Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

Cyn cychwyn ar fusnes y cyfarfod, llongyfarchodd y Cadeirydd, ar ran y Pwyllgor Gwaith,  Dr Caroline Turner, Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes)/Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol, ar gael ei phenodi’n Brif Weithredwr Cyngor Sir Powys a dymunodd yn dda iddi yn ei swydd newydd.

 

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig

Dim materion brys ar adeg anfon allan y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w hadrodd.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 254 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 29 Hydref, 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w cadarnhaucofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 29 Hydref, 2018.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 29 Hydref, 2018 fel rhai cywir.

4.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 749 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaith – adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod rhwng Rhagfyr 2018 a Gorffennaf 2019.

 

Rhoes Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ddiweddariad i’r Pwyllgor Gwaith fel a ganlyn –

 

           Mae 2 eitem yn newydd i’r Flaen Raglen Waith, sef eitem 3 – Datblygu Safle i Sipsiwn a Theithwyr, Star ac eitem 7 – Moderneiddio Ysgolion Ynys Môn: Adroddiad ar Wrthwynebiadau i godi Ysgol Gynradd Newydd yn lle Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir ac mae’r ddwy eitem wedi cael eu rhaglennu i gael eu trafod gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 17 Rhagfyr, 2019. 

           Bod eitem 5 (Prosiect Rhwydwaith Ffeibr Llawn Lleol (LFFN), eitem 6 (Sefydlu Bwrdd Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy) ac eitem 8 (Moderneiddio Ysgolion Ynys Môn – Achos Busnes Amlinellol i ymestyn Ysgol y Graig a chau Ysgol Talwrn) wedi cael eu hail-raglennu i gael eu hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 17 Rhagfyr, 2018 yn lle 26 Tachwedd, 2018 fel y bwriadwyd yn wreiddiol. 

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Rhaglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi ei diweddaru am y cyfnod Rhagfyr, 2018 i Orffennaf 2019 fel y’i chyflwynwyd.

5.

Cerdyn Sgorio Corfforaethol - Chwarter 2, 2018/19 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaithadroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid Corfforaethol yn ymgorffori’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 2, 2018/19.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Busnes y Cyngor bod y sefyllfa o ran Rheoli Perfformiad ar ddiwedd Chwarter 2 yn bositif gydag ond 2 o’r dangosyddion yn tanberfformio yn erbyn eu targed blynyddol am y flwyddyn. Roedd y ddau ddangosydd a oedd yn tanberfformio yn ymwneud â’r Gwasanaethau Oedolion ac fe gafwyd manylion yn adran 2.4.3 yr adroddiad ynghyd â’r camau lliniaru a argymhellwyd gan yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth. Roedd perfformiad o ran rheoli absenoldeb salwch hefyd wedi gwella o gymharu â Chwarter 1 er ei fod ychydig islaw’r targed o gymharu â’r un cyfnod yn  2017/18. Mae lefelau absenoldeb salwch wedi gwella’n benodol yn y Gwasanaethau Oedolion a’r Gwasanaeth Dysgu yn ystod y chwarter ac mae’r ddau wasanaeth wedi cael eu blaenoriaethu gan yr UDA ar gyfer gwelliant pellach yn Chwarter 3. Mae cynllun gwaith salwch wedi cael ei lunio’n benodol i fynd i’r afael ag absenoldeb salwch yn yr ysgolion cynradd ac mae’r gwasanaeth wrthi’n ei weithredu. Dywedodd yr Aelod Portffolio ei bod yn bleser fodd bynnag i allu adrodd bod nifer y Cyfweliadau Dychwelyd i’r Gwaith a gynhaliwyd o fewn yr amserlen ofynnol wedi cyrraedd y targed am y tro cyntaf yn y tair blynedd ddiwethaf.   

