Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Gwaith - Dydd Llun, 24ain Ebrill, 2017 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Council Chamber, Council Offices, Llangefni

Cyswllt: Ann Holmes / Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 398 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 20 Mawrth 2017.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol o'r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 20 Mawrth, 2017 i'w cadarnhau.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 20 Mawrth, 2017 fel cofnod cywir.

4.

Cofnodion - Panel Rhiant Corfforaethol pdf eicon PDF 225 KB

Cyflwyno i’w mabwysiadu, gofnodion drafft y Panel Rhiant Corfforaethol a gynhaliwyd ar 6 Mawrth, 2017.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion drafft y cyfarfod o'r Panel Rhiant Corfforaethol a gynhaliwyd ar 6 Mawrth, 2017 i'w mabwysiadu.

 

Penderfynwyd mabwysiadu cofnodion drafft y cyfarfod o'r Panel Rhiant Corfforaethol a gynhaliwyd ar 6 Mawrth, 2017.

 

5.

Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 768 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd a oedd yn ymgorffori Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod o fis Mai i fis Rhagfyr 2017.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar newidiadau i'r Flaenraglen Waith ers y cyfnod adrodd blaenorol fel a ganlyn -

 

           Eitemau sy’n newydd i’r Flaenraglen Waith

 

           Eitem 10 (Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr), eitem 11 (Ffoaduriaid Syria) ac eitem 12 (Eithrio Gofynion Tendro ar gyfer y Contract Darparu Gofal a Chymorth) y rhaglennwyd iddynt gael sylw yn y cyfarfod o'r Pwyllgor Gwaith a gynhelir ar 12 Mehefin, 2017

           Eitem 17 (Strategaeth Cartrefi Gwag) ac eitem 18 (Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Statudol  Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2016/17) y rhaglennwyd iddynt gael sylw yn y cyfarfod o'r Pwyllgor Gwaith a gynhelir ar 17 Gorffennaf, 2017.

           Eitem 24 (Newidiadau Arfaethedig i'r Rheolau Gweithdrefn Contract) ac eitem 25 (Arolygiad AGGCC o’r Cynllun Gwella ar gyfer Gwasanaethau Plant yn Ynys Môn) y rhaglennwyd iddynt gael sylw yn y cyfarfod o'r Pwyllgor Gwaith a gynhelir ar 18 Medi, 2017.

 

           Eitemau a ohiriwyd tan ddyddiad diweddarach

 

           Eitem 9 (Strategaeth Effeithlonrwydd Ynni) – sydd wedi ei haildrefnu i’w thrafod yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith ar 12 Mehefin, 2017 yn hytrach na 24 Ebrill 2017.

           Eitem 15 (Moderneiddio Ysgolion - Rhaglen Amlinellol Strategol Band B 2019-24) – sydd wedi ei haildrefnu i’w thrafod yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith ar 17 Gorffennaf, 2017 yn hytrach na 12 Mehefin, 2017.

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod o fis Mai i fis Rhagfyr 2017 fel y cafodd ei chyflwyno.

6.

Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant pdf eicon PDF 111 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Dysgu yn crynhoi canlyniad yr Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant ac yn ymgorffori Cynllun Gweithredu ar gyfer Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant am y cyfnod 2017-2022.

 

Crybwyllodd yr Aelod Portffolio Addysg y gofynion deddfwriaethol ar awdurdodau lleol yng Nghymru mewn perthynas â sicrhau bod digon o ofal plant ar gael. O dan Adran 26 Deddf Gofal Plant 2006, mae'n rhaid i awdurdodau lleol gwblhau Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant a Chynllun Gweithredu bob 5 mlynedd. Bydd rhaid cyflwyno adroddiadau cynnydd blynyddol i ymhelaethu ar y cynnydd a wnaed yn erbyn y camau gweithredu, y blaenoriaethau a'r cerrig milltir yn y cynllun gweithredu.

 

Adroddodd y Pennaeth Dysgu ar y negeseuon allweddol sy'n codi o’r asesiad llawn cyntaf o ddigonolrwydd gofal plant ar Ynys Môn ers cyhoeddi’r canllawiau diwygiedig ym mis Gorffennaf, 2016.  Mae'r asesiad yn cadarnhau fod amrywiaeth eang o ddarpariaethau gofal plant ledled y sir. Mae digon o ofal plant ar gael yn yr holl brif drefi ar gyfer plant 0-4 oed mewn meithrinfeydd dydd a thrwy ddarpariaeth gwarchodwyr plant. Mae holl ysgolion cynradd y sir yn cynnig clwb gofal plant o 8:00 o’r gloch y bore a chlwb brecwast am ddim wedyn o 8:25. Cefnogir darparwyr gofal plant drwy amrywiaeth o ddulliau.

