Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Gwaith - Dydd Llun, 30ain Hydref, 2017 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Council Chamber, Council Offices, Llangefni

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaed datganiad o ddiddordeb personol gan y Cynghorydd Carwyn Jones ynghylch eitem 9 ar y rhaglen fel Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr Ysgol Llandegfan. Gwnaed datganiad o ddiddordeb sy’n rhagfarnu ganddo hefyd mewn perthynas â'r mater hwn ar y sail bod ei gyfnither yn gweithio yn Ysgol Biwmares a bod mab ei gyfnither yn mynychu Ysgol Llandegfan. Dywedodd y Cynghorydd Jones ei fod, yn dilyn cais a wnaed i’r Pwyllgor Safonau, wedi cael caniatâd arbennig gan y Pwyllgor hwnnw ar 18 Gorffennaf, 2017 i gymryd rhan yn llawn yn y broses moderneiddio ysgolion yn ardal Seiriol ond na châi bleidleisio ar y mater.

 

Gwnaed datganiad o ddiddordeb personol gan y Cynghorydd Alun Roberts (nad yw'n aelod o'r Pwyllgor Gwaith) ynghylch eitemau 8 a 9 am ei fod yn aelod o Fwrdd Llywodraethwyr Ysgol Biwmares.

2.

Materion brys a ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw faterion o’r fath.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 396 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 18 Medi 2017.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 18 Medi, 2017 i'w cadarnhau.

 

Penderfynwyd cadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 18 Medi, 2017 fel rhai cywir.

4.

Cofnodion - Panel Rhiant Corfforaethol pdf eicon PDF 251 KB

Cyflwyno, i’w mabwysiadu, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Panel Rhiant Corfforaethol a gynhaliwyd ar 11 Medi 2017.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion drafft y cyfarfod o'r Panel Rhiant Corfforaethol a gynhaliwyd ar 11 Medi, 2017 i'w mabwysiadu.

 

Penderfynwyd mabwysiadu cofnodion drafft y cyfarfod o'r Panel Rhiant Corfforaethol a gynhaliwyd ar 11 Medi, 2017.

5.

Blaenraglen y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 794 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn ymgorffori Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod o fis Tachwedd, 2017 hyd at fis Mehefin 2018 i’w chymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar newidiadau i'r Flaenraglen Waith ers y cyfnod adrodd blaenorol fel a ganlyn -

 

Eitemau sy’n newydd i'r Flaenraglen Waith

 

  Eitem 2 – Cynllun Rheoli Safleoedd Treftadaeth y Byd 2017-22 – Cestyll a Muriau Tref y Brenin Edward yng Ngwyneddi’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 6 Tachwedd, 2017.

  Eitem 9 – Trawsnewid Gwasanaethau Llyfrgelli'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 27 Tachwedd, 2017.

  Eitem 10 - Trawsnewid y Gwasanaeth Diwylliant yn Oriel Ynys Môn – i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 27 Tachwedd, 2017.

  Eitem 12 – Arolwg AGGCC o’r Gwasanaethau Plant yn Ynys Môn – Adroddiad Cynnydd Chwarteroli'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 27 Tachwedd, 2017 .

  Eitem 14 – Dirprwyaethau sydd eu hangen ar gyfer cyfranogiad y Cyngor o ran archwilio ceisiadau Prosiect Cysylltiad Gogledd Cymru a Wylfa Newydd o dan Ddeddf Cynllunio 2008 – i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 27 Tachwedd, 2017.

  Eitem 21 – Moderneiddio Ysgolion yn Ardal LlangefniAchos Strategol Amlinellol / Achos Busnes Amlinelloli'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 18 Rhagfyr, 2017.

  Eitem 35 – Cynllun Rhanbarthol ar gyfer Asesiad Poblogaeth Gogledd Cymru - yn amodol ar gadarnhadi’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 19 Chwefror 2018

  Eitem 36 – Tai Gofal Ychwanegol, Seiriol - yn amodol ar gadarnhad, i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 19 Chwefror, 2018.

