Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Gwaith - Dydd Llun, 12fed Mehefin, 2017 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Council Chamber, Council Offices, Llangefni

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr R.G. Parry, OBE, FRAgS a Ieuan Williams ddiddordeb personol sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 8 ar y rhaglen.

2.

Materion brys a ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu Swyddog a Benodwyd ganddo

Dim materion brys ar adeg anfon allan y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w adrodd.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 304 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 24 Ebrill 2017.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w cadarnhau, gofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 24 Ebrill, 2017.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 24 Ebrill, 2017.

4.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 800 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod Gorffennaf 2017 I Chwefror 2018.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar y newidiadau i’r Blaen Raglen Waith ers y cyfnod adrodd blaenorol, fel a ganlyn -

 

Eitemau newydd i’r Blaen Raglen Waith

 

    Eitemau 12, 33 a 38 sy’n ymwneud â dileu dyledion sydd dros £5,000 mewn gwerth. Mae’r hawl i benderfynu ar hyn wedi’i ddirprwyo i’r Aelod

Portffolio Cyllid a’r Swyddog Adran 151 o dan gynllun dirprwyo’r Cyngor.

    Eitemau 9 a 11 sydd i’w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 17 Gorffennaf, 2017.

    Eitemau 18 a 21 sydd i’w hystyried gan y Pwyllgor gwaith yn ei gyfarfod ar 18 Medi 2017.

    Eitem 23 sydd i’w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 30 Hydref 2017.

    Eitemau 29 a 30 sydd i’w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 27 Tachwedd 2017.

    Eitemau 35 a 36 sydd i’w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 18 Rhagfyr, 2017.

    Eitemau 40, 41, 42, 43, 44, 45, 46 a 47 sydd i’w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod i drafod y Gyllideb ar 19 Chwefror 2018.

 

Eitemau a ohiriwyd tan ddyddiad diweddarach

 

    Eitem 6 (Diweddariad ar y Rhaglen Welliannau i’r Mân Ddaliadau) sydd wedi ei haildrefnu i’w thrafod yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith ar 18 Medi 2017 yn hytrach na 17 Gorffennaf 2017.

    Eitem 8 (Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr) sydd wedi ei haildrefnu i’w thrafod yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith ar 17 Gorffennaf 2017.

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith ddiweddaredig y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod o fis Gorffennaf, 2017 i Chwefror, 2018 yn amodol ar y newid ychwanegol yr adroddwyd amdano yn y cyfarfod.

5.

Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2016/17 - Chwarter 4 pdf eicon PDF 654 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 yn amlinellu’r canlyniadau dros dro ar gyfer y flwyddyn ariannol o 1 Ebrill 2016 i 31 Mawrth 2017.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid mai’r sefyllfa ariannol gyffredinol a ragwelir ar gyfer 2016/17 yw tanwariant o £633k; mae hyn yn well na’r gorwariant a ragwelwyd ac yr adroddwyd arno yn Chwarter 3. Mae’r esboniadau am yr amrywiadau sylweddol yn y cyllidebau a reolir gan wasanaethau wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Mae nifer o eitemau’n cael eu heithrio o gyllidebau’r gwasanaeth am fod gwariant yn erbyn y penawdau hyn y tu hwnt i reolaeth y gwasanaeth. Ar ôl cymryd yr eitemau hyn i ystyriaeth, mae’r tanwariant cyffredinol i’r Cyngor yn gostwng i £311k a hwn yw’r swm sydd i’w drosglwyddo i Falansau Cyffredinol y Cyngor.

 

Amlygodd yr Aelod Portffolio Cyllid y canlynol fel pwyntiau i’w nodi -

 

  Ymrwymiad posibl oddeutu £2.8m i setlo hawliadau tâl cyfartal sy’n parhaufod angen sylw, sy’n golygu y bydd lefel yr arian wrth gefn heb ei ymrwymo yn gostwng o £7.886m i £5.086m. Ar hyn o bryd mae’r Cyngor yn ceisio sicrhau cytundeb gan Lywodraeth Cymru a fyddai’n caniatáu i’r Cyngor drin y gwariant fel gwariant cyfalaf a fyddai’n trosglwyddo’r gost i’r gyllideb refeniw dros nifer o flynyddoedd. Os bydd y cais yn llwyddiannus, yna bydd y swm o £2.8m yn arian nad yw wedi ei ymrwymo ac yn cael ei roi’n ôl yn y gronfa wrth gefn gyffredinol sydd ar gael i’r Cyngor.

