Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Gwaith - Dydd Llun, 27ain Tachwedd, 2017 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Council Chamber, Council Offices, Llangefni

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd R. Meirion Jones ddiddordeb personol yn eitem 12 ar y rhaglen.

2.

Materion brys a ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu Swyddog a benodwyd ganddo

Dim materion brys ar adeg anfon allan y rhaglen hon.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i'w hadrodd.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 309 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfodydd o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y dyddiadau isod:-

 

  30 Hydref, 2017

  6 Tachwedd, 2017 (Cyllideb)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol i'w cadarnhau:

 

  30 Hydref, 2017

  6 Tachwedd, 2017 (Cyllideb)

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo fel rhai cywir, gofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 30 Hydref, 2017 a

6 Tachwedd, 2017.

4.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 781 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn ymgorffori Blaenraglen Waith y Pwyllgor hwn am y cyfnod o fis Rhagfyr, 2017 i fis Gorffennaf, 2018 i’w chymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd y Rheolwr Sgriwtini ar ran y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar newidiadau i'r Flaenraglen Waith ers y cyfnod adrodd blaenorol fel a ganlyn -

 

  Eitemau newydd i'r Flaenraglen Waith

 

     Eitem 8 – Llwybr Datblygu ar gyfer Tai Cyngor - Pecynnau dylunio ac adeiladu gan ddatblygwyr. Yr eitem i’w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod yn Rhagfyr, 2017.

     Eitem 12 – Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid. Bydd y Pwyllgor Gwaith yn ystyried yr eitem yn ei gyfarfod ym mis Ionawr, 2018

     Eitem 29 – Cynllun Busnes 30 Blynedd ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai a rhaglen gyfalaf 2018-19 . Yn amodol ar gadarnhad, caiff yr eitem ei hystyried gan y Pwyllgor Gwaith  yn ei gyfarfod ym mis Chwefror, 2018.

     Eitem 30 – Cynllun Comisiynu’r Rhaglen Cefnogi Pobl. Yn amodol ar gadarnhad,  caiff yr eitem ei hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ym mis Chwefror, 2018.

     Eitem 35 – Strategaeth Trechu Tlodi (cymeradwyo'r ddogfen yn dilyn y cyfnod ymgynghori). Yn amodol ar gadarnhad, caiff yr eitem ei hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ym mis Mawrth, 2018.

     Eitem 36 – Storfa Cynnal Tai. Yn amodol ar gadarnhad, caiff yr eitem ei hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ym mis Mawrth, 2018.

 

  Eitemau sydd wedi'u gohirio i ddyddiad diweddarach ar y Rhaglen Waith

 

     Eitem 7 – Strategaeth Trechu Tlodi (cymeradwyo'r strategaeth ddrafft ar gyfer ymgynghoriad). Ailraglennwyd i'w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod yn Rhagfyr, 2017 (o fis Tachwedd, 2017)

     Eitem 11 – Moderneiddio Ysgolion yn Ardal Llangefni (adborth ar yr ail ymgynghoriad). Ailraglennwyd yr eitem i'w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod yn Ionawr, 2018

     Eitem 13 – Datblygu Tai Fforddiadwy yng Nghaergybi. Ailraglennwyd yr eitem i'w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod yn Ionawr, 2018.

 

Adroddodd y Swyddog hefyd y bu newidiadau pellach ers cyhoeddi'r adroddiad, sef gohirio rhoi sylw i eitem 5 (Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2018/19) o gyfarfod Rhagfyr 2017 y Pwyllgor Gwaith i’w gyfarfod yn Ionawr, 2018 a gohirio eitem 9 (STEM Gogledd Cymru) o gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ym mis Rhagfyr, 2017 i’w gyfarfod yn Ionawr, 2018.

 

Er gwybodaeth i rieni disgyblion yn ardal Talwrn a oedd wedi holi am yr adroddiad ar foderneiddio ysgolion yn yr ardal, eglurodd y Cadeirydd fod dwy eitem ar y Rhaglen Waith yn ymwneud â moderneiddio ysgolion yn ardal Llangefni, ond mai’r un sy'n berthnasol i'r rhieni hyn yw eitem 11, sef canlyniad yr ail ymgynghoriad. Bydd yr eitem yn dod gerbron y Pwyllgor Gwaith ar 29 Ionawr, 2018.

