Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Gwaith - Dydd Llun, 16eg Gorffennaf, 2018 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan unrhyw Aelod o’r Pwyllgor Gwaith.

 

Bu’r Cynghorydd Dylan Rees (ddim yn Aelod o’r Pwyllgor Gwaith) ddatgan diddordeb personol ond nid un sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 12 ar yr agenda.

 

2.

Materion brys a ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig

Dim materion brys ar adeg anfon allan y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w hadrodd.

 

 

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 278 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 18 Mehefin 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 18 Mehefin, 2018 ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith.

 

Penderfynwyd cadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynlaiwyd ar 18 Mehefin, 2018 fel rhai cywir.

4.

Cofnodion - Panel Rhiant Corfforaethol pdf eicon PDF 556 KB

Cyflwyno i’w mabwysiadu, gofnodion drafft y Panel Rhiant Corfforaethol a gynhaliwyd ar 11 Mehefin 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion drafft y Panel Rhiantu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 11 Mehefin, 2018 ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith.

 

Penderfynwyd mabwysiadu cofnodion drafft y Panel Rhiant Corfforaethol a gynhaliwyd ar 11 Mehefin, 2018 fel cofnod cywir.

 

5.

Moderneiddio Ysgolion - Ardal Llangefni (Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn) pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad y Prif Weithredwr a’r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Cymunedau a Gwella Gwasanaethau).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaeth, Cymuned a Gwella Gwasanaethau) yn cynnwys yr adroddiad ar ganlyniad yr Ymgynghoriad Statudol ar ddiwygio’r ddarpariaeth addysg gynradd yn ardal Llangefni yn ymwneud ag Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith. Cynhaliwyd y cyfnod ymgynghori statudol rhwng 1 Mai a 18 Mehefin, 2018.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Ieuenctid a Diwylliant ar nodau ac amcanion y rhaglen moderneiddio ysgolion sy’n cynnwys gwerthuso dyfodol ysgolion a’r effeithiau ar randdeiliaid yn cynnwys plant, rhieni, staff ysgol a llywodraethwyr. Roedd yn cydnabod y gall hyn fod yn fater dadleuol ac yn dasg heriol i’r Awdurdod ac ei fod hefyd yn fater sy’n achosi pryder i rieni, sy’n ddealladwy. Fodd bynnag, yr hyn sy’n cael ei drafod yw dyfodol ysgolion dros yr 50 mlynedd nesaf o bosibl; gwasanaeth ysgolion sy’n gwegian o dan bwysau toriadau ariannol; ôl-groniad cynnal a chadw, gofynion y cwricwlwm ynghyd â nifer o faterion eraill. Rhaid i’r Cyngor roi ystyriaeth o ddifri i wneud y system ysgolion yn fwy effeithiol er mwyn creu amgylchedd lle gall disgyblion ac athrawon lwyddo a hefyd er mwyn ei wneud yn fwy effeithlon fel bod adnoddau’n cael eu defnyddio yn effeithiol a bod ysgolion yn cael cyfran deg o’r gyllideb. Er mai Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig a’r materion sy’n effeithio arnynt sydd o dan sylw yn y cyfarfod hwn, mae’r materion hynny yn ffurfio rhan o ddarlun ehangach sy’n edrych ar yr Ynys yn ei chyfanrwydd a’r Gwasanaeth Addysg ynddi.