  Eitem 37 – Moderneiddio Ysgolion yn Ardal Seiriolyn amodol ar gadarnhad - i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 19 Chwefror, 2018.

  Eitem 38 – Arolwg AGGCC o’r Gwasanaethau Plant yn Ynys Môn – Adroddiad Cynnydd Chwarteroli'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 19 Chwefror, 2018 .

  Arolwg AGGCC o Adroddiad Cynnydd Chwarterol ar Gynllun Gwella Gwasanaethau Plant Ynys Môn – a drefnwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 19 Chwefror, 2018 .

  Eitem 45 – Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 4 2017/18 – i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ym Mai, 2018 ar ddyddiad i'w gadarnhau.

  Eitem 46 – Adroddiad Monitro Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf Chwarter 4 2017/18

i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith ym mis Mai, 2018 ar ddyddiad i'w gadarnhau.

 

Yn ogystal, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd wrth y Pwyllgor Gwaith fod eitem 26 (Adroddiad Monitro Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf Chwarter 3, 2017/18 ) wedi cael ei ddwyn ymlaen o gyfarfod 26 Mawrth, 2018 y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Cynllun Perfformiad Blynyddol (Cynllun Gwella) 2016/17 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol yn cynnwys yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol ar gyfer 2016/17 i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Corfforaethol fod yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol fel y'i cyflwynwyd yn edrych yn ôl ar y perfformiad yn 2016/17. Mae’n adlewyrchu'r 12 mis diwethaf o dan arweiniad y Pwyllgor Gwaith blaenorol a oedd yn rhan o'r Weinyddiaeth flaenorol. Mae'r adroddiad yn edrych ar gynnydd a wnaed gan y Cyngor yn erbyn ei amcanion gwella ar gyfer 2016/17 fel yr amlinellir drwy'r 7 maes allweddol a nodir yn Nogfen Cyflawniad Blynyddol 2015/16. Bydd yr Adroddiad Perfformiad terfynol yn rhoi asesiad o berfformiad y Cyngor yn erbyn ei ddangosyddion perfformiad allweddol sy'n asesu’r perfformiad flwyddyn ar ôl blwyddyn ac yn ei feincnodi yn erbyn awdurdodau lleol eraill yng Nghymru. Ar y cyfan, mae'r adroddiad yn portreadu darlun cadarnhaol o berfformiad yn y Cyngor lle mae 64% o'r DP (Dangosyddion Perfformiad) yn dangos gwelliant, ac 8% heb newidsy’n golygu bod y Cyngor yn y pedwerydd safle yng Nghymru o ran gwelliant. Mae’r meysydd penodol lle gwelwyd gwelliant amlwg yn cynnwys rheoli absenoldeb salwch (i lawr o 12 diwrnod am bob gweithiwr cyfwerth ag amser llawn i 9.8 yn 2016/17) ac ailgylchu lle mae'r perfformiad yn gosod Ynys Môn yn chweched ymhlith awdurdodau lleol Cymru. Mae'r gwelliant yn llawer mwy arwyddocaol gan ei fod wedi digwydd yn ystod cyfnod o lymder. Er bod rhai meysydd i'w gwella y mae'r Cyngor yn mynd i'r afael â nhw, yr her yn awr yw atgyfnerthu'r llwyddiant a chynnal y momentwm gwella i'r dyfodol.

 

Cadarnhaodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Corfforaethol fod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wedi craffu ar yr Adroddiad Gwella Blynyddol a bod y Pwyllgor wedi tynnu sylw at yr angen i dystiolaethu adnewyddiad economaidd yn Amlwch a Biwmares o dan y thema Adfywio Cymunedau a Datblygu'r Economi. Mae'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn dilyn y mater hwn i fyny.

 

Roedd y Pwyllgor Gwaith yn cydnabod y gwelliant yr oedd yr adroddiad yn tystio iddo ac yn ei weld fel adlewyrchiad o gyfuniad o arweinyddiaeth gan yr UDA, gwaith caled gan holl staff y Cyngor a chydweithrediad gwleidyddol adeiladol er mwyn sicrhau canlyniadau cadarnhaol.

 

Penderfynwyd cytuno ar Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2016/17 ac argymell bod y Cyngor Sir yn ei fabwysiadu fel bod modd ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor yn unol â disgwyliadau statudol.

7.

Strategaeth Gyfalaf 2018/19 pdf eicon PDF 388 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 yn nodi'r strategaeth gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2018/19 i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith. Mae'r adroddiad yn nodi'r gofynion ar gyfer gwariant cyfalaf yn y dyfodol, yn asesu'r effaith ar elfen cyllid cyfalaf y cyfrif refeniw ac yn pennu'r cyllid sydd ar gael i ariannu cynlluniau cyfalaf newydd yn 2018/19.

 

Er mwyn i'r Cyngor benderfynu pa brosiectau i’w cynnwys yn rhaglen gyfalaf 2018/19, dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid bod gofyn i'r Pwyllgor Gwaith roi arweiniad ar lefel yr arian a fydd ar gael, gan gofio effaith y rhaglen gyfalaf ar yr elfen cyllid cyfalaf yng nghyllideb Refeniw’r Cyngor. Ariennir y rhaglen gyfalaf o nifer o ffynonellau sydd wedi'u rhestru yn yr adroddiad. Ym mis Hydref, 2016, cytunodd y Pwyllgor Gwaith i nifer o egwyddorion mewn perthynas â'r strategaeth gyfalaf ac amlinellir y rhain yn adran 3 yr adroddiad. Gofynnir i'r Pwyllgor Gwaith gadarnhau'r egwyddorion hynny i ddibenion strategaeth gyfalaf 2018/19.

 

Mae'r Cyngor wedi cychwyn cynllun uchelgeisiol i foderneiddio a diweddaru ei ysgolion trwy’r Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain ar gost gyfalaf o tua £120m. Ariennir Band A y rhaglen ar sail 50% o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru a 50% trwy fenthyca digymorth. Yn amodol ar gadarnhad, rhagwelir y bydd cyfraniad Llywodraeth Cymru i Band B yn parhau i fod yn 50% ar gyfer y cynlluniau a ariennir yn draddodiadol ond cyflwynir elfen o gyllid sector preifat hefyd trwy fodel buddsoddi ar y cyd. Wrth geisio lleihau gwariant refeniw i sicrhau cyllideb gytbwys, mae'n rhesymol hefyd edrych ar leihau'r cynnydd yn y gyllideb cyllid cyfalaf trwy ei gyfyngu i lefel y gellir ei ariannu gan y setliad blynyddol h.y. y Grant Cyfalaf Cyffredinol a benthyca â chymorthdisgwylir i’r rhain fod o gwmpas £1.3m a £2.2 miliwn (yn y drefn honno) fel yn 2017/18. Bydd grantiau cyfalaf ar gael yn 2018/19 i ariannu cynlluniau penodol e.e. cwblhau Ffordd Gyswllt Llangefni, cynlluniau lliniaru llifogydd, cynlluniau isadeiledd a Cham 2 Prosiect Neuadd y Farchnad Caergybi ymhlith eraill, a hynny ar gost o £23.4m. Efallai hefyd y bydd yn rhaid ystyried ariannu nifer o gynlluniau posib eraillnodir y rhain yn adran 7.3 yr adroddiad.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 fod yr arian sydd ar gael i gynorthwyo cynlluniau cyfalaf yn dynn; mae'n adlewyrchu newid ymagwedd gan Lywodraeth Cymru lle mae cynlluniau cyfalaf llywodraeth leol yn cael eu hariannu fwyfwy trwy grantiau penodol. Nid yw’r grant cyfalaf cyffredinol a'r elfen fenthyca yn yr arian cyfalaf wedi newid fawr ddim dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf sy’n golygu bod llai o arian ar gael ar gyfer prosiectau cyffredinol y Cyngor. Dywedodd y Swyddog ei bod yn bwysig i’r Cyngor barhau i fuddsoddi yn ei asedau cyfredol trwy eu cynnal a’u cadw a’u huwchraddio, a hynny er mwyn osgoi costau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Tai Gofal Ychwanegol, Seiriol – Ymgysylltu pdf eicon PDF 3 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion yn gofyn am ganiatâd y Pwyllgor Gwaith i ymgysylltu â chymuned Seiriol dros gyfnod o fis Tachwedd i fis Rhagfyr 2017 ar faterion sy’n ymwneud â datblygu darpariaeth gofal ychwanegol yn yr ardal.

 

Dywedodd yr Arweinydd a'r Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol fod yr adroddiad yn nodi'r rhesymau cyffredinol dros ddatblygu gofal ychwanegol fel model o ddarpariaeth; yn ne'r Ynys fe nodwyd ardal Seiriol fel y lleoliad a ffafrir pan wnaed ymrwymiad ym mis Hydref, 2015 i ystyried opsiynau ar gyfer safle yn ne Ynys Môn.  Mae'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wedi craffu ar y mater ac mae’n cefnogi'r cynnig i ymgysylltu.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod y Pwyllgor Gwaith, ym mis Rhagfyr 2013, wedi penderfynu y dylai buddsoddiad yn y dyfodol gael ei dargedu tuag at ddatblygu darpariaeth gofal ychwanegol fel rhan o’r cynllun corfforaethol, tra'n cadw'r dewis sydd ar gael o fewn y sefydliadau preswyl ar yr un pryd. Mae'r model tai gofal ychwanegol yn elfen allweddol o'r Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Oedolion gan fod y gwasanaeth yn ceisio symud i ffwrdd o ddarpariaeth gofal preswyl mwy traddodiadol. Mae'r adroddiad a gyflwynir hefyd yn cynnwys arolwg o opsiynau ar gyfer safleoedd ac mae'n rhestru'r ffactorau sydd wedi dylanwadu ar yr asesiad a arweiniodd at ddynodi safle Ysgol Biwmares fel yr opsiwn a ffafrir.

 

Siaradodd y Cynghorwyr Lewis Davies ac Alun Roberts fel Aelodau Lleol ac er eu bod yn cefnogi datblygu tai gofal ychwanegol mewn egwyddor, nid oeddent yn ffafrio'r safle a gynigiwyd i leoli'r ddarpariaeth yn yr ardal hon am resymau penodol, sef yn gyntaf am ei fod ar fryn, y tu allan i'r dref ac yn bellach o gyfleusterau hanfodol nag oedd yn ddelfrydol; ac yn ail oherwydd y byddai'n atgyfnerthu’r argraff fod Biwmares yn dref i bobl hŷn. Yr hyn y mae’r dref ei angen yw buddsoddiad mewn tai cymdeithasol i gadw a denu poblogaeth iau, nid yn lleiaf i gynnal ei ddiwydiant twristiaeth craidd. Roedd y ddau yn pryderu am oblygiadau'r datblygiad hwn i gartref preswyl Haulfre ac Ysgol Biwmares y mae eu dyfodol eisoes dan ystyriaeth.

 

Ategwyd y sylwadau uchod gan yr Aelod Portffolio ar gyfer Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd ac sydd hefyd yn Aelod Lleol, ac ychwanegodd fod angen gwneud gwaith pellach yn y broses ymgysylltu i addysgu pobl am y cysyniad gofal ychwanegol a'r hyn y mae'n ei olygu; dylid ystyried safleoedd eraill hefyd pe bai opsiynau o'r fath yn dod i'r amlwg o ganlyniad i’r ymgysylltiad. Dywedodd yr Aelod Portffolio fod De Môn yn ardal fawr a holodd a dyllid, er enghraifft, ofyn am farn cymunedau Llanfair a Brynsiencyn hefyd.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth Oedolion mai'r ymrwymiad a wnaed yn 2015 oedd edrych ar ardal Seiriol; mae prinder o safleoedd addas ar gyfer y datblygiad yn Seiriol ond ar ôl ystyried y ffactorau a restrir yn yr adroddiad a thrwy weithio gyda'r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Moderneiddio Ysgolion – Ardal Seiriol – Ymgynghoriad Anffurfiol pdf eicon PDF 3 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Dysgu yn cynnwys canlyniad yr ymgynghoriad anffurfiol, anstatudol ar foderneiddio'r ddarpariaeth addysg gynradd yn ardal Seiriol i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith. Roedd yr adroddiad yn nodi'r cyd-destun o ran y gyrwyr am newid; yr ymatebion o'r tri chyfarfod ymgynghori a gynhaliwyd gyda staff, llywodraethwyr a rhieni disgyblion y tair ysgol yr effeithir arnyntBiwmares, Llandegfan a Llangoed yn ogystal â rhan-ddeiliaid eraill; dadansoddiad o'r opsiynau ar gyfer newid a wnaed yn unol â system sgorio sefydledig a'r opsiwn yr argymhellwyd y dylid bwrw ymlaen i gynnal  ymgynghoriad statudol yn ei gylch.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Addysg fod y Pwyllgor Gwaith wedi cytuno bod Swyddogion y Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes yn cynnal ymgynghoriad anffurfiol neu anstatudol ar y ddarpariaeth addysg gynradd yn ardal Seiriol yn ôl ym mis Mehefin, 2016. Cynhaliwyd y broses hon dros y cyfnod rhwng 19 Mehefin a 30 Gorffennaf 2017, pan gafwyd tri chyfarfod â rhan-ddeiliaid yn Ysgolion Llangoed, Biwmares a Llandegfan. ‘Roedd wedi mynychu’r cyfarfodydd hynny. Dywedodd yr Aelod Portffolio hefyd fod y mater hwn wedi cael sylw manwl gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yr wythnos flaenorol, ac ar ôl ystyried a thrafod yn ofalus, fod y Pwyllgor wedi cefnogi'r argymhellion a gyflwynwyd a oedd yn cynnwys cynnal ymgynghoriad statudol ar gau Ysgol Biwmares. Yn nghyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini, roedd wedi amlinellu'r sail ar gyfer yr argymhelliad, gan gynnwys, ymhlith ffactorau eraill; y gostyngiad yn nifer y disgyblion; y lleoedd dros ben yn Ysgol Biwmares a chost uchel y ddarpariaeth yn sgil hynny; ynghyd â maint y buddsoddiad y mae angen ei wneud yn adeilad yr ysgol. Roedd yr holl opsiynau a sgoriodd uchaf yn erbyn y ffactorau hyn ar gyfer newid yn cynnwys cau Ysgol Biwmares. Roedd wedi datgan yn y cyfarfod ei fod yn agored i unrhyw opsiwn ymarferol arall yn hytrach na chau’r ysgol ac roedd  hynny'n parhau. Fodd bynnag, hyd yn hyn ni chyflwynwyd unrhyw opsiynau amgen o’r fath. Cydnabu fod hwn yn benderfyniad anodd ond o ystyried yr amgylchiadau ariannol heriol y mae awdurdodau lleol yn gorfod gweithio ynddynt, a'r newid ymagwedd y mae hynny’n ei olygu, mae'n annhebygol mai hwn fydd y penderfyniad anodd olaf y bydd angen ei wneud.

 

Dywedodd y Pennaeth Dysgu fod yr ymgynghoriad cychwynnol a gynhaliwyd yn broses anffurfiol a gynlluniwyd i gael sylwadau a barn y gymuned leol, yn ogystal ag unrhyw syniadau newydd, a’i fod yn gam ychwanegol yr oedd Cyngor Sir Ynys Môn wedi ei gymryd o ddewis ac ystyrir ei fod yn arfer da. Pan gynhaliwyd y broses moderneiddio ysgolion yn y gorffennol, mae'r safbwyntiau a'r sylwadau a fynegwyd yn y cam anffurfiol, anstatudol wedi cyfrannu at lunio'r penderfyniad a wnaed yn y pen draw.  Yn achos ardal Seiriol, cyflwynwyd nifer o sylwadau ac opsiynau ychwanegol yn ystod yr ymgynghoriad anffurfiol a chafodd y rhain eu  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Adolygiad o Berfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol (AGGCC) pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr CynorthwyolLlywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Prif Weithredwr Cynorthwyol a'r Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymgorffori Llythyr Perfformiad Blynyddol AGGCC mewn perthynas â Gwasanaethau Cymdeithasol Ynys Môn ynghyd â’r Cynllun Gweithredu canlyniadol.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol a Chyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol mai'r llythyr Perfformiad Blynyddol yw'r cyntaf o'i fath gan AGGCC ac mae'n adrodd, a hynny ar ffurf newydd, ar berfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys meysydd lle gwnaed cynnydd. Mae'n rhoi mwy o sylw i’r Gwasanaethau Oedolion gan fod y Gwasanaethau Plant eisoes wedi bod yn destun arolygiad ym mis Tachwedd, 2016 ac ‘roedd yr argymhellion yn deillio o'r arolygiad hwnnw’n cael eu gweithredu ar hyn o bryd. Mae'r llythyr wedi'i ddrafftio yn dilyn cyfarfod adolygu perfformiad blynyddol AGGCC gyda Gwasanaethau Cymdeithasol Ynys Môn ar 24 Mawrth, 2017 lle'r oedd y rheoleiddiwr yn rhoi adborth ar ei weithgaredd arolygu, ymgysylltu a pherfformiad dros y 12 mis blaenorol. Er mwyn sicrhau bod materion a godir yn y llythyr yn cael sylw, lluniwyd Cynllun Gweithredu Blaenoriaethau Gwella sy'n ceisio mynd i'r afael â phob blaenoriaeth gwella a nodwyd o fewn amserlen benodol lle bo modd.

 

Penderfynwyd -

 

  Derbyn Llythyr Adolygu Perfformiad Blynyddol AGGCC a nodi ei gynnwys.

  Cymeradwyo'r Cynllun Gweithredu mewn ymateb i'r Llythyr Adolygu Perfformiad Blynyddol.

11.

Canllawiau Cynllunio Atodol diwygiedig ar gyfer Wylfa Newydd (CCA) pdf eicon PDF 392 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i gychwyn ar gyfnod o ymgynghori ym mis Tachwedd, 2017 ar y Canllawiau Cynllunio Atodol diwygiedig ar gyfer yr Adeilad Niwclear Newydd yn Wylfa.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd fod Cyngor Sir Ynys Môn wedi cynhyrchu a mabwysiadau’r CCA cyfredol ar gyfer yr Adeilad Niwclear Newydd yn Gorffennaf, 2014. Ers hynny, bu nifer o newidiadau sylfaenol mewn polisi ac mewn deddfwriaeth, yn ogystal â diweddariadau prosiect gan Horizon - sydd wedi golygu bod angen adolygu’r CCA cyfredol. Amlinellir y rhain yn yr adroddiad. Mae'n hollbwysig bod y CCA diwygiedig wedi'u cwblhau a'u mabwysiadu gan y Cyngor Llawn cyn i Horizon gyflwyno ei gais Gorchymyn Caniatâd Datblygu yn ystod chwarter cyntaf 2018. Y CCA fydd asgwrn cefn ymateb y Cyngor i'r prosiect a byddant yn llywio ac yn sail ar gyfer safbwynt y Cyngor a fynegir yn yr Adroddiad ar yr Effaith Lleol a sylwadau ysgrifenedig eraill .O ystyried yr amser cyfyngedig sydd ar gael i fedru ymgynghori ar y CCA diwygiedig a’u mabwysiadu, cynigir bod y penderfyniad hwn yn cael ei gategoreiddio fel un brys yn unol â darpariaethau paragraff 4.5.16.10 yng Nghyfansoddiad y Cyngor ac felly na ellir ei alw i mewn. Gallai galw’r penderfyniad i mewn arwain at oedi a allai niweidio budd y Cyngor a'r cyhoedd o ran ymateb i'r cais GCD.

 

Penderfynwyd -

 

  Awdurdodi Swyddogion i gychwyn ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Tachwedd, 2017am gyfnod o 6 wythnos ar y Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer Adeilad Niwclear Newydd yn Wylfa.

  Cytuno bod y penderfyniad yn un brys fel y'i diffinnir ym mharagraff

4.5.16.10 yng Nghyfansoddiad y Cyngor fel na ellir ei alw i mewn, a hynny am y rheswm a nodir yn yr adroddiad.

12.

Adroddiad Blynyddol – Cyflawniadau yn erbyn y Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid pdf eicon PDF 486 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai yn nodi'r cynnydd yn erbyn y Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai a Chefnogi Cymunedau fod yr adroddiad yn adlewyrchu nifer o lwyddiannau yn 2016/17 o ran ymgysylltu’n adeiladol â thenantiaid a les-ddeiliaid ar faterion sy'n ymwneud â sut y rheolir eu cartrefi.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai y bydd y gwasanaeth yn ceisio ffyrdd newydd a modern o sicrhau y gellir clywed barn tenantiaid yn 2017/18.

 

Dywedodd y Cynghorydd Gwilym O. Jones, sef Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio, fod y Pwyllgor Sgriwtini wedi ystyried yr adroddiad cynnydd yn ei gyfarfod ar 9 Hydref, 2017 ac wedi nodi'r canlynol -

 

  Roedd y Pwyllgor yn pryderu ynghylch effaith cyflwyno Credyd Cynhwysol ar deuluoedd bregus, yn enwedig yr oedi cyn y byddant yn derbyn taliadau a'r caledi ariannol y gallai hyn ei achosi. Roedd y Pwyllgor yn glir na ddylai unrhyw denantiaid fod mewn perygl o golli eu cartref os na allant dalu eu rhent am gyfnod dros dro oherwydd oedi o’r fath.

  Nododd a chefnogodd y Pwyllgor y prosiect diwrnodau glanhau stadau.

  Nododd y Pwyllgor y berthynas dda rhwng y Gwasanaeth Tai a Heddlu Gogledd Cymru mewn perthynas â rhannu gwybodaeth i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ar stadau.

  Nododd y Pwyllgor bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i ddatblygu’r lolfeydd cymunedol mewn stadau tai gwarchod ar yr Ynys fel canolfan ar gyfer hybiau cymunedol a bod ymgynghoriad yn digwydd gyda thenantiaid ar y posibilrwydd o wneud mwy o ddefnydd o’r lolfeydd hyn.

  Cydnabu'r Pwyllgor lwyddiant grŵp Llais Tenantiaid a Swyddogion Môn a chefnogodd y bwriad i gynyddu cynrychiolaeth o blith tenantiaid o ardaloedd ledled yr Ynys.

  Cefnogodd y Pwyllgor y syniad y dylid rhannu'r adroddiad yn un o’r Sesiynau Briffio ar gyfer Aelodau.

 Roedd y Pwyllgor wedi derbyn yr adroddiad ac yn cefnogi'r argymhellion ynddo.

 

Penderfynwyd -

 

  Derbyn yr adroddiad cynnydd ar y Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid ar gyfer 2016/17.

  Bod Aelodau Etholedig a’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn chwarae rhan weithredol mewn perthynas â hyrwyddo cyfranogiad tenantiaid a sicrhau bod gan yr holl denantiaid lais a rhan i’w chwarae mewn datblygiadau tai a chorfforaethol yn y dyfodol.

13.

Cau Allan y Wag a’r Cyhoedd pdf eicon PDF 116 KB

Ystyried mabwysiadu’r isod: -

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth oherwydd y gallai gwybodaeth eithriedig gael ei datgelu fel caiff ei diffinio yn Atodlen 12A y Ddeddf dan sylw ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd a gyflwynwyd”.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid ystyriwyd yr eitem hon.

14.

Trawsnewid y Gwasanaeth Diwylliant – Safle Llynnon

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Cofnodion:

Tynnwyd yr eitem hon yn ôl.