Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Council Chamber, Council Offices, Llangefni

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

Croesawodd y Cynghorydd Ieuan Williams, yr Is-gadeirydd bawb a oedd yn bresennol i'r cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Gwaith, a esboniodd y byddai'n cadeirio oherwydd bod yr Arweinydd a'r Cadeirydd, y Cynghorydd Llinos Medi Huws, yn absennol oherwydd salwch.

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Cynghorydd Carwyn Jones ddatganiad o ddiddordeb personol a rhagfarnus yn eitem 12. Eglurodd, er mwyn gallu cynrychioli ward Seiriol yn llawn yn y trafodaethau ar y mater hwn fel un o'r Aelodau Lleol ei fod wedi gofyn am ac wedi cael caniatâd arbennig gan y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf, 2017 i gymryd rhan trwy gydol y ddadl.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Alun Roberts (nad yw’n aelod o’r Pwyllgor gwaith) ddatganiad o ddiddordeb personol yn eitem 12.

2.

Materion brys a ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu swyddog a benodwyd ganddo

Dim materion brys ar adeg anfon allan y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w adrodd.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 486 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfodydd isod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 19 Chwefror, 2018:-

 

  Cyllideb - 10.00 am

  Cyfarfod Arferol - 1.00 pm

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar fore 19 Chwefror, 2018 (cyfarfod y Gyllideb) a phrynhawn 19 Chwefror, 2018 (Cyfarfod Arferol) i'w cadarnhau

 

Penderfynwyd cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y dyddiadau a’r amseroedd isod fel rhai cywir:

 

19 Chwefror, 2018 (A.M.) (Cyfarfod Cyllideb)

19 Chwefror, 2018 (P.M.) (Cyfarfod Arferol)

4.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 741 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Tachwedd, 2018 ar gyfer cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar eitemau a oedd yn newydd i'r Rhaglen Waith fel a ganlyn -

 

Eitem 10 - Craig y Don, Amlwch wedi ei raglennu dros dro ar gyfer ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 21 Mai, 2018

Eitem 11 - Adroddiad Blynyddol Safonau Iaith Gymraeg 2017/18 – wedi ei raglennu ar gyfer penderfyniad dirprwyedig ym mis Mehefin, 2018

Eitem 13 - Safonau Ansawdd Tai Cymru (Methiannau Derbyniol) wedi ei raglennu i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod 18 Mehefin, 2018

Eitem 14 - Trefnwyd i'r Polisi Gwaith a Safonau Cynnal a Chadw Tai gael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod 18 Mehefin, 2018

Eitem 16 - Cyfrifon Terfynol Drafft 2017/18 wedi ei raglennu i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 16 Gorffennaf, 2018

Eitem 21 - Adolygiad o Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2017/18 wedi ei raglennu i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 17 Medi, 2018

Eitem 22 - Strategaeth Ariannol Tymor Canol i’w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 17 Medi, 2018

Eitem 25 - Cynllun Strategol Cyllideb Gyfalaf 2019/20 wedi ei raglennu i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 29 Hydref, 2018

Eitem 26 - Cyllideb 2019/20 (cynigion drafft cychwynnol) wedi ei rhaglennu i’w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 12 Tachwedd, 2018.

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod Ebrill 2018 i Tachwedd 2018 wedi ei diweddaru ac fel y cafodd ei chyflwyno.

5.

Cerdyn Sgorio Corfforaethol - Chwarter 3, 2017/18 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Perfformiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad yn ymgorffori'r Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 3 2017/18 ar gyfer ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Corfforaethol bod perfformiad, yn gyffredinol, wedi bod yn galonogol yn Chwarter 3 gyda'r mwyafrif o ddangosyddion ar y trywydd iawn ac yn Wyrdd neu’n Felyn. Roedd pum dangosydd yn tanberfformio ac yn Goch yn erbyn eu targed blynyddol ar hyn o bryd, roedd un yn ymwneud â’r Gwasanaethau Oedolion a phedwar yn ymwneud â’r Gwasanaethau Plant; ceir manylion am y rhain ynghyd â'r camau lliniaru yn adrannau 2.3.3 a 2.3.4 yr adroddiad. Yn ogystal, mae dau ddangosydd perfformiad yn y Gwasanaeth Dysgu wedi tanberfformio yn ystod y flwyddyn, y naill mewn perthynas â chanran y disgyblion 15 oed sy'n cyflawni L2 + yng Nghyfnod Allweddol 4 a'r llall mewn perthynas â chanran y disgyblion sy'n cyflawni'r CSI / FPI yn y Cyfnod Sylfaen. Ar y llaw arall, mae'r perfformiad yn erbyn rhai dangosyddion yn dda iawn, megis canran y sefydliadau bwyd sy'n bodloni safonau hylendid bwyd sy'n 98% o gymharu â’r targed o 80% a chanran y gwastraff sirol a gasglwyd ac a baratowyd ar gyfer ei ailddefnyddio ac/neu a gafodd ei ailgylchu sydd wedi dangos gwelliant cyson. Ar hyn o bryd mae perfformiad yn hyn o beth yn 73.24% yn erbyn targed o 67%.

