Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Gwaith - Dydd Llun, 20fed Mawrth, 2017 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes / Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaed y datganiadau o ddiddordeb isod –

 

Datganodd y Cynghorydd H E Jones ddiddordeb personol mewn perthynas ag eitem 16 ar y rhaglen.

 

Datganodd y Cynghorydd Alwyn Rowlands ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 18 ar y rhaglen.

2.

Materion brys a ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w adrodd.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 385 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y Pwyllgor Gwaith (Cyllideb) a gynhaliwyd ar 14 Chwefror, 2017.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 14 Chwefror, 2017 i’w cadarnhau.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2017 fel cofnod cywir.

4.

Cofnodion er Gwybodaeth pdf eicon PDF 150 KB

Cyflwyno er gwybodaeth, gofnodion drafft y Pwyllgor Cyswllt y Sector Gwirfoddol a gynhaliwyd ar 12 Ionawr, 2017.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod Pwyllgor Cyswllt y Sector Gwirfoddol a

gynhaliwyd ar 12 Ionawr, 2017 er gwybodaeth.

 

PENDERFYNWYD nodi er gwybodaeth, gofnodion drafft cyfarfod Pwyllgor Cyswllt y Sector Gwirfoddol a gynhaliwyd ar 12 Ionawr, 2017.

5.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 741 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’w ystyried gan y Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd a oedd yn ymgorffori Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod o fis Ebrill i fis Tachwedd 2017.

 

Amlygodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd y newidiadau i'r Flaenraglen Waith fel a ganlyn: -

 

Eitemau sy’n newydd i’r Flaenraglen Waith

 

Eitem 8 - Moderneiddio Ysgolion - Rhaglen Amlinellol Strategol - Band B (2019-2024) – eitem i’w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 12 Mehefin, 2017;

 

Eitem 9 - Asesiadau Diogelwch ar gyfer Llwybrau Cerdded i'r Ysgoleitem i’w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 12 Mehefin, 2017;

 

Eitem 11 - Moderneiddio Ysgolion - Ardal Llangefni - Ymgynghoriad Statudoleitem i’w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 17 Gorffennaf, 2017;

 

Eitem 19 - Moderneiddio Ysgolion - Ardal Llangefni - Achos Busnes Amlinelloleitem i’w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 30 Hydref, 2017;

 

Eitem 20 - Cyllideb 2018/19 – eitem i’w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei

gyfarfod ar 6 Tachwedd, 2017;

 

Eitem 22 - Cerdyn Sgorio Corfforaethol - Chwarter 2, 2017/18 – eitem i’w

hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 27 Tachwedd, 2017;

 

Eitem 24 - Trawsnewid y Gwasanaeth Llyfrgelleitem i’w hystyried gan y

Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 27 Tachwedd, 2017;

 

Eitem 25 - Trawsnewid y Gwasanaeth Diwyllianteitem i'w hystyried gan y

Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 27 Tachwedd, 2017.

 

Eitemau a ailraglennwyd i'w hystyried

 

Eitem 2 - Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant – eitem i’w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 24 Ebrill, 2017.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod Ebrill Hydref 2017 yn amodol ar y newidiadau ychwanegol a amlinellwyd yn y cyfarfod.

6.

Cerdyn Sgorio Corfforaethol – Chwarter 3, 2016/17 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol mewn perthynas â Chwarter 3 blwyddyn ariannol 2016/17.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Busnes y Pwyllgor Gwaith, Trawsnewid

Perfformiad, y Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau Dynol fod y Cerdyn Sgorio

Corfforaethol yn dangos bod y dangosyddion perfformiad ar gyfer lefelau salwch y Cyngor wedi dangos gwelliant yn Chwarter 3. Os bydd y perfformiad cryf yn Chwarter 3 yn cael ei gynnal i mewn i Chwarter 4, yna mae'n debygol y bydd modd cwrdd â’r targed o 10 diwrnod ar gyfer pob swyddog amser llawn cyfatebol.  Fodd bynnag, awgrymodd y dylai'r Cyngor ystyried enwi'r adrannau sy'n tanberfformio a chanddynt lefelau salwch uchel yn y Cerdyn Sgorio yn dilyn yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai.

