Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Council Chamber, Council Offices, Llangefni

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Cynghorydd Richard Dew ddatganiad o ddiddordeb personol a rhagfarnus mewn perthynas ag eitem 9 ar yr agenda.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Llinos Medi Huws ddatganiad o ddiddordeb personol a rhagfarnus mewn perthynas ag eitemau 7 a 9 ar yr agenda.

 

Gwnaeth Dr Gwynne Jones, y Prif Weithredwr, ddatganiad o ddiddordeb rhagfarnus mewn perthynas ag eitem 9 ar yr agenda.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Dylan Rees (nad yw’n aelod o’r Pwyllgor Gwaith) ddatganiad o ddiddordeb personol ond nid rhagfarnus mewn perthynas ag eitem 9 ar yr agenda.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Nicola Roberts (nad yw’n aelod o’r Pwyllgor Gwaith) ddatganiad o ddiddordeb personol ond nid rhagfarnus mewn perthynas ag eitem 9 ar yr agenda.

2.

Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig

Dim materion brys ar adeg anfon allan y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w adrodd.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 309 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 26 Mawrth, 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 26 Mawrth 2018 i’w cymeradwyo.

 

Penderfynwyd cadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 26 Mawrth, 2018.

4.

Cofnodion - Y Panel Rhiant Corfforaethol pdf eicon PDF 266 KB

Cyflwyno i’w mabwysiadu, gofnodion drafft y Panel Rhiant Corfforaethol a gynhaliwyd ar 19 Mawrth, 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod y Panel Rhiant Corfforaethol a gynhaliwyd ar 19 Mawrth 2018 i’w mabwysiadu.

 

Penderfynwyd cadarnhau cofnodion drafft y cyfarfod o’r Panel Rhiant Corfforaethol a gynhaliwyd ar 19 Mawrth, 2018.

5.

Cofnodion er Gwybodaeth pdf eicon PDF 213 KB

Cyflwyno er gwybodaeth, gofnodion drafft y Pwyllgor Cyswllt y Sector Gwirfoddol a gynhaliwyd ar 9 Chwefror, 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod Pwyllgor Cyswllt y Sector Gwirfoddol a gynhaliwyd ar 9 Chwefror 2018 i’r Pwyllgor Gwaith er gwybodaeth.

 

Penderfynwyd nodi cofnodion drafft cyfarfod Pwyllgor Cyswllt y Sector Gwirfoddol a gynhaliwyd ar 9 Chwefror 2018.

6.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 773 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng mis Mai a mis Rhagfyr 2018, er cymeradwyaeth gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fel a ganlyn

 

Eitemau sy’n Newydd i’r Flaen Raglen Waith

 

Eitem 2 – Y Cyngor i fabwysiadu pwerau a dirprwyaeth i swyddogion wedi ei raglennu i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 21 Mai, 2018

Eitem 7 – Cytundeb Clwb Golff Llangefni wedi ei raglennu i gael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 21 Mai, 2018

Eitem 10 – Cymeradwyo Achos Busnes ar gyferr Bid Twf Gogledd Cymru: Cytundeb Rhyng-Awdurdod 1 wedi ei raglennu i gael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 18 Mehefin, 2018

Eitem 11 - Bargen Twf Gogledd Cymru: Blaenoriaethu Prosiectau i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith ar ddyddiad i’w gadarnhau

Eitem 12 - Strategaeth Trawsnewid Addysg a Moderneiddio Ysgolion Ynys Môn wedi ei raglennu i gael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 18 Mehefin, 2018

Eitem 13 – Prosiect Ysgol Santes Dwynwen wedi ei raglennu i gael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 18 Mehefin, 2018

Eitem 14 - Strategaeth Ddigartrefedd wedi ei rhaglennu dros dro i gael ei hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 18 Mehefin, 2018

Eitem 16 – Ffoaduriaid Syria wedi ei raglennu i gael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 18 Mehefin, 2018

Eitem 20 – Moderneiddio Ysgolion : Ardal Llangefni (Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn) wedi ei raglennu i gael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 16 Gorffennaf, 2018

Eitem 21 - Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol 2017/18 wedi ei raglennu i gael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 16 Gorffennaf, 2018

Eitem 22 – Moderneiddio Ysgolion (Ardal Seiriol) i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith mewn cyfarfod arbennig sydd wedi ei raglennu ar gyfer 18 Gorffennaf, 2018

Eitem 35 – Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 2, 2018/19 wedi ei raglennu i gael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 26 Tachwedd, 2018

Eitem 36 – Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw a Chyfalaf Chwarter 2 wedi ei raglennu i gael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 26 Tachwedd, 2018

Eitem 38 - Strategaeth Ddigartrefedd (Cymeradwyo’r ddogfen yn dilyn yr ymgynghoriad) - wedi ei rhaglennu i gael ei hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 26 Tachwedd, 2018

 

Ymhellach, cyfeiriodd y Swyddog at yr eitemau a ganlyn a gafodd eu gohirio neu eu dileu oddi ar y Rhaglen Waith.

