Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Cyswllt: Ann Holmes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog yng nghyswllt unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y canlynol ddiddordeb mewn perthynas ag Eitem 9 ar y rhaglen ac ni chymerasant ran yn y drafodaeth:
Mrs Bethan Jones, Dirprwy Brif Weithredwr Mrs Gwen Carrington, Cyfarwyddwr Cymuned Dr Gwynne Jones, Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes |
|
Materion brys a ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu swyddog a benodwyd ganddo Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim i’w ddatgan. |
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr, 2014. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr 2014 yn gywir.
Penderfynwyd cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr, 2014 fel rhai cywir. |
|
Strategaeth Effeithlonrwydd y Cyngor PDF 1 MB I ystyried adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr ar yr ymarfer ymgynghori a gynhaliwyd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr yn amlinellu canlyniadau’r ymgynghoriad ar y Strategaeth Effeithlonrwydd – Gwneud Gwahaniaeth a gynhaliwyd yn ystod mis Hydref/Tachwedd 2014.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr bod angen i’r Strategaeth Effeithlonrwydd roi cyfeiriad clir dros y blynyddoedd nesaf i sicrhau dealltwriaeth ymysg y cyhoedd, staff a Chynghorwyr o sut y bydd yr awdurdod yn bwriadu cwrdd â’i heriau ariannol. Mae ymgynghoriad 2014 yn dilyn ymlaen o ymarfer tebyg a gynhaliwyd yn 2013. Roedd Atodiad A i’r adroddiad yn cynnwys dadansoddiad o’r ymatebion i’r 16 o gynigion penodol, ynghyd â detholiad o sylwadau a wnaed trwy ystod o wahanol ddulliau ymgynghori - holiaduron, llythyrau ac e-byst yn ogystal ag ymgynghoriad wyneb yn wyneb. Gofynnwyd i’r rheini a gymerodd ran i sgorio eu hatebion o 1 i 5, gydag 1 yn nodi eu bod yn anghytuno’n gryf gyda’r cynnig a 5 yn dynodi eu bod yn cytuno’n gryf.
PENDERFYNWYD:-
• Nodi ymateb dinasyddion Ynys Môn i’r cynigion a’r syniadau a gyflwynwyd yn yr arolwg Gwneud Gwahaniaeth. • Mabwysiadu’r Strategaeth Effeithlonrwydd yn ffurfiol ar gyfer 2014 ac alinio’r cynigion cyllidebol ar gyfer y 3 blynedd nesaf gyda’r egwyddorion a amlinellir ynddi. |
|
Y Gyllideb Refeniw Ddrafft 2015-16 PDF 339 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor Gwaith adroddiad y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro yn ymgorffori’r gyllideb refeniw ddrafft ar gyfer 2015-16. Mae’r adroddiad yn nodi’r cyd-destun i’r cynigion ynghyd â’r arbedion effeithlonrwydd a nodwyd.
Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid fod y setliad terfynol gan Lywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ar 1 Rhagfyr 2014 yn cadarnhau gostyngiad o 3.9% yn y setliad GCR i Ynys Môn am 2015/16 sy’n cyfateb i £3.545m. Wrth gyflwyno atodlen o £4m o arbedion a oedd ynghlwm, yr amcan oedd ceisio lleihau unrhyw effaith ar wasanaethau i’r eithaf a diogelu’r Ysgolion a’r Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae’r Strategaeth Effeithlonrwydd wedi ei chymryd i ystyriaeth a mabwysiadwyd ymagwedd gwerth am arian. Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid mai’r egwyddorion a oedd wedi llywio’r broses oedd yr ymdrech i beidio effeithio’n ormodol ar wasanaethau ac i beidio â defnyddio arian wrth gefn y Cyngor ar gyfer 2015/16 yn y disgwyl efallai y bydd raid ei ddefnyddio i gwrdd â heriau ariannol yn y blynyddoedd i ddilyn.
Wrth ystyried y gyllideb drafft, pwysleisiodd y Pwyllgor Gwaith bwysigrwydd sicrhau bod y cynigion wedi bod yn destun proses ymgynghori eang a thrwyadl.