 

Adroddodd y Cynghorydd R. Meirion Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini

Corfforaethol ar y trafodaethau a gafwyd am y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar

gyfer Chwarter 3 yn y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 13

Mawrth, 2017. Nododd bod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wedi gofyn am

eglurhad ynghylch rôl Sgriwtini a rôl y Byrddau Rheoli, fel y cyfeirir at hynny yn y Cerdyn Sgorio Corfforaethol yn 1.3.1 yr adroddiad, mewn perthynas â monitor perfformiad a sicrhau gwelliant parhaus.

 

Dywedodd y Cadeirydd mai rôl y Byrddau Rheoli / Rhaglen yw monitro

prosiectau trawsnewid ac nad oes ganddynt rôl i fonitro perfformiad

gwasanaethau’r Cyngor o ddydd i ddydd. Cytunodd gyda'r Aelod Portffolio ar

gyfer Busnes y Pwyllgor Gwaith, Trawsnewid Perfformiad, y Cynllun

Corfforaethol ac Adnoddau Dynol y dylai unrhyw wasanaeth sy'n tanberfformio am ddau chwarter yn olynol gael sylw manwl yn y Pwyllgor Sgriwtini.

 

PENDERFYNWYD nodi’r meysydd hynny y mae’r Uwch Dîm

Arweinyddiaeth yn eu rheoli i sicrhau gwelliannau i’r dyfodol fel y nodir yn adran 1.3 yr adroddiad ynghyd â’r mesurau lliniaru a amlinellwyd.

7.

Polisi Taliadau Tai Dewisol 2017/18 pdf eicon PDF 372 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth

Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 mewn perthynas â gweithrediad y Polisi Taliadau Tai Dewisol Lleol (TTD) a chynlluniau’r Adran ar gyfer Gwaith a Phensiynau yn ystod blwyddyn ariannol 2016/17 ac unrhyw newid ar gyfer y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD :-

 

· Cymeradwyo'r Polisi Lleol diwygiedig ar gyfer y cynllun Taliadau Tai

Dewisol(TTD) o 4 Ebrill 2017 ar gyfer y flwyddyn 2017/18 a’r

blynyddoedd dilynol;

· Sicrhau bod y cyfanswm a gaiff ei wario ar Daliadau Tai Dewisol yn y

flwyddyn ariannol yn parhau i gyfateb yn fras i’r swm a ddyrannwyd ar gyfer y cynllun gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (AGP).

8.

Cyllido'r Ailstrwythuro o fewn Ysgolion Uwchradd pdf eicon PDF 254 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 ar ariannu costau ailstrwythuro o fewn ysgolion uwchradd.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid bod nifer y disgyblion ym mhedair o'r pum Ysgol Uwchradd sydd gan y Cyngor wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf. Mae un o'r Penaethiaid wedi llunio cynnig i ailstrwythuro rheolaeth yr ysgol a fyddai’n lleihau’r lwfansau a delir i athrawon a chanddynt gyfrifoldebau ychwanegol. Nododd fod amodau gwasanaeth athrawon yn golygu bod angen diogelu eu tâl am gyfnod o dair blynedd.

 

PENDERFYNWYD :-

 

· Cytuno mewn egwyddor i ddefnyddio cyllidebau canolog i ariannu

unrhyw gostau diogelu cyflog sy'n deillio o ailstrwythuro rheolaeth

Ysgolion Uwchradd y Cyngor;

· Bod trefniadau diogelu cyflog yn 2017/18 yn cael eu hariannu o’r

gyllideb wrth gefn ar gyfer Dileu Swyddi ond, os nad yw’r gyllideb

honno’n ddigonol, dylid defnyddio balansau cyffredinol y Cyngor;

· Bod rhaid i bob ysgol sydd angen cymorth i gwrdd ag unrhyw gostau

diogelu gyflwyno cynllun ffurfiol yn manylu ar y newidiadau

arfaethedig, y costau diogelu cyflog a’r arbedion refeniw a gyflawnir.