 

Dan Wasanaethau Cwsmer, mae nifer defnyddwyr cofrestredig Ap Môn yn parhau i dyfu gyda chynnydd o bron i 600 o ddefnyddwyr o ddiwedd Chwarter 1 sy’n dod â’r cyfanswm i 4,883 ar ddiwedd Chwarter 2. Cafwyd 552 o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth gyda 3,899 o gwestiynau erbyn diwedd Chwarter 2 ac fe ymatebwyd i 76% ohonynt o fewn yr amserlen ofynnol. Mae’r UDA a’r Penaethiaid Gwasanaeth yn parhau i fonitro’n ofalus y perfformiad o ran ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio yn fras at Reolaeth Ariannol a’r alldro rhagdybiedig ar gyfer cyllideb refeniw’r flwyddyn ariannol gyfredol sy’n rhagweld gorwariant o £2.660m. Bydd hyn yn cael sylw manylach dan eitem arall ar y rhaglen.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Dylan Rees, Is-gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, adroddiad ar gyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd pryd trafodwyd Chwarter 2 y Cerdyn Sgorio Corfforaethol. Wrth graffu’r Cerdyn Sgorio, roedd y Pwyllgor wedi nodi’r isod -

           Mae’r cerdyn sgorio yn ei chweched flwyddyn ac yn ystod y cyfnod hwn, mae’r broses o gasglu gwybodaeth ac adrodd ar ddangosyddion perfformiad mewn modd cydlynol wedi esblygu ac aeddfedu.

           Bod perfformiad yn erbyn dangosyddion cenedlaethol allweddol yn dda yn gyffredinol a bod rhai meysyddGwasanaethau Oedolion yn benodolangen sylw pellach. Roedd y Pwyllgor yn glir am y mesurau lliniaru a argymhellwyd gan yr UDA i wella perfformiad.

           Bod lefelau absenoldeb salwch yn Chwarter 2 wedi gwella o gymharu â Chwarter 1 ond nad oeddynt gystal â’r un cyfnod y llynedd.

           Bod y Cyngor yn parhau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw - Chwarter 2, 2018/19 pdf eicon PDF 995 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaithadroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn amlinellu perfformiad ariannol gwasanaethau’r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 2, sef y cyfnod rhwng 1 Ebrill, 2018 a 30 Medi, 2018.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid ei bod yn siomedig nodi, yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael hyd yma, mai’r sefyllfa ariannol ragdybiedig ar gyfer  2018/19 gan gynnwys Cyllid Corfforaethol a Chronfa’r Dreth Gyngor yw gorwariant o £2.660m sy’n cynrychioli 2.3% o gyllideb net y Cyngor am 2018/19. Mae hyn i’w briodoli i’r pwysau tebyg a welwyd ar y gyllideb yn 2017/18 ac roedd y pwysau mwyaf sylweddol ar y gwasanaethau statudol i blant. Gofynnwyd i Adrannau edrych ar ffyrdd o leihau gwariant am weddill y flwyddyn ariannol ac i gyflwyno cynlluniau arbedion. Dywedodd yr Aelod Portffolio, er bod modd ariannu’r lefel hon o orwariant o’r arian wrth gefn cyffredinol yn 2018/19, byddai gwneud hynny yn gostwng ymhellach falansau cyffredinol y Cyngor. Mae gorfod defnyddio arian wrth gefn i sicrhau cyllideb gytbwys yn arwydd o raddfa’r pwysau ariannol sydd ar y Cyngor ac yn golygu y bydd raid iddo edrych yn ofalus ar y modd y caiff y gyllideb ar gyfer  2019/20 ei gosod a’r modd y caiff ei hariannu.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bod tri o brif wasanaethau’r Cyngor – y Gwasanaethau Oedolion, y Gwasanaethau Plant a’r Gwasanaeth Dysgu yn wynebu lefel gynyddol o alw am y gwasanaethau sy’n golygu eu bod yn gorwario ar eu cyllidebau. Er bod y sefyllfa o ran gwasanaethau eraill y Cyngor yn well ar ddiwedd Chwarter 2, nid yw’n ddigon i gwrdd â gorwariant y tri gwasanaeth arall. Er y gobeithir bod y gorwariant mwyaf wedi digwydd ac y gellir cynnal gwariant rhwng rŵan a diwedd y flwyddyn ariannol, mae hyn yn dibynnu ar amgylchiadauyn enwedig pwysau dros y gaeaf a lefel y  galw am wasanaethau. Dywedodd y Swyddog y gofynnir i’r Pwyllgor Gwaith hefyd gefnogi defnyddio’r arian wrth gefn ar gyfer Tâl Cyfartal, sef cronfa a gafodd ei chreu i ddelio gyda hawliadau Tâl Cyfartal, er mwyn ariannu’r diffyg o ran diswyddiadau yn ystod 2018/19. Mae’r broses Tâl Cyfartal wedi dod i ben mwy neu lai gyda’r mwyafrif o’r hawliadau wedi cael eu setlo gan adael gwarged yn y gronfa y gellir ei drosglwyddo i helpu gyda’r sefyllfa gyllidebol bresennol.

