Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Cyllideb, Pwyllgor Gwaith - Dydd Llun, 19eg Chwefror, 2018 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Council Chamber, Council Offices, Llangefni

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Materion brys a ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu Swyddog a benodwyd ganddo

Dim materion brys ar adeg anfon allan y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w hadrodd.

3.

Monitro’r Gyllideb Refeniw, Chwarter 3 2017/18 pdf eicon PDF 905 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaithadroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau’r Cyngor am drydydd chwarter blwyddyn ariannol 2017/18 ynghyd â chrynodeb o’r sefyllfa ragamcanedig ar gyfer y flwyddyn gyfan.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid bod y Cyngor, ym mis Chwefror 2017, wedi gosod cyllideb net ar gyfer 2017/18 gyda gwariant net o £126.157m ar gyfer gwasanaethau i'w gyllido o incwm y Dreth Gyngor, Trethi Annomestig a grantiau cyffredinol. Y sefyllfa ariannol gyffredinol a ragwelir ar gyfer 2017/18, gan gynnwys Cyllid Corfforaethol a chronfa’r Dreth Gyngor, yw gorwariant o £1.624m neu 1.29% o gyllideb net y Cyngor ar gyfer 2017/18. Mae hyn yn welliant o £300k o gymharu â’r sefyllfa ar ddiwedd Chwarter 2. Mae’r tabl ym mharagraff 2.2 yr adroddiad yn darparu crynodeb o’r prif amrywiadau yng nghyllidebau’r gwasanaethau. Mae’r pwysau cyllidebol mwyaf sylweddol sy’n arwain o ganlyniad at y gorwariant mwyaf, yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd (costau sy’n gysylltiedig â rhiantu corfforaethol) a Dysgu (lleoliadau all-sirol a chostau cludiant ysgolion). Gyda mewnbwn Sgriwtini, mae mesurau’n cael eu cymryd i roi sylw i ffynonellau’r gorwariant ac i reoli gwariant yn y meysydd hynny. Nid yw’r sefyllfa’n unigryw i Ynys Môn gyda Gwasanaethau Plant ar draws Cymru ac ymhellach draw dan bwysau tebyg sy’n awgrymu bod hwn yn fater y mae angen ei ddatrys ar lefel genedlaethol. Mae cyfran sylweddol o gyllideb y Gwasanaethau Plant yn cael ei harwain gan y galw am y gwasanaethau hynny sy’n ei gwneud hi’n anodd i ragweld beth fydd y costau yn y dyfodol ac yn golygu hefyd bod yr opsiynau ar gyfer rheoli gwariant yn gyfyngedig. Gall lleoliadau arbenigol sydd eu hangen weithiau i gwrdd ag anghenion unigolion olygu cynnydd sylweddo bod costau gyda hynny’n arwain at orwariant.

 

Roedd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn cytuno gyda dadansoddiad yr Aelod Portffolio a dywedodd bod y sefyllfa wedi gwella rhyw fymryn. Er bod gwasanaethau ac eithrio’r rheiny y cyfeiriwyd atynt gan yr Aelod Portffolio at ei gilydd yn perfformio o fewn eu cyllidebau, mae’r rhain hefyd yn agos at derfynau eu cyllidebau. Mae toriadau blynyddol sydd wedi cael eu hymgorffori yng nghyllidebau’r gwasanaethau unigol wedi erydu unrhyw gapasiti sbâr. Mae tanwariant mewn cyllidebau corfforaethol o gymorth i wrthbwyso’r gorwariant mewn cyllidebau eraill eleni ond mae’n bosib na fydd yr arbedion hyn yn digwydd yn ystod y flwyddyn nesaf er y bydd y pwysau ariannol yn parhau. O’r herwydd, mae’r Cyngor yn wynebu sefyllfa heriol wedi ei lliniaru gan y ffaith fod ganddo ddigon o arian wrth gefn i fedru cyllido’r gorwariant ar y gyllideb refeniw. Mae hyn yn adlewyrchu strategaeth fwriadus gan y Cyngor yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf i gynnal lefel ddigonol o arian wrth gefn er mwyn medru ymateb i amgylchiadau gan gynnwys cefnogi’r gyllideb refeniw os a phan fydd angen.  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Adroddiad Monitro’r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 3 2017/18 pdf eicon PDF 628 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaithadroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol y gyllideb gyfalaf ar gyfer trydydd chwarter 2017/18.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio cyllid bod y Cyngor wedi cymeradwyo Rhaglen Gyfalaf o £27.630m am 2017/18 ar gyfer gwasanaethau nad ydynt yn ymwneud â thai, ynghyd â Rhaglen Gyfalaf o £12.873m ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai. Ym mis Mehefin 2017, caniataodd y Cyngor i lithriad cyfalaf o £4.677m gael ei ddwyn ymlaen o 2016/17 a dygwyd llithriad o £1.758m drosodd hefyd o raglen ysgolion yr 21ain ganrif. Ers gosod y gyllideb, mae cynlluniau eraill wedi cael eu hychwanegu at y rhaglen ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn cael eu hariannu gan grantiau ac yn werth £2.552m i gyd. Mae’r Awdurdod hefyd wedi derbyn Cyfarwyddyd Cyfalafu ar gyfer Tâl Cyfartalcyfanswm o £2.566m, sy’n dod â chyfanswm y gyllideb Gyfalaf ar gyfer 2017/18 i £52.056m fel y nodir yn Nhabl 2.1 yn Atodiad A yr adroddiad.

