Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Gwaith - Dydd Llun, 18fed Medi, 2017 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Council Chamber, Council Offices, Llangefni

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe wnaeth y Cynghorydd Ieuan Williams ddatgan diddordeb personol mewn perthynas ag eitem 9 ar yr agenda.

 

Fe wnaeth y Cynghorydd R. Meirion Jones ddatgan diddordeb personol mewn perthynas ag eitem 18 ar yr agenda.

2.

Materion brys a ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu Swyddog a Benodwyd ganddo

Dim materion brys ar adeg cylchredeg y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w hadrodd.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 332 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf, 2017.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w cadarnhau, gofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf, 2017.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf, 2017, fel cofnod cywir.

4.

Cofnodion – Panel Rhiant Corfforaethol pdf eicon PDF 439 KB

Cyflwyno i’w cymeradwyo, gofnodion drafft y Panel Rhiant Corfforaethol a gynhaliwyd ar 10 Gorffennaf, 2017.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w mabwysiadu, gofnodion drafft cyfarfod y Panel Rhiant Corfforaethol a gynhaliwyd ar 10 Gorffennaf, 2017.

 

Penderfynwyd mabwysiadu cofnodion drafft cyfarfod y Panel Rhiant Corfforaethol a gynhaliwyd ar 10 Gorffennaf, 2017.


 

5.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 791 KB

Cyflwyno adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn ymgorffori Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod Hydref, 2017 tan fis Mai, 2018 i’r Pwyllgor Gwaith ei gymeradwyo.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar y newidiadau i’r Flaenraglen Waith ers y cyfnod adrodd blaenorol fel a ganlyn –

 

  Eitemau sy’n newydd i’r Flaenraglen Waith

 

    Eitem 5 – Moderneiddio Ysgolion: Ymgynghoriad Anffurfiol Ardal Seiriol a drefnwyd i’w ystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 30 Hydref. Bydd adroddiad pellach yn cael ei drefnu i’w gyflwyno ym mis Mawrth, 2018.

    Eitem 7 – Adroddiad Blynyddol: Cyflawniad yn erbyn y Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid, a drefnwyd i’w ystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 30 Hydref, 2017.

    Eitem 17 – Strategaeth Rheoli Asedau: Tai Cyngor a drefnwyd i’w ystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 27 Tachwedd, 2017.

    Eitem 18 – Cynllun Datblygu Tai Cyngor Caergybi a drefnwyd ar y Rhaglen Waith i’w ystyried yn ei gyfarfod ar 27 Tachwedd, 2017 ond bydd yn cael ei ddwyn ymlaen i’r cyfarfod ar 30 Hydref, 2017 ar gais y gwasanaeth.

    Eitem 19 – Strategaeth Trechu Tlodi a drefnwyd i’w ystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 27 Tachwedd.

    Eitem 22 – Ysgolion gyda llai na 120 o ddisgyblion a drefnwyd i’w ystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 18 Rhagfyr, 2017.

    Eitem 41 – Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid 2018-21 a drefnwyd i’w ystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 26 Mawrth, 2018.

 

Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd wybod i’r Pwyllgor Gwaith y bydd adroddiadau cynnydd pellach yn cael eu trefnu mewn perthynas ag eitem 13 ar yr agenda heddiw (Archwiliad AGGCC o’r Gwasanaethau Plant yn Ynys Môn – Cynllun Gwella); hefyd, oherwydd amseriad y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru am y setliad ariannol dros dro i Lywodraeth Leol yn 2018/19, mae’r sgriwtini cyn gwneud penderfyniad ar y cynigion cychwynnol ar gyfer y gyllideb ddrafft wedi cael ei ohirio o 17 Hydref (fel y gwelir ar y Rhaglen Waith)  i 31 Hydref, 2017.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r Flaenraglen Waith, wedi ei diweddaru, am y cyfnod Hydref, 2017 i fis Mai, 2018 yn amodol ar y newidiadau ychwanegol a amlinellwyd yn y cyfarfod.

 

6.

Cynllun y Cyngor 2017-22 pdf eicon PDF 674 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol yn ymgorffori Cynllun y Cyngor am y cyfnod 2017 i 2022 i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Corfforaethol y bydd Cynllun y Cyngor yn darparu’r cyd-destun ar gyfer holl benderfyniadau lefel uchel y Cyngor yn ystod y pum mlynedd nesaf; bydd perfformiad y Cyngor wrth weithredu’r Cynllun a gwireddu’r dyheadau ynddo yn cael ei fonitro’n agos.