 

Dywedodd y Swyddog bod yr asesiad hefyd wedi amlygu rhai bylchau yn y ddarpariaeth a disgrifir y bylchau hynny yn yr adroddiad. Lluniwyd Cynllun Gweithredu i fynd i'r afael â'r bylchau a rhestrwyd y mesurau y bwriedir eu rhoi ar waith.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod y prinder o warchodwyr plant ledled y sir sy'n gallu siarad Cymraeg yn  destun pryder.  Dywedodd ei fod wedi gweld y Cylch Meithrin ym Menllech yn cau ac ychwanegodd ei fod yn deall bod arweinwyr y Cylch Meithrin ym Moelfre yn ymddeol a’i fod felly’n pryderu am ddyfodol y ddarpariaeth Cylch Meithrin yn yr ardal honno hefyd. Dywedodd y Cadeirydd ei fod, fel Arweinydd, wedi cysylltu â Phrif Weithredwr y Mudiad Meithrin a'r Swyddog Ardal ynghylch diwygio trefniadau llywodraethu'r sefydliad - awgrymodd y gallai fod yn ddefnyddiol pe bai'r Mudiad yn ystyried sefydlu Pwyllgor Meithrin yn nalgylchoedd yr ysgolion uwchradd. Gofynnodd i’r Prif Weithredwr a'r Pennaeth Dysgu ddilyn y mater hwn i fyny gyda’r Mudiad Meithrin. Gofynnodd y Cadeirydd hefyd bod y Pwyllgor Gwaith yn cael adroddiad  diweddaru cyn pen chwe mis mewn perthynas â’r cynnydd a wnaed yn erbyn y cynllun gweithredu o ran pontio'r bylchau yn y ddarpariaeth; amlygodd absenoldeb darpariaeth gofrestredig ar ôl oriau ysgol ac yn ystod y gwyliau yn Llangefni fel mater amlwg yr oedd angen rhoi sylw iddo ac ‘roedd o’r farn y dylid prysuro i sefydlu rhyw fath o ddarpariaeth ar gyfer y 547 o ddisgyblion ysgol gynradd sydd yn y dref.

 

Penderfynwyd derbyn yr Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant a’r Cynllun Gweithredu ar gyfer eu cyhoeddi a’u cyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 30 Ebrill, 2017.

7.

Gwneud Newidiadau i’r Cyfansoddiad i Adlewyrchu Gofynion mewn perthynas â’r Pwyllgor Cynllunio yn sgil Rheoliadau Diweddar pdf eicon PDF 303 KB

Cyflwyno adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a’r Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Rheoleiddio a Datblygu Economaidd) a'r Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) er sylw'r Pwyllgor Gwaith. ‘Roedd yr adroddiad yn nodi'r newidiadau y mae angen eu gwneud i Gyfansoddiad y Cyngor er mwyn adlewyrchu gofynion Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygiad) 2017, a Rheoliadau Maint a Chyfansoddiad Pwyllgorau Awdurdodau Cynllunio Lleol (Cymru) 2017 (y Rheoliadau). Daeth y Rheoliadau i rym ar 5 Mai, 2017, gan osod gofynion ar Gynghorau, fel yr Awdurdodau Cynllunio Lleol, mewn perthynas â maint a chyfansoddiad Pwyllgorau Cynllunio Awdurdodau Lleol ac mewn perthynas ag aelodau dirprwyol a'r cworwm ar gyfer Pwyllgorau.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Datblygu Economaidd fod Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Ynys Môn eisoes yn cydymffurfio â'r rhan fwyaf o'r Rheoliadau; ‘roedd y newidiadau sydd angen eu gwneud i'r Cyfansoddiad er mwyn cwrdd â gofynion y Rheoliadau wedi'u nodi ym mharagraff 3.3.1 yr adroddiad ac maent yn ymwneud â darpariaethau mewn perthynas â chworwm y Pwyllgor a pheidio â chaniatáu aelodau dirprwyol.

 

Penderfynwyd argymell i'r Cyngor Llawn ei fod yn gwneud y newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor a nodir ym mharagraff 3.3.1 yr adroddiad.

 

Gan mai hwn oedd cyfarfod olaf y Pwyllgor Gwaith cyn yr Etholiad Llywodraeth Leol ar 4 Mai  2017, ‘roedd y Cynghorydd H. Eifion Jones a'r Cynghorydd Alwyn Rowlands, a oedd ill dau yn ymddeol fel Aelodau Etholedig, yn dymuno diolch i'r Cadeirydd am ei arweinyddiaeth o’r Cyngor yn ystod y pum mlynedd diwethaf ac ‘roeddent yn credu bod yr arweinyddiaeth honno wedi gosod y Cyngor ar sylfeini cadarn ar gyfer y dyfodol. Diolchodd y Cynghorydd Jones a'r Cynghorydd Rowlands hefyd i'r Swyddogion am eu cymorth a’u harweiniad gan ychwanegu eu bod wedi mwynhau gweithio gyda'u cyd-Aelodau er budd y Cyngor. Dymunodd y ddau lwyddiant parhaus i’r Cyngor a’i staff ar gyfer y dyfodol.

 

Diolchodd y Cadeirydd yn ei dro i’r Cynghorwyr H. Eifion Jones ac Alwyn Rowlands am eu gwaith fel Aelodau ac fel Aelodau Portffolio dros gyfnod y Cyngor hwn. Cydnabu hefyd y cyfraniadau a wnaed gan yr holl Aelodau Etholedig yn ogystal â gwaith y Swyddogion yn ystod y cyfnod hwn, ac yn arbennig y cymorth a roddwyd i'r Pwyllgor Gwaith a’r Weinyddiaeth gan staff y Gwasanaethau Democrataidd.