Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Gwaith - Dydd Llun, 17eg Rhagfyr, 2018 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe wnaeth y Cynghorydd Richard Dew ddatganiad o ddiddordeb personol sy’n rhagfarnu yn eitem 9 ar y rhaglen gan fod ei wraig yn gweithio fel athrawes yn Ysgol Corn Hir.

 

Fe wnaeth y Cynghorwyr R. Meirion Jones, Alun Mummery a Robin Williams ddatganiad o ddiddordeb personol sy’n rhagfarnu yn eitem 13 ar y rhaglen oherwydd, fel Aelodau Lleol, roeddent wedi lleisio eu gwrthwynebiad i’r datblygiad o’r cychwyn cyntaf ac felly ni allent gael eu gweld fel petaent yn ddiduedd ar y mater.

2.

Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig

Dim materion brys ar adeg anfon allan y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w hadrodd.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 352 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-

 

  12 Tachwedd 2018 (Y Gyllideb)

  26 Tachwedd 2018

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w cadarnhau, gofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd a 26 Tachwedd, 2018.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd a 26 Tachwedd, 2018 fel rhai cywir.

4.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 739 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyriedadroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod Ionawr, 2019 i Awst, 2019.

 

Rhoddodd Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ddiweddariad i’r Pwyllgor Gwaith fel a ganlyn

 

Eitemau sy’n newydd i’r Rhaglen Waith -

 

           Eitem 13 – Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2017/18. Mae’r penderfyniad arno wedi’i ddirprwyo i’r Aelod Portffolio ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol, a’r amserlen ar gyfer ei gyhoeddi yw mis Mawrth, 2019.

           Eitem 20 – Cerdyn Sgorio Corfforaethol, Chwarter 4 2018/19 i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ym mis Mai, 2019.

           Eitem 21 – Adroddiadau Monitro’r Gyllideb Refeniw a Chyfalaf, Chwarter 4, 2018/19 i’w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ym mis Mai, 2019.

           Eitem 22 – Adroddiad Blynyddol Safonau’r Iaith Gymraeg 2018/19. Mae’r penderfyniad arno wedi’i ddirprwyo i’r Aelod Portffolio sydd â chyfrifoldeb am yr Iaith Gymraeg, a’r amserlen ar gyfer ei gyhoeddi yw mis Mehefin, 2019.

 

Eitem wedi’i gohirio i ddyddiad hwyrach

 

           Eitem 2 – Prosiect Rhwydwaith Ffibr Llawn Lleol (LFFN). Roedd yr eitem i fod i gael ei hystyried yn wreiddiol gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr, 2018 ond mae wedi’i gohirio nawr i’r cyfarfod ym mis Ionawr, 2019.

 

Adroddodd y Swyddog ers cyhoeddi’r Rhaglen Waith, fod y Gwasanaeth Dysgu hefyd wedi gofyn i ddwy eitemPolisi Cludiant Ysgol a’r Adroddiad Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant – gael eu hychwanegu at y Rhaglen gyda’r bwriad i’r Pwyllgor Gwaith roi ystyriaeth iddynt yn y Flwyddyn Newydd ar ddyddiadau i’w cadarnhau.

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi ei diweddaru am y cyfnod Ionawr, 2019 i Awst, 2019 gyda’r newidiadau a amlinellwyd yn y cyfarfod.

5.

Ffioedd a Thaliadau 2019/20 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyriedadroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 yn ymgorffori atodlen o ffioedd a thaliadau diwygiedig ar gyfer 2019/20.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid oherwydd y sefyllfa ariannol anodd ar hyn o bryd, y gofynnir i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo gweithredu’n gynnar nifer o’r ffioedd a thaliadau diwygiedig a welir yn yr atodlen sydd ynghlwm wrth yr adroddiad. Yn draddodiadol, caiff newidiadau i ffioedd a thaliadau eu gweithredu o’r 1af Ebrill yn y flwyddyn ariannol newydd, ond eleni cynigir dod â hyn ymlaen i 1af Chwefror lle bo’n bosib, fel rhan o nifer o fesurau sydd eu hangen i ymateb i’r sefyllfa ariannol. Mae’r atodlen ffioedd a thaliadau yn amlygu pa newidiadau a ddaw i rym o 1 Chwefror, 2019, pa rai a ddaw i rym o’r 1af Ebrill, 2019 (yn bennaf lle mae’r cynnydd wedi’i ragnodi mewn statud) a’r rheini a ddaw i rym o fis Medi, 2019 (yn ymwneud ag ysgolion). Mae cyllidebau incwm ar gyfer ffioedd a thaliadau anstatudol ar gyfer 2019/20 wedi cael eu codi 3% ar draws pob gwasanaeth unigol. Mae hyn wedi caniatáu i Benaethiaid Gwasanaeth gynyddu’r ffioedd unigol o fwy neu lai na 3% ond gyda’r disgwyliad, yn gyffredinol, y bydd disgwyl i wasanaethau gwrdd â’u targed incwm yn y gyllideb.