 

Roedd 96% o’r gyllideb a broffiliwyd ar gyfer y Gronfa Gyffredinol wedi ei wario hyd at ddiwedd y trydydd chwarter, ond dim ond 40% o'r gyllideb flynyddol a wariwyd hyd yma. Y rheswm am hyn yw bod yr arian ar gyfer rhai o'r cynlluniau cyfalaf yn cael ei wario tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol neu oherwydd nad yw’r cynlluniau yn mynd i gael eu cwblhau yn y flwyddyn ariannol hon mwyach. Mae gwaith ar rai Cynlluniau Cyfalaf ar gyfer 2017/18 wedi cychwyn ac yn symud ymlaen yn y modd a amlinellir yn adran 3.3.1 o Atodiad A. Yn ogystal, mae cynlluniau yn y Rhaglen Gyfalaf nad ydynt wedi cychwyn neu sy’n disgwyl am gymeradwyaeth gan y cyrff sy’n darparu’r cyllid; ceir crynodeb o’r rhain yn adran 3.1.2 Atodiad A.

 

Rhagwelir y bydd y Derbyniadau Cyfalaf ar 31 Mawrth 2018 yn £3.025m yn erbyn cyllideb o £4.370m gyda’r diffyg i’w briodoli’n bennaf i’r ffaith na ddisgwylir y bydd dwy ysgol wedi eu gwerthu tan y flwyddyn ariannol nesaf.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 y bydd y cyllid ar gyfer cynlluniau sy’n debygol o lithro i flwyddyn ariannol 2018/19 yn parhau i fod ar gael ar gyfer y cynlluniau hynny ar yr adeg honno ac na fydd y Cyngor o’r herwydd yn colli unrhyw arian.

 

Penderfynwyd nodi’r gwariant a’r derbyniadau yn ystod chwarter 3 yn erbyn y gyllideb gyfalaf ar gyfer 2017/18.

5.

Monitro Cyllideb CRT - Chwarter 3 2017/18 pdf eicon PDF 563 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaith - adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 yn nodi’r sefyllfa mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer trydydd chwarter 2017/18.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod ochr refeniw’r CRT at ei gilydd o fewn y gyllideb tra bod rhywfaint o lithriad o ran yr ochr gyfalaf.  Rhagwelwyd yn wreiddiol y byddai balansau Cronfa Wrth Gefn y CRT yn gostwng o £7.5m i £2.8m oherwydd eu bod yn cael eu defnyddio i gyllido gwariant cyfalaf. Oherwydd y llithriad mewn gwariant cyfalaf, rhagwelir y bydd balans cronfa wrth gefn y CRT ar 31 Mawrth 2018, oddeutu £5.6m. Fodd bynnag, bydd y cyllid yn parhau i fod ar gael i ddibenion cyfalaf yn 2018/19 a bydd yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu tai cyngor newydd ar yr Ynys.

 

Penderfynwyd nodi’r sefyllfa a nodwyd mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 3 2017/18.

6.

Ffioedd a Thaliadau 2018/19 pdf eicon PDF 964 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaith - adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 yn cynnwys rhestr o’r ffioedd a’r taliadau ar gyfer gwasanaethau’r Cyngor yn 2018/19.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod y Pwyllgor Gwaith blaenorol wedi gosod amcan y dylid cynyddu’r holl ffioedd a thaliadau anstatudol gan 3% ar gyfartaledd ar draws pob gwasanaeth unigol. Mae hyn wedi caniatáu i’r Penaethiaid Gwasanaeth gynyddu ffioedd unigol o fwy neu lai na 3% ond gan sicrhau y byddai’r cynnydd cyfartalog ar draws y gwasanaeth ar y cyfan yn cyfateb i 3%. Yn yr adroddiad hwn, ceir rhestr gynhwysfawr o’r ffioedd a’r taliadau a’r draws holl wasanaethau’r Cyngor ac eithrio’r rheini sy’n ymwneud â Gofal Cymdeithasol ac sy’n cael sylw ar wahân. Dywedodd yr Aelod Portffolio y byddai’n synhwyrol codi ffioedd a thaliadau yn gynnyddraddol bob blwyddyn er mwyn cadw i fyny â chwyddiant; fel bod y Cyngor yn cadw i fyny ag awdurdodau eraill ac, yn ogystal, er mwyn bod yn deg â’r sawl sy’n derbyn gwasanaeth ac i’r trethdalwyr.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 bod disgwyl i bob gwasanaeth, o bersbectif gosod y gyllideb, sicrhau cynnydd o 3% mewn incwm gyda phob Pennaeth Gwasanaeth yn cael y rhyddid i benderfynu sut y byddai hyn yn cael ei gyflawni drwy adolygu’r ffioedd a’r taliadau yn eu gwasanaethau penodol nhw. Mae hyn yn golygu fod rhai ffioedd a thaliadau’n codi mwy na 3% a bod y cynnydd mewn gwasanaethau eraill yn llai na 3%.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai a Chefnogi Cymunedau ei fod yn pryderu am y ffioedd ar gyfer cludiant ar fysus ysgol ac roedd yn dymuno cynnig na ddylai’r ffioedd hynny gynnwys cynnydd ar gyfer chwyddiant yn 2018/19. Cymeradwywyd ei gynnig gan y Pwyllgor Gwaith. Yn ogystal, pwysleisiodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai a Chefnogi Cymunedau ymhellach y dylid hwylsuo taliadau drwy ddebyd uniongyrchol.

 

Penderfynwyd

 

  Cymeradwyo’r atodlen ffioedd a thaliadau ar gyfer 2018/19.

  Na fydd ffioedd bysus ysgol yn destun cynnydd chwyddiant ar gyfer 2018/19 ac y bydd taliadau drwy ddebyd uniongyrchol yn cael eu hwyluso.

7.

