Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Gwaith - Dydd Llun, 19eg Chwefror, 2018 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Council Chamber, Council Offices, Llangefni

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

2.

Materion brys a ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu swyddog a benodwyd ganddo

Dim materion brys ar adeg anfon allan y rhaglen hon.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w adrodd.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 272 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 29 Ionawr, 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol o'r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 29 Ionawr, 2018 i'w cadarnhau.

 

Penderfynwyd cadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 29 Ionawr, 2018 fel rhai cywir.

4.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 749 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn ymgorffori Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod rhwng Mawrth a Hydref, 2018 i’w gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar newidiadau i'r Flaenraglen Waith ers y cyfnod adrodd blaenorol fel a ganlyn

 

·      Eitemau sy’n newydd i'r Flaenraglen Waith

 

Eitem 13 – Adroddiad ar Asesiad Digonolrwydd Chwarae y trefnwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 26 Mawrth, 2018.

Eitem 17 – Moderneiddio Ysgolion yn Ardal Llangefni: Adroddiad yn dilyn yr ymgynghoriad statudol (Corn Hir, Bodffordd a Henblas) y trefnwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith ar 30 Ebrill, 2018.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd wrth y Pwyllgor Gwaith hefyd bod y ddwy eitem isod wedi cael eu hailraglennu ers cyhoeddi'r agenda, a bydd y ddwy yn cael sylw gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod yn Ebrill, 2018 ac nid ym Mawrth, 2018 fel y nodwyd yn y Rhaglen Waith a gyhoeddwyd.

 

·      Eitem 3 - Cynllun Llesiant: Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus

·      Eitem 8 – Storfeydd Cynnal Tai

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod Mawrth 2018 i Hydref 2018 yn amodol ar y newidiadau ychwanegol a amlinellwyd yn y cyfarfod.

5.

Cynllun Rhanbarthol – Asesiad Poblogaeth Gogledd Cymru pdf eicon PDF 3 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion yn ymgorffori drafft o Gynllun Rhanbarthol Asesiad Poblogaeth Gogledd Cymru i’w gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion mai'r cynllun hwn yw'r cynllun ardal ar y cyd y mae’n rhaid ei ddarparu yn unol â Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Rheoliadau Gofal a Chefnogaeth (Cynllunio Ardal) (Cymru) 2017. Mae'n rhaid i Awdurdodau Lleol a'r Bwrdd Iechyd yng Ngogledd Cymru lunio cynllun ardal ar y cyd mewn ymateb i'r asesiad poblogaeth erbyn 1 Ebrill, 2018. Rhaid i'r cynllun fod dros gyfnod o 5 mlynedd. Yng Ngogledd Cymru, cytunwyd i alw'r cynllun yn Gynllun Rhanbarthol Asesu Poblogaeth er mwyn osgoi dryswch gyda'r tair ardal bwrdd iechyd. Dywedodd y Swyddog fod Aelodau Etholedig y Cyngor wedi'u briffio mewn sesiwn a gynhaliwyd ar 1 Chwefror, 2018 ar gynnwys y cynllun, y disgwyliadau ar lefel ranbarthol a sut y byddai'r rhain wedyn yn trosi i gamau gweithredu lleol, a hynny cyn cyflwyno'r cynllun i'w gymeradwyo i’r cyfarfod hwn. Bydd gweithredu'r cynllun dros y 5 mlynedd

nesaf yn waith a wneir ar y cyd rhwng awdurdodau lleol Gogledd Cymru a'r Bwrdd Iechyd.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r fersiwn ddrafft o Gynllun Rhanbarthol Asesiad Poblogaeth Gogledd Cymru.

6.

Tai Gofal Ychwanegol, Seiriol pdf eicon PDF 3 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a oedd yn crynhoi'r atborth a gafwyd o'r broses ymgysylltu ynghylch y bwriad i ddatblygu cyfleuster Tai Gofal Ychwanegol yn ardal Seiriol, ynghyd ag argymhelliad terfynol ynghylch lleoliad y cyfleuster.

 