 

Eitem 3 - Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 4 2017/18 i gael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 18 Mehefin, 2018 yn hytrach nag ar 21 Mai,  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cyllideb Refeniw i Melin Llynnon pdf eicon PDF 371 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith am gyllideb o £42,170 i ariannu’r gost o redeg Melin Llynnon fel atyniad i ymwelwyr yn 2018.

 

Ar ôl datgan diddordeb rhagfarnus yn y mater hwn, gadawodd y Cynghorydd Llinos Medi Huws y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r penderfyniad ar yr eitem hon. Y Cynghorydd Ieuan Williams, yr Is-gadeirydd, oedd yn y gadair ar gyfer yr eitem hon.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod trosglwyddo Melin Llynnon i drydydd parti wedi bod yn mynd rhagddo ers cryn amser a bod y Pwyllgor Gwaith wedi cytuno marchnata’r Felin unwaith eto yn unol â’r Polisi Gwaredu Asedau cyfredol. Tra bydd y broses hon yn cael ei chynnal, bydd y Felin yn parhau i fod ar agor fel atyniad i ymwelwyr yn ystod tymor 2018 a bydd y Cyngor yn gyfrifol am gostau staffio a rhedeg y safle am flwyddyn arall neu hyd nes bydd y Felin wedi cael ei throsglwyddo i gorff arall. Fodd bynnag, fel rhan o’r arbedion refeniw ar gyfer 2017/18, cafodd cyllideb refeniw Melin Llynnon ei chynnwys fel rhan o’r pecyn arbedion ac fe’i tynnwyd o’r gyllideb a gymeradwywyd ar gyfer y Cyngor. O ganlyniad, nid oes cyllideb ar gael i gwrdd â chostau rhedeg y Felin yn 2018/19. Mae’r tabl yn yr adroddiad yn amlinellu’r gyllideb ar gyfer y Felin ac mae’n seiliedig ar Felinydd yn gweithio am ddeuddydd yr wythnos gyda’r sawl sy’n rhedeg y Caffi’n cyfrannu £2,500 tuag at gost cyflogi Melinydd.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod angen cyllideb o £42,170 i redeg y Felin fel atyniad i ymwelwyr yn ystod y tymor ymwelwyr hwn ac y gofynnir i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo’r gyllideb. Byddai’r gyllideb yn cael ei hariannu o Falansau Cyffredinol y Cyngor.

 

Er bod y Pwyllgor Gwaith yn cydnabod gwerth a phwysigrwydd Melin Llynnon fel adnodd ac atyniad i ymwelwyr, nodwyd hefyd y dylid edrych ar y cynnig uchod i ariannu’r Felin fel trefniant dros dro o dan amgylchiadau penodol er mwyn caniatáu i’r Felin aros ar agor yn ystod tymor ymwelwyr 2018; pwysleisiwyd bod rhaid cael datrysiad pendant o ran dyfodol tymor hir y Felin. Cadarnhaodd yr Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid fod trafodaethau i’r perwyl hynny’n parhau a bod cynlluniau i ddod i benderfyniad ar y mater.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cyllideb o £42,170 i gyllido costau gweithredu Melin Llynnon fel atyniad twristiaid yn 2018. Bydd y gyllideb yn cael ei hariannu o Falansau Cyffredinol y Cyngor.

8.

Cynllun Llesiant - Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus pdf eicon PDF 1005 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Weithredwr yn ymgorffori Cynllun Llesiant Gwynedd ac Ynys Môn fel y’i cymeradwywyd gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn er ystyriaeth gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd y Cadeirydd fod y Cynllun Llesiant yn amlinellu sut mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn bwriadu gwneud gwahaniaeth i fywydau preswylwyr drwy gydweithio i gyflenwi’r amcanion llesiant cytunedig ar gyfer ardal Gogledd Orllewin Cymru yn ei chyfanrwydd. Tynnodd sylw at y ffaith fod y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaethau ac Adfywio wedi craffu ar y Cynllun yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Mawrth, 2018. Mae’r Pwyllgor yn ymgynghorai statudol a dyma’r pwyllgor dynodedig ar gyfer craffu ar fusnes y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae ymateb ffurfiol y Pwyllgor Sgriwtini, ar ffurf llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini at Gadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, i’w weld yn Atodiad 2 yr adroddiad.