 

O ran Gwasanaeth Cwsmer, mae perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol o ran ymateb i gwynion Cam 1 hyd at ddiwedd Chwarter 3 wedi llithro o gymharu â Chwarter 2. Fodd bynnag, roedd perfformiad yn well ar gyfer trafodaethau Cam 1 gyda thrafodaeth yn cael ei chynnig i'r achwynydd o fewn y cyfnod amser penodedig yn achos 24 o'r 28 cwyn i'r Gwasanaethau Plant ac ar gyfer 6 o'r 10 cwyn i’r Gwasanaethau Oedolion hyd at ddiwedd Chwarter 3.

 

O ran Rheolaeth Ariannol, rhagamcenir gorwariant cyffredinol o £ 1.624m ar gyfer y flwyddyn a ddaw i ben ar 31 Mawrth, 2018. Mae hyn yn cael ei fonitro ac mae Penaethiaid Gwasanaeth y meysydd hynny sy’n wynebu'r pwysau ariannol mwyaf yn ymwybodol o'r materion ac yn gweithio i ostwng lefel y gorwariant sydd o fewn eu rheolaeth erbyn diwedd y flwyddyn.

 

Mae'r duedd mewn perthynas â Rheoli Pobl yn parhau'n gadarnhaol gyda gwelliant pellach yn y cyfraddau salwch o'i gymharu â'r un cyfnod ar gyfer 2016/17 (6.88 o gymharu â 7.21 yn Ch3 2016/17). Os yw'r duedd yn parhau ac ar yr amod na fydd anhwylderau’r gaeaf yn arwain at unrhyw effeithiau negyddol, rhagwelir y bydd lefelau salwch ar ddiwedd y flwyddyn yn cyfateb i 9.81 diwrnod ar gyfer pob ALlC. Fodd bynnag, mae angen gwneud gwaith pellach yn enwedig mewn perthynas â gwella perfformiad o ran cynnal cyfweliadau Dychwelyd i’r Gwaith lle mae perfformiad yn parhau i fod yn is na'r targed.

 

Soniodd y Cynghorydd Dylan Rees am waith y Panel Sgriwtini Cyllid  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Polisi Taliadau Tai Dewisol 2018/19 pdf eicon PDF 498 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaith - adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 yn gofyn i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo Cynllun diwygiedig ar gyfer y Polisi Taliadau Tai Dewisol Lleol ar gyfer 2018/19.

 

