Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Cyfarfod Rhithiol (Ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod), Pwyllgor Gwaith - Dydd Llun, 15fed Mehefin, 2020 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

Cyn cychwyn ar fusnes y cyfarfod, eglurodd y Cadeirydd na fyddai gweddarllediad byw o'r cyfarfod hwn ar gael, a hynny oherwydd ei fod yn cael ei gynnal fel cyfarfod rhithwir. Fodd bynnag, byddai recordiad o'r trafodaethau ar gael ar wefan y Cyngor cyn gynted ag y bo modd.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y ffaith y bydd Mr Alwyn Rhys Jones, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yn gadael yr Awdurdod i ymgymryd â swydd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam; ar ran y Pwyllgor Gwaith diolchodd iddo am ei wasanaeth gwerthfawr yn ystod ei amser gyda Chyngor Sir Ynys Môn a dymunodd yn dda iddo ar gyfer y dyfodol yn bersonol ac yn broffesiynol.

 

Yna cafwyd munud o dawelwch er cof am y diweddar Gynghorydd Shaun J. Redmond a fu farw ym mis Ebrill a hefyd i gofio am bawb a gollodd eu bywydau i’r feirws Covid-19.

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Materion brys a ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu Swyddog a benodwyd ganddi

Dim materion brys ar adeg anfon allan y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd dim materion brys.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 264 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 23 Mawrth 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 23 Mawrth, 2020 i'w cadarnhau.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 23 Mawrth, 2020 fel rhai cywir.

4.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 357 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn ymgorffori Blaenraglen Waith y Pwyllgor hwn am y cyfnod rhwng Gorffennaf, 2020 a Chwefror, 2021 a nodwyd yr eitemau newydd canlynol -

 

           Eitem 2 - Cynllun Adfer Covid-19 (ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ym mis  Gorffennaf, 2020)

           Eitem 4 - Unedau Ychwanegol ar safle Marquis, Rhosybol (ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ym mis  Gorffennaf, 2020)

           Eitem 14 - Cyflwyno cais llawn i'r Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol (IDA) i Ynys Môn gael ei hachredu â statws Cymuned Awyr Dywyll Ryngwladol (ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ym mis  Medi 2020).

 

Hysbyswyd y Pwyllgor Gwaith ymhellach y byddai eitem 3 ar y Rhaglen WaithCymeradwyo'r Cynllun Bioamrywiaeth - a oedd i'w hystyried gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf, 2020 yn cael ei hailraglennu i’w thrafod ar ddyddiad i'w gytuno.

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Gorffennaf, 2020 hyd at Chwefror, 2021 gyda’r newid ychwanegol a gyflwynwyd yn y cyfarfod.

5.

Monitro'r Gyllideb Refeniw, Chwarter 4 2019/20 pdf eicon PDF 865 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn nodi'r sefyllfa alldro refeniw dros dro am y cyfnod 1 Ebrill, 2019 i 31 Mawrth, 2020 gan gynnwys y prif amrywiadau yn y gyllideb.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod y sefyllfa ariannol gyffredinol ar gyfer 2019/20 gan gynnwys Cyllid Corfforaethol a Chronfa'r Dreth Gyngor yn danwariant o £0.308m sy'n sylweddol well na'r hyn a ragwelwyd yn flaenorol ac sydd wedi digwydd i raddau helaeth o ganlyniad i wasanaethau yn lleihau gwariant yn ystod chwarter olaf y flwyddyn ac oherwydd derbyn cyllid grant ychwanegol. Mae hyn yn rhoi hwb i'w groesawu i gyllid y Cyngor gan gynyddu'r Gronfa Gyffredinol i £7.061m sy'n arbennig o bwysig o ystyried effaith debygol argyfwng Covid-19 sydd eisoes yn amlwg yn sgil colli incwm a chostau ychwanegol.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod canlyniad alldro dros dro'r gyllideb refeniw  yn welliant sylweddol ar yr amcangyfrif ar ddiwedd Chwarter 3. Mae eitemau penodol â gwariant cyfalaf llai na'r disgwyl a arweiniodd at fenthyca llai a dim galwadau sylweddol ar gyllidebau wrth gefn yn ystod y chwarter olaf wedi bod o gymorth yn hyn o beth. Mae darpariaeth i adlewyrchu addasiad i gyfrifon 2018/19 mewn perthynas â dyledion drwg sydd wedi'i chynnwys yn y ffigyrau ers dechrau'r flwyddyn ariannol wedi cael ei hailystyried ac erbyn hyn penderfynwyd nad oes mo'i hangen ac mae hynny wedi arwain at arbediad o dros £100k. Yn ogystal, mae cau rhai gwasanaethau o ganlyniad i gyfyngiadau'r cyfnod clo yn ystod pythefnos olaf mis Mawrth hefyd wedi cyfrannu at y sefyllfa well.

