Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd, nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cadeirydd ac Is-gadeirydd Cyngor Sir Ynys Môn pdf eicon PDF 189 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro i’r Cyngor ar gyfer ei dderbyn.  

 

PENDERFYNWYD nad oes angen cynnal etholiad i ddewis

Cadeirydd ac Is-gadeirydd ar gyfer y Cyngor ac y bydd Cadeirydd ac Is-gadeirydd presennol y Cyngor yn parhau yn eu rolau am gyfnod estynedig tan y Cyfarfod Blynyddol yn 2021.

 

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Ar ôl datgan diddordeb personol yn Eitem 1, penderfynodd y Cadeirydd a’r is-gadeirydd beidio â chymryd rhan yn y drafodaeth na’r bleidlais.

 

3.

Cyhoeddiadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw gyhoeddiadau.

 

4.

Rhaglen Cyfarfodydd y Cyngor Sir ar gyfer 2020/21

Cymeradwyo’r rhaglen isod o gyfarfodydd y Cyngor Sir ar gyfer y flwyddyn i ddod :-

 

·           29 Hydref, 2020 (Arbennig)                     -            10.30 o’r gloch yb

·           8 Rhagfyr, 2020                                         -               2.00 o’r gloch yp

·           23 Chwefror, 2021                                  -               2.00 o’r gloch yp

·           Mai (Cyfarfod Blynyddol)                        -             dyddiad i’w gadarnhau

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhaglen ganlynol o gyfarfodydd ar gyfer y Cyngor Sir ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod:-

 

·           27 Hydref, 2020 (Arbennig)                          -           10.30 a.m.

·           8 Rhagfyr, 2020                                               -             2.00 p.m.

·           23 Chwefror, 2021                                           -             2.00 p.m.

·           Mai (Cyfarfod Blynyddol)                           -         dyddiad i’w gadarnhau

 

 

5.

Dirprwyaeth gan yr Arweinydd/Aelodaeth y Pwyllgor Gwaith

Yn unol â Pharagraff 4.1.1.2 y Cyfansoddiad, yr Arweinydd i roi gwybod enwau’r Cynghorwyr a ddewiswyd i fod yn Aelodau’r Pwyllgor Gwaith, gan gynnwys eu Portffolio.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â pharagraff 4.1.1.2 o’r Cyfansoddiad, dywedodd yr Arweinydd nad oedd unrhyw newidiadau i Aelodau’r Pwyllgor Gwaith na chynrychiolwyr o ran yr Aelodau Portffolio. 

 

6.

Penderfyniadau Gweithredol rhwng mis Mai2019 a Gorffennaf 2020 pdf eicon PDF 479 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Weithredwr er mwyn i’r Cyngor allu ei dderbyn.

 

PENDERFYNWYD fod y Cyngor Sir yn nodi’r penderfyniadau a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith, drwy ffyrdd amrywiol, yn unol â’r cynllun dirprwyo sydd wedi’i gynnwys yng Nghyfansoddiad y Cyngor Sir.

 

7.

Ethol Cadeirydd ar gyfer y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd am 2020/21

Ethol Cadeirydd yn unol â Pharagraff 3.4.12.3 y Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Pharagraff 3.4.12.3 o’r Cyfansoddiad PENDERFYNWYD y dylid ethol y Cynghorydd Robert Ll Jones yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

 

8.

Cadarnhau'r Cynllun Dirprwyo

Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau’r rhan honno o'r Cynllun Dirprwyo y mae’r Cyfansoddiad yn nodi mai mater i'r Cyngor ydyw i’w chytuno (fel y nodir ym Mharagraff 3.2 o'r Cyfansoddiad).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau’r rhan honno o'r Cynllun Dirprwyo y mae’r

Cyfansoddiad yn nodi mai mater i'r Cyngor ydyw i’w gytuno (fel y nodir ym Mharagraff 3.2 o'r Cyfansoddiad).

 

9.

Cydbwysedd Gwleidyddol pdf eicon PDF 202 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 Cyflwynwyd ar gyfer ei ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar Gydbwysedd Gwleidyddol. 

 

PENDERFYNWYD :-

 

·      Cadarnhau’r trefniadau cydbwysedd gwleidyddol a nifer y seddau a ddyrennir i bob un o’r Grwpiau yn unol â Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989;

·      Bod Arweinyddion Grwpiau yn hysbysu Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd cyn gynted â phosibl os oes unrhyw newidiadau i Aelodaeth Grwpiau ar Bwyllgorau.

 

10.

Cyrff Allanol pdf eicon PDF 554 KB

Cyflwyno addroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd mewn perthynas â phenodiad i Gyrff allanol ei gyflwyno ar gyfer ei ystyried, yn amodol ar welliant bod y Cynghorwyr Richard Griffiths a Dylan Rees yn aelodau o Banel Gweithredol Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru a bod y Cynghorydd Eric Jones yn aelod o Bwyllgor Archwilio Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.  

 

PENDERFYNWYD cytuno ar a chadarnhau’r penodiadau fel y nodwyd yn yr atodiad i’r adroddiad. 

 

11.

Cadarnhau Pwyllgorau

Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau ailbenodi'r strwythur Pwyllgorau canlynol fel y cyfeirir ato yn Adran 3.4 o Gyfansoddiad y Cyngor, ynghyd â'r canlynol:-

 

  Panel Tâl a Graddfeydd (Is-Bwyllgor o'r Cyngor)

  Panel Penodi i’r Pwyllgor Safonau

  Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG)

  Is-Bwyllgor Indemniadau

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Cadeirydd ailbenodi'r strwythur Pwyllgorau canlynol fel y

cyfeirir ato yn Adran 3.4 o Gyfansoddiad y Cyngor, ynghyd â'r canlynol:-

 

• Panel Tâl a Graddfeydd (Is-bwyllgor o'r Cyngor)

• Panel Penodi i’r Pwyllgor Safonau

• Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG)

• Is-bwyllgor Indemniadau