Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Arbennig Rhithiol wedi'i ffrydio'n fyw (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu)

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

I dderbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

2.

Datganiad o'r Cyfrifon 2020/21 a'r Adroddiad ISA 260 pdf eicon PDF 2 MB

·         Cyflwyno’r Datganiad o’r Cyfrifon am 2020/21.

 

·         Cyflwyno’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol am 2020/21.

 

·         Cyflwyno adroddiad Archwilio Allanol ynglyn â’r datganiadau ariannol  2020/21 (Adroddiad ISA 260).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar 15 Tachwedd, 2021.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·           Dderbyn y Datganiad Cyfrifon 2020/21 ac awdurdodi’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adain 151 i arwyddo’r cyfrifon.

·           Nodi bod y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn cymeradwyo’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2020/21 a chyfeirio’r ddogfen at Arweinydd y Cyngor a’r Prif Weithredwr i’w llofnodi.

·           Nodi'r gostyngiad o £188k yn nhanwariant Cronfa'r Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020/21 oherwydd diwygiadau a wnaed yn ystod y cyfnod archwilio sy'n effeithio ar Gronfa'r Cyngor. Mae hyn yn lleihau'r tanwariant am y flwyddyn o £4,204k i £4,016k.