 

Tynnodd yr Aelod Portffolio sylw at y ffaith bod cyllideb y Gwasanaeth Addysg yn 40% o gyllideb gyffredinol y Cyngor a bod angen dod o hyd i arbedion o tua £5.2 miliwn yn y Gwasanaeth dros y 3 blynedd nesaf. Mae Addysg wedi cael ei warchod rhag y gwaethaf o’r toriadau ariannol yn y gorffennol ond does dim modd i’r sefyllfa honno barhau – mae ôl- groniad costau cynnal a chadw tua £16 miliwn. Mae’r pwysau ariannol a wynebir gan Ynys Môn a chynghorau eraill yn dod yn y pen draw o gyfeiriad Llywodraeth San Steffan a’r agenda o gynni parhaus. Mae’r Cyngor yn gweithredu ei raglen moderneiddio ysgolion er mwyn gwella canlyniadau addysgol i blant; er mwyn gwella safonau arweinyddiaeth ac addysgu a dysgu ac er mwyn sicrhau bod ysgolion sy’n arwain o fewn y sector ym mhob ardal. Mae’r gyrwyr ar gyfer newid yn parhau i fod yr un fath; mae’r rhain wedi eu nodi yn yr adroddiad ac mae nifer o’r gyrwyr hynny yn berthnasol i’r sefyllfa hon. Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at rôl yr Aelod Etholedig yn y broses o foderneiddio ysgolion sy’n gosod dyletswydd arnynt i gynrychioli eu cymunedau unigol ond hefyd dyletswydd i ystyried yr Ynys yn ei chyfanrwydd h.y. y cyfrifoldebau corfforaethol ehangach sy’n ymestyn tu hwnt i un ardal benodol.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol at y prif themâu a’r materion a godwyd gan randdeiliaid yn y ddwy ysgol wrth iddynt ymateb i’r broses ymgynghori ac ymateb yr Awdurdod i’r materion  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 744 KB

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Gwasanaethau y Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn cynnwys Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng Awst, 2018 a Mawrth, 2019 ar gyfer cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd bod tair eitem newydd ar y Blaen Raglen Waith ddiwygiedig fel y nodir isod ac mai dyma’r unig newidiadau i’r rhaglen a gyflwynwyd

 

Eitem 11 – Adroddiad blynyddol ar Iechyd a Diogelwch i’r ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod 17 Medi, 2018.

Eitem 23 – Adroddiad Monitro Refeniw a Chyllid Cyfalaf 2018/19 ar gyfer Chwarter 3 i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod 18 Chwefror, 2019.

Eitem 27 - Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 3, 2018/19 i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod 25 Mawrth, 2019.

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng Awst, 2018 a Mawrth 2019 fel y’i cyflwynwyd.

7.

Cyfrifon Terfynol Drafft 2017/18 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 yn cynnwys crynodeb o’r cyfrifon terfynol drafft ar gyfer 2017/18 ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith.

 

Tynnodd y Cynghorydd Ieuan Williams sylw at y ffaith ei fod yn cael ei enwi yn adroddiad ond gan fod yr adroddiad yn nodyn ffeithiol, y cyngor cyfreithiol a gafodd yw nad oedd angen iddo ddatgan diddordeb.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod yr archwiliad o’r cyfrifon drafft terfynol wedi dechrau ac y bydd y cyfrifon drafft terfynol wedi’u harchwilio yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio ac i’r Cyngor Llawn ym mis Medi, 2018.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 y gallai’r broses archwilio achosi mân newidiadau i’r ffigyrau sydd wedi’u cynnwys yn y crynodeb o'r Datganiadau Ariannol. Cadarnhaodd y Swyddog fod y Costau Ymgynghorwyr ar gyfer Chwarter 4 wedi eu cynnwys fel rhan o’r adroddiad gan nad oeddent wedi eu hadrodd arnynt yn yr adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw yn ôl y drefn arferol.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith fod y canlyniadau ariannol ar gyfer 2017/18 yn dynodi fod y rhaglen o gynni ariannol parhaus yn cael effaith ar wariant cyhoeddus. Mae’r Awdurdod yn gwneud pob ymdrech i adnabod arbedion ond mae cydbwyso’r angen hwn â darparu cyllideb gytbwys yn dod yn fwyfwy heriol.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith hefyd, er bod balansau Arian Wrth Gefn Cyffredinol y Cyngor wedi lleihau ar ddiwedd 2017/18 yn bennaf oherwydd yr angen i ariannu’r gorwariant ar y gyllideb refeniw, nid yw’r Cyngor yn cadw arian wrth gefn ar gyfer dibenion o’r fath h.y. fel diogelwch yn erbyn digwyddiadau neu wariant na chafodd eu rhagweld.

