Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Gwaith - Dydd Llun, 15fed Gorffennaf, 2019 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

2.

Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu Swyddog a benodwyd ganddo

Dim materiion brys ar adeg anfon allan y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 278 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, cofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 17 Mehefin, 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 17 Mehefin, 2019 i’w cymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith. 

 

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 17 Mehefin, 2019 fel rhai cywir.

4.

Cofnodion - Panel Rhiant Corfforaethol pdf eicon PDF 253 KB

Cyflwyno i’w mabwysiadu, cofnodion drafft y Panel Rhiant Corfforaethol a gynhaliwyd ar 10 Mehefin, 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion drafft y Panel Rhiant Corfforaethol a gynhaliwyd ar 10 Mehefin, 2017 ar gyfer eu mabwysiadu. 

 

Penderfynwyd mabwysiadu cofnodion drafft y cyfarfod o’r Panel Rhiant Corfforaethol a gynhaliwyd ar 10 Mehefin, 2019 fel rhai cywir.

5.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 778 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn cynnwys Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod o Awst, 2019 i Mawrth 2020 i’w ystyried a nodwyd y newidiadau canlynol  

 

Eitem newydd ar gyfer cyfarfod 16 Medi, 2019 –

 

Eitem 2 – Adroddiad Perfformiad Blynyddol (Cynllun Gwella) 2018/19

 

Eitem wedi’i hail drefnu

 

           Eitem 9 – Anableddau Dysgu: Trawsnewid Cyfleoedd Dydd (caniatâd mewn perthynas â’r broses ymgysylltu) o gyfarfod 16 Medi i 28 Hydref, 2019 ac hefyd wedi’i ail eirio i ddarllenAnableddau Dysgu: Trawsnewid Cyfleoedd Dydd (caniatâd mewn perthynas â’r broses ymgynghori).  

 

Eitemau ychwanegol i’w trefnu ar y rhaglen waith ar gais y gwasanaethau  

 

           Ffoaduriaid Syria

           Tai Cyngor: Datblygiadau o 10 neu fwy o unedauLlaingoch, Caergybi

           Cwrs Golff Llangefni

           Cynllun Adfywio Gogledd Ynys Môn

           Ffurfioli’r Bartneriaeth rhwng Ysgol Goronwy Owen ac Ysgol Moelfre

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi ei diweddaru am y cyfnod Awst, 2019 hyd at fis Mawrth, 2020 gyda’r newidiadau ychwanegol a amlinellwyd yn y cyfarfod.

6.

Cyfrifon Terfynol Drafft 2018/19 pdf eicon PDF 795 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn cynnwys y prif ddatganiadau ariannol drafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19 (Datganiad Gwariant ac Incwm Cynhwysfawr drafft, Mantolen ddrafft fel ar 31 Mawrth, 2019 a chrynodeb o’r arian wrth gefn sy’n cael ei ddal gan y Cyngor) ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith. 

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid bod y dyddiad cau statudol ar gyfer cwblhau ac arwyddo’r cyfrifon drafft wedi ei symud ymlaen o 30 Mehefin i 15 Mehefin ar gyfer blynyddoedd ariannol 2018/19 a 2019/20 a bod yr amserlen yn cael ei chwtogi ymhellach i 31 Mai ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/21 a thu hwnt (gyda’r dyddiadau ar gyfer archwilio’r cyfrifon terfynol yn cael ei symud o 30 i 15 Medi ar gyfer blynyddoedd ariannol 2018/19 a 2019/20 ac i 31 Gorffennaf ar gyfer 2020/21 a thu hwnt i hynny). Mae’r cyfrifon drafft ar gyfer 2018/19 wedi eu cwblhau a dechreuodd y gwaith o archwilio’r cyfrifon ar 1 Gorffennaf, 2019. Bydd y Datganiad Cyfrifon drafft llawn ar gyfer 2018/19 yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar 23 Gorffenanf, 2019. Bydd y cyfrifon terfynol wedi eu harchwilio yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a’r Cyngor Llawn ym mis Medi. 

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod y datganiadau ariannol drafft llawn ar gyfer 2018/19 ar gael ar wefan y Cyngor. 

 

Bu’r Cadeirydd, gan gydnabod y gwaith caled a oedd wedi’i wneud er mwyn cyflawni’r her o amserlen dynnach ar gyfer cynhyrchu datganiadau ariannol drafft, dynnu sylw at y ffaith bod y stori y tu ôl i’r ffigyrau yn parhau i fod yn un o’r heriau a’r ansicrwydd ariannol parhaus gyda gwasanaethau’r Cyngor yn parhau i wynebu pwysau ariannol. 

 

Penderfynwyd

 

           Nodi’r prif ddatganiadau ariannol drafft (heb eu harchwilio) ar gyfer 2018/19.

           Nodi’r sefyllfa o ran cronfeydd wrth gefn clustnodedig a chymeradwyo’r defnydd o, neu gynnydd i gronfeydd wrth gefn unigol fel y nodir yn Atodiad 4 yr adroddiad.

           Cymeradwyo’r cronfeydd wrth gefn newydd, sy’n gyfanswm o £1.270m fel y gwelir yn Nhabl 3 yr adroddiad.

           Nodi’r sefyllfa o ran balansau’r ysgolion.

           Nodi balansau’r CRT fel yr oeddynt ar 31 Mawrth, 2019.

7.

Cronfa'r Degwm pdf eicon PDF 641 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i gynllun drafft ar gyfer gweinyddu Cronfa’r Degwm Ynys Môn.

 

Bu’r Aelod Portffolio Cyllid grynhoi’r cefndir i sefydlu Cronfa’r Degwm a ffurfiwyd pan ddiddymodd Deddf yr Eglwys yng Nghymru 1914 yr Eglwys yng Nghymru a throsglwyddo asedau i Gynghorau Sir. Sefydlwyd y gronfa ym 1922 ond ni ddosbarthwyd yr asedau yn llawn tan 1996. Parhaodd y gronfa i gael ei gweinyddu gan Gyngor Sir Ynys Môn hyd adeg ad-drefnu llywodraeth leol ym 1974 pan ddaethpwyd â chronfeydd a oedd yn berthnasol i Ynys Môn, Sir Gaernarfon, y rhan fwyaf o Meirionnydd a rhannau o Sir Ddinbych ynghyd o dan reolaeth Cyngor Gwynedd. Yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol ym 1996, cafodd yr asedau a oedd yn cael eu dal gan Gyngor Sir Gwynedd eu dosbarthu i’r tri awdurdod newydd. Mae’r adroddiad yn amlinellu’r materion sydd wedi codi o ran datgymalu Cronfa bresennol Cyngor Gwynedd a gwerth y tri darn o dir sydd wedi cymryd amser sylweddol i’w ddatrys; mae’r materion hynny bellach wedi eu datrys ac mae wedi’i gadarnhau bod modd i’r Gronfa gael ei dosrannu rhwng y tri parti perthnasol sef Ynys Mon, Conwy a Gwynedd er mwyn iddynt allu sefydlu eu cronfeydd unigol eu hunain at y diben elusennol y’i bwriadwyd ar eu cyfer ac fel a ddiffinnir.     

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio bod y Cyngor, ar 25 Mai, 2019 wedi derbyn arian parod fel ei gyfran o’r Gronfa gyda gweddill yr asedau yn cael eu trosglwyddo i’r Cyngor gan gynnwysdau ddarn o dir. Bydd angen  i’r Cyngor gymeradwyo cynllun ar gyfer gweinyddu ac ymgeisio ar gyfer y cyllid sydd ar gael. Mae cynllun arfaethedig wedi’i atodi yn Atodiad B o’r adroddiad. Roedd y Gronfa Degwm ar y cyd rhwng Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy yn elusen gofrestredig a bydd angen sefydlu elusen newydd ar gyfer Cronfa’r Degwm Ynys Môn. 

 

Tynnodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 sylw at y ffaith, er i’r gronfa barhau i gael ei gweinyddu gan Gyngor Gwynedd, y dyfarnwyd grantiau yn seiliedig ar benderfyniadau a wnaed gan Gyngor Sir Ynys Môn.

 

Penderfynwyd

 

           Cymeradwyo’r cynllun drafft fel sydd ynghlwm yn Atodiad B yr adroddiad a dirprwyo’r grym i’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a’r Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro mewn ymgynghoriad â’r Aelod Portffolio Cyllid i

 

           Gwblhau’r trefniadau sy’n angenrheidiol i’r cynllun gael ei gymeradwyo ac i sefydlu’r corff elusennol.

 

           Gwneud unrhyw newidiadau sy’n ofynnol i’r cynllun drafft gan y Comisiwn Elusennau neu’r cynghorwyr cyfreithiol er mwyn cwblhau’r broses, ar yr amod nad yw’r newidiadau yn gwrthdaro ag egwyddorion y cynllun drafft. Os bydd unrhyw newid gofynnol yn newid yr egwyddorion a adlewyrchir yn y cynllun drafft, bydd angen cymeradwyaeth bellach gan y Pwyllgor Gwaith cyn i’r newidiadau i’r cynllun gael eu mabwysiadu.

 

           Gofyn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Rhaglen Arfor pdf eicon PDF 584 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Weithredwr mewn perthynas â gweithredu’r Rhaglen Arfor ar Ynys Môn ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith.  

 

Adroddodd y Deilydd Portffolio Prosiectau Mawr a Datblygiad Economaidd bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ddyrannu £2m i ariannu Cronfa Arloesi Arfor yn ystod y cyfnod 2 flynedd 2019/20 i 2020/21. Nod y rhaglen Arfor yw peilota gwahanol agweddau a phrosiectau sy’n hyrwyddo entrepreneuriaeth a thwf busnes gan ganolbwyntio ar hyrwyddo’r Gymraeg ac mae’n canolbwyntio ar y pedair Sir lle mae’r Gymraeg ar ei chryfaf – Gwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a Chaerfyrddin.  Mae Adran Economi Llywodraeth Cymru yn darparu’r cyllid ac mae’r cynnig grant yn gosod dibenion, amcanion ac allbynnau penodol sy’n cael eu crynhoi yn yr adroddiad. Bydd Cyngor Gwynedd yn arwain ar reoli’r rhaglen a bydd rhai elfennau o’r rhaglen yn cael eu gweithredu ar y cyd rhwng y 4 sir o dan gydlyniadnt Cyngor Gwynedd tra bydd eraill yn cael eu gweithredu yn lleol drwy’r Cynghorau Sir unigol. Darperir synopsis o gynlluniau Arfor Ynys Môn, y bwriad yw dechrau gweithio mewn partneriaeth â Menter Môn er mwyn ychwanegu gwerth ac osgoi dyblygu gwaith. Bydd cynlluniau penodol i Ynys Môn yn cael eu llywodraethu gan banel grantiau Arfor a fydd yn rheoli’r gyllideb, yn penderfynu ar geisiadau ac yn monitro trefniadau.  

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio, ynghyd a sichrau bod penderfyniadau economaidd yn cael eu gwneud ar lefel leol, bod y Rhaglen Arfor yn gosod y Gymraeg wrth wraidd datblygiad economaidd yn y pedair sir gan wneud yr iaith yn bwynt gwerthu unigryw ar gyfer busnesau. Gobeithir y bydd datblygu Cynllun Strategol a gwerthuso’r gwahanol brosiectau peilot yn arwain at greu rhaglen hirdymor newydd er mwyn cefnogi pedair sir Arfor ac ardaloedd eraill o bosib lle mae’r Gymraeg yn parhau i fod yn iaith gymunedol.  

 

Tynnodd y Rheolwr Adfywio sylw at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio, fel rhan o’r rhaglen, na ddylai cynlluniau presennol gael eu dyblygu a bod yn rhaid i agweddau newydd ac arloesol gael eu creu a’u cefnogi. Cadarnhaodd y Swyddog y bydd unrhyw brosiectau na fyddant yn cael eu cefnogi o ganlyniad yn cael eu hailgyfeirio i raglenni eraill.

 

Croesawodd y Pwyllgor Gwaith y fenter gan ganmol yr agwedd o gydweithio sy’n galluogi gweithrediad cynlluniau sy’n berthnasol yn lleol drwy’r cynghorau sir unigol. Mewn ymateb i gwestiynau, dywedodd yr Aelod Portffolio Prosiectau Mawr a Datblygiad Economaidd bod y gronfa wedi’i chreu gyda’r bwriad o gael ei defnyddio i gefnogi a chreu busnesau preifat yn lleol yn hytrach nag ar gyfer cynlluniau’r Cyngor ac nad oes disgwyl i’r Cyngor roi unrhyw arian cyfatebol tuag at y rhaglen.  

 

Penderfynwyd cefnogi a gweithredu’r Rhaglen Arfor ar Ynys Môn, ac awdurdodi’r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd i –

 

           Dderbyn y cyllid Arfor gan Lywodraeth Cymru trwy Gyngor Gwynedd a’i ddefnyddio ar weithgareddau cymwys.

           Gweithio mewn partneriaeth efo Cyngor Gwynedd neu gynghorau eraill yn yr ardal Arfor i weithredu’r rhaglen

           Gweithio mewn partneriaeth â Menter Môn er mwyn gweithredu’r rhaglen Arfor.

           Gweithredu rhaglen grantiau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan Gyfarwyddwr Dros Dro y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol ar effeithlonrwydd y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith. 

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Gwasanethau Cymdeithasol Dros Dro / Pennaeth y Gwasanaeth Oedolion bod cynhyrchu adroddiad blynyddol sy’n ceisio hyrwyddo ymwybyddiaeth ac atebolrwydd am y perfformiad a’r cynnydd a wnaed dros y flwyddyn ddiwethaf wrth ddarparu Gwasanaethau Cymdeithasol i bobl Ynys Môn yn ddisgwyliad statudol. Mae’r adroddiad yn amlinellu rhai o gyraeddiadau allweddol y Gwasanaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ar draws y Gwasanaethau Oedolion a Phlant a Theuluoedd ynghyd â gosod cyfeiriad a blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod a’r heriau y bydd angen rhoi sylw iddynt er mwyn eu cyflawni. 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Dros Dro ei fod yn falch â’r cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn ar draws y Gwasanaethau Plant a’r Gwasanaethau Oedolion. Dros y 12 mis diwethaf cafwyd nifer o ddatblygiadau yn y ddau faes y mae’r Gwasanaeth yn falch ohonynt; yn y Gwasanaethau Plant, mae’r Fframwaith Gwella Ansawdd Ymarfer bellach yn tanategu’r gwaith a gyflawnwyd ac a ddylunwiyd er mwyn llywodraethu ac arwain y gweithlu; mae gan Teulu Môn Strategaeth Ymgysylltu glir yn ei lle ac mae’r Gwasanaeth Camu Ymlaen â’r nod o gryfhau teuluoedd nad ydynt angen Cefnogaeth statudol bellach ond sy’n parhau i angen arweiniad. Gobeithir y bydd y Cynnig Newydd i Ofalwyr Maeth yn cynyddu gallu’r Awdurdod i recriwtio gofalwyr maeth ac i’w cynorthwyo nhw i ddarparu’r cymorth gorau i blant sy’n cael eu maethu. Yn yr un modd, mae agor cyfleuster Hafan Ceni a chomisiynu darpariaeth gofal cartref newydd i drigolion wedi helpu’r Gwasanaethau Oedolion i wneud cynnydd gyda’u nod o gefnogi oedolion i aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Mae Gwasanaethau Cefnogi Iechyd Meddwl wedi cryfhau eu ffocws ar helpu unigolion i wella ei llesiant drwy sesiynau iechyd a ffitrwydd grŵp.         

 

Gorffennodd y Swyddog drwy ddiolch i holl staff y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghyd â’r darparwyr hynny a gomisiynwyd am eu gwaith caled yn ystod 2018/19. Yn ogystal, diolchodd y Gwasanaeth i Dr Caroline Turner, y cyn gyfarwyddwr a oedd yn y swydd ar gyfer y rhan fwyaf o 2018/19, am ei chefnogaeth yn ystod y flwyddyn honno a’r flwyddyn flaenorol.  

 

Bu’r Cynghorydd Aled Morris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol adrodd yn ôl o gyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf, ble cyflwynwyd yr Adroddiad Blynyddol iddo ac fe siaradodd i gadarnhau bod y Pwyllgor wedi cydnabod fod cynnydd wedi’i wneud dros y flwyddyn a bod hynny wedi eu adlewyrchu yn yr adroddiad a mynegodd ei ddiolch i ymrwymiad a gwaith caled y staff am wneud i hynny ddigwydd. Roedd trafodaeth y Pwyllgor ar y Gwasanaethau Plant wedi canolbwyntio ar symudiad Llywodraeth Cymru tuag at annog awdurdodau lleol i osod targed ar gyfer lleihau nifer y plant mewn gofal gyda’r Pwyllgor yn ei gwneud yn glir ei fod yn cefnogi’r Arweinydd wrth ymwrthod â cham o’r fath.   

 

Mae’r Pwyllgor Gwaith hefyd yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 205 KB

Ystyried mabwysiadu’r isod:-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohono yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm”.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd o dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.

11.

Opsiynau ar gyfer Byw â Chymorth (Anableddau Dysgu)

To submit a report by the Interim Director of Social Services.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro / Pennaeth Gwasanaethau Oedolion, yn gofyn am ganiatâd y Pwyllgor Gwaith i ail-dendro am y Gwasaaneth Byw â Chymorth (Anableddau Dysgu) ar Ynys Môn.

 

Cynghorwyd y Pwyllgor Gwaith fod yr argymhelliad yn cynnwys ail fodelu’r ddarpariaeth bresennol ac yn hytrach na chael gwahanol ddarparwyr yn gwasanaethu’r Ynys gyfan, byddai’r un darparwr yn gwasanaethu ardal benodol gyda’r Ynys yn cael ei rhannu’n dair ardal fel a ddangosir ar y mapiau sydd ynghlwm wrth yr adroddiad. Cafodd y rhesymau a’r rhesymeg dros dendr cystadleuol eu hamlinellu gyda’r farn y bydd yr ymarfer ail dendro yn darparu cyfle i gaffael gwasanethau sy’n darparu’r gwerth gorau tra hefyd yn cynnig dewis a rheolaeth I’r unigolion a gefnogir.

 

Adroddodd y Cynghorydd G.O.Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio yn ôl o gyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf a oedd wedi ystyried y mater; mae’r Pwyllgor wedi gofyn am gadarnhad a sicrwydd ar nifer o faterion gan gynwnys ymgysylltiad â rhanddeiliaid a chefnogaeth drwy’r broses dendro ac yn dilyn hynny, effeithlonrwydd a gwerth am arian, ac adroddwyd y cafwyd argymhelliad bod y ddarpariaeth gwasanaeth presennol ar gyfer Byw â Chymorth (Anableddau Dysgu) yn cael ei ail dendro. 

 

Trafododd y Pwyllgor Gwaith y cais gan ystyried y pwyntiau a godwyd gan Sgriwtini a chafwyd sicrwydd gan y Pennaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Dros dro / Pennaeth Gwasanaethau Oedolion y byddai Aelodau yn cael eu hysbysu am y cynnydd a/neu unrhyw ddatblygiadau drwy gydol y broses.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cynnig i ail-dendro’r ddarpariaeth gyfredol ar gyfer y gwasanaeth Byw â Chymorth (Anableddau Dysgu).

12.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 382 KB

Ystyried mabwysiadu’r isod:-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohono yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm”.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd o dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.

 

13.

Tai Cyngor - Datblygu 10 neu fwy o unedau

Cyflwyno adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai yn gofyn am ganiatâd y Pwyllgor Gwaith i symud ymlaen i ddatblygu cynllun tai newydd o 10 o unedau ar safle Marquis yn Rhosybol ar gyfer ystyriaeth.  

 

Cynghorwyd y Pwyllgor Gwaith fod cyfle wedi codi i’r Cyngor ddatblygu tai Cyngor newydd ar safle Marquis yn Rhosybol sydd eisoes wedi ei adnabod fel safle posibl ar gyfer tai ac sydd wedi ei gynnwys yn y rhaglen datblygu Tai Cymdeithasol ers 2017. Cynhaliwyd Arolwg Angen am Dai drwy’r gwasanaeth Galluogi Tai Gwledig mewn cydweithrediad â’r Cyngor Cymuned yn ystod yr hydref 2018 a chafodd yr angen am 10 o gartrefi fforddiadwy ychwangeol ei adnabod. Fel rhan o’r arolwg, cafodd holiadur ei gylchreeg i drigolion lleol a chynhaliwyd diwrnod agored ym mis Tachwedd, 2018 i drafod tai yn y pentref. Roedd Cefnogaeth glir i ddatblygu’r safle Marquis. Bydd y datblygiad yn cynnwys cymysgedd o unedau tai ac yn cael ei ariannu’n rhannol drwy ddyraniad grant tai fforddiadwy Llywodraeth Cymru ac yn rhannol drwy’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae llawer iawn o waith paratoi wedi’i ymgymryd ag ef gyda’r nod (yn amodol ar ganiatâd y Pwllgor Gwaith) o ddechrau gweithio ar y datblygiad yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol.     

 

Penderfynwyd cymeradwyo symud ymlaen i ddatblygu cynllun tai cyngor newydd o 10 uned ar safle Marquis, Rhosybol.