Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Gwaith - Dydd Llun, 18fed Rhagfyr, 2017 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Council Chamber, Council Offices, Llangefni

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Richard Dew ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 9 ar y rhaglen.

2.

Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu Swyddog a benodwyd ganddo

Dim materion brys ar adeg anfon allan y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i'w adrodd.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 312 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd, 2017.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd, 2017 i'w cadarnhau.

 

Yn codi o’r cofnodion -

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Addysg, Ieuenctid, Llyfrgelloedd a Diwylliant fod penderfyniad y Pwyllgor Gwaith yn y cyfarfod uchod mewn perthynas â throsglwyddo Carchar a Llys Biwmares i Gyngor Tref Biwmares wedi cael ei alw i mewn gan bum aelod nad ydynt yn aelodau o’r Pwyllgor Gwaith. Dywedodd yr Aelod Portffolio fod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wedi ystyried y mater a alwyd i mewn yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar y dydd Iau blaenorol, sef 14 Rhagfyr, a'i fod yn deall (gan nad oedd wedi medru mynychu'r cyfarfod oherwydd ymrwymiad blaenorol) ei fod wedi ei wrthod.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd mai dyna oedd yr achos a bod y Pwyllgor Sgriwtini  Corfforaethol wedi nodi ei fod yn fodlon â'r penderfyniad a wnaed. Felly, roedd penderfyniad y Pwyllgor Gwaith wedi dod i rym yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini ar 14 Rhagfyr, 2017.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd, 2017, fel cofnod cywir.

4.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 772 KB

Cyflwyno adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’w gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn ymgorffori Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod o fis Ionawr, 2018 i fis Awst, 2018

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar newidiadau a wnaed i'r Flaenraglen Waith ers y cyfnod adrodd blaenorol fel a ganlyn -

 

Eitemau sy’n newydd i'r Flaenraglen Waith

 

  Eitem 2 – Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn – Cyfrifon a Diweddariad. Bydd y Pwyllgor Gwaith yn ystyried yr eitem hon yn ei gyfarfod ym mis Ionawr, 2018.

  Eitem 28 – Cynllun LlesiantBwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Bydd y Pwyllgor Gwaith yn ystyried yr eitem hon yn ei gyfarfod ym mis Mawrth, 2018. Bydd y mater hefyd yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Sgriwtini a'r Cyngor Llawn.

 

Cyfeiriodd y Swyddog yn ychwanegol at y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a raglennwyd ar gyfer 19 Chwefror, 2018, a dywedodd mai’r bwriad bellach, oherwydd nifer yr eitemau ar y rhaglen waith ar gyfer y cyfarfod ym mis Chwefror, oedd cynnal dau gyfarfod ar 19 Chwefror, sef un yn y bore i ystyried y cynigion terfynol ar gyfer Cyllideb 2018/19 a'r llall yn y prynhawn i ystyried busnes rheolaidd.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at eitem 13 ar y Rhaglen WaithCronfeydd Ariannol Wrth Gefn – a gofynnodd iddo gael ei ddwyn i sylw’r Panel Sgriwtini Cyllid hefyd.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Flaenraglen Waith am y cyfnod Ionawr i Awst, 2018 yn amodol ar y newid ychwanegol a amlinellwyd yn y cyfarfod.

5.