 

PENDERFYNWYD  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Cerdyn Sgorio Corfforaethol - Chwarter 2, 2017/18 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol a oedd yn ymgorffori'r Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 2, 2017/18 ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Corfforaethol fod perfformiad yn erbyn y dangosyddion cytunedig yn ail chwarter 2017/18 wedi bod yn gadarnhaol ar y cyfan gyda'r mwyafrif o’r dangosyddion yn perfformio’n dda yn erbyn eu targedau. Fodd bynnag, mae yna dri maes yr amlygwyd eu bod yn tanberfformio ac ‘roedd y manylion i’w gweld yn adran 2.3.3 ynghyd â'r mesurau lliniaru arfaethedig gyda'r nod o sicrhau gwelliant yn Chwarter 3. Mae rhan 2.3.7 yr adroddiad yn rhoi diweddariad ar y gwelliannau yn y Gwasanaethau Plant gan eu bod yn cysylltu i mewn i’r Dangosyddion Perfformiad ar y Cerdyn Sgorio. O ran Rheoli Pobl, mae'r perfformiad o 4.25 mewn perthynas â chyfraddau absenoldeb salwch ar ddiwedd Chwarter 2 yn dangos gwelliant pellach o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2016/17. Mae'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn argymell parhau gyda'r panelau herio salwch rheolaidd gyda phwyslais ar gydymffurfio â disgwyliadau polisi a chynorthwyo’r  gwasanaethau penodol hynny sydd wedi methu eu targedau. Mewn perthynas â Gwasanaethau Cwsmer a’r tanberfformiad o ran ymateb i gwynion, gellir priodoli’r tanberfformiad yn bennaf i’r Gwasanaeth Plant oherwydd nad oedd wedi anfon ymatebion ysgrifenedig amserol er ei fod wedi cynnal trafodaeth gyda'r achwynwyr o fewn yr amserlen yn y rhan fwyaf o achosion. O ran rheolaeth ariannol, gwelwyd gostyngiad o £0.343m yn y gorwariant a ragwelir ar hyn o bryd o gymharu â’r chwarter cyntaf. Ceir rhagor o fanylion yn yr adroddiad monitro Chwarter 2 ar y Gyllideb Refeniw.

 

Adroddodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, ar gyfarfod y Pwyllgor hwnnw a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd, 2017 a oedd wedi craffu ar y perfformiad yn Chwarter 2. ‘Roedd y Pwyllgor wedi nodi, er gwaethaf y gwelliant, y rhagwelir y bydd y gyllideb refeniw yn parhau i orwario’n sylweddol erbyn diwedd y flwyddyn ac mai’r cyllidebau a oedd dan bwysau oedd rhai’r Gwasanaeth Plant a Theuluoedd a'r Gwasanaeth Dysgu. Fodd bynnag, ‘roedd y ffigwr perfformiad o ran absenoldeb salwch yn galondid i’r Pwyllgor fel oedd y gostyngiad yn nifer y plant sydd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant.

 

Dywedodd y Cadeirydd ei bod hi'n croesawu cyfraniad y Panel Sgriwtini Cyllid sydd wedi gofyn i Benaethiaid y Gwasanaeth Plant a Theuluoedd a'r Gwasanaeth Dysgu ddarparu dadansoddiad o wariant eu gwasanaethau er mwyn cael dadansoddiad manylach o'r rhesymau am y gorwariant ac i lunio cynllun gweithredu i fynd i'r afael ag ef. Mater arall sy’n bwysig o ran darparu cymorth parhaus i ofalwyr a sicrhau y gellir cwrdd â’u hanghenion gofal yw gwella  perfformiad yn erbyn Dangosydd Perfformio Ll / 18b - canran y gofalwyr a ofynnodd am asesiad neu adolygiad ac a gafodd asesiad neu adolygiad yn ystod y flwyddyn. Mae’r dangosydd yn dangos yn Ambr ar ddiwedd Chwarter 2. 

 

