Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Cynigion Cychwynnol ar gyfer y Gyllideb, Pwyllgor Gwaith - Dydd Llun, 6ed Tachwedd, 2017 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Council Chamber, Council Offices, Llangefni

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Cynllun Ymgynghori Cyllideb 2018/19 pdf eicon PDF 824 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd ar gyfer ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith – adroddiad gan y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol yn cynnwys cynllun arfaethedig ar gyfer cynnal proses o ymgynghori cyhoeddus ar y cynigion mewn perthynas â Chyllideb 2018/19 yn ystod y cyfnod o’r wythnos sy’n cychwyn 6 Tachwedd hyd 29 Rhagfyr 2017.

 

Dywedodd y Cadeirydd bod y Cynllun arfaethedig ar gyfer Ymgynghori ar y Gyllideb yn debyg i’r cynllun a fabwysiadwyd i’r un perwyl yn 2017/18. Mae’r Cynllun yn cymryd ymagwedd traws-sector gyda’r bwriad o gyflwyno sylwadau’r dinasyddion drwy amrediad o sianelau a chyfryngau. Roedd y cynllun arfaethedig wedi cael ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn y cyfarfod ar y Gyllideb a gynhaliwyd yr wythnos flaenorol; roedd cynrychiolwyr o Llais Ni (sef Cyngor Ieuenctid Ynys Môn) a’r Panel Dinasyddion yn bresennol yn y cyfarfod hwnnw ac maent yn ystyried yn awr y modd y byddant yn cyfrannu at y broses ymgynghori. Yn ychwanegol at hyn, mae sefydliadau ieuenctid yr Ynys yn ystyried cynnal sesiwn ar y cyd yn hytrach na chyfarfod ar wahân a bydd y rhaglen ymgynghori yn adlewyrchu eu hanghenion.

 

Dywedodd y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol bod y Cynllun Ymgynghori’n ffrwyth gwaith a wnaed gan y Bwrdd Ymgysylltu ac Ymgynghori Corfforaethol sy’n cynnwys cynrychiolwyr partneriaid megis Llais Ni a Medrwn Môn. Mae’r Bwrdd wedi adolygu’r broses ymgynghori a gynhaliwyd ar y gyllideb llynedd ac wedi cymryd i ystyriaeth sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol gyda golwg ar wella’r broses eleni. Dywedodd y Swyddog ei fod yn hyderus y byddai’r ymagwedd draws-sector hon a’r defnydd cynyddol o’r cyfryngau cymdeithasol, yn gwella cyfranogiad ac ymateb y dinasyddion ac o’r herwydd yn helpu i siapio’r gyllideb ar gyfer 2018/19. Mae’r gwasanaeth wedi sicrhau bod yr adnoddau sydd eu hangen i gefnogi’r gynllun ac i ymateb i’r cynnydd yn y mewnbwn drwy’r cyfryngau cymdeithasol yn eu lle fel rhan o’r broses eleni sydd wedi cyrraedd y pwynt a nodwyd gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Cynllun Ymgynghori ar y Gyllideb am 2018/19 ar gyfer ei weithredu yn ystod y cyfnod o’r wythnos yn cychwyn 6 Tachwedd 2017 hyd at 29 Rhagfyr 2017.

3.

Cynllun Rheoli a Chynllun Gweithredu Safle Treftadaeth y Byd Cestyll a Muriau Trefi Brenin Edward yng Ngwynedd 2018/2028 pdf eicon PDF 8 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd yn gofyn i’r Pwyllgor Gwaith gytuno bod yr Awdurdod, fel un o’r prif bartneriaid, yn llofnodi Cynllun Rheoli a Chynllun Gweithredu Safle Treftadaeth y Cyd Cestyll a Muriau trefni’r Brenion Edwards ar gyfer 2018-2028.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Prosiectau Mawr a datblygiad Economaidd bod y Cynllun, fel y’i cyflwynwyd, yn diweddaru’r Cynllun Rheoli a fabwysiadwyd gan y Cyngor ym mis Tachwedd 2004. Nid oes unrhyw ddisgwyliadau newydd neu ychwanegol ar y Cyngor o safbwynt llunio’r Cynllun Rheoli. Mae Castell Biwmares yn safle treftadaeth y byd ac yn safle diwyllianol o werth sylweddol. Mae CADW wedi paratoi drafft newydd o’r cynllun rheoli a’r cynllun gweithredu ar gyfer y cyfnod 2018 i 2028 sy’n dwyn ynghyd y partïon cyfrifol parties gan olygu y gellir rheoli’r safle mewn modd cydlynol. Mae amcanion y cynllun rheoli yn cyd-fynd â sawl agwedd o waith y Cyngor mewn perthynas â rheoli’r safle o amgylch Castell Biwmaresyn bennaf o ran cynllunio, twristiaeth ac adfywio ond hefyd agweddau penodol sy’n ymwneud â phriffydd, addysg a threftadaeth. Mae Swyddogion y Cyngor wedi cadarnhau bod mwyafrif llethol o’r gweithgareddau sy’n gysylltiedig â’r cynllun rheoli yn rhan o’r dyletswyddau statudol y mae’r Awdurdod Lleol eisoes yn ymgymryd â nhw fel yr awdurdod cynllunio lleol ac na fydd unrhyw ymrwymiadau ariannol newydd ar yr Awdurdod o ganlyniad. Gan gadw mewn golwg bwysigrwydd Castell Biwmares fel canolbwynt diwylliannol a thwristaidd a’r buddion economaidd a ddaw i’r ardal yn sgil hynny, cynigiodd yr adroddiad i’r Pwyllgor Gwaith.