Nododd yr Aelod Portffolio Cyllid mai bwriad y Cynllun Taliadau Tai Dewisol (TTD) yw rhoi cymorth pellach i gwsmeriaid sy'n derbyn Budd-dal Tai neu elfen dai'r Credyd Cyffredinol gyda'u costau tai lle mae'r Awdurdod Lleol o'r farn bod angen cymorth o'r fath. Rhaid gwneud pob taliad TTD o fewn y terfynau arian cyffredinol a bennir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (AGP). Mae'r AGP yn dyfarnu swm blynyddol i'r Awdurdod fel cyfraniad y Llywodraeth tuag at weinyddu'r cynllun. Gall yr Awdurdod ychwanegu 150% (sef y cyfanswm a ganiateir) at Gyfraniad y Llywodraeth os yw'n dymuno gwneud hynny. Bydd Credyd Cynhwysol yn cael ei weithredu ar Ynys Môn o fis Tachwedd, 2018 (wedi cael ei roi yn ôl o fis Mehefin, 2018); ar hyn o bryd mae oedi o ran dyfarnu Credyd Cynhwysol; mae'n rhaid nodi felly na fedrir dyfarnu TTD hyd oni fydd yr hawl i elfen costau tai'r Credyd Cynhwysol (neu Fudd-dal Tai) wedi'i sefydlu.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 mai'r bwriad yw y bydd y Polisi TTD yr adroddwyd arno’n flynyddol ond yn cael ei gyflwyno gerbron y Pwyllgor Gwaith os bydd angen gwneud newidiadar iddo yn y dyfodol. Fodd bynnag, parheir i adrodd ar gostau'r cynllun yn yr adroddiad chwarterol ar fonitro’r gcyllideb. Dywedodd y Swyddog, bod y gwariant cyffredinol ar TTD (gwirioneddol ac ymrwymedig) ar 28 Chwefror, 2018 yn £ 133,586 yn erbyn grant AGP o £ 162,656 sydd yn gadael £ 29,070 ar ôl i'w wario dros weddill y flwyddyn ariannol gyfredol. Rhagamcenir y bydd y gwariant ychydig yn is na dyraniad grant yr Adran Gwaith a Phensiynau am y flwyddyn yn sy’n golygu y bydd unrhyw grant gweddilliol sydd heb ei wario yn cael ei golli.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith y wybodaeth. Hefyd, nododd y Pwyllgor Gwaith y bu gostyngiad nodedig yn nifer y ceisiadau TTD a gymeradwywyd yn 2017/18 o gymharu â 2016/17 ac o’r herwydd, nifer gyfatebol o wrthodiadau. Gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am esboniad ar y gwahaniaeth. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 bod llawer o'r ceisiadau yn rhai ailadroddus; fodd bynnag, oherwydd nad yw’r polisi yn fod i ddarparu budd-daliadau ychwanegol parhaol, gall y broses asesu arwain at ostyngiad yn y taliadau neu at wrthod taliadau mewn achosion lle nad yw ymgeiswyr yn fodlon gwneud cyfaddawd rhesymol o ran eu gwariant a'u ffordd o fyw. Rhaid i'r grant gael ei ddosbarthu i'r rhai sydd mewn angen ac mae wedi'i gynllunio i weithredu fel rhwyd ddiogelwch dros dro i'r rheini sy'n profi anhawster o ran cwrdd â'u costau tai.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r Polisi Lleol diwygiedig ar gyfer  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn – Datganiad Cyfrifon 2016/17 pdf eicon PDF 1024 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaith - adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Adran 151 Swyddog a oedd yn cynnwys yr Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon ar gyfer Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn ar gyfer 2016/17.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn yn cynnwys tair cronfa Cronfa Waddol David Hughes a Chronfa Addysg Bellach Ynys Môn 1/3 a Chronfa Ymddiriedolaeth Addysg Ynys Môn 2/3 sy'n darparu buddion penodol ar gyfer addysg. Cymeradwywyd Cyfrifon ac Adroddiadau Blynyddol yr Ymddiriedolaeth ar gyfer blynyddoedd ariannol 2014/15 a 2015/16 gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ym mis Ionawr, 2018. Mae'r Fantolen yn dangos bod cyfanswm yr asedau net, h.y. gwerth yr Ymddiriedolaeth ar 31 Mawrth, 2017 yn £ 2,835,879 o'i gymharu â

£ 3,179,220 ar 31 Mawrth, 2016. Mae'r gostyngiad oherwydd gwariant cyfalaf yn ystod y flwyddyn ar adnewyddu'r mân-ddaliadau a phrynu Fferm Hendre sy’n golygu y gall yr Ymddiriedolaeth ennill mwy o incwm yn y tymor hir.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 bod y cyfrifon yn dangos mai cyfanswm yr incwm ar gyfer 2016/17 oedd £ 138,632 a chyfanswm y gwariant oedd £ 65,905. Mae'r cyfrifon hefyd yn cynnwys eitem eithriadol o £ 446,203 ar gyfer Amhariad, sef y prif reswm dros y gostyngiad yng ngwerth y Gronfa. Bydd y gwariant o £ 710,545 yn ystod y flwyddyn ar y mân-ddaliadau yn cynyddu eu gwerth ar y farchnad; fodd bynnag, at ddibenion y cyfrifon, caiff y mân-ddaliadau eu prisio ar sail defnydd cyfredol, h.y. ar sail yr incwm y bydd yr asedau'n ei gynhyrchu dros amser pan fydd tenantiaid ynddynt. Mae'r prisiad hwn i ddibenion y cyfrifon ac mae'n llai na gwerth marchnad yr eiddo, dyna’r rheswm am gynnwys y ddarpariaeth ar gyfer amhariad.

 

Penderfynwyd cymeradwyo Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn am 2016/17 a nodi’r diweddariad mewn perthynas â Stad Mân-ddaliadau David Hughes.

8.