Rhaid i'r cynllun fod yn unol â'r egwyddorion a nodir yn y cynnig

ailstrwythuro a ddrafftiwyd eisoes a rhaid ei gytuno gyda'r Pennaeth

Dysgu a’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151;

· Bod rhyddhau cyllid ar gyfer ysgolion unigol yn cael ei ddirprwyo i'r

Aelod Portffolio (Cyllid) a'r Aelod Portffolio (Addysg) yn amodol ar

gyflwyno achos busnes boddhaol gan yr Ysgol dan sylw;

· Bod y Cyngor yn cadw'r hawl i adennill cyfran o'r cyllid a ddyrennir

tuag at gostau diogelu cyflog, os bydd ysgol sydd wedi derbyn cyllid

trwy’r penderfyniad hwn yn penderfynu ailstrwythuro eto yn y dyfodol

e.e. o ganlyniad i gynnydd yn nifer y disgyblion.

9.

Asesiad Llesiant – Bwrdd Gwasanaethau Lleol pdf eicon PDF 222 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Weithredwr yn gofyn i’r Pwyllgor Gwaith

gymeradwyo’r fersiwn ddrafft o’r Asesiad Llesiant Lleol ar gyfer Ynys Môn.

 

Dywedodd Rheolwr Uned Partneriaeth Ynys Môn a Gwynedd y sefydlwyd Bwrdd ar y cyd rhwng Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Gwynedd a’i fod yn arwain ar y gwaith o baratoi'r asesiad ar draws y ddwy sir. Mae'r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 newydd wedi sefydlu Byrddau

Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer pob ardal awdurdod lleol i sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn gweithio gyda'i gilydd i greu dyfodol gwell i bobl Cymru.

Cynhaliwyd nifer o sesiynau galw i mewn ar gyfer y cyhoedd ac ‘roedd yna

holiadur ar-lein fel y gallai trigolion fynegi barn am eu cymunedau.

 

Nod yr ymchwil a'r sesiynau galw i mewn oedd galluogi'r Bwrdd i lunio asesiad a fyddai, yn y pen draw, yn arwain at gynllun a fyddai'n canolbwyntio ar wella Llesiant Gwynedd a Môn. Mae hwn yn ddrafft o'r asesiadau i greu cynllun Llesiant. Mae'n bwysig bod yr asesiadau yn adlewyrchiad teg o'n cymunedau, a'I fod yn edrych ar yr heriau a'r cyfleoedd sydd o'n blaenau.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr Asesiad o Lesiant Lleol ar gyfer ardal Awdurdod Lleol Ynys Môn.

10.

Arolwg AGGCC o Wasanaethau Plant yn Ynys Môn pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan Bennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Plant.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad ar y cyd gan Bennaeth Dros Dro Gwasanaethau Plant

(Gweithredol) a'r Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Plant (Strategol), mewn

perthynas ag Adroddiad AGGCC ar Arolygiad o’r Gwasanaethau Plant a

gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2016.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol fod y gwasanaeth yn derbyn yr argymhellion yn adroddiad AGGCC ac y bydd yn gweithio’n agos gydag AGGCC am y 18 mis nesaf i wella a chryfhau’r Gwasanaethau Plant yn Ynys Môn. Sefydlwyd Cynllun Gwella cyn yr arolygiad ym mis Tachwedd 2016 a neilltuwyd adnoddau o fewn y gwasanaeth ac fe ddarperir adnoddau pellach hefyd os bydd angen. Nododd bod yr Arolygydd Arweiniol ac Arolygydd arall o AGGCC wedi annerch y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 13 Mawrth 2017 a’r Panel Llesiant Plant ar 10 Mawrth, 2017.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid

Prosesau Busnes) a’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol at yr

ohebiaeth a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad gan Brif Arolygydd Cynorthwyol

