Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Gwaith - Dydd Llun, 17eg Medi, 2018 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

2.

Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog a Benodwyd Ganddo

Dim materion brys ar adeg anfon allan y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w adrodd.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 375 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-

 

·      16 Gorffennaf 2018

·      18 Gorffennaf 2018 (Arbennig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’w cadarnhau, gofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 16 Gorffennaf, 2018 a’r cyfarfod arbennig a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf, 2018.

 

Penderfynwyd cadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 16 Gorffennaf, 2018 a’r cyfarfod arbennig a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf, 2018 fel rhai cywir.

 

4.

Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 773 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng mis Hydref, 2018 a mis Mai, 2018 ar gyfer ei chymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod yr eitemau a ganlyn yn eitemau newydd ar Flaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith -

 

           Eitemau 5, 6, 7, 8 a 9 sydd wedi’u rhaglennu i’w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 29 Hydref, 2018.

           Eitem 11, yn amodol ar gael ei gadarnhau, wedi’i raglennu i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 17 Rhagfyr, 2018.

           Eitem 18 sydd wedi’i raglennu i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 17 Rhagfyr 2018.

           Eitemau 22, 23, 24, 25, 26, 27, 28 a 29 sy’n ymwneud â’r Gyllideb ac wedi’u rhaglennu i’w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 18 Chwefror, 2019.

           Eitemau 33 a 34 sydd wedi’u rhaglennu i’w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 25 Mawrth, 2019.

 

Newidiadau eraill nad ydynt wedi’u cynnwys yn y Rhaglen Waith a gyhoeddwyd -

 

           Adroddiad gan y Pennaeth Addysg ar yr Achos Busnes Strategol ar gyfer ymestyn Ysgol y Graig a chau Ysgol Talwrn sy’n eitem ychwanegol ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 26 Tachwedd, 2018.

           Cadarnhawyd y bydd cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Gwaith yn cael ei gynnal ar 15 Hydref, 2018 i drafod Trawsnewid Addysg a Strategaeth Foderneiddio Ysgolion Ynys Môn.

 

Penderfynwyd cadarnhau'r Flaen Raglen Waith wedi ei diweddaru ar gyfer y cyfnod rhwng mis Hydref, 2018 a mis Mai, 2019 ynghyd â’r newidiadau a amlinellwyd yn y cyfarfod.

5.

Cerdyn Sgorio Corfforaethol - Chwarter 1, 2018/19 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, er ystyriaeth gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol a Thrawsnewid) yn amlinellu sefyllfa’r Cyngor yn erbyn ei amcanion gweithredol ar gyfer chwarter 1 blwyddyn ariannol 2018/19.

 

Adroddodd Deilydd Portffolio'r Gwasanaethau Corfforaethol y cytunwyd ar y dangosyddion ar gyfer eleni (yn debyg i’r drefn yn ystod y blynyddoedd diwethaf) mewn gweithdy a gynhaliwyd ar 2 Gorffennaf, 2018 gydag aelodau’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth, y Pwyllgor Gwaith a’r Pwyllgor Gwaith Cysgodol yn dilyn derbyn arweiniad gan y Penaethiaid Gwasanaeth ynglŷn â’r dangosyddion yr oeddent hwy wedi eu nodi fel rhai pwysig. Maent yn cynnwys Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus (MAC) newydd, sef set o ddangosyddion sy’n mesur perfformiad ar lefel cenedlaethol. Dywedodd yr Aelod Portffolio ei bod yn galonogol nodi ar ddiwedd Chwarter 1 fod y mwyafrif o’r dangosyddion rheoli perfformiad yn perfformio’n dda yn erbyn eu targed. Mae hyn hefyd yn cymharu’n dda â’r sefyllfa yn ystod yr un cyfnod yn 2017/18. Fodd bynnag, mae dau ddangosydd yn tanberfformio yn erbyn eu targed blynyddol ar ddechrau’r flwyddyn ac wedi eu dangos mewn Coch / Ambr, gydag un yn ymwneud â’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd (PM28 - yr amser ar gyfartaledd yr oedd yr holl blant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant yn ystod y flwyddyn ac a ddad-gofrestrwyd yn ystod y flwyddyn) a’r llall yn ymwneud â’r Gwasanaethau Oedolion (PM20a - canran yr oedolion a oedd wedi cwblhau cyfnod o ail-alluogi ac a oedd yn derbyn pecyn gofal a chymorth ar lefel is 6 mis yn ddiweddarach). Mae’r ddau ddangosydd yn delio â nifer fach o achosion sy’n golygu y gall perfformiad amrywio. Mae gweddill y dangosyddion ar gyfer chwarter 1 yn Wyrdd neu’n Felyn ac maent wedi cael dechrau da yn erbyn eu targedau. Yn ogystal, o’r 8 dangosydd a amlygwyd mewn Coch neu Ambr ar ddiwedd 2017/18, da yw gweld fod 5 o’r 6 y gellir eu tracio yn ystod Chwarter 1 y flwyddyn bresennol wedi gwella a dim ond un ohonynt sy’n tanberfformio ar hyn o bryd.