Strategaeth Cyfranogiad Lleol Tenantiaid 2018-23 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaith - adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai yn ymgorffori Strategaeth Leol ar gyfer Cyfranogiad Tenantiaid 2018-23 i bwrpas ymgynghori yn ei chylch.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Tai a Chefnogi Cymunedau mai pwrpas y Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid Lleol yw sicrhau bod tenantiaid yn deall beth mae cyfranogiad tenantiaid yn ei olygu a sut y gallant gymryd rhan. Mae cyfres o 5 o weithdai ar y cyd wedi cael eu cynnal ac wedi arwain at adborth cadarnhaol. Mae hefyd yn bwysig bod cefnogaeth yn dal i gael ei darparu ar gyfer tenantiaid a allant gael eu heffeithio gan y mesurau diwygio lles.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Tai, gan fod cyfranogiad tenantiaid yn golygu bod tenantiaid a landlordiaid yn cydweithio, mae'n bwysig felly bod y strategaeth yn cael ei hysgrifennu mewn partneriaeth â thenantiaid; mae tenantiaid wedi cymryd rhan weithredol yn y broses o ddatblygu'r strategaeth gan gynnwys ei nodau a'i hamcanion. Mae angen gwneud gwaith pellach ar y cyd â thenantiaid ar ddatblygu trefniadau monitro a darparu tystiolaeth gliriach ynghylch llwyddiannau a gwelliannau.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith y byddai'n briodol adrodd yn rheolaidd i'r Bwrdd Tai ynghylch cynnydd yn erbyn y Cynllun Gweithredu Cyfranogiad Tenantiaid.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r Strategaeth Leol ar gyfer Cyfranogiad Tenantiaid 2018-23 fel y gellir ymgynghori yn ei chylch.

9.

Cynllun Comisiynu’r Rhaglen Cefnogi Pobl pdf eicon PDF 3 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw a chymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith - adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai yn ymgorffori Cynllun Comisiynu a Gwariiant Cefnogi Pobl Cyngor Sir Ynys Môn 2018/19.

 

Cymeradwyodd yr Aelod Portffolio Tai a Chefnogi Cymunedau y Cynllun i'r Pwyllgor Gwaith.

 

Dywedodd Prif Swyddog Datblygu'r Gwasanaethau Tai mai un o ofynion y cyllid Rhaglen Cefnogi Pobl yw bod yr Awdurdod yn paratoi Cynllun Comisiynu i hysbysu Llywodraeth Cymru a phob partner a rhanddeiliad o'i fwriadau a’i flaenoriaethau comisiynu. Mewn llythyr a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr, 2017 cadarnhawyd mai’r dyraniad ar gyfer Ynys Môn am 2018/19 fyddai £ 2,643,866, sef yr un lefel o gyllid â’r pedair blynedd flaenorol. Bydd 2018/19 yn flwyddyn drosiannol ar gyfer y Rhaglen Cefnogi Pobl yng Nghymru gyda 7 awdurdod lleol yn gweithredu dan drefniant gwahanol ac yn cymryd rhan mewn cynllun peilot a fydd yn gweld 10 grant sy'n rhan o'r Rhaglen Taclo Tlodi yn cael eu cyfuno mewn un gronfa - sef y Grant Ymyrraeth Gynnar, Atal a Chefnogi - gellir trosglwyddo 100% o'r cyllid hwn o un rhaglen i'r llall. Yn ystod yr un cyfnod, bydd gan Ynys Môn ynghyd â'r 14 awdurdod arall yr opsiwn i drosglwyddo hyd at 15% o unrhyw danwariant o un rhaglen i'r llall. Bydd y trefniant newydd ar draws y 7 awdurdod lleol yn cael ei werthuso yn ystod y flwyddyn. Dywedodd y Swyddog, er y dylid croesawu cydweithio agos ar draws y ffynonellau cyllid, mae'r trefniant yn peri risg i'r Rhaglen ar ei ffurf bresennol fel y disgrifir ym mharagraff 1.8 yr adroddiad, ac mae'n creu peth ansicrwydd i ddyfodol y Rhaglen sydd yn bodoli ers 2003 ac sydd wedi profi ei gwerth yn ystod y cyfnod hwnnw i'r Gwasanaeth Tai, y Gwasanaethau Cymdeithasol ac i wasanaethau eraill megis Prawf ac Iechyd.

 

Mae'r Cynllun Cefnogi Pobl yn cynnwys rhaglen o adolygiadau o feysydd gwasanaeth a gynhelir bob tair blynedd. Yn ystod 2018/19, cynhelir adolygiadau manwl mewn perthynas â chamdriniaeth ddomestig, rhieni sengl bregus, pobl hŷn, pobl sy'n gadael y carchar, iechyd meddwl a phobl hŷn (cefnogaeth hyblyg). Mae'r gwasanaeth hefyd yn bwriadu cynnal ymarfer tendro llawn ar gyfer cefnogaeth hyblyg barhaus ym Mai, 2018.