Dywedodd yr  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2017/18 - Chwarter 2 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau'r Cyngor ar gyfer hanner cyntaf blwyddyn ariannol 2017/18 (1 Ebrill, 2017 i 30 Medi, 2017) ynghyd â chrynodeb o’r sefyllfa a ragwelir ar gyfer y flwyddyn gyfan.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod y Cyngor, ym mis Chwefror, 2017, wedi gosod cyllideb net ar gyfer 2017/18 gyda gwariant net o £126.647m gan y gwasanaethau. Roedd y gyllideb ar gyfer 2017/18 yn cynnwys yr arbedion o £2.44m yr oedd yn rhaid eu gwneud. Yn seiliedig ar ffigyrau Chwarter 2, y sefyllfa ariannol gyffredinol a ragwelir ar gyfer 2017/18, gan gynnwys Cyllid Corfforaethol a'r gronfa Treth Gyngor, yw gorwariant o £1.924m neu 1.53% o gyllideb net y Cyngor ar gyfer 2017/18. Mae hynny ychydig bach yn well na’r sefyllfa ar ddiwedd Chwarter 1. Mae'r rhan fwyaf o'r gorwariant oherwydd costau Rhiantu Corfforaethol a rhagwelir gorwariant o  £1.89m yn y Gwasanaeth Plant a Theuluoedd. Mae'r sefyllfa yn cael ei hadolygu a gobeithir y bydd y camau a gymerir yn y Gwasanaethau Plant, gan gynnwys ailstrwythuro’r gwasanaeth er mwyn canolbwyntio mwy ar ymyrraeth gynnar ac ymyrraeth ddwys, yn helpu'r gwasanaeth i reoli gwariant. Mae rhai gwasanaethau eraill yn gorwario hefyd, gan gynnwys Addysg Ganolog o ganlyniad i'r costau addysgol sy'n gysylltiedig â 5 lleoliad all-sirol newydd a chostau cludiant i'r ysgol, ynghyd â’r Gwasanaeth Priffyrdd a'r Gwasanaeth Trawsnewid sy’n gorwario’n bennaf  oherwydd costau TG. Fodd bynnag , mae nifer o wasanaethau wedi tanwario ac ymhelaethir ar y rheini yn yr adroddiad. Gweithredwyd rhaglen buddsoddi i arbed yn 2016/17 gyda £983k wedi ei neilltuo ar gyfer prosiectau unigol. Hyd yn hyn, mae £217k wedi'i wario neu wedi'i ymrwymo o'r dyraniad hwn yn ystod 2017/18 ac mae'r prosiectau wedi datblygu i wahanol raddau a rhai yn agosach i gael eu cwblhau nag eraill fel yr amlinellwyd yn Atodiad CH i'r adroddiad. Mae'r dyraniad yn cynnwys £87k ar gyfer y Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes i foderneiddio prosesau busnes a pherfformiad. Gan mai dim ond £67k y disgwylir y bydd y prosiect hwn ei angen, cynigir bod y £20k sy'n weddill yn cael ei ddargyfeirio i ariannu datblygu siop ar-lein a gwefan i Oriel Ynys Môn sydd hefyd yn brosiect buddsoddi i arbed a ddylai greu incwm ychwanegol.

 

Er bod y sefyllfa wedi gwella o gymharu â’r sefyllfa yr adroddwyd arni ar ddiwedd Chwarter 1, dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 fod y sefyllfa gyffredinol a ragwelir yn parhau i fod yn un o orwariant sylweddol; bydd gwaith yn cael ei wneud gyda'r holl wasanaethau yn ail hanner y flwyddyn ariannol i geisio sicrhau bod gwariant yn unol â’r cyllidebau. Pe bai'r sefyllfa bresennol yn bodoli ar ddiwedd y flwyddyn, yna bydd unrhyw orwariant ar yr adeg honno yn cael roi yn erbyn balansau cyffredinol y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Adroddiad Monitro Cyllideb Gyfalaf 2017/18 - Chwarter 2 pdf eicon PDF 636 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol y gyllideb gyfalaf ar gyfer ail chwarter blwyddyn ariannol 2017/18.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod y Cyngor wedi cymeradwyo Rhaglen Gyfalaf o £27.630m ym mis Mawrth 2017 am y flwyddyn 2017/18 ar gyfer gwasanaethau nad ydynt yn ymwneud â thai, ynghyd â rhaglen gyfalaf o £12.873m ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai. Yn ogystal, ym mis Mehefin 2017 cymeradwyodd y Cyngor llithriad cyfalaf o £4.677m i'w ddwyn ymlaen o 2016/17, ac roedd llithriad a ddygwyd ymlaen hefyd o Raglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, sef £1.758m. Ers gosod y gyllideb, ychwanegwyd cynlluniau at y rhaglen ac mae'r rhan fwyaf ohonynt yn cael eu hariannu gyda grant, a oedd yn werth cyfanswm o £1.873m. Mae'r Awdurdod wedi derbyn Cyfarwyddyd Cyfalafu hefyd ar gyfer costau Tâl Cyfartal, sef £2.566m, sy'n dod â chyfanswm y gyllideb gyfalaf ar gyfer 2017/18 i £51.377m. Fel y dangosir yn Nhabl 4.1 yr adroddiad, rhagwelir tanwariant o £17.861m yn y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2017/18 gyda £15.515m ohono’n llithro, o bosib, i Raglen Gyfalaf 2018/19 a hynny’n bennaf oherwydd tanwariant ar Brosiectau Isadeiledd Strategol Caergybi a Llangefni a phrosiect Priffyrdd newydd i Wylfa Newydd.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 y bydd y rhan fwyaf o'r llithriad ar gael yn 2018/19 ar gyfer y prosiectau hynny sydd wedi tanwario. Fodd bynnag, mae risg fechan yn gysylltiedig â'r grant cyfalaf ar gyfer yr ysgol newydd yn ardal Rhosyr oherwydd bod angen gwario £1.9m cyn 31 Mawrth, 2018.  Ar hyn o bryd rhagwelir y bydd £2.7m yn cael ei wario. Fodd bynnag, pe bai unrhyw oedi i'r rhaglen o ganlyniad i dywydd gwael, yna mae posibilrwydd na fyddai modd gwario’r targed o £1.9m gan olygu y byddid yn colli’r grant. Erbyn diwedd Chwarter 2, roedd £0.384m wedi'i hawlio yn erbyn y grant ac mae pob ymdrech yn cael ei gwneud i sicrhau bod y gwariant yn cyrraedd £1.9m cyn diwedd y flwyddyn ariannol.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith mai cynlluniau grant cyfalaf yw llawer o'r Rhaglen Gyfalaf e.e. prosiect Ffordd Gyswllt Llangefni a ariennir yn allanol yn bennaf gyda'r Cyngor yn gwneud y  gwaith ar ran Llywodraeth Cymru.

