Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Gwaith - Dydd Llun, 17eg Gorffennaf, 2017 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Council Chamber, Council Offices, Llangefni

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Nodyn: Eitem 12 - Cafodd y wasg a'r cyhoedd eu cau allan yn ystod y drafodaeth a'r penderfyniad. Fodd bynnag, mae'r adroddiad bellach wedi ei gyhoeddi'n llawn. 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb a dderbyniwyd gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd datganiad o ddiddordeb personol a diddordeb sy’n rhagfarnu gan y Cynghorydd R.A. Dew yn Eitem 9, Moderneiddio Ysgolion – Ardal Llangefni – Ymgynghoriad Statudol, ac fe adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar yr eitem.  Cafwyd datganiad o ddiddordeb personol gan y Cynghorydd R.A. Dew yn Eitem 10, Moderneiddio Ysgolion – Rhaglen Amlinelliad Strategol – Band B.

 

Cafwyd datganiad o ddiddordeb personol gan y Cynghorydd Dylan Rees (er nad yw’n aelod o’r Pwyllgor Gwaith) yn Eitem 9, Moderneiddio Ysgolion – Ardal Llangefni – Ymgynghoriad Statudol.

2.

Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu Swyddog a Benodwyd ganddo

Dim materion brys ar adeg anfon allan y rhaglen hon.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

3.

Cofnodion

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 12 Mehefin 2017.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 12 Mehefin, 2017 i’w cadarnhau.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 12 Mehefin, 2017 fel cofnod cywir.

4.

Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 793 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd a oedd yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod Medi 2017 – Ebrill, 2018.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar newidiadau i'r Flaen Raglen Waith ers y cyfnod adrodd blaenorol fel a ganlyn -

 

·           Eitemau sy’n newydd i’r Flaen Raglen Waith

 

Eitem 6 – Buddiannau Gweithwyr, rhaglennwyd i gael ei hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 18 Medi, 2017.

 

Eitem 11 – Adolygiad Perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol (AGGCC), rhaglennwyd i gael ei hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 18 Medi, 2017.

 

Eitem 15 – Fframwaith Etifeddiaeth Prosiectau Mawr, rhaglennwyd i gael ei hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 18 Medi, 2017.

 

Eitem Newydd– Ymgysylltu ar Dai Gofal Ychwanegol yn ardal Seiriol, rhaglennwyd i gael ei hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 18 Medi, 2017.

 

Eitem 43 – Cerdyn Sgorio Corfforaethol, Chwarter 3, 2017/18, rhaglennwyd i gael ei hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 26 Mawrth, 2018.

 

Eitem 44 – Adroddiad Monitro’r Gyllideb Gyfalaf a Refeniw 2017/18 – Chwarter 3, rhaglennwyd i gael ei hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 26 Mawrth, 2018.

 

Eitem 45 – Polisi Taliadau Tai Dewisol 2018/19, rhaglennwyd i gael ei hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 26 Mawrth, 2018

 

·           Eitemau a ohiriwyd i’w hystyried yn ddiweddarach

 

Eitem 13 – Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr, aildrefnwyd i gael ei hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 18 Medi, 2017.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith, wedi’i diweddaru, ar gyfer y cyfnod o fis Medi 2017 i fis Chwefror 2018, fel y cafodd ei cafodd yn y cyfarfod.

 

 

5.

Cerdyn Sgorio Corfforaethol - Chwarter 4, 2016/17 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol mewn perthynas â Chwarter 4 y flwyddyn ariannol 2017/18.

 

Dywedodd y Deilydd Portffolio (Corfforaethol) fod y Cerdyn Sgorio Corfforaethol yn dangos fod y dangosyddion perfformiad ar gyfer lefelau salwch y Cyngor wedi gweld gwelliant pellach yn Chwarter 4, gyda 9.78 o ddyddiau salwch fesul pob aelod staff llawn amser yn erbyn targed o 10 diwrnod salwch fesul pob aelod staff llawn amser. Mae hyn yn ganlyniad positif oherwydd y gwaith caled a wnaed gan y Cyngor dros y blynyddoedd diwethaf o dan arweiniad yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth. Cyfeiriodd at yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol a oedd yn dangos tanberfformiad mewn dau ddangosydd gyda’r Gwasanaethau Plant a’r Gwasanaethau Oedolion yn erbyn eu targedau blynyddol am y flwyddyn. Mae manylion y rhain i’w gweld ym mharagraffau 2.1.3 a 2.1.4 yr adroddiad ynghyd ag eglurhad i liniaru’r tanberfformiad a’r mesurau gwella arfaethedig sydd mewn lle.