 

Dywedodd y Swyddog fod Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn parhau i fod yn destun pryder oherwydd bod gorwariant o  £1,138k ar ddiwedd y flwyddyn ariannol (4.5% o'r gyllideb) er gwaethaf y Grant Pwysau'r Gaeaf o £ 371k. Heb y grant hwnnw  byddai'r sefyllfa ariannol wedi bod yn waeth o lawer. Er bod y Cyngor wedi cymeradwyo cynnydd o £1m yn y gyllideb ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion pan osododd  y gyllideb ar gyfer 2020/21 ym mis Mawrth, nid oes sicrwydd y bydd hyn yn ddigonol i gwrdd ag anghenion y gwasanaeth yn enwedig gan y gallai fod pwysau cynyddol ar y gwasanaeth wrth i'r Cyngor ddod allan o'r argyfwng cyfredol.

 

Un agwedd nad oedd yn cael sylw yn yr adroddiad yw'r effaith ar falansau ysgolion. Mae gan dair o bum ysgol uwchradd yr Ynys ddiffyg ariannol bellach ac mae cyfanswm y diffyg yn yr ysgolion uwchradd yn £693k. Er bod gan naw ysgol gynradd ddiffyg ariannol, mae gan y sector cynradd yn ei gyfanrwydd warged o £975k. At ei gilydd, mae balansau ysgolion wedi gostwng yn sylweddol gan fod ysgolion wedi defnyddio cyllid wrth gefn i gydbwyso eu cyllidebau. Byddai hynny wedi digwydd yn 2020/21 hefyd er nad yw effaith cau'r ysgolion am gyfnod estynedig o ganlyniad i'r argyfwng  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Alldro Cyfalaf 2019/20 pdf eicon PDF 429 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol y gyllideb gyfalaf ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20 .