 

Penderfynwyd nodi’r cynnydd ar wariant a’r derbyniadau yn ystod Chwarter 2 yn erbyn y gyllideb gyfalaf am 2017/18.

8.

Cyfrif Refeniw Tai pdf eicon PDF 586 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 yn nodi'r sefyllfa mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer ail chwarter 2017/18.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod cyllideb y CRT yn cynnwys cyllid refeniw ar gyfer gwaith trwsio a chynnal a chadw ar stoc tai y Cyngor yn ogystal â chyllid ar gyfer datblygu tai cyngor newydd ar yr Ynys. Mae'r CRT wedi'i neilltuo’n arbennig i ddibenion penodol ac ni ellir trosglwyddo ei gronfeydd wrth gefn i'r Gronfa Gyffredinol. Ar y cyfan, mae sefyllfa’r CRT  ar ddiwedd Chwarter 2 yn gadarn.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 fod y rhan fwyaf o'r tanwariant ar y CRT mewn perthynas â gwariant cyfalaf ac bydd yn cael ei ddwyn ymlaen i 2018/19.

 

Penderfynwyd nodi’r sefyllfa sy’n cael ei nodi o ran perfformiad y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 2 2017/18.

9.

Sylfaen y Dreth Gyngor 2018/19 pdf eicon PDF 435 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 mewn perthynas â chyfrifo sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer 2018/19.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 mai cyfrifoldeb y Pwyllgor Gwaith yw cymeradwyo'r cyfrifiadau ar gyfer gosod sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer 2018/19 ar gyfer ei ardal a rhannau ohonimae'n rhaid rhoi gwybod i'r cyrff codi praesept ac ardollau am y symiau hyn erbyn 31 Rhagfyr, 2017 h.y. Heddlu Gogledd Cymru a'r cynghorau tref a chymuned. Anfonir y wybodaeth hefyd at Lywodraeth Cymru er mwyn gosod y Grant Cynnal Refeniw (erbyn 22 Tachwedd, 2017) ac at ddibenion gosod sylfaen y dreth (erbyn Ionawr, 2018). Y cyfanswm a gynigir ar gyfer 2018/19 at ddibenion gosod sylfaen ar gyfer y dreth yw 30,773.31. Mae hyn yn cymharu â 30,974.83 ar gyfer 2016/17 ac mae’n gwymp o 0.07%. a allai fod oherwydd nifer o resymau e.e. goramcangyfrif nifer yr anheddau treth gyngor yn 2017/18, cynnydd yn nifer y bobl sengl sy'n hawlio disgownt a / neu apeliadau yn erbyn band treth gyngor, gan arwain, o bosib, at ostyngiad yn y sylfaen ar gyfer y Dreth Gyngor. Bu newidiadau sylweddol yn sylfaen y dreth i ddibenion gosod treth yn 2018/19 mewn perthynas ag eiddo y codir premiwm arnynt o gymharu â 2017/18. O ran eiddo y codir premiwm arnynt, bu gostyngiad yn nifer yr eiddo sydd wedi bod yn wag am gyfnod hir (550 yn 2017/18 i lawr i 449  yn 2018/19) tra bu cynnydd yn nifer yr ail gartrefi y codir premiwm arnynt (1,455 yn  2017/18 yn codi i 1,754 yn 2018/19). Mae hwn yn gynnydd o 9.88% yn elfen premiwm y sylfaen dreth i ddibenion trethu ond nid yw'n ddigon i atal gostyngiad bach iawn yn y dreth at ddibenion gosod trethi.