 

Dywedodd y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol mai Cynllun y Cyngor yw dogfen strategol mwyaf arwyddocaol y Cyngor am y cyfnod pum mlynedd sydd i ddod. Mae cynnwys y cynllun wedi bod yn destun ymgynghori trylwyr, manwl a chynhwysfawr gyda phwyslais penodol ar ymgysylltu â dinasyddion Ynys Môn a gwrando ar eu barn o gychwyn y broses; mae oddeutu 900 o ddinasyddion wedi cael y cyfle i roi sylwadau ar y Cynllun drafft. Mae’r ymateb i’r Cynllun wedi bod yn bositif ar y cyfan gyda’r mwyafrif o’r ymatebwyr yn cydweld â nodau eang y Cynllun. Rydym wedi derbyn ymateb arbennig o adeiladol a defnyddiol gan unigolion a grwpiau ar sut y gallai’r Cyngor weithio’n llwyddiannus gyda chymunedau i gyflawni blaenoriaethau’r Cynllun dros y pum mlynedd nesaf. Mae’r Gwasanaeth yn hyderus fod y Cynllun drafft yn adlewyrchiad o ymdrech i gydweithio rhwng y Cyngor; ei bartneriaid a’r cyhoedd er mwyn gwella bywydau dinasyddion Ynys Môn a gwella ffyniant busnesau dros gyfnod y Cynllun.

 

Nododd a chroesawodd y Pwyllgor Gwaith lwyddiant yr ymarfer ymgynghori wrth gyrraedd 900 o ddinasyddion.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Datblygiadau Mawr at adroddiad Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf ar berfformiad llywodraeth leol yn erbyn dangosyddion strategol cenedlaethol sy’n dangos fod Cyngor Sir Ynys Môn yn ail trwy Gymru o ran cynnydd.

 

Penderfynwyd argymell bod y Cyngor Llawn yn cymeradwyo ac yn mabwysiadu Cynllun Cyngor Sir Ynys Môn ar gyfer 2017 – 2022.

7.

Cerdyn Sgorio – Chwarter 1, 2017/18 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol yn ymgorffori’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 1, 2017/18 i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Corfforaethol fod y perfformiad yn erbyn y dangosyddion y cytunwyd arnynt yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn ariannol wedi bod yn gymharol dda, gyda’r mwyafrif o’r dangosyddion yn perfformio’n dda yn erbyn eu targedau. Fodd bynnag, nodwyd fod tri o’r dangosyddion yn tanberfformio a cheir manylion y rhain yn yr adroddiad ynghyd â’r mesurau lliniaru a gynigiwyd i gywiro’r materion sy’n codi. Mae perfformiad yng nghyswllt cyfraddau salwch y Cyngor yn dangos gwelliant pellach ar y perfformiad am yr un cyfnod yn 2016/17. Mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn cadw golwg ar berfformiad ac mae’n rheoli meysydd penodol er mwyn sicrhau gwelliant parhaus.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethu a Thrawsnewid Prosesau Busnes / Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol) wrth y Pwyllgor Gwaith fod y perfformiad yn erbyn y dangosydd SCC/O25 (% yr ymweliadau statudol â phlant sy’n derbyn gofal sydd i fod i ddigwydd yn ystod y flwyddyn a ddigwyddodd yn unol â rheoliadau) sef un o’r tri dangosydd sy’n tanberfformio, yn cael ei ailasesu i sicrhau bod y data yn cael ei gasglu a’i gyfrifo’n gywir fel ei fod yn rhoi darlun cywir o’r perfformiad gwirioneddol. Darperir diweddariad unwaith y bydd y ffigwr wedi’i ddilysu.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith y wybodaeth, a nododd hefyd fod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wedi craffu’r perfformiad yn Chwarter 1 yn ei gyfarfod ar Medi 4ydd. Yn ogystal â’r dangosyddion yr adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Corfforaethol oedd yn tanberfformio, tynnodd y Pwyllgor Gwaith sylw at y perfformiad yn erbyn y dangosydd 04b o dan Gwasanaeth Cwsmer ar y Cerdyn Sgorio (cyfanswm % yr ymatebion ysgrifenedig i gwynion o fewn 20 diwrnodGwasanaethau Cymdeithasol) gan ddweud bod angen ei fonitro’n agos, am fod y perfformiad yn 53% yn erbyn targed o 80%.

 

Penderfynwyd

 

  Nodi’r meysydd y mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu rheoli i sicrhau gwelliannau yn y dyfodol fel yr amlinellir ym mharagraffau 1.3.1 i 1.3.4 yr adroddiad.