AGGCC sy'n nodi’r cyd-destun heriol y mae’r Gwasanaethau Plant wedi ei

wynebu dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Fodd bynnag, nododd ei bod yn bwysig i'r gwasanaeth symud ymlaen. Mae'r gwasanaeth wedi bod yn gweithio ar y Cynllun Gwella ers dros flwyddyn a gwnaed gwelliannau mawr fel yr adroddir yn Atodiad 2 yr adroddiad. Nododd ymhellach y cynhelir cyfarfod arall gydag AGGCC ar ddiwedd yr wythnos hon i drafod y Cynllun Gwella mewn peth manylder a dywedodd y bydd angen gwneud mân-newidiadau cyn iddo gael ei gyhoeddi'n ffurfiol maes o law.

 

Dywedodd y Cynghorydd R. Meirion Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini

Corfforaethol, y cafwyd trafodaeth fanwl yn y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 13 Mawrth, 2017 pan anerchwyd y cyfarfod gan yr Arolygydd

Arweiniol, Ms Bobbie Jones a Mr Marc Roberts, sef aelod o dîm arolygu AGGCC ynghylch canfyddiadau allweddol yr arolygiad a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2016. Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Pennaeth Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Plant adroddiad hefyd ar ganfyddiadau adroddiad AGGCC a sut y bydd y gwasanaeth yn mynd i'r afael â'r materion a godwyd. Nododd bod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn argymell bod y Pwyllgor Gwaith yn derbyn ymateb y Pennaeth Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Plant fel sail ar gyfer gwelliant sylweddol yn y Gwasanaethau Plant yn ystod y 12 i 18 mis nesaf sef; fel rhan o raglen wella fe sefydlir cynllun hyfforddi a datblygu o fis Mai, 2017 er mwyn cynorthwyo Aelodau i fonitro a chraffu ar y cynnydd a wnaed a'r pellter a deithiwyd; bod y cynllun hefyd yn cynnwys hyfforddiant ar fonitro perfformiad y Gwasanaethau Plant ac yn arbennig ansawdd y gwasanaethau a phrofiad unigolion sy’n derbyn cymorth a / neu wasanaethau h.y. llais y defnyddiwr; datblygu cylch gorchwyl a rôl y Panel Aelodau ymhellach I fonitro a chraffu ar y cynnydd a'r pellter a deithiwyd gyda'r cynllun gwella gwasanaeth; bod y ffrwd waith hon yn cynnwys meincnodi yn erbyn arfer da; bod  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cynllun Busnes Cyfrif Refeniw Tai 2017-2047 pdf eicon PDF 24 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai i'r Pwyllgor Gwaith mewn perthynas â'r uchod.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol mai’r Cynllun Busnes yw’r prif gyfrwng ar gyfer gwaith cynllunio ariannol mewn perthynas â chyflawni a rheoli stoc dai'r Cyngor. Mae’r Cyngor, trwy ei Gyfrif Refeniw Tai (CRT) yn rheoli ac yn berchen ar bron i 3,800 o dai ac ychydig dros 700 o garejis ar draws yr Ynys. Nododd fod dros £3m wedi ei gynnwys yn y gyllideb refeniw ar gyfer gwaith atgyweirio a chynnal a chadw ar y stoc dai a bod cyllideb hefyd o £4.125m yn 2017/2018 ar gyfer rhaglen ddatblygu i brynu tai a chodi tai cyngor newydd ar yr Ynys. Mae'r Cynllun Busnes yn rhagdybio rhaglen ddatblygu tai cymdeithasol o 30 o unedau yn 2017/18 ac wedi hynny tan 2030.

 

PENDERFYNWYD

· Cymeradwyo’r Cynllun Busnes 2017-2047 ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai

(CRT), ac yn arbennig gyllideb y CRT ar gyfer 2017-2047 fel y nodir yn y

Cynllun, i’w cyflwyno i Lywodraeth Cymru;

·Cymeradwyo’r Rhaglen Gyfalaf arfaethedig ar gyfer Tai ar gyfer 2017-

2018, fel y nodir yn Atodiad 3 yr adroddiad;

·Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Pennaeth Gwasanaeth Tai a’r Pennaeth

Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 i wneud unrhyw

newidiadau i’r Cynllun busnes cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

12.