 

Mewn perthynas â Rheoli Pobl, dywedodd y Deilydd Portffolio fod cyfraddau salwch y Cyngor ar ddiwedd chwarter 1, sef 2.69 o ddyddiau fesul ALlC, yn dangos dirywiad o gymharu â’r gyfradd o 2.23 diwrnod ar gyfer yr un cyfnod yn 2017/18. Ar lefel gwasanaeth, y ddau wasanaeth sy’n tanberfformio o gymharu â’u targedau ar gyfer y chwarter yw Gwasanaethau Oedolion, yn bennaf oherwydd achosion o salwch tymor hir yn yr Uned Ddarparu, a’r Gwasanaeth Dysgu lle mae absenoldeb salwch tymor hir yn ffactor unwaith eto ynghyd â lefel uchel o salwch yn y sector cynradd. Mae’r ddau Bennaeth Gwasanaeth yn ymwybodol o’r mater ac yn gweithio i gyflwyno mesurau lliniaru.

 

Mewn perthynas â rheoli Cwynion gan Gwsmeriaid, ar ddiwedd Chwarter 1 derbyniwyd 13 o gwynion o gymharu ag 20 yn ystod yr un cyfnod yn 2017/18. Mae’r gwasanaeth wedi gwella  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Cynllun Ariannol ar gyfer y Tymor Canol 2019/20 - 2021/22 pdf eicon PDF 786 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn ymgorffori’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2019/20 i 2021/22 i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried. Mae’r cynllun yn nodi strategaeth cyllideb y Cyngor dros y tair blynedd nesaf ac yn nodi’r rhagdybiaethau a fydd yn cael eu cynnwys yn y broses o bennu’r gyllideb flynyddol.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid ei bod yn ofynnol i'r Cyngor sefydlu system gadarn i fonitro a rheoli ei gyllideb refeniw a bod y Cynllun Ariannol Tymor Canol yn elfen allweddol o'r system honno. Dywedodd y bydd rhaid i’r Cyngor wneud penderfyniadau anodd dros y tair blynedd nesaf ac nad oes tebygrwydd y bydd unrhyw lacio yn y toriadau cyllid y mae awdurdodau lleol yng Nghymru wedi eu hysgwyddo dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r rhaglen gyni a gyflwynwyd gan Lywodraeth San Steffan wedi arwain at doriadau yn y cyllid y mae Llywodraeth Cymru yn ei dderbyn ac mae hynny yn ei dro’n cael effaith ar y cyllid y mae cynghorau yng Nghymru’n ei dderbyn sy’n golygu fod cyllidebau cynghorau’n cael eu torri flwyddyn ar ôl blwyddyn. Er gwaetha’r ffaith bod lefelau cyllido awdurdodau lleol wedi lleihau mae’n rhaid i’r Cyngor barhau i ddarparu gwasanaethau i bobl Ynys Môn – ac mae’r gwasanaethau hynny’n cynnwys gwasanaethau ar gyfer pobl fregus a gwasanaethau y mae gofyn cyfreithiol arno eu darparu.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at Dabl 2 yn yr adroddiad sy’n rhoi dadansoddiad o’r arbedion a wnaed fesul gwasanaeth dros gyfnod o dair blynedd rhwng 2013/14 a 2018/19 o gymharu â’r Gyllideb refeniw net ar gyfer 2018/19. Mae’r Cyngor wedi gwneud cyfanswm o £21.748m o arbedion yn y cyfnod hwn ac er ei fod wedi ceisio gwarchod ysgolion, Gwasanaethau Oedolion a’r Gwasanaethau Plant, mae gwasanaethau rheng flaen eraill - Hamdden, Morol, Datblygu Economaidd, Tai, Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo yn benodol - wedi ysgwyddo baich yr arbedion ac wedi darparu’r gyfran uchaf o arbedion o gymharu â’u cyllidebau net.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio fod y Cynllun Ariannol Tymor Canol yn disgrifio sut mae’r Cyngor yn bwriadu delio gyda’r heriau ariannol sy’n ei wynebu dros y tair blynedd nesaf yn ogystal â chydbwyso ei gyllideb a pharhau i ddarparu gwasanaethau a chyflawni ei ddyletswyddau statudol. Cymeradwyodd y Cynllun i’r Pwyllgor Gwaith.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y Cynllun Ariannol Tymor Canol yn gosod y cyd-destun ariannol y bydd rhaid i’r Cyngor weithredu oddi fewn iddo yn ystod y 3 blynedd nesaf. Nid yw’r sefyllfa bresennol yn un galonogol, gyda’r Cyngor yn rhagweld, ar sail data Chwarter 1, y bydd gorwariant o tua £1.744m yn y gyllideb erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2018/19. Fodd bynnag, gellid dadlau fod y cyllidebau wedi cael eu tangyllido ac nad ydynt yn cwrdd â’r galw. Er gwaethaf hynny, rhaid taclo’r hyn sy’n creu gorwariant yn y gwasanaethau neu bydd cronfeydd wrth gefn yr Awdurdod yn cael eu herydu ymhellach, gyda phosibilrwydd y byddant yn disgyn o fod ychydig yn uwch na’r lleiafswm o £6.5m y mae’r Cyngor wedi cytuno arno i lai na  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Monitro'r Gyllideb Refeniw - Chwarter 1, 2018/19 pdf eicon PDF 1007 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, er ystyriaeth gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn amlinellu perfformiad ariannol gwasanaethau’r Cyngor ar ddiwedd chwarter cyntaf blwyddyn ariannol 2018/19 (1 Ebrill – 30 Mehefin).