  Roedd gorwariant o £861k yn y gwasanaeth ar ddiwedd y flwyddyn. Roedd y sefyllfa hon yn waeth na’r un a adroddwyd arni yn chwarter 3, sef £775k. Mae’r cynnydd yn nifer y lleoliadau allsirol arbenigol ers cychwyn y flwyddyn academaidd newydd wedi arwain at bwysau ariannol sylweddol ar y Gwasanaeth ac mae’r gorwariant am y flwyddyn ariannol ar y cyllidebau hyn yn £396k. Cafwyd gorwariant o £331k ar gludiant ysgolion.

  Roedd gorwariant o £1,019k yn y Gwasanaethau Plant ar ddiwedd y flwyddyn, sy’n sylweddol uwch na’r canlyniad a ragwelwyd yn Chwarter 3, a’r rheswm dros y gorwariant yw cost y ddarpariaeth ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, sy’n ddarpariaeth arbenigol fel arfer. Mae hon yn ddarpariaeth sy’n cael ei harwain gan y galw ac ychydig iawn o reolaeth sydd gan y gwasanaeth drosti. Fodd bynnag, mae mesurau lliniaru yn cael eu rhoi ar waith, yn bennaf drwy fabwysiadu ymagwedd ataliol, er mwyn sicrhau lles y boblogaeth sy’n derbyn gofal yn Ynys Môn fel y disgrifir ym mharagraff 3.3.2 yr adroddiad.

  Tanwariant o £1.541m yn y Cyllid Corfforaethol a briodolir yn bennaf i arian annisgwyl unwaith ac am byth. Bydd arbedion Cyllid Corfforaethol yn ariannu gorwariant ar wasanaethau.

 

Daeth yr Aelod Portffolio Cyllid i’r casgliad bod yr arbedion a gyflawnwyd yn 2016/17 wedi deillio’n rhannol oherwydd amgylchiadau rhagluniaethol a bod  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Adroddiad Monitro Cyllideb Gyfalaf 2016/17 - Chwarter 4 pdf eicon PDF 631 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 yn amlinellu canlyniadau dros dro y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2016/17.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio Cyllid at y tabl ym mharagraff 2.1 yr adroddiad sy’n rhoi crynodeb o wariant cyfalaf hyd at 31 Mawrth 2017. Adroddodd bod y gyllideb ar gyfer y Gronfa Gyffredinol yn £38.665m a gwariwyd £28.033m hyd at 31 Mawrth 2017, sef 73% o’r gyllideb. Y prif resymau dros y tanwariant oedd y tanwariant mawr yn erbyn y cyllidebau ar gyfer Ysgolion yr 21ain Ganrif, y Cynlluniau Isadeiledd Strategol ar gyfer Caergybi a Llangefni a’r Cynllun Priffyrdd Newydd i Wylfa Newydd. Gellir dwyn cyllid ar gyfer y prosiectau hyn ymlaen i 2017/18. Rhoddir manylion am wariant yr holl gynlluniau cyfalaf yn erbyn y gyllideb yn Atodiad B yr adroddiad. Cynigir bod £4.677m yn cael ei ddwyn ymlaen i 2017/18 yn sgil llithriad yn y cynlluniau cyfalaf na chafodd eu cwblhau erbyn diwedd Mawrth 2017.

 

Cafodd y rhaglen gwella mân-ddaliadau ei hymestyn am flwyddyn. O gymryd i ystyriaeth y diffyg o £1.281m a ddygwyd ymlaen o 2015/16, cyfanswm derbyniadau cyfalaf o £2.854m ar ddiwedd y flwyddyn a gwariant o £1.226m, mae gwarged o £0.307m erbyn hyn. Bydd gwarged net o werthu mân-ddaliadau a’r rhaglen wella yn cael ei glustnodi i’w ddefnyddio’n benodol ac yn unig ar gyfer gwneud gwelliannau i fân-ddaliadau yn y dyfodol.