  Derbyn y mesurau lliniaru fel yr amlinellir hwy yn yr adroddiad.

8.

Cynllun Ariannol ar gyfer y Tymor Canol 2017/18 - 2019/20 pdf eicon PDF 600 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 yn ymgorffori’r Cynllun Ariannol Tymor Canol ar gyfer 2018/19 i 2020/21 i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod y Cynllun Ariannol Tymor Canol (CATC) yn gosod allan strategaeth gyllideb y Cyngor am y tair blynedd nesaf ac yn gosod allan y tybiaethau a fydd yn cael eu dwyn ymlaen i’r broses flynyddol o osod y gyllideb. Ar hyn o bryd mae nifer o ffactorau yn ei gwneud yn arbennig o annod rhagweld y dyfodol gydag unrhyw hyder; hefyd, mae’r ffaith fod Llywodraeth y DU wedi aildrefnu ei phrif ddatganiad cyllideb o fis Mawrth i fis Tachwedd yn golygu na fyddwn yn gwybod beth yw’r gyllideb a gaiff Llywodraeth Cymru tan ar ôl y dyddiad pan fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei setliad dros dro, sef 10 Hydref, 2017 ar hyn o bryd.

 

O 2014/15 i 2016/17 mae’r Cyngor wedi gweld gostyngiadau yn y grant mae’n ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru fel y gwelir yn Nhabl 1 yr adroddiad. Fe drodd y duedd hon o chwith yn 2017/18 pan dderbyniodd y Cyngor setliad fymryn yn uwch yn nhermau arian parod. Mae hyn yn cynrychioli lleihad cyffredinol yn y Cyllid Allanol Cyfun (AEF) o 8.1% rhwng y lefel yn 2013/14 a’r lefel yn 2017/18. Er mwyn lliniaru effaith y golled hon, mae’r Cyngor wedi cynyddu’r Dreth Gyngor ar gyfradd uwch na chwyddiant dros yr un cyfnod (Tabl 2 yr adroddiad) gan olygu bod y Dreth Gyngor fel canran o gyfanswm cyllid y Cyngor wedi codi i 26.6% erbyn 2017/18. Gan gofio’r ansicrwydd ynglŷn ag economi’r DU, bydd disgwyl i awdurdodau lleol ysgwyddo rhagor o doriadau mewn cyllid, o bosib i’r graddau 3.3% yn 2018/19 a 2.6% yn 2019/20 – gostyngiad yn nhermau ariannol o £5.4m dros y ddwy flynedd mewn AEF.

 

Yn ychwanegol at hyn, mae llywodraeth leol yn gyffredinol yn wynebu nifer o bwysau cyllidebol; bydd Ynys Môn hefyd yn wynebu ei phwysau cyllidebol unigryw ei hun a bydd angen ymgorffori hynny fel ffactor yn y CATC. Ceir manylion am y rhain yn adran 5 yr adroddiad ac ynghyd â’r Cyflog Byw Cenedlaethol a Chodiad Cyflog y Sector Cyhoeddus, maent yn cynnwys pwysau mewn gwasanaethau penodol mewn perthynas â Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Plant sy’n Derbyn Gofal, Moderneiddio Ysgolion, Cynnal a Chadw Priffyrdd ac ariannu’r Cynllun Corfforaethol wrth i’r Cyngor fynd ymlaen i’w weithredu. Mae’r broses gosod y gyllideb hefyd yn edrych ar y chwyddiant a ragamcennir dros nifer o wahanol feysydd gwariant, ac mae hynny’n uwch mewn ambell i faes e.e. ynni. Mae’r rhain wedi eu nodi yn adran 6 yr adroddiad.

 

