Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Cyfarfod Arbennig - Hybrid - Siambr y Cyngor, Syddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM, Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Mawrth, 19eg Rhagfyr, 2023 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cofnodion pdf eicon PDF 224 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion drafft o gyfarfod o’r Cyngor Sir Arbennig a gynhaliwyd ar 26 Hydref, 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion cyfarfod arbennig y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 26 Hydref 2023 yn gywir.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

3.

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu'r Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau a ganlyn:-

 

·         Cyfeiriodd y Cadeirydd at y difrod sylweddol a wnaed i Neuadd y Dref yn dilyn tân yno nos Sul. Roedd yn dymuno diolch i’r Gwasanaethau Brys am ddiogelu preswylwyr Lôn Glanhwfa ac am eu gwaith drwy gydol y flwyddyn.

 

·         Llongyfarchwyd Mr Paul Woodhouse, Dirprwy Bennaeth yn Ysgol Uwchradd Caergybi, a Ms Liah Williams, Ysgol Pencarnisiog, ar eu llwyddiant yng Ngwobrau Addysg Gogledd Cymru 2023.

 

·         Llongyfarchwyd PC Lisa Thomas a Ms Angharad Jones o dîm Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor am eu gwaith i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ar Ynys Môn, gwaith a gafodd ei gydnabod yng ngwobrau Partneriaethau Datrys Problemau Heddlu Gogledd Cymru.

 

·         Dywedodd y Cadeirydd fod Rhaglen Gymunedol Ynys Môn wedi cael ei chanmol yn ddiweddar yng Ngwobrau Cymunedau Mwy Diogel i Gymru, a hynny am yr effaith y mae’n ei gael ar leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn trefi ledled yr Ynys. Enillodd y prosiect y categori “Partneriaeth” am y ffordd gynhwysol y mae’n hyrwyddo diogelwch cymunedol.

 

·         Llongyfarchwyd Mrs Annwen Morgan wedi iddi ymgymryd â rôl Cadeirydd newydd Fforwm Iaith Ynys Môn.

 

·         Cyfeiriodd y Cadeirydd at y Gynhadledd Oed Gyfeillgar a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ar 8 Tachwedd. Siaradodd Ms Sioned Young, Swyddog Datblygu Cymunedol Ynys Môn Oed Gyfeillgar y Cyngor yn y gynhadledd, yn ogystal â Ms Brenda Roberts, Cadeirydd Cyngor yr Henoed Ynys Môn.

 

·         Llongyfarchwyd tîm pêl-rwyd merched Ynys Môn a fu’n cystadlu yn Nhwrnamaint yr Ynysoedd yn Ynys Manaw yn ddiweddar.

 

·         Dywedodd y Cadeirydd fod Mr Dafydd Roberts, o’r Adran Budd-daliadau, wedi rhyddhau ei sengl Nadolig cyntaf yn ddiweddar, sef ‘Amser yr Ŵyl’.

 

·         Llongyfarchwyd pawb a gymerodd ran yn y Ffair Aeaf yn Llanfair ym Muall eleni. Llongyfarchiadau arbennig i Tony a Iona Ponsonby, sydd yn denantiaid ar un o ffermydd y Cyngor, a braf oedd gweld llwyddiant Ffermwyr Ifanc Ynys Môn yn y Ffair Aeaf.

 

·         Llongyfarchwyd y Ffermwyr Ifanc am gynnal Eisteddfod Genedlaethol y Ffermwyr Ifanc ym Mona’n ddiweddar.

 

*          *          *          *

 

 

Roedd y Cadeirydd yn dymuno canmol cyfraniad trigolion Ynys Môn sydd wedi dod ynghyd i gynnal digwyddiadau cymunedol yn ystod mis Rhagfyr. Diolchodd i’r holl wirfoddolwyr am ledaenu ysbryd yr ŵyl ledled yr Ynys ac am eu gwaith gydag unigolion llai ffodus yn ein cymdeithas.

 

Roedd y Cadeirydd yn dymuno diolch hefyd i staff y Cyngor fydd yn gweithio dros y Nadolig er mwyn darparu gwasanaethau allweddol.

 

Diolchodd y Cadeirydd hefyd i holl staff ysgolion a phobl ifanc sydd wedi paratoi a chymryd rhan mewn gwahanol sioeau Nadolig ar hyd a lled yr Ynys.

 

*          *          *          *

 

Nododd y Cadeirydd fod cyfnod y Nadolig yn gallu bod yn anodd i rai teuluoedd sy’n wynebu amgylchiadau heriol, salwch neu brofedigaeth.

 

Cydymdeimlwyd ag unrhyw Aelod o’r Cyngor Sir neu aelod o Staff sydd wedi cael profedigaeth.

 

Safodd Aelodau a Swyddogion fel arwydd o barch.

 

4.

Cyflwyno Deisebau

Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â Pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un ddeiseb.

 

5.

Datganiad o'r Cyfrifon 2022/2023 a'r Adroddiad ISA 260 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno’r canlynol, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 7 Rhagfyr, 2023 :-

 

·         Adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog 151 – Datganiad o’r Cyfrifon 2022/2023.