 

Mae aelodau Pwyllgor Cydweithio Rhanbarthol Gogledd Cymru yn awyddus i ddatblygu gwasanaethau a gomisiynir yn rhanbarthol mewn meysydd penodol; er mwyn cyflawni'r nod hwn, cynigiwyd ar lefel ranbarthol a'i gymeradwyo mewn Byrddau Grwpiau Cynllunio lleol ar draws Gogledd Cymru, y dylai pob awdurdod lleol wneud cyfraniad o 0.5% yn uniongyrchol i'r dyraniad blynyddol ar gyfer Cefnogi Pobl. Yn achos Ynys Môn, byddai hynny’n arwain at ostyngiad o £ 13,219 yn y grant ar gyfer darpariaeth leol. Mae Pwyllgor Cydweithio Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi nodi'r meysydd gwasanaeth a restrir ym mharagraff 4.3 fel blaenoriaethau rhanbarthol.

 

Amlygodd y Swyddog newidiadau yn y ffordd y caiff gwasanaethau eu hariannu fel y cyfeirir  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2018-2048 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaith – adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai yn ymgorffori Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai am 2018-48.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Tai mai'r Cynllun Busnes yw'r prif offeryn ar gyfer cynllunio ariannol er mwyn darparu a rheoli tai'r Cyngor ac mae'n dangos sut mae'r Cyngor yn dod â'i holl stoc i fyny i Safonau Ansawdd Tai Cymru; y modd y mae'r Cyngor yn bwriadu cynnal a rhagori ar y Safonau hyn a'r buddsoddiad sydd ei angen i gynyddu'r stoc dai. Mae'r Cynllun Busnes yn rhagdybio rhaglen ddatblygu o 45 uned yn 2018-19, 60 uned yn 2019/20 a 100 uned yn ystod 2021-22 sy'n cynnwys 40 o unedau tai gofal ychwanegol newydd yn ardal Seiriol.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith y wybodaeth. Gofynnodd y Pwyllgor Gwaith a oedd hi'n ymarferol o gofio bod stoc dai yr Awdurdod wedi bodloni Safonau Tai Ansawdd Cymru (SATC) ers 2012, i ostwng y ddarpariaeth ariannol yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer gwaith atgyweirio a chynnal a chadw ac i gynyddu'r ddarpariaeth ar gyfer datblygu tai Cyngor newydd. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Adran 151 fod rhaid i’r Awdurdod, ar ôl cyflawni SATC, sicrhau ei fod yn cynnal y safonau ac yn parhau i uwchraddio'r stoc. Mae'r Cynllun Busnes wedi'i seilio ar ragamcanion mewn perthynas â'r adnoddau sydd ar gael ac mae'n ofynnol i gynnal y safonau, yn ogystal â sicrhau capasiti ar gyfer adeiladu tai newydd. Rhaid taro cydbwysedd rhwng cynnal y stoc bresennol i Safonau Tai Ansawdd Cymru a sicrhau bod arian ar gael i ddatblygu tai cyngor newydd i ddiwallu anghenion tai. Dywedodd y Swyddog ei bod yn bwysig nodi hefyd fod y Cynllun Busnes wedi cael prawf straen i gymryd i ystyriaeth y risgiau e.e. y cynnydd mewn chwyddiant, cyfraddau llog uwch, mwy o gostau o ran gwaith atgyweirio a chynnal a chadw ac ati er mwyn sicrhau hyfywedd y Cynllun a chynaliadwyedd y CRT yn y tymor hir.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith ymhellach fod y niferoedd ar y rhestr aros ar gyfer tai 1 a 2 ystafell wely yn llawer uwch na’r nifer ar gyfer tai 3 a 4 ystafell wely ; gofynnodd am esboniad am y gwahaniaeth. Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Tai y gwelwyd newid yn y galw; mae'r gwasanaeth yn cynnal prawf fforddiadwyedd cyn i deuluoedd symud i mewn i dai cymdeithasol oherwydd nad yw teuluoedd bob amser yn gallu fforddio cartrefi 3 ystafell wely. Hefyd, bu newid demograffig gyda chynnydd yn nifer y bobl sengl a hŷn sy'n chwilio am gartrefi un ystafell wely.

 

Penderfynwyd –

 

·      Cymeradwyo Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) 2018-48 ac

yn benodol, y gyllideb CRT ar gyfer 2018/19 fel y’i nodir yn y Cynllun

ar gyfer ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

·    Cymeradwyo’r Rhaglen Gyfalaf arfaethedig ar gyfer Tai am 2018/19 fel

   y caiff ei nodi yn Atodiad 3.

·      Dirprwyo awdurdod i’r Pennaeth Gwasanaeth (Tai) a’r Pennaeth

Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 i wneud unrhyw

newidiadau i’r Cynllun Busnes cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

11.