Gan gymryd i ystyriaeth yr holl bwysau ar y gyllideb y gwyddom amdanynt, a’r rhagdybiaethau o ran chwyddiant a ffactorau eraill, mae’n bosibl pennu cyllideb ddisymud am y cyfnod 2018/19 i 2020/21. Y gyllideb ddisymud yw'r costau diwygiedig  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw 2017/18 – Chwarter 1 pdf eicon PDF 941 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau’r Cyngor am y chwarter cyntaf ym mlwyddyn ariannol 2017/18 ynghyd â chrynodeb o’r sefyllfa a ragamcennir am y flwyddyn gyfan.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid, yn seiliedig ar y wybodaeth hyd yma, mai’r sefyllfa ariannol gyffredinol a ragamcennir ar gyfer 2017/18 gan gynnwys Cyllid Corfforaethol a Chronfa’r Dreth Gyngor yw gorwariant o £2.119m sy’n 1.68% o gyllideb net y Cyngor ar gyfer 2017/18. Roedd y sefyllfa ariannol dros dro ar gyfer 2016/17 wedi arwain at falansau cyffredinol o £8.697m ar ddechrau’r flwyddyn (yn amodol ar gael eu harchwilio). Fodd bynnag, mae perygl y bydd angen defnyddio £2m o’r swm o £8.697m i dalu hawliadau Tâl Cyfartalefallai y bydd y Cyngor yn gallu cyfalafu’r taliadau hyn ond mae hynny’n ddibynnol ar gyfarwyddyd cyfalafu gan Lywodraeth Cymru. Mae’r adroddiad yn rhoi manylion yr amrywiadau sylweddol yng nghyllidebau gwasanaethau ond nid yw’n cynnwys effaith gwaith cynnal a chadw yn ystod y gaeaf ynghyd ag effaith y contract newydd ar gyfer cynnal a chadw priffyrdd sy’n debygol o gostio mwy. Mae risg felly y gall y gorwariant fod yn uwch na £2.19m. Y pwysau mwyaf ar gyllidebau yw cost Rhiantu Corfforaethol, ac mae disgwyl i’r Gwasanaeth Plant a Theuluoedd orwario £2.106m. Os daw hyn oll yn wir, bydd y gronfa wrth gefn gyffredinol yn cael ei rhoi dan gryn bwysau. Dewis arall yn hytrach nag ariannu’r gorwariant o’r gronfa wrth gefn fyddai adolygu cronfeydd wrth gefn sydd wedi’u clustnodi, sy’n werth £13.357m. Byddai hynny’n fodd o adnabod unrhyw gronfeydd wrth gefn nad oes eu hangen mwyach neu rai nad ydynt yn cwrdd â blaenoriaethau’r Cyngor o ystyried y sefyllfa ariannol anodd y mae’r Cyngor yn debygol o fod ynddi ar ddiwedd y flwyddyn. Fodd bynnag, yn achos rhai cronfeydd wrth gefn sydd wedi’u clustnodi, ni ellir ond eu defnyddio at bwrpas penodol e.e. y cronfeydd wrth gefn sydd wedi’u datganoli i’r ysgolion neu gronfeydd wrth gefn a ariennir gan grant.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 fod Chwarter 1 yn gynnar yn y flwyddyn ariannol a gall llawer o bethau ddigwydd yn y cyfnod rhwng nawr a diwedd y flwyddyn. Fodd bynnag, mae’r adroddiad yn amlygu’r risg y bydd gwasanaethau, rhai bach a mawr, dan bwysau i ddarparu gwasanaethau o fewn eu cyllidebau. Mae unrhyw gapasiti sbâr o fewn cyllidebau gwasanaethau wedi hen fynd ar ôl blynyddoedd lawer o arbedion effeithlonrwydd, a golyga hynny bod unrhyw wariant dirybudd yn ystod y flwyddyn yn debygol o beri gwasanaethau i orwario.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith y sefyllfa a nododd hefyd y gallai rhai meysydd e.e. y gyllideb ar gyfer cludiant ysgol/tacsis elwa o gael eu craffu’n agosach a’u rheoli’n fwy llym. Er i’r Pwyllgor Gwaith nodi fod costau asiantaeth  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Adroddiad Monitro'r Cyfrif Refeniw Tai 2017/18 pdf eicon PDF 544 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 yn egluro’r sefyllfa yng nghyswllt perfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer chwarter cyntaf 2017/18.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod y Cyngor yn rheoli ei stoc tai a garejys trwy’r CRT. Mae’r gyllideb CRT yn cynnwys cyllid at gyfer trwsio a chynnal a chadw y stoc gyfredol ynghyd â chyllid i ddatblygu rhaglen o dai cyngor newydd ar yr Ynys. Mae’r CRT wedi’i neilltuo’n benodol ac ni ellir trosglwyddo ei harian wrth gefn i’r Gronfa Gyffredinol. Er bod yr adroddiad yn nodi rhai meysydd o orwario ar y CRT, disgwylir y bydd y canlyniad ar ddiwedd y flwyddyn yn cyd-fynd â’r gyllideb. Mae’r CRT mewn sefyllfa iach.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 fod y CRT, trwy ofyniad statudol, yn gwbl ar wahân i weddill cyfrifon y Cyngor ac ni ellir ei ddefnyddio at unrhyw ddiben arall oni bai am gynnal a chadw a datblygu’r stoc tai y mae’r Cyngor yn gyfrifol amdani.

