Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Ann Holmes
Cyfryngau
Eitemau
Rhif. |
Eitem |
1. |
Datganiad o Ddiddordeb
Derbyn
datganiadau o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn
perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Ni dderbyniwyd yr un datganiad o
ddiddordeb.
|
2. |
Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig
Dim materion
brys ar adeg anfon allan y rhaglen hon.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Nid oedd dim materion brys i adrodd
arnynt.
|
3. |
Cofnodion PDF 309 KB
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y
cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr
2019.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor
Gwaith a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr, 2019 i'w cymeradwyo.
PENDERFYNWYD cadarnhau
cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 16
Rhagfyr, 2019 fel rhai cywir.
|
4. |
Cyllideb Refeniw Ddrafft 2020/21 PDF 571 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr
Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth
(Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a oedd yn ymgorffori'r Gyllideb
Refeniw ddrafft ar gyfer 2020/21 i'w ystyried gan y Pwyllgor
Gwaith.
Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid, er bod y sefyllfa
gyllidebol ar gyfer 2020/21 yn well na'r disgwyl oherwydd setliad
dros dro uwch gan Lywodraeth Cymru, mae'r amgylchiadau ariannol yn
parhau i fod yn heriol. Nid yw’r setliad, mewn termau real,
ond yn cymharu â lefel darpariaeth Llywodraeth Cymru yn
2012/13. Adroddodd ymhellach fod Llywodraeth Cymru yn tybio y bydd
awdurdodau lleol yng Nghymru yn codi’r Dreth Gyngor 7.1% er
mwyn cydbwyso’u cyllidebau er bod setliad gwell wedi'i roi.
Mae cronfeydd wrth gefn y Cyngor wedi gostwng oherwydd fe’u
defnyddiwyd i gwrdd â phwysau ariannol mewn gwasanaethau
statudol lle mae’r galw’n parhau i gynyddu, megis y
Gwasanaethau Oedolion ac Addysg. Roedd yr Aelod Portffolio o'r farn
y gallai bod angen adolygu cyllideb sylfaenol y gwasanaethau hyn.
Dywedodd ymhellach ei fod wedi cynghori’r Pwyllgor Sgriwtini
Corfforaethol a gynhaliwyd yn y bore, a’i fod yn dymuno dweud
yn yr un modd wrth y Pwyllgor Gwaith, fod angen cymryd agwedd
ddarbodus o ran gwneud argymhellion mewn perthynas â
Chyllideb Refeniw 2020/21.
Cafodd y Pwyllgor amlinelliad manwl gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth
(Adnoddau) / Swyddog Adran 151 o’r rhannau yn yr adroddiad a
oedd yn ymwneud â’r gyllideb refeniw arfaethedig ar
gyfer 2020/21. Amlygwyd ac adroddwyd ar y materion canlynol:
-
- Paratoir y gyllideb ar sail y rhagdybiaethau a nodwyd
yn y Cynllun Ariannol Tymor Canol a gymeradwywyd gan y Pwyllgor
Gwaith ym mis Medi, 2019. Mae'r rhain wedi'u hystyried wrth
gyfrifo'r gyllideb ddigyfnewid ar gyfer 2020/21;
- Nodwyd y newidiadau yr ymrwymwyd iddynt a'r
addasiadau a wnaed i'r gyllideb ym mharagraffau 3.1 i 3.10 o'r
adroddiad;
- Mae nifer o gyllidebau wrth gefn wedi'u hadeiladu i
mewn i’r gyllideb i dalu costau tymor penodol a nodir y
risgiau posib y gallai bod angen cyllid ar eu cyfer yn ystod y
flwyddyn ym mharagraff 4.1 (Tabl 1). Mae'r sefyllfa ariannol well
yn 2020/21 yn caniatáu i'r Cyngor leihau'r Gyllideb Wrth
Gefn ar gyfer Cyflogau a Graddfeydd gan na ddisgwylir y bydd angen
gwneud gostyngiadau sylweddol yn nifer y staff yn
2020/21;
- Costau staff - mae ansicrwydd o ran y dyfarniad
tâl i Athrawon sy'n cychwyn ym mis Medi 2020 a hefyd ynghylch
y dyfarniad tâl o Ebrill 2020 ar gyfer staff nad ydynt yn
athrawon - mae hyn yn risg i gyllideb y Cyngor gyda phob cynnydd o
1% yn y dyfarniad tâl i staff nad ydynt yn athrawon yn
gyfwerth â baich cyllidebol ychwanegol o
£450k;
- Galw cynyddol am Ofal Cymdeithasol i Oedolion, gyda
niferoedd cynyddol o gleientiaid ar draws pob maes gwasanaeth. Ar
gyfer 2019/20 disgwylir i'r Gwasanaeth wario £1.21m yn uwch
na’r gyllideb. Mae’r gorwariant net a amcangyfrifwyd ar
gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion, ar ôl caniatáu ar
gyfer 2 grant ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, yn £980k ac
mae'r swm hwn wedi'i nodi fel yr isafswm sydd raid wrtho i fynd i'r
afael â'r diffyg yn ...
Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.
|
5. |
Cyllideb Cyfalaf 2020/21 PDF 576 KB
Cyflwyno
adroddiad gan y Cyfarwyddwr
Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog
Adran 151.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith,
adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151
a oedd yn ymgorffori'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer
2020/21.
Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid bod
gofyn i’r Pwyllgor Gwaith gynnig
cyllideb gyfalaf ar gyfer 2019/20 a fydd wedyn yn cael ei chyflwyno
i'r Cyngor Llawn yn ei gyfarfod ar 10 Mawrth, 2020. Roedd yr
adroddiad yn nodi'r brif raglen gyfalaf arfaethedig ar gyfer
2020/21.
Adroddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151
yn fanwl i'r Pwyllgor am y prif bwyntiau yn yr adroddiad, ac
amlygwyd ac adroddwyd ar y materion a ganlyn: -
- Mae'r Strategaeth Gyfalaf gyfredol yn nodi'r
egwyddorion i'r Cyngor eu dilyn wrth bennu ei raglen gyfalaf, a
dyrennir cyllid cyfalaf bob blwyddyn i sicrhau bod y Cyngor yn
buddsoddi yn ei asedau cyfredol h.y. adeiladau'r Cyngor, cerbydau,
offer TG, priffyrdd a ffyrdd;
- Cyfeiriwyd at y cyllid cyfalaf (fel y dangosir yn
Nhabl 1 yr adroddiad) a oedd yn dangos y cyllid cyfalaf y disgwylir
iddo fod ar gael ar gyfer 2020/21 a bod y ffigyrau ar gyfer y
setliad cychwynnol i lywodraeth leol yn cyfeirio at y Grant Cyfalaf
Cyffredinol a Benthyca â Chymorth. Mae lefel y cyllid o dan y
ddau bennawd hyn wedi aros yn weddol gyson dros nifer o flynyddoedd
ac ni ragwelir y byddant yn newid yn sylweddol rhwng y setliad dros
dro a'r setliad terfynol;
- Amlinellwyd y sefyllfa o ran rhaglen gyfalaf Ysgolion
yr 21ain Ganrif i'r Pwyllgor;
- Mae cyllid y CRT wedi'i glustnodi ar gyfer prosiectau
CRT yn unig. Mae'r cynllun yn caniatáu ar gyfer defnyddio
£5.24m o gronfeydd wrth gefn y CRT yn 2020/21;
- Cyfeiriwyd at y cynlluniau yr ymrwymwyd iddynt yn
2019/20 fel y dangosir yn Nhabl 2 yr adroddiad, a fydd yn cario
drosodd i 2020/21 ond bydd angen cyllid cyfatebol ychwanegol o
£75k mewn perthynas â Chynllun Adfywio Caergybi (Rhan
II y Fenter Treftadaeth Treflun) ac argymhellir y dylid cynnwys y
cynllun hwn yn rhaglen gyfalaf 2020/21;
- Adnewyddu / Amnewid Asedau Cyfredol (fel y dangosir
yn Nhabl 3 yr adroddiad). Mae lefel y cyllid yn parhau yn 2021/22 a
thu hwnt a bydd rhaglen gyfalaf y Cyngor yn gyfyngedig i adnewyddu
ac amnewid asedau cyfredol;
- Cyfeiriwyd at brosiectau cyfalaf ‘Unwaith ac am
Byth’ i’w hariannu yn 2020/21 (fel y dangosir yn Nhabl
4 yr adroddiad) a oedd yn werth cyfanswm o £
2,174m;
- ‘Roedd paragraff 5.4 yr adroddiad yn dwyn sylw
at nifer o brosiectau nad oes angen cyllid arnynt yn 2020/21 ond a
allai fod angen eu hariannu yn 2021/22 neu wedi hynny.
Adroddodd y Cynghorydd Aled M Jones, Cadeirydd y
Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar drafodaethau cyfarfod y
Pwyllgor hwnnw ar 13 Ionawr, 2020 lle cyflwynwyd y Gyllideb Gyfalaf
ar gyfer 2020/21.
Dywedodd fod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wedi argymell
cefnogi'r Rhaglen Gyfalaf o £36.903m ar gyfer
2020/21.
Roedd yr Arweinydd yn dymuno diolch i'r Panel
Sgriwtini Cyllid am ei waith mewn perthynas â'r Gyllideb
Gyfalaf a'r Gyllideb Refeniw ar gyfer 2020/21.
Wrth nodi'r wybodaeth a gyflwynwyd, ...
Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.
|