Rhenti’r CRT Tai a Ffioedd ar gyfer Gwasanaeth Tai yn 2018/2019 pdf eicon PDF 387 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaith - adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Tai yn gofyn i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo’r cynnydd yn y rhenti a’r taliadau gwasanaeth am 2018/19.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai a Chefnogi Cymunedau fod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau ym mis Rhagfyr, 2017, ei bod wedi cytuno i gynnal Polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhenti Tai Cymdeithasol yn 2018/19. Y fformiwla ar gyfer y codiadau rhent blynyddol fydd gwerth y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) yn y mis Medi blaenorol + 1.5%. Ym mis Medi 2017, roedd y CPI yn 3% sy’n gwneud cyfanswm o 4.5% ar gyfer 2018/19.  Oherwydd bod lefelau rhent cyfredol y Cyngor yn sylweddol is na'r rhenti targed yn y polisi, bydd angen cynnydd wythnosol o hyd at £2 uwchben y cynnydd chwyddiant canrannol (yn achos y rhenti sy’n is na’r rhent targed) er mwyn sicrhau eu bod yn gyson gyda rhent darparwyr tai cymdeithasol eraill. Drwy ddefnyddio’r dulliau a amlinellir ym mharagraff 2.5 yr adroddiad, bydd yr Awdurdod yn symud tuag at gyflawni’r rhent targed a sicrhau cysondeb o ran lefelau’r rhenti. Mae’r ffioedd ar gyfer gwasanaethau a ddarperir gan yr Awdurdod yn ystod 2018/19 yn seiliedig ar y costau gwirioneddol a gafwyd yn ystod 2016/17 ac maent wedi eu rhannu’n gyfartal ymysg tenantiaid a lesddeiliaid. Ar hyn o bryd, ni fydd 2.795 o denantiaid y Cyngor (73%) yn wynebu unrhyw galedi ychwanegol yn sgil y bwriad i godi’r rhenti a ffioedd gwasanaeth oherwydd eu bod yn derbyn Budd-dal Tai llawn neu rannol.

 

Penderfynwyd

 

  cymeradwyo’r cynnydd mewn rhent yn unol â rhent targed Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar gasgliad dros 51 wythnos.

  cymeradwyo cynnydd o 4.5% yn yr holl renti sydd rhwng £0.06 - £6.15 yn is na’r targed yn ogystal â swm hyd at yr uchafswm o £2.00 yr wythnos i gyrraedd y rhent targed.

  cymeradwyo cynnydd o 4.5% yn yr holl renti sydd rhwng £4.75 - £6.69 yn is na’r targed a £2.00 ychwanegol yr wythnos.

  cymeradwyo bod y rhent ar gyfer yr 19 eiddo sydd â rhent uwch na’r lefel targed yn aros fel y mae.

  cymeradwyo cynnydd o 40c yr wythnos ar gyfer rhenti’r holl garejys.

  cymeradwyo’r taliadau gwasanaeth a nodir yn adran 3.3. yr adroddiad ar gyfer yr holl denantiaid sy’n derbyn y gwasanaethau perthnasol.

8.

Cartrefi'r Awdurdod Lleol ar gyfer Pobl Hyn - Pennu'r Ffi Safonol pdf eicon PDF 389 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyriedadroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion yn gofyn am ganiatâd y pwyllgor Gwaith i bennu lefel Ffi Safonol yr Awdurdod ar gyfer cartrefi gofal yr awdurdod lleol ar gyfer y flwyddyn Ebrill 2018 – Mawrth 2019.

 

Dywedodd y Cadeirydd a’r Aelod Portffolio ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol, er y penderfynwyd ar gynnydd cyffredinol o 3% mewn ffioedd a thaliadau fel canllaw, gellir trin ffioedd a godir am gartrefi preswyl y mae’r awdurdod lleol yn berchen arnynt fel eithriad oherwydd eu bod yn seiliedig ar ddarpariaeth statudol sy’n amlinellu sut y dylid eu cyfrifo. Yn seiliedig ar y tabl uchod, amcangyfrifir bod y gost wythnosol am y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2019 yn £703.03 fesul preswylydd. Er bod hyn yn uwch o gymharu â’r gost ragamcanedig ar gyfer y flwyddyn i 31 Mawrth 2018b o ganlyniad i gynnydd mewn costau cyflogau a chwyddiant, nid yw’r cynnydd mor uchel â’r disgwyl o ganlyniad i’r cynnydd yng nghyfraddau defnydd y cartrefi (o 89.7% i 93.4%), sy’n arwain at gost is fesul uned is. Fodd bynnag, gan gydnabod penderfyniad y Cyngor yn 2017/18 a’r cynnydd sylweddol y byddai symud o dâl safonol 2017/18, sef £584.29 i £703.03 yn ei olygu, argymhellwyd na ddylai’r tâl a godir ar breswylwyr adlewyrchu cost wirioneddol y ddarpariaeth. Drwy beidio â chodi cost lawn y lleoliad ar drigolion sy’n hunangyllido o fewn y cartrefi hyn mae’r Cyngor yn rhoi cymhorthdal i bob defnyddiwr o tua £101.21 yr wythnos neu £5,262.92 y flwyddyn. Gyda’r 29 o drigolion sy’n hunangyllido ar hyn o bryd, mae hyn gyfwerth â £152,625 y flwyddyn.

 

Penderfynwyd

 

  Er bod y Cyngor yn cydnabod y costau sy’n gysylltiedig â gofal preswyl, nid yw cost wirioneddol darparu’r gwasanaeth wedi ei adlewyrchu yn y tâl a godir ar drigolion.