 

Ar y cyfan, roedd 2016/17 yn flwyddyn ariannol lwyddiannus o ran derbyniadau cyfalaf a derbyniwyd dros £5m.

 

Penderfynwyd

 

  Nodi sefyllfa alldro drafft Rhaglen Gyfalaf 2016/17 a fydd yn destun archwiliad.

  Cymeradwyo dwyn £4.677m ymlaen i 2017/18 oherwydd tanwariant ar y rhaglen yn sgil llithriad. Dygir ymlaen y cyllid ar gyfer y swm hwn hefyd i 2017/18.

7.

Adroddiad Monitro Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai 2016/17 - Chwarter 4 pdf eicon PDF 588 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 yn amlinellu perfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2016/17.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod y sefyllfa ariannol ddrafft ar gyfer 2016/17 yn dangos tanwariant o £3,263k. Felly, cynhyrchodd y CRT warged o £525k (yn erbyn diffyg cynlluniedig o £2,738k) gan adael balans o £7,567k yn y cronfeydd wrth gefn y gellir ei ddwyn ymlaen i ariannu rhaglenni cyfalaf yn y dyfodol, gan gynnwys codi tai newydd, fel yr amlinellir yn y cynllun busnes 30

mlynedd diweddaraf. Gweler mwy o fanylion yn Atodiad A yr adroddiad.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i Sgriwtini dderbyn adroddiadau diweddaru chwarterol ar y gyllideb CRT I gyd-fynd â’r adroddiadau ariannol rheolaidd a ddarperir i sgriwtini mewn perthynas â’r cyllidebau refeniw a chyfalaf. Cadarnhaodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 mai dyma oedd y bwriad.

 

Penderfynwyd

 

  Nodi’r sefyllfa mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer 2016/17.

  Bod y sefyllfa alldro yr adroddir arni yn y ddogfen yn parhau i fod yn ganlyniad dros dro hyd nes y cwblheir yr archwiliad statudol.

8.

Cynllun Gostyngiadau Dewisol yn y Dreth i Fusnesau’r Stryd Fawr am Gyfnod Dros Dro 2017/18 pdf eicon PDF 5 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog 151 yn gofyn i’r Pwyllgor Gwaith ddefnyddio ei bwerau dewisol i ganiatáu gostyngiad dan Adran 47 Deddf Llywodraeth Leol Cymru 1988 i weithredu cynllun gostyngiadau dros dro yn y dreth fusnes.

 

Wedi datgan diddordeb sy’n rhagfarnu yn y mater hwn, gadawodd y Cynghorwyr R.G. Parry, OBE, FRAgS ac Ieuan Williams y cyfarfod ac nid oeddent yn bresennol yn ystod y drafodaeth a’r penderfyniad ar y mater hwn.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn darparu gostyngiadau yn nhrethi annomestig y stryd fawr am flwyddyn yn unig o 1 Ebrill 2017 hyd at 31 Mawrth 2018. Mae’r gostyngiad wedi’i dargedu tuag at adwerthwyr stryd fawr yng Nghymru, a bydd yn darparu dwy haen o ostyngiadau ar gyfer trethi annomestig ar gyfer adwerthwyr cymwys ar y stryd fawr sydd mewn eiddo â gwerth ardrethol o £50,000 neu lai ym mlwyddyn ariannol 2017/18, yn amodol ar gyfyngiadau cymorth gwladol. Rhaid llenwi ffurflen gais i ymgeisio am y cymorth hwn. Mae mwy o fanylion am y meini prawf cymhwyster ac eithriadau yn Atodiad A yr adroddiad.

 

Penderfynwyd

 

  Bod yr Awdurdod yn defnyddio ei bwerau dewisol i ganiatáu dan Adran 47 Deddf Llywodraeth Leol 1988 gweithredu cynllun dros dro Llywodraeth Cymru ar gyferGostyngiadau yn Nhrethi’r Stryd Fawr”. Rhoddir y gostyngiad yn unol â dogfen Llywodraeth Cymru - “Canllawiau Trethi Annomestig - Gostyngiadau yn Nhrethi’r Stryd Fawr” 19 Ebrill, 2017 fel y gwelir yn Atodiad A i’r adroddiad.