PENDERFYNWYD –
• Mabwysiadu’r gyllideb ddigyfnewid ddrafft fel sail ar gyfer cyllideb refeniw 2015/16. • Y dylai’r Pwyllgor Gwaith geisio gwneud digon o arbedion yn 2015/16 i gydbwyso’r gyllideb refeniw heb ddefnyddio cronfeydd wrth gefn. • Y dylai’r Pwyllgor Gwaith gynllunio i gwrdd â chostau nad oes modd eu hosgoi mewn perthynas â diswyddo neu gostau unwaith ac am byth eraill i gyflawni arbedion heb ddefnyddio cronfeydd wrth gefn. |
|
Rhaglen Gyfalaf Ddrafft 2015/16 PDF 362 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor Gwaith adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro yn ymgorffori’r rhestr o geisiadau cyfalaf a gynigiwyd gan yr adrannau i’w cynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2015/16 i 2019/20.
Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid fod cais wedi ei wneud i’r adrannau gyflwyno bidiau am brosiectau cyfalaf yn y Rhaglen Gyfalaf 5 mlynedd ar ôl i’r Pwyllgor Gwaith fabwysiadu strategaeth gyfalaf ym mis Gorffennaf 2014. Mae’r rhestr lawn o gynigion i’w gweld yn Atodiad A. Adolygwyd y rhain fesul un a’u blaenoriaethu a’u sgorio wedyn yn seiliedig ar gyfres o feini prawf fel yr amlinellir yn Atodiad B i’r adroddiad. Cymharwyd y rhestr o fidiau yn erbyn amcangyfrif o’r adnoddau cyfalaf oedd ar gael (Atodiad C). Yr eitemau a oedd wedi eu hamlygu yn Atodiad A (a oedd yn werth £14,480m) oedd y rheini yr ystyriwyd eu bod yn briodol i’w cynnig ar gyfer eu cynnwys yn rhaglen gyfalaf 2015/16. Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid mai’r nod yw i’r rhaglen gyfalaf fod yn hunangyllidol a cheisio osgoi cynyddu ei ymrwymiadau benthyca a’r costau cysylltiedig a bod yn fwy rhagweithiol o ran cael gwared ar asedau nad yw eu hangen mwyach.
Penderfynwyd y dylid cynnwys yr eitemau a oedd wedi eu hamlygu yn Atodiad A i’r adroddiad (a oedd yn werth £14,480m) yn y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2015/16 i 2019/20. |
|
Costau Cludiant Ysgol PDF 270 KB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg Gydol Oes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor Gwaith adroddiad y Pennaeth Dysgu yn amlinellu cynigion mewn perthynas â thendrau am gontractau bws ysgol a’r strwythur ffioedd.
Adroddodd yr Arweinydd a’r Aelod Portffolio ar gyfer Addysg ar y rhesymeg dros y newidiadau a sylwadau’r Pwyllgor Sgriwitni Corfforaethol a oedd wedi cefnogi’r cynigion, gyda rhai amodau, mewn perthynas â chyflwyno trefniadau diogelwch i ddisgyblion sy’n colli eu tocynnau bws, cyfathrebu’r newidiadau yn glir i rieni, disgyblion a chyrff llywodraethu a chynnal asesiad risg o’r ddau wasanaeth anstatudol y bwriedir eu diddymu.
Roedd y Pwyllgor Gwaith yn cefnogi’r sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor Sgriwtini mewn perthynas â chyfathrebu, cynnal asesiad risg o’r gwasanaethau i’w ddiddymu a chyflwyno trefniadau diogelwch mewn perthynas â disgyblion sy’n colli eu tocynnau bws.