  Bod y cynnydd ar gyfer y rheini sy’n cyfrannu tuag at gost eu gofal yn gyson gyda’r canllawiau ar gyfer gwasanaethau’r Cyngor, sef 3% a bod ffi o £601.82 yn cael ei gosod.

9.

Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Dibreswyl yn y Gymuned pdf eicon PDF 610 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyriedadroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion yn gofyn i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo’r ffioedd a’r taliadau ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol dibreswyl yn y gymuned ar gyfer 2018/19.

 

Dywedodd y Cadeirydd a’r Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ei bod yn arferol i adolygu'r ffioedd a godir mewn perthynas â gwasanaethau cartref bob blwyddyn i gyd-fynd ag adolygiad y Llywodraeth Ganolog o lefelau budd-daliadau a phensiwn. Roedd yr adroddiad yn nodi ffioedd a’r taliadau y bwriedur eu codi am ofal cymdeithasol dibreswyl yn y gymuned yn 2018/19 yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Penderfynwyd

 

  Cymeradwyo’r ffioedd gofal cartref a amlinellir yn nhabl 1 yr adroddiad.

 

  Cymeradwyo’r ffioedd ar gyfer prydau mewn gwasanaethau dydd a amlinellir yn nhabl 3 yr adroddiad.

 

    Prydau mewn Gwasanaethau Dydd i oedolion (ac eithrio pobl ag

    Anabledd Dysgu) - £5.85

 

   Byrbryd canol dydd mewn gwasanaethau dydd i bobl ag Anabledd

   Dysgu - £ 2.35

 

   Lluniaeth Arall (te / coffi / teisen) mewn gwasanaethau dydd - £ 1.35

 

  Cymeradwyo’r ffioedd ar gyfer gwasanaethau Teleofal fel yr amlinellwyd yn nhabl 4 yr adroddiad.

 

   Haen 1 – bydd pawb yn talu £45.24

   Haenau 2 a 3 – bydd pawb yn talu £90.22

 

  Cymeradwyo’r ffioedd blynyddol ar gyfer gwasanaethau Teleofal fel yr amlinellwyd yn nhabl 5 yr adroddiad.

 

   Gwasanaeth a Chynnal a Chadw £107.55 Gwasanaeth yn unig £69.50

   Costau Gosod Unwaith ac am byth £43.00

 

  Cymeradwyo cyfradd o £ 11.30 / awr ar gyfer Taliadau Uniongyrchol

 

  Cynnal ffi o £ 10.00 ar gyfer costau gweinyddu mewn perthynas â cheisiadau am Fathodyn Glas fel yr amlinellir yn yr adroddiad.

 

  Cynyddu’r ffi am brynu gwasanaethau gofal dydd mewn cartrefi preswyl annibynnol 5% i £32.21

 

  Cynyddu’r ffi am brynu gofal cartref wedi ei gomisiynu o £15.90 o £16.53 yr awr fel cyfradd interim.

10.

Ffioedd Cartrefi Gofal y Sector Annibynnol 2018/19 pdf eicon PDF 896 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyriedadroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion yn gofyn i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo ffioedd cartrefi gofal y sector annibynnol ar gyfer 2018/19.

 

Dywedodd y Cadeirydd a’r Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol bod raid i’r Awdurdod Lleol adolygu ffioedd cartrefi gofal yn y sector annibynnol bob blwyddyn i gyd- ddigwydd â newidiadau Llywodraeth Ganolog i lefelau budd-daliadau a phensiynau.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion bod rhaid i ni, wrth bennu ffioedd ar gyfer cartrefi gofal yn y sector annibynnol, dddangos ein bod wedi rhoi ystyriaeth lawn i gostau’r ddarpariaeth wrth benderfynu ar ein ffioedd gofal safonol. Gwneir hyn mewn cydweithrediad ag Awdurdodau eraill yng Ngogledd Cymru a’r Bwrdd Iechyd drwy ddefnyddio Methodoleg Ffioedd Ranbarthol a dyma wnaed wrth bennu ffioedd yn 2017/18. Bwriedir parhau i ddefnyddio’r model hwn ar gyfer 2018/19 sy’n adlewyrchu’r newidiadau o ran pensiynau, y cyflog byw cenedlaethol a chwyddiant. Fel rhan o’r broses ar gyfer gosod ffioedd am 2018/19, ymgynghorydd Ynys Môn ar y ffioedd y bwriedir eu codi dan y fethodoleg ar gyfer 2018 a cheir crynodeb o hynny yn Atodiad 2 yr adroddiad. Yn dilyn trafodaeth gyda’r Swyddog Adran 151, mae’r Awdurdod yn bwriadu defnyddio’r Fethodoleg Ranbarthol ar gyfer Preswyl (Pobl Hŷn Bregus eu Meddwl); Gofal Nyrsio Sylfaenol (Elfen Gofal Cymdeithasol); Nyrsio (Pobl Hŷn Bregus eu Meddwl) (Elfen Gofal Cymdeithasol). Ystyriwyd nad oedd gweithredu’r model yn llawn ar draws yr holl sectorau yn fforddiadwy. Wedi rhoi’r sylw dyledus i fforddiadwyedd y codiadau, a’r cyfeiriad strategol y mae’r Cyngor yn ei gymryd o ran datblygu dewisiadau amgen i ofal preswyl ar ffurf Tai Gofal Ychwanegol a gofalu am bobl yn eu cartrefi, rydym yn bwriadu pennu’r cyfraddau ar gyfer gofal preswyl i oedolion yn seiliedig ar lefel is o Ddychweliad ar Fuddsoddiad o 9%.