 

Penderfynwyd -

 

  Nodi cyfrifiad sylfaen y Dreth Gyngor gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 fydd yn cael ei ddefnyddio gan Llywodraeth Cymru ar gyfer cyfrifo’r Grant Cynnal Refeniw i Gyngor Sir Ynys Môn am y flwyddyn 2018/19, sef 30,663.09. (Rhan E6 o Atodiad A i’r adroddiad)

  Cymeradwyo’r cyfrifiad at ddiben pennu Sylfaen y Dreth Gyngor gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 am y cyfan o’r ardal ac am rannau ohoni dros y flwyddyn 2018/19 (Rhan E5 o Atodiad A i’r adroddiad)

  Yn unol â Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1972 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor (Cymru) 1995  (SI19956/2561) fel y cawsant eu diwygio gan SI1999/2935 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) a’r Dreth Gyngor (Dosbarthiadau Rhagnodedig o Anheddau) (Cymru) (Diwygiad) 2004 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrif Sylfaen y Dreth Gyngor (Cymru) (Diwygiad) 2016, y cyfansymiau y mae Cyngor Sir Ynys Môn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor 2018/19 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 mewn perthynas â Chynllun Gostyngiadau’r Dreth y Cyngor ar gyfer 2018/19.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 bod y Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Cyngor y gofynnir i'r Pwyllgor Gwaith ei gymeradwyo yn gyson â'r Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a gymeradwywyd bob blwyddyn gan y Cyngor Llawn ac sydd wedi bod mewn grym ers blwyddyn ariannol 2014/15, heblaw am y newid a argymhellir bod y Cyngor yn defnyddio ei ddisgresiwn o dan y ddeddfwriaeth berthnasol fel bod y Cynllun ar gyfer 2018/19 ymlaen yn diystyru'r holl daliadau a wneir o dan Gynllun Cymorth  Gwaed Heintiedig Cymru yn unol â'r canllawiau a ddarparwyd  gan Llywodraeth Cymru (Atodiad A i'r adroddiad).

 

Penderfynwyd argymell i'r Cyngor Llawn yn ei gyfarfod ar 12 Rhagfyr, 2017 -

 

  Na ddylai’r Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor cyfredol gael ei adolygu na’i newid am gynllun arall, heblaw bod y Cyngor llawn yn defnyddio ei ddisgresiwn o dan Adran 13A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1972 y bod ei Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor am 2018/19 ymlaen yn diystyru taliadau a wneir o dan Gynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru (CCGHC).

  Ei fod yn mabwysiadu’r Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor cyfredol (efo’r newid sy’n cael ei argymell uchod) yn ffurfiol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2018/19.

  Ei fod yn awdurdodi’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 i wneud trefniadau gweinyddol fel bod pob newid blynyddol ar gyfer uwchraddio ffigyrau ariannol neu adolygiad technegol mewn unrhyw reoliad/reoliadau sy’n diwygio yn cael eu hadlewyrchu yng Nghynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor y Cyngor ac am bob blwyddyn ddilynol ac hefyd i gymryd ystyriaeth o’r newidiadau angenrheidiol i reoliadau gostyngiadau’r dreth gyngor wrth ddefnyddio’r ddiystyriaeth ychwanegol o daliadau a wneir o dan CCGHC. 

11.

Trawsnewid y Gwasanaeth Llyfrgell pdf eicon PDF 4 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigiodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Addysg, Llyfrgelloedd, Ieuenctid a Diwylliant y dylid gohirio ystyried y mater hwn tan gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ym mis Rhagfyr, 2017 a chytunwyd i wneud hynny.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y mater tan gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ym mis Rhagfyr, 2017.

12.

