad cyfiawnder

sylweddol a ddioddefwyd gan y cyn Gynghorydd Mr Noel Thomas pan y’i cafwyd

yn euog o gyfrifyddu anwir, un ar bymtheg mlynedd yn ôl. Hoffai’r Cyngor wahodd

Mr Thomas i fynychu’r cyfarfod llawn nesaf er mwyn iddo dderbyn pleidlais ffurfiol o

ddiolch am ei wasanaeth ffyddlon fel Cynghorydd Sir.’

 

Dywedodd y Cynghorydd Bob Parry OBE FRAgS bod y cyn Gynghorydd Mr Noel Thomas wedi dioddef camweinyddiad cyfiawnder sylweddol oherwydd system gyfrifo TG Swyddfa’r Post, sef Horizon. Fis diwethaf, ar ôl brwydro am 16 mlynedd i adfer ei enw da, cafodd euogfarnau Mr Thomas a 38 is-bostfeistri eraill eu dileu yn y Llys Apêl  yn Llundain. Nododd bod Mr Thomas wedi bod yn aelod lleol poblogaidd a chydwybodol ar gyfer ward Llanfihangel Esceifiog a bod hyn wedi achosi pryder na ellir ei ddychmygu i Mr Thomas a’i deulu. Roedd y Cynghorydd Bob Parry OBE FRAgS yn meddwl y byddai’n briodol gwahodd Mr Thomas i’r cyfarfod llawn nesaf o’r Cyngor Sir unwaith y bydd cyfarfodydd yn ailymgynnull yn Siambr y Cyngor er mwyn iddo dderbyn pleidlais ffurfiol o ddiolch am ei wasanaeth fel Cynghorydd Sir. 

 

Cefnogwyd y Rhybudd o Gynigiad gan y Cynghorydd Bob Parry OBE FRAgS yn unfrydol.

 

PENDERFYNWYD derbyn y cynnig ac i wahodd Mr Noel Thomas i gyfarfod o’r Cyngor Sir pan fydd y cyfarfodydd yn ailymgynnull yn Siambr y Cyngor.

 

5.

Cyflwyno Deisebau

Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â Pharagraff 4.1.11 o'r Cyfansoddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddeisebau.

 

6.

Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor 2020/21 pdf eicon PDF 625 KB

Ystyried Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor yn unol â Pharagraff 4.1.11 o'r Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor ar gyfer 2020/21.

 

Yn gyntaf roedd Arweinydd y Cyngor yn dymuno mynegi’i diolch i staff y Cyngor am eu hymrwymiad a’u gwaith caled i ddiogelu cymunedau lleol ar yr Ynys yn ystod y pandemig covid-19.

 

Amlygodd Arweinydd y Cyngor y cynnydd a gyflawnwyd fel a ganlyn:-

 

·      Ymateb i’r pandemig Covid-19:-

 

·      Mae Medrwn Môn a Menter Môn wedi cefnogi’r Cyngor i ddarparu cefnogaeth i gymunedau lleol gyda thros 900 o wirfoddolwyr yn cymryd o’u hamser i gefnogi’r cynlluniau tro da niferus sydd ar waith;

·      Gweithiodd yr Awdurdod yn agos gyda Banciau Bwyd yr Ynys sydd wedi cynnig gwasanaeth drwy gydol yr argyfwng;

·      Dros gyfnod y Nadolig daeth yr asiantaethau at ei gilydd i gynnig hamperi bwyd, anrhegion a chinio Nadolig i drigolion mewn angen;

·      Mae gweithwyr y cyngor wedi addasu i weithio o’r cartref ac ar ddechrau’r pandemig sefydlwyd llinell ffôn 7 diwrnod o’r wythnos i gefnogi’r bobl fwyaf bregus yn y gymuned;  

·      Sefydlwyd tîm olrhain yn Ynys Môn fel ardal beilot yn dilyn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru. Roedd y gwaith hwn yn hanfodol i ddiogelu cymunedau ar yr Ynys yn ystod yr achosion cyntaf mewn ffatri yn Llangefni;

·      Rhoddwyd system talu grantiau busnesau, cinio ysgol, hunan-ynysu, a thâl gweithwyr gofal yn ei le.

 

·      Gwaith Arferol:-

 

·      Gosodwyd cyllideb eleni gyda’r ail godiad treth Cyngor isaf yng Nghymru;

·      Buddsoddwyd mewn cynllun hyfforddeion, ariannu cynlluniau newid hinsawdd ac arian ychwanegol tuag at dwristiaeth;

·      Fel rhan o gynllun Llywodraeth Cymru agorwyd canolfannau gofal plant yn Ysgol Esceifiog ac Ysgol Tywyn;

·      Mae datblygu tai wedi parhau gyda 21 o gartrefi cymdeithasol newydd wedi’u gosod. Hefyd, prynwyd 18 o gyn dai Cyngor yn ôl i  stoc dai’r Awdurdod. Mae 49 o dai wrthi’n cael eu hadeiladu nawr ar yr ynys ac mae cynlluniau ar waith i droi adeiladau yn ôl i fod yn aelwydydd;

·      Mae’r Awdurdod wedi gweithio drwy  fabwysiadu strategaeth gorfforaethol mewn perthynas â newid hinsawdd. Gwelwyd buddsoddiad trwy osod boeleri a phaneli solar newydd mewn ysgolion, llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden.