 

Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Llawn

 

·      Ei fod yn cymeradwyo'r Cynllun Llesiant Lleol ar gyfer ei gyhoeddi gan

     Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ynys Môn a Gwynedd.

·      Ei fod yn mabwysiadu'r Cynllun Llesiant a'i fod yn cael ei ymgorffori fel

     rhan o Fframwaith Polisi'r Cyngor i ddisodli'r Cynllun Integredig Sengl

     yng Nghyfansoddiad y Cyngor.

·      Mai’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio fydd y pwyllgor

     sgriwtini dynodedig ar gyfer craffu gwaith y Bwrdd Gwasanaethau

     Cyhoeddus.

·      Y dylid diwygio adran 3.2 o Gyfansoddiad y Cyngor i gynnwys

     cymeradwyo penderfyniadau mewn perthynas â'r Cynllun Llesiant fel

     swyddogaeth na fedr ond y Cyngor llawn ei harfer; a dileu’r cyfeiriad

     at y Cynllun Integredig Sengl.

·      Y dylid diwygio adran 2.6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor er mwyn

penodi'r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio fel y pwyllgor

sgriwtini dynodedig ar gyfer craffu ar waith y Byrddau Gwasanaethau

Cyhoeddus.

·      Ei fod yn awdurdodi’r Pennaeth Swyddogaeth (Buses y Cyngor) /

       Swyddog Monitro’r Cyngor i wneud yr holl newidiadau angenrheidiol a chanlyniadol i Gyfansoddiad y Cyngor i adlewyrchu bod y materion a restrir uchod wedi cael eu cymeradwyo.

·      Ei fod yn awdurdodi'r Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) /

Swyddog Monitro i wneud unrhyw welliannau yn y dyfodol, fel a pan fyddant yn codi, i gyfansoddiad y Cyngor (a) pan fyddant yn ymwneud â, neu (b) yn codi o ganlyniad i'r materion uchod, yn amodol ar ymgynghoriad gydag arweinwyr grwpiau a dim gwrthwynebiadau yn codi.

9.

Moderneiddio Ysgolion yn Ynys Mon - Adroddiad ar yr Ymgynghori Statudol yn Ardal Llangefni: Ysgol Corn Hir, Ysgol Henblas, Ysgol Bodffordd pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, er ystyriaeth gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Prif Weithredwr Cynorthwyol yn ymgorffori’r adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad statudol ar foderneiddio’r ddarpariaeth addysg gynradd yn ardal Llangefni (Ysgol Corn Hir, Ysgol Bodffordd ac Ysgol Henblas).

 

Ar ôl datgan diddordeb rhagfarnus yn y mater hwn, gadawodd y Cynghorydd Llinos Medi Huws, y Cynghorydd Richard Dew a’r Prif Weithredwr y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r penderfyniad ar yr eitem hon. Roedd y Cynghorydd Ieuan Williams, yr Is-gadeirydd, yn y Gadair ar gyfer yr eitem hon.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, i adrodd ar drafodaethau’r Pwyllgor Sgriwtini ar y mater hwn yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Ebrill, 2018 a’r argymhellion yn deillio o hynny.

 