 

Penderfynwyd

 

  nodi’r prif ddatganiadau ariannol (heb eu harchwilio) ar gyfer 2017/18;

  nodi’r sefyllfa o ran arian wrth gefn clustnodedig a chymeradwyo’r defnydd o, neu gynnydd i gronfeydd wrth gefn unigol fel y nodir yn Atodiad 4 yr adroddiad ;

  cymeradwyo’r cronfeydd wrth gefn newydd, cyfanswm o £0.513m fel a nodir yn nhabl 3 yr adroddiad;

  nodi’r sefyllfa o ran balansau’r ysgolion;

  nodi balansau’r CRT fel yr oeddent ar 31 Mawrth 2018;

  nodi’r Costau Ymgynghori ar gyfer Chwarter 4.

8.

Strategaeth Gwrth-Dlodi pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor gwaith adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai yn cynnwys y Strategaeth Gwrth-dlodi yn dilyn ymgynghoriad.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Tai a Chefnogi Cymunedau yr ystyriwyd y Strategaeth Gwrth- dlodi gan y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Gorffennaf, 2018; argymhellodd y Pwyllgor Sgriwtini y dylid cadarnhau’r Strategaeth ac y dylai hefyd fod yn amcan ar gyfer pob gwasanaeth o fewn ei Gynllun Darparu Gwasanaeth. Dywedodd yr Aelod Portffolio ei fod yn ddiolchgar am fewnbwn y Pwyllgor Sgriwtini a’i fod yn gweld cynnwys y strategaeth fel amcan yn y cynlluniau darparu gwasanaeth yn gryfder a fyddai’n rhoi mwy o ysgogiad i fynd i’r afael â thlodi.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai fod y Strategaeth Gwrthdlodi wedi mynd drwy broses ymgynghori gynhwysfawr.

 

Penderfynwyd

 

  Cymeradwyo’r Strategaeth gwrth-dlodi fel y’i cyflwynwyd;

  Bod Gwasanaethau yn cynnwys y Strategaeth fel amcan o fewn y Cynllun Darparu Gwasanaeth yn flynyddol.

9.

Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2017/18 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethu a Thrawsnewid Prosesau Busnes)/Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Drafft Blynyddol y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes) a’r Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol ar effeithlonrwydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod blwyddyn ariannol 2017/18 ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd y Cadeirydd a’r Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol fod yr Adroddiad Blynyddol wedi ei graffu gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf, 2018. Cymeradwyodd yr adroddiad i’r Pwyllgor Gwaith.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol/Cyfarwyddwr Statudol Gwasanethau Cymdeithasol mai dyma’r ail flwyddyn i’r Adroddiad Blynyddol gael ei gynhyrchu ar y fformat presennol a bennir gan y Cod Ymarfer ac sy’n seiliedig ar chwe Safon Ymarfer. Mae’r adroddiad wedi’i anelu at gynulleidfa amrywiol yn cynnwys aelodau etholedig, y cyhoedd, defnyddwyr gwasanaeth, partneriaid ac Arolygiaeth Gofal Cymru ac mae’n ceisio hyrwyddo ymwybyddiaeth ac atebolrwydd am y perfformiad a’r cynnydd a wnaed dros y flwyddyn ddiwethaf wrth ddarparu Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghyngor Sir Ynys Môn.

Cynhaliodd y Gwasanaeth sesiwn Herio gwasanaeth a fynychwyd gan nifer ar 14 Mehefin, 2018 lle gwahoddwyd sefydliadau partner, sefydliadau trydydd sector, gofalwyr a darparwyr.