 

·      Gwaith Rhanbarthol a Chenedlaethol

 

·      Dywedodd yr Arweinydd ei bod wedi sicrhau llais cryf i Ynys Môn yn ystod trafodaethau cenedlaethol. Mae Arweinyddion o bob cwr o Gymru wedi cyfarfod bron yn wythnosol ers cychwn yr argyfwng er mwyn rhannu pryderon a dylanwadu ar Lywodraeth Cymru. Yn ychwanegol i hyn maent wedi cyfarfod gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru a'r Deyrnas Unedig er mwyn sicrhau bod pryderon lleol yn cael eu hadnabod a bod ymateb amserol gan y Llywodraeth;

·      Cynhaliwyd cyfarfodydd rheolaidd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac mae Arweinwyr y chwe Chyngor yng Ngogledd Cymru wedi cwrdd â Chadeirydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

 

Rhoddwyd cyfle i’r Cyngor holi’r Arweinydd ynglŷn â chynnwys yr Adroddiad Blynyddol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Peter Rogers at y pandemig a nododd ei fod wedi cael effaith arswydus ar bobl, yn enwedig pobl ifanc. Aeth ymlaen i ddweud bod problemau wedi bod â’r system ffôn sydd yn galluogi’r cyhoedd i gysylltu â Swyddfeydd y Cyngor. Ymatebodd y Deilydd Portffolio Busnes Corfforaethol ei fod yn gwerthfawrogi bod  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Adroddiad Blynyddol Cadeirydd y Pwyllgor Safonau pdf eicon PDF 747 KB

Cyflwyno adroddiad gan Mr John R Jones, Cadeirydd Annibynnol y Pwyllgor Safonau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2020/21 gan Mr

John R Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau. Fe wnaeth Mr Jones grynhoi gwaith y Pwyllgor Safonau yn erbyn yr amcanion a nodwyd yn ei Raglen Waith ar gyfer 2021/22 a oedd wedi’u cynnwys fel Atodiad ynghlwm â’r adroddiad. 

 

PENDERFYNWYD :-

 

·         Nodi'r Rhaglen a gyflwynwyd gan y Pwyllgor Safonau rhwng Mai 2020 ac Ebrill 2021 yn ATODIAD A;

·         Cymeradwyo Rhaglen Waith y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2021/2022 fel ag yr amlinellwyd yn ATODIAD B.

 

8.

Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Sgriwtini 2020/21 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan Gadeiryddion y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a'r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr Adroddiad Trosolwg a Sgriwtini ar gyfer 2020/21 gan Gadeiryddion y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio.

 

Adroddodd y Cynghorydd A M Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol bod y Cadeiryddion Sgriwtini wedi datblygu blaen raglenni gwaith y naill Bwyllgor Sgriwtini. Roedd y Cynghorydd G O Jones yn dymuno diolch i’r Paneli Sgriwtini am eu gwaith i gefnogi proses sgriwtini’r Cyngor. Nodwyd bod angen penodi Pencampwr Sgriwtini i hyrwyddo’r swyddogaeth trosolwg a sgriwtini yn y Cyngor ac â phartneriaid allanol yr Awdurdod yn ogystal. 

 

PENDERFYNWYD:-

 

·      cymeradwyo'r Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Sgriwtini ar gyfer 2020/21;

·      nodi’r cynnydd parhaus a wnaed wrth weithredu'r siwrnai i ddatblygu Sgriwtini leol a'r effaith y mae hyn yn ei gael ar ymarfer;

·      penodi Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio yn Bencampwr Sgriwtini ar gyfer y cyfnod Mai 2021 i Mai 2022.

 

9.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd 2020/21 pdf eicon PDF 506 KB

Cyflwyno adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer 2020/21 gan y Cynghorydd Robert Ll Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi'r materion a drafodwyd gan y Pwyllgor yn ystod 2020/21.

 

10.

Datganiad ar y Polisi Trwyddedu am y cyfnod 2021-2026 pdf eicon PDF 909 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd, fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 22 Mawrth 2021.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 22 Mawrth, 2021 i’w dderbyn gan y Cyngor. 

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Datganiad Polisi Trwyddedu ar gyfer 2021/2026.

 

11.

Penderfyniadau Gweithredol a wnaed rhwng Mai 2020-Ebrill 2021 pdf eicon PDF 307 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Weithredwr i’w dderbyn gan y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD nodi’r penderfyniadau a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith, mewn sawl ffordd, yn unol â'r cynllun dirprwyo ac sydd wedi’i gynnwys yng Nghyfansoddiad y Cyngor.