  Bod y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 dan Gynllun Dirprwyo’r Cyngor i Swyddogion (rhan 3.5.3.5.19 y Cyfansoddiad) yn gwneud trefniadau priodol i weinyddu a phenderfynu ar geisiadau dan y CynllunGostyngiadau yn Nhrethi Annomestig y Stryd Fawr.”

9.

Strategaeth Ynni Effeithlonrwydd pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth a chymeradwyaeth gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) yn ymgorffori Strategaeth Effeithlonrwydd Ynni am y cyfnod 2017 i 2022.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo fod y strategaeth wedi’i llunio mewn ymateb i ymrwymiadau cenedlaethol ar ynni yn cynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015; y cynnydd mewn costau ynni a niwed tymor hir i’r amgylchedd. Mae’r strategaeth hefyd yn dynodi swyddogaethau a chyfrifoldebau er mwyn gweithredu’r strategaeth, i nodi a gwneud y defnydd gorau o grantiau gan y Llywodraeth ac i ledaenu’r neges ynglŷn ag arbed ynni ar draws y Cyngor. Nod y strategaeth yw galluogi Cyngor Sir Ynys Môn i wneud gostyngiad o 15% yn ei ddefnydd o ynni erbyn 2022 ac i sicrhau bod yr holl ynni y mae’n ei ddefnyddio’n dod o ffynhonnell garbon niwtral erbyn 2050. Roedd cyfanswm gwariant blynyddol y Cyngor ar ynni a gwastraff yn 2015/16 yn fwy na £2.1m; drwy fabwysiadu argymhellion y strategaeth gall y Cyngor liniaru effaith cynnydd mewn costau tanwydd sy’n uwch na chwyddiant. Mae’r Cyngor wedi rhoi nifer o brosiectau arbed ynni ar waith yn barod, ac mae rhai ohonynt wedi dwyn ffrwyth. Yr amcanion cyffredinol yw lleihau’r defnydd o ynni; hyrwyddo ffynonellau ynni gwyrdd a chreu cyfleoedd cyflogaeth yn y diwydiant ynni gwyrdd. Ar y dechrau bydd hyn yn cael ei wneud ar sail buddsoddi i arbed, gyda’r disgwyl y bydd llawer o’r gwariant hwnnw’n cael ei adennill dros amser yn sgil costau ynni is.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo y bydd y Pwyllgor Gwaith yn derbyn adroddiadau cynnydd rheolaidd; mae Aelodau’r Pwyllgor Gwaith hefyd yn awyddus i dderbyn gwybodaeth fwy penodol am gynlluniau arbed ynni gwirioneddol a chynlluniau posib.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) fod gan y Cyngor raglen o waith arbed ynni sy’n gwbl ddibynnol ar grantiau gan Lywodraeth Cymru e.e. rhaglen ariannu SALIX Cymru. Mae’r Awdurdod wedi bod yn arbennig o lwyddiannus o ran sicrhau cyllid ar gyfer goleuadau stryd, gyda 40% o oleuadau stryd erbyn hyn yn oleuadau LED. Talwyd amdanynt drwy ddefnyddio arbedion ar yr ynni a ddefnyddir a chostau cynnal a chadw is goleuadau o’r fath. Derbynnir nad oes arian cyfalaf ar gael yn fewnol yn y Cyngor ar hyn o bryd i gefnogi’r rhaglen hon gan fod blaenoriaethau eraill yn y rhaglen gyfalaf.