 

Wrth drafod yr adroddiad a’r sefyllfa yr oedd yn ei hadlewyrchu, gwnaed y pwyntiau a ganlyn gan y Pwyllgor Gwaith -

 

           Mae rheoli cyllidebau sy’n dibynnu ar y galw am wasanaethau yn anodd ac nid Ynys Môn yw’r unig gyngor sy’n wynebu’r her o ymdopi’n ariannol gyda galw cynyddol. Nodwyd bod raid i’r Cyngor ymateb i anghenion oedolion bregus a phlant ond bod cyflymder y twf yn y galw am y gwasanaethau hyn yn golygu eu bod yn gorwario ar eu cyllidebau.

           Mae’n debygol  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Adroddiad Monitro'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 2, 2018/19 pdf eicon PDF 629 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaithadroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol y Gyllideb Gyfalaf ar gyfer Chwarter 2 blwyddyn ariannol 2018/19.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid, fel sy’n arferol yn awr, mae gwariant yn erbyn y Gyllideb Gyfalaf yn araf a hynny’n bennaf oherwydd y ffaith fod gwariant ar nifer o’r cynlluniau cyfalaf yn digwydd tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol. Mae’r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer 2018/19 yn £60.889m a hyd yma, mae gwariant yn £10.756m yn erbyn y gyllideb a broffiliwyd, sef £13.518m. Mae’r rhan fwyaf o’r prosiectau’n mynd rhagddynt a disgwylir y bydd yr arian yn cael ei wario.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 y bydd cyllid ar gyfer unrhyw lithriad yn cael ei gario drosodd i 2019/20 ac nid yw’n rhagweld ar hyn o bryd y bydd unrhyw gyllid yn cael ei golli oherwydd oedi.

 

Penderfynwyd nodi’r cynnydd o ran gwariant a derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2018/19 yn Chwarter 2.

8.

Monitro Cyllideb y CRT, Chwarter 2 2018/19 pdf eicon PDF 472 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaithadroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad y Cyfrif Refeniw Tai yn ystod Chwarter 2, 2018/19.

 

Cyflwynodd yr Aelod Portffolio Cyllid yr adroddiad i’r Pwyllgor Gwaith. Nodwyd o’r adroddiad bod y sefyllfa refeniw ar gyfer Chwarter 2 yn dangos gorwariant o £322k tra bod gwariant cyfalaf £1.6m yn is na’r gyllideb a broffiliwyd. Mae’r diffyg a ragwelir (yn cyfuno refeniw a chyfalaf) £5,501k yn llai na’r gyllideb a hynny’n bennaf o ganlyniad i wariant cyfalaf is na’r disgwyl. Roedd balans agoriadol y CRT yn £7,407k. Er bod y gyllideb yn caniatáu ar gyfer defnyddio £6,050k o’r balans hwn, bydd y tanwariant rhagdybiedig ar y gyllideb gyfalaf ynghyd â’r gorwariant rhagdybiedig ar y gyllideb refeniw yn golygu mai dim ond £549k o’r gronfa fydd yn cael ei defnyddio. Mae hyn yn golygu y bydd balans y gronfa yn £6,858k erbyn diwedd y flwyddyn ariannol gyda’r arian hwnnw’n cael ei neilltuo’n benodol i gyllido gwariant CRT yn y dyfodol yn unig.

 

Penderfynwyd nodi’r isod

 

           Y sefyllfa a nodwyd mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CTR) ar gyfer Chwarter 2 2018/19.

           Yr alldro rhagdybiedig ar gyfer 2018/19.

 

9.

Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer 2019/2020 pdf eicon PDF 436 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaithadroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ar gyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer 2018/19.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid bod yr adroddiad yn nodi’r cyfrifiadau i bwrpas gosod sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer 2018/19 yn seiliedig ar nifer yr eiddo yn y gwahanol fandiau Treth Gyngor ar y rhestr brisio ar 31 Hydref, 2018 gan gymryd i ystyriaeth y disgowntiau, eithriadau a phremiymau ynghyd ag unrhyw newidiadau tebygol i’r rhestr brisio yn 2019/20. Roedd manylion y cyfrifiadau ar gael yn Atodiad A yr adroddiad.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bod cyfanswm y sylfaen a gynigir ar gyfer 2019/20 i bwrpas pennu’r dreth yn 31,571.46 sy’n gynnydd o 2.59% o gymharu â 2018/19. Petai’r newidiadau i bremiwm y Dreth Gyngor yn cael eu gadael allan, mae’r cynnydd yn 0.7% sydd, yn gyffredinol, yn cyd-fynd â’r sefyllfa mewn awdurdodau eraill yng Nghymru. Bydd y cyfrifiad ar gyfer Sylfaen y Dreth Gyngor yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru i bennu’r Grant Cymorth Refeniw ar gyfer y Cyngor yn 2019/20 ond ni fydd yn adlewyrchu’r premiwm Dreth Gyngor ac o’r herwydd ni fydd y newidiadau i’r premiwm yn effeithio ar lefel y GCR y bydd y Cyngor yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru.

 

Gofynnodd y Pwyllgor Gwaith a oedd diffyg capasiti yn Asiantaeth y Swyddfa Brisio sy’n arwain at oedi gyda gweithredu newidiadau i fandiau’r Cyngor yn dilyn apeliadau yn cael effaith ar gyfrifo sylfaen y Dreth Gyngor. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 141 bod y penderfyniadau a wneir gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio mewn perthynas â newidiadau i fandiau’r Dreth Gyngor yn cael eu hôl-ddyddio i’r dyddiad y cytunwyd ar y newid - p’un ai i fyny neu i lawr. Pan mae sylfaen y Dreth Gyngor yn cael ei gosod, mae’n bosibl y bydd angen i’r Cyngor wneud ad-daliadau mewn achosion lle mae’r newid y cytunwyd iddo gan yr Asiantaeth Brisio yn golygu symud o Fand Treth Gyngor uwch i un is felly, yn yr amgylchiadau hynny, mae’n effeithio rhyw fymryn ar y Cyngor yn ariannol.  

 

Penderfynwyd

 

           Nodi cyfrifiad sylfaen y Dreth Gyngor gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 fydd yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cyfrifo’r Grant Cynnal Refeniw i Gyngor Sir Ynys Môn am y flwyddyn 2019/20, sef 30,876.09. (Rhan E6 o Atodiad A i’r adroddiad)

           Cymeradwyo’r cyfrifiad at ddiben pennu Sylfaen y Dreth Gyngor gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 am y cyfan o’r ardal ac am rannau ohoni dros y flwyddyn 2019/20 (Rhan E5 o Atodiad A i’r adroddiad)

           Yn unol â Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1972 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor (Cymru) 1995  (SI19956/2561) fel y cawsant eu diwygio gan SI1999/2935 a Rheoliadau Awdurdodau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Cyngor 2019/20 pdf eicon PDF 780 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd ar gyfer ei ystyriedadroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn gofyn i’r Pwyllgor Gwaith gadarnhau Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ar gyfer ei gymeradwyo gan y Cyngor Llawn.

 

Wrth argymell yr adroddiad i’r Pwyllgor Gwaith, dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid mai’r cynnig yw i’r Cyngor barhau gyda’r cynllun cyfredol heb unrhyw newidiadau.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 at y ffactorau a fydd yn cael effaith ar y Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor gan gynnwys y penderfyniad ar y cynnydd yn y Dreth Gyngor; bydd y ffigwr ar gyfer y cynllun yn cael ei addasu wrth i’r sefyllfa ddod yn gliriach yn ystod y broses o osod y gyllideb.

 

Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Llawn yn ei gyfarfod ar 11 Rhagfyr, 2018 –

 

           Na ddylai’r Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor cyfredol gael ei adolygu na’i newid am gynllun arall.

           Ei fod yn mabwysiadu’r Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor cyfredol yn ffurfiol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019/20.

           Ei fod yn awdurdodi’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 i wneud  trefniadau gweinyddol fel bod pob newid blynyddol ar gyfer uwchraddio ffigyrau ariannol neu adolygiad technegol mewn unrhyw reoliad/reoliadau sy’n diwygio yn cael eu hadlewyrchu yng Nghynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor y Cyngor ynghyd ag unrhyw newidiadau trefniadol angenrheidiol i’r cynllun a fydd eu hangen yn dilyn cyflwyno’r Gwasanaeth Digidol Llawn ar gyfer Credyd Cynhwysol yn ardal yr Awdurdod ar 4 Rhagfyr, 2018.