 

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol fod trafodaethau wedi digwydd yn y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Mehefin, 2016 gyda Swyddfa Archwilio Cymru yn nodi bod y Cyngor wedi gwella ei drefniadau corfforaethol ar gyfer rheoli absenoldeb salwch yn sylweddol.

 

PENDERFYNWYD nodi’r meysydd y mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu rheoli i sicrhau gwelliant yn y dyfodol yn unol ag adran 1.3 yr adroddiad ynghyd â’r mesurau lliniaru a amlinellwyd.

 

6.

Crynodeb o’r Cyfrifon Terfynol Drafft 2016/17 pdf eicon PDF 707 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 mewn perthynas â’r Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr Drafft ar gyfer 2016/17 a’r Fantolen Ddrafft fel yr oedd ar 31 Mawrth, 2017.

 

Amlygodd y Deilydd Portffolio (Cyllid) y prif ystyriaethau yn yr adroddiad a nododd fod gwybodaeth ynghylch cronfeydd wrth gefn a balansau wedi’i ymgorffori yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·           Nodi’r prif ddatganiadau ariannol drafft (heb eu harchwilio) ar gyfer 2016/17;

·           Nodi’r sefyllfa o ran arian wrth gefn sydd wedi’i glustnodi a chymeradwyo’r defnydd o, neu gynnydd i, gronfeydd wrth gefn unigol fel y nodir yn Adran 4 yr adroddiad;

·           Cymeradwyo’r cronfeydd wrth gefn newydd, cyfanswm o £482k fel y gwelir yn nhabl 2 yr adroddiad;

·           Cymeradwyo £250k o’r gronfa wrth gefn gyffredinol i gyllido costau diswyddo gwirfoddol ychwanegol yn 2017/18;

·           Nodi’r sefyllfa gyda balansau ysgolion;

·           Nodi balansau’r CRT fel yr oeddynt ar 31 Mawrth, 2017.

 

7.

Strategaeth Tai Gwag pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai i’r Pwyllgor Gwaith ei gymeradwyo.

 

Adroddodd yr Arweinydd fel y Deilydd Portffolio ar gyfer Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol mai’r Strategaeth Tai Gwag yw’r ail strategaeth i’r Gwasanaethau Tai ei chynhyrchu. Datblygwyd y strategaeth mewn ymgynghoriad â phartneriaid allweddol. Dymunai ddiolch i’r Swyddogion sydd wedi bod ynghlwm â chwblhau Strategaeth Tai Gwag y Cyngor.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Tai fod oddeutu 800 o dai sydd wedi bod yn wag am chwe mis neu fwy ar hyn o bryd. Dros y pedair blynedd diwethaf mae bron i 400 o eiddo wedi cael eu dychwelyd yn ôl i ddefnydd o ganlyniad i waith y Gwasanaeth Tai Gwag. Cyfeiriodd at y rhestr aros am dai cymdeithasol a’r angen am dai gwag o’r fath i fod ar gael i gwrdd â’r anghenion tai ar yr Ynys.

 

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol fod trafodaethau wedi digwydd yn y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Mehefin, 2016 ynglŷn â’r Strategaeth Tai Gwag. Cyfeiriodd at y sylwadau a wnaed yn y Pwyllgor ynglŷn ag effaith yr orsaf bŵer niwclear newydd arfaethedig ar anghenion tai ar yr ynys.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Strategaeth Tai Gwag 2017-2022.

 

8.

Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2016/17 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethu a Thrawsnewid Prosesau Busnes) i’r Pwyllgor Gwaith i’w gymeradwyo.

