Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

Croesawodd y Cadeirydd Mrs Annwen Morgan i’w chyfarfod cyntaf o’r Pwyllgor Gwaith fel Prif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn.  

  

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiadau o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

2.

Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu Swyddog a benodwyd ganddo

Dim materion brys ar adeg anfon allan y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w hadrodd.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 347 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, cofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 16 Medi 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 16 Medi, 2019 i’w cymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith. 

 

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 16 Medi, 2019 fel rhai cywir.

4.

Cofnodion – Panel Rhiant Corfforaethol pdf eicon PDF 332 KB

Cyflwyno i’w mabwysiadu, cofnodion drafft y Panel Rhiant Corfforaethol a gynhaliwyd ar 9 Medi 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion drafft y Panel Rhiant Corfforaethol a gynhaliwyd ar 9 Medi, 2019 ar gyfer eu mabwysiadu.

 

Penderfynwyd mabwysiadu cofnodion drafft cyfarfod y Panel Rhiant Corfforaethol a gynhaliwyd ar 9 Medi, 2019.

 

5.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 801 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn cynnwys Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng Tachwedd, 2019 a Mehefin 2020 i’w ystyried a nodwyd y newidiadau canlynol  

 

           Eitemau Newydd

 

           Eitem 7 – Newidiadau i’r Cyfansoddiad er mwyn adlewyrchu’r ailstrwythuro mewnol (ar gyfer cyfarfod 25 Tachwedd, 2019)

           Eitem 9 – Ysgogiad Economaidd Llywodraeth Cymru (ar gyfer cyfarfod 25 Tachwedd, 2019)

           Eitem 10 – Cyflwyno Galw GofalCostau Cyswllt Gofal ar gyfer Tenantiaid Tai Cyngor (cadarnhad o’r cynigion a chymeradwyaeth er mwyn cynnal gwaith ymgysylltu)(ar gyfer cyfarfod 25 Tachwedd, 2019)

           Eitem 34 – Cyflwyno Galw GofalCostau Cyswllt Gofal ar gyfer Tenantiaid Tai Cyngor (canlyniadau’r ymgysylltiad a chymeradwyo’r polisi) (ar gyfer cyfarfod 27 Ebrill, 2020)

 

           Eitemau sydd wedi eu Gohirio

 

           Eitem 8 – Bid Twf Gogledd Cymrui’w ail drefnu, dyddiad i’w gadarnhau

           Eitem 11 – Cyllideb 2020/21 (cynigion cychwynnol drafft ar gyfer ymgynghoriad) – I’w ystyried gan bwyllgor arbennig o’r Pwyllgor Gwaith i’w gynnal ar 23 Rhagfyr, 2019.

           Eitem 32 – Archwiliad CIW o Wasanaethau Plant yn Ynys Môn (adroddiad cynnydd 6 mis ar y Cynllun Gwella) – i’w ail drefnu ar ddyddiad i’w gadarnhau yn dilyn argymhellion y 2 bwyllgor sgriwtini ar amserlennu’r 3 phanel sgriwtini (yn cynnwys y Panel Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol).  

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith bod y cynigion cychwynnol ar gyfer Cyllideb 2020/21 wedi cael eu gohirio i gyfarfod 23 Rhagfyr oherwydd y llithriant yn amserlen Llywodraeth Cymru gyda chyhoeddiad y setliad drafft cychwynnol ar gyfer llywodraeth leol yn cael ei wneud yn llawer hwyrach nag arfer.  

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod Tachwedd, 2019 hyd at Mehefin, 2020 gyda’r newidiadau ychwanegol a amlinellwyd yn y cyfarfod.

 

6.

Polisi Gosod Tai Cyngor (Cyswllt Lleol) pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd ar gyfer ei ystyried, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai yn gofyn am ganiatâd y Pwyllgor Gwaith i ddiwygio’r Polisi Gosod Tai Cyngor. 

