Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd Ethol Cadeirydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn am
2024/25. |
|
Ethol Is-Gadeirydd Ethol Is-Gadeirydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn am 2024/25. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. |
|
Cyhoeddiadau Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd neu'r Prif Weithredwr ac unrhyw sylwadau terfynol gan y Cadeirydd ar ei chyfnod yn y swydd y mae ei thymor yn dod i ben. |
|
Aelodaeth o'r Pwyllgor Gwaith Yn unol â Pharagraff 4.1.1.2.7 y Cyfansoddiad, cael gwybod gan yr Arweinydd enwau’r Cynghorwyr y mae hi wedi eu dewis i fod yn Aelodau o'r Pwyllgor Gwaith, ynghyd â'u cyfrifoldebau Portffolio.
|
|
Ethol Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd Yn unol â Pharagraff 3.4.12.3 y Cyfansoddiad, ethol Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer y flwyddyn sirol.
|
|
Cadarnhau'r Cynllun Dirprwyo Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau'r rhan honno o'r Cynllun Dirprwyo y mae'r Cyfansoddiad yn nodi mai mater i'r Cyngor yw cytuno arno (fel y nodir ym Mharagraff 3.2 o'r Cyfansoddiad).
|
|
Cadarnhau Pwyllgorau Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau ailbenodi'r strwythur Pwyllgorau a ganlyn fel y cyfeirir ato yn Adran 3.4 o Gyfansoddiad y Cyngor, ynghyd â'r canlynol: -
· Panel Penodi i'r Pwyllgor Safonau · Cyngor Ymgynghorol Sefydlog (CYS) · Is-Bwyllgor Indemniadau |
|
Rhaglen Cyfarfodydd Cyffredinol y Cyngor Sir ar gyfer 2024/25 Cymeradwyo'r rhaglen ganlynol o gyfarfodydd y Cyngor Sir ar gyfer y flwyddyn i ddod: -
· 26 Medi 2024 - 2:00 pm · 3 Rhagfyr 2024 - 2:00 pm · 6 Mawrth 2025 - 2:00 pm · Mai 2025 (Cyfarfod Blynyddol) - dyddiad i’w gadarnhau |
|
Trefniadau Cydbwysedd Gwleidyddol yn y Cyngor PDF 148 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth. |
|
Cynrychiolaeth ar Gyrff Allanol PDF 157 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth. |
|
Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol - Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2024/25 PDF 130 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 20 Mawrth 2024. |