 

Penderfynwyd

 

  Cydnabod Methodoleg Ffioedd Gogledd Cymru fel y cafodd ei gweithredu hyd yma gan yr Awdurdodau yng Ngogledd Cymru fel sylfaen ar gyfer pennu ffioedd yn Ynys Môn yn ystod 2018/19 (Atodiad 2 yr adroddiad).

  Cymeradwyo’r argymhelliad i gynyddu’r lefelau ffioedd a nodwyd yn Nhabl 2 uchod

  Yr un modd ag Awdurdodau eraill, rhoi’r awdurdod i’r Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol a Chyllid ymateb i unrhyw geisiadau gan gartrefi i edrych ar eu cyfrifon penodol a defnyddio’r ymarfer fel sylfaen i ystyried unrhyw eithriadau i’r ffioedd y cytunwyd arnynt. Rhaid i unrhyw eithriadau gael eu cytuno gyda’r Deilydd Portffolio, Pennaeth Cyllid a’r Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion o’r cyllidebau cyfredol. Oni fedrir dod i gytundeb, bydd y mater yn mynd yn ôl i’r Pwyllgor Gwaith.

11.

Arian Wrth Gefn a Balansau pdf eicon PDF 850 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaithadroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ar y defnydd o arian wrth gefn a balansau.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid bod lefel y balansau cyffredinol, ar 31 Mawrth 2017 yn £8.355m, sef gostyngiad o £0.531m o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Yn 2016/17, crëwyd cronfa o £1m o’r balansau cyffredinol er mwyn ariannu prosiectau unigol a allai arwain at arbedion effeithlonrwydd i’r Cyngor. Mae sefyllfa ariannol y Cyngor yn gyffredinol yn dda ar hyn o bryd gyda lefel dderbyniol o falensau cyffredinol a chronfeydd wrth gefn wedi eu clustnodi fel y nodir yn Nhabl 4.2 yr adroddiad. Serch hynny, mae nifer o risgiau y mae’n rhaid eu hasesu wrth benderfynu ar lefel y balansau cyffredinol sydd eu hangen; nodir y rhain yn adran 3.3 yr adroddiad. Mae rheol gyffredinol y dylai lefel y balansau cyffredinol fod yn 5% o’r gyllideb refeniw (ac eithrio’r gyllideb sydd wedi ei datganoli i’r ysgolion). Fodd bynnag, oherwydd bod balansau’r ysgolion yn gostwng, cawsant eu cymryd i ystyried wrth weithio allan y lefel ar gyfer 2017/18. Yn seiliedig ar y gyllideb arfaethedig ar gyfer 2018/19, byddai angen i falans y cronfeydd wrth gefn cyffredinol fod tua £6.5m, sy’n cyfateb i’r balans isaf a ragwelwyd ar gyfer 31 Mawrth 2018.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod dau fath o gronfeydd wrth gefncronfeydd wrth gefn cyffredinol a chronfeydd wrth gefn clustnodedig. Mae’r Swyddog Adran 151 yn adolygu ac yn penderfynu ar lefel y cronfeydd wrth gefn y mae’r Cyngor eu hangen bob blwyddyn drwy gymryd i ystyriaeth y risgiau y mae’n eu hwynebu ac o ystyried y rheol gyffredinol mai 5% o’r gyllideb net yw’r lefel dderbyniol. Mae’r Swyddog Adran 151 wedi asesu y dylai’r Cyngor, ar gyfer 2018/19, fod ag o leiaf £6.5m yn ei falensau cyffredinol; bydd y gronfa wrth gefn gyffredinol yn agos at y ffigwr hwnnw ar ddiwedd Mawrth, 2018. Caiff cronfeydd wrth gefn clustnodedig eu cadw ar gyfer prosiectau/ymrwymiadau penodol; mae’r rhain wedi cael eu hadolygu er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas i’r dibenion y bwriadwyd nhw ar eu cyfer ac mae canlyniadau’r adolygiad wedi eu nodi yn Atodiad B yr adroddiad.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith fod yr adroddiad ar Gyllideb 2018/19 (eitem 12 ar y rhaglen) yn cyfeirio at nifer o eitemau y mae’n rhaid eu hariannu o’r cronfeydd wrth gefn cyffredinol yn 2017/18 sy’n dod â lefel y balansau cyffredinol i lawr i £5.882m ac y bwriedir rhoi arian yn ôl i mewn i’r gronfa o’r arian wrth gefn a glustnodwyd. Esboniodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 fod y cronfeydd wrth gefn clustnodedig yn cynnwys £996k a gadwyd yn rhannol i gyllido cost Hawliadau Tâl Cyfartal. Mae’r rhan fwyaf o’r hawliadau wedi cael eu setlo ac mae Llywodraeth Cymru wedi awdurdodi i’r gwariant  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11.

12.