Strategaeth Interim ar Ddigartrefedd Dros Dro pdf eicon PDF 888 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth

Gwasanaethau Tai mewn perthynas â'r Strategaeth Ddigartrefedd Dros Dro a

chynllun gwaith ar gyfer 2017/2018.

 

Dywedodd Yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol ei bod yn ofynnol i awdurdodau lleol lunio Strategaeth Ddigartrefedd er mwyn atal digartrefedd ac i ddarparu cefnogaeth addas i bobl sy'n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. Mae awdurdodau lleol Gogledd Cymru wedi mynegi bwriad i greu Strategaeth Ranbarthol gyda phob Awdurdod Lleol yn creu Cynllun Gwaith Lleol am gyfnod o 5 mlynedd.

 

Holodd y Pwyllgor Gwaith a fyddai'r Strategaeth Ranbarthol 5 mlynedd yn mynd i'r afael â’r mewnlifiad mawr o bobl a fydd yn dod i'r Ynys ar gyfer adeiladu’r datblygiad Wylfa Newydd arfaethedig ac a fydd pobl leol yn gallu cystadlu a fforddio llety rhent preifat yn ystod cyfnod adeiladu Wylfa Newydd. Ymatebodd Pennaeth y Gwasanaethau Tai trwy ddweud y cynhaliwyd trafodaethau gyda datblygwyr Wylfa Newydd a rhoddodd sicrwydd y byddai gwaith yn cael ei wneud i liniaru unrhyw effaith y byddai datblygiadau mawr o'r fath ei chael ar lety rhent yn Ynys Môn. Dywedodd hefyd fod gan yr Awdurdod Gynllun Busnes i adeiladu tai cymdeithasol hyd 2030 ac mae'r Cyngor yn gweithio'n agos gyda'r 3 Cymdeithas Dai i gynyddu'r stoc dai ar yr Ynys.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Strategaeth Interim ar Ddigartrefedd a’r

Cynllun Gwaith am y cyfnod 2017/2018, ac yn dilyn y cyfnod hwn bwriedir cyflwyno Strategaeth Ranbarthol a Chynllun Gwaith Lleol ar gyfer cyfnod o 5 mlynedd.

13.

Polisi Cynllunio ar y cyd Ynys Môn a Gwynedd pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth

Rheoleiddio a Datblygu Economaidd mewn perthynas â'r cynnig i barhau â'r

trefniant cydweithredol ar gyfer darparu Gwasanaeth Polisi Cynllunio ar y Cyd ar gyfer y Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Gwynedd am 5 mlynedd arall.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a

Datblygu Economaidd fod Cynghorau Gwynedd ac Ynys Môn wedi cytuno ym

mis Mehefin 2010 i ffurfio Gwasanaeth Polisi Cynllunio ar y Cyd. Paratoi a

chyflawni yw prif allbwn gwaith yr Uned Polisi Cynllunio gan fod gofyn i bob

Awdurdod Cynllunio Lleol gynhyrchu Cynllun Datblygu Lleol.Yn y cyfarfod o’r

Panel Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd a gynhaliwyd ar 24 Mehefin, 2016,

cytunwyd ei bod yn amser da i adolygu trefniadau cyfredol y gwasanaeth Polisi Cynllunio ar y Cyd ar gyfer Cynghorau Môn a Gwynedd.

 

Dywedodd y Cadeirydd mai rhan o waith yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd yw

paratoi Canllawiau Cynllunio Atodol ar wahanol bynciau. Nododd y byddai angen Canllawiau Cynllunio Atodol newydd mewn perthynas â Llety Twristiaeth fel mater o frys.