Dywedodd y Cadeirydd a'r Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol y gwnaed ymrwymiad ym mis Hydref, 2015, i ystyried safleoedd priodol yn Ne Ynys Môn ar gyfer datblygu darpariaeth Gofal Ychwanegol, gydag ardal Seiriol yn cael ei ffafrio fel lleoliad y cyfleuster. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Hydref, 2017, penderfynodd y Pwyllgor Gwaith (gyda’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn cefnogi) y dylid ymgysylltu’n lleol am gyfnod yn ardal Seiriol ynglŷn â’r bwriad i ddatblygu cyfleuster Tai Gofal Ychwanegol yn yr ardal; ynglŷn â'r safle a ffefrir ar gyfer y datblygiad, sef safle Ysgol Biwmares ac ynglŷn â chyllido'r datblygiad drwy'r Cyfrif Refeniw Tai. Mae'r adroddiad yn disgrifio'r broses ymgysylltu a gynhaliwyd - a oedd yn cynnwys cyfarfodydd gyda'r cynghorau cymuned lleol a chyda Chyngor Tref Biwmares, cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd yn Llangoed, arolwg ar-lein, sesiynau galw heibio a sylw i’r mater gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - ac mae'n amlinellu'r atborth a gafwyd o'r broses.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion, yn ôl yr ymatebion a gafwyd, fod cefnogaeth gyffredinol i'r cysyniad o Dai Gofal Ychwanegol yn lleol fel model o ddarpariaeth, gyda mwy na hanner yr ymatebwyr yn cytuno bod Gofal Ychwanegol yn syniad da mewn egwyddor i fwrw ymlaen ag ef; fodd bynnag, roedd peth anghytundeb gyda'r safle a gynigiwyd gyda'r mwyafrif yn nodi eu bod yn anghytuno â'r safle a ffefrir - roedd hyn yn arbennig o amlwg yn y cyfarfodydd a gafwyd gyda Chyngor Cymuned Llangoed a Chyngor Tref Biwmares a hefyd yn y cyfarfod cyhoeddus yn Llangoed, sef y digwyddiad ymgysylltu olaf a gynhaliwyd. Mae Atodiad A i'r adroddiad yn nodi'r cwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyhoeddus a'r ymatebion a roddwyd gan y Cyngor. Nid dyna’r achos mewn ardaloedd eraill yr ymwelwyd â hwy - yn y cyfarfod cyhoeddus a'r arolwg, dywedodd aelodau o Gyngor Cymuned Cwm Cadnant eu bod yn cefnogi lleoli darpariaeth Gofal Ychwanegol ym Miwmares; yn yr un modd, mae Cyngor Cymuned Llanddona yn derbyn yr angen am y ddarpariaeth ym Miwmares ac nid oes gan Gyngor Cymuned Porthaethwy unrhyw wrthwynebiad i'r cynnig. Mae cefnogaeth gref hefyd yn yr Achos Busnes ar gyfer adeiladu Tai Gofal Ychwanegol ym Miwmares - mae lleoliad y dref a’r mynediad at gyfleusterau yn cynnig gwell cyfleoedd ar gyfer integreiddio ac annibyniaeth; mae mwy o angen am dai ym Miwmares nag mewn ardaloedd mwy gwledig fel Llangoed; mae lleoliad Biwmares mewn sefyllfa well i gwrdd â safonau BREEAM. O ystyried y pwyntiau pwysig a godwyd yn ystod y broses ymgysylltu a'r cyfarfod cyhoeddus, mae'r argymhelliad yn parhau'n gyson â'r cynnig gwreiddiol h.y. defnyddio safle Ysgol Biwmares i ddatblygu cynllun Tai Gofal Ychwanegol yn ardal Seiriol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.Wrth ddatblygu'r cynllun rhoddir ystyriaeth briodol i'r pwyntiau a  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Adroddiad Cynnydd Plant a Theuluoedd pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Plant.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Plant a Theuluoedd) yn nodi'r cynnydd a wnaed hyd yma yn erbyn y Cynllun Gwella Gwasanaeth.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol fod y sefyllfa ddiweddaraf, gan gynnwys yr ymateb gan AGGCC i adolygiad ysgrifenedig yr Awdurdod, wedi bod yn destun sylw a sgriwtini gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 31 Ionawr, 2018. Cadarnhaodd y Pwyllgor Sgriwtini yn y cyfarfod ei fod yn fodlon â'r cynnydd a wnaed a chyda’i gyflymder.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaeth (Plant a Theuluoedd) ar y prif feysydd cynnydd fel a ganlyn

 

·        Mae’r gwaith o ailstrwythuro'r Gwasanaeth bron wedi'i gwblhau ond mae rhywfaint o waith ar ôl i'w wneud ar adolygu trefniadau ar gyfer y Tîm Lleoli Plant, gwneud y defnydd mwyaf posib o Weithwyr Cymorth a sicrhau cymorth gweinyddol priodol i'r grwpiau Ymarfer.

·        Mae recriwtio yn mynd yn dda gyda dim ond 5 swydd gweithiwr cymdeithasol ar ôl i gael eu llenwi. Mae ymgyrch ragweithiol ar waith i geisio recriwtio Gweithwyr Cymdeithasol profiadol i'r swyddi hyn. Yn ogystal, mae'r Gwasanaeth yn ehangu ei ddull recriwtio e.e. trwy ddatblygu trefniadau Hyfforddeiaeth Gwaith Cymdeithasol yn fewnol fel rhan o'r ymgyrch i dyfu ein staff ein hunain a thrwy gynnig lleoliadau profiad gwaith i ddisgyblion chweched dosbarth.

·        Parheir i adolygu a datblygu Polisïau a Strategaethau, gan gynnwys y Strategaeth Gweithlu; y Polisi Goruchwyliaeth a Chanllawiau Ymarfer.

·        Mae Cynllun Gwella Ymarfer yn cael ei ddatblygu yn 2018 a fydd yn eistedd ochr yn ochr â'r Cynllun Gwella Gwasanaeth.

·        Mae'r gwaith o gryfhau trefniadau gweithio mewn partneriaeth yn parhau. Bydd strategaeth newydd ar gyfer Gwasanaethau Ataliol yn cael ei ddatblygu ar y cyd gyda phartneriaid.

·        Mae AGGCC wedi ymateb yn gadarnhaol i adolygiad ysgrifenedig yr Awdurdod a bydd y Rheoleiddiwr yn parhau i gwrdd â'r gwasanaeth; cynhelir y cyfarfodydd hynny bellach bob dau fis yn hytrach nag yn fisol.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith y wybodaeth a'r cynnydd a wnaed. Gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am gadarnhad o'r gwelliannau a wnaed er mwyn sicrhau cysondeb yr ymarfer ar draws pob maes ac i gryfhau trefniadau Sicrhau Ansawdd, a hynny gan eu bod yn nodweddion o wasanaeth da.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Plant a Theuluoedd) fod y Fframwaith Sicrhau Ansawdd wedi'i gymeradwyo gan y Gwasanaeth a’i fod yn gymharol newydd. Fodd bynnag, mae'r gwasanaeth yn bwriadu defnyddio ystod eang o ffynonellau tystiolaeth fel sail ar gyfer yr adroddiad gwerthuso ymarfer chwarterol, gan gynnwys archwiliadau o ffeiliau achos bob mis, arsylwi ar ymarfer, archwiliadau goruchwyliaeth, trosolwg, her a dysgu o atborth a gafwyd gan bartneriaid. Bwriedir hefyd ddysgu gan y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth. Er bod yr ymarfer yn parhau i fod yn anghyson mewn rhai meysydd, mae tystiolaeth gadarnhaol hefyd bod y gweithlu'n gweithio'n uniongyrchol gyda theuluoedd sy'n arwain at well  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Polisi Iechyd a Diogelwch Corfforaethol Diwygiedig pdf eicon PDF 232 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried a’i gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Rheoleiddio a Datblygu Economaidd) yn ymgorffori Polisi Iechyd a Diogelwch Corfforaethol diwygiedig.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd fod gan Gyngor Sir Ynys Môn ddyletswydd gyfreithiol o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 i sicrhau iechyd, diogelwch a lles ei weithwyr. Mae'r polisi a gyflwynir yn nodi'r trefniadau a'r gweithdrefnau sefydliadol sydd raid wrthynt i sicrhau bod iechyd a diogelwch gweithwyr yn cael sylw amlwg ar draws y Cyngor. Mae'r diwygiadau i'r polisi yn adlewyrchu'r newidiadau a wnaed i system Rheoli Iechyd a Diogelwch yr Awdurdod a hefyd i Uwch Dîm Arweinyddiaeth yr Awdurdod.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Rheoleiddio a Datblygu Economaidd), er gwaethaf bod y polisi diwygiedig yn nodi'n ffurfiol y llinellau cyfrifoldeb ac atebolrwydd am iechyd a diogelwch yn y Cyngor, mae'n bwysig nodi bod dyletswydd ar bawb sy'n gysylltiedig â'r Cyngor i gymryd materion iechyd a diogelwch o ddifrif. Yn amodol ar gymeradwyo'r polisi, caiff ei gyfathrebu i'r holl staff o fewn y Cyngor i sicrhau eu bod yn ymwybodol bod ganddynt gyfrifoldeb personol am iechyd a diogelwch ac i egluro’r disgwyliadau ar staff sydd â chyfrifoldebau penodol am faterion iechyd a diogelwch yn y Cyngor.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith y polisi diwygiedig. Gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am eglurhad ynghylch dichonolrwydd cyflwyno polisi iechyd a diogelwch cyffredinol ar gyfer pob ysgol. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Rheoleiddio a Datblygu Economaidd), er bod yr amcanion iechyd a diogelwch yn gyffredin i’r ysgolion, mae'r broses asesu risg yn wahanol ym mhob achos ac mae’n cymryd i ystyriaeth weithdrefnau trefniadol yr ysgol unigol, adeilad yr ysgol a'r heriau cysylltiedig .Cadarnhaodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaeth, y Gymuned a Gwella Gwasanaethau) fod yr Uwch Reolwr Cymorth i Ysgolion wedi adolygu’r polisïau iechyd corfforaethol ac wedi darparu arweiniad i ysgolion a chreu porth polisi sy'n cwmpasu pob agwedd ar iechyd a diogelwch.

 

Penderfynwyd mabwysiadu’r Polisi Iechyd a Diogelwch Corfforaethol diwygiedig fel y'i cyflwynwyd.