 

Tynnodd yr Aelod Portffolio sylw at y ffaith fod taliadau am brydau ysgol yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, a fydd yn dod i ben ddiwedd y mis hwn; felly bydd angen cadarnhau’r taliadau hyn yn hwyrach ymlaen.

 

Yn wyneb yr uchod, cytunodd y Pwyllgor Gwaith na ddylai taliadau am brydau ysgol fod yn rhan o’r benderfyniad, ac y dylai’r penderfyniad adlewyrchu’r eithriad hwn.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r ffioedd a thaliadau ar gyfer 2019/20 fel y’u hamlinellir yn y llyfryn atodwyd i’r adroddiad ac eithrio taliadau am brydau ysgol sy’n destun ymgynghoriad tan ddiwedd mis Rhagfyr, 2018.

 

6.

Strategaeth Rhanbarthol Digartrefedd pdf eicon PDF 3 MB

Cyflwyno adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyriedadroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Tai yn ymgorffori’r Strategaeth Ranbarthol Digartrefedd a Chynllun Gweithredu Lleol.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai a Chefnogi Cymunedau fod gofyn i bob Awdurdod Lleol, yn ôl y gyfraith, fabwysiadu Strategaeth Digartrefedd yn 2018 er mwyn atal digartrefedd; i ddarparu llety addas i bobl sy’n ddigartref neu rai a allai fynd yn ddigartref, ac i sicrhau bod cefnogaeth ddigonol ar gael i bobl sy’n ddigartref neu rai a allai fynd yn ddigartref. Cyn cynhyrchu’r strategaeth, roedd rhaid i awdurdodau lleol gynnal adolygiad yn unol ag adran 51 Cod Arweiniad Llywodraeth Cymru ar Ddyrannu Llety a Digartrefedd. Roedd gofyn i Awdurdodau Lleol gynnal adolygiad o’r Gwasanaeth Digartrefedd fel sail i gynhyrchu’r Strategaeth. Roedd y Penaethiaid Gwasanaeth trwy Ogledd Cymru wedi cytuno y dylid cynhyrchu Strategaeth Digartrefedd Ranbarthol oherwydd y manteisionfel y nodir yn yr adroddiad – a geid o sefydlu dealltwriaeth a dull ar y cyd tuag at atal digartrefedd.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio yr hoffai gymryd y cyfle i ddiolch i staff y Gwasanaeth Digartrefedd am eu gwaith a hefyd y Gwasanaeth Tai ehangach am ei gyfraniad tuag at ffurfio’r Strategaeth Digartrefedd Ranbarthol sy’n destament i’r gweithio partneriaeth effeithiol sydd wedi digwydd ar y strategaeth hon.

 

Adroddodd y Cynghorydd G.O. Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio, ar drafodaethau’r Pwyllgor ar y mater hwn yn ei gyfarfod ar 13 Tachwedd, 2018 fel rhan o ymgynghoriad helaeth a wnaed wrth gynnal adolygiad o’r Gwasanaeth Digartrefedd. Dywedodd y Cynghorydd Jones fod y Pwyllgor, wrth gefnogi ac argymell y Strategaeth a’r Cynllun Gweithredu Lleol i’r Pwyllgor Gwaith ac wrth groesawu’r cydweithio rhanbarthol a oedd wedi digwydd i’w gynhyrchu, wedi codi nifer o bwyntiau er mwyn cael eglurhad arnynt, ac roedd y Swyddogion wedi rhoi sicrwydd i’r Pwyllgor; roedd y pwyntiau hynny’n cynnwys y canlynol

 

           Y trefniadau ar gyfer monitro’r strategaeth yn lleol er mwyn sicrhau ei bod yn dal i gwrdd â’i hamcanion.

           P’un a oes unrhyw wahaniaethau yn y modd mae’r Strategaeth yn berthnasol i’r cynghorau hynny sydd wedi cadw cyfrifoldeb am eu stoc tai h.y. Cyngor Sir Ynys Môn o gymharu â’r rheini yn y rhanbarth sydd wedi trosglwyddo eu stoc i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.

           Bod 50% o’r rhai a oedd wedi ymateb i’r ymgynghoriad ar draws y rhanbarth yn teimlo nad oedd staff wastad yn gwrtais neu’n barod eu cymwynas wrth ddelio gyda’r sefyllfaoedd anodd mae pobl yn eu wynebu. Ni chredai’r Pwyllgor fod y Strategaeth yn mynd i’r afael â’r mater hwn; awgrymwyd y gallai Ynys Môn arwain ar anghenion hyfforddiant posib y staff yn y chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru wrth ddelio gyda materion sensitif sy’n gysylltiedig â digartrefedd.

           P’un a yw’r Awdurdod yn gallu ymateb i geisiadau am gymorthroedd y Pwyllgor wedi nodi bod rheoli disgwyliadau yn cael ei ystyried yn her.

           Yr angen  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Adroddiad Cynnydd ar y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Plant.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyriedadroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn amlinellu cynnydd diweddaraf y Gwasanaeth yn erbyn y Cynllun Gwella Gwasanaeth.

 

Adroddodd y Cadeirydd a’r Aelod Portffolio ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol fod angen diolch yn fawr i staff y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd am ddod â’r Gwasanaeth i’r pwynt hwnto’r 21 pwynt gweithredu a adnabuwyd fel rhan o’r Cynllun Gwella Gwasanaeth (CGG) yn dilyn arolwg AGC o Wasanaethau Plant Ynys Môn ym mis Tachwedd 2016, dim ond 2 sydd dal yn Ambr. Mae’n rhaid diolch yn fawr hefyd i’r Aelodau Etholedig sydd wedi bod yn rhan o’r broses honno ac wedi cyfrannu ati. O’r 19 pwynt gweithredu arall yn y CGG, mae statws 13 ohonynt yn Wyrdd a 6 yn Felyn. Mae’r gwelliant hwn wedi’i gydnabod gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) sy’n ddiweddar wedi cyhoeddi canfyddiadau ei adolygiad dilyn-i-fyny o’r Gwasanaethau Plant a gynhaliwyd ym mis Hydref, 2018. Dywedodd yr Aelod Portffolio fod y Panel Gwella Gwasanaethau Plant yn dal i fonitro a chraffu’r Cynllun Gwella Gwasanaeth a’i fod wedi dechrau ystyried creu Cynllun newydd gyda’r bwriad o ddwyn ynghyd yr holl welliannau a wnaed hyd yma tra hefyd yn sicrhau gwelliant parhaus ar gyfer y tymor hir a thu hwnt.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes)/Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol, fod yr adroddiad yn crynhoi’r meysydd hynny sydd wedi bod yn ffocws i waith diweddaraf y Gwasanaeth ac a arweiniodd at welliannau; caiff y rhain eu hadlewyrchu yn y ddibyniaeth is ar staff asiantaeth i lenwi swyddi gwag ar ôl i’r Gwasanaeth benodi’n llwyddiannus i sawl swydd Gweithiwr Cymdeithasol, a hefyd yn y perfformiad yn derbyn Dangosyddion Perfformiad allweddol lle mae’r gwelliant wedi’i gynnal o Chwarter 1 2018/19 drwodd i Chwarter 2 fel mae’r adroddiad yn ei ddisgrifio ym mharagraff 3. Dywedodd y Swyddog fod adroddiad AGC o’r adolygiad dilyn-i-fyny yn cydnabod bod gwelliannau sylweddol wedi’u gwneud yn y Gwasanaethau Plant, bod morâl staff yn uchel a bod angerdd ac ymroddiad ar bob lefel i barhau i weithio i ddarparu gwasanaethau rhagorol i blant. Fodd bynnag, mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod yna dal waith i’w wneud; mae’r Gwasanaeth hefyd wedi bod yn gyson wrth adnabod er bod llawer iawn wedi’i gyflawni hyd yma, nad yw’r gwaith yn gyflawn fel mae’r 2 bwynt Ambr yn tystiolaethumae’r rhain yn ymwneud ag elfennau a gaiff eu cwblhau’n llawn dros y tymor hwy ac mae’r Gwasanaeth yn parhau i weithio arnynt. Bydd y meysydd hyn ynghyd â chanfyddiadau’r adolygiad dilyn-i-fyny gan AGC yn cael eu hystyried yn y Flwyddyn Newydd gyda’r bwriad o greu Cynllun Gwella Gwasanaeth newydd a fydd yn cwmpasu’r holl weithgarwch presennol yn ogystal â strategaeth arloesol newydd i gynyddu nifer y lleoliadau i blant sydd ag anghenion cymhleth. Bydd AGC yn rhoi cyflwyniad i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ym mis Ionawr, 2019 ac wedyn bydd y Gwasanaeth yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Sefydlu Bwrdd Cymeradwyo Draeniad Cynaliadwy pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo Dros Dro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyriedadroddiad y Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) yn amlinellu gweithdrefn ar gyfer ymdrin â swyddogaeth y Cyngor fel Corff Cymeradwyo ceisiadau am Systemau Draenio Cynaliadwy (Safonau Cenedlaethol) o dan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo fod Atodlen 3 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr (DRhLlD) 2010 yn gorchymyn y dylai systemau draenio dŵr wyneb ar gyfer datblygiadau newydd gydymffurfio â Safonau Cenedlaethol ar gyfer draenio cynaliadwy (SDCau). Mae Atodlen 3 DRhLlD 2010 hefyd yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol fel Cyrff Cymeradwyo SDCau i gymeradwyo, mabwysiadu a chynnal a chadw systemau sy’n cydymffurfio ag adran 17 yr Atodlen. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y daw gofynion Atodlen 3 i rym yng Nghymru ar 7 Ionawr, 2019. O’r dyddiad hwn felly, bydd rhaid cael systemau draenio cynaliadwy ar gyfer pob datblygiad newydd o fwy nag 1 neu lle mae’r arwynebedd adeiladu yn 100 metr sgwâr neu fwy. Mae’n rhaid i systemau draenio gael eu dylunio a’u hadeiladu yn unol â safonau SDCau statudol a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru. Fodd bynnag, ni fydd rhaid i geisiadau datblygu a gyflwynwyd cyn 7 Ionawr, 2019 gydymffurfio â’r safonau.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio, er bod ffurfio’r CCS yn ofyniad statudol newydd ar Awdurdodau Lleol, na fydd unrhyw gyllid ychwanegol yn dod o Lywodraeth Cymru i ymgymryd â’r gwaith hwn. Disgwylir i’r CCS fod yn hunan-gynhaliol yn y tymor hir gyda’r ffioedd sydd ynghlwm â cheisiadau Draenio Cynaliadwy yn talu am y costau rhedeg. Yn dilyn adroddiad rheolwr prosiect gan Ymgynghoriaeth Gwynedd (YGC) a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r gwaith o sefydlu CCS ac i edrych ar opsiynau eraill ar gyfer Gogledd Cymru, cynhaliwyd trafodaethau mewnol gyda’r Gwasanaeth Rheoleiddio ac Economaidd ac YGC ac ystyriwyd nifer o opsiynau ar gyfer cyflawni dyletswyddau’r Cyngor fel Corff Cymeradwyo SDCau. Am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad penderfynwyd, ac argymhellir y dylai’r dyletswyddau hynny gael eu cyflawni’n fewnol yn y Gwasanaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo gan ddefnyddio trefniadau’r Gwasanaeth Rheoleiddio ac Economaidd ar gyfer gweinyddu a YGC ar gyfer gwydnwch. Bydd gofyn llenwi un swydd weinyddol yn syth ar gyfer hyn er mwyn delio gyda cheisiadau o 7 Ionawr, 2019. Fel arall, hyd nes bydd yr incwm o’r ceisiadau CCS yn ddigon i allu creu a llenwi swyddi newydd, bydd dyletswyddau CCS yn cael eu cyfuno gyda dyletswyddau presennol staff gan ddefnyddio YGC lle nad yw’r arbenigedd ac/neu’r capasiti yn bodoli ar hyn o bryd.

 

Eglurodd y Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) beth mae system draenio cynaliadwy yn ei olygu, sef sicrhau bod dŵr ffo ar yr wyneb yn cael ei ddraenio’n araf trwy ei gasglu mewn ffosydd a phyllau dŵr yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Adroddiad ar Wrthwynebiadau i Ysgol Gynradd newydd yn lle Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir a Chymeradwyaeth y Cynnig Gwreiddiol pdf eicon PDF 913 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyriedadroddiad y Pennaeth Dysgu yn amlinellu’r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd ar ôl cyhoeddi’r rhybuddion statudol am ysgol gynradd newydd yn lle Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir. Roedd yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i’r cynnig gwreiddiol.

 

Ar ôl datgan diddordeb sy’n rhagfarnu yn yr eitem hon, gadawodd y Cynghorydd Richard Dew y cyfarfod tra oedd y drafodaeth yn mynd rhagddi a thra gwnaed penderfyniad.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant a Ieuenctid fod yr adroddiad yn cael ei wneud mewn ymateb i’r broses statudol. Cafodd y Rhybudd Statudol ei gyhoeddi ar 2 Hydref, 2018 gyda’r cyfnod 28 diwrnod ar gyfer derbyn gwrthwynebiadau yn dod i ben ar 29 Hydref, 2018. Roedd 111 o wrthwynebiadau wedi’u derbyn, ac roedd 109 o’r rhain wedi’u derbyn ar ffurflen safonol fel yn Atodiad 2 yr adroddiad.

 

Dywedodd y Pennaeth Dysgu, yn unol â’r Cod Trefniadaeth Ysgolion 2013 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, bod rhaid i Gyngor Sir Ynys Môn fel y cynigydd gyhoeddi adroddiad yn disgrifio unrhyw wrthwynebiadau a dderbyniwyd. Mae’r Adroddiad Gwrthwynebu wedi’i gynnwys yn Atodiad 1 sy’n rhoi manylion am natur y gwrthwynebiadau a gyflwynwyd gan fudd-ddeiliaid. Gellir grwpio’r rhain yn fras o dan y themâu Cludiant a Theithio, Dewis, cynnal y Broses Ymgynghori, a dyfodol y Ganolfan Gymunedol ac Adeilad yr Ysgol. Mae’r adroddiad hefyd yn amlinellu ymateb yr Awdurdod i’r gwrthwynebiadau.

 

Dywedodd y Cynghorydd R.G. Parry, OBE, FRAgS, Aelod Portffolio ar gyfer Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo ac Aelod Lleol, fod dau brif fater o bryder yn lleol sef natur beryglus y rhwydwaith ffyrdd lleol yng nghyffiniau’r safle a ffafrir ar gyfer yr ysgol newydd a goblygiadau hynny i’r disgyblion a fydd yn teithio i’r ysgol newydd o Fodffordd, a hefyd dyfodol y Ganolfan Gymunedol ym Modffordd sy’n ffurfio rhan o’r ysgol ac a fydd yn parhau i fod ar gael i’w defnyddio gan y gymuned ar ôl i’r ysgol gau. Dywedodd yr Aelod Portffolio fod y posibilrwydd o weithredu mesurau traffig yn ardal yr ysgol newydd wedi cael ei ystyried gydag arbenigwyr allanol, a daethpwyd i’r casgliad fod angen cylchfan ar y B5109 i ddarparu mynediad i’r ysgol. Bydd yr Awdurdod yn penderfynu p’un a fydd yn darparu cludiant i’r ysgol gynradd newydd ai peidio yn dilyn asesiad diogelwch ar y llwybr teithio. O ran y ganolfan gymunedol, mae cyfarfodydd wedi’u cynnal gyda Chyngor Cymuned Bodffordd i ystyried ffyrdd o gynnal y neuadd gymuned yn unol â phenderfyniad gwreiddiol y Pwyllgor Gwaith.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant a Ieuenctid fod y mater hwn wedi bod dan ystyriaeth ers dros ddwy flynedd ac yn ystod y cyfnod hwnnw, mae wedi bod yn destun trafodaeth helaeth trwy broses ymgynghori statudol ac anstatudol. Cafodd y broses ei hoedi hefyd er mwyn ailystyried yr opsiynau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 166 KB

Ystyried mabwysiadu’r isod:-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohono yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm”.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd o dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail ei bod yn cynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.

 

11.

Y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - Achos Busnes Amlinellol - Ehangu Ysgol y Graig a chau Ysgol Talwrn

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Cofnodion:

The report of the Head of Learning incorporating the combined Strategic Outline Case and Outline Business Case (SOC/OBC) to expand Ysgol y Graig by building a new Foundation Phase block and closing Ysgol Talwrn was presented for the Executive’s consideration.

 

The Portfolio Member for Education, Libraries, Culture and Youth said that the SOC/OBC   report is technical in nature and sets out the strategic, economic, commercial, financial and management grounds for expanding Ysgol y Graig by building a new Foundation Phase block and closing Ysgol Talwrn in line with the 21st Century Schools Business case process for capital funding for the project.

 

The Head of Learning said that the SOC/OBC sets out the case for the modernisation of the schools in the eastern part of Llangefni with the preferred way forward being to build a new Foundation Phase Block at Ysgol y Graig to accept the increasing number of pupils in the catchment area and to take the pupils from Ysgol Talwrn which would then close. The Officer provided a brief summary of the main sections of the report encompassing the anticipated project costs, the specification for the build, the potential site for the new block, the proposed procurement process and intended timescale for delivering the project.

 

Councillor Aled Morris Jones, Chair of the Corporate Scrutiny Committee reported from the Committee’s meeting held on 10 December, 2018 to which the SOC/OBC had been presented. He summarised the Committee’s views on the matter which he noted were not necessarily his own, as follows –

 

           Concerns were raised about the preferred location for the extension to the current Ysgol y Graig, reallocation of the car park and the challenges associated with running the school from two separate buildings.

           Concerns were also expressed about traffic conditions and issues relating to road safety within the vicinity of the site whilst construction work is ongoing.

           The Committee was clear about the need to continually refine the final costs of the project once a decision has been made about the exact location of the proposed extension and car park.

           Although recognising that the Strategic and Business case is currently in outline from only, the Committee felt that the information provided was overly sketchy and was vague on a number of points.

           Having considered all the information presented as well as the clarifications provided by the Officers on the points raised, the Committee resolved to recommend to the Executive that it approves the SOC/OBC and submits the document to Welsh Government.

 

The Executive in thanking the Corporate Scrutiny Committee for its comments concurred that the new Foundation Phase Block needs to be situated as close as possible to the existing Ysgol y Graig building and that efforts to achieve this outcome should continue.

 

It was resolved to approve the following –

 

           The combined Strategic Outline Case and Outline Business Case (SOC/OBC) to expand Ysgol y Graig by building a new Foundation Phase Block and to close Ysgol Talwrn.

           The  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11.

12.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 123 KB

Ystyried mabwysiadu’r isod:-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohono yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm”.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd o dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail ei bod yn cynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.

13.

Datblygu Safle i Sipsiwn a Theithwyr, Star

Cyflwyno adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyriedadroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Tai ar ddatblygu’r lle aros dros dro i Sipsiwn a Theithwyr yn Star. Roedd yr adroddiad yn darparu gwybodaeth ynglŷn â’r costau cyllideb cyfalaf angenrheidiol ar gyfer cyflawni’r prosiect ar y safle yn Star ynghyd â’r costau refeniw ailadroddus dangosol ar gyfer rhedeg y safle yn y dyfodol.

 

Am eu bod wedi datgan diddordeb sy’n rhagfarnu yn yr eitem hon, gadawodd y Cynghorwyr R. Meirion Jones, Alun Mummery a Robin Williams y cyfarfod tra oedd y drafodaeth yn mynd rhagddi a thra gwnaed y penderfyniad.

 

Ymhelaethodd Pennaeth y Gwasanaethau Tai ar gostau datblygu’r prosiect a’r amserlen, y broses dendro arfaethedig, y costau refeniw blynyddol sy’n parhau ar gyfer y safle ac ystyriaethau cysylltiedig.

 

Wrth nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd, fe wnaeth y Pwyllgor Gwaith y pwyntiau a ganlyn

 

           Y dylid rhoi ystyriaeth i ddefnyddio fframweithiau caffael eraill yn ogystal â GwerthwchiGymru.

           Y dylid cyflymu’r amserlen ar gyfer cyflawni’r prosiect fel bod modd cwblhau’r prosiect yn gynt

           Os yw’n bosib, dylid talu am y costau refeniw parhaus ar gyfer y safle o’r incwm a grëir o’r safle heb orfod defnyddio arian o Gyllideb Refeniw y Cyngor.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r canlynol

 

           Caffaeliad y tir yn Star ar gyfer y safle.

           Y costau cyllideb cyfalaf ynghlwm â’r prosiect o ddarparu’r safle stopio dros dro yn Star.

           Y gwaith tendro ar gyfer datblygiad y safle yn Star yn seiliedig ar yr amcan-brisiau a ddarparwyd a/neu o ganlyniad i ddefnyddio fframweithiau eraill.

           Yr amserlen sydd wedi’i hamlinellu ar gyfer datblygu’r safle yn Star.