 

Adroddodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethu a Thrawsnewid Prosesau Busnes) fod 2016/17 yn flwyddyn heriol o ran y cyd-destun yr oedd gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu darparu ynddo, ynghyd â’r angen i ymgorffori gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 o fewn yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol. Yn dilyn arolwg AGGCC o’r Gwasanaethau Plant ym mis Tachwedd 2016 rhoddwyd blaenoriaethau ar gyfer gwelliant ar waith o fewn y gwasanaeth er mwyn cryfhau cyfleusterau ataliol a gwella ystod o wasanaethau sydd ar gael i deuluoedd. Bu’r ffocws yn dilyn adroddiad AGGCC ar ddatblygu strategaeth gweithlu sy’n canolbwyntio ar recriwtio a chadw staff. Mae Panel Sgriwtini Plant wedi cael ei sefydlu i fonitro’r gwasanaeth a bydd yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn rheolaidd. Adroddodd ymhellach fod y Gwasanaethau Oedolion wedi gweld cyfnod o sefydlogrwydd sydd wedi galluogi’r gwasanaeth i ganolbwyntio ar y dyfodol ac atgyfnerthu’r cynnydd mewn perthynas â datblygu ac adeiladu cyfleusterau gofal ychwanegol a gwneud defnydd mwy priodol o Gartref Preswyl Garreglwyd.

 

O ran yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol, nodwyd bod y pwyslais ar ddatblygu a hyfforddi’r gweithlu ac ar baratoi at gyflwyniad system TG genedlaethol newydd (WCCIS) a fydd yn galluogi’r gwasanaeth i weithio’n fwy effeithiol. Mae gwella’r ymgysylltiad gyda defnyddwyr gwasanaeth, yn enwedig o ran gwasanaeth ataliol, yn hanfodol bwysig o fewn y gwasanaeth a chaiff hyn ei gryfhau eleni.

 

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol fod trafodaethau wedi’u cynnal yn y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Mehefin, 2017 ynglŷn â’r gwelliannau sydd eu hangen yn y Gwasanaethau Plant. Nododd fod y Pwyllgor yn fodlon fod Panel Sgriwtini Plant wedi cael ei sefydlu i roi sylw manwl i’r gwelliannau sydd eu hangen mewn ymateb i Arolwg AGGCC o’r Gwasanaethau Plant.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith y cynigion yn yr adroddiad ond cododd faterion ynglŷn â’r ffaith fod awdurdodau lleol eraill wedi dod ar draws problemau gyda’r system TG genedlaethol (WCCIS). Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethu a Thrawsnewid Prosesau Busnes) fod y system WCCIS bellach wedi mynd yn fyw mewn sawl awdurdod lleol a bod problemau wedi codi wrth i’r system gael ei chyflwyno am y tro cyntaf. Fodd bynnag, mae’r problemau cychwynnol yn cael eu datrys a gobeithir y bydd Cyngor Ynys Môn a Chyngor Gwynedd yn dechrau defnyddio’r system WCCIS fis nesaf.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r Adroddiad Blynyddol drafft gan Gyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2015/16.

 

9.

Moderneiddio Ysgolion – Ardal Llangefni – Ymgynghoriad Statudol pdf eicon PDF 3 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Dysgu i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Amlinellodd y Deilydd Portffolio Addysg yr argymhellion yn yr adroddiad i’r Pwyllgor ac eglurodd y gwahaniaethau rhwng y ddau opsiwn a roddwyd ymlaen ar gyfer Ymgynghoriad Statudol Ardal Llangefni.

 

Dywedodd y Pennaeth Dysgu, oherwydd y pwysau ar yr ysgolion yn nhref Llangefni, y penderfynwyd cynnwys y dalgylch hwn o fewn Band A y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion. Mae gan Ysgol y Graig ac Ysgol Corn Hir eisoes fwy o ddisgyblion na’u capasiti. Cyfeiriodd at y broses ymgynghori ynghyd â nifer o ymatebion a gafwyd yn ardal dalgylch Llangefni gan fudd-ddeiliaid yr ysgolion yn Ysgol Henblas, Ysgol Esceifiog, Ysgol Bodffordd, Ysgol Corn Hir, Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn. Nododd oherwydd caniatâd cynllunio diweddar a roddwyd i ddatblygiad mawr o dai yn Llangefni, ystyriwyd ei bod yn angenrheidiol ail-ymgynghori ar yr opsiynau ynghylch Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn.