 

Dywedodd y Swyddog, gan gyfeirio at y Gwasanaethau Oedolion, bod cynnydd da wedi’i wneud yn 2017/18, yn enwedig wrth ail fodelu Garreglwyd yng Nghaergybi i ddarparu cymorth arbenigol i bobl hŷn â dementia sy'n galluogi’r rhai hynny sy’n dioddef o ddementia i aros yn agosach at eu teuluoedd a’u ffrindiau. Bydd Hafan Cefni, y cyfleuster gofal ychwanegol yn Llangefni yn agor yn hwyrach yn 2018 a bydd yn galluogi mwy o bobl i aros yn eu cymunedau wrth i’w anghenion gofal a’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt gynyddu. Yn ogystal, mae’r Gwasanaeth wedi tendro ar gyfer trefniadau Gofal cartref newydd a fydd yn gwella cysondeb a mynediad i’r gwasanaeth. Mae cydweithio rhwng y Gwasanethau Cymdeithasol a Phartneriaid hefyd wedi gwella yn ystod y flwyddyn, yn enwedig gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Heddlu Gogledd Cymru a phartneriaid Trydydd Sector.

 

Gwnaed cynnydd sylweddol er mwyn gwella’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn ystod y flwyddyn fel sydd wedi’i gydnabod gan Arolygiaeth Gofal Cymru yn ei lythyr dyddiedig Ionawr, 2018. Er bod nifer o elfennau yn y Cynllun Gweithredu a Gwella Ôl Arolwg bellach yn eu lle, mae’r Gwasanaeth yn parhau ar daith o welliant a bydd yn cael ei archwilio gan AGC eto yn ddiweddarach yn 2018.

 

Ychwanegodd y Swyddog bod cymorth Gwasanaethau Cymdeithasol i bobl Ynys Môn hefyd yn gyfrifoldeb corfforaethol ac nad yw’n gyfyngedig i’r Gwasanaethau Plant ac Oedolion statudol. Mae’r Gwasanaeth wedi trefnu i holl staff y Cyngor dderbyn hyfforddiant Trais yn erbyn Merched, Camdriniaeth Ddomestig a Thrais Rhywiol sy’n rhywbeth gorfodol ym mhob Cyngor a sefydliad cyhoeddus arall; mae 75% wedi derbyn hyfforddiant ar y lefel gyntaf sy’n cymharu’n dda ag awdurdodau lleol eraill.

 

Diolchodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Statudol i bawb a oedd wedi cyfrannu at berfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod y flwyddyn boed hynny drwy gydweithio neu drwy ddarparu cefnogaeth a her; mae’r rheini yn cynnwys partneriaid y Gwasanaeth a darparwyr gwasanaeth; cymunedau ar Ynys Môn, staff Gwasanethau Oedolion  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Gweledigaeth a Strategaeth Twf ar gyfer Economi Gogledd Cymru: Cytundeb Llywodraethiant pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Prif Weithredwr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Weithredwr yn cynnwys Cytundeb Llywodraethiant ar gyfer y cam cyntaf o waith rhanbarthol mewn perthynas â’r Bid Bargen Twf ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd y Cadeirydd fod holl bartneriaid y Bid Bargen Twf wedi mabwysiadu model llywodraethiant a ffefrir h.y. cydbwyllgor rhanbarthol o dan y teitl gwaith Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru; mae’r model bellach wedi’i sefydlu ac mae ar y trywydd iawn i gyflwyno Bid i’r Llywodraeth ar gyfer ceisio cael cytundeb cychwynnol yn 2018. Mae Cytundeb Llywodraethiant (GA1) wedi’i ddatblygu ar gyfer cam cyntaf y Cais Bargen Twf ar gyfer ei fabwysiadu gan yr holl bartneriaid ar Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.