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio fod y Cyngor wedi gosod cyllideb net ym mis Chwefror ar gyfer 2018/19 gyda gwariant net y gwasanaethau, swm o £130.870m, i gael ei gyllido o incwm o’r Dreth Gyngor, Trethi Annomestig a grantiau cyffredinol oedd yn rhoi cyfanswm o £130.9m yn dilyn addasiadau. Roedd y gyllideb ar gyfer 2018/19 yn cynnwys arbedion angenrheidiol o £2.522m. Fe’u hymgorfforwyd yng nghyllidebau unigol y gwasanaethau a chaiff llwyddiant neu fethiant i’w cyflawni eu hadlewyrchu yn y (tan)/gorwariant net a ddangosir yn yr adroddiad.  Ar sail canlyniadau Chwarter 1, dywedodd yr Aelod Portffolio y rhagwelir cyfanswm o £1.744m o orwariant yn 2018/19 yn cynnwys Cyllid Corfforaethol a chronfa’r Dreth Gyngor. Mae hyn yn cyfateb i 1.33% o gyllideb net y Cyngor ar gyfer 2018/19. Y rheswm am hyn yw pwysau cyllidebol tebyg i’r hyn a brofwyd yn 2017/18, a chost y gwasanaethau plant statudol yw’r elfen fwyaf arwyddocaol.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod llawer o sylw wedi’i roi i ddefnydd yr Awdurdod o staff asiantaeth a/neu ymgynghorwyr a’r costau sy’n codi o ganlyniad i hynny; mae’r Awdurdod yn monitro’r costau hyn yn ofalus ac yn adrodd arnynt yn chwarterol fel rhan o’r gwaith o fonitro’r gyllideb. Dywedodd fod yr Awdurod yn rhan o ddau brosiect seilwaith mawr ar hyn o bryd sy’n creu’r angen am arbenigedd a chymorth arbenigol o du allan i’r Cyngor.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y gorwariant a ragwelir yng nghyllideb 2018/19 yn adlewyrchiad o effaith cronnus toriadau yng nghyllidebau gwasanaethau dros amser. Yn hanesyddol, mae gwasanaethau yng Nghyngor Môn wedi llwyddo’n weddol i gadw o fewn eu cyllidebau gyda gwasanaethau sy’n tanwario yn cynorthwyo i gydbwyso gorwariant mewn meysydd gwasanaeth eraill. Fodd bynnag, wrth i gyllidebau leihau ac i gyllidebau nad ydynt yn cael eu defnyddio ddiflannu, mae llai o sgôp i wasanaethau danwario ar eu cyllidebaudengys yr adroddiad fod y rhan fwyaf o wasanaethau yn debygol o fod o fewn, neu ychydig dros, eu cyllideb erbyn diwedd y flwyddyn ac nid yw hynny o gymorth er mwyn gwrthbwyso gorwariant sylweddol yn y Gwasanaethau Plant. Mae’r adroddiad yn cyfeirio at chwarter cyntaf y flwyddyn ariannol newydd felly mae’n bosib y bydd y sefyllfa’n newid, yn arbennig yn ystod misoedd y gaeaf. Bydd rhaid rhoi sylw i’r sefyllfa o ran y prif orwariant, sef yn y Gwasanaethau Plant, er nad oes fawr o gyfleoedd i weithredu yn bennaf oherwydd diffyg lleoliadau lleol ar yr Ynys ar gyfer plant sy’n derbyn gofal.  Oherwydd hyn, rhaid i’r Gwasanaeth chwilio am leoliadau all sirol sydd yn ddrud ac maent yn creu cost i’r Gwasanaeth Addysg oherwydd y gofyn i  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Monitro'r Cyfrif Refeniw Tai - Chwarter 1, 2018/19 pdf eicon PDF 311 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn amlinellu perfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRA) ar ddiwedd Chwarter 1 2018/19 er ystyriaeth gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod balans agoriadol y CRT yn £7.407k. Mae gwariant o £6m wedi’i gynllunio fydd yn gostwng yr arian wrth gefn i £1.3m. Oherwydd llithriad yn y gwariant cyfalaf bydd llai nag a ragwelwyd o’r CRT yn cael ei ddefnyddio gan adael balans o £3.098m ar ddiwedd y flwyddyn ariannol i gyllido gwariant CRT yn y dyfodol.

 

Penderfynwyd nodi’r sefyllfa o ran perfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 1 ynghyd â’r alldro a ragamcenir ar gyfer 2018/19.

9.