 

Fel Aelod Lleol, mynegodd y Cynghorydd Dylan Rees ei bryderon ynglŷn â’r opsiynau i gau Ysgol Talwrn ac Ysgol Bodffordd gan fod yna farn gref i gadw’r ysgolion hyn ar agor. Cyfeiriodd at y cyhoeddiad diweddar gan Ms. Kirsty Williams AC – Ysgrifennydd Cabinet ar gyfer Addysg, mewn perthynas â’r angen i Gynghorau ystyried pob dewis amgen ymarferol i gau ysgolion gwledig. Dywedodd ymhellach fod cymuned Bodffordd wedi mynegi pryderon, petai’r ysgol yn cau y byddai’r gymuned yn colli’r defnydd cymunedol o adeilad yr ysgol a hefyd yn colli cae chwarae’r ysgol.

 

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol fod trafodaethau wedi’u cynnal yn y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Mehefin, 2017 ynglŷn â’r rhaglen moderneiddio ysgolion yn ardal Llangefni. Nododd fod y cymunedau lleol wedi mynegi safbwyntiau cryf.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Dysgu at y cyhoeddiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet ar gyfer Addysg ynglŷn â newidiadau o ran cyfyngu’r côd ar gyfer moderneiddio ysgolion a nododd y byddai 18 o’r 47 o ysgolion ar Ynys Môn yn dod o dan y categori ‘ysgolion bach’ o fewn y côd trefniadaeth newydd y mae Gweinidog y Cabinet yn ei gynnig. Nid yw’r newidiadau arfaethedig i’r Côd Trefniadaeth Ysgolion yn cynnwys fawr o newidiadau nad yw’r gwasanaeth eisoes yn eu gwneud fel rhan o’r broses ymgynghori o fewn ei raglen bresennol ar gyfer moderneiddio ysgolion. Fodd bynnag, mae’r Côd diwygiedig yn awgrymu ffactorau ychwanegol y mae angen i’r awdurdod lleol eu hystyried cyn argymell cau ysgolion. Mae’n rhaid i’r protocol ar gyfer cau ysgolion adlewyrchu’r ffaith fod yr awdurdod wedi ystyried cynaladwyedd yr ysgolion bach gan gynnwys edrych ar glystyru, ffederaleiddio ysgolion a defnydd y gymuned o’r ysgolion, a gweithio mewn partneriaeth â chyrff eraill e.e. yr Awdurdod Iechyd. Mae’r ymgynghoriad yn ardal Llangefni yn cael ei wneud o fewn y Côd Trefniadaeth Ysgolion presennol.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr mai’r prif yrwyr ar gyfer y rhaglen moderneiddio ysgolion yw codi safonau addysg ar gyfer plant yr Ynys. Nododd y byddai’r Awdurdod yn cael ei herio gan Lywodraeth Cymru petai’r holl ffactorau y cyfeiriodd y Pennaeth Dysgu atynt  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Moderneiddio Ysgolion – Rhaglen Amlinellol Strategol - Band B (2019-2024) pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Dysgu i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Ymddiheurodd y Deilydd Portffolio Addysg fod adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol mewn camgymeriad a bod mân newidiadau i’r adroddiad hwnnw wedi cael eu hystyried gan y Pwyllgor Sgriwtini. Dywedodd ei bod yn ofynnol gan Lywodraeth Cymru i holl Awdurdodau Lleol Cymru ddiweddaru eu cynigion Band B a chyflwyno eu Rhaglen Amlinellol Strategol ddiwygiedig (RhAS) erbyn 31 Gorffennaf, 2017.

 

Dywedodd y Pennaeth Dysgu fod Rhaglen Amlinellol Strategol (RhAS) yr Awdurdod wedi cael ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2013. Roedd y papur strategol wedi’i rannu’n 4 Band, sef Band A (2013-2019), Band B (2019-2022), Band C (2022-2025) a Band D (2025-2028); roedd y ffactorau yn y RhAS gwreiddiol (2013) megis newidiadau demograffig a chapasiti arweinyddiaeth, wedi newid yn sylweddol. Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd Band B am gyfnod o 5 mlynedd ac y bydd yn rhedeg o 2019-2024. Nododd, oherwydd bod y ddwy ysgol gynradd yn Llangefni wedi cyrraedd eu llawn gapasiti, a’r gofyn i wneud newidiadau i Ysgol y Graig, na fydd y cyllid o fewn Band A yn ddigonol i fynd i’r afael â’r holl anghenion yn ardal Llangefni. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd i’r Awdurdod gynnwys Llangefni o fewn y RhAS Band B. Dywedodd y Pennaeth Dysgu hefyd fod dalgylch ardal Amlwch, Lligwy a Seiriol hefyd wedi’i gynnwys yn y RhAS Band B.