Moderneiddio Ysgolion Ardal Llangefni (Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn): Adroddiad yn dilyn yr ail ymgynghoriad pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaith - adroddiad y Pennaeth Dysgu yn cynnwys yr adroddiad ar yr ymgynghoriad statudol ar y cynnig i ehangu Ysgol y Graig i letya disgyblion Ysgol Talwrn ac i gau Ysgol Talwrn.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid y cynhaliwyd ymgynghoriad anstatudol ar yr opsiynau ar gyfer moderneiddio'r ddarpariaeth addysg gynradd yn ardal Llangefni gyda chyfeiriad at Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn rhwng Ionawr a Mawrth, 2017. Yn dilyn cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith ym mis Gorffennaf, 2016, cynhaliwyd proses ymgynghori statudol rhwng 26 Medi a 13 Tachwedd, 2017. Cafwyd cyfnod o seibiant ac adolygu rhwng 18 Rhagfyr, 2017 a 9 Chwefror, 2018.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at adran 3, paragraff E o adroddiad ysgrifenedig y Swyddog lle mae Swyddog Monitro'r Cyngor yn nodi, gan nad oedd yr adroddiad ar yr adroddiad ymgynghori wedi'i gyhoeddi o fewn y cyfnod ymgynghori statudol (hyd at 13 wythnos o ddiwedd y cyfnod ymgynghori), mai’r cyngor cyfreithiol oedd ailgychwyn y cyfnod ymgynghori statudol (sydd yn gorfod cael ei gynnal am 42 diwrnod o leiaf) ar gyfer y cynnig hwn.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ei fod felly'n cynnig, yn unol â'r cyngor cyfreithiol, y dylid gohirio'r penderfyniad ar foderneiddio ysgolion yn ardal Llangefni mewn perthynas ag Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn er mwyn caniatáu i broses ymgynghori statudol newydd ddigwydd. Roedd y Pwyllgor Gwaith yn cytuno â'r cynnig.

 

Siaradodd y Cynghorydd Dylan Rees, Is-Gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol fel Cadeirydd cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 12 Mawrth, 2018 lle ystyriwyd y mater hwn (roedd y Cadeirydd - Y Cynghorydd Aled Morris Jones yn absennol oherwydd salwch). Dywedodd y rhoddwyd cyfle i gynrychiolwyr o Gorff Llywodraethol Ysgol Talwrn a rhieni a phreswylwyr Talwrn annerch y cyfarfod. Siaradodd dau o Gynghorwyr Ward y Canolbarth hefyd fel Aelodau Lleol. Dywedodd y Cynghorydd Dylan Rees, wedi ystyried yr holl wybodaeth a gyflwynwyd yn ysgrifenedig ac ar lafar yn y cyfarfod, bod y Pwyllgor wedi penderfynu cefnogi'r argymhellion yn adroddiad y Pennaeth Dysgu o ran ehangu Ysgol y Graig ond roedd wedi argymell na ddylid cau Ysgol Talwrn.

 

Penderfynwyd gohirio gwneud penderfyniad ynghylch moderneiddio ysgolion yn ardal Llangefni mewn perthynas ag Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn hyd oni fydd proses ymgynghori statudol newydd wedi ei chwblhau.

12.

Moderneiddio Ysgolion - Ardal Seiriol pdf eicon PDF 9 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaith - adroddiad y Pennaeth Dysgu yn cynnwys yr adroddiad ar y broses ymgynghori statudol mewn perthynas ag ysgolion yn ardal Seiriol.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid y cynhaliwyd ymgynghoriad anstatudol ar yr opsiynau ar gyfer moderneiddio'r ddarpariaeth addysg gynradd yn ardal Seiriol am gyfnod rhwng Mehefin a Gorffennaf 2017. Yn dilyn cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith ym mis Hydref, 2017, cynhaliwyd proses ymgynghori statudol o 20 Tachwedd, 2017 hyd 6 Chwefror, 2018. Ystyriwyd yr adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad statudol gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Mawrth, 2018.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio mai un o'r pethau y beirniadwyd yr Awdurdod yn ei gylch o ran ei broses gwneud penderfyniadau, yn enwedig mewn perthynas ag addysg, yw nad yw'n gwrando ar farn rhanddeiliaid, a bod materion yn cael eu penderfynu ymlaen llaw sy’n golygu mai ymarfer ticio blwch yn unig yw ymgynghori. Pwysleisiodd yr Aelod Portffolio bod yr Awdurdod yn gwrando ac yn yr achos hwn mae wedi nodi'r sylwadau cryf a wnaed yng nghyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 12 Mawrth mewn perthynas â'r cynigion a gyflwynwyd - yn benodol mewn perthynas â chau Ysgol Biwmares - yn ogystal â'r sylwadau a wnaed yn ystod y broses ymgynghori yn enwedig gan gymuned Biwmares. O gofio'r farn a fynegwyd, dywedodd yr Aelod Portffolio ei fod felly'n cynnig y dylid cynnal proses ymgynghori statudol newydd ar gyfer ardal Seiriol; bydd yr adroddiad ymgynghori yn adlewyrchu barn Estyn a rhanddeiliaid eraill a bydd yn seiliedig ar gynigion i gau naill ai Ysgol Biwmares neu Ysgol Llangoed am y rheswm bod yn rhaid i'r Awdurdod symud ymlaen â'r rhaglen i foderneiddio ysgolion ar yr Ynys.Roedd y Pwyllgor Gwaith yn cefnogi’r cynnig.