 

Penderfynwyd nodi’r sefyllfa a amlinellwyd yng nghyswllt perfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 1 2017/18.

11.

Adroddiad Monitro’r Gyllideb Gyfalaf 2017/18 – Chwarter 1 pdf eicon PDF 628 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 yn egluro perfformiad ariannol y gyllideb gyfalaf ar gyfer chwarter cyntaf 2017/18.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid, fel y gwelir yn Nhabl 4.1 yr adroddiad, rhagwelir y bydd tanwariant o £10.317m ar y Rhaglen Gyfalaf yn 2017/18 ac mae posibilrwydd y bydd hwn yn llithro i Raglen Gyfalaf 2018/19 hefyd. Bydd y cyllid ar gyfer y llithriad hwn hefyd yn llithro i 2018/19 a bydd yn ffactor a gaiff ei ystyried wrth lunio’r Datganiad ar y Strategaeth Rheoli’r Trysorlys a’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2018/19. Y prif brosiectau lle rhagwelir tanwariant yw Isadeiledd Strategol Caergybi, Isadeiledd Strategol Llangefni a’r Briffordd Newydd i Wylfa Newydd, a cheir manylion y prosiectau hyn yn Atodiad B. Mae cyllideb o £0.250m wedi’i chynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf a gymeradwywyd ar gyfer 2017/18 ar gyfer adnewyddu Cartref Gofal Garreglwyd. Disgwylir bellach y bydd y costau tybiedig yn cynyddu £0.041m ac mae angen i’r Pwyllgor Gwaith ystyried a ddylid cymeradwyo’r cyllid ychwanegol hwn ai peidio. Mae’r cynnydd yn y costau o ganlyniad i orfod rhannu’n cynllun i ddwy ran sydd wedi peri costau ychwanegol i’r cynllun. Petai’r gyllideb ychwanegol yn cael ei chymeradwyo fe gaiff ei hariannu o’r Gronfa Gyfalaf Wrth Gefn.

 

Penderfynwyd

 

  Nodi’r cynnydd gyda gwariant a derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2017/18 yn ystod chwarter 1.

  Cymeradwyo cyllid cyfalaf ychwanegol o £0.041m i ariannu costau ychwanegol yng nghartref gofal Garreglwyd.

12.

Adolygiad Blynyddol ar Reoli Trysorlys 2016/17 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 yn ymgorffori’r Adolygiad ar Reoli’r Trysorlys ar gyfer 2016/17.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod rhaid i’r Cyngor, yn ôl rheoliadau dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003, gynhyrchu adolygiad blynyddol o weithgareddau rheoli trysorlys a’r dangosyddion darbodus a thrysorlys gwirioneddol ar gyfer 2016/17. Mae’r adroddiad yn rhoi trosolwg o weithgareddau benthyca a buddsoddi’r Cyngor yn ystod y flwyddyn a’r ystyriaethau sy’n ymwneud â hynny. Mae’r amgylchedd buddsoddi heriol yn y blynyddoedd cynt wedi parhau ym mlwyddyn ariannol 2016/17 h.y. dychweliadau isel ar fuddsoddiad.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 fod gofyn i’r Cyngor adrodd ar ei weithgareddau rheoli trysorlys a chadarnhau ei fod wedi cydymffurfio â’i ofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol. Dywedodd y Swyddog nad oedd yr Archwilwyr Allanol a fydd yn adrodd yn ffurfiol ar eu harchwiliad o gyfrifon ariannol y Cyngor ar gyfer 2016/17 i’r Pwyllgor Archwilio yn hwyrach yn yr wythnos wedi gwneud unrhyw addasiadau mawr i’r ffigyrau canlyniad rheoli trysorlys fel rhan o’u harchwiliad.

 

Penderfynwyd

 

  Nodi y bydd y ffigyrau canlyniad yn yr adroddiad hwn yn parhau i fod yn rhai dros dro hyd nes bydd yr archwiliad o Ddatganiad Cyfrifon 2016/17 wedi cael ei gwblhau a’i lofnodi; adroddir fel sy’n briodol ar unrhyw addasiadau arwyddocaol i’r ffigyrau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad hwn.

  Nodi’r dangosyddion darbodus a thrysorlys dros dro ar gyfer 2016/17 sydd yn yr adroddiad hwn.

  Anfon yr adroddiad ymlaen i gyfarfod nesaf y Cyngor Sir heb unrhyw sylwadau pellach.

13.