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod crynodeb o wariant cyfalaf hyd at 31 Mawrth, 2020 i'w weld yn y tabl ym mharagraff 2.1 o'r adroddiad. 'Roedd y gyllideb ar gyfer y Gronfa Gyffredinol yn £29.790m a gwariwyd £18.203m erbyn 31 Mawrth, 2020, sy'n cyfateb i 61% o'r gyllideb. Mae'r ffaith bod  llai o gynnydd na'r disgwyl wedi ei wneud gyda phrosiectau mawr a ariennir gan grant fel y'u rhestrir ym mharagraff 2.2 yr adroddiad ymhlith y resymau am y tanwariant, ac mae'r argyfwng Covid-19 yn un ffactor yn yr oedi. Bydd y prosiectau hyn yn llithro i 2020/21 ynghyd â'r cyllid grant ar eu cyfer.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) nad yw lefel y tanwario, er ei fod yn sylweddol (32% o'r cyllid sydd ar gael) yn annisgwyl wrth ddelio â nifer o brosiectau cymhleth mawr y gall ystod o ffactorau effeithio ar eu cynnydd, gan gynnwys materion annisgwyl sy'n yn gallu codi ar ôl i'r gwaith ddechrau ar y safle. Darperir manylion am statws a chynnydd y cynlluniau grant cyfalaf cyfredol yn adran 3 yr adroddiad. Ym mhob achos, sicrhawyd y cyllid ar gyfer y prosiectau a bydd yn cael ei ddwyn ymlaen i 2020/21, heb i’r Cyngor golli adnoddau. Cafodd elfen o lithriad ei hadeiladu i mewn i gyllideb 2020/21 - mae'r adroddiad hwn yn diweddaru'r ffigyrau hynny.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am sicrwydd pellach ynghylch argaeledd cyllid grant yng ngoleuni'r llithriad ar y rhaglen gyfalaf a holodd hefyd a yw argyfwng Covid-19 yn peri rsg i brosiectau cyfalaf y Cyngor yn sgil cyflwyno mesurau arbennig a'r costau uwch y gallai hyn ei olygu.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod y grant mwyaf yn ymwneud â  rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ac er bod cynlluniau ym Mand A a Band B y rhaglen a'r cyllid grant ar eu cyfer wedi'i gadarnhau ac yn ddiogel ar hyn o bryd,  pe na bai cynnydd yn cael ei wneud efallai y bydd yn rhaid diwygio'r cynlluniau hynny a gallai hynny, yn ei dro, effeithio ar lefel y cyllid grant gan Lywodraeth Cymru. Fel arall, bydd cyllid ar gyfer prosiectau sydd wedi llithro i 2020/21 yn cael ei gario drosodd gyda nhw. O ran effaith argyfwng Covid-19 ar brosiectau cyfalaf, ar gyfer y cynlluniau hynny lle cytunwyd ar y contract a lle mae'r gwaith wedi cychwyn, bydd raid edrych ar unrhyw gostau ychwanegol y gallai contractwyr eu hawlio oherwydd yr angen i weithredu mesurau arbennig o ganlyniad i Covid-19 yng nghyd-destun telerau'r contract. O ran contractau newydd sydd heb eu dyfarnu eto, bydd tendrau ar gyfer y gwaith hwnnw'n adlewyrchu costau'r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Monitro'r Gyllideb CRT - Alldro 2019/20 pdf eicon PDF 460 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod manylion incwm a gwariant o dan y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2019/20 i'w gweld yn Atodiad A i'r adroddiad ac yn dangos bod tanwariant yn y cyfrif o £1k ar yr ochr refeniw gyda'r incwm £264k yn uwch na'r gyllideb wreiddiol a'r  gwariant £263k yn uwch na'r gyllideb wreiddiol. Roedd gwariant cyfalaf £2,305k yn is na'r gyllideb fel y manylwyd yn Atodiad B i'r adroddiad. Mae'r diffyg, ar ôl cyfuno refeniw a chyfalaf, yn £2,316k yn llai na'r gyllideb sy'n cynhyrchu gwarged o £209k.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151, er bod ochr refeniw'r Cyfrif fwy neu lai yn unol â'r gyllideb, roedd yr ochr gyfalaf yn cael ei heffeithio gan y cyfnod clo tua diwedd mis Mawrth; fel rheol byddai llawer iawn o waith yn cael ei wneud ar brosiectau tai ym mis Mawrth, ond yn ystod pythefnos olaf y mis eleni caewyd safleoedd yn sgil cyflwyno cyfyngiadau'r cyfnod clo. Balans terfynol y CRT ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2019/20 oedd £8,597k; mae'r arian hwn wedi'i gyfyngu i'w ddefnyddio at ddibenion penodol ac nid yw ond ar gael i ariannu gwariant CRT.

 

Penderfynwyd nodi’r sefyllfa mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) am y flwyddyn ariannol 2019/20.

8.