Cynllun Ariannol y Tymor Canol a'r Gyllideb 2018/19 pdf eicon PDF 3 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaith – adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn cynnwys y cynigion manwl ar gyfer cyllideb refeniw 2018/19 a’r effaith a gaiff ar gyllideb refeniw Cyngor Sir Ynys Môn. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys diweddariad o’r Cynllun Ariannol ar gyfer y Tymor Canol sy’n darparu cyd- destun ar gyfer gweithio ar gyllidebau’r Cyngor ar gyfer y dyfodol. Gofynnwyd i’r Pwyllgor Gwaith wneud argymhellion terfynol i’r Cyngor Sir fel y gall fabwysiadu cyllideb ar gyfer 2018/19.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod y broses a arweiniodd at y cynigion terfynol ar gyfer cyllideb 2018/18 wedi bod yn un hir, heriol ond cynhwysfawr a rhaid diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y broses y tu mewn a’r tu allan i’r Cyngor ac yn enwedig staff y Gwasanaeth Cyllid am eu gwaith caled a’u proffesiynoldeb drwy gydol y broses. Cafodd y cynigion cychwynnol mewn perthynas â’r gyllideb eu cymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith ar 6 Tachwedd, 2017; cyhoeddwyd y rhain ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ar 7 Tachwedd, 2017. Roedd y cynigion yn seiliedig ar gynnydd o 0.1% yn setliad refeniw dros dro Llywodraeth Cymru sy’n cyfrif am y rhan fwyaf o gyllid y Cyngor ac er bod y setliad yn well na’r disgwyl, nid oedd yn ddigonol i bontio’r bwlch cyllido. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei setliad terfynol ym mis Rhagfyr 2017 ac roedd cyfanswm yr AEF yn £95.8m - cynnydd o £0.888m (0.7%) o gymharu â’r ffigwr dros dro ond roedd yn parhau i adael y Cyngor â diffyg yn y gyllideb. Gan fod y rhan fwyaf o gostau’r Cyngor yn ymwneud â staff, bydd y codiad cyflog eleni, y disgwylir iddo fod oddeutu 2.5% i 3% yn cael effaith ar y gyllideb; yn ychwanegol at hyn, mae cyllidebau’r gwasanaethau dan bwysau ac mae’r pwysau mwyaf difrifol ar gyllideb y Gwasanaeth Plant a chyllideb All-sirol y gwasanaeth addysg. Roedd y cynigion cyllidebol drafft yr ymgynghorwyd arnynt yn nodi arbedion posibl oddeutu £3.3m; wedi ystyried yr adborth o’r ymgynghoriad cyhoeddus a’r materion a godwyd yn ei sgil, mae’r cynigion ar gyfer arbedion wedi cael eu diwygio yn y modd a nodir yn adran 10.1 Atodiad 1 mewn modd sy’n rhoi sylw i’r pryderon mwyaf a godwyd yn ystod y broses ymgynghori.  Mae’r newidiadau a wnaed yn gostwng cyfanswm yr arbedion a gynigiwyd i £2.522m. Yn Adran 12 yr adroddiad, ceir diweddariad ar y Cynllun Ariannol ar gyfer y Tymor Canol yn wyneb y setliad gwell ynghyd â setliadau posibl yn y dyfodol. Fodd bynnag, oherwydd yr ansicrwydd ynghylch setliadau ar ôl 2018/19 a’r anhawster o ran gwneud rhagamcanion cywir, mae adran 12 yn amlinellu dau fodel posibl - y senario achos gwaethaf yn Nhabl 9 lle rhagwelir arbedion o £5.26m dros y tair blynedd nesaf, a’r senario achos gorau yn Nhabl 10 lle mae’r angen am arbedion dros yr un cyfnod yn gostwng i £2.8m gyda’r ddau achos yn dibynnu ar y newidiadau i’r Cyllid Allanol Cyfun (AEF) a’r pwysau cyllidebol a chwyddiant ar  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Cyllideb Gyfalaf 2018/19 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 yn codi’r cynigion terfynol ar gyfer Rhaglen Gyfalaf 2018/19 eu cyflwyno er sylw’r Pwyllgor Gwaith ac ar gyfer eu hargymell i’r Cyngor llawn ar 28 Chwefror, 2018.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid ei fod, yn wyneb y strategaeth gyfalaf a fabwysiadwyd gan y Pwyllgor Gwaith ym mis Hydref 2017, yn argymell y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2018/19 i’r Pwyllgor Gwaith fel y’i cyflwynwyd. Dygodd sylw at y ddau brosiect Buddsoddi i Arbed yn adran 4 yr adroddiad; mae angen i’r Pwyllgor Gwaith benderfynu a fydd yn cefnogi’r naill neu’r llall, neu’r ddau ohonynt. Mae angen i’r Pwyllgor Gwaith wneud penderfyniad hefyd ar y ddau gais gan y Gwasanaeth Hamdden am fenthyciadau di-gefnogaeth - gosod cae pêl-droed 3G yn lle’r cae pêl-droed artiffisial sydd yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur ar hyn o bryd a diweddaru’r offer ffitrwydd yng Nghanolfan Hamdden Caergybi - gweler y crynodeb yn adran 5 yr adroddiad a’r manylion llawn yn Atodiad 5.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y cyllid a dderbynnir drwy’r Grant Cyfalaf Cyffredinol a lefel y benthyca â chefnogaeth sydd heb ei neilltuo ac a ariennir gan Lywodraeth Cymru drwy elfen ariannu cyfalaf yr Asesiad Gwario Safonol wedi aros yr un fath i bob bwrpas dros nifer o flynyddoedd ac mae’n arwydd o newid yn ymagwedd Llywodraeth Cymru, sef ariannu prosiectau cyfalaf drwy grantiau cyfalaf penodol  e.e. ysgolion newydd. Mae’r cyllid hwn felly wedi gostwng mewn termau gwirioneddol ac yn y strategaeth gyfalaf, cynigiwyd y dylai’r arian hwn gael ei ddefnyddio i gynnal a chadw’r asedau cyfredol. Roedd y strategaeth hefyd yn cynnwys oddeutu £600k ar gyfer Priffyrdd. Hefyd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai cymorth grant ychwanegol gwerth £30m ar gael am 2017/18 ac roedd cyfran Ynys Môn o’r cyllid hwn yn £910k. Gellir defnyddio’r arian hwn i gefnogi cyllid lleol ar gyfer unrhyw brosiect yn 2017/18 ar yr amod ei fod wedyn yn cael ei ddefnyddio i atgyweirio ffyrdd yn 2018/19. Daw hyn â chyllid ychwanegol o £910k yn 2018/19 uwchlaw’r grant cyfalaf cyffredinol. Mewn perthynas â’r ddau brosiect gan y Gwasanaeth Cyllid i’w cyllido drwy fenthyciadau digefnogaeth, mae’r gwasanaethau yn hyderus y bydd yr incwm cynyddol a gynhyrchir drwy’r buddsoddiad yn ddigonol i gwrdd â’r costau cyllido cyfalaf.