 

Er bod y Pwyllgor Gwaith yn cefnogi’r strategaeth, gofynnwyd am sicrwydd ynglŷn â pha mor gyraeddadwy yw nodau’r strategaeth o ystyried y cyfyngiadau ariannol. Gofynnodd y Pwyllgor Gwaith hefyd am gael gweld y rhaglen o waith arbed ynni y cyfeiriodd y Swyddog ati ac awgrymwyd ymhellach fod ffynonellau cyllido eraill y gellir ymchwilio iddynt ar gyfer y rhaglen e.e. benthyciadau di-log.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) bod modd gwireddu’r strategaeth. Mae grantiau/cyllid ar gael ar gyfer goleuadau, er enghraifft, y gellir eu talu’n ôl dros gyfnod penodol ac os yw cynllun yn cyfarfod â meini prawf effeithlonrwydd ynni yna mae siawns dda o dderbyn grant  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Gorchymyn Pryniant Gorfodol – Ffordd Gyswllt Llangefni pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) yn gofyn am ganiatâd i wneud Gorchymyn Pryniant Gorfodol o dan adran 239 Deddf Priffyrdd 1980 i gaffael tir sydd ei angen ar gyfer Rhan 3 o Ffordd Gyswllt Llangefni.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo fod adrannau 1 a 2 Ffordd Gyswllt Llangefni wedi eu hagor ym mis Mawrth 2017 a bod gwaith ar ran 4 wedi dechrau ym mis Mehefin 2017. Rhaglenwyd gwaith rhagbaratoadol ar ran 3 i gychwyn ym mis Hydref 2017 ac er bod telerau wedi eu cytuno â’r tirfeddiannwr, nid yw pryniant y tir wedi’i gwblhau oherwydd anghydfod rhwng cyfarwyddwyr y cwmni. Er mwyn symud ymlaen mae angen awdurdod ffurfiol ar gyfer GPG gyda’r gobaith y bydd hynny’n cymell y tirfeddianwyr i ddod i gytundeb.

 

Penderfynwyd

 

  Bod y Cyngor yn gwneud Gorchymyn Prynu Gorfodol (GPG) o dan adran 239 Deddf Priffyrdd 1980 i gaffael tir sydd ei angen ar gyfer Rhan 3 o Gynllun Ffordd Gyswllt Llangefni fel a ddangosir ar y cynllun sydd wedi’i atodi i’r adroddiad.

  Dirprwyo awdurdod i’r Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) gymryd yr holl gamau sydd eu hangen i sicrhau cadarnhau’r GPG.

11.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 123 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“Dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r

cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm."

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd o dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar eitem 12, oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd fel y’i cyflwynwyd.

12.

Ffoaduriaid Syria

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai yn amlinellu’r cynnydd hyd yma o ran darparu’r cynllun Adsefydlu Ffoaduriaid Syria yn Ynys Môn.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith y sefyllfa a chroesawyd y cynnydd a wnaethpwyd hyd yma.

 

Penderfynwyd

 

  Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud hyd yma.

  Cadarnhau’r camau nesaf, sef cymryd hyd at 10 unigolyn dros y 12 mis nesaf.

  Cadarnhau argymhelliad y Swyddogion bod y Cyngor ddim yn cymryd rhan ar hyn o bryd yn y Cynllun Trosglwyddo Cenedlaethol ar gyfer Plant ar eu pennau eu hunain sydd yn ceisio lloches, am y rhesymau a amlinellir yn yr adroddiad.

13.

Newidiadau i’r Cyfansoddiad pdf eicon PDF 368 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yn amlinellu’r newidiadau arfaethedig i’r Cyfansoddiad er mwyn cynnwys dwy swydd ychwanegol ar y Pwyllgor Gwaith. Hysbyswyd y Pwyllgor Gwaith yr ystyrir bod y newidiadau’n angenrheidiol er mwyn darparu capasiti ychwanegol a’r hyblygrwydd mwyaf posibl er mwyn canolbwyntio ar feysydd blaenoriaeth penodol o fewn y Cyngor ac y byddant yn adlewyrchu darpariaethau statudol. Byddai cynyddu aelodaeth y Pwyllgor Gwaith yn y modd sy’n cael ei argymell yn gost niwtral ar y sail bod y Dirprwy Arweinydd ac un Cadeirydd yn parhau i wrthod derbyn yr uwch gyflogau sy’n daladwy ar gyfer eu swyddi.