Cynllun Busnes Cyfrif Refeniw Tai 2020-2050 pdf eicon PDF 4 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai yn ymgorffori Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai am y cyfnod 2020 i 2050.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai a Chefnogi Cymunedau wrth gyflwyno'r adroddiad ac argymell y Cynllun Busnes i'r Pwyllgor Gwaith  fod y Cynllun yn cyflwyno gweledigaeth glir a chadarnhaol o amcanion y Cyngor ar gyfer pob deiliadaeth tai ar yr Ynys er mwyn cwrdd orau ag anghenion tai ac i sicrhau safonau tai uchel i'w holl ddinasyddion. Yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru, rhaid i'r Cyngor baratoi Cynllun Busnes erbyn diwedd mis Mawrth er mwyn sicrhau ei lwfans gwaith atgyweirio mawr blynyddol o £2.65m. Cyflwynwyd y Cynllun Busnes erbyn y dyddiad perthnasol  yn amodol ar iddo gael ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai fod y Cynllun Busnes wedi'i baratoi ar y cyd â Swyddogion y Gwasanaeth Cyllid a'i fod yn darparu cyfoeth o wybodaeth am weithgaredd y Gwasanaeth Tai a'i weledigaeth ar gyfer y dyfodol. Mae hefyd yn gyfrwng allweddol ar gyfer gwaith cynllunio ariannol i gyflawni a rheoli stoc dai'r Cyngor. Yn benodol, mae'r Cynllun yn dangos sut mae'r Cyngor yn sicrhau bod ei holl stoc yn cwrdd â Safonau Ansawdd Tai Cymru; sut mae'r Cyngor yn bwriadu cynnal a rhagori ar y Safonau hynny yn ogystal â'r buddsoddiad sydd ei angen i gynyddu'r stoc dai. Mae’r Cyngor, trwy ei Gyfrif Refeniw Tai, yn rheoli ac yn berchen ar 3,857 o anheddau ac ychydig dros 700 o garejis ledled yr Ynys. Dros oes y Cynllun Busnes, bydd y stoc yn cynyddu i dros 5,000 o unedau. Amcangyfrifwyd bod y Rhaglen Gyfalaf, sydd wedi'i chynnwys yn y Cynllun Busnes, yn werth £10.84m ac mae'n cynnwys darpariaeth ar gyfer gwaith mewnol ac allanol, gwaith adfer, addasiadau a gwaith effeithlonrwydd ynni ac mae'n caniatáu ar gyfer cydymffurfio'n llawn â Safonau Ansawdd Tai Cymru trwy dargedu methiannau derbyniol. Mae darpariaeth o £4.7m wedi'i chynnwys yn y gyllideb refeniw ar gyfer gwaith atgyweirio a gwaith cynnal a chadw ac mae £9.6m yng nghyllideb  2020/21 ar gyfer rhaglen datblygu tai Cyngor newydd ac i brynu hen dai cyngor yn ôl.

 

Croesawyd y cynllun gan y Pwyllgor Gwaith a oedd yn ei weld hefyd fel cyfrannwr pwysig tuag at yr economi leol trwy ddatblygu tai cymdeithasol newydd a gwaith atgyweirio a chynnal a chadw parhaus.

 

Penderfynwyd

 

           Cymeradwyo’r Cynllun Busnes 2020-2050 ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ac yn arbennig cyllideb y CRT ar gyfer  2020-21 sydd wedi cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

           Cymeradwyo’r Rhaglen Gyfalaf arfaethedig ar gyfer Tai am 2020/21 fel y nodir yn y Gyllideb Gyfalaf.

 

9.