 

Dywedodd y Pennaeth Dysgu, bod nifer o faterion a chwestiynau wedi cael eu codi cyn ac yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ond ar ôl i'r cyfnod ymgynghori gau; yn ogystal, cyflwynwyd opsiynau amgen. O ganlyniad, mae'r gwasanaeth wedi rhoi'r pedwar opsiwn amgen a gyflwynwyd gan Gorff Llywodraethol Ysgol Biwmares yn ogystal ag opsiwn arall a gyflwynwyd gan Gadeirydd Pwyllgor Ymateb Ysgol Biwmares drwy'r broses sgorio; mae canlyniad y broses hon wedi'i nodi yn Atodiad 10 i'r adroddiad. Yn Atodiad 11, mae'r Gwasanaeth wedi ceisio mynd i'r afael â'r materion a'r cwestiynau ychwanegol a godwyd. Dywedodd y Swyddog fod rhai o'r sgorau ar gyfer yr opsiynau amgen yn debyg i'r sgôr ar gyfer yr opsiwn a ffefrir gan y Gwasanaeth; a dyna’r rheswm dros y cynnig i gynnal yr ymgynghoriad eto.

 

Siaradodd y Cynghorydd Dylan Rees, Is-Gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol fel Cadeirydd cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 12 Mawrth, 2018 lle trafodwyd y mater hwn. Dywedodd fod cynrychiolwyr o Ysgol Biwmares a Chyngor Tref Biwmares wedi cael y cyfle i fynd i annerch y cyfarfod. Siaradodd dau o gynghorwyr ward Seiriol  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Asesiad Digonolrwydd Chwarae pdf eicon PDF 628 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaith - adroddiad y Pennaeth Dysgu yn cynnwys adolygiad o Gynllun Gweithredu Digonolrwydd Chwarae 2017/18.

 

Cymeradwyodd yr Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid yr adroddiad a'r Cynllun Gweithredu i'r Pwyllgor Gwaith.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Dysgu nad oes pryderon nad yw'r Awdurdod yn bodloni'r gofynion statudol o ran cyfleoedd chwarae a digonolrwydd chwarae. Fodd bynnag, mae'r ffordd y mae swydd y Swyddog Chwarae yn cael ei hariannu wedi newid. Ariannwyd y swydd yn flaenorol drwy'r grant Teuluoedd yn Gyntaf; oherwydd y bydd telerau'r grant yn newid o fis Ebrill, 2018 ac oherwydd bod hwn yn ofyniad statudol, ni ellir defnyddio'r grant at y diben hwn. O ganlyniad, ac oherwydd bod deilydd y swydd wedi gadael, mae'r Gwasanaeth Dysgu wedi ymgorffori dyletswyddau'r swydd o fewn ei Uned Cefnogi Teuluoedd a bydd yn cyfuno'r cyfrifoldebau statudol â rhai’r asesiad digonolrwydd gofal plant. Bydd hyn yn caniatáu cyflawni, targedu adnoddau a datblygu mewn modd cydlynol ar draws y ddau sector. Dywedodd y Swyddfa bod yr adolygiad o'r cynllun gweithredu yn mynd i'r afael â naw maes gwaith y mae gofyn statudol i’r Awdurdod adroddi arnynt yn cynnwys gwaith a wnaed gydag ysgolion a chymunedau i sicrhau gweithgareddau chwarae am ddim / cost isel, cyfleoedd chwarae mewn ardaloedd gwledig a chyfleoedd chwarae i ddiwallu anghenion penodol plant a phobl ifanc. Mae'r cynllun gweithredu yn adrodd ymhellach ar y modd y mae'r Awdurdod yn sicrhau bod gweithgareddau chwarae yn digwydd o fewn amgylchedd diogel.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith fod gwahoddiadau i wneud cais am gyllid ar gyfer mannau chwarae yn cael eu cyhoeddi gyda therfynau amser tynn iawn (llai na 24 awr mewn rhai achosion) sy’n ei gwneud hi'n anodd i grwpiau / sefydliadau wneud cais oni bai bod cynlluniau parod ganddynt ar y silff y gallant eu cyflwyno ar fyr rybudd. Nododd y Pwyllgor Gwaith, er ei bod yn ddoeth o beth i grwpiau fod â chynlluniau yn barod, y dylid pwyso hefyd ar Lywodraeth Cymru fod angen i'r amserlen ar gyfer cyflwyno cynlluniau / ceisiadau o'r fath fod yn realistig.