 

Roedd y Pwyllgor Gwaith o’r farn bod angen cyflwyno adroddiadau monitro i'r

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a'r Pwyllgor Gwaith bob chwarter, ynghyd â chyflwyno Adroddiad Blynyddol i'r Cyngor llawn ar waith y Gwasanaeth Polisi Cynllunio ar y Cyd.

 

PENDERFYNWYD :-

 

· Cymeradwyo’r cynnig i barhau’r trefniant o ddarparu’r Gwasanaeth

Polisi Cynllunio ar y Cyd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor

Gwynedd am 5 mlynedd bellach;

·Rhoi’r awdurdod i Uwch Swyddog o’r Adran Rheoleiddio a’r Adran

Gyfreithiol, i adolygu a chytuno ar gytundeb cydweithio newydd i

ymestyn y cyfnod cydweithio i gynnwys adolygu a chytuno ar

drefniadau gweinyddu, gweithredu a rheoli’r Uned Polisi Cynllunio ar y

Cyd;

·Y bydd adroddiadau cynnydd chwarterol yn cael eu cyflwyno i’r

Pwyllgor Gwaith a’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion er gwybodaeth,

ac Adroddiad Blynyddol i’r Cyngor Llawn.

14.

Arbrawf Gorfodaeth Amgylcheddol

Cyflwyno adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo a’r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad ar y cyd gan y

Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo a'r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu

Economaidd mewn perthynas â sefydlu Arbrawf Gorfodaeth Amgylcheddol.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Priffyrdd, Eiddo a Rheoli Gwastraff fod y Cyngor yn ystyried bod yn rhan o arbrawf am 12 mis gyda chwmni i gyflwyno hysbysiadau cosb sefydlog am droseddau amgylcheddol gan gynnwys gollwng sbwriel, baw cŵn a thipio anghyfreithlon.

 

Dywedodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo fod cwmni gorfodaeth

gwastraff preifat o’r enw Kingdom yn cyflwyno hysbysiadau cosb sefydlog am

daflu sbwriel a materion baw cŵn ar gyfer nifer o awdurdodau lleol. Nododd os bydd yr arbrawf o roi hysbysiadau cosb sefydlog am daflu sbwriel, tipio

anghyfreithlon a baw cŵn yn llwyddiannus, yna dylid ystyried ymestyn y contract I roi Hysbysiadau Cosb am Barcio Ar y Stryd ac Oddi ar y Stryd.

 

Wedi iddo ofyn i gael annerch y Pwyllgor, dywedodd y Cynghorydd Peter Rogers fod problemau parcio enbyd yn ardal Niwbwrch a bod angen cynnwys

Hysbysiadau Cosb am Barcio Ar y Stryd ac Oddi ar y Stryd yn y contract gyda'r cwmni gorfodaeth preifat Kingdom fel mater o frys.

 

· Awdurdodi’r Cyngor i wneud cytundeb gyda Kingdom i gynnal arbrawf

12 mis i roi hysbysiadau cosb sefydlog am droseddau amgylcheddol yn cynnwys taflu sbwriel, baeddu gan gŵn a thipio anghyfreithlon, ar sail Opsiwn 3 a nodir yn yr adroddiad hwn, gydag opsiwn i ymestyn y

cytundeb am 12 mis pellach, yn ddibynnol ar gytundeb y ddau barti;

· Awdurdodi’r Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo a’r Pennaeth

Rheoleiddioa Datblygu Economaidd i benodi staff gorfodi dynodedig

Kingdom yn Swyddogion Awdurdodedig i’r Cyngor er mwyn eu galluogi i wneud gwaith gorfodi, yn cynnwys rhoi hysbysiadau cosb sefydlog perthnasol.

· Awdurdodi’r Pennaeth Gwasanaeth perthnasol i ddefnyddio unrhyw

incwm a gynhyrchir o roi hysbysiadau cosb sefydlog er mwyn cwrdd ag amcanion amgylcheddol eu gwasanaeth;

· Ar ôl tri mis cychwynnol yr arbrawf, os bydd y gwasanaeth o’r farn bod

y cynllun peilot yn mynd yn ei flaen yn dda, gellir ymestyn yr arbrawf i

gynnwys rhoi Hysbysiadau Cosb am Barcio Ar y Stryd ac Oddi ar y

Stryd yn amodol ar gyngor cyfreithiol ynglŷn â goblygiadau TUPE.