Monitro'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 1, 2018/19 pdf eicon PDF 427 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn amlinellu perfformiad y Gyllideb Gyfalaf ar gyfer chwarter un blwyddyn ariannol 2018, er ystyriaeth gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod Tabl 2.1 yr adroddiad yn darparu crynodeb o’r gwariant cyfalaf hyd at 30 Mehefin, 2018 (£3.198m), y gyllideb a broffiliwyd hyd at 30 Mehefin, 2018 (£4.192m) a’r modd y bwriedir cyllido’r gyllideb gyfalaf flynyddol (£58.853m). Roedd 75% o’r gyllideb a broffiliwyd ar gyfer y gronfa gyffredinol wedi ei wario hyd at ddiwedd y chwarter cyntaf, fodd bynnag, dim ond 5% o'r gyllideb flynyddol sydd wedi cael ei gwario hyd yma yn bennaf oherwydd y bydd yr arian ar gyfer nifer o’r cynlluniau cyfalaf yn cael ei wario yn ystod chwarter olaf y flwyddyn ariannol. Mae Tabl 3.2 yn dangos y sefyllfa mewn perthynas â’r derbyniadau cyfalaf gyda dim ond £270k yn cael ei dderbyn erbyn 30 Mehefin, 2018 yn erbyn rhagamcan o’r derbyniadau cyfalaf o £3.046m. Mae Tabl 4.1 yr adroddiad yn dangos rhagamcan o wariant gwirioneddol ar gyfer 2018/19 yn ei gyfanrwydd.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 y rhagamcanir y bydd tanwariant o £22.594m yn y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2018/19 ac mae’n bosib y bydd yn llithro i Raglen Gyfalaf 2019/20. Bydd y cyllid ar gyfer y llithriad hwn hefyd yn llithro i 2019/20 a bydd yn cael ei gymryd i ystyriaeth wrth gynhyrchu’r Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys a’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2019/20. Mae’r prif brosiectau y rhagwelir y byddant yn tanwario yn cael eu rhestru yn Adran 4.2 yr adroddiad ac yn cynnwys tri phrosiect mawr (safle ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, Gwelliannau i’r A5025 i Wylfa Newydd ac Ysgol Newydd yr Unfed Ganrif ar Hugain yn Llangefni. Bydd y cyllid ar gyfer y prosiectau hyn yn cael ei ddwyn ymlaen i 2019/20 ac ni ragwelir ar hyn o bryd y bydd yr arian yn cael ei golli oherwydd yr oedi.

 

Penderfynwyd nodi’r cynnydd o ran gwariant a derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2018/19 yn Chwarter 1.

10.

Adolygiad o'r Strategaeth Rheoli Trysorlys 2017/18 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn ymgorffori’r Adolygiad Blynyddol Rheoli Trysorlys ar gyfer 2017/18 er ystyriaeth gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd y Deilydd Portffolio Cyllid fod rhaid i’r Cyngor, yn unol â rheoliadau a gyhoeddwyd dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003, gynhyrchu adolygiad blynyddol ar weithgareddau rheoli trysorlys a’r dangosyddion pwyllog a thrysorlys gwirioneddol am 2017/18. Mae’r adroddiad hwn yn bodloni gofynion Côd Ymarfer CIPFA ar Reoli Trysorlys a Chôd Pwyllog CIPFA ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y Strategaeth Rheoli Trysorlys wedi aros yn gyson yn ystod y blynyddoedd diwethaf gan ddilyn trefn o fewnoli benthyca lle bo hynny’n bosib, gan ddefnyddio balansau’r Cyngor ei hun i gyllido rhan o’r fenthyca cyfalaf. Fodd bynnag, yn y tymor hir disgwylir y bydd rhaid benthyca er mwyn adfer balansau’r Cyngor. O ran buddsoddiadau, mae’r enillion wedi aros yn isel oherwydd cyfraddau llog isel a’r strategaeth a ddilynwyd oedd lleihau risg drwy ddewis cyd-bartïon buddsoddi ar sail statws credyd a ddarperir gan y tri phrif asiantaeth sy’n darparu statws credyd ynghyd â data ychwanegol am y farchnad. Y prif amcanion oedd diogelwch a hylifedd a sicrhau fod arian digonol ar gael i dalu credydwyr y Cyngor ayb.

 

Penderfynwyd

 

           Nodi y bydd y ffigyrau alldro yn yr adroddiad hwn yn parhau i fod yn rhai dros dro hyd nes bydd yr archwiliad o Ddatganiad Cyfrifon 2017/18 wedi ei gwblhau a’i lofnodi; adroddir fel sy’n briodol ar unrhyw addasiadau sylweddol i’r ffigyrau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad hwn.

           Nodi’r dangosyddion pwyllog a thrysorlys dros dro ar gyfer 2017/18 sydd yn yr adroddiad.

           Derbyn yr Adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol am 2017/18 a’i gyflwyno i’r Cyngor llawn heb unrhyw sylwadau.

 

11.