Diolchodd y Cynghorydd Aled Morris Jones unwaith eto i bawb a oedd wedi cyfrannu at drafodaeth y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar y pwnc hwn yn y cyfarfod ar 23 Ebrill ac yn arbennig cynrychiolwyr y tair ysgol dan sylw a oedd oll wedi cyflwyno achos cadarn ar ran eu hysgolion. Roedd cynrychiolwyr Ysgol Bodffordd wedi cyfleu darlun o ysgol wledig brysur oedd yn weithgar yn ei chymuned ac sydd â Chylch Meithrin uchel ei barch. Un o’r pryderon o ran yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Sgriwtini oedd y diffyg tystiolaeth i brofi mai’r Cyngor sydd berchen ar dir ac adeilad cymunedol sy’n gysylltiedig ag Ysgol Bodffordd, rhywbeth y codwyd amheuon ei gylch yn ystod y cyfarfod. Dywedodd y Cynghorydd Jones fod y Pwyllgor yn awyddus i gael eglurhad ar hyn cyn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Gwaith. O ran Ysgol Corn Hir, clywodd y Pwyllgor Sgriwtini mai’r prif fater oedd diffyg lle ar gyfer y plant yn yr ysgol. Roedd cynrychiolwyr Ysgol Henblas wedi disgrifio’r camau breision y mae’r ysgol yn eu cymryd erbyn hyn i wella safonau a pherfformiad o dan arweiniad Pennaeth newydd, brwdfrydig. Dywedodd y Cynghorydd Jones mai’r darlun sy’n datblygu mewn perthynas ag Ysgol Bodffordd ac Ysgol Henblas yw eu bod yn ddwy ysgol ganolig eu maint (neu’n ysgolion y gellid eu hystyried yn rhai mawr hyd yn oed yn ôl safonau Ynys Môn) sy’n cael eu targedu oherwydd yr angen i ddatrys problem diffyg llefydd addysg gynradd yn Llangefni. Er y derbynnir fod rhaid datrys y sefyllfa yn Ysgol Corn Hir, y pryder oedd yn cael ei gyfleu i’r Pwyllgor Sgriwtini oedd na ddylid gwneud hynny ar draul Ysgol Bodffordd ac Ysgol Henblas. Cyfeiriodd y Cynghorydd Aled Morris Jones at sylwadau a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Llywodraeth Cymru yn y sesiwn llawn ar 25 Ebrill pan gafodd ei holi gan Aelod Cynulliad Ynys Môn ynglŷn â’r rhaglen moderneiddio ysgolion yn Ynys Môn - ac yn benodol ynglŷn â’r diffyg eglurder oherwydd disgwyliad Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain fod darparu cyllid ar gyfer ysgolion newydd yn dibynnu ar greu arbedion drwy uno/cau ysgolion bach ar un llaw, a’r rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig yn y Côd Trefniadaeth Ysgolion drafft newydd ar y llaw arall.  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Strategaeth Gwrth Dlodi pdf eicon PDF 929 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, er ystyriaeth gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai yn ymgorffori Strategaeth Gwrth Dlodi ddrafft. Gofynnwyd i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo’r strategaeth er mwyn ymgynghori arni.

 

Adroddodd y Rheolwr Gwasanaethau Tai (Strategaeth, Comisiynu a Pholisi) fod tlodi’n bodoli mewn nifer o gymunedau yn Ynys Môn a bod gan y Cyngor rôl ganolog o ran taclo tlodi ac i gynorthwyo unigolion i oresgyn cyfnodau o dlodi. Mae’r Strategaeth Gwrth Dlodi wedi bod yn destun trafodaeth fewnol ymysg swyddogion o fewn y cyngor ac mae’n nodi dechrau taith - nod y strategaeth yw dod i gytundeb ar ddiffiniad corfforaethol o dlodi, codi ymwybyddiaeth a gosod gwaelodlin o weithgareddau o fewn gwasanaethau a gyda phartneriaid a datblygu dull o fesur effaith gwasanaethau ar daclo tlodi o fewn cymunedau’r Ynys. Dywedodd y Swyddog fod Cynllun Gweithredu’n bodoli eisoes yn seiliedig ar weithgareddau sy’n digwydd yn barod o fewn gwasanaethau ond bod angen datblygu’r gwaith ymhellach er mwyn darparu tystiolaeth gliriach ynglŷn â sut mae gwasanaethau’n gwneud gwahaniaeth. Y bwriad yw ymgynghori’n ehangach ar y strategaeth gyda phartneriaid y Cyngor a chyda’r cyhoedd fel bod y strategaeth derfynol yn un gynhwysol ac yn seiliedig ar gonsensws ynghylch beth sy’n bosib ei gyflawni yn yr ardal hon.

 

Mewn ymateb i sylwadau ynglŷn ag ail-ystyried teitl y strategaeth, awgrymodd y Cadeirydd y byddai modd trafod hynny yn ystod yr ymgynghoriad ehangach sy’n cael ei hargymell gyda phartneriaid a’r cyhoedd.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r Strategaeth Gwrth Dlodi fel y gellir ymgynghori yn ei chylch.

11.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 188 KB

Ystyried mabwysiadu’r isod:-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm”.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd a gyflwynwyd.

12.

Benthyciad Pontio i Grwp Neuadd Bentref Llanddona

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, er ystyriaeth gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 ynglŷn â chaniatáu benthyciad pontio i Grŵp Neuadd Bentref Llanddona. Roedd yr adroddiad yn nodi pam fod angen y benthyciad, y telerau ac amodau ar gyfer cymeradwyo’r benthyciad ynghyd â’r ystyriaethau perthnasol ar gyfer penderfynu ar hynny.

 

Penderfynwyd cymeradwyo benthyciad pontio yn unol â’r telerau a’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.