 

PENDERFYNWYD cytuno bod Cyngor Sir Ynys Môn yn llofnodi Cynllun Rheoli a Chynllun Gweithredu Safleoedd Treftadaeth y Byd ar gyfer Cestyll a Muriau Trefi’r Brenin Edward 2018 i 2028 mewn perthynas â Chastell Biwmares.

 

4.

Cyllideb Refeniw Ddrafft 2018/19 pdf eicon PDF 717 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaith – adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 ar y Gyllideb Refeniw ddrafft ar gyfer 2018/19.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid bod y cynigion drafft cychwynnol ar gyfer Cyllideb Refeniw 2018/19 yn dod â cham cyntaf y broses o osod y gyllideb i ben. Mae hyn wedi golygu mewnbwn sylweddol gan Swyddogion ac Aelodau Etholedig mewn cyfarfodydd adolygu gwasanaeth a gweithdai cyllideb sydd wedi arwain at nodi oddeutu £3.3m o arbedion. Mae’r gwaith paratoadol wedi bod yn heriol ac mae’r Cyngor yn dal i wynebu diffyg posibl o £2m yng nghyllideb 2018/19 wedi cymryd i ystyriaeth y pwysau y mae’n rhaid iddo ymdopi â hwy o safbwynt chwyddiant cyflogau, chwyddiant cyffredinol, y cyflog byw cenedlaethol, gostyngiad mewn grantiau a phwysau eraill. Mae’r rhestr ddrafft o gynigion ar gyfer arbedion yn cynnwys nifer o opsiynau gyda hynny’n cynnig rhywfaint o hyblygrwydd o ran y penderfyniadau y bydd angen eu gwneud. Mae’n bwysig bod y Cyngor yn cyflwyno cyllideb gytbwys ar gyfer 2018/19, nid yn lleiaf oherwydd yr heriau ariannol sy’n debygol o godi yn y blynyddoedd dilynol a’r angen i’r Cyngor fod yn barod amdanynt. Er bod y setliad dros dro i Lywodraeth Leol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn well na’r disgwyl i Ynys Môn, mae dal yn cynrychioli gostyngiad o 0.1% o gymharu â setliad 2017/18. Wedi cymryd i ystyriaeth yr holl newidiadau, addasiadau a chyfrifoldebau newydd, mae’r gyllideb ddigyfnewid ar gyfer 2018/19 yn £132.337m, cynnydd o £6.179m o gymharu â chyllideb derfynol 2017/18 sy’n golygu y bydd raid i’r Cyngor, er mwyn sicrhau cyllideb gytbwys, gwrdd â’r holl anghenion o’r gwasanaethau eu hunain a hynny ar ffurf toriadau, cynnydd mewn ffioedd neu arbedion effeithlonrwydd pellach. Mae’r cynigion yn cynnwys cynnydd o 4% yn y Dreth Gyngor ynghyd ag 1% yn ychwanegol i gyllido pwysau yn y Gwasanaethau Cymdeithasol. Bydd yr ymgynghori cyhoeddus ar y cynigion cyllidebol yn cychwyn yn syth ar ôl y cyfarfod hwn ac yn parhau hyd ddiwedd Rhagfyr; bydd yr adborth o’r broses hon ynghyd â ffigyrau’r setliad terfynol gan Lywodraeth Cymru yn siapio’r cynigion terfynol ar y gyllideb a fydd yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith, Sgriwtini ac yna i’r Cyngor Llawn ar gyfer eu cymeradwyo ddiwedd mis Chwefror 2018.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151, er bod y setliad dros dros yn well nag a ragdybiwyd yn y Cynllun Ariannol ar gyfer y tymor Canol gan olygu bod y bwlch cyllido yn £2m yn hytrach na £4m, erys risgiau sylweddol i’r gyllideb. Mae’r risgiau hyn yn cynnwys pwysau mewn perthynas â thâl – mae pwysau arbennig ar gyflogau’r sector cyhoeddus ac os na fydd Llywodraeth Ganolog neu Lywodraeth Cymru’n cwrdd â’r rhain, bydd y Cyngor yn gorfod eu hysgwyddo.  Rhagwelir y bydd gorwariant o oddeutu £2m ar gyllideb gyfredol 2017/18 yn bennaf oherwydd pwysau sy’n gysylltiedig â’r galw am wasanaethau yn y Gwasanaethau Plant; nid yw’r gyllideb ddigyfnewid yn gwneud darpariaeth ar gyfer y gorwariant hwn, felly bydd angen gweithio i ddod  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.