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Tai a Chefnogi Cymunedau bod y Polisi Gosod Tai Cyngor wedi bod yn weithredol ers 2016 a bod yr adolygiad presennol, a oedd yn ceisio sefydlu a yw’r polisi presennol yn cyfrannu tuag at gymunedau cynaliadwy, hefyd yn gyfle i newid rhai elfennau o’r polisi er mwyn sicrhau ei fod yn addas i’r diben wrth symud ymlaen. Yn dilyn cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith, cyflawnwyd ymgynghoriad cynhwysfawr ar ddiffinio a chynnwys cysylltiad lleol o fewn y system fandio gyda’r gynulleidfa darged fel y nodwyd yn yr adroddiad; derbyniwyd 114 o ymatebion gyda chefnogaeth i gynnwys cyswllt lleol fel ystyriaeth o fewn y polisi gyda chysylltiad ag ardal benodol i gael ei ddiffinio drwy edrych ar ddalgylchoedd cynghorau tref a chymuned. Derbyniwyd ymateb da hefyd i’r cwestiynau eraill a gyflwynwyd mewn perthynas â gweithrediad y polisi. Dywedodd yr Aelod Portffolio bod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn ei gyfarfod ar 11 Medi, 2019 wedi craffu ar ganlyniad yr ymgynghoriad ac roedd y pwyllgor ynghyd â’r Aelodau yn gefnogol o’r gwelliannau a gynigwyd.       

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Dylan Rees, Is-gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol  bod y Pwyllgor, wedi iddynt ystyried y broses ymgynghori a’r ymatebion, yn fodlon fod y broses wedi bod yn ddigonol a bod y newidiadau i’r Polisi Gosod Tai Cyngor yn dderbyniol yn seiliedig ar yr ymatebion a dderbyniwyd. Penderfynodd y Pwyllgor felly y dylid argymell fod y Polisi Gosod Tai Cyngor yn cael ei fabwysiadu gan y Pwyllgor Gwaith, yn cynnwys y newid mewn perthynas â chyswllt lleol. 

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith, wrth gefnogi a chroesawu cyflwyniad y ddarpariaeth cyswllt lleol i’r Polisi Gosod Tai, ei fod yn helpu i greu cymunedau cynaliadwy drwy sicrhau bod cysylltiadau teuluol a chymunedol yn cael eu cynnal ond nododd hefyd y bydd cwrdd ag anghenion brys mewn perthynas â thai hefyd yn parhau i fod yn flaenoriaeth. 

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r Polisi Gosod Tai Cyffredin diwygiedig fel y’i cyflwynwyd.

7.

Adroddiadau Blynyddol a Chyfrifon Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn 2018/19 pdf eicon PDF 865 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn cynnwys yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn ar gyfer 2018/19 ar gyfer eu hystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod yr adroddiad yn darparu trosolwg o gefndir Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn gan gynnwys statws cyfreithiol yr Ymddiriedolaeth a’r gwahanol elfennau ynddi h.y. y tair cronfa sy’n ffurfio’r Ymddiriedolaeth (Stad Elusennol David Hughes, Cronfa Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn 1/3 (Cyfyngedig), Cronfa Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn 2/3 (Cyfyngedig)). Mae’r Ymddiriedolaeth yn ennill incwm drwy gasglu rhenti o bortffolio Ymddiriedolaeth Gwaddol David Hughes y mae’n buddsoddi ynddynt a difidendau a llog ar fuddsoddiadau’r Gronfa Buddsoddi a reolir, llogau eraill a gwerthiant buddsoddiadau. Mae gwariant yn ymwneud â chynnal a chadw eiddo, nwy a thrydan ac ati, dibenion elusennol, ffioedd elusennol (archwilio) a ffioedd rheoli eiddo. Darperir gwybodaeth mewn perthynas ag incwm, gwariant ac asedau’r Ymddiriedolaeth yn Atodiad A yr adroddiad sy’n cynnwys y cyfrifon ariannol ar gyfer yr Ymddiriedolaeth 2018/19. Mae’r rhain yn dangos bod elw net o £113,016 ar gyfer y flwyddyn; daeth buddsoddiadau incwm i £131,010 (£125,970 ohono o Stad David Hughes a  £5,040 o ddifidendau a llog). Roedd gwariant ar gyfer y cyfnod yn £126,589 gyda £99,943 ohono’n mynd ar drwsio a chynnal a chadw. Ar 31 Mawrth, 2019 roedd cyfanswm cronfeydd yr Ymddiriedolaeth yn £3,237,050, ac o’r swm hwn, roedd £372,681 yn falans arian parod yr Ymddiriedolaeth ar y dyddiad hwn.       

 

Atgoffodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 pawb am ddibenion elusennol y tair cronfa y mae Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn wedi eu rhannu iddynt, y prif ffynonellau cyllido a’r dosbarthiad o gyllid rhwng y tair cronfa. (Mae paragraff 2.1. yr adroddiad yn cyfeirio at hyn). Nododd y Swyddog fod yna lawer o wariant wedi bod ar uwchraddio’r portffolio eiddo oedrannus er mwyn sicrhau ei fod i fyny i’r safon a bod y buddsoddiad hwn wedi parhau yn 2018/19 gyda £99,943 yn cael ei wario ar drwsio a chynnal a chadw stad David Hughes gan adael £5,621 dros ben i’w wario rhwng y tair cronfa. Mae’r rhan fwyaf o werth y Gronfa yn dod o stad David Hughes - £2,545,800. Mae’r Gronfa felly yn ariannol iach ac mae’r adroddiad uchod yn cwblhau’r gwaith o adrodd ar gyfrifon Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn am eleni.

       

Roedd y Pwyllgor Gwaith yn ddiolchgar am y gwaith a wnaed gan y Gwasanaeth Cyllid er mwyn sicrhau mwy o eglurder o ran y ffordd y mae Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn yn gweithio a hynny drwy’r adroddiad hwn a’r adroddiad a nodir ymhellach o dan eitem 13 ar yr agenda. Holodd y Pwyllgor Gwaith a yw’r Cyngor yn adroddiadau ar y defnydd o’r arian a dderbynnir gan Elusen David Hughes ar gyfer y Tlodion, sef cyfanswm o chwarter unrhyw  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Adroddiad Monitro Blynyddol Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd pdf eicon PDF 5 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol yn cynnwys yr Adroddiad Monitro Blynyddol ar y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn ymwneud â’r cyfnod rhwng Awst 2017 a Mawrth 2019.  

 

Yn absenoldeb yr Aelod Portffolio Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid bod angen i’r Cynghorau gyflwyno Adroddiad Monitro Blynyddol ar weithrediad y strategaeth a pholisïau’r Cynllun Datblygu Lleol rhwng 1 Ebrill a 31 Mawrth o’r flwyddyn flaenorol i Lywodraeth Cymru. Fel arfer, mae angen cyhoeddi’r adroddiad monitro cyntaf erbyn 31 Hydref o’r flwyddyn yn dilyn mabwysiadu’r cynllun datblygu lleol ar y cyd, fodd bynnag, nid oes modd i hyn ddigwydd pan mae llai na 12 mis rhwng dyddiad mabwysiadu’r cynllun a 31 Mawrth y flwyddyn ganlynol. Gan y mabwysiadwyd Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Ynys Môn a Gwynedd ddiwedd Gorffennaf 2017 dyma’r cyfle cyntaf i gyflwyno’r adroddiad monitro blynyddol i Lywodraeth Cymru ar weithrediad y cynllun dros flwyddyn ariannol lawn. Ychwanegodd yr Aelod Portffolio bod yr Adroddiad Monitro Blynyddol yn darparu crynodeb o berfformiad y Cynllun dros y cyfnod yn erbyn cyfres o ddangosyddion o fewn y Fframwaith Monitro (a nodir ym mhennod 7 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd) a ddefnyddir er mwyn monitro effeithlonrwydd y Cynllun a’i bolisïau. Mae canfyddiadau’r Adroddiad Monitro cyntaf yn dangos bod y dangosyddion hyn, ar y cyfan, yn perfformio yn unol â’r disgwyliadau ac o ganlyniad ei fod yn hapus cynnig yr adroddiad i’r Pwyllgor Gwaith gyda’r argymhelliad bod y Prif Swyddog Cynllunio yn cael yr awdurdod i wneud y newidiadau golygyddol terfynol, unrhyw ddiwygiadau a/neu gywiriadau i’r adroddiad cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Cynllunio bod canfyddiadau allweddol yr Adroddiad Monitro Blynyddol hwn yn gadarnhaol a bod y dystiolaeth a gasglwyd yn dangos bod polisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn llwyddo i ddarparu amcanion Strategol y Cynllun. Bydd yr Adroddiad Monitro Blynyddol yn darparu gwaelodlin tystiolaeth ar y dangosyddion er mwyn gallu cymharu yn y dyfodol, rhywbeth a fydd yn galluogi’r Cyngor i adnabod unrhyw dueddiadau, rhywbeth sy’n bwynt allweddol gan fod hon yn broses ailadroddol a blynyddol dros nifer o flynyddoedd a ddylai adnabod heriau a chyfleoedd ynghyd â dulliau posib ar gyfer adolygu ac addasu polisïau lleol. O ystyried y dystiolaeth a ddarparwyd gan yr Adroddiad Monitro Blynyddol felly, ni ystyrir fod y Cynllun Datblygu ar y Cyd angen ei adolygu’n llawn na’n rhannol ar hyn o bryd a hynny am y rhesymau a nodwyd. Mae polisïau’r Cynllun yn cael eu gweithredu yn unol â’r disgwyliadau ac mae’r Cynllun yn cyflawni ei amcanion ar hyn o bryd.   

 

Adroddodd y Cynghorydd G.O.Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio, ar drafodaethau’r Pwyllgor ar y mater hwn yn ei gyfarfod 24 Hydref, 2019. Nododd fod y Pwyllgor wedi trafod pwysigrwydd y fframwaith monitro a’r Adroddiad Monitro Blynyddol o ran asesu  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Gostwng Oed Mynediad i Ysgol Llandegfan pdf eicon PDF 793 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc yn dilyn cais gan Gorff Llywodraethol Ysgol Llandegfan i ymgynghori ar ostwng oedran mynediad yr ysgol i’r Pwyllgor Gwaith ar gyfer ei ystyriaeth. 

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc bod Corff Llywodraethol Ysgol Llandegfan wedi cyflwyno cais i’r Cyngor yn gofyn iddo ymgynghori ar ostwng yr oedran mynediad ar gyfer yr ysgol er mwyn gallu derbyn disgyblion yn rhan-amser o’r mis Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn 3 oed (yn weithredol o fis Medi 2020) yn hytrach na’r trefniadau presennol lle bydd disgyblion yn cael eu derbyn yn llawn amser ym mis Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn 4 oed. Mae’r Corff Llywodraethol o’r farn y byddai hyw yn ddatblygiad pwysig i’r ysgol gan y byddai’n galluogi disgyblion i gael mynediad i ddarpariaeth helaeth a chyfoethog a byddai’n sicrhau cysondeb, cynnydd a pharhad yn addysg y disgyblion, ynghyd â darparu addysg feithrin ffurfiol ar gyfer plant y dalgylch. Byddai hefyd yn galluogi’r ysgol i drefnu gofal plant hyblyg a fforddiadwy ar gyfer rhieni sy’n dymuno dychwelyd i’r gwaith.  

 

Siaradodd y Cynghorydd Alun Roberts fel Aelod Lleol o blaid y cais gan dynnu sylw at y ffaith bod Ysgol Llandegfan yn ysgol lwyddiannus ond a all fod o dan anfantais oherwydd y trefniadau presennol gan nad oes modd i’r ysgol gynnig clwb gofal/brecwast i’r disgyblion meithrin ac o ganlyniad bod rhieni yn dewis mynd â’u plant i ysgolion cyfagos er mwyn derbyn y ddarpariaeth hon. Byddai gostwng yr oedran mynediad yn dod â nifer o fanteision addysgol gan gynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, galluogi’r ysgol i gynnig darpariaeth gadarn flwyddyn yn gynharach nag sy’n digwydd ar hyn o bryd gan ei galluogi i gyflwyno ethos a sylfaen addysgol gadarn yr ysgol yn gynt gyda hynny yn y pen draw yn hwyluso cynnydd addysgol y disgyblion. Yn ogystal, byddai newid ystod oedran yr ysgol yn gwella cysondeb yn y ddarpariaeth cyn ysgol, yn enwedig o ran darpariaeth ieithyddol.  

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith y sylwadau a wnaed ac fe gytunodd i’r cais y dylid cynnal ymgynghoriad ar ostwng yr oedran mynediad i Ysgol Llandegfan.

 

Penderfynwyd cymeradwyo symud ymlaen i ymgynghori ar ostwng oedran mynediad Ysgol Llandegfan i dderbyn disgyblion  yn rhan amser o’r mis Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn 3 oed yn weithredol o Fedi 2020.

10.

Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Drafft pdf eicon PDF 873 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol, yn cynnwys ymateb drafft Cyngor Sir Ynys Môn i Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Drafft ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith. 

 

Yn absenoldeb yr Aelod Portffolio Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, adroddodd y Cadeirydd bod ymateb drafft y Cyngor i’r ymgynghoriad ar gynigion o fewn y Fframwaith Datblygu Lleol wedi’i rannu â holl Aelodau’r Cyngor er gwybodaeth ac ar gyfer eu mewnbwn. Yn ogystal, mae sylwadau wedi eu derbyn gan gynghorau tref a chymuned ac maent wedi eu hanfon ymlaen at y Swyddogion. Mae Arweinwyr y chwe Chyngor yng ngogledd Cymru hefyd yn rhoi ymateb at ei gilydd ar ran Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru er mwyn tynnu sylw at fannau lle mae cynigion y Fframwaith yn gwyro oddi wrth ddyheadau’r Bwrdd ar gyfer yr ardal. Dywedodd y Cadeirydd ei bod bellach yn deall bod y dyddiad cau o 1 Tachwedd, 2019 ar gyfer ymateb i’r ymgynghoriad bellach wedi’i ymestyn i 15 Tachwedd 2019 ac ychwanegodd yr hoffai fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Swyddogion y Cyngor am gydlynu’r ymateb ac am ddod â’r wybodaeth at ei gilydd.    

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio bod ymateb i’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn hynod bwysig gan y bydd yn gosod y cyfeiriad ar gyfer datblygu yng Nghymru rhwng 2020 a 2040; mae’n amlinellu strategaeth ar gyfer mynd i’r afael â blaenoriaethau cenedlaethol allweddol drwy’r system gynllunio, yn cynnwys cynnal a datblygu economi ffyniannus, datgarboneiddio, datblygu ecosystemau gwydn a gwella iechyd a llesiant cymunedau. Mae’n gynllun gofodol ac mae’n rhan o’r haen uchaf o gynlluniau datblygu sy’n canolbwyntio ar faterion a heriau ar raddfa genedlaethol. Mae’r Cyngor felly’n croesawu’r cyfle i wneud sylwadau ar y Fframwaith ac er ei fod yn cefnogi’r egwyddor o greu Fframwaith o’r fath, mae ganddo bryderon ac amheuon difrifol mewn perthynas â nifer o themâu a pholisïau yn y Fframwaith Datblygu Drafft, yn enwedig mewn perthynas â’r canlynol -    

 

           Cydnabod y Prosiectau o Arwyddocâd Cenedlaethol Presennol (NSIP) - mae’r Cyngor o’r farn nad yw’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (FfDC) drafft yn rhoi digon o gydnabyddiaeth i brosiectau megis Wylfa Newydd a National Grid na gallu ynni niwclear i gwrdd â thargedau allyriadau. Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd y prosiectau hyn i dwf economaidd Ynys Môn a gogledd orllewin Cymru yn y dyfodol ac mae angen i hynny gael ei adlewyrchu yn y FfDC.  

           Agwedd tuag at Ynni Carbon Iselmae agwedd y FfDC drafft tuag at ynni carbon isel yn rhy gul gan ganolbwyntio’n ormodol ar ddatblygiadau gwynt a solar. Mae dynodiad mwyafrif yr Ynys fel ardal flaenoriaeth ar gyfer ynni gwynt a solar o bryder sylweddol ac mae’n annerbyniol. Mae’r Cyngor yn gwrthwynebu’r dynodiad hwn am nifer o resymau gan gynnwys materion yn ymwneud â’r isadeiledd sydd ei angen er mwyn cynnal datblygiadau o’r fath.    

           Ardaloedd Twf Rhanbarthol - mae’r Cyngor  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cwrs Golff Llangefni pdf eicon PDF 1000 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol mewn perthynas â dyfodol Cwrs Golff Llangefni ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith. 

 

Yn absenoldeb yr Aelod Portffolio Prosiectau Mawr a Datblygiad Economaidd, dywedodd y Cadeirydd bod yr adroddiad yn nodi’r gwaith sydd wedi’i wneud ers i’r cyfrifoldeb am y Cwrs Golff gael ei drosglwyddo’n ôl i’r Cyngor ym mis Hydref, 2018 yn dilyn penderfyniad partneriaeth Llangefni i beidio â cheisio estyniad i brydles yr adnodd nac i ofyