Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

Ar ran y Pwyllgor Gwaith, cydymdeimlodd y Cadeirydd yn ddwys â theulu’r diweddar Philip Fowlie, a fu’n gynghorydd yng Nghyngor Sir Ynys Môn, yn eu profedigaeth yn ddiweddar.

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Cynghorwyr Richard Dew, Llinos Medi, Alun Mummery, R.G.Parry, OBE, FRAgS a Robin Williams ddatganiad o ddiddordeb personol a rhagfarnus mewn perthynas ag eitem 8 ar y rhaglen.

 

Dywedodd y pum Cynghorydd eu bod wedi cael caniatâd arbennig gan y Pwyllgor Safonau i gymryd rhan yn y trafodaethau a phleidleisio. Cafodd y Cynghorwyr Richard Dew, Alun Mummery, R.G.Parry, OBE, FRAgS a Robin Williams ganiatâd arbennig ar 22 Mawrth, 2019 a’r Cynghorydd Llinos Medi ar 28 Ionawr, 2019.

2.

Materion brys a ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu Swyddog a benodwyd ganddo

Dim materion brys ar adeg anfon allan y rhaglen hon.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w hadrodd arnynt.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 349 KB

Cyflwyno ar gyfer eu cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 25 Mawrth 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith, cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 25 Mawrth, 2019.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 25 Mawrth, 2019 fel rhai cywir.

4.

Cofnodion – Panel Rhiant Corfforaethol pdf eicon PDF 308 KB

Cyflwyno i’w mabwysiadu, cofnodion drafft y Panel Rhiant Corfforaethol a gynhaliwyd ar 18 Mawrth, 2019.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd ar gyfer eu mabwysiaducofnodion drafft y cyfarfod o’r Panel Rhiant Corfforaethol a gynhaliwyd ar 18 Mawrth, 2019.

 

Penderfynwyd mabwysiadu cofnodion drafft cyfarfod y Panel Rhiant Corfforaethol a gynhaliwyd ar 18 Mawrth, 2019.

5.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 756 KB

Cyflwyno adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith - adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn cynnwys Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod Mai, 2019 i Ragfyr, 2019.

 

Rhoes Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ddiweddariad i’r Pwyllgor Gwaith mewn perthynas â’r eitemau hynny a oedd yn newydd i’r Rhaglen Waith fel a ganlyn -

 

  Eitem 2 – Cais i Gydweithio – Ysgol Goronwy Owen ac Ysgol Moelfre i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 20 Mai, 2019.

  Eitem 3 – Polisi Gosod Tai Cyngor (Cysylltiad Lleol) (Cymeradwyaeth i ymgynghori) i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 20 Mai, 2019.

  Eitem 7 – Dogfen Gyflawni Flynyddol 2019/20 i gael ei hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 17 Mehefin, 2019.

  Eitem 10 – Adroddiad ar y gwrthwynebiadau i’r rhybudd statudol ar ostwng oed mynediad i Ysgol Henblas i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 17 Mehefin, 2019.

  Eitem 13 – Cyfrifon Terfynol Drafft 2018/19 i gael eu hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 15 Gorffennaf, 2019.

  Eitem 19 – Strategaeth Ariannol Tymor Canol i’w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 16 Medi, 2019.

  Eitem 20 – Adolygiad Rheoli Trysorlys 2018/19 i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 16 Medi, 2019.

  Eitem 22 – Polisi Gosod Tai Cyngor (Cysylltiad Lleol) (Cymeradwyo’r polisi yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus) i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 16 Medi, 2019.

  Eitem 30 – Arolwg AGC o’r Gwasanaethau Plant yn Ynys Môn – Adroddiad Cynnydd Chwarterol ar y Cynllun Gwella i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 16 Rhagfyr, 2019.

 

Wrth nodi’r Flaen Raglen Waith, gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am i’r cyfeiriad at y Cynghorydd Carwyn Jones fel yr Aelod Portffolio ar gyfer eitemau 3 a 22 yn y fersiwn Gymraeg gael ei newid i’r Cynghorydd Alun Mummery.

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi ei diweddaru am y cyfnod Mai i Ragfyr 2019 fel y’i cyflwynwyd.

6.

Ymddiriedolaeth Addysg Bellach – Adroddiad Blynyddol pdf eicon PDF 787 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth y Pwyllgor Gwaithadroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn ymgorffori Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn am 2017/18.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid y cafodd yr Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Addysg Bellach eu cyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith am y tro cyntaf llynedd a’u bod yn ymwneud â blwyddyn ariannol 2016/17. Bryd hynny, roedd gwaith wrthi’n cael ei wneud i ddod ag eiddo sy’n rhan o Stad Elusennol David Hughes i fyny safon. Mae’r gwaith hwn bellach wedi’i gwblhau. Oherwydd y gall strwythur cyfredol yr Ymddiriedolaeth fod yn gaeth, mae trafodaethau rhwng y Swyddog Adran 151 a Swyddogion Cyfreithiol y Cyngor wedi cychwyn er mwyn ystyried y newidiadau y gellir eu gwneud i ailstrwythuro’r Ymddiriedolaeth er mwyn sicrhau ei bod yn fwy hyblyg ac yn fwy perthnasol i addysg gyfoes a’i gofynion. Cynigiodd yr Aelod Portffolio bod y Pwyllgor Gwaith yn derbyn adroddiad yn rhoi diweddariad ar gynnydd y trafodaethau hyn ymhen chwe mis.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bod yr Ymddiriedolaeth Addysg Bellach wedi gwneud colled o £66k yn 2017/18. Er mwyn parhau â’r rhaglen i atgyweirio’r stad, gwariwyd £119k ar waith trwsio a chynnal a chadw. Tybiwyd hefyd y byddai’n ddoeth creu darpariaeth ar gyfer dyledion drwg (£34,141) oherwydd maint y dyledion hanesyddol sydd wedi cronni er bod yr ymdrechion i gasglu’r dyledion gan denantiaid blaenorol wedi cyflymu’n ddiweddar.

 

Cymeradwyodd y Pwyllgor Gwaith y cynnig ei fod yn cael adroddiad ymhen chwe mis ar gynnydd y trafodaethau i ailstrwythuro’r Ymddiriedolaeth.

 

Penderfynwyd

 

  Cymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon ar gyfer Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn am 2017/18 fel y’i cyflwynwyd yn Atodiad A yr adroddiad.

  Bod adroddiad ar gynnydd trafodaethau ynglyn ag ail-strwythuro Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ymhen 6 mis.

7.

Adroddiad ar yr Ymgynghoriad Statudol ar Ostwng Oed Mynediad Ysgol Henblas pdf eicon PDF 817 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth y Pwyllgor Gwaithadroddiad y Pennaeth Dysgu yn cynnwys adroddiad ar ymgynghoriad ynghylch gostwng oed mynediad Ysgol Henblas o 3 Medi, 2019.

 

Yn dilyn cais gan Gorff Llywodraethu Ysgol Henblas i ostwng yr oed mynediad i Ysgol Henblas, dywedodd y Cadeirydd fod yr Awdurdod wedi cynnal ymgynghoriad ar y cais ac wedi cyhoeddi dogfen ymgynghori ar wefan y Cyngor a drafodwyd mewn cyfarfod o’r Corff Llywodraethu llawn ar 28 Tachwedd, 2018. Cylchredwyd copïau o’r ddogfen ymgynghori i’r ymgyngoreion a restrwyd yn y ddogfen ac fe’u gwahoddwyd i sesiwn galw-i-mewn yn yr ysgol ar 5 Chwefror, 2019 i drafod goblygiadau’r cynnig i drefniadaeth yr ysgol. Cynhaliwyd cyfarfod hefyd gydag aelodau’r Cyngor Ysgol er mwyn sicrhau bod lleisiau’r disgyblion yn cael gwrandawiad yn yr ymgynghoriad. Daeth y cyfnod ymgynghori i ben ar 1 Mawrth, 2019.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod yr adroddiad yn adlewyrchu’r ymateb i’r ymgynghoriad sy’n dangos bod y Corff Llywodraethu, y rhieni a’r Cyngor Ysgol o blaid y cynnig. Mewn ymateb i sylwadau a wnaed gan Estyn (Atodiad 2 yr adroddiad), darperir tystiolaeth gefnogol ar ffurf datganiadau o’r adroddiad a gyhoeddwyd gan GwE yn ddiweddar a data cyrhaeddiad disgyblion dros gyfnod o amser. Roedd Swyddogion yr Awdurdod yn argymell y dylid symud ymlaen gyda’r cynnig a chychwyn y broses o gyhoeddi rhybudd statudol a chasglu gwrthwynebiadau.

 

Penderfynwyd cymeradwyo symud ymlaen gyda’r drefn i ostwng oed mynediad Ysgol Henblas drwy gyhoeddi rhybudd statudol a chasglu gwrthwynebiadau.

8.

Moderneiddio Ysgolion - Addysg Ol-16 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth y Pwyllgor Gwaithadroddiad y Pennaeth Dysgu ar ganlyniad yr ymgysylltiad gyda chydranddeiliaid mewn perthynas â’r ddarpariaeth addysg ôl-16 ar Ynys Môn.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod y Cyngor wedi ymgysylltu gyda chydranddeiliaid fel rhan o’r broses o adolygu’r ddarpariaeth ôl-16 ar Ynys Môn. Pwrpas yr ymgysylltiad oedd mofyn barn a syniadau rhieni, disgyblion, staff, llywodraethwyr, aelodau etholedig a chydranddeiliaid eraill ar y cynlluniau moderneiddio addysg ôl-16 yn Ynys Môn.  Roedd y pum ysgol uwchradd ar Ynys Môn yn rhan o’r adolygiad. Dywedodd y Cadeirydd fod yr adroddiad yn amlinellu cyd-destun yr adolygiad, y broses ymgynghori a gynhaliwyd, y rhesymau dros newid, yr opsiynau a ystyriwyd ac ymatebion yr ysgolion a chydranddeiliaid eraill. Gofynnir i’r Pwyllgor Gwaith roi’r awdurdod i’r Swyddogion, yn wyneb canfyddiadau’r ymarfer ymgynghori a maint y wybodaeth sydd angen ei dadansoddi, dreulio amser pellach yn asesu’r opsiynau gyda’r nod o werthuso a pharatoi opsiynau posibl y gellir symud ymlaen â nhw erbyn diwedd 2019.

 

Penderfynwyd

 

  Nodi cynnwys yr adroddiad ar y broses ymgysylltu ar ddyfodol y ddarpariaeth addysg uwchradd ym Môn.

  Awdurdodi Swyddogion i gael cyfnod i asesu’r opsiynau o ran dyfodol y ddarpariaeth addysg uwchradd yn y sir er mwyn paratoi a gwerthuso opsiynau posibl ar y ffordd ymlaen erbyn diwedd 2019.