Adolygiad Canol Blwyddyn – Rheoli Trysorlys 2017/18 pdf eicon PDF 766 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 yn ymgorffori adolygiad canol blwyddyn o sefyllfa Rheoli Trysorlys 2017/18.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid fod yr adroddiad uchod ar yr adolygiad canol blwyddyn wedi cael sylw gan y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn ei gyfarfod ar 5 Rhagfyr, 2017. Wrth dderbyn yr adroddiad ac mewn perthynas â chyllido rhan y Cyngor o’r gwariant ar y Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, argymhellodd y Pwyllgor y dylid mabwysiadau ymagwedd ragweithiol i sicrhau y gwerthir asedau yn amserol er mwyn lleihau angen y Cyngor i fenthyca a’r costau refeniw cysylltiedig.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio fod y Cyngor yn gweithredu cyllideb gytbwys, sy'n golygu’n fras bod arian parod a godir yn ystod y flwyddyn yn cwrdd â'i wariant arian parod. Mae rhan o’r gweithrediadau rheoli trysorlys yn sicrhau bod y llif arian hwn wedi'i gynllunio'n ddigonol, gyda gwargedau’n cael eu buddsoddi mewn gwrth bartïon risg isel, gan ddarparu hylifedd digonol cyn ystyried denu’r elw mwyaf o’r buddsoddiadau. Ail brif swyddogaeth y gwasanaeth rheoli'r trysorlys yw cyllido cynlluniau cyfalaf y Cyngor. Mae'r cynlluniau cyfalaf hyn yn rhoi syniad o angen y Cyngor i fenthyca, sef, yn y bôn, y cynllun llif arian hirdymor er mwyn sicrhau y gall y Cyngor gwrdd â'i weithrediadau gwariant cyfalaf. Gall rheoli arian tymor hwy olygu trefnu benthyciadau tymor hir neu dymor byr, neu ddefnyddio gwargedau llif arian tymor hwy ac, ar adegau, gellir aildrefnu dyled i gwrdd ag amcanion cost neu risg y Cyngor. Er gwaethaf cynnydd bychan yn y gyfradd fenthyca sylfaenol ym mis Tachwedd, 2017, mae cyfraddau llog wedi parhau i fod yn isel yn ystod y cyfnod o chwe mis y mae'r adroddiad yn cyfeirio atohanner ffordd drwy’r flwyddyn ariannol ni fu llawer iawn o newid yn y sefyllfa gyffredinol o gymharu â chwe mis yn ôl.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 nad yw'r sefyllfa wedi newid rhyw lawer. Er bod y cyfraddau llog yn isel, strategaeth y Cyngor yw nad yw ond yn benthyca pan fo angen gwneud hynny a phan fo angen y cyllid arno. Oherwydd y bu llithriad yn y rhaglen gyfalaf, mae'r angen i fenthyca wedi bod yn llai na'r disgwyl pan osodwyd y gyllideb gyfalaf. Yn ystod chwe mis cyntaf y flwyddyn ariannol, aeddfedodd dau fenthyciad tymor hir gyda'r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus, sef un am £2.5m ar gyfradd llog o 3.25% a'r ail am £3m ar gyfradd llog o 10.375 %. Gwnaed yr ad-daliadau hyn trwy ddefnyddio arian o'r balansau cyfredol ac ni chymerwyd unrhyw fenthyciadau newydd i ariannu'r ad-daliad; felly, mae dau fenthyciad cyfradd llog uchel wedi'u tynnu o'r portffolio. Fodd bynnag, wrth i'r rhaglen gyfalaf fynd yn ei blaen, ac yn arbennig y Rhaglen Ysgolion  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Trawsnewid y Gwasanaeth Llyfrgell pdf eicon PDF 4 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Dysgu yn ymgorffori Strategaeth Ddrafft y Gwasanaeth Llyfrgell ar gyfer 2017-2022.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Addysg, Ieuenctid, Llyfrgelloedd a Diwylliant fod Cynllun Corfforaethol Ynys Môn ar gyfer 2013 i 2017 yn cynnwys nod i sicrhau gostyngiad o 60% yng nghostau cyffredinol y gwasanaethau hamdden, diwylliant a llyfrgelloedd yn ystod cyfnod y cynllun. Crynhodd y cyd-destun i gynhyrchu'r Strategaeth Llyfrgell Ddrafft gan ddechrau gyda’r Adolygiad o’r Gwasanaeth Llyfrgell a gynhaliwyd yn 2015 ynghyd â’r ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd wedyn ac y cafwyd 2,000 o ymatebion iddo. Yn dilyn yr ymgynghoriad, datblygodd y Gwasanaeth Llyfrgell Strategaeth Ddrafft i fynd i'r afael â’r argymhellion yn yr Adolygiad o’r Gwasanaeth Llyfrgell, yr adroddiad ymgynghori a'r sefyllfa ariannol. Cyflwynwyd y Strategaeth Llyfrgelloedd Ddrafft wedyn i'r Pwyllgor Gwaith ym mis Chwefror, 2017 a rhoddwyd awdurdod i'r Swyddogion fwrw ymlaen i drefnu ymgynghoriad cyhoeddus ar y Strategaeth Ddrafft honno. Mae'r Strategaeth yn cynnig model darpariaeth tair haen sy'n cynnwys llyfrgelloedd ardal; llyfrgelloedd a gefnogir gan y gymuned dan arweiniad y Cyngor gydag elfennau o gymorth cymunedol a llyfrgelloedd a gefnogir gan y gymuned dan arweiniad y Cyngor. Cedwir y gwasanaethau llyfrgell symudol yn amodol ar gynnal adolygiad llawn o’r llwybrau a’r arosfannau. Cynigiodd yr Aelod Portffolio argymhellion yr adroddiad i'r Pwyllgor Gwaith ynghyd ag Opsiwn C (yn hytrach nag Opsiwn B) fel yr opsiwn a ffafrir ar gyfer arbedion yn y strwythur staffioroedd hyn o ganlyniad i adolygu’r risgiau ar ôl gohirio rhoi sylw i'r mater yn y cyfarfod blaenorol.