 

Wedi ystyried yr achos busnes a gyflwynwyd ar gyfer pob prosiect, roedd y Pwyllgor Gwaith yn cefnogi’r ddau gais ar gyfer benthyca digefnogaeth a gyflwynwyd gan y Gwasanaeth Hamdden ar y sail eu bod yn cynrychioli buddsoddiad y mae gwir ei angen yn y ddarpariaeth hamdden ac oherwydd y disgwylir iddynt gynhyrchu incwm ychwanegol a fydd yn gostwng y costau benthyca ar yr ochr refeniw.

 

Roedd y Pwyllgor Gwaith, tra’n cefnogi’r ddau brosiect ar gyfer cyllid buddsoddi i arbed, yn nodi bod cost y ddau gyda’i gilydd yn uwch na’r gronfa o £250k a glustnodwyd i’r pwrpas  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 13.

14.

Polisi ar gyfer Cymorth Dewisol tuag at y Dreth Gyngor pdf eicon PDF 554 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaithadroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 yn ymgorffori Polisi Cymorth Dewisol tuag at y Dreth Gyngor ar gyfer ei argymell i’r Cyngor Llawn.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod Adran 13A, isadrannau (1)(c);(6) a (7), Deddf Cyllid Llywodraeth 1992 (yn unol ag Adran 10 Deddf Llywodraeth Leol 2012) yn rhoi’r pŵer i awdurdod bilio ostwng y dreth sy'n daladwy fel a ganlyn yn yr amgylchiadau a nodwyd yn yr adroddiad. Mae hyn yn golygu, y gall Cyngor Sir Ynys Môn roi cymorth dewisol mewn perthynas ag unrhyw swm dreth gyngor sy'n ddyledus, hyd yn oed os yw'r Cyngor wedi dyfarnu gostyngiad eisoes o dan ei Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor trwy Adran 13A, isadran (1) (b). Hyd yma, nid yw’r Cyngor llawn wedi mabwysiadu unrhyw Bolisi Cymorth Dewisol o’r fath ar gyfer y Dreth Gyngor ac, felly, nid oes unrhyw drefniadau dirprwyo wedi'u cymeradwyo gan y Cyngor llawn i ystyried ceisiadau o'r fath. Ar hyn o bryd byddai'n rhaid i’r Cyngor llawn ystyried pob cais yn unigol. Yn wyneb sylwadau a wnaed yn ystod y misoedd diwethaf mewn perthynas â phobl ifanc sy’n gadael gofal a rhai dosbarthiadau o eiddo lle mae gwaith atgyweirio’n cael ei wneud i ddod â nhw i fyny i safon lle gall pobl fyw ynddynt ac y mae’r premiwm Dreth Gyngor yn berthnasol iddynt, ynghyd ag eiddo a effeithiwyd gan y tywydd garw yn ddiweddar, cynigir y dylid cyflwyno polisi o’r fath. Byddai’r polisi yn y pen draw yn darparu cymorth i’r rheiny sy’n wynebu’r caledi ariannol mwyaf eithafol a byddai ar wahân i, ac yn annibynnol ar Gynllun Gostyngiadau Treth Gyngor y Cyngor.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 y gofynnir i’r Pwyllgor Gwaith argymell ar gyfer ei gymeradwyo gan y Cyngor, eithriad neu ostyngiad o ran y Dreth Gyngor ar gyfer yr holl bobl ifanc yn y sir sy’n gadael gofal ac sy’n cwrdd â’r meini prawf cymhwysedd a nodir yn y polisi arfaethedig a chymeradwyo hefyd eithriad rhag gorfod talu’r Dreth Gyngor am fynod hwy na’r un a ganiateir ar hyn o bryd dan ddeddfwriaeth y Dreth Gyngor mewn amgylchiadau ble mae eiddo yn wag oherwydd fod gwaith strwythurol yn cael ei wneud arno er mwyn ei wneud yn addas i rywun fyw ynddo. Bydd angen i’r Cyngor hefyd benderfynu a ydyw am ddirprwyo i’r Swyddog Adran 151 a’r Pwyllgor Gwaith, yn y drefn honno, yr awdurdod i ddelio gyda cheisiadau a dderbynnir dan y polisi ac unrhyw newidiadau i’r polisi hwnnw yn y dyfodol.

 

Penderfynwyd argymell i Gyngor Sir Ynys Môn (y Cyngor llawn) ei fod, yn y cyfarfod ar 28 Chwefror 2018 –

 

  cymeradwyo Polisi Cymorth Dewisol tuag at y Dreth Gyngor o dan adran 13A (1)(c) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (DCLlL 1992) - fel y manylir yn Atodiad A  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 14.

15.