Adolygiad AGGCC o’r Gwasanaethau Plant yn Ynys Môn – Cynllun Gwelliant pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan Bennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Plant.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Plant yn nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma gyda’r Cynllun Gwella Gwasanaeth.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol fod y gwasanaeth wedi gwneud cynnydd yn erbyn nifer o’r themâu yn y Cynllun Gwella Gwasanaeth; mae’r gwasanaeth wedi cael ei ailstrwythuro i gyflwyno Timau Ymarfer sy’n llai o faint ac mae pobl wedi’u penodi i’r swyddi Arweinwyr Ymarfer newydd, ac maent wedi cychwyn yn eu swyddi ers dechrau’r mis. Mae’r Panel Gwella Gwasanaethau Plant yn monitro ac yn craffu cynnydd yn agos.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethu a Thrawsnewid Prosesau Busnes / Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol) y bydd y strwythur newydd a’r penodiadau ychwanegol a wnaed fel rhan o’r broses ailstrwythuro yn helpu i ddod â sefydlogrwydd i’r gwasanaeth ar lefel rheolwyr, ac y bydd yn arwain at well cysondeb yn ymarfer y Gweithiwyr Cymdeithasol gan felly eu galluogi i fwrw ymlaen â’r gwelliannau sydd eu hangen. Mae cryn waith wedi’i wneud gyda phartneriaid y Gwasanaeth hefyd, a hynny oddi mewn i’r Cyngor a thu allan iddo. Disgwylir felly y bydd yr holl gamau a gymerwyd hyd yma yn creu gwelliannau sylweddol yn fuan iawn.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith y cynnydd a wnaed ond nododd hefyd fod yr adroddiad yn cydnabod bod y perfformiad dal yn anghyson, yn ôl y drefn sicrwydd ansawdd. Gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am eglurhad pam fod yr anghysondeb yn parhau rai misoedd ar ôl derbyn yr adroddiad wedi arolwg AGGCC, a holodd a fydd y fframwaith Sicrwydd Ansawdd yn arwain at berfformiad mwy cyson. Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethu a Thrawsnewid Prosesau Busnes / Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol) bod enghreifftiau o ymarfer da iawn mewn rhai meysydd yn y gwasanaeth ond nad yw’r rhain yn gyffredin trwy’r gwasanaeth cyfan. Bydd cyflwyno’r timau ymarfer llai a gweithredu’r Polisi Goruchwyliaeth yn gwneud gwahaniaeth o ran hwyluso goruchwylio a galluogi Gweithwyr Cymdeithasol i ddod yn fwy cyfarwydd â’u llwythi achosion.

 

Penderfynwyd cadarnhau bod y Pwyllgor Gwaith yn fodlon gyda’r camau a gymerwyd gan y Gwasanaethau Plant a chyflymder y broses mewn perthynas â’r cynnydd a wnaed gyda Chynllun Gwella y Gwasanaeth.

14.

Polisi Gosod Sensitif pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei gymeradwyo, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai yn ymgorffori Polisi Gosod Sensitif ar gyfer Tai Cyngor.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Tai fod y Polisi Gosod Sensitif yn ffordd ragweithiol o osod eiddo’r Cyngor a bydd yn berthnasol i ardaloedd penodol ar yr Ynys a bydd yn eistedd ochr yn ochr â Pholisi Gosod Cyffredin y Cyngor a Strategaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol y Cyngor. Ei fwriad yw mynd i’r afael yn gadarn â phroblemau sy’n bodoli ar stadau penodol ar yr Ynys e.e. ymddygiad gwrthgymdeithasol a all effeithio ar ddelwedd rhai ardaloedd am gyfnodau penodol. Bydd modd gweithredu’r polisi ar unrhyw stad Tai Cyngor ar yr Ynys ar unrhyw adeg ac fe restrir y meini prawf ar gyfer asesu ymgeiswyr i sicrhau y gallant ymgeisio am y cynlluniau hyn.

 

Penderfynwyd

 

  Cymeradwyo’r Polisi Gosod Sensitif am gyfnod o ddwy flynedd a bod y Bwrdd Gwasanaethau Tai yn asesu effaith y polisi o fewn blwyddyn.

  Cymeradwyo mai Pennaeth y Gwasanaethau Tai fydd yn gyfrifol am benderfynu gweithredu’r polisi ar stadau penodol, mewn ymgynghoriad â’r Deilydd Portffolio.

15.

Fframwaith Etifeddiaeth Prosiectau Mawr pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei gymeradwyo, adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd yn ymgorffori Gweledigaeth ar gyfer 2025 – Fframwaith Thematig i Wireddu Dyheadau Etifeddiaeth CSYM.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Datblygiadau Mawr fod y Fframwaith wedi cael ei baratoi i ddangos i ddatblygwyr yr angen i gydnabod, ymgorffori ac integreiddio buddion etifeddiaeth o’r dechrau yn eu gweithgareddau datblygu prosiect. Mae’r fframwaith yn cynnig nifer o weithgareddau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol (sy’n gysylltiedig â sgôp posib y buddion a’r effeithiau ar etifeddiaeth a fydd yn deillio o’r prosiectau mawr arfaethedig) a chreda’r Cyngor Sir y gallai’r rhain wella llesiant ac ansawdd bywyd yr Ynys erbyn 2025.

 

Penderfynwyd mabwysiadu’n ffurfiol y Fframwaith Etifeddiaeth drafft (Gweledigaeth ar gyfer 2025 – fframwaith thematig i wireddu dyheadau etifeddiaeth Cyngor Sir Ynys Môn) fel y cafodd ei gyflwyno.

16.

Adroddiad Cynnydd ar Fid Twf Gogledd Cymru pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Prif Weithredwr yn rhoi diweddariad ar ddatblygu Bid Twf ar gyfer Gogledd Cymru. Mae’r Bid Twf yn gysylltiedig â, ac yn deillio o’r papur strategol Gweledigaeth Twf ar gyfer Economi Gogledd Cymru a fabwysiadwyd gan Bwyllgor Gwaith Ynys Môn ym mis Chwefror, 2017 a chan Bwyllgorau Gwaith y pum cyngor arall yn y rhanbarth a sefydliadau partner eraill ar yr un pryd. Mae’r adroddiad yn nodi’r ystyriaethau sy’n gysylltiedig â datblygu Bid Twf, y model llywodraethu a ffafrir, a’r goblygiadau i adnoddau.

 

Amlinellodd y Prif Weithredwr y pedwar cam yn natblygiad y Fid Bargen Twf; mae’r trefniadau llywodraethu eto i gael eu trafod yn fanwl ond model cyd-bwyllgor statudol sy’n cael ei argymell fel y model llywodraethu a ffafrir mewn egwyddor. Mae datblygiad Bid Gogledd Cymru wedi cyrraedd yn bell yn yr ail gam ac anelir i ddod i gytundeb Penawdau Telerau o fewn y flwyddyn ariannol gyfredol. Gofynnir i bob un o’r chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru gymeradwyo cyfraniad o £50k o’u cyllidebau ar gyfer 2017/18 tuag at ddatblygu’r Fid.

 

Penderfynwyd

 

  Nodi a chefnogi’r cynnydd gyda datblygu Bid Twf cystadleuol ar gyfer y rhanbarth.

  Cefnogi mewn egwyddor, y model llywodraethu a ffafrir, sef cyd-bwyllgor statudol, ar gyfer datblygiad pellach gydag adroddiad llawn ar gyfansoddiad a chylch gorchwyl a argymhellir, wedi ei gefnogi gan Gytundeb Rhyng-Awdurdod, i ddilyn yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

  Awdurdodi’r Arweinydd i weithredu fel aelod o Gyd-bwyllgor Cysgodol yn y cyfamser.

  Rhoi awdurdod i’r Arweinydd, fel un o Arweinwyr y chwe chyngor a gynrychiolir ar y Cyd-bwyllgor Cysgodol, i ddechrau trafodaethau cynnar ar y cyd â Llywodraethau ynglŷn â maint a chynnwys amlinellol y Fid Twf, gan nodi na fydd unrhyw ymrwymiadau economaidd nac o fath arall yn cael eu cytuno yng nghamau cyntaf y trafodaethau.

  Dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr awdurdodi cyfraniad ariannol cychwynnol o hyd at £50,000 allan o wariant 2017/18 ar gyfer datblygu’r Fid Twf yn fanwl.

17.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 124 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“Dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm."

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd o dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar eitem 18 oherwydd y byddai gwybodaeth eithriedig yn cael ei datgelu fel caiff ei diffinio yn Atodlen 12A y Ddeddf dan sylw ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd fel y cafodd ei gyflwyno.

 

18.

Safleoedd i Sipsiwn a Theithwyr

Cyflwyno adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai a oedd yn rhoi diweddariad ar ddatblygu safleoedd ar Ynys Môn ar gyfer sipsiwn a theithwyr. Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r cynnydd hyd yma ar ddatblygu cynllun dyluniad ar gyfer man aros dros dro yn Star a safle preswyl parhaol ym Mhenhesgyn ynghyd â’r amcangyfrifon cost ar gyfer adeiladu’r safleoedd hyn. Rhoddwyd gwybod i’r Pwyllgor Gwaith fod y dogfennau cynllunio ar gyfer y ddau safle wedi cael eu paratoi a’u bod fwy neu lai’n gyflawn ac yn barod i’w cyflwyno.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Tai fod yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth i gyflwyno ceisiadau cynllunio ar gyfer y ddau safle, a bod hynny’n cynrychioli’r cam nesaf ymlaen mewn proses sydd wedi cynnwys dethol safleoedd, ymarfer ymgynghori cyhoeddus ar ddethol y safleoedd, a gwneud asesiadau ar sail dyluniad. Mae’n ofynnol i’r Cyngor trwy gyfraith ddarparu safleoedd i sipsiwn a theithwyr pan fod angen am hynny wedi’i nodi.

 

Penderfynwyd

 

  Nodi’r costau cyllideb sy’n gysylltiedig â chyflawni’r prosiect ac y caiff y modd o gyllido’r costau hyn ei ystyried yn ddiweddarach unwaith y derbynnir caniatâd cynllunio ac unwaith y bydd cyllid grant wedi’i gytuno gyda Llywodraeth Cymru.

  Awdurdodi Swyddogion i fynd ymlaen i’r cam nesaf h.y. cyflwyno ceisiadau cynllunio manwl yng nghyswllt man aros dros dro yn Star a safle preswyl parhaol ym Mhenhesgyn.

 

(Ni wnaeth y Cynghorydd R. Meirion Jones bleidleisio ar y mater)

19.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 118 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“Dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm."

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd o dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar eitem 20 oherwydd y byddai gwybodaeth eithriedig yn cael ei datgelu fel caiff ei diffinio yn Atodlen 12A y Ddeddf dan sylw ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd fel y cafodd ei gyflwyno.

20.

Contract Yswiriant

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 mewn perthynas â chontract yswiriant. Roedd yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i gamau gweithredu i allu ymateb i faterion sy’n codi yng nghyswllt y contract yswiriant.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r camau gweithredu a argymhellwyd gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 fel y nodir yn yr adroddiad.

21.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd

Ystyried mabwysiadu'r canlynol:-

 

"Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau a ganlyn, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei rhyddhau fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A (Categori 16) y Ddeddf.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Eglurodd y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) a’r Swyddog Monitro fod yr adroddiad ar yr eitem ganlynol yn cael ei ystyried yn adroddiad eithriedig am ei fod yn cynnwys cyngor cyfreithiol. Mewn achos felly, nid yw’r Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol. Fodd bynnag, gallai datgelu gwybodaeth o’r adroddiad hefyd o bosib ddatgelu pwy yw unigolyn, sydd felly’n gwneud y mater yn un eithriedig o dan Baragraff 13, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Penderfynwyd o dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar eitem 22 oherwydd y byddai gwybodaeth eithriedig yn cael ei datgelu fel caiff ei diffinio yn Atodlen 12A y Ddeddf dan sylw ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd fel y cafodd ei gyflwyno.

22.

Dileu Dyledion

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 mewn perthynas â chynnig i ddileu dyled benodol. Roedd yr adroddiad yn gosod y cyd-destun a’r amgylchiadau ynghylch sut oedd y ddyled wedi codi, a cheisiai gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i ddileu’r ddyled am y rhesymau oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

 

Gofynnodd y Cynghorydd R. Meirion Jones am eglurhad p’un a ddylai ddatgan diddordeb am ei fod wedi bod yn gyflogedig yn Adran Gyfreithiol y Cyngor o’r blaen.

 

Cynghorydd y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) a’r Swyddog Monitro, gan nad oedd yr Aelod wedi bod yn ymwneud â’r mater hwn ar adeg ei gyflogaeth, nad oedd raid iddo ddatgan diddordeb.

 

Penderfynwyd

 

  Bwrw ymlaen yn unol â’r argymhellion yn yr adroddiad.

  Adolygu prosesau a gweithdrefnau’r Cyngor mewn perthynas â’r mater hwn, a thrwy’r Aelod Portffolio Cyllid, gyflwyno adroddiad cynnydd ar weithredu cynllun gweithredu dilynol i’r Pwyllgor Gwaith a Sgriwtini.

 

(Ni wnaeth y Cynghorydd R. Meirion Jones gymryd rhan yn y drafodaeth na phleidleisio ar y mater)