 

Dywedodd y Pennaeth Dysgu wrth y Pwyllgor Gwaith fod y Gwasanaeth, ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Gwaith ym mis Tachwedd, wedi derbyn cadarnhad gan MALD (Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru) mewn perthynas â'r opsiynau dan ystyriaeth. Mae MALD yn pryderu am yr opsiwn sy'n cadw dim ond yr isafswm staff ac sy'n golygu colli’r holl oriau staff o'r llyfrgelloedd a fyddai’n cau (Opsiwn B). Mae MALD o’r farn bod yr opsiwn hwn yn peri risg o ran gallu'r Gwasanaeth i barhau i ddarparu gwasanaeth llyfrgell ar y lefel ddisgwyliedig, o gofio bod y lefelau staffio cyfredol eisoes ar yr ochr isel o’r hyn y gellid ei ddisgwyl.

 

Fel Aelodau Lleol, dywedodd y Cynghorwyr Aled Morris Jones a Richard Owain Jones fod trafodaethau’n parhau gyda grwpiau a busnesau lleol i ddod o hyd i ddatrysiad  cymunedol i sicrhau bod gwasanaeth llyfrgell yn parhau yng Nghemaes; byddai'r gymuned yn hoffi cael amser i allu datblygu'r syniadau hyn. Yng ngoleuni hynny, gofynnodd y Cynghorydd Aled Morris Jones am eglurhad ar yr amserlen weithredu yn ogystal â'r ddarpariaeth ariannol y byddai ei hangen fel isafswm i gadw gwasanaeth llyfrgell yng Nghemaes. Cadarnhaodd y Cynghorydd Richard Owain Jones fod nifer o opsiynau’n cael eu harchwilio gan gynnwys cysylltu gyda darpar ddatblygwr mawr yn yr ardal.  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Llwybr Datblygu ar gyfer Tai Cyngor – Pecynnau Dylunio ac Adeiladu gan Ddatblygwyr pdf eicon PDF 393 KB