MIM - Cytundeb Partneriaeth Strategol pdf eicon PDF 663 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn ceisio cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i fynd i Gytundeb Partneru Strategol gyda Chwmni Parneriaeth Addysg Cymru i hwyluso'r broses o ddarparu cyfleusterau addysg a chymunedol.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod Llywodraeth Cymru wedi dylunio Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MBC) i gyflawni prosiectau seilwaith cyfalaf mawr yng Nghymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn rhannol ariannu rhai o'r prosiectau trwy'r cynllun MBC gan ddefnyddio cyllid refeniw, yn rhannol oherwydd prinder cyllid cyfalaf. Bydd Llywodraeth Cymru yn penodi partner sector preifat a fydd wedyn yn ffurfio Cwmni Partneriaeth Addysg Cymru (CPAC) gydag is-gwmni i Fanc Datblygu Cymru. Ar ôl ffurfio CPAC bydd gofyn iddynt hwy a'r holl gyfranogwyr lofnodi Cytundeb Partneriaeth Strategol (CPS) a fydd yn darparu ar gyfer sut mae'r partïon yn cydweithredu dros y tymor hir i gefnogi cynllunio, caffael a chyflawni gwasanaethau seilwaith, addysg a chyfleusterau cymunedol yng Nghymru mewn modd effeithiol. Dim ond CPAC all gyflawni prosiectau MBC. Fodd bynnag, nid yw llofnodi'r CPS yn ymrwymo'r Cyngor i gymryd rhan mewn unrhyw gynllun MBC ond yn hytrach mae'n rhoi cyfle iddo gymryd rhan mewn cynllun MBC pe bai prosiect addas yn cael ei nodi yn y dyfodol ac mae hefyd yn rhoi mwy o sgôp i ddenu cyllid grant gan Lywodraeth Cymru.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod y Model Buddsoddi Cydfuddiannol yn ffordd newydd o ariannu cynlluniau yng Nghymru a’i fod wedi bod yn y broses o gael ei ffurfio ers 2017. Ar gyfer prosiectau Band A a llawer o'r prosiectau Band B yn y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ariannu ei chyfraniad trwy grant neu'r drefn benthyca â chymorth i awdurdodau lleol; rhaid i Lywodraeth Cymru ei hun fenthyca i ariannu'r ffordd hon o weithio hyd at bwynt lle mae'r benthyciad wedyn yn cael ei gapio. Mae'r cynnig yn ffordd i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol drosglwyddo costau cyfalaf a benthyca i gostau refeniw. Bydd Llywodraeth Cymru yn penodi partner sector preifat ac is-gwmni i Fanc Datblygu Cymru i ffurfio'r CPAC; yna bydd awdurdodau yn gwneud taliad blynyddol dros 25 mlynedd i CPAC am ddefnyddio adeiladau (ysgolion neu adeiladau eraill) sydd wedi'u hadeiladu o dan y cynllun MBC. Yn hytrach na chyfrannu 50% tuag at adeiladau ysgolion newydd trwy drefniadau grant a benthyca, bydd Llywodraeth Cymru yn cyfrannu 81% o gostau refeniw blynyddol cyngor i gwrdd â'r taliad blynyddol i CPAC. Yn wahanol i drefniadau Menter Cyllid Preifat  lle roedd cynghorau nid yn unig yn gorfod gwneud taliad blynyddol am yr adeiladau a gomisiynwyd ond hefyd yn gorfod talu costau ystod o wasanaethau ategol - glanhau ac ati - a allai fod yn uchel, a lle roeddent wedi eu cyfyngu hefyd o ran y newidiadau y gallent eu gwneud eu hunain ac yn gorfod gwneud  taliadau ychwanegol i'r contractwr i wneud mân newidiadau, nid oes y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Diweddariad o ymateb y Cyngor hyd yma i’r argyfwng COVID -19 pdf eicon PDF 741 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Weithredwr yn amlinellu ymateb y Cyngor hyd yma i'r argyfwng Covid-19 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynodd y Cadeirydd ac Arweinydd y Cyngor yr eitem trwy ddiolch i staff y Cyngor am eu gwaith hyd yn hyn, gan ychwanegu bod llawer ohonynt wedi mynd y tu hwnt i'w dyletswyddau arferol i gefnogi ymateb y Cyngor i'r heriau yn sgil yr achosion Covid-19 ac i warchod Gwasanaethau hollbwysig y Cyngor a chadw trigolion yr Ynys yn ddiogel.

 

Yna rhoddodd pob Aelod Portffolio drosolwg o'r camau a gymerwyd yn eu portffolios gwasanaeth i ymateb yn benodol i'r argyfwng a hefyd i sicrhau bod gwasanaethau allweddol yn parhau i gael eu darparu (a amlinellwyd yn Atodiad 1 i'r adroddiad). Mynegodd pawb eu gwerthfawrogiad o ymdrechion staff eu gwasanaethau wrth iddynt ddelio â'r amgylchiadau heriol iawn a achosir gan yr argyfwng tra’n sicrhau ar yr un pryd bod gwaith dydd i ddydd y Cyngor yn parhau a bod busnes arferol yn cael ei gynnal cyn belled ag y bo modd.

 

Roedd y themâu o feysydd gwasanaeth unigol ar hyn o bryd  ac wrth symud ymlaen yn cynnwys y canlynol -

 

           Adnoddau - Gwnaed taliadau grant i 1,518 o fusnesau ar yr Ynys a oedd yn werth cyfanswm o £17.7m; prosesu Taliadau Uniongyrchol ar gyfer Prydau Ysgol Am Ddim gyda chyfartaledd wythnosol o 1,489 o blant ac yn werth £29,035 ; darparu pecynnau bwyd ar gyfer nifer fach o blant; parhau â'r gwaith arferol ar ffurf taliadau treth gyngor ac ati; monitro sefyllfa ariannol a balansau'r Cyngor yn barhaus.

           Addysgsefydlu canolfannau gofal ar gyfer plant gweithwyr allweddol a phlant bregus; darparu a danfon pecynnau cinio i blant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim; darparu addysg o bell gan ddefnyddio amrywiaeth o lwyfannau digidol; cydweithio a'r Timau ADY a Chynhwysiant a'r Gwasanaethau Plant i gadw mewn cyswllt rheolaidd â phlant bregus; cynllunio ar gyfer ailagor ysgolion; sicrhau pwyslais parhaus ar les plant a phobl ifanc a lles cyffredinol y gweithlu.

           Tai a’r Gymunedcefnogi unigolion bregus yn y gymuned trwy fanciau bwyd, darparu gwasanaeth siopa a phresgripsiwn ar gyfer unigolion sy'n cysgodi; cefnogi pobl ddigartref, cynnal diogelwch cymunedol, ailddechrau gwaith cynnal a chadw brys ar dai yn unol â chanllawiau cenedlaethol.

           Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddoblaenoriaethu'r gwasanaethau gwastraff pwysicaf mewn ymgynghoriad â Biffa; cynllunio ar gyfer ailagor Canolfan Ailgylchu Penhesgyn a’i weithredu; ailddechrau gwaith cynnal a chadw hanfodol ar briffyrdd, cau meysydd parcio arfordirol, llwybrau arfordirol, parciau a thraethau.

           Busnes y Cyngor a Chyfreithiol - creu Llyfrgell o Ganllawiau a Rheoliadau Covid-19; creu strategaeth cyfarfodydd Pwyllgor; darparu canllawiau ar gyfarfodydd o bell, cofnodi a thracio gweithredoedd o gyfarfodydd dyddiol y Tîm Rheoli Ymateb i Argyfyngau a chyfarfodydd brys eraill.

           Adnoddau Dynol, Trawsnewid, Cyfathrebu a TGgwaith rhagweithiol yn cynhyrchu datganiadau i'r wasg yn rheolaidd, gwneud y defnydd mwyaf  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 126 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol –

 

O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeëdig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd o dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

12.

Rhoi estyniad i Gontract Cyfredol am 12 mis pellach

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc yn ceisio cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i ymestyn contract o fewn y Gwasanaeth Dysgu am 12 mis arall.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc yr amgylchiadau a oedd wedi golygu bod angen gwneud cais am estyniad ac eglurodd y byddai'r adran yn defnyddio cyfnod yr estyniad 12 mis i wahodd tendrau am gontract 4 blynedd newydd ar gyfer y gwasanaeth a nodwyd yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd cymeradwyo rhoi estyniad i gytundeb cyfredol gyda’r un darparwr o fewn y Gwasanaeth Dysgu am 12 mis pellach yn unol ag argymhelliad a sylwedd yr adroddiad.