30 Awr o Ofal Plant am ddim pdf eicon PDF 947 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Dysgu yn gofyn i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo ymestyn yr ardaloedd peilot ar gyfer y cynnig gofal plant am ddim a gytunwyd ym mis Chwefror, 2017 yn unol â'r meini prawf.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Addysg, Llyfrgelloedd, Ieuenctid a Diwylliant y dylid croesawu'r bwriad i ehangu’r cynllun ar y sail bod helpu teuluoedd trwy ddarparu gofal plant fforddiadwy, hyblyg ac ansawdd uchel yn cefnogi adfywiad economaidd, yn lleihau'r pwysau ar incwm teuluol ac yn helpu rhieni i fynd i weithio ac yn lleihau'r risg bod teuluoedd yn byw mewn tlodi. Mae hefyd yn helpu lles plant trwy roi profiadau positif a gwerthfawr iddynt yn eu plentyndod.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith fod Ynys Môn yn gwerthfawrogi bod yn fabwysiadwr cynnar ar gyfer y cynllun gofal plant 30 awr ynghyd â Gwynedd; mae'n ddarpariaeth werthfawr a fydd, yn y pen draw, yn dod â manteision i deuluoedd ar draws yr Ynys.

 

Penderfynwyd cymeradwyo ymestyn ardaloedd peilot y Cynllun Gofal Plant fel yr amlinellir yn Rhan 1 a Rhan 2 yr adroddiad yn dilyn derbyn cadarnhad gan Lywodraeth Cymru. 

 

13.

Arolygiad AGGCC o’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn Ynys Môn – Adroddiad Cynnydd Chwarterol pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Plant.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Dros Dro ar gyfer y Gwasanaethau Plant yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu Cynllun Gwella'r Gwasanaethau Plant.

 

Dywedodd y Cadeirydd a'r Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol fod y gwaith o ailstrwythuro'r Gwasanaeth wedi cael ei wneud a bod hynny wedi arwain at grwpiau ymarfer llai a arweinir gan Arweinydd Ymarfer, sy’n hwyluso mynediad at gyngor, cymorth ac arweiniad gan  reolwyr. Mae'r Tîm Teuluoedd Gwydn bellach wedi'i staffio'n llawn ac mae'n gweithio gydag 8 o deuluoedd i atal teuluoedd rhag chwalu ac i gefnogi plant sy'n byw gartref. Mae’r gwaith recriwtio yn mynd rhagddo a phenodwyd Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Ymyrraeth Gynnar ac Ataliaeth ac Arweinwyr Ymarfer. Maent oll wedi cychwyn yn eu swyddi ers diwedd yr haf / dechrau’r hydref. Mae saith o weithwyr cymdeithasol newydd wedi cael eu recriwtio hefyd.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethu a Thrawsnewid Prosesau Busnes / Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol) bod y broses wella ar y trywydd iawn; mae gweithgareddau'n parhau i ganolbwyntio ar wella ymarfer gwaith cymdeithasol fel elfen allweddol ar gyfer gwella gwasanaethau i deuluoedd a'u plant yn ogystal â chost-effeithiolrwydd  cyffredinol. Er bod yr adroddiad yn adlewyrchu'r sefyllfa fel yr oedd ym mis Hydref , 2017 ‘roedd y Cynllun Gwella a oedd ynghlwm yn dangos y cynnydd hyd at Awst, 2017; caiff y cynllun gwella ei ddiweddaru yn unol â hynny a chyflwynir y fersiwn wedi'i diweddaru i'r Pwyllgor Sgriwtini a'r Pwyllgor Gwaith. Paratowyd adroddiad cynnydd hefyd ar gyfer AGGCC flwyddyn ar ôl yr  arolygiad gwreiddiol; bydd Panel Gwella Gwasanaethau Plant yn rhoi sylw i’r adroddiad hwnnw a rhoddir diweddariad i'r Pwyllgor Sgriwtini a'r Pwyllgor Gwaith yn y Flwyddyn Newydd .

 

Adroddodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn ôl o gyfarfod y Pwyllgor ar 13 Tachwedd. Er bod y Pwyllgor wedi nodi bod swyddi yn parhau i fod yn wag yn y gwasanaeth fel y nodwyd gan y Panel Gwella Gwasanaethau Plant, cadarnhaodd bod y Pwyllgor yn fodlon â chyflymder a chynnydd y gwelliant. Roedd y Pwyllgor hefyd wedi awgrymu y gallai ymagwedd fwy rhagweithiol tuag at recriwtio sicrhau gwell canlyniadau trwy gysylltu yn uniongyrchol ag ysgolion a phrifysgolion. Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones ei fod eisiau cydnabod y weledigaeth a'r gwaith caled a oedd wedi dod â'r gwasanaeth cyn belled.

 

Penderfynwyd cadarnhau bod y Pwyllgor Gwaith yn fodlon gyda’r camau a gymerwyd gan y Gwasanaethau Plant a chyflymder y broses mewn perthynas â’r cynnydd a wnaed gyda’r Cynllun Gwella Gwasanaeth.

14.