 

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol fod trafodaethau wedi’u cynnal yn y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Mehefin, 2017 a bod y Pwyllgor wedi cefnogi, mewn egwyddor, y cynnig i gyflwyno bid am £18 miliwn tuag at y rhaglen Band B. Nododd ymhellach fod angen rhoi ystyriaeth hefyd i’r effaith ar ysgolion lleol sydd yng nghyffiniau’r prosiect Wylfa Newydd.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·           Cymeradwyo moderneiddio ysgolion cynradd ac uwchradd, a hefyd bod ysgolion cynradd ac uwchradd yn rhannu’r un campws neu ysgolion 3-16/3-18 oed;

·           Cymeradwyo cyfraniad yr Awdurdod Lleol o thua £18 miliwn tuag at y Rhaglen Band B;

·           Cymeradwyo’r opsiynau a amlinellir yn Achos Economaidd y RhAS, a disgwyl dadansoddiad manwl pellach yn yr achos busnes manwl sydd i ddilyn;

·           Parhau i gefnogi’r achos dros newid a gyflwynwyd trwy’r rhaglen moderneiddio ysgolion a’r gyrwyr dros newid.

 

11.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 130 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“Dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r

cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm."

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Oherwydd trafodaeth a allai ddatgelu pwy yw staff unigol, cynhaliwyd y drafodaeth a’r penderfyniad gan gau allan y wasg a’r cyhoedd.  Fodd bynnag, mae’r Adroddiad yn cael ei gyhoeddi’n llawn gyda’r cofnod penderfyniad hwn ar wefan y Cyngor.

12.

Ariannu Costau Staff o fewn Gwasanaethau Plant pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Plant Dros Dro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Plant i’r Pwyllgor Gwaith i’w gymeradwyo.

 

Adroddodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethu a Thrawsnewid Prosesau Busnes), gyda chyfrifoldeb am Wasanaethau Cymdeithasol, fod y Gwasanaethau Plant yn parhau’n ddibynnol ar staff asiantaeth ac er mwyn ariannu’r aelodau staff hyn, gwneir cais i’r Pwyllgor Gwaith i ddyrannu swm o £181,208 o’r cronfeydd wrth gefn i alluogi’r gwasanaeth i ymestyn contractau’r staff asiantaeth am dri mis pellach tra bod yr awdurdod yn parhau i recriwtio staff newydd. Fodd bynnag, nododd fod angen cyllid pellach oherwydd bod staff wedi symud i swyddi eraill ac wedi gadael yr awdurdod, ac felly mae angen cyfanswm o £221,257. Nododd ar hyn o bryd fod y mater o recriwtio staff yn y Gwasanaethau Plant wedi bod yn galonogol ond nododd fod recriwtio Rheolwyr o fewn y Gwasanaeth yn gwbl allweddol i gynllun gwelliant y Gwasanaethau Plant.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl gan y Pwyllgor Gwaith, PENDERFYNWYD:-

 

·           Dyrannu’r swm o £221,257 o gronfeydd wrth gefn i alluogi ymestyn contractau staff asiantaeth am dri mis pellach. (Bydd swydd un Rheolwr Gwasanaeth yn cael ei hymestyn tan 2018 a thair swydd Gweithiwr Cymdeithasol yn cael eu hymestyn tan ddiwedd mis Rhagfyr 2017);

·           Bwrw ymlaen â’r ail gam yng nghynllun ailstrwythuro y Gwasanaethau Plant (costau ychwanegol o ailraddio swyddi yn Teulu Môn), lle bydd angen gwariant ychwanegol o £17,000 (gellir ariannu hyn o’r gyllideb staffio ar gyfer y Gwasanaethau Plant;

·           Rhoi’r hyblygrwydd i Bennaeth y Gwasanaethau Plant ddefnyddio peth o’r gyllideb sydd heb ei dyrannu (£93,957) ar ôl yr ailstrwythuro er mwyn cynorthwyo i weithredu’r Cynllun Gwella Gwasanaeth dros yr ychydig fisoedd nesaf.