 

Penderfynwyd

 

Argymell bod adran 2.7.2 y Cyfansoddiad yn cael ei ddiwygio i ddarllen fel a ganlyn

 

Bydd y Pwyllgor Gwaith yn cynnwys yr Arweinydd ynghyd ag o leiaf 2, ond dim mwy na 9 Cynghorydd arall, gan gynnwys y Dirprwy Arweinydd, a bydd y cyfan yn cael eu penodi i’r Pwyllgor Gwaith gan yr Arweinydd.”

 

  Argymell bod nifer y swyddi ar y Pwyllgor Gwaith sy’n gymwys i dderbyn cyflog uwch yn codi ar unwaith o 7 i 8.

 

  Cytuno mewn egwyddor bod y Cyngor yn cyflwyno cais i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (PACGA) am ganiatâd i godi nifer Aelodau Cyngor Sir Ynys Môn sy’n gymwys i dderbyn cyflog uwch o’r cap presennol o 15 hyd at uchafswm o 16.

 

  Ar yr amod y bydd y Cyngor yn cymeradwyo’r cais terfynol ac ar yr amod y ceir caniatâd gan PACGA , rhoi awdurdod i benodi Aelod pellach o’r Pwyllgor Gwaith (cyfanswm o 9) a fydd yn gymwys i dderbyn cyflog uwch.

 

  Cydnabod y bydd penodi dau Aelod pellach o’r Pwyllgor Gwaith yn gost niwtral ar y sail y byddant yn cael eu cyllido o arbedion o gyflogau’r Dirprwy Arweinydd ac un Cadeirydd a fyddant ill dau yn parhau i wrthod y cyflogau uwch sy’n daladawy ar gyfer eu swyddi.

14.

Cynllun Arweinyddiaeth Strategol ar gyfer Ysgolion pdf eicon PDF 546 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, er ystyriaeth a chymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Dysgu yn amlinellu’r camau a’r adnoddau sydd eu hangen i weithredu cynllun datblygu i ddatblygu arweinyddion ysgol ar gyfer y dyfodol yn Ynys Môn.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Addysg bod y cynigion yn seiliedig ar egwyddorion y rhaglen Foderneiddio Ysgolion a fabwysiadwyd eisoes a’u bod yn ymateb i’r newidiadau yn Strwythur y Gwasanaeth Ysgolion a’r angen i ddatblygu arweinwyr ysgol yn lleol.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith y cynigion a gofynnwyd am eglurhad ynglŷn â’r amserlen ar gyfer cwblhau a gweithredu’r Cynllun/Rhaglen Ddatblygu yn ogystal ag unrhyw ymrwymiadau/costau ariannol y tu hwnt i’r costau amcangyfrifedig o £56k yn y flwyddyn gyntaf.

 

Dywedodd y Pennaeth Dysgu nad cwrs unwaith ac am byth yw’r Rhaglen Ddatblygu ond yn hytrach ei bod yn rhaglen ddatblygu barhaus dros gyfnod o amser ac y bydd modd teilwra gwahanol fath o gefnogaeth yn ôl anghenion yr unigolyn tu mewn a thu allan i’r ysgol. Mae nifer o unigolion wedi eu hadnabod eisoes i gymryd rhan yn y rhaglen ac mae gwaith cefnogi rhagbaratoadol a datblygiad proffesiynol wedi dechrau’n barod. Rhagwelir y bydd y modd ariannu’r rhaglen drwy’r Grant Arloesedd Ysgolion Bach a Gwledig sydd eto i’w gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Os na fydd Llywodraeth Cymru’n cymeradwyo’r grant mae’n bosib y gofynnir i’r Pwyllgor Gwaith gefnogi trefniadau i gyllido’r rhaglen hon yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae’r Gwasanaeth Addysg yn hyderus bod y pecyn ar gyfer Arweinwyr Ysgolion y Dyfodol yn cyd-fynd â’r gweithgareddau a nodwyd yn y meini prawf ar gyfer y grant.

 

Penderfynwyd cymeradwyo Cynllun Datblygu i ddatblygu arweinwyr ysgol y dyfodol i gynnwys yr elfennau a amlinellir yn yr adroddiad.