 

Dywedodd y Pennaeth Dysgu, er bod yr arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei ryddhau yn flynyddol yn ychwanegol at y grant cyfleoedd chwarae yn tueddu i fod yn hwyr, bod y rhan fwyaf o bartneriaid yr Awdurdod sy’n ymwneud â chwarae wedi llunio cynlluniau erbyn hyn sy’n golygu mai mater yn unig o sicrhau bod y cais yn cael ei gyflwyno ydyw wedyn.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r Cynllun Gweithredu drafft ar gyfer Digonolrwydd Chwarae am 2017-18 ac anfon y Cynllun i Lywodraeth Cymru yn unol â’r gofyniad statudol.

14.

Cynllun Adfywio Gogledd Cymru a Chyllid TRIP pdf eicon PDF 476 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaith - adroddiad ar y cyd rhwng y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a'r Pennaeth Gwasanaethau Tai mewn perthynas â'r Rhaglen Buddsoddiad Adfywio a Dargedir (TRIP).

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Prosiectau Mawr a Datblygiad Economaidd fod TRIP wedi cael ei lansio i ddarparu cyllid adfywio cyfalaf yng Nghymru o fis Ebrill 2018 ac mae'n disodli'r Rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid (VVP) ar gyfer 2014-17. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwahodd pob un o'r pedair partneriaeth datblygu economaidd rhanbarthol i ddatblygu strategaethau adfywio hirdymor i lywio'r buddsoddiad TRIP yn eu rhanbarthau. Mae swyddogion o Grŵp Swyddogion Adfywio Gogledd Cymru a Grŵp Rheoli Rhaglen Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (BUEGC) wedi arwain ar ymateb Gogledd Cymru i'r cyfle hwn. Cytunwyd y dylid cael Strategaeth Adfywio ar gyfer Gogledd Cymru gyda'r blaenoriaethau a nodir yn yr adroddiad. Mae'n rhaid i gynlluniau gael cefnogaeth yr holl 6 awdurdod yng Ngogledd Cymru er mwyn i Ogledd Cymru gael mynediad at gyllid TRIP.

 

Yn seiliedig ar gyngor gan Lywodraeth Cymru, cynigir 12 tref fel meysydd blaenoriaeth ar gyfer ymyriadau adfywio trefol yng Ngogledd Cymru; mae'r rhain wedi'u nodi gan ddefnyddio safleoedd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru ar gyfer lefelau cyffredinol amddifadedd yn seiliedig ar bresenoldeb Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (ACHI) sydd ymysg y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Dim ond un ACHI sydd gan Ynys Môn yn y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru (Morawelon) ac oherwydd hyn mae Caergybi yn ymddangos ar y rhestr o 12 ardal adfywio ond nid felly’r trefi eraill yn Ynys Môn, ac mae'r niferoedd poblogaeth cymharol is yng Nghaergybi yn golygu nad yw ymhlith y pedwar ardal ar gyfer buddsoddiad blaenoriaeth (Y Rhyl, Wrecsam, Bangor a Bae Colwyn). Nodwyd bod y fethodoleg hon yn nodi crynodiadau tlodi sy'n gysylltiedig â threfi ac aneddiadau trefol ar draul trefi llai ac ardaloedd gwledig. Er bod yr angen i fynd i'r afael â materion tlodi ac adfywio mewn trefi llai ac ardaloedd gwledig wedi'i gydnabod, nid oes unrhyw fesurau i fynd i'r afael â'r anghenion hynny.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio fod swm yr arian sydd ar gael yn gymharol fach, tybir y bydd £22m ar gael dros dair blynedd i Ogledd Cymru. Ni all TRIP ariannu buddsoddiadau cyfalaf yn unig a bydd yn darparu hyd at 70% o gostau prosiect (neu 50% ar gyfer datblygu prosiectau). Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno mewn egwyddor y gall peth o gyllid Gogledd Cymru gael ei ddefnyddio ar gyfer rhaglenni thematig sy'n cwmpasu mwy nag un sir - un rhaglen o'r fath sy'n cael ei hystyried yw adeiladau gwag yn Ynys Môn / Gwynedd.

 

Rhestrir cynigion dros dro ar gyfer cyllid Prosiect TRIP yn Ynys Môn yn yr adroddiad; bydd gwaith pellach yn digwydd dros yr wythnosau nesaf i gwblhau'r cynigion yn barod i'w cyflwyno yn gynnar yn y flwyddyn ariannol newydd.

 

Mae'n bwysig tynnu sylw at y ffaith bod tlodi ac amddifadedd hefyd yn bodoli  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 14.