Strategaeth Rheoli Asedau – Tai Cyngor pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai yn ymgorffori Strategaeth Rheoli Asedau 2018-23 ar gyfer Tai Cyngor [Cyfrif Refeniw Tai].

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai a Chynorthwyo Cymunedau fod y Strategaeth Rheoli Asedau yn diffinio dull yr Awdurdod o reoli asedau'r Cyfrifon Refeniw Tai (CRT). Hon yw’r strategaeth gyntaf o’r fath gan yr Awdurdod ac mae'n canolbwyntio ar y tair thema ganlynol:

 

  Buddsoddi yn y stoc – cynnal y stoc tai i safon sy'n cwrdd ag anghenion cwsmeriaid a gofynion busnes a gofynion rheoleiddio, yn enwedig Safonau Ansawdd Tai Cymru.

  Rheoli Asedau mewn modd Gweithredol – gwella perfformiad eiddo a allai fod yn perfformio’n wael o ran ffactorau cymdeithasol, economaidd neu amgylcheddol.

  Cefnogi amcanion ehangach – cyfrannu at flaenoriaethau corfforaethol yn ogystal â chydymffurfio â gofynion rheoleiddiol mewn perthynas â'r stoc gyfredol ynghyd â chynlluniau datblygu newydd i gynyddu opsiynau tai a hyrwyddo’r gallu i fyw'n annibynnol o fewn cymunedau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Corfforaethol, fod y Pwyllgor, wedi cymeradwyo'r strategaeth yn ei gyfarfod ar 13 Tachwedd tra'n tynnu sylw at effaith bosib cyflwyno’r Credyd Cynhwysol ar denantiaid tai cyngor. Roedd y Pwyllgor wedi mynegi pryder hefyd ynghylch teuluoedd mewn tlodi tanwydd ac wedi gofyn am adroddiad ar gynlluniau’r Gwasanaeth Tai i’w cefnogi.  Ychwanegodd y Cynghorydd Aled Morris Jones fod y ddarpariaeth ar gyfer parcio yn fater sy’n codi dro ar ôl tro a’i fod yn effeithio ar y rhan fwyaf o stadau a bod angen edrych arno.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r Strategaeth Ddrafft Rheoli Asedau y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2018-2023.

15.

Trefniadau Dirprwyo fel y gall y Cyngor gymryd rhan yn yr Archwiliad o Geisiadau ar gyfer Prosiect Wylfa Newydd a Phrosiect Cysylltiad Gogledd Cymru dan Ddeddf Cynllunio 2008 pdf eicon PDF 594 KB

Cyflwyno adroddiad ar y cyd gan y Prif Weithredwr Cynorthwyol – Partneriaethau, y Gymuned a Gwella Gwasanaethau a’r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad ar y cyd gan y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Cymunedau a Gwella Gwasanaethau) a'r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd yn ceisio cefnogaeth y Pwyllgor Gwaith i ddirprwyo pwerau penodol i swyddogion hwyluso cyfranogiad y Cyngor yn y prosesau Caniatâd Datblygu sy'n gysylltiedig â Phrosiect Wylfa Newydd Pŵer Niwclear Horizon a Phrosiect Cysylltiad Gogledd Cymru gan y Grid Cenedlaethol.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Cymunedau a Gwella  Gwasanaethau) nad yw holl swyddogaethau'r Cyngor o dan Ddeddf Cynllunio 2008 wedi'u dirprwyo ar hyn o bryd ac felly maent wedi'u cadw i'r Cyngor Llawn; felly mae'n rhaid sefydlu trefniadau dirprwyo fel y gall y Cyngor gwrdd ag amserlenni heriol mewn cysylltiad â’r broses o archwilio Gorchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) ar gyfer Prosiect Wylfa Newydd Pŵer Niwclear Horizon a’r Prosiect Cysylltiad Gogledd Cymru gan y Grid Cenedlaethol .Ystyrir bod y trefniadau dirprwyo y gofynnir amdanynt ac a amlinellir yn yr adroddiad yn sicrhau cydbwysedd priodol rhwng gofyn am gymeradwyaeth yr Aelodau ynghylch yr egwyddorion allweddol a'r penderfyniadau polisi y bydd angen eu gwneud trwy gydol y broses ac yna caniatáu i Swyddogion gymeradwyo'r dogfennau terfynol er mwyn sicrhau y gellir cyflwyno ymatebion yn unol â'r amserlen. Mae angen trefniadau dirprwyo pellach o’r swyddogion a enwir i Swyddogion eraill hefyd i ganiatáu i swyddogion allu cynrychioli'r Cyngor yn effeithiol yn y broses, e.e. mewn gwrandawiadau llafar.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith mewn perthynas ag argymhelliad 2 yn yr adroddiad nad yw caniatáu gwyro oddi wrth y polisi dwyieithrwydd ar gyfer dogfennau, sylwadau a chyflwyniadau fel rhan o'r broses DCO yn cael ei wneud ar chwarae bach ac ni fydd hynny ond yn digwydd yn yr amgylchiadau hynny lle bydd amserlenni tynn / dyddiadau cau yn golygu ei bod yn anodd neu’n amhosib i ddarparu dogfennau dwyieithog erbyn dyddiad penodol. Dylid pwysleisio fodd bynnag y bydd yr holl ddogfennau sy'n ymwneud â'r broses DCO ar gael yn yr iaith Gymraeg.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith ymhellach ei fod yn dymuno i'r dirprwyaethau a gynigir (argymhellion 1 a 3) gael eu gweithredu mewn ymgynghoriad â'r Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Portffolio ar gyfer Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd.

 

Penderfynwyd argymell y canlynol i'r Cyngor Llawn -

 

Bod y Cyngor:

 

  Yn dirprwyo i’r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaeth, Cymuned a Gwella Gwasanaeth) mewn ymgynghoriad â’r Dirprwy Arweinydd yr awdurdod i gynnal pob trafodaethau budd-dal cymunedol anstatudol a, lle mae amser (yn ei barn hi) o’r hanfod, i wneud unrhyw benderfyniadau perthnasol i bob un trafodaethau o’r fath mewn cysylltiad â, neu’n deillio o un neu ddau o’r prosiectau dan sylw sef Prosiect Cysylltiad Gogledd Cymru o’r Grid Cenedlaethol a Phrosiect Adeilad Niwclear Wylfa Newydd.

  Ymadael o’r polisi dwyieithog ar gyfer dogfennau, sylwadau a chyflwyniadau a wnaed fel rhan o’r broses Orchymyn Caniatâd Datblygu lle mae’n bwysig neu oherwydd amserlenni, yn amhosibl i swyddogion gydymffurfio â Pholisi Iaith Gymraeg y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 15.

16.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 160 KB

Ystyried mabwysiadu’r isod: -

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth oherwydd y gallai gwybodaeth eithriedig gael ei datgelu fel caiff ei diffinio yn Atodlen 12A y Ddeddf dan sylw ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd a gyflwynwyd”.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd -

 

O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd fel y cyflwynwyd nhw.

17.

Trawsnewid y Gwasanaeth Diwylliant - Oriel Ynys Môn

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Dysgu yn nodi'r cynnydd hyd yma yn Oriel Ynys Môn mewn perthynas â gweithredu ei Gynllun Busnes tair blynedd. Roedd yr adroddiad yn amlinellu crynodeb o’r cynnydd a wnaed yn erbyn y targed ar gyfer blwyddyn gyntaf y cynllun busnes ynghylch pob un o'r chwe nod corfforaethol.

 

Adroddodd y Cynghorydd Gwilym O. Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio o gyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 14 Tachwedd pan roddwyd sylw i’r adroddiad cynnydd ar Gynllun Busnes Oriel Ynys Môn. ‘Roedd y Pwyllgor wedi craffu ar y data perfformiad a gyflwynwyd ac wedi gwneud awgrymiadau ar gyfer cynyddu nifer yr ymwelwyr a chynhyrchu incwm yn ogystal ag edrych ar arferion mewn amgueddfeydd eraill yn y rhanbarth fel y gellid eu cymharu. At ei gilydd, roedd y Pwyllgor Sgriwtini yn fodlon â'r cynnydd a wnaed.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad ar y cynnydd hyd yma yn Oriel Ynys Môn mewn perthynas â'r Cynllun Busnes a'r targedau.

18.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 156 KB

Ystyried mabwysiadu’r isod: -

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth oherwydd y gallai gwybodaeth eithriedig gael ei datgelu fel caiff ei diffinio yn Atodlen 12A y Ddeddf dan sylw ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd a gyflwynwyd”.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd -

 

O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd fel y cyflwynwyd nhw.

19.

Trawsnewid y Gwasanaeth Diwylliant – Carchar a Llys Biwmares

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Dysgu a'r Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo yn nodi'r cefndir a'r ystyriaethau mewn perthynas â’r bwriad i drosglwyddo Carchar a Llys Biwmares i Gyngor Tref Biwmares.

 

Penderfynwyd gweithredu yn unol ag argymhelliad yr adroddiad.