Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Council Chamber, Council Offices, Llangefni
Cyswllt: Ann Holmes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
Materion brys a ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu Swyddog a enwebwyd ganddo Dim materion brys ar adeg anfon allan y rhaglen hon.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr 2017. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr, 2017 i'w cadarnhau.
Penderfynwyd cadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr, 2017 fel rhai cywir. |
|
Cofnodion y Panel Rhiant Corfforaethol PDF 345 KB Cyflwyno i’w mabwysiadu, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Panel Rhiant Corfforaethol a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr 2017. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod y Panel Rhiant Corfforaethol a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr, 2017 i'w mabwysiadu.
Penderfynwyd mabwysiadu cofnodion drafft cyfarfod y Panel Rhiant Corfforaethol a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr, 2017. |
|
Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith PDF 786 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i’w gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn ymgorffori Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod Chwefror, 2018 hyd at fis Medi, 2018.
Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar newidiadau a wnaed i'r Flaenraglen Waith ers y cyfnod adrodd blaenorol fel a ganlyn -
• Eitemau sy’n newydd i'r Flaenraglen Waith
• Eitem 1 - Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig, dirprwyir y penderfyniad i'r Aelod Portffolio perthnasol. • Eitem 2 - Strategaeth Iechyd Meddwl: Bwrdd Iechyd, dirprwyir y penderfyniad i'r Aelod Portffolio perthnasol. • Eitem 14 - Rhenti 2018/19 – ystyrir gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 19 Chwefror, 2018. • Eitem 20 - Y Cynllun Iechyd a Diogelwch – ystyrir gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 19 Chwefror, 2018. • Eitem 21 - Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2016/17, dirprwyir y penderfyniad i'r Aelod Portffolio perthnasol. • Eitem 26 - Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn: Datganiad Cyfrifon 2016/17 – ystyrir gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod 26 Mawrth, 2018. • Eitem 33- Cynllun Adfywio Gogledd Cymru a Chyllid TRIP – ystyrir gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 26 Mawrth, 2018. • Eitem 38 - Arolygiad AGGCC o’r Gwasanaethau Plant yn Ynys Môn: Cynllun Gwella Adroddiad Cynnydd Chwarterol – ystyrir gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ym Mai, 2018. • Eitem 43 - Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 1 2018/19 – ystyrir gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ym mis Medi, 2018 • Eitem 44 - Adroddiad Monitro Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf Chwarter 1 2018/19 – ystyrir gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ym mis Medi, 2018 • Eitem 45 - Arolygiad AGGCC o’r Gwasanaethau Plant yn Ynys Môn: Cynllun Gwella Adroddiad Cynnydd Chwarterol – ystyrir gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ym mis Medi, 2018.
• Eitemau a ohiriwyd i ddyddiad diweddarach ar y Rhaglen Waith
• Eitem 19 - Moderneiddio Ysgolion: Adroddiad Cynnydd (i gynnwys ysgolion gyda llai na 120 o ddisgyblion) – eitem wedi'i haildrefnu i'w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith ar 19 Chwefror, 2018 yn hytrach na 29 Ionawr, 2018. • Eitem 29 - Cynllun Comisiynu Cefnogi Pobl - eitem wedi'i haildrefnu i'w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith ar 26 Mawrth, 2018 yn hytrach na 19 Chwefror, 2018. • Eitem 30 - Cynllun Busnes 30 Blynedd y Cyfrif Refeniw Tai a rhaglen gyfalaf 2018/19 - wedi'u haildrefnu i'w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith ar 26 Mawrth, 2018 yn hytrach na 19 Chwefror, 2018. • Eitem 31 Moderneiddio Ysgolion yn Ardal Llangefni: Bydd yr adroddiad yn dilyn yr ail ymgynghoriad yn cael sylw gan y Pwyllgor Gwaith ar 26 Mawrth, 2018 yn hytrach na 29 Ionawr, 2018.
Dywedodd y Swyddog hefyd fod dwy eitem arall wedi eu haildrefnu ers cyhoeddi'r Rhaglen Waith, sef Eitem 18 – y Strategaeth Taclo Tlodi (cymeradwyo strategaeth ddrafft ar gyfer ymgynghori) a gyflwynir ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5. |
|
Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn – Cyfrifon a Diweddariad PDF 1 MB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i’w ystyried a’i gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 a oedd yn ymgorffori Adroddiad a Chyfrifon Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn ar gyfer 2014/15 a 2015/16.
Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod yr adroddiad a gyflwynwyd yn rhoi trosolwg ar gefndir Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn, gan gynnwys gwybodaeth am statws cyfreithiol yr Ymddiriedolaeth a'r gwahanol elfennau ynddi. Mae hefyd yn rhoi crynodeb o berfformiad ariannol yr Ymddiriedolaeth yn 2014/15 a 2015/16. Mae'r Ymddiriedolaeth yn cynnwys tair cronfa – Cronfa David Hughes (sy'n cynnwys nifer o blotiau o dir mân-ddaliadau a bythynnod, ynghyd â buddsoddiadau eraill) a Chronfa Addysg Bellach Ynys Môn 1/3 a Chronfa Ymddiriedolaeth Addysg Ynys Môn 2/3 - y ddwy ohonynt yn gronfeydd cyfyngedig sy’n darparu budd addysgol penodol. Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid y gellir gweld manylion y cronfeydd unigol o fewn yr Ymddiriedolaeth yn adran 2.1 yr adroddiad; cadarnhaodd na roddwyd unrhyw grantiau o'r ddwy gronfa gyfyngedig yn 2014/15 nac yn 2015/16 oherwydd cynlluniau'r Ymddiriedolaeth i adnewyddu'r mân-ddaliadau yr oedd gwir angen eu hatgyweirio a'u gwella. Cymeradwyodd yr adroddiad i'r Pwyllgor.
Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 fod Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Terfynol yr Ymddiriedolaeth ar gyfer 2016/17 yn cael eu harchwilio ar hyn o bryd ac y cyflwynir nhw i'r Pwyllgor Gwaith i'w cymeradwyo gyda hyn.
Penderfynwyd cymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon ar gyfer Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn am 2014/15 a 2015/16. |
|
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.
(Cynllun Busnes - Fersiwn 6, Fersiwn 9 yn Saesneg).
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a oedd yn ymgorffori gwybodaeth a phapurau ategol mewn perthynas â phrosiect STEM Gogledd Cymru a'i bwrpas .’Roedd yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith ar gyfer cyfranogiad Ynys Môn yn y prosiect a’i gyfraniad iddo.
Dywedodd y Cadeirydd mai cwricwlwm yw STEM sy’n seiliedig ar y syniad o addysgu myfyrwyr mewn pedair disgyblaeth benodol, sef Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg. Mae STEM Gogledd Cymru yn brosiect 4 blynedd sydd yn werth £2,000,000 ac sy'n gwneud cais am gymorth ariannol o Gronfa Gymdeithasol Ewrop, sef Blaenoriaeth Echel 3: Cyrhaeddiad a Chyflogaeth Ieuenctid, a hynny er mwyn cynyddu nifer y plant rhwng 11 a 19 sy’n dilyn pynciau STEM ac i wella eu canlyniadau ynddynt. Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar Ogledd-Orllewin Cymru, Ynys Môn, Conwy a Gwynedd trwy ystod o ymyriadau a fydd yn ategu gwasanaethau. Bydd STEM Gogledd yn cael ei arwain gan Gyngor Gwynedd a'i gyd-fuddiolwyr, sef Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae'r adroddiad yn crynhoi trefniadau llywodraethu arfaethedig y prosiect ac yn cysylltu'r prosiect â’r cyd-destun Ynys Ynni. Ceir manylion pellach yn Atodiad C i'r adroddiad. Mae’r Cynllun Busnes STEM yn amlinellu amcanion y prosiect o ran rheoli a chyflawni, tra bod Atodiad B yn rhoi trosolwg ar allbynnau arfaethedig y prosiect.
Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd fod buddsoddi yn y prosiect STEM Gogledd yn hynod o bwysig yng nghyd-destun y datblygiadau Ynys Ynni arfaethedig; efallai y bydd y prosiect yn helpu i ymgysylltu â'r plant a'r bobl ifanc hynny na fyddai fel arall yn cael eu denu i’r pynciau STEM ac mae hynny’n cyd-fynd ag amcanion addysg yr Awdurdod ei hun. Disgwylir i’r datblygiadau Ynys Ynni ddod â llu o gyfleoedd dros y blynyddoedd nesaf, sef rhai y bydd angen ystod eang o sgiliau a galluoedd i fanteisio arnynt. Yn y cyd-destun hwn, mae’r prosiect STEM Gogledd yn hollbwysig felly. Yn ogystal, mae’r sector preifat wedi dangos diddordeb yn y prosiect a, phe bai’r diddordeb hwnnw’n troi'n gymorth ariannol, gallai leihau lefel yr arian cyfatebol y byddai angen i’r Cyngor ei gyfrannu.
Dywedodd yr Is-Gadeirydd a'r Aelod Portffolio ar gyfer Trawsnewid Gwasanaethau y dylid pwysleisio bod angen ymgorffori'r amcanion a'r gwersi a ddysgwyd o’r prosiect STEM Gogledd o fewn y system addysg prif ffrwd i fod yn rhan annatod o'r broses fel bod cyfranogiad disgyblion mewn pynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) yn cael ei annog yn hytrach na chael ei weld fel rhywbeth y mae angen buddsoddiad ychwanegol ar ei gyfer. Bu ymdrechion yn y gorffennol i geisio annog mwy o ddisgyblion i ddilyn pynciau sy’n gysylltiedig â gwyddoniaeth a thechnoleg; dylai fod yn nod y tro hwn i sicrhau bod y syniadau a amlygir gan y prosiect STEM yn ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Yr A545 o Borthaethwy i Fiwmares PDF 463 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) yn gofyn i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo darparu cyllid i benodi peirianwyr ymgynghorol i ddylunio gwelliannau i gryfhau ffordd yr A545.
Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo fod hanes o dirlithriadau ar hyd yr A545 rhwng Glyn Garth a Biwmares, a bod y diwethaf ohonynt wedi digwydd ar 22 Tachwedd, 2017 ac wedi arwain at flocio ceuffos a difrod gan ddŵr i wal gynnal a gardd. Dechreuodd gwaith adfer ar unwaith fel y gallai'r ffordd ailagor cyn gynted ag y bo modd a disgwylir y bydd y gwaith angenrheidiol arall wedi ei gwblhau erbyn yn gynnar ym mis Chwefror. Rhaid canmol y Gwasanaeth Priffyrdd am ei ymateb prydlon. Erys yr angen i wneud gwaith adfer i sefydlogi'r llethr mewn cysylltiad â thirlithriad Mynwent Biwmares a ddigwyddodd yn 2015. Amcangyfrifir y bydd y gwaith hwn yn costio £180k. Mae'r trafodaethau cychwynnol a gafwyd gyda’r Gweinidog ar gyfer yr Economi ac Isadeiledd yn Llywodraeth Cymru, ynghyd â Swyddogion Llywodraeth Cymru, yn nodi y byddai cyllid ar gael dros y blynyddoedd nesaf i wneud cyfuniad o waith sefydlogi llethrau a lledu’r ffordd i gryfhau a gwella rhannau o'r A545 o Glyn Garth i Fiwmares. Mae'r tirfeddiannwr sydd biau’r tir uwchlaw ac islaw'r A545 wedi nodi ei fod yn gefnogol i welliannau o'r fath a’i fod yn barod i ryddhau'r tir angenrheidiol. Disgwylir y bydd y gwaith dylunio a’r cyfraniad tuag at y gwaith ym mynwent Biwmares yn costio oddeutu £95k. Y dewis arall yn lle gwella a chryfhau'r A545 yw adeiladu ffordd newydd ar gost o tua £30m.
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) mai'r nod yw bwrw ymlaen â gwaith i sefydlogi’r llethrau ym Mynwent Biwmares ym mis Chwefror, 2018 yn amodol ar gael cyllid gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Tref Biwmares a Chyngor Sir Ynys Môn.
Mynegodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd ac Aelod Lleol ar gyfer yr ardal eu diolchiadau i'r Gwasanaeth Priffyrdd am ei ymdrechion ar ôl y tirlithriad ym mis Tachwedd. Dywedodd fod angen dod o hyd i ateb hirdymor i'r problemau ar yr A545 i wneud y ffordd yn ddiogel i'r dyfodol a hefyd i sicrhau bod tref hanesyddol Biwmares - yr effeithiwyd yn arbennig ar ei thrigolion gan y tirlithriadau diweddar - yn parhau i fod yn hygyrch. Mae’r ffordd yn ffordd strategol bwysig ac mae'n rhan o'r profiad o ymweld â Biwmares. Fodd bynnag, mae'r gymuned ar adegau yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn teimlo bod yr ardal wedi cael ei hynysu oherwydd tirlithriadau rheolaidd ar yr A545. Y teimlad yn lleol yw y dylid ymgymryd â gwaith ar Fynwent Biwmares fel blaenoriaeth. Gofynnodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd am eglurhad mewn perthynas â'r materion canlynol -
• Yr amserlen ar ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8. |
|
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) yn gofyn i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo cyllid fel y gellir symud y Rovacabin oddi yno.
Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo fod staff o'r Rovacabin wedi symud i brif swyddfeydd y Cyngor fel rhan o broses Drawsnewid y Cyngor, gan arwain at arbedion o tua £17k y flwyddyn ar gostau cyfleustodau ac o gwmpas £9k ar gost cynnal a chadw ar gyfer adeilad sy'n dirywio. Hysbysebwyd bod adeilad y Rovacabin ar werth ond ychydig iawn o ddiddordeb a ddangoswyd ynddo. Gwerthwyd y rhan fwy newydd am £5k a'i symud oddi yno. O ystyried y diffyg diddordeb yn y rhan hŷn ac o gofio cyflwr yr adeilad, bydd angen cael gwared arno a byddai hynny’n costio £28k, sef y swm y gofynnir i'r Pwyllgor Gwaith ei gymeradwyo. Mae'r arian ar gael o'r arbedion a grëwyd gan y Cynllun Gweithio’n Gallach dan y broses Drawsnewid.
Tynnodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo sylw at y ffaith bod newid wedi ei wneud i’r argymhelliad gwreiddiol yn yr adroddiad ysgrifenedig a oedd yn argymell cael gwared ar y Rovacabin ac ailwynebu'r ardal i ddarparu lle parcio ychwanegol. Nid argymhellir darparu lle parcio bellach, dim ond cael gwared ar y Rovacabin, Dyna’r rheswm am y swm is o £28k y gofynnir i’r Pwyllgor Gwaith ei gymeradwyo (yn hytrach na'r £48k a ddyfynnwyd yn yr adroddiad). Bydd y mater lle parcio ychwanegol yn cael sylw eto rhyw dro.
Penderfynwyd bod £28k yn cael ei ddarparu i gael gwared ar y Rovacabin. Dylai'r cyllid fod ar gael o'r arbediad sydd wedi ei greu gan y Broses Drawsnewid, yn benodol Gweithio’n Gallach. |
|
Diwygio Cyfansoddiad y Cyngor - Dirprwyo i'r Pennaeth Gwasanaeth (Tai) PDF 722 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro yn nodi'r diwygiadau y bwriedir eu gwneud i Gyfansoddiad y Cyngor er mwyn hwyluso menter tai newydd.
Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Corfforaethol fod y Pwyllgor Gwaith, yn ei gyfarfod ar 18 Rhagfyr, 2017, wedi cytuno y dylai'r Cyngor gaffael tai cymdeithasol ychwanegol trwy becynnau dylunio ac adeiladu gyda datblygwyr. Ar hyn o bryd, mae caffael a chael gwared ar dir / eiddo wedi ei ddirprwyo i'r Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) o dan y Cynllun Dirprwyo a'r Cynllun Rheoli Asedau. Nid yw'r pwerau hyn yn ymestyn i dai cymdeithasol a'r Cyfrif Refeniw Tai sy’n golygu bod angen dirprwyo awdurdod yn yr un modd i'r Pennaeth Gwasanaeth (Tai) er mwyn hwyluso'r fenter a fabwysiadwyd gan y Pwyllgor Gwaith ar 18 Rhagfyr, 2017. Mae Atodiad B i'r adroddiad yn cynnwys y Cynllun Dirprwyo cyfredol i'r Pennaeth Gwasanaeth (Tai) ac mae’r diwygiadau a gynigir wedi eu hamlygu ynddo, Mae’r newid i'r geiriad yn rhoi pwerau ychwanegol i'r Pennaeth Gwasanaeth (Tai) ac yn egluro y defnyddir y pwerau hyn yn unol â chynlluniau, polisïau a rheolau cyllideb a chaffael y Cyngor, gan gynnwys ymgynghori. Gofynnir i'r Pwyllgor Gwaith ystyried y newidiadau hyn a'u cymeradwyo i'r Cyngor Llawn.
Penderfynwyd cymeradwyo'r newidiadau arfaethedig a nodir yn Atodiad B yr adroddiad a chymeradwyo'r fath newidiadau i'r Cyngor Llawn. |
|
Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 167 KB Ystyried mabwysiadu’r isod:-
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm”.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriwyd a phenderfynwyd o dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972 i gau y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod ar gyfer y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y byddai’n golygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A i'r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd a gyflwynwyd. |
|
Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DOLS) Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion. Cofnodion: Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Oedolion) yn nodi'r trefniadau arfaethedig i alluogi'r Cyngor i gwrdd â gofynion DoLS.
Penderfynwyd cymeradwyo argymhellion yr adroddiad. |
|
Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 113 KB Ystyried mabwysiadu’r isod:-
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm”. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriwyd a phenderfynwyd o dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972 i gau y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod ar gyfer y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y byddai’n golygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A i'r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd a gyflwynwyd. |
|
Unedau Diwydiannol Cyflwyno adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a’r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd. Cofnodion: Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith , adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a'r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd yn nodi'r trefniadau cyllido arfaethedig ar gyfer adeiladu unedau diwydiannol newydd ym Mhenrhos, Caergybi.
Penderfynwyd cymeradwyo argymhellion yr adroddiad. |