Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu’r Cynghorydd Dylan Rees ddatgan diddordeb personol yn Eitem 3 - Canolfan Addysg y Bont - atgyweirio’r to. Yn dilyn derbyn barn gyfreithiol, roedd modd i’r Cynghorydd Rees gymryd rhan yn y drafodaeth a phleidleisio mewn perthynas â’r eitem.

 

2.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 91 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol –

 

“O dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeëdig.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeedig.”

 

3.

Canolfan Addysg y Bont, Llangefni – Atgyweirio'r To

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo mewn perthynas â’r uchod.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo fod angen gwneud gwaith atgyweirio sylweddol i strwythur y to yng Nghanolfan Addysg y Bont gan ei fod wedi dod i’r amlwg fod rhannau sylweddol o’r to yn anniogel o ganlyniad i ddŵr yn cael mynediad drwy strwythur y to. Mae angen gwneud y gwaith o drwsio’r to fel mater o frys a hynny er mwyn i’r disgyblion allu dychwelyd i’w hysgol cyn gynted â phosibl ac er mwyn atal strwythur yr adeilad rhag dirywio ymhellach.  

 

Rhoddodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo a’r Rheolwr Gwasanaethau Pensaernïol ddiweddariad llafar am y sefyllfa bresennol yng Nghanolfan Addysg y Bont a chyflwynodd yr adroddiad ysgrifenedig a oedd eisoes wedi’i gyflwyno i Aelodau. Adroddodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo ymhellach ar yr opsiynau amgen a oedd yn cael eu hystyried ar gyfer lletya’r disgyblion yn dilyn gwyliau’r haf, tan i’r gwaith o atgyweirio’r to gael ei gwblhau.  

 

Cadarnhawyd fod trafodaethau cyfreithiol o ran atebolrwydd yn cael eu cynnal ar hyn o bryd.

 

Holwyd cwestiynau pellach gan Aelodau a bu Swyddogion ymateb i’r cwestiynau hynny. 

 

Roedd Aelodau’r Cyngor Sir yn gytûn mai llesiant y disgyblion a effeithiwyd gan y gwaith angenrheidiol o atgyweirio’r to yng Nghanolfan Addysg y Bont oedd y flaenoriaeth ac y dylai unrhyw aflonyddwch i’w haddysg gael ei gadw i’r lefel isaf a oedd yn rhesymol bosibl. 

 

Yn dilyn y bleidlais lle'r oedd 21 o blaid a 2 yn atal eu pleidlais, PENDERFYNWYD awdurdodi:-

 

·      Bod y Cyngor yn awdurdodi rhyddhau hyd at £1.5 Miliwn o Gronfeydd Wrth Gefn Cyffredinol y Cyngor er mwyn ymgymryd â gwaith adfer i ddarparu gorffeniad to newydd.

·      Y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) i ymgymryd â’r gwaith sy’n angenrheidiol i nodi’r rhesymau pam fod adeiladwaith y to yn ddiffygiol ac i wneud y trefniadau angenrheidiol ar gyfer dylunio ac adeiladu’r gwaith adfer.

·      Y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo), mewn ymgynghoriad â’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a’r Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro i barhau â hawliad i adennill costau’r gwaith adfer, ynghyd â’r holl gostau cysylltiedig eraill, gan unrhyw barti y bernir eu bod yn atebol am adeiladwaith diffygiol y to.