 

·         Adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a ThrawsnewidDatganiad Llywodraethu Blynyddol 2022/2023.

 

·         Adroddiad Archwilio Allanol ynghylch yr archwiliad o’r datganiadau ariannol.

(Adroddiad ISA 260).

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio ar 7 Rhagfyr 2023.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod y Datganiad o Gyfrifon 2022/2023 a’r Adroddiad ISA 260 wedi cael eu trafod fel rhan o’r broses sgriwtini a’i gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio. Mae Archwilio Cymru wedi derbyn y cyfrifon ac nid ydynt wedi gofyn am unrhyw newidiadau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robert Ll Jones fod angen i’r Datganiad o Gyfrifon fod ar gael i breswylwyr edrych arno i weld sut mae’r Cyngor yn defnyddio ei adnoddau ariannol. Cyfeiriodd at Gynllun Pensiwn y Cyngor a holodd a fyddai’n bosib derbyn adroddiad ar wahân gan fod y mater yn un mor gymhleth. Dywedodd hefyd fod dyledion rhenti tai wedi cynyddu gan fod pobl yn wynebu anawsterau oherwydd yr argyfwng costau byw. Cyfeiriodd hefyd at faterion amgylcheddol a holodd p’un a yw’r adnoddau ariannol yn mynd i’r afael â’r angen ym mhob un o wasanaethau’r Cyngor. Yn ei farn ef, mae angen i’r Pencampwr Amgylcheddol gyflwyno adroddiad blynyddol ar strategaeth amgylcheddol y Cyngor, a dylai’r 12 Pencampwr arall gyflwyno adroddiadau blynyddol ar eu meysydd cyfrifoldeb hwythau hefyd, er mwyn  nodi eu hymdrechion i hyrwyddo’r gwasanaethau a gynrychiolir ganddynt.

 

Wrth ymateb i sylwadau’r Cynghorydd R Ll Jones, dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod y Datganiad Cyfrifon ar gael ar wefan y Cyngor er mwyn i breswylwyr weld sut mae adnoddau ariannol y Cyngor yn cael eu gwario ac mae’r Pwyllgor Gwaith yn derbyn adroddiadau chwarterol hefyd. Nododd fod y Cynllun Pensiwn yn cael ei weinyddu gan Gyngor Gwynedd ac mae adroddiadau rheolaidd a gweddarllediadau o gyfarfodydd y Pwyllgor Pensiynau ar gael ar eu gwefan ac mae’r cyfarfodydd yn agored i’r cyhoedd eu mynychu hefyd. Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Plant, Ieuenctid a Thai at y sylw am gynnydd mewn dyledion rhent a dywedodd fod gan y Gwasanaethau Tai Dîm Cynhwysiant Ariannol a gallant ddarparu cyngor a chefnogaeth i denantiaid os ydynt yn wynebu anawsterau ariannol. Dywedodd fod y Pwyllgor Gwaith wedi trafod y mater yn ddiweddar, gan bwysleisio ei bod yn bwysig fod tenantiaid nad ydynt yn gymwys i dderbyn budd-dal tai a chefnogaeth ariannol ar hyn o bryd yn cael eu hannog i gysylltu â’r Cyngor os ydynt yn wynebu problemau ariannol. Mewn ymateb i’r sylwadau am yr amgylchedd, dywedodd arweinydd y Cyngor fod gan y Cyngor raglen gorfforaethol i leihau ôl-troed carbon pob gwasanaeth o fewn y Cyngor ac mae adroddiadau cynnydd blynyddol yn cael eu cyflwyno ar y gwaith hwnnw. Cyfeiriodd at y Pencampwyr gwasanaeth a nododd fod eu gwaith yn cael ei gynnwys mewn adroddiadau a gyflwynir i’r Cyngor ac roedd yn cytuno efallai bod angen tynnu mwy o sylw at rôl y Pencampwyr gwasanaeth yn adroddiadau blynyddol y gwasanaethau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Aled M Jones fod anghysonderau hanesyddol yng nghronfeydd pensiwn rhai athrawon a gofynnodd a yw’r mater hwn wedi cael ei ddatrys. Gofynnodd hefyd a fydd Llywodraeth Cymru’n darparu cyllid i ddatrys y problemau concrit RAAC mewn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Newid yr amser a ganiateir i aelodau o'r cyhoedd siarad yn y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion pdf eicon PDF 107 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)Swyddog Monitro fel y’i gyflwynwyd i’r Pwyllgor Cynlluno a Gorchmynion ar 4 Hydref, 2023 ac wedyn Penderfyniad Portffolio gan yr Aelod Portffolio ar gyfer Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Newid Hinsawdd ar 24 Tachwedd, 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a’r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar 4 Hydref 2023. Yn dilyn hynny, cyflwynwyd Penderfyniad Portffolio gan yr Aelod Portffolio ar gyfer Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Newid Hinsawdd ar 24 Tachwedd 2023 i’r Cyngor ei dderbyn.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer materion Corfforaethol a Gwasanaeth Cwsmer fod hwn yn gynnig i gynyddu’r amser a ganiateir i’r cyhoedd siarad yn y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion o 3 munud i 5 munud ac mae Arweinyddion Grwpiau a’r Pwyllgor Gwaith yn cefnogi’r cynnig.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·       Awdurdodi’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro i newid y cyfeiriad ym mharagraff 4.6.21.6 o’r Cyfansoddiad o 3 munud i 5 munud (sef yr amser sydd ar gael i’r siaradwyr cyhoeddus yn y Pwyllgor Cynllunio);

·       Awdurdodi’r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd i newid unrhyw gyfeiriad yn y canllawiau sy’n gysylltiedig â’r drefn i nodi mai 5 munud sydd ar gael i siaradwyr cyhoeddus.

 

 

7.

Cynllun Strategol Adnoddau ac Ail-gylchu - 2023-2028 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ar 22 Tachwedd, 2023. .

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Cyngor ei dderbyn – adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Sgriwtini ac Adfywio ar 22 Tachwedd 2023.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo fod y Cynllun Strategol Adnoddau ac Ailgylchu ar gyfer 2023-2028 yn cefnogi dyheadau allweddol y Cyngor a geir yng Nghynllun y Cyngor. Mae Cynllun y Cyngor yn datgan bod rhaid i’r Cyngor gyrraedd cyfradd ailgylchu o 70% erbyn 2028 a chyrraedd y targed allyriadau carbon sero net erbyn 2030. Nododd fod dyletswydd ar yr holl breswylwyr ac ymwelwyr i leihau gwastraff ac ailgylchu mwy. Ychwanegodd y byddai cymeradwyo’r Cynllun Strategol Adnoddau ac Ailgylchu’n dangos fod y Cyngor yn mynd i’r afael â materion amgylcheddol fel rhan o’r fenter ailgylchu. Dywedodd y Cynghorydd Thomas fod perthynas waith dda’n bodoli rhwng y Cyngor a sefydliadau megis CLlLC, Llywodraeth Cymru a WRAP Cymru, a bydd hynny’n cynorthwyo’r Cyngor i gyflawni’r targed ailgylchu 70%. Mae cyfraddau ailgylchu Ynys Môn yn 65% ar hyn o bryd (ond gall y ffigwr amrywio yn ystod gwahanol gyfnodau yn ystod y flwyddyn). Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at yr ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd dros gyfnod o chwe wythnos yn ddiweddar, rhwng 11 Medi a 20 Hydref 2023. Dyluniwyd yr ymgynghoriad i gasglu adborth ar ffrydiau gwaith allweddol i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu mwy o wastraff domestig a derbyniwyd bron i 200 o ymatebion. Ychwanegodd fod rhai o’r ymatebwyr yn nodi nad yw’r bocs ailgylchu ar gyfer cardfwrdd yn ddigon mawr ac mae angen ystyried dulliau eraill o ddarparu ar gyfer yr anghenion hynny, e.e., darparu sachau i gasglu cardfwrdd ychwanegol. Nododd hefyd fod angen ail-addysgu pobl ynglŷn â phwysigrwydd ailgylchu, yn enwedig y genhedlaeth iau.

 

Roedd Arweinydd y Cyngor yn cymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad, ond gan nad oedd y Cynllun Strategol yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor tan ddiwedd Rhagfyr, cynigiodd welliant, sef bod y Cynllun Strategol Adnoddau ac Ailgylchu’n cael ei weithredu rhwng 2024 a 2029.

 

Cyfeiriodd Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio at argymhellion y Pwyllgor i’r Cyngor yn dilyn ei gyfarfod ar 22 Tachwedd 2023, pan ystyriwyd y Cynllun Strategol Adnoddau ac Ailgylchu. Roedd yr argymhellion yn cynnig rhoi camau penodol ar waith, gan gynnwys cynyddu cyfraddau ailgylchu bwyd; bod angen darparu bin gwastraff pan gyflwynir ceisiadau cynllunio am siopau gwerthu bwydydd cyflym; nodi bod ailgylchu a gwastraff yn gyfrifoldeb corfforaethol i nifer o wasanaethau’r Cyngor ac y dylid darparu ymgyrchoedd Cadw Cymru’n Daclus er mwyn addysgu plant am bwysigrwydd ailgylchu; mae ailgylchu gwastraff biniau yn ein trefi a’n cymunedau arfordirol yn agwedd y mae angen rhoi sylw pellach iddo ac mae’r mater hwn yn gysylltiedig â chynlluniau strategol eraill megis y Cynllun Rheoli Cyrchfan a’r Cynllun Rheoli Ardaloedd o Harddwch Naturiol.

 

Dywedodd y Cynghorwyr Jeff Evans a Pip O’Neill fod tipio anghyfreithlon wedi gwaethygu yng Nghaergybi ac mae angen cynorthwyo pobl nad ydynt yn gallu mynd â gwastraff i’r canolfannau ailgylchu. Mewn ymateb, dywedodd Arweinydd y Cyngor fod yr Adain Rheoli Gwastraff yn darparu trwyddedau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.