11.

Opsiynau Gofal - Grwp Tai Bach pdf eicon PDF 496 KB

Cyflwyno adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaithadroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd mewn perthynas â datblygu Cartref Grŵp Bychan fel opsiwn gofal ar gyfer plant ar Ynys Môn. Cafwyd yn yr adroddiad grynodeb o’r hyn y mae model gofal Cartrefi Grŵp Bychan (CGB) yn ei olygu ynghyd â’r costau a’r arbedion posibl.

 

Dywedodd y Cadeirydd a’r Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol y byddai model gofal Cartref Grŵp Bach yn darparu gofal ar gyfer plant 8 oed a hŷn gyda phob neu fflat (CGB) yn lletya dau o blant ar y mwyaf. Mae’r cysyniad o Gartrefi Grŵp Bychan wedi cael ei egluro i Aelodau’r Cyngor mewn sesiynau briffio, i’r Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned a’r Panel Gwella Gwasanaethau Plant. Y syniad yw bod plant o Ynys Môn sydd angen gofal ac sydd efallai yn byw ar hyn o bryd mewn lleoliadau all-sirol ymhell o’u cymunedau yn gallu, lle mae hynny’n briodol, dderbyn gofal ar yr ynys, mynd i ysgolion lleol a chymryd rhan ym mywyd y gymuned.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd bod Cartrefi Grŵp Bychan wedi cael eu dylunio i ddarparu gofal yn yr amgylchedd lleiaf cyfyngus posibl ac i integreiddio plant a phobl ifanc i’r gymuned, gwella ansawdd eu bywydau a lleihau’r stigma ar gyfer plant nad ydynt yn byw gyda’u teuluoedd neu ofalwyr maeth. Bydd pob CGB yn cael ei staffio gan dîm bychan o weithwyr gofal preswyl lleol a fydd yn cael eu recriwtio o’r newydd, gan sicrhau parhad y gofal ar gyfer y plant sy’n byw yn y cartrefi hyn. Dywedodd y Swyddog y bydd datblygu Cartrefi Grŵp Bychan yn fodd i’r Cyngor gynnig darpariaeth amgen a gwell na’r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd. Yn aml, mae’n rhaid iddo fynd at asiantaethau annibynnol i sicrhau’r ddarpariaeth sy’n golygu wedyn mai ychydig iawn o ddylanwad sydd ganddo o ran ble mae plant sydd angen gofal ar Ynys Môn yn cael eu lleoli. Byddai’r Cyngor hefyd yn gwneud arbedion sylweddol petai CGB yn cael eu datblygu ar adeg ble mae’r cynnydd yn y galw a’r pwysau ariannol ar y Gwasanaethau Plant hefyd yn ystyriaeth o bwys.

 

Roedd y Pwyllgor Gwaith yn croesawu’r cynnig fel modd o alluogi’r Cyngor i ddiwallu anghenion plant sy’n derbyn gofal yn well ac yn lleol yn y gymuned pryd bynnag y mae hynny’n bosibl mewn modd sydd hefyd yn rhoi gwell gwerth am arian na lleoliadau all-sirol. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Pwyllgor Gwaith am y term “Cartrefi Grŵp Bychandywedodd y Swyddog fod y Gwasanaeth yn ymgynghori gyda phlant sydd wedi bod, neu sydd mewn gofal am eu syniadau am enw posibl i’r ddarpariaeth gan olygu y gall y teitlCartrefi Grŵp Bychannewid yn y man.

 

Penderfynwyd bod y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn bwrw ymlaen i chwilio am lety addas  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11.

12.

Pecyn Maethu ar gyfer Gofalwyr Maeth yr Awdurdod Lleol pdf eicon PDF 425 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaithadroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn amlinellu pecyn arfaethedig o fuddion ar gyfer Gofalwyr Maeth ynghyd â goblygiadau hynny o safbwynt cost.