15.

Cymraeg mewn Addysg - Cynllun Strategol 2017-2020 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Dysgu

mewn perthynas â’r ffaith y disgwylir i bob awdurdod lleol gyflwyno Cynllun

Strategol Y Gymraeg mewn Addysg i Lywodraeth Cymru.

 

Dywedodd y Pennaeth Dysgu fod y Cynllun Strategol hwn wedi bod yn destun

ymgynghoriad dros y misoedd diwethaf gyda Fforwm Iaith y Cyngor, ysgolion a rhanddeiliaid eraill ac y rhoddwyd cyfle i'r cyhoedd a sefydliadau perthnasol

ymateb iddo. Diwygiwyd y Cynllun Strategol yn sgil yr ymgynghoriad a

chytunwyd i ychwanegu’r Cynllun Gweithredu ar gyfer cyflawni amcanion Cynllun Strategol Y Gymraeg mewn Addysg. Dywedodd fod Mr Alun Davies A.C., sef y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb ar gyfer Dysgu Gydol Oes a'r Iaith Gymraeg, wedi dweud yn yr wythnos ddiwethaf y bydd yn cynnal adolygiad brys o'r Gymraeg mewn Addysg. Nododd ei bod o'r farn y rhagwelir y bydd angen adolygu’r mater hwn i gydymffurfio ag uchelgais Llywodraeth Cymru i anelu at gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

 

Dywedodd y Cynghorydd R. Meirion Jones, sef yr Aelod Portffolio Cysgodol ar gyfer yr Iaith Gymraeg, mai'r unig ffordd y gall Llywodraeth Cymru gyflawni’r amcan o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yw trwy gynnig cyfleon I blant yn y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal o fewn ysgolion.

 

PENDERFYNWYD :-

 

· Cymeradwyo Cynllun Strategol Y Gymraeg Mewn Addysg 2017-2020;

· Cymeradwyo’r Cynllun Gweithredu ar gyfer gwireddu amcanion Cynllun Strategol Y Gymraeg mewn Addysg;

· Cymeradwyo’r Adolygiad o Bolisi Iaith Addysg Ynys Môn yn sgil y

Cynllun Strategol Y Gymraeg mewn Addysg a pholisi iaith Cyngor Sir

Ynys Môn.

16.

Gostwng Oedran Mynediad yn Ysgol Brynsiencyn pdf eicon PDF 266 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Dysgu

mewn perthynas â gostwng yr oed derbyn i Ysgol Brynsiencyn.

 

PENDERFYNWYD gostwng oed mynediad Ysgol Brynsiencyn i dderbyn disgyblion rhan amser o Fedi 2017.

17.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 71 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau a ganlyn, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei rhyddhau fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A y Ddeddf a'r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r canlynol: -

 

"Dan Adran 100 (A) (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn ar y sail y gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm. "

18.

Trawsnewid y Gwasanaeth Diwylliant – Asedau Treftadaeth

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Dysgu mewn

perthynas â’r cynnydd a wnaed hyd yma ar allanoli asedau treftadaeth y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD :-

 

· Derbyn yr adroddiad ar y cynnydd hyd yma mewn perthynas ag allanoli asedau diwylliannol.

·Caniatáu i swyddogion barhau i gynnal trafodaethau ynglŷn ag allanoli

asedau diwylliannol gyda phartïon sydd â diddordeb, gyda’r bwriad y

bydd y Pwyllgor Gwaith yn gallu gwneud penderfyniad terfynol ym mis

Tachwedd 2017.

· Cymeradwyo Cynllun Busnes Oriel Ynys Môn a bod adroddiad monitro

ar berfformiad yr Oriel yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith bob chew mis.