Cyflwyno adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai a oedd yn gofyn i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo datblygu tai cyngor newydd trwy becyn dylunio ac adeiladu gan ddatblygwyr sy’n dirfeddianwyr.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai a Chefnogi Cymunedau fod prynu tai newydd a adeiladwyd gan ddatblygwyr preifat yn cael ei gydnabod gan Lywodraeth Cymru fel dull derbyniol o ddatblygu tai cymdeithasol newydd ac fe'i defnyddir yn rheolaidd gan Gymdeithasau Tai. Ystyrir bod y dull hwn o weithredu’n ffordd o gyflenwi tai newydd yn gymharol gyflym lle mae'r risg sy'n gysylltiedig â datblygu tai newydd yn aros gyda'r datblygwr. Byddai'n ddull derbyniol o helpu'r Cyngor gyda'i raglen i ddatblygu 195 o dai Cyngor newydd dros y pedair blynedd nesaf. Bydd y Cyngor yn cytuno’r gofynion o ran dyluniad a manyleb unrhyw ddatblygiadau tai a byddai angen i unrhyw dai Cyngor newydd a brynir gydymffurfio â gofynion ansawdd Llywodraeth Cymru ar gyfer tai cymdeithasol. Dyluniwyd canllawiau cost Llywodraeth Cymru i adlewyrchu prisiau tir a thai ledled Cymru a derbynnir ei fod yn darparu gwerth am arian ar gyfer y manylebau a nodir yn y gofynion ansawdd datblygu. Byddai unrhyw ddatblygiadau tai Cyngor a thai cymdeithasol newydd yn disgyn o fewn y Cyfrif Refeniw Tai; felly, dylid nodi yn y Cyfansoddiad y byddai'r Pennaeth Gwasanaethau Tai yn gyfrifol am unrhyw ychwanegiad at asedau o'r fath neu am gael gwared â nhw. Dylai’r Cyngor ddefnyddio ei gap benthycatua £13m – oherwydd fel arall mae risg y bydd Llywodraeth Cymru yn ei drosglwyddo i Awdurdod Lleol arall yng Nghymru.

 

Dywedodd Rheolwr Busnes y Gwasanaethau Tai fod y targed y mae'r Cyngor wedi'i osod iddo’i hun ar gyfer datblygu tai Cyngor newydd yn heriol ac yn un y bydd y Cyngor yn ceisio ei gyflawni nid yn unig trwy ddilyn y dull uchod ond hefyd trwy adeiladu ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor a thrwy brynu’n ôl rhywfaint o’r tai y bu’n berchen arnynt gynt. Mae prynu tai Cyngor newydd a adeiladwyd gan ddatblygwyr preifat trwy becynnau dylunio ac adeiladu yn gyfrwng gwerthfawr a llwyddiannus a ddefnyddir gan gymdeithasau tai i ddatblygu tai cymdeithasol newydd. Fodd bynnag, pe bai'r Cyngor yn mabwysiadu'r dull hwn o ddatblygu tai Cyngor, byddai angen diwygio Cyfansoddiad y Cyngor er mwyn bodloni Gwasanaethau Cyfreithiol y Cyngor bod yr Awdurdod yn dal i gydymffurfio â'r polisïau a'r gweithdrefnau perthnasol. Byddai'r broses o ddewis safleoedd yn cael ei gweithredu mewn ymgynghoriad â'r Grŵp Tiroedd ac Asedau a byddai’n rhan allweddol o gyflawni'r Strategaeth Siapio Lleoedd. Ar ôl nodi angen am dai newydd, gofynnid am arweiniad cyfreithiol i sicrhau bod prosesau a gweithdrefnau’n cael eu gweithredu’n briodol wedyn.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Gwaith y cynnig a nododd y canlynol -

 

  Nododd y Pwyllgor Gwaith y bydd angen mewnbwn proffesiynol i weithredu'r cynnig, sef mewnbwn y mae’r Cyngor yn ei gomisiynu gan y sector preifat fel rheol, a hynny’n ôl fformiwla ar sail  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Cau allan y Wasg a’r Cyhoedd pdf eicon PDF 163 KB

Ystyried mabwysiadu’r isod:-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm”.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd peidio â chau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod oherwydd  bwriedir gohirio ystyried yr eitem ganlynol ar hyn o bryd.

9.

Moderneiddio Ysgolion – Ardal Llangefni – Achos Strategol Amlinellol / Achos Busnes Amlinellol

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Cofnodion:

Ar ôl datgan diddordeb sy’n rhagfarnu yn y mater hwn, gadawodd y Cynghorydd Richard Dew y cyfarfod.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Addysg, Ieuenctid, Llyfrgelloedd a Diwylliant ei fod yn argymell gohirio rhoi sylw i’r mater hwn tan ddyddiad diweddarach yn sgil derbyn gwybodaeth newydd a fydd yn effeithio ar Achos Amlinellol Strategol Band B ac sy’n golygu bod angen adolygu’r achos.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y mater hwn tan ddyddiad diweddarach.