Polisi ar gyfer Cymorth Dewisol tuag at Drethi Busnes pdf eicon PDF 427 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaithadroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn gofyn i’r Pwyllgor Gwaith ymestyn y Fframwaith cyfredol ar gyfer Cymorth Dewisol tuag at Drethi Busnes i Elusennau a Sefydliadau Di-elw i 2018/19.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 y bwriadwyd ymgynghori ar Fframwaith newydd ar gyfer Gostyngiadau Dewisol tuag at Drethi Busnes i Elusennau a Sefydliadau Di-elw ond bod hynny wedi ei ddal yn ôl hyd oni fyddai Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r cynllun newydd ar gyfer cymorth trethi i fusnesau bychain ac i ganiatáu amser i gynnal asesiad ar effaith y cynllun. Mae cynllun Llywodraeth Cymru bellach wedi cael ei gyhoeddi a daw i rym o 1 Ebrill, 2018 gan olygu y gall y Cyngor symud ymlaen i ymgynghori ar y fframwaith. Fodd bynnag, ni chafwyd digon o amser i gynnal yr ymgynghoriad ac adrodd ar y canlyniad i’r Pwyllgor Gwaith fel y gellid gwneud penderfyniad yn y cyfarfod hwn. O’r herwydd, mae’r cynnig yn un i ymestyn y polisi cyfredol ar gyfer cymorth dewisol tuag at drethi busnes i elusennau a sefydliadau dielw ar gyfer 2018/19 a chynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y fframwaith yn ystod hanner cyntaf 2018/19 gyda golwg ar weithredu fframwaith newydd yn Ebrill, 2019.

 

Penderfynwyd

 

  mabwysiadu’r Fframwaith cyfredol mewn perthynas â Chymorth Dewisol tuag at Drethi BusnesElusennau a Sefydliadau Dielw fel y manylir arno yn Atodiad A ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19 yn unig a’i fod yn rhoi cyfarwyddyd i’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 i sicrhau bod y gweithdrefnau gweinyddol cyn 31 Mawrth 2018 yn rhoi gwybod i’r elusennau a’r sefydliadau dielw perthnasol y bydd y polisi mewn grym ar gyfer 2018/19 yn unig ac y bydd yn dod i ben ar 31 Mawrth 2019.

  cytuno i’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y fframwaith yn ystod hanner cyntaf 2018/19 gyda fframwaith diwygiedig yn cael ei weithredu o 1 Ebrill 2019.

16.

Strategaeth Rheoli Trysorlys 2018/19 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor GwaithAdroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn ymgorffori’r Datganiad ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys am 2018/19.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid y cafodd y Datganiad ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys ei graffu gan y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethiant yn ei gyfarfod ar 13 Chwefror, 2018 a’i gymeradwyo gan y Pwyllgor fel y’i cyflwynwyd heb unrhyw sylwadau pellach. Nid yw’r strategaeth arfaethedig ar gyfer 2018/19 wedi newid yn sylweddol o’r un a oedd yn weithredol yn 2017/18. Mae ymagwedd ddarbodus debyg yn 2018/19 yn debygol o sicrhau’r gwerth gorau ar gyfer y Cyngor yn ystod y cyfnod cyfredol o lymder ariannol sy’n golygu y bydd balansau ariannol mewnol yn cael eu defnyddio lle bynnag y bydd hynny’n bosibl er mwyn osgoi cymryd unrhyw fenthyciadau newydd. Serch y cynnydd yn ddiweddar yn y gyfradd sylfaenol, disgwylir i gyfraddau busoddi yn y tymor canol barhau i fod yn is na’r cyfraddau benthyca ar gyfer y tymor hir. Bydd y Swyddog Adran 151 yn parhau i fonitro cyfraddau llog yn y marchnadoedd ariannol a mabwysiadu ymagwedd bragmataidd tuag at amgylchiadau sy’n newid, gan adrodd ar unrhyw benderfyniadau cyn gynted ag sy’n bosibl i’r corff priodol sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau. Dywedodd yr Aelod Portffolio fod bwriad i newid Arferion Rheoli Trysorlys, sef cynyddu’r balans ariannol isaf o £6m i £6.5m a hynny’n unol â’r polisi diweddaraf a gymeradwywyd mewn perthynas ag arian wrth gefn.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 161 bod y Strategaeth Rheoli Trysorlys yn cael ei mabwysiadu’n flynyddol; mae’n nodi trefniadau arfaethedig y Cyngor ar gyfer benthyca a buddsoddi yn y flwyddyn i ddod ac yn ogystal, mae’n cadarnhau’r polisi o ran y Ddarpariaeth Refeniw Isaf. Mae’r strategaeth ar gyfer 2018/19 yn mabwysiadu’r un ymagwedd â 2917/18, sef defnyddio balansau’r Cyngor yn lle benthyca lle mae hynny’n ymarferol, ac ni fydd yn cymryd benthyciadau onid oes defnydd penodol ar eu cyfer. Wnaiff y Cyngor ddim benthyca i fuddsoddi oherwydd mae dychweliadau ar fuddsoddiad yn llawer iawn is na chost benthyca. Mae’n bosibl y bydd angen adolygu’r strategaeth yn ystod y flwyddyn os ceir arwyddion bod y gyfradd sylfaenol yn codi’n uwch na’r hyn a ragwelwyd; bydd angen parhau i adolygu’r sefyllfa er mwyn sicrhau bod y gyfradd y mae’r Cyngor yn ei thalu am fenthyca mor isel â phosib. Y Strategaeth fel y caiff ei chynnig yw’r orau yn yr amgylchiadau economaidd sydd ohoni. Ynghyd â’r newid i’r Arferion Rheoli Trysorlys y cyfeiriodd yr Aelod Portffolio ato, mae’r Polisi Refeniw Isaf yn cael ei ddiwygio a bydd hynny’n arwain at arbediad ar gostau oddeutu £1m i’r Cyngor; mae hyn wedi cael ei gynnwys fel arbediad yn y gyllideb refeniw ar gyfer 2018/19.

 

Penderfynwyd

 

  Nodi cynnwys yr adroddiad eglurhaol.

  Cymeradwyo’r Datganiad ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys (gan gynnwys y Dangosyddion Pwyllog a Thrysorlys) ar gyfer 2018/19.  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 16.