Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe wnaeth y Cynghorydd Richard Dew ddatgan diddordeb personol oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 13 ar y rhaglen.

 

Fe wnaeth y Cynghorydd Dylan Rees (nad yw’n aelod o’r Pwyllgor Gwaith) ddatgan diddordeb personol mewn perthynas ag eitem 13 ar y rhaglen.

 

2.

Materion brys a ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu Swyddog a benodwyd ganddo

Dim materion ar adeg anfon allan y rhaglen hon.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w hadrodd.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 379 KB

Cyflwyno ar gyfer eu cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfodydd o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-

 

  18 Chwefror, 2019

  7 Mawrth, 2019 (Arbennig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 18 Chwefror, 2019 a 7 Mawrth, 2019 (cyfarfod arbennig) i’r Pwyllgor Gwaith i’w hystyried.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 18 Chwefror, 2019 a 7 Mawrth, 2019 (cyfarfod arbennig) fel rhai cywir.

 

4.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 748 KB

Cyflwyno adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyriedadroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod Ebrill, 2019 i Tachwedd, 2019.

 

Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ddiweddariad i’r Pwyllgor Gwaith fel a ganlyn

 

Eitemau newydd i’r Rhaglen Waith -

 

           Eitem 3 – Contract Rheoli Gwastraff (cymeradwyo’r amserlen, y broses a’r gyllideb ar gyfer darparu’r Gwasanaeth Rheoli Gwastraff o fis Ebrill, 2021 ymlaen) i’w ystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 29 Ebrill, 2019.

           Eitem 11 – Contract Rheoli Gwastraff (Cymeradwyo’n derfynol y dull cyflwyno gwasanaeth ar gyfer darparu’r Gwasanaeth Rheoli Gwastraff o fis Ebrill, 2021 ymlaen) i’w ystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 17 Mehefin, 2019.

           Eitemau 12 ac 19 – Arolwg AGC o’r Gwasanaethau Plant – y Pwyllgor Gwaith i ystyried adroddiad cynnydd Chwarterol ar y Cynllun Gwelliant yn ei gyfarfodydd ar 17 Mehefin ac 16 Medi, 2019.

           Eitem 21 – Cyllideb 2020/21 (cynigion drafft cychwynnol ar y Gyllideb ar gyfer ymgynghori arnynt) i’w hystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 11 Tachwedd, 2019.

           Eitem 23 – Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 2, 2019/20 i’w ystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 25 Tachwedd, 2019.

           Eitem 24 – Adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw a Chyfalaf 2019/20 – Chwarter 2, i’w ystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 26 Tachwedd, 2019.

           Eitem 25 – Anableddau Dysgu: Trawsnewid Cyfleoedd Dydd, i’w ystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 25 Tachwedd, 2019.

 

Dywedodd y Swyddog, yn amodol ar eu cadarnhau, ei bod yn bosib y bydd rhaid cynnwys eitemau newydd yn ymwneud â’r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion ar y Rhaglen Waith hefyd.

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi ei diweddaru am y cyfnod Ebrill i Tachwedd, 2019 fel ei cyflwynwyd.

5.

Cerdyn Sgorio Corfforaethol – Chwarter 3, 2018/19 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyriedadroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid Corfforaethol yn ymgorffori’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 3, 2018/19.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Busnes Corfforaethol fod y perfformiad yn erbyn y mwyafrif o Ddangosyddion Perfformiad ar ddiwedd Chwarter 3 ar darged, ac mae’n arbennig o dda o gymharu â’r perfformiad yn Chwarter 3 2017/18. Mae tri Dangosydd Perfformiad wedi’u cofnodi fel rhai sy’n tanberfformio, ac mae dau o’r rheini yn y Gwasanaethau Oedolion – PM20a: canran yr oedolion a oedd wedi cwblhau cyfnod o ail-alluogi, oedd yn derbyn pecyn gofal a chymorth ar lefel is 6 mis yn ddiweddarach, a PAM/025 (PM19): cyfradd y bobl a gedwir yn yr ysbyty tra’n aros am ofal cymdeithasol fesul 1,000 o’r boblogaeth 75+, ac roedd un dangosydd - PAM018 – yn y Gwasanaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd ac mae’n ymwneud â chanran yr holl geisiadau cynllunio sy’n cael eu penderfynu mewn pryd. Mae’r adroddiad yn amlinellu’r prif resymau am y perfformiad is na’r targed yn y meysydd hyn a’r camau lliniaru sy’n cael eu rhoi ar waith i adfer y sefyllfa ym mhob achos.

 

Ar gyfer presenoldeb yn y gwaith, roedd Chwarter 3 yn dangos sgôr o 2.69 dyddiau o waith a gollwyd fesul pob aelod staff llawn amser, sydd bron union yr un sgôr ag yn Chwarter 3 2017/18. Mae’r perfformiad yng nghyswllt absenoldeb salwch yn y sector ysgolion cynradd yn dangos yn GOCH ar y Cerdyn Sgorio; mae Adnoddau Dynol a’r Gwasanaeth Dysgu yn darparu cefnogaeth wedi’i dargedu ar gyfer y 10 ysgol gynradd sydd â’r lefelau uchaf o absenoldeb salwch. 

O ran Gwasanaeth Cwsmer, mae darparu ymatebion ysgrifenedig ar amser i gwynion yn dal yn broblem yn y Gwasanaethau Plant, er bod y Gwasanaeth wedi rhoi mesurau penodol mewn lle i wella ei berfformiad wrth ymateb i gwynion. Fe wnaeth presenoldeb y Cyngor ar gyfryngau cymdeithasol gynyddu unwaith eto yn Chwarter 3 i 29k o ddilynwyr, fel y gwnaeth nifer y defnyddwyr cofrestredig ar AppMônmae nifer y defnyddwyr wedi cynyddu dros 1,700 ers diwedd Chwarter 2 i 6,607 ar ddiwedd Chwarter 3. Ni ellir darparu unrhyw ddata am gwynion gan gwsmeriaid tu allan i’r Gwasanaethau Cymdeithasol neu ynghylch ceisiadau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ar gyfer y chwarter, oherwydd absenoldeb tymor hir y swyddog sy’n casglu’r data. Mae’r her yn parhau i sicrhau bod perfformiad positif y mwyafrif o wasanaethau’r Cyngor yn cael ei gynnal yn Chwarter 4, a bod meysydd o danberfformiad yn derbyn sylw.

Adroddodd y Cynghorydd Dylan Rees, Is-gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a’r Cadeirydd yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 19 Mawrth, 2019 lle trafodwyd adroddiad Monitro’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 3, fod y Pwyllgor wedi nodi bod y perfformiad yn ystod Ch3 yn erbyn dangosyddion perfformiad cenedlaethol yn dda ar y cyfan, gydag ychydig o feysydd sydd angen rhagor o sylw –  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Adroddiad Cynnydd ar y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Plant.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyriedadroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn nodi’r cynnydd hyd yma yn erbyn y Cynllun Gwella Gwasanaeth.

 

Adroddodd y Cadeirydd a’r Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol, wrth symud ymlaen, y cytunwyd i gau i lawr y Cynllun Gwella Gwasanaeth (CGG) cyfredol ac i gynhyrchu Cynllun Datblygu Gwasanaeth ar gyfer 2019-22. Bydd hwn yn ymgorffori’r ddau faes ambr nad ydynt wedi’u cwblhau’n llawn o’r CGG ynghyd â’r 14 maes i’w datblygu a nodwyd yn adroddiad ail-arolwg AGC ym mis Rhagfyr 2018. Yn ogystal, bydd y Gwasanaeth hefyd yn cymryd y camau a ddisgrifir yn yr adroddiad mewn perthynas â hybu cyfranogiad plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal; adolygu polisi a sicrwydd ansawdd, parhau i gynnal ymweliadau Laming a chryfhau perthnasau a threfniadau gweithio ar y cyd.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd fod gwaith yn mynd yn ei flaen yn gyflym ar ddatblygu Cartrefi Grŵp Bach a’r pecyn Gofalwyr maeth newydd, dau beth a ddyluniwyd i gynyddu’r dewis o leoliadau. Mae’r pecyn Gofalwyr Maeth sy’n cynnig buddion ehangach i Ofalwyr Maeth yr Awdurdod yn cael ei farchnata ar hyn o bryd, a daw’r newidiadau i rym ym mis Ebrill, 2019.

 

Adroddodd y Cynghorydd Dylan Rees o gyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 19 Mawrth, 2019 lle trafodwyd adroddiad cynnydd y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd. Gan nodi y byddai’r Cynllun Gwella Gwasanaeth yn cael ei amnewid am Gynllun Datblygu Gwasanaeth 3 blynedd, roedd y Pwyllgor yn cydnabod y cynnydd sylweddol a wnaed trwy gydol y Cynllun Gwella Gwasanaeth, ac fe nododd hefyd fod angen cynnal momentwm y gwelliant trwy gydol y Cynllun Datblygu Gwasanaeth. Nododd y Pwyllgor ymhellach y datblygiadau gyda’r Cartrefi Grŵp Bach a’r pecyn Gofalwyr Maeth, a chan gofio bod dydd Mawrth 19 o Fawrth yn ddiwrnod Rhyngwladol Gwaith Cymdeithasol, mynegodd Aelodau’r Pwyllgor eu diolch i Weithwyr Cymdeithasol yr Awdurdod am eu hymdrechion a’u hymroddiad mewn amgylchedd sy’n aml yn heriol. Cadarnhaodd y Pwyllgor ei fod yn fodlon gyda’r camau a gymerwyd i fwrw ymlaen â gweithredu’r Cynllun Gwella Gwasanaeth a chyflymder y cynnydd gyda hyn a chyda gweithredu gwelliannau yn y Gwasanaethau Plant, a’i fod hefyd yn fodlon i’r Gwasanaeth symud ymlaen gyda’r Cynllun Datblygu Gwasanaeth newydd.

Nododd y Pwyllgor Gwaith fod cau’r Cynllun Gwella Gwasanaeth yn marcio diwedd cyfnod arwyddocaol i’r Gwasanaethau Plant yn y Cyngor, gan gydnabod hefyd y gwelliannau a gyflawnwyd yn ystod y cyfnod hwn a gwaith staff y Gwasanaeth i wneud hynny’n bosib. Nododd y Pwyllgor Gwaith ymhellach fod y cynnydd a wnaed yn ystod y CGG yn rhoi sail gadarn i fynd â’r Cynllun Datblygu Gwasanaeth yn ei flaen gan felly gynnal y broses wella i’r dyfodol.

 

Penderfynwyd cadarnhau

 

           Bod y Pwyllgor Gwaith yn fodlon â’r camau a gymerwyd i weithredu’r Cynllun Gwella Gwasanaeth a chyflymder y cynnydd, a’i fod hefyd yn fodlon i’r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Polisi Taliadau Tai Dewisol pdf eicon PDF 865 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyriedadroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 yn ceisio cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i Bolisi diwygiedig ar gyfer y Cynllun Taliadau Tai Dewisol Lleol am 2019/20. Rhoddai’r adroddiad wybodaeth am weithrediad y TTD yn ystod 2018/19 a p’un a oes angen unrhyw newidiadau i’r dyfodol ar y sail honno.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod TTD yn darparucymorth ariannol pellachi hawlwyr gwrdd â’u costau tai, ar ben unrhyw fudd-daliadau lles eraill y maent yn eu derbyn o bosib, os yw’r Awdurdod Lleol yn ystyried bod cymorth ychwanegol o’r fath yn angenrheidiol. Mae’n rhaid i’r holl ddyfarniadau TTD gael eu gwneud o fewn y cyfyngiadau arian cyffredinol fel y pennir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (AGP). Bydd yr AGP yn rhoi swm i’r Awdurdod Lleol bob blwyddyn tuag at weinyddu’r cynllun a gall awdurdodau lleol ychwanegu hyd at 150% at gyfraniad y Llywodraeth; fodd bynnag, byddai’n rhaid i daliadau ychwanegol ddod o gronfeydd y Cyngor ei hun. Yn dilyn y mesurau diwygio lles ym mis Ebrill 2013, fe wnaeth y galw am TTD gynyddu’n aruthrol ond mae i weld yn lleihau erbyn hyn. Roedd grant yr AGP i’r Cyngor yn 2018/19 yn £153,307 ac roedd £142, 432 o hwn wedi’i wario erbyn 1 Mawrth, 2019. Bu tanwariant yn y grant yn 2017/18 a derbyniodd yr Awdurdod gryn sylw negyddol am hyn oherwydd, o dan reolau’r cynllun, mae’n rhaid iddo ddychwelyd unrhyw arian sydd heb ei wario o’r dyraniad i’r AGP. Er mwyn sicrhau’r defnydd mwyaf effeithiol o’r gyllideb TTD gan gynnwys dyrannu’r holl gyllideb yn llawn ac er mwyn ymateb i unrhyw addasiadau yng nghanllawiau’r AGP, mae’r Cyngor yn adolygu a phan fo angen, yn addasu ei bolisi TTD bob blwyddyn.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod polisi’r Awdurdod wedi cael ei newid y llynedd i ddarparu cymorth efo clirio ôl-ddyledion rhent, lle roedd hynny’n rhwystr i bobl symud i lety mwy addas. Mae profiad yn ystod y flwyddyn wedi dangos bod angen datblygu’r polisi ymhellach yn hyn o beth er mwyn cefnogi pobl i aros yn eu tai, lle tybir bod y denantiaeth yn gynaliadwy, trwy gyfrannu at dalu dyledion rhent lle bo hynny o fudd i’r hawliwr. Dyma’r unig newid y bwriedir ei wneud ar gyfer 2019/20 a manylir ar hyn ym mharagraff 2.10 y polisi.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, yn seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf, fod oddeutu £150k o grant yr AGP yn 2018/19 DWP wedi’i wario bellach.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r Polisi Lleol diwygiedig ar gyfer y Cynllun Taliadau Tai Dewisol (TTD) am 2019/20 a’r blynyddoedd dilynol fel y nodir yn Atodiad A yr adroddiad, gan nodi y bydd y cynllun a gymeradwyir yn berthnasol am y blynyddoedd dilynol ac y bydd yn dod yn ôl gerbron y Pwyllgor Gwaith dim ond pan fydd angen ei ddiwygio yn y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Tai.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyriedadroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Tai yn ymgorffori Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai am y cyfnod 2019 i 2049.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai a Chefnogi Cymunedau fod Cynllun Busnes y CRT yn ffurfio’r prif gyfrwng ar gyfer cynllunio ariannol mewn perthynas â chyflawni a rheoli stoc tai y Cyngor. Yn arbennig, mae’r Cynllun Busnes yn dangos sut daw’r Cyngor â’i holl stoc i fyny at Safonau Ansawdd Tai Cymru (mae yna dal rai eiddo sydd wedi ei categoreiddio felmethiannau derbyniol”); sut mae’r Cyngor yn bwriadu cynnal SATC a rhagori arnynt, a’r buddsoddiad sydd ei angen i gynyddu’r stoc tai. Trwy’r CRT, mae’r Cyngor yn berchen ac yn rheoli 3,819 o eiddo ac ychydig dros 700 o garejys ar hyd a lled yr ynys. Dros gyfnod y Cynllun Busnes, bydd y stoc yn cynyddu i dros 5,000 o unedau.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio fod Cynllun Busnes y CRT yn rhoi gweledigaeth bositif ar gyfer dyfodol stoc tai’r Cyngor a chymeradwyodd y Cynllun Busnes i’r Pwyllgor Gwaith.

 

Rhoddodd Bennaeth y Gwasanaethau Tai ddiweddariad i’r Pwyllgor Gwaith trwy gadarnhau y bu rhai newidiadau yn y ffigurau, a chawsai’r rhain eu cylchredeg i’r Aelodau yn ystod yr wythnos. Mae blwyddyn gyntaf y Cynllun Busnes yn seiliedig ar gyllideb 2019/20 a gafodd ei chymeradwyo gan y Cyngor ym mis Chwefror, 2019. Yn y cyfnod ers mis Chwefror, canfuwyd wrth gysoni’r ffigyrau fod rhai elfennau wedi llithro gan arwain at rai newidiadau yn arbennig i’r ffigyrau ar gyfer adeiladu tai newydd ym Mlwyddyn 1 y Cynllun, a chanlyniad hynny yw bod £2m yn ychwanegol wedi’i gynnwys ar gyfer Blwyddyn 1. Mae hyn wedi arwain at fymryn o gynnydd yn y lefel benthyca, ac ym Mlwyddyn 1 bydd cronfeydd wrth gefn y CRT yn talu am hynny. Mae’n fwriad yn y Cynllun Busnes i ddangos hyfywedd y Cyfrif Refeniw Tai dros y cyfnod 30 blynedd, a’r flaenoriaeth yw cynnal a rhagori ar Safonau Ansawdd Tai Cymru a chynyddu’r stoc tai gan felly roi hwb i’r economi leol wrth i’r Cyngor weithredu ei raglen datblygu tai.

 

Penderfynwyd

 

           Cymeradwyo Cynllun Busnes 2019-2049 ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai (CRT), ac yn arbennig cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2019-2020 i'w cyflwyno i Lywodraeth Cymru.

           Cymeradwyo’r Rhaglen Gyfalaf arfaethedig ar gyfer Tai am 2019-2020 fel y nodir yn y Gyllideb Cyfalaf.

           Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Aelod Portffolio Tai, Pennaeth y Gwasanaethau Tai a’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, i gytuno dyluniad a geiriad terfynol y Cynllun Busnes 2019 – 2049, cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

9.

Cymeradwyo Strategaeth Gomisiynu a Chynllun Gwario Grant y Rhaglen Cefnogi Pobl pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Tai.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyriedadroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Tai yn ceisio cymeradwyaeth y Cyngor ar gyfer Strategaeth Gomisiynu a Chynllun Gwario Grant y Rhaglen Cefnogi Pobl 2019/20.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai a Chefnogi Cymunedau fod y Rhaglen Cefnogi Pobl yn fenter fframwaith polisi a chyllid gan Lywodraeth Cymru sy’n darparu cymorth yn gysylltiedig â thai i amrywiaeth o grwpiau o bobl sydd yr un mor fregus â’i gilydd. Nid yw’r gwasanaethau yn cynnwys ariannu costau llety na chostau gofal nac iechyd. Yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyfuno Grant y Rhaglen Cefnogi Pobl, y Grant Atal Digartrefedd a’r Grant (Gorfodaeth) Rhentu Doeth Cymru, bydd pob un o’r tri grant yn dod o dan yr enw grant Cymorth yn Gysylltiedig â Thai o fis Ebrill, 2019 ymlaen. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyfuno 7 o grantiau unigol eraill o dan yr enw Rhaglen Grant Plant a Chymunedau, ac o 1 Ebrill, 2019 bydd y rhaglen honno’n cyfuno’r grantiau unigol sydd wedi eu rhestru ym mharagraff 1.4 yr adroddiad.

 

Pwysleisiodd yr Aelod Portffolio pa mor bwysig ydyw bod y grant yma’n parhau ar yr un lefel, neu ar lefel uwch hyd yn oed, er mwyn cynnal y gefnogaeth i rai o unigolion a theuluoedd mwyaf bregus yr Ynys.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Datblygu (Tai) fod yr hinsawdd bresennol yn heriol yn ariannol, ac mae ansicrwydd hefyd ynglŷn â’r fformiwla ar gyfer ailddosbarthu cyllid Cefnogi Pobl. Pan gafodd y fformwla ei hadolygu yn 2012/13 a 2013/14 gwelwyd y cyllid ar gyfer awdurdodau Gogledd Cymru yn lleihau 23% o ganlyniad dros y 6 blynedd dilynol. Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried addasu’r fformiwla eto ac mae’n rhaid i Ynys Môn fod yn barod am golli cyllid o bosib. Ar gyfer Ynys Môn, mae’r grant yn hanfodol i raglen ataliol y Cyngor sy’n caniatáu iddo ddarparu ar gyfer anghenion 650 o unigolion ar yr Ynys bob wythnos. Byddai unrhyw ostyngiad pellach yn yr arian grant yn cael effaith ddifrifol, gan efallai beryglu dyfodol rhai o’r cynlluniau yn y Rhaglen Cefnogi Pobl.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod swyddogion o Lywodraeth Cymru wedi annerch cyfarfod diweddar o Drysoryddion Llywodraeth Leol yng Nghymru ar newidiadau yn y modd y caiff y grant ei ddosbarth trwy Gymru. Mae is-grŵp o Drysoryddion Llywodraeth Leol yng Nghymru yn cael ei sefydlu i edrych ar y mater gyda Llywodraeth Cymru er mwyn canfod ffordd o warchod awdurdodau a fydd yn cael eu heffeithio fwyaf gan y newidiadau yn y fformwla gyllido. Gan fod y rhain yn fwy tebygol o fod yng ngogledd Cymru, bydd un Trysorydd o chwech awdurdod Gogledd Cymru yn aelod o’r is-grŵp.

 

Roedd y Pwyllgor Gwaith yn gytûn bod gwasanaethau a ariennir gan Cefnogi Pobl yn eithriadol o bwysig wrth helpu i ddarparu cymorth i amrywiaeth o grwpiau o bobl fregus dros  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Grant Plant a Chymunedau 2019/20 pdf eicon PDF 786 KB

Cyflwyno adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Dysgu, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a Phennaeth y Gwasanaethau Tai.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei gymeradwyoadroddiad ar y cyd y Pennaeth Dysgu, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a’r Pennaeth Gwasanaethau Tai, yn ymgorffori’r Cynllun Drafft Plant a Chymunedau 2019/20.

 

Adroddodd Rheolwr yr Uned Cefnogi Teuluoedd y bydd Llywodraeth Cymru, o fis Ebrill 2019 ymlaen, yn cyfuno’r 7 grant unigol a restrir yn yr adroddiad o dan y Rhaglen Grant Plant a Chymunedau. Er bod pob rhaglen unigol yn parhau i gynllunio ac i adrodd yn annibynnol i Lywodraeth Cymru, yn unol â’r fenter Cyllid Hyblyg newydd, mae’n rhaid i’r Awdurdod nawr gyflwyno un cais grant am y grantiau hyn. Mae blwyddyn ariannol 2019/20 yn cael ei gweld fel blwyddyn drosiannol gyda gwaith pellach yn cael ei wneud i fapio a chydgysylltu gwasanaethau er mwyn gwella’r ffocws ar y cwsmer a chanlyniadau i’r cwsmer. Ceisir cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith ar gyfer Cynllun 2019-20 gyda’r bwriad wedyn o ddychwelyd gyda chynllun ar gyfer 2020 ymlaen lle bydd y rhaglenni grant wedi eu halinio’n well ac yn targedu grwpiau penodol/darparu gwasanaethau penodol yn unol â demograffeg lleol.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith fod rhaid i’r Awdurdod fod yn barod am y posibilrwydd o ostyngiad yn y cyllid o ganlyniad i gyfuno’r 7 grant unigol.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r Cynllun Drafft Plant a Chymunedau ar gyfer 2019-20.

11.

Polisi Cludiant Ysgolion pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei gymeradwyoadroddiad y Pennaeth Dysgu yn ymgorffori Polisi Cludiant Ysgol diwygiedig.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant a Ieuenctid, er na chynigir unrhyw newidiadau sylfaenol i’r meini prawf cymhwyster ar gyfer cludiant ysgol (mae’r rhain wedi eu hamlinellu yn adran 1.2.1 yr adroddiad), mae’r polisi diwygiedig yn rhoi eglurhad manwl ar y meysydd a amlinellir yn adran 1.2 yr adroddiad. Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at sylwadau’r Panel Sgriwtini Cyllidroedd y Panel wedi rhoi ystyriaeth fanwl i effaith ariannol y polisi cludiant diwygiedig yn ei gyfarfod ar 14 Chwefror, 2019, gan nodi’r gwaith cysoni ar lwybrau tacsi a oedd wedi digwydd i gadarnhau cymhwyster am y gwasanaeth; y gostyngiad yn nifer y plant sy’n derbyn y gwasanaeth o ganlyniad i’r gwaith cysoni; annigonolrwydd y gyllideb hanesyddol i gwrdd â chost y galw am wasanaethau, a datblygiad gwaith partneriaeth yn y maes hwn rhwng y Gwasanaethau Dysgu, Priffyrdd ac Adnoddau.

 

Dywedodd y Pennaeth Dysgu fod y Polisi Cludiant Ysgol cyfredol wedi cael ei adolygu i gwrdd â gofynion Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 ac i roi dealltwriaeth gynhwysfawr i fudd-ddeiliaid o’r hyn sy’n gwneud teithwyr yn gymwys am gludiant. Bydd y polisi diwygiedig hefyd yn sicrhau bod yr Adrannau Addysg a Phriffyrdd yn gweithredu’n effeithiol i ddarparu’r gwasanaeth a bydd yn cadarnhau eu gweithdrefnau darparu cludiant. Bydd y polisi hefyd yn darparu gwerth am arian a gwasanaeth o ansawdd i fudd-ddeiliaid.

 

Adroddodd y Cynghorydd Dylan Rees o gyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 19 Mawrth, 2019 lle cafodd y Polisi Cludiant Ysgol diwygiedig ei drafod. Wrth argymell i’r Pwyllgor Gwaith ei fod yn mabwysiadu’r polisi, roedd y Pwyllgor Sgriwtini wedi nodi fod y polisi diwygiedig yn fersiwn gliriach o’r polisi cyfredol ac nad yw’n cyflwyno unrhyw beth newydd a’i fod yn cydymffurfio’n llawn â Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008. Roedd y Pwyllgor hefyd wedi argymell, lle bo hynny’n ymarferol, y dylid rhoi ystyriaeth i amseriad cludiant ysgol er mwyn sicrhau bod modd i ddisgyblion sydd angen mynychu clybiau brecwast gael cludiant i’r clybiau hynny.

 

Penderfynwyd

 

           Mabwysiadu’r Polisi Cludiant Ysgol diwygiedig i ddod i rym ar ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd (Medi 2019).

           Nodi sylwadau’r Panel Sgriwtini Cyllid.

12.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 166 KB

Ystyried mabwysiadu’r isod:-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohono yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm”.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriwyd a phenderfynwyd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail ei bod yn cynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel y diffinnir yn Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.

 

13.

Moderneiddio Ysgolion ar Ynys Môn – Achos Busnes Llawn (ABLl) ar gyfer ysgol gynradd newydd yn lle Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyriedadroddiad y Pennaeth Dysgu yn ymgorffori’r Achos Busnes Llawn am ysgol gynradd newydd yn lle Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir.

 

Am ei fod wedi datgan diddordeb personol a oedd yn rhagfarnu yn yr eitem hon, gadawodd y Cynghorydd Richard Dew y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r penderfyniad ar yr eitem.

 

Adroddodd y Pennaeth Dysgu fod yr Achos Busnes Llawn yn egluro’r cyfiawnhad strategol, economaidd, masnachol, ariannol a rheolaethol dros y cynnig. Mae hefyd yn cynnwys y manylebau ar gyfer yr ysgol newydd a’r amserlen yn nghyswllt rheoli prosiect a chwblhau’r ysgol. Bydd cael sêl bendith Llywodraeth Cymru i’r Achos Busnes Llawn yn sicrhau 50% o’r cyllid ar gyfer y prosiect. Dywedodd y Swyddog y bu Ysgol Henblas yn rhan o’r penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith ar 30 Ebrill, 2018 i gymeradwyo Opsiwn 2, sef adeiladu ysgol newydd yn lle ysgolion Bodffordd a Corn Hir a chadw darpariaeth addysgol yn Llangristiolus trwy naill ai gadw Ysgol Henblas yn ei ffurf bresennol neu drwy ei huno gyda’r ysgol newydd i ffurfio ysgol aml-safle. Roedd y penderfyniad hwn yn ddibynnol ar gael sicrwydd bod safonau yn Ysgol Henblas yn gwella a bod niferoedd y disgyblion yn aros yn gyson. Bu ail-arolwg gan Estyn yn yr ysol ym mis Hydref 2019, ac mae canlyniadau’r arolwg hwnnw yn cadarnhau bod cynnydd wedi digwydd yn erbyn yr argymhellion o’r arolwg gwreiddiol ym mis Mai, 2017; hefyd, mae’r rhagamcanion ar gyfer niferoedd disgyblion yn dangos y byddant yn aros yn gyson dros y 3 blynedd nesaf. Felly, mae’r Awdurdod yn teimlo ei fod wedi cael sicrwydd mewn perthynas â safonau’n gwella a sefydlogrwydd niferoedd y disgyblion yn Ysgol Henblas, fel bod modd tynnu’r ysgol o’r cynnig.

 

Adroddodd y Cynghorydd Dylan Rees o gyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 19 Mawrth, 2019 lle cafodd yr Achos Busnes Llawn ei drafod. Diweddarwyd y Pwyllgor ynghylch, ac fe nododd sut mae’r Achos Busnes Llawn yn rhoi sylw i’r materion yr oedd wedi eu codi’n flaenorol yn y cam Achos Amlinellol Strategol mewn perthynas â materion priffyrdd a digon o lefydd parcio; materion traffig a diogelwch y ffordd yng nghyffiniau’r ysgol newydd, a dyfodol Canolfan Bodffordd fel adnodd cymunedol a fforddiadwyedd y cynnig. Nododd y Pwyllgor hefyd y sefyllfa well yn Ysgol Henblas erbyn hyn, ac o ganlyniad i’r wybodaeth a’r pwyntiau o eglurhad a dderbyniwyd, roedd yn argymell y dylid cymeradwyo’r Achos Busnes Llawn a thynnu Ysgol Henblas o’r cynnig.

 

Rhoddodd Bennaeth Dros Dro y Gwasanaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo amlinelliad o’r trefniadau rheoli traffig yng nghyffiniau’r ysgol newydd.

 

Penderfynwyd

 

           Cymeradwyo’r Achos Busnes Llawn (ABLl) ar gyfer yr ysgol gynradd newydd yn lle Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir.

           Cymeradwyo cyflwyno’r Achos Busnes Llawn i Lywodraeth Cymru.

           Cymeradwyo clustnodi derbyniadau cyfalaf ar gyfer adeiladu’r ysgol  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 13.