 

Adroddodd y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro bod y Cytundeb Llywodraethiant bellach wedi’i fabwysiadu gan y pum awdurdod arall yng Ngogledd Cymru. Does dim disgwyl i’r pedwar coleg sy’n bartneriaid ddod i benderfyniad tan fis Medi yn dilyn cyfnod gwyliau’r haf. Rhagwelir y bydd y Cytundeb Llywodraethiant yn cael ei arwyddo ddiwedd mis Medi neu ddechrau mis Hydref. Gofynnir i’r Pwyllgor Gwaith gytuno i’r GA1 fel y model Llywodraethiant ar gyfer datblygiad a chyflwyniad y Bid twf i’r Llywodraeth. Mae creu dull llywodraethiant er mwyn gallu gwneud hyn yn un o ofynion y Llywodraeth cyn y bydd yn ystyried y Bid. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Pwyllgor Gwaith mewn perthynas ag ymgysylltiad arbenigwyr cyfreithiol i ymgymryd â gwaith ar y Cytundeb, cadarnhaodd y Swyddog bod y Llywodraeth angen i gyrff cyhoeddus yng Nghymru ddefnyddio’r fframwaith Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol er mwyn defnyddio arbenigwyr megis arbenigwyr cyfreithiol. Dewiswyd yr ymgynghorwyr cyfreithiol Pinssent Mason gan Gyngor Sir y Fflint fel y rhai mwyaf priodol i ddarparu cyngor arbenigol annibynnol ar ddatblygiad y GA1.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 nad oes unrhyw benderfyniad wedi’i wneud hyd yma mewn perthynas â chyfraniadau ariannol yn y dyfodol heblaw am benderfyniad ar gyfraniad pob sefydliad partner i ddatblygiad y GA1.

 

Penderfynwyd

 

  Nodi a chroesawu’r cynnydd ar ddatblygu’r  Bid Bargen Twf.

  Bod cam cyntaf y Cytundeb Llywodraethiant (Atodiad 1) yn cael ei gymeradwyo, ar yr amod bod y Cyngor yn cymeradwyo’r trefniadau anweithredol h.y. y trefniadau sgriwtini.

  Bod y Cyngor Llawn yn cael drafft terfynol o’r Bid Bargen Twf ar gyfer ei adolygu a’i gymeradwyo ym Medi/Hydref 2018 cyn iddo gyrraedd cam y Penawdau Telerau gyda’r ddwy Lywodraeth.

  Argymell bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i’r Prif Weithredwr a’r Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro mewn cydweithrediad â’r Arweinydd i gwblhau amodau’r cytundeb Llywodraethiant yn unol i raddau helaeth â’r drafft sydd ynghlwm yn Atodiad 1 yr Adroddiad hwn.

  Argymell Bod y trefniadau Gweithredol sydd wedi eu cynnwys yn y Cytundeb Llywodraethu’n cael eu cynnwys yn y Cyfansoddiad a gofyn i’r Cyngor cynnwys y trefniadau Anweithredol yn ymwneud â sgriwitni yn y Cyfansoddiad.

11.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 172 KB

Ystyried mabwysiadu’r isod:-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm”.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn absenoldeb y Cadeirydd, aeth yr Is-gadeirydd i’r gadair ar gyfer yr eitem hon ac eitem 12 ar yr agenda.

 

O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd fel y cyflwynwyd nhw.

12.

Dyfodol Neuadd y Sir, Llangefni

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd mewn perthynas â dyfodol adeilad Neuadd y Sir yn Llangefni ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith. Roedd yr adroddiad yn nodi’r tri opsiwn sydd ar gael i’r Pwyllgor Gwaith wrth benderfynu ar ddyfodol Neuadd y Sir a nodwyd y goblygiadau, canlyniadau a risgiau ynghlwm â phob opsiwn yn ogystal ag argymell ffordd ymlaen o ganlyniad i’r opsiynau hynny.

 

Siaradodd y Cynghorydd Dylan Rees, Aelod Lleol ar y mater fel aelod o Gyngor Tref Llangefni.

 

Penderfynwyd awdurdodi’r Gwasanaethau Eiddo i weithredu yn unol ag argymhelliad yr adroddiad.