 

Dywedodd y Cadeirydd a’r Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol bod angen buddsoddi i ddarparu pecyn mwy cynhwysfawr o fuddion ar gyfer Gofalwyr Maeth er mwyn recriwtio a chadw mwy o Ofalwyr Maeth er mwyn sicrhau cynnydd yn nifer y lleoliadau sydd ar gael i gwrdd â’r galw cynyddol am leoliadau ar gyfer plant lleol sy’n derbyn gofal. Byddai hyn yn cynnwys Lwfans Maethu Uwch; disgownt Treth Gyngor; cerdyn aelodaeth am ddim gyda Gwasanaethau Hamdden Ynys Môn a thocyn i barcio am ddim ym meysydd parcio’r Cyngor. Mae’r cynigion wedi cael eu cyflwyno i Aelodau’r Cyngor mewn sesiwn friffio ac i’r Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned a’r Panel Gwella Gwasanaethau Plant. 

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd bod nifer o Ofalwyr Maeth yn dewis maethu i asiantaethau preifat oherwydd eu bod yn gallu cynnig taliadau gwell. Mae’n anodd i’r Cyngor gystadlu gyda’r cyfraddau hyn ond dylai cynyddu’r Lwfans Maethu (ond nid yr elfen dâl neu sgiliau) ynghyd â’r buddion ychwanegol eraill y bwriedir eu cynnig, ddenu mwy o Ofalwyr Maeth i’r Cyngor sy’n bwysig o ran cynnig gwell dewis o leoliadau. Ar hyn o bryd, mae’r Cyngor mewn rhai achosion, yn lleoli plant gyda Gofalwyr Maeth preifat drwy asiantaethau preifat sy’n golygu bod y Cyngor yn talu premiwm oherwydd nad oes ganddo ddigon o Ofalwyr Maeth ar ei gofrestr ei hun i gwrdd â’r galw. Dylai cynnig pecyn mwy cystadleuol o lwfansau a buddion ei gwneud yn haws i recriwtio Gofalwyr Maeth gyda hynny, yn ei dro, yn arwain at arbedion. 

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod risg ynghlwm wrth gynyddu’r lwfans maethu oherwydd os nad yw’r Cyngor yn recriwtio digon o Ofalwyr Maeth o’r sector annibynnol i fedru lleihau’r defnydd y mae’n ei wneud o Ofalwyr Maeth Preifat a’r costau cysylltiedig, bydd yn wynebu costau uwch o ganlyniad i’r cynllun hwn.

 

Penderfynwyd -

 

           Bod y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn bwrw ymlaen i gynnig pecyn mwy atyniadol i Ofalwyr Maeth yr Awdurdod Lleol i gynnwys y canlynol -

 

           Cynnydd o 10% yn y lwfans Maethu

           Disgownt o 50% yn y Dreth Gyngor

           Cardiau aelodaeth am ddim ar gyfer y Gwasanaethau Hamdden   yn Ynys Môn

           Tocyn i barcio am ddim ym meysydd parcio’r Cyngor

 

           Awdurdodi diwygio Polisi Eithrio’r Dreth Gyngor er mwyn adlewyrchu’r disgownt a ganiateir i Ofalwyr Maeth.

 

           Awdurdodi trosglwyddo’r cyllidebau angenrheidiol o Wasanaethau Plant a Theuluoedd er mwyn talu costau’r buddion ychwanegol sy’n disgyn ar gyllidebau neu wasanaethau eraill.

13.

Datganiad Polisi Gamblo 2019-2022 pdf eicon PDF 970 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd yn cynnwys Datganiad Polisi Gamblo ar gyfer 2019 i 2022 i’w gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith cyn cael ei fabwysiadu gan y Cyngor Llawn.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd bod raid i’r Cyngor fabwysiadu Datganiad Polisi Gamblo bob tair blynedd yn unol â Deddf Gamblo 2005. Nodir yn y Polisi y modd y bydd y Cyngor yn cyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas â rheoleiddio sefydliadau gamblo. Roedd y polisi drafft wedi cael ei gynhyrchu’n unol â chanllawiau’r Comisiwn Gamblo ar ffurf a chynnwys y Polisi. Mae’r Polisi yn fersiwn o bolisi blaenorol y Cyngor sydd wedi cael ei adolygu a’i ddiweddaru. 

 

Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Llawn ei fod yn mabwysiadu’r Datganiad Polisi Gamblo am 2019-2022.