Penderfynwyd –
• Cymeradwyo cyflwyno system “dim tocyn, dim teithio” er mwyn sicrhau bod gan bob teithiwr sedd benodol ar y bws. • Cymeradwyo Opsiwn 2 a amlinellir yn yr adroddiad i gynyddu ffioedd yn raddol er mwyn sicrhau eu bod yn gyson gyda ffioedd a godir gan weddill yr awdurdodau yng Ngogledd Cymru. • Sicrhau cysondeb yng ngweithrediad y polisi cludiant trwy ddileu’r gwasanaethau anstatudol a ganlyn: Pentre Berw i Ysgol Esceifiog a Maes Llwyn / Porth Amlwch i Ysgol Gynradd Amlwch, yn amodol ar gynnal asesiad risg ar gyfer y llwybrau hynny. • Cyfathrebu’r newidiadau’n eglur i rieni, disgyblion a llywodraethwyr ysgol, a chyflwyno trefniadau diogelwch mewn perthynas â disgyblion sy’n colli eu tocynnau bws. |
|
Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 62 KB Ystyried mabwysiadu'r isod:-
"Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau a ganlyn, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei rhyddhau fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A y Ddeddf a'r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm". – I DDILYN Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm. |
|
Ail-strwythuro'r Uwch Dim Rheoli gyda'r golwg ar wneud Arbedion Effeithlonrwydd Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr. – I’W GYFLWYNO YN Y CYFARFOD Cofnodion: Dosbarthwyd adroddiad y Prif Weithredwr i Aelodau’r Pwyllgor Gwaith yn nodi’r cynigion ar gyfer ailstrwythuro’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth.
Aeth Miss Lynn Ball, Pennaeth Busnes y Cyngor a’r Swyddog Monitro allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar bwynt 6 Rhan D yr adroddiad.
Mewn perthynas â’r Pwyllgor Penodi, roedd y Cynghorydd A.M. Jones yn dymuno nodi bod gan y Pwyllgor gynrychiolaeth o bob grŵp gwleidyddol ond nid pob plaid wleidyddol.
Ar ôl ystyried y cynigion, penderfynwyd –
• Argymell Opsiwn 4 i’r Cyngor Sir fel yr opsiwn y mae’r Pwyllgor Gwaith yn ei ffafrio ar gyfer cyflawni’r amcanion ac fel un y mae modd ei weithredu, gyda golwg ar gomisiynu gwaith manylach i ddatblygu’r opsiwn ar gyfer ymgynghori gyda staff. • Argymell cychwyn y rhaglen ailstrwythuro yn ddi-oed. • Argymell bod y Prif Weithredwr yn cael ei awdurdodi i gomisiynu cyngor cyfreithiol arbenigol a/neu arweiniad AD proffesiynol ar gyfer datblygu’r cynlluniau ymhellach os a phryd yr ystyrir bod angen gwneud hynny yn y broses. • Argymell bod y rhaglen ailstrwythuro yn cael ei llywio gan y Prif Weithredwr. • Awdurdodi’r Prif Weithredwr i gywain barn rheoleiddwyr gwasanaeth wrth ddatblygu ymhellach yr opsiwn a ystyrir yn yr argymhelliad terfynol cyn cyflwyno’r mater yn ffurfiol i’r Cyngor. • Argymell bod swyddi statudol y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro yn cael eu hymgorffori o fewn yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth. • Argymell y dylai’r broses o benodi Prif Weithredwr newydd gychwyn ar unwaith fel y cam cyntaf yn y broses o ailstrwythuro’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth a chymeradwyo’r opsiwn a ffefrir ar gyfer newid ar yr un pryd, ac, yn dilyn penderfyniad gan y Cyngor, gofyn i’r Pwyllgor Penodiadau weithredu’r broses recriwtio ar gyfer yr ailstrwythuro a gofyn iddo hefyd ystyried y strwythur tâl fel mater o flaenoriaeth. • Awdurdodi’r Prif Weithredwr i rannu cynnwys yr adroddiad gydag aelodau’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn y lle cyntaf i wahodd eu sylwadau, cyn cyflwyno’r mater i’r Cyngor Sir a chyn ymgynghori ymhellach gyda’r Penaethiaid Gwasanaeth a’r Undebau Llafur. • Gofyn i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad gyda’r Gwasanaeth AD a’r Gwasanaethau Cyfreithiol, i lunio amserlen ar gyfer pob cam yn y broses ymgynghori er gwybodaeth a chymorth i’r Arweinyddion Grwpiau. |