Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Arbennig, Pwyllgor Gwaith - Dydd Llun, 15fed Hydref, 2018 11.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aeod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb. 

2.

Strategaeth Addysg Ynys Môn - Moderneiddio Ysgolion (Diweddariad 2018) pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Dysgu a oedd yn cynnwys diweddariad ar Strategaeth Addysg Moderneiddio Ysgolion Ynys Môn ar gyfer ystyriaeth a chymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid, ers cyhoeddi’r strategaeth wreiddiol yn 2013, bod yr Awdurdod wedi cydweithio â Phenaethiaid ysgolion ac Aelodau Etholedig er mwyn moderneiddio’r stoc ysgolion ar yr Ynys a hynny drwy gyfuno 10 o ysgolion cynradd llai ac adeiladu ysgolion 21ain Ganrif mewn tair ardal o fewn Band A gyda’r ddiweddaraf i agor ym Mawrth, 2019. Erbyn diwedd rhaglen Band A ym mis Ebrill, 2019 bydd dros 10% o blant ysgol gynradd Ynys Môn yn derbyn eu haddysg mewn adeiladau’r 21ain Ganrif a bydd nifer y lleoedd gwag yn ysgolion cynradd Ynys Môn wedi lleihau 10% - gostyngiad o dros 17% dros chwe mlynedd. Yn y sector uwchradd, mae’r gostyngiad yn niferoedd disgyblion a’r cynnydd mewn lleoedd gwag ynghyd â’r toriadau ariannol wedi golygu heriau cyllidebol sylweddol ar draws y sector a bydd yn debygol o barhau neu hyd yn oed waethygu dros y blynyddoedd nesaf. O ganlyniad, ac oherwydd rhaglen cyni ariannol parhaus y Llywodraeth Ganolog sy’n golygu bod yn rhaid i’r Gwasanaeth Dysgu ddod o hyd i arbedion o £5 Miliwn dros y dair blynedd nesaf, mae angen adolygu’r Strategaeth Moderneiddio Ysgolion sydd hefyd yn amserol gan y bydd rhaglen Band B yn dechrau yn Ebrill, 2019.    

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio bod Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn darparu cyfle i foderneiddio ysgolion Ynys Môn ymhellach ac i ddod o hyd i atebion lleol i broblemau lleol. Mae’r adroddiad yn nodi’r amserlen ar gyfer gweithredu ar y Strategaeth sydd wedi’i diweddaru ac hefyd yn ymhelaethu ar y gyrwyr ar gyfer newid ar gyfer y rhaglen Band B sydd wedi eu haddasu o’r rhai hynny a ddefnyddiwyd ar gyfer Band A. Rhagwelir y bydd yn rhaid blaenoriaethu dalgylch Ysgol Syr Thomas Jones o fewn Band B ac er bod potensial ar gyfer cynnydd yn y boblogaeth honno o ganlyniad i ddatblygiad Wylfa Newydd lle rhagwelir hyd at 200 o ddisgyblion ychwanegol, bydd yn rhaid rhoi ystyriaeth i wneud newidiadau er mwyn sefydlu trefniadau addysgol sy’n briodol ar gyfer y dyfodol. Yn fwy na hynny, bydd angen blaenoriaethu’r ddarpariaeth addysg ôl-16 a hynny am y rhesymau a amlinellir yn yr adroddiad.   

 

Bu’r Aelod Portffolio gloi drwy ddweud bod y bum mlynedd ddiwethaf wedi bod yn gyfnod cyffrous ar gyfer moderneiddio ysgolion a bod yn rhaid i’r Awdurdod fanteisio ar y cyfle cyn y bydd yn parhau â’i raglen gwelliant er mwyn sefydlu system ysgolion sy’n addas ar gyfer y 30 i 50 mlynedd nesaf er mwyn i blant yr Ynys gael y cyfle gorau i ffynnu a gwneud y gorau o’r cyfleoedd byd gwaith sydd ar y gorwel – ni fydd y genhedlaeth nesaf yn diolch i’r Awdurdod am beidio â gweithredu ar y cyfle hwn. Mae gweledigaeth y Cyngor ar gyfer addysg yn gyson â’i Gynllun Corfforaethol o ran gwneud ymrwymiad i weithio gyda phobl Ynys  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.

3.

Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2017/18 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid Corfforaethol yn cynnwys yr Adroddiad Perffomriad Blynyddol 2017/18 ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith.  

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Trawsnewid Corfforaethol bod yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol, y mae angen statudol i’r Cyngor ei gyhoeddi erbyn diwedd mis Hydref yn flynyddol, yn dadansoddi’r perfformiad dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf yn erbyn y gwelliannau a’r blaenoriaethau a amlinellir gan y Cyngor yn ei amcanion Llesiant ac yng Nghynllun y Cyngor. Dywedodd yr Aelod Portffolio fod y Cyngor wedi cael  nifer o lwyddiannau yn ystod blwyddyn ariannol 2017/18, yn cynnwys yr enghreifftiau canlynol

 

           Croesawodd Ysgol Cybi, yng Nghaergybi, ac Ysgol Rhyd y Llan, yn Llanfaethlu, ddisgyblion ar ddechrau’r flwyddyn academaidd. Mae’r ddwy ysgol 21ain ganrif fodern yn cynrychioli prosiectau arloesol i’r Cyngor Sir gan ei fod yn gweithio i foderneiddio a gwella addysg a sgiliau ar yr Ynys.

           Mae’r cyfradd ailgylchu’r Cyngor bellach yn 72% gyda dim ond 0.5% o’n gwastraff sirol bellach yn cael ei ddanfon i safleoedd tirlenwi. Yn seiliedig ar ddata’r llynedd, byddai hyn yn golygu mai Ynys Môn yw’r Awdurdod Lleol sy’n perfformio orau yng Nghymru.

           Mae’r Cyngor wedi wedi ymrwymo i geisioStatws Di-blastigar gyfer Ynys Môn ac mae bellach yn gweithio tuag at yr amcan hwn. 

           Mae 75 o dai gwag wedi dod yn ôl i ddefnydd o ganlyniad i gamau uniongyrchol gan y Cyngor.

           Mae cyfleuster gofal ychwanegol Hafan Cefni wedi ei ddatblygu yn Llangefni a bydd yn agor yn yr hydref.

 

Tra bo’r perfformiad yn erbyn dangosyddion perfformiad lleol allweddol, fel yr adlewyrchir gan y Sgorfwrdd Corfforaethol, yn adrodd stori gymysg ar y cyfan gyda nifer y Dangosyddion Perfformiad y gellir eu cymharu yn dangos bod 45% wedi gwella, 13% wedi aros yr un fath a 22% wedi dirywio ers y llynedd, dylid nodi bod 58% o’r dangosyddion wedi perfformio yn uwch na’u targed ar gyfer y flwyddyn, roedd 15% yn agos at y targed a’r 17% sy’n weddill yn is na’r targed. O ran perfformiad yn erbyn dangosyddion cenedlaethol y cyfeirir atynt fel Mesurau Atebolrwydd Perfformiad (PAM) sy’n cymharu pob awdurdod lleol yn erbyn yr un dangosyddion, roedd 50% o ddangosyddion y Cyngor wedi gwella, 36% wedi gwaethygu o gymharu â pherfformiad 2016/17. Fodd bynnag, rhaid nodi mai’r rhain yw’r dangosyddion PAM sydd wedi eu cyhoeddi ar hyn o brydbydd 2 o’r dangosyddion PAM Rheoli Gwastraff presennol nad ydynt wedi eu cyhoeddi yn perfformio’n dda ac mae 6 dangosydd pellach i’w cynnwys ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol. Bydd yr holl ddangosyddion PAM yn cael eu cyhoeddi ym mis Tachwedd, 2018.   

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio, gan edrych ymlaen tuag at 2018/19, bod y Cyngor yn ymwybodol o’r heriau ariannol sy’n wynebu’r Gwasanathau Plant a’r Gwasanaethau Dysgu a’i fod yn bwriadu edrych ar ffyrdd o gryfhau ei wasanaethau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.