Adroddiad Cynnydd ar y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd pdf eicon PDF 356 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Plant.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn nodi’r cynnydd hyd yma yn erbyn y Cynllun Gwella Gwasanaeth er ystyriaeth gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd yr Arweinydd a Deilydd Portffolio'r Gwasanaethau Cymdeithasol fod y Gwasanaeth wedi llwyddo i recriwtio dau Weithiwr Cymdeithasol profiadol er gwaethaf prinder cenedlaethol o Weithwyr Cymdeithasol a’i fod wedi gweithredu ei gynllun wrth gefn, sef recriwtio Gweithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso fydd yn cael eu cefnogi gan Weithwyr Cymdeithasol Asiantaeth dros gapasiti am gyfnod o flwyddyn. Cyflwynodd y Tîm Cefnogi Annibynnol, sydd wedi bod yn gweithio gyda’r gwasanaeth i helpu i wneud gwelliannau yn dilyn arolygiad gan AGGCC (AGC) ddiwedd 2016, ei adroddiad terfynol i’r Panel Gwella Gwasanaethau Plant ym mis Gorffennaf. Cynhwysir detholiad o adborth y Tîm Cefnogi Annibynnol yn yr adroddiad; ar y cyfan mae’r adborth yn gadarnhaol ac mae’n amlygu nifer o feysydd lle mae newidiadau wedi arwain at welliannau arwyddocaol. Er gwaetha’r ffaith fod rhai materion angen sylw o hyd, mae’r Tîm Cefnogi Annibynnol yn barnu fod y gwelliannau a wnaethpwyd yn argoeli’n dda ar gyfer y dyfodol ac yn gosod sylfaen gadarn i adeiladu arno. Yn ogystal, cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at y gwelliannau amlwg ym mherfformiad y Gwasanaeth yn erbyn Dangosyddion Perfformiad yn ystod y chwarteri olaf fel yr adlewyrchir yn adran 3 yr adroddiad; yn ogystal mae perfformiad mewn perthynas â chyflawni safonau perfformiad corfforaethol megis targedau absenoldeb salwch a chwblhau modiwlau hyfforddiant gorfodol ar-lein wedi gwella’n fawr.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith fod yr arfarniad o gynnydd a gyflwynir yn y diweddariad hwn ac adroddiadau blaenorol yn rhoi sicrwydd fod y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn gwella ac yn golygu fod y Pwyllgor Gwaith yn gallu bod yn fwy hyderus ynglŷn â sut mae’r Gwasanaeth yn gweithredu yn awr ond gyda’r rhybuddion canlynol

 

           Fod y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd angen rhoi trefniadau mewn lle i sicrhau fod y gwelliannau a wneir yn gynaliadwy dros amser er mwyn lleihau’r posibilrwydd fod perfformiad yn amrywio.

           Fod cyfraddau gadael ymysg Gweithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso yn bryder ac yn risg y mae angen camau lliniaru ar ei gyfer.

 

Roedd y Dirprwy Brif Weithredwr/Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cydnabod ei bod yn bwysig cael trefniadau effeithiol a chadarn mewn lle i gynnal y newidiadau a wnaed mewn ymarfer, polisïau a strwythurau staffio. Mae goruchwyliaeth, sicrhau ansawdd a phrosesau archwilio wedi cael eu datblygu a byddant yn sicrhau fod ansawdd yr ymarfer yn parhau i fod yn gyson o ddydd i ddydd a bod modd dangos tystiolaeth o hynny. Mewn perthynas â’r pwysau ar Weithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso, mae’r strwythur staffio newydd a gyflwynwyd yn golygu fod Gweithwyr Cymdeithasol yn gweithio mewn timau llai, yn delio gyda llai o achosion, yn cael gwell mynediad at Arweinwyr Ymarfer ac yn cael eu goruchwylio’n fwy cysonmae’r holl ffactorau hyn yn cyfrannu at wneud eu gwaith yn fwy diogel.  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11.

12.

Protocol y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol pdf eicon PDF 920 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes a Chyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, er ystyriaeth gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes)/Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymgorffori Protocol ynglŷn â Rôl a Chyfrifoldebau Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghyngor Sir Ynys Môn. Hysbyswyd y Pwyllgor Gwaith fod y protocol gwreiddiol a luniwyd yn 2016 wedi cael ei adolygu a’i ddiweddaru er mwyn nodi rôl Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol yn unol â Rhan 8 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Penderfynwyd argymell i’r Cyngor -

 

           Ei fod yn mabwysiadu’r Protocol sydd wedi ei gynnwys yn Atodiad 1 yr adroddiad.

           Ei fod yn rhoi’r awdurdod i Bennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor/Swyddog Monitro) y Cyngor i wneud y newidiadau angenrheidiol i’r Cynllun Dirprwyo ar gyfer y prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes) yn y Cyfansoddiad ac unrhyw newidiadau a wneir o ganlyniad er mwyn adlewyrchu mabwysiadu’r Protocol yn Atodiad 1.

13.

Adroddiad Blynyddol Iechyd a Diogelwch pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, er ystyriaeth gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd yn ymgorffori'r Adroddiad Blynyddol Iechyd a Diogelwch Corfforaethol 2017/18. Roedd yr adroddiad yn nodi nifer y digwyddiadau iechyd a diogelwch a gofnodwyd yn ystod y flwyddyn ynghyd â dadansoddiad ohonynt; nifer y digwyddiadau gafodd eu hadrodd i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE), a oedd angen unrhyw gamau dilynol ynghyd â chrynodeb o waith partneriaeth.

 

Nodwyd bod Uwch Swyddogion, Adnoddau Dynol ac Iechyd a Diogelwch Corfforaethol wedi gwneud gwaith sylweddol i sefydlu dull o adfywio Iechyd a Diogelwch o fewn y Cyngor. Dylai’r Polisi Iechyd a Diogelwch Corfforaethol diwygiedig sy’n nodi’n glir bod Iechyd a Diogelwch yn gyfrifoldeb i bob Aelod Etholedig a Staff arwain at ddiwylliant Iechyd a Diogelwch gwell o fewn y Cyngor ac, ynghyd â rôl y Cydlynwyr Iechyd a Diogelwch, osod y sylfaen ar gyfer cynnal a gwella iechyd a diogelwch o fewn y Cyngor.

 

Dywedodd yr Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch Corfforaethol fod Iechyd a Diogelwch yn broses barhaus a bod gwaith ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar welliant parhaus, yn unol â’r Cynllun Gwella Iechyd a Diogelwch (sydd ynghlwm i’r adroddiad blynyddol).

 

Roedd y Pwyllgor Gwaith yn nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd ac yn cydnabod y gwaith a wnaethpwyd i gryfhau trefniadau a strwythurau Iechyd a Diogelwch o fewn y Cyngor. Nododd y Pwyllgor Gwaith hefyd fod pryderon wedi ymddangos yn y wasg yn ddiweddar ynglŷn â pheryglon y cemegyn glyphosate fel cynhwysyn mewn rhai mathau o blaladdwyr. Gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am eglurhad ynglŷn â defnydd yr Awdurdod o glyphosate.

 

Dywedodd yr Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch Corfforaethol fod glyphosate wedi ei drwyddedu gan yr HSE ac o’r herwydd fod mesurau rheoli caeth yn bodoli mewn perthynas â’i ddefnyddio a rhaid i bob contractwr sy’n gweithio i’r Awdurdod gydymffurfio â’r gofynion hynny. Mae’r Awdurdod yn monitro’r sefyllfa.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod yr Awdurdod wedi trafod y defnydd o glyphosate gydag awdurdodau eraill a’i fod yn cadw golwg ar y mater. Agwedd yr Awdurdod, a’r awdurdodau eraill yng Ngogledd Cymru’n gyffredinol, yw parhau i ddefnyddio glyphosate fel chwynladdwr o fewn y canllawiau caeth a gyhoeddwyd ac i barhau i fonitro’r sefyllfa o ran unrhyw ddatblygiadau.

 

Penderfynwyd derbyn yr Adroddiad Blynyddol Iechyd a Diogelwch Corfforaethol ar gyfer 2017/18 a gweithredu’r Cynllun Datblygu.