Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Gwaith - Dydd Llun, 29ain Hydref, 2018 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

 

2.

Materion brys a ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu Swyddog a Benodwyd Ganddo

Dim materion brys ar adeg anfon allan y rhaglen hon.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w adrodd.

 

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 296 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 17 Medi 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith ar 17 Medi, 2018 i’w cadarnhau.

 

Penderfynwyd cadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 17 Medi, 2018 fel rhai cywir.

4.

Cofnodion - Panel Rhiant Corfforaethol pdf eicon PDF 243 KB

Cyflwyno er gwybodaeth, cofnodion drafft y Panel Rhiant Corfforaethol a gynhaliwyd ar 10 Medi 2018.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod y Panel Rhiant Corfforaethol a gynhaliwyd ar 10 Medi, 2018 i’w mabwysiadu.

 

Penderfynwyd mabwysiadu cofnodion drafft y Panel Rhiant Corfforaethol a gynhaliwyd ar 10 Medi, 2018.

 

 

5.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 760 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn ymgorffori Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng mis Tachwedd, 2018 a mis Mehefin, 2019 er ystyriaeth gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fel a ganlyn -

 

  Fod eitem 8 (Prosiect Rhwydwaith Ffeibr Llawn Lleol (LFFN)) yn newydd i’r Flaenraglen a bydd yn cael ei hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 26 Tachwedd, 2018.

  Ers cyhoeddi’r adroddiad mae’r Gwasanaethau Plant wedi gwneud cais i’r Pwyllgor Gwaith ystyried dwy eitem yn ei gyfarfod ar 17 Rhagfyr, 2018 yn ymwneud â Cartrefi Grŵp Bach – Opsiynau Gofal ar gyfer y Dyfodol a phecynnau Maethu ar gyfer Gofalwyr Maeth.

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaenraglen Waith wedi ei diweddaru y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod Tachwedd, 2018 i Fehefin, 2019 gyda’r newidiadau a amlinellwyd yn y cyfarfod.

6.

Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu - Diweddaru'r Cylch Gorchwyl pdf eicon PDF 824 KB

Cyflwyno adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a’r Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, er ystyriaeth gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg yn ymgorffori Cylch Gorchwyl diwygiedig y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid ei bod yn arfer dda i bwyllgorau adolygu eu cylch gorchwyl er mwyn sicrhau eu bod yn briodoladolygwyd cylch gorchwyl y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ddiwethaf ym mis Mai, 2015. Ym mis Mai, 2018 bu i’r Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) adolygu a diweddaru ei ganllawiau er mwyn cymryd i ystyriaeth y newidiadau mewn deddfwriaeth a datblygiadau proffesiynol sydd wedi effeithio ar y sector cyhoeddus. Mae’r canllawiau newydd yn diweddaru swyddogaethau craidd y pwyllgor archwilio mewn perthynas â llywodraethu, rheoli risg, rheolaeth fewnol ac yn diweddaru swyddogaeth y pwyllgor archwilio mewn perthynas ag atal twyll er mwyn adlewyrchu’r Côd Ymarfer ar gyfer Rheoli’r Risg o Dwyll a Llygredigaeth. Roedd aelodau’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn bresennol mewn gweithdy i drafod y canllawiau diwygiedig a gynhaliwyd ar 13 Mehefin, 2018 ac maent wedi cymeradwyo’r Cylch Gorchwyl diwygiedig.

 

Eglurodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod canllawiau CIPFA wedi eu hymgorffori yn eu cyfanrwydd yn y cylch gorchwyl newydd ac eithrio’r gofyniad i’r Cyngor Llawn gymeradwyo penodi aelodau lleyg y Pwyllgor. Ar hyn o bryd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraeth sy’n gyfrifol am hynny ac argymhellir bod y drefn honno’n parhau gan fod risg, oherwydd amserlen pwyllgorau, y byddai disgwyl am gyfarfod o’r Cyngor Llawn i benodi aelodau lleyg yn golygu na fyddai modd i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu gyfarfod a gallai hynny olygu na fyddai modd cymeradwyo'r datganiad cyfrifon drafft o fewn y terfynau amser.

 

Roedd y Pwyllgor gwaith yn cefnogi’r cynnig i barhau â’r drefn lle mae Aelodau Lleyg yn cael eu penodi gan y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu; cadarnhaodd y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro bod y cynnig yn dderbyniol o safbwynt cyfreithiol.

 

Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Llawn ei fod yn mabwysiadu Cylch Gorchwyl drafft newydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu.

7.

Newidiadau i'r Cyfansoddiad - Diwygio'r Côd Ymddygiad i Swyddogion / Canllawiau Lleol ar y Côd Ymddygiad i Swyddogion pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, er ystyriaeth gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yn ymgorffori newidiadau i’r Côd Ymddygiad i Swyddogion a’r Canllawiau Lleol ar y Côd Ymddygid i Swyddogion.

 

Adroddodd y Cadeirydd fod y Côd Ymddygiad a Chanllawiau presennol wedi cael eu diwygio mewn ymateb i argymhellion yr Adroddiad Archwilio Mewnol ar Ddiwylliant Moesegol ac mae’r dyfyniad perthnasol o’r adroddiad hwnnw wedi ei gynnwys yn Atodiad 1 yr adroddiad. Diweddarwyd y Côd Ymddygiad ei hun er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth ac mae’r newidiadau yn cael eu dangos yn Atodiad 2. Diweddarwyd y canllawiau er mwyn eu gwneud yn haws eu defnyddio ac ymgorffori’r gofynion deddfwriaethol newydd ac mae copi o’r ddogfen yn Atodiad 3.

 

Ymgynghorwyd ar y Côd Ymddygiad a’r Canllawiau gyda’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth, y Penaethiaid Gwasanaeth a’r Pennaeth Archwilio a Risg; diwygiwyd y canllawiau gwreiddiol er mwyn ymgorffori sylwadau a wnaed yn ystod yr ymgynghoriad hwnnw. Os bydd y Cyngor yn cymeradwyo’r Côd a’r Canllawiau byddant yn cael eu cyhoeddi ar Borth Polisi’r Cyngor ac yn cael eu cynnwys yn y drefn Derbyn Polisïau Corfforaethol ble mae’n ofynnol i swyddogion glicio i dderbyn ac ateb cwestiynau ynglŷn â’r dogfennau diwygiedig.

 

Penderfynwyd argymell bod y Cyngor Llawn yn -

 

  Mabwysiadu’r Côd Ymddygiad i Swyddogion sydd wedi ei gynnwys Atodiad 2 yr adroddiad.

  Mabwysiadu’r Canllawiau Lleol i’r Côd Ymddygiad Swyddogion sydd wedi ei gynnwys yn Atodiad 3 yr adroddiad.

  Awdurdodi’r Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro i wneud y newidiadau angenrheidiol i’r Cyfansoddiad, yn cynnwys unrhyw newidiadau dilynol, er mwyn adlewyrchu’r ffaith fod Atodiadau 2 a 3 wedi cael eu mabwysiadu.

8.

Cyllid ar gyfer Gwaith Llifogydd yn Llangefni pdf eicon PDF 439 KB

Cyflwyno adroddiad gan Bennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, er ystyriaeth, adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) yn gofyn i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo dyrannu £85k o gyllid cyfalaf i’r Gwasanaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo er mwyn cwrdd â’r gost o drwsio wal atal llifogydd tu ôl i Glandwr, Llangefni. Roedd y gymuned yn teimlo’n gryf bod angen cymryd camau brys cyn gaeaf 2018. Yn dilyn hynny, trefnodd CNC fod yr afon yn cael ei glanhau a gwaith modelu llifogydd yn cael ei wneud. Fodd bynnag, nodwyd ar y pryd nad oedd modd cadarnhau pryd fyddai unrhyw waith yn deillio o’r broses fodelu yn cael ei wneud.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio bod y Cyngor wedi archwilio’r asedau hynny o’i eiddo yn Llangefni fyddai’n gallu gwneud gwahaniaeth petai digwyddiad tebyg o law eithafol ar y raddfa a gafwyd ym mis Tachwedd 2017 yn digwydd eto ac adnabuwyd rhan o wal derfyn, ym mherchnogaeth y Cyngor, ger Afon Cefni a thu cefn i Deras Glandwr. Roedd y wal wedi decharu dymchwel mewn rhai mannau ac ystyriwyd y byddai trwsio’r wal hon yn lleihau’r perygl o lifogydd yn Nheras Glandwr ac yn lleihau’r perygl o ddŵr llifogydd lifo ar hyd Ffordd Glandwr ac i Stryd yr Eglwys. Y dewis arall yn hytrach na thrwsio’r wal fyddai disgwyl i CNC gwblhau’r gwaith modelu llifogydd ond mae perygl y byddai eiddo a busnesau yng nghanol y dref yn cael eu heffeithio gan lifogydd eto yn y cyfamser. Mae rhai preswylwyr yn dal i gael eu heffeithio gan y difrod a achoswyd o ganlyniad i lifogydd mis Tachwedd 2017 ac nid yw rhai busnesau wedi ailagor. Byddai oedi cyn gwneud y gwaith yn creu risg o lifogydd pellach ac yn niweidio enw da’r Awdurdod.

 

Roedd y Pwyllgor Gwaith yn cefnogi’r cais am gyllid cyfalaf ar yr amod bod sicrwydd yn cael ei roi fod yr arian ar gael.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bod disgwyl y bydd tanwariant yn y gyllideb gyfalaf erbyn diwedd y flwyddyn a bod modd felly dyrannu £85k o’r arian cyfalaf sy’n weddill i’r cynllun hwn.

 

Yn ogystal, roedd y Pwyllgor Gwaith yn cydnabod y gwaith a wnaethpwyd gan y Gwasanaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo mewn ymateb i’r llifogydd a’r difrod a gafwyd yn Llangefni ac mewn ardaloedd eraill ar yr Ynys a gafodd eu heffeithio gan y llifogydd ym mis Tachwedd 2017.

 

Penderfynwyd bod y Gwasanaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo yn derbyn £85k o gyllid cyfalaf er mwyn cwrdd â chost gwaith atgyweirio wal atal llifogydd tu cefn i Glandwr, Llangefni.

9.

Rheoli Gwastraff - Penodi Rheolwr Prosiect Dros Dro pdf eicon PDF 871 KB

Cyflwyno adroddiad gan Bennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, er ystyriaeth gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) yn gofyn i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo penodi Rheolwr Prosiect dros dro hyd at 31 Mawrth, 2021.

 

Adroddodd y Deilydd Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo fod gan y Cyngor ddyletswydd statudol i gasglu gwastraff, cadw tir perthnasol yn rhydd o sbwriel a chwrdd â thargedau ailgylchu statudol. Cyfanswm cost y gwasanaeth yn 2017/2018 oedd oddeutu £3.8m. Daw’r contract 14 mlynedd presennol gyda Biffa Municipal i ben ar 21 Mawrth 2021 a rhaid datblygu cynlluniau i sicrhau bod opsiynau hyfyw mewn lle pan ddaw’r contract presennol i ben. Bydd y broses o ail-gaffael y contract yn dasg sylweddol ac oherwydd ei faint a’i gymhlethdod bydd angen adnoddau sylweddol i gyflenwi’r prosiect. Fel y gwelir yn adran 2 yr adroddiad, bydd rhaid dwyn ynghyd nifer o arbenigeddau fel rhan o’r broses gaffael er mwyn sicrhau fod gwahanol ffrydiau yn cael eu rheoli a’u gweithredu mewn modd amserol. Barn Swyddogion a’r Uwch Dîm Rheoli yw y dylid penodi Rheolwr Prosiect ar gontract cymharol fyrdymor er mwyn sicrhau bod y prosiect caffael yn cael ei gyflenwi i safon uchel er mwyn sicrhau fod y risgiau’n cael eu lleihau, dyddiadau cau yn cael eu cwrdd a bod y Cyngor yn cael gwerth am arian.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Gwaith y wybodaeth a gyflwynwyd ac, wrth gydnabod maint a chymhlethdod y contract newydd, gwnaed y pwyntiau a ganlyn -

 

  Bod rhaid gwneud popeth posib er mwyn sicrhau bod y contract sy’n cael ei gaffael yn addas i bwrpas.

  Ystyrir bod angen penodi rheolwr prosiect dros dro oherwydd diffyg capasiti o fewn y Cyngor o ganlyniad i doriadau dros nifer o flynyddoedd. Fodd bynnag, nodwyd y bydd y sawl a benodir yn gweithio gyda staff Adain Rheoli Gwastraff y Cyngor fydd yn darparu cyfran helaeth o’r amser, arbenigedd ac adnoddau i gefnogi’r broses gaffael.

  A fyddai modd ystyried cydweithio gydag awdurdod lleol cyfagos er mwyn rhannu capasiti.

  A fyddai modd i’r Cyngor ystyried darparu’r gwasanaeth casglu a glanhau gwastraff yn fewnol.

  Sut fyddai diwrnodau rhydd y Rheolwr Prosiect (1-2 ddiwrnod yr wythnos yn ystod y ddwy flynedd ariannol gyntaf a 3 diwrnod yr wythnos yn ystod y flwyddyn olaf) yn cael eu rhannu rhwng y prosiectau trawsnewid eraill a nodir yn yr adroddiad.

  A yw’n penodi’r unigolyn iawn sy’n meddu ar yr arbenigedd angenrheidiol i swydd dros dro yn debygol o fod yn anodd.

 

Dywedodd y Deilydd Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo y rhagwelir y bydd y Rheolwr Prosiect dros dro yn ymgymryd â’r tasgau a restrir yn Atodiad 1 yr adroddiad, yn cynnwys cynnal arfarniad o opsiynau er mwyn asesu pa wasanaethau a ddylid eu darparu a sut.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at lwybrau recriwtio posib e.e. mae gwaith adeiladu’r cyfleuster adfer ynni, Parc Adfer,  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 164 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd fel y cyflwynwyd nhw.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriwyd a phenderfynwyd o dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd fel y'i cyflwynwyd.

11.

Moderneiddio Ysgolion Ynys Môn - Achos Strategol Amlinellol / Achos Busnes Amlinellol - Ysgol Gynradd Newydd yn lle Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Dysgu yn ymgorffori’r Achos Strategol Amlinellol a’r Achos Busnes Amlinellol (ASA/ABA) ar gyfer ysgol gynradd newydd yn lle Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried a’i gymeradwyo.

 

Mae’r adroddiad yn amlinellu’r sail strategol, economaidd, masnachol, ariannol a rheolaethol dros greu ysgol newydd yn unol â phroses Achos Busnes Ysgolion yr 21ain Ganrif er mwyn derbyn arian cyfalaf ar gyfer y prosiect.

 

Adroddodd y Deilydd Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid bod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wedi ystyried yr ASA/ABA ar gyfer yr ysgol newydd yn ei gyfarfod ar 24 Hydref, 2018 ac ar ôl gofyn am eglurhad ynglŷn â materion yn ymwneud â diogelwch y briffordd, fforddiadwyedd, telerau contract, amserlen adeiladu a’r gwaith yn rhedeg yn hwyr, bod y Pwyllgor wedi cymeradwyo’r Achos Strategol Amlinellol a’r Achos Busnes Amlinellol ac yn argymell i’r Pwyllgor Gwaith ei fod yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Diolchodd yr Aelod Portffolio i’r Pwyllgor Sgriwtini am drafodaeth adeiladol ar y mater.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Dysgu drosolwg o’r ASA/ABA a chyfeiriodd at y manylebau ar gyfer yr ysgol newydd a’i statws fel ased cymunedol, amcangyfrif o gostau’r prosiect, y broses a ddilynwyd i arfarnu’r safle a thendro a’r cynllun prosiect arfaethedig a’r amserlen gyflenwi.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Dylan Rees, Aelod Lleol ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol fod y Pwyllgor, wrth ystyried yr ASA/ABA, wedi codi materion yn ymwneud â phriffyrdd, cyflenwad digonol o lefydd parcio, amodau traffig a diogelwch ffyrdd gerllaw lleoliad safle’r ysgol newydd, cadw at amserlenni; sicrhau fod telerau contract yn ddigon cadarn i sicrhau gwerth am arian i’r Cyngor a pharhau â’r drafodaeth gyda chymuned Bodffordd ynghylch yr adnodd cymunedol yn Ysgol Bodffordd.

 

Mewn perthynas â fforddiadwyedd y prosiect, dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 y gall cyfanswm yr arbedion sy’n deillio o gynlluniau moderneiddio ysgol amrywio yn dibynnu ar faint o ysgolion sy’n cael eu cau fel rhan o’r broses mewn ardal benodol. Yn yr achos hwn, nid yw’r arbedion yn sylweddol a bydd y prosiect yn creu costau ychwanegol i’r Cyngor. Fodd bynnag, mae’r ffaith bod Llywodraeth Cymru’n cynnig cyfraniad tuag at gostau cyfalaf fel rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn cynnig cyfle unwaith mewn oes i’r Awdurdod foderneiddio ei stoc ysgolion gan gadw mewn cof y byddai’n rhaid iddo fel arall ariannu costau ôl-groniad cynnal a chadw ar ei ysgolion, sy’n gost sylweddol.

 

Penderfynwyd

 

  Cymeradwyo’r Achos Strategol Amlinellol a’r Achos Busnes Amlinellol cyfunedig (ASA/ABA) ar gyfer yr ysgol gynradd newydd yn lle Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir.

  Bod yr ASA/ABA yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

  Bod derbyniadau cyfalaf i ariannu adeiladau’r ysgol gynradd newydd yn cael eu neilltuo ar yr amod nad oes problemau’n codi wrth werthu’r safle(oedd).