Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

Cyfeiriodd y Cadeirydd at absenoldeb Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Llinos Medi Huws oherwydd profedigaeth yn y teulu. Ar ran y Pwyllgor Gwaith, cydymdeimlodd â’r teulu yn ystod y cyfnod anodd hwn. 

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed

unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr Richard Dew, R. Meirion Jones a Robin Williams ddiddordeb personol ond un nad oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 5 ar y rhaglen.

2.

Materion brys a ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu Swyddog a Benodwyd Ganddo

Dim materion brys ar adeg anfon allan y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w hadrodd.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 244 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfodydd o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-

 

  15 Hydref, 2018 (Arbennig)

  22 Hydref, 2018 (Arbennig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 15 Hydref, 2018 (arbennig) a 22 Hydref, 2018 (arbennig).

 

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 15 a 22 Hydref, 2018 fel rhai cywir.

4.

Cynllun Ymgynghori Cyllideb 2019/20 pdf eicon PDF 926 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid Corfforaethol yn ymgorffori’r Cynllun arfaethedig ar gyfer Ymgynghori ar Gyllideb 2019/20 ei gyflwyno er ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith. Byddai’r Cynllun yn cael ei weithredu’n ystod y cyfnod rhwng 12 Tachwedd, 2018 a 31 Rhagfyr, 2018.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Busnes Corfforaethol bod y Cynllun Ymgynghori ar y Gyllideb yn cael ei graffu a’i adolygu bob blwyddyn fel y gellir gwella cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Mae Cynllun Ymgynghori 2019/20 yn ceisio ymgynghori’n ehangach gyda phobl ifanc a gwneud mwy o ddefnydd o’r cyfryngau cymdeithasol fel modd o godi ymwybyddiaeth ynghylch cynigion cyllidebol y Cyngor ac o gyrraedd pobl er mwyn cael eu sylwadau arnynt. Dywedodd yr Aelod Portffolio bod rôl bwysig yn hyn o beth i Aelodau hefyd o ran helpu pobl i ddeall y ffordd y mae’r Cyngor yn cael ei ariannu, sut y mae’n gwario arian cyhoeddus a pham y mae’n rhaid iddo dorri cyllidebau a gwasanaethau. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Dylan Rees, Is-gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol fod y Pwyllgor Sgriwtini wedi ystyried Cynllun Ymgynghori ar Gyllideb 2019/20 yn ei gyfarfod ar 6 Tachwedd, 2018. Wrth dderbyn y Cynllun, roedd y Pwyllgor wedi sôn am bwysigrwydd sicrhau bod trefniadau cadarn yn eu lle ar gyfer ymgynghori’n effeithiol gyda phlant a phobl ifanc fel rhan o’r broses ymgynghori ac, yn ogystal, y dylai llesiant cenedlaethau’r dyfodol ffurfio rhan hanfodol bwysig o’r broses ac y dylid ymgynghori gyda’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus fel un o bartneriaid strategol y Cyngor.

 

Trafododd y Pwyllgor Gwaith y Cynllun gan awgrymu y dylid, er mwyn helpu’r cyhoedd i lunio barn am y cynigion y mae’r Cyngor yn eu cyflwyno ar gyfer sicrhau cyllideb gytbwys, baratoi clip fideo byr ac/neu daflen ffeithiau yn nodi’r cyd-destun i’r angen am arbedion, maint yr arbedion y mae’r Cyngor wedi eu gwneud hyn yma a’r her y mae’n ei hwynebu wrth geisio cwrdd â’r galw am wasanaethau pan mae cyllid yn cael ei dorri flwyddyn ar ôl blwyddyn.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog 151 y bydd yr elfennau hynny’n cael eu cynnwys yn y pecyn ymgynghori pan gaiff ei gyhoeddi.

 

Penderfynwyd cymeradwyo Cynllun Ymgynghori Cyllideb 2019/20 i’w wireddu yn ystod y cyfnod 12 Tachwedd hyd at 31 Rhagfyr, 2018.

 

 

5.

Premiymau'r Dreth Gyngor - Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag Tymor Hir (Adolygiad o'r Flwyddyn Gyntaf) pdf eicon PDF 928 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaith - adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ar flwyddyn gyntaf premiwm y Dreth Gyngor yn ystod blwyddyn ariannol 2019/18 a hyd yn hyn am 2018/19. Nod yr adroddiad oedd sefydlu a oedd y premiymau a ddefnyddiwyd yn 2017/18 (25% o gyfradd safonol y dreth gyngor ar gyfer cartref gwag tymor hir ac ail gartrefi) yn cwrdd ag amcanion y Pwyllgor Gwaith a’r Cyngor Sir ac o ganlyniad, a oedd angen amrywio neu ddiddymu lefelau’r premiwm pan fydd y Cyngor Llawn yn gosod ei ofynion o ran Treth Gyngor 2019/20.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid, mai nod Llywodraeth Cymru wrth roddi’r disgresiwn i awdurdodau lleol godi premiwm ar ben cyfraddau safonol y Dreth Gyngor oedd dod â chartrefi gwag tymor hir yn ôl i ddefnydd, ychwanegu at y cyflenwad o dai fforddiadwy a gwneud cymunedau lleol yn fwy cynaliadwy. Dywedodd yr Aelod Portffolio bod yr holl opsiynau gwahanol ar gyfer gosod premiwm y Dreth Gyngor yn y dyfodol wedi cael eu hystyried yn y modd a amlinellwyd yn yr adroddiad gan gymryd i ystyriaeth nifer o ffactorau o ran gweithredu’r premiwm yn dilyn ei gyflwyno ym mis Ebrill, 2017. Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at Atodiad A yn yr adroddiad sy’n rhoi manylion am yr amcangyfrif o’r incwm a fyddai ar gael yn sgil y gwahanol ganrannau premiwm ar gyfer cartrefi gwag tymor hir ac ail gartrefi ac at Atodiad B sy’n cynnwys gwybodaeth am y premiymau a osodwyd gan awdurdodau lleol eraill yng Nghymru a’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol, ble mae hynny’n hysbys. Gan gymryd i ystyriaeth yr holl wybodaeth a ddarparwyd yn yr adolygiad o flwyddyn gyntaf y premiwm ac yn wyneb y ffaith bod nifer o gartrefi sydd wedi bod yn wag am amser maith yn parhau i fodoli ar draws yr Ynys – rhai y mae’r Cyngor yn awyddus i’w gweld yn dod yn ôl i ddefnydd - argymhellir y dylid cynnal ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar godi’r premiwm ar gyfer ail gartrefi i  35% o gyfradd safonol y dreth gyngor ac i 100% ar gyfer cartrefi gwag tymor hir.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod yr adolygiad wedi dangos nad yw’r penderfyniad i godi premiam wedi cael effaith arwyddocaol ar nifer yr ail gartrefi neu’r cartrefi gwag tymor hir o ran sbarduno perchenogion sy’n gorfod talu’r premiwm i farchnata neu werthu eu heiddo neu geisio trosglwyddo eiddo i gyfraddau busnes er mwyn cael eu heithrio o’r premiwm ac nad yw gweithredu’r premiwm wedi cael effaith fawr ar sail y Dreth Gyngor. Er bod £13,988 yn parhau i fod yn ddyledus o ran premiwm y Dreth Gyngor ar gyfer 2017/18, mae’r gyfradd gasglu ar gyfer 2017/18, sef 98.5%, yn dda iawn. Bydd cynyddu’r premiwm ar gyfer 2019/20 yn cynhyrchu mwy o incwm gan olygu y bydd modd dyrannu cyllid ychwanegol i gynlluniau a ddyluniwyd i gynorthwyo prynwyr tro cyntaf petai’r Cyngor yn dymuno gwneud hynny. Fodd bynnag, mae’r risgiau canlynol yn gysylltiedig â chynyddu'r premiwm -

 

           Gallai perchenogion ail  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Cyllideb Refeniw Ddrafft 2019/20 pdf eicon PDF 705 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaith – adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) yn cynnwys y Gyllideb Refeniw ddrafft ar gyfer 2019/20.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid bod gosod y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2019/20 wastad am fod yn heriol – gwnaed y dasg hon yn anoddach fyth ar ôl y setliad dros dro siomedig a dderbyniodd Ynys Môn gan Lywodraeth Cymru sydd wedi gadael y Cyngor gyda bwlch cyllido o £7m yn fras (cyn cymryd unrhyw arbedion ac unrhyw gynnydd yn y Dreth Gyngor i ystyriaeth). Mae’r Cyngor o’r herwydd yn wynebu gorfod gwneud rhai penderfyniadau anodd iawn. Er bod gwasanaethau wedi canfod arbedion gwerth cyfanswm o £3.747m hyd yma, rhagwelir y bydd gorwariant ar gyllideb 2018/19 a hynny’n bennaf oherwydd y pwysau ar y Gwasanaethau Plant a bydd angen cyllido’r pwysau hyn o’r arian wrth gefn cyffredinol gan olygu y bydd balans arian wrth gefn y Cyngor yn gostwng ymhellach i lefel sydd islaw’r balans isaf ar argymhellir. Dywedodd yr Aelod Portffolio y bydd y gyllideb dros dro gan gynnwys y rhestr o arbedion arfaethedig yn Atodiad 4, ynghyd â lefel y cynnydd yn y Dreth Gyngor, yn destun ymgynghoriad cyhoeddus. Caiff effaith lefelau amrywiol y cynnydd yn y Dreth Gyngor ei dangos yn y tabl yn adran 10.2 yr adroddiad gydag opsiynau i gynyddu’r Dreth Gyngor gan 5% a 10% yn cael eu hystyried. Mae’r sefyllfa ariannol ar drothwy 2019/20 yn anodd a bydd angen gweithredu ar arbedion ynghyd â chynnydd sylweddol yn y Dreth Gyngor. Mae union lefel y cynnydd yn dibynnu hefyd ar a fydd Llywodraeth Cymru yn pasio ymlaen i lywodraeth leol rywfaint, os o gwbl, o’r arian ychwanegol a dderbyniodd yng Nghyllideb y Canghellor ac os felly, beth fydd cyfran Ynys Môn o’r arian hwnnw.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 mai’r cam cyntaf yn y broses o osod y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2019/20 yw creu cyllideb ddigyfnewid, sef y gyllideb sydd ei hangen i ddarparu’r un lefel o wasanaethau ag yn 2018/19 ond wedi ei haddasu ar gyfer unrhyw newidiadau y gwyddys amdanynt neu rai yr ymrwymwyd iddynt (e.e. cynnydd neu ostyngiad mewn costau) - manylir ar y prif newidiadau yn adrannau 3 a 4 yr adroddiad - ac ar ôl addasu ar gyfer unrhyw newidiadau o ran staffio a thâl a chwyddiant prisiau fel y manylir arnynt yn adrannau 5 a 6 yr adroddiad. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau bod y gyllideb yn darparu lefel realistig o gyllid, mae angen gwneud newidiadau pellach sy’n adlewyrchu’r pwysau cyfredol ac unrhyw bwysau ychwanegol ar y gyllideb y gwyddys amdanynt - yn arbennig felly yn y Gwasanaethau Plant er mwyn cefnogi’r nifer gynyddol o blant sydd mewn gofal, ac o ganlyniad i hynny, y ffioedd ar gyfer Addysg All-Sirol a amlinellir yn adran 7 yr adroddiad. Dygodd y Swyddog sylw at y ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi trosglwyddo i’r setliad ar gyfer 2019/20, ddau o grantiau (Grant Tâl Athrawon a’r Grant Prydau Ysgol Am Ddim) y mae’n bwriadu eu rhoi i Gynghorau yn 2018/19.  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cyllideb Cyfalaf 2019/20 pdf eicon PDF 589 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd ar gyfer argymhelliad gan y Pwyllgor Gwaith – adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn cynnwys cyllideb gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2019/20.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod angen i’r Pwyllgor Gwaith gynnig cyllideb gyfalaf ar gyfer 2019/20 a fydd wedyn yn cael ei chyflwyno i’r Cyngor Llawn yn ei gyfarfod ar 27 Chwefror, 2019. Roedd yr adroddiad yn gosod allan y brif raglen gyfalaf ar gyfer 2019/20 ynghyd â bidiau am gynlluniau ychwanegol yr oedd angen arweiniad gan y Pwyllgor Gwaith yn eu cylch.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y gyllideb gyfalaf graidd yn ymgorffori’r strategaethau cyfalaf blaenorol sy’n seiliedig ar fuddsoddi mewn T.G., asedau cerbydau ac adeiladau, gosod wynebau newydd ar ffyrdd a darparu grantiau cyfleusterau i’r anabl yn unol â’r gofyniad statudol. Yr un modd â’r gorffennol, nid oes fawr o newid yn lefel y cyllid cyfalaf craidd y mae’r Cyngor yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru (yn cynnwys y Grant Cyfalaf Cyffredinol a’r Benthyciadau gyda Chymorth heb eu neilltuo) sy’n golygu bod ei allu i wario yn gostwng bob blwyddyn gyda hynny’n cyfyngu ar yr hyn y gall y Cyngor ei wneud. Dros y blynyddoedd, mae’r Cyngor wedi defnyddio derbyniadau cyfalaf o werthu asedau nad oes eu hangen mwyach fel cyfraniad tuag at wariant cyfalaf. Fodd bynnag, ac eithrio’r safleoedd ysgolion sydd wedi cael eu rhyddhau o ganlyniad i’r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - mae’r arian a geir o hynny wedi cael ei glustnodi tuag at adeiladu ysgolion newydd - ychydig iawn o asedau eraill sydd gan y Cyngor i’w gwerthu ac o ganlyniad, mae’r swm sydd ar gael o dderbyniadau cyfalaf i ariannu gwariant cyfalaf newydd yn llai o lawer nag yr oedd yn y gorffennol.

 

Cyfeiriodd y Swyddog at yr isod fel materion y mae angen arweiniad gan y Pwyllgor Gwaith ar gyfer symud ymlaen –

 

           Mewn cyllidebau cyfalaf yn y gorffennol, mae £1m o gyllid cyfalaf wedi cael ei glustnodi tuag at brosiect Gofal Ychwanegol Seiriol. Fodd bynnag, oherwydd y bydd y prosiect hwn yn awr yn cael ei ariannu’n gyfan gwbl drwy’r Cyfrif Refeniw Tai, gellir yn awr ryddhau’r £1m a glustnodwyd i gyllido prosiectau cyfalaf eraill – mae angen penderfynu a dyllid rhyddhau’r arian hwn ai peidio.

           Yn Rhaglen Gyfalaf 2018/19, cafodd swm o £1.858m ei glustnodi ar gyfer y safleoedd parhaol a dros dro i Sipsiwn a Theithwyr gyda hynny’n cynnwys £0.450m o grant allanol ar gyfer y safle parhaol a £1.408m o adnoddau’r Cyngor ei hun. Bwriedir gwario £0.120m ar y cynllun yn 2018/19 gan olygu y bydd £1.288m o arian y Cyngor nad ydyw wedi ei ddefnyddio yn cael ei gario drosodd i 2019/20. Gan fod caniatâd cynllunio bellach wedi cael ei sicrhau ar gyfer y safle dros dro, mae £0.778m wedi cael ei gynnwys yn rhaglen gyfalaf ddrafft 2019/20 ar gyfer cwblhau’r prosiect hwn. Nid yw’r cynlluniau ar gyfer y safle parhaol wedi mynd rhagddynt mor gyflym – nid yw caniatâd cynllunio wedi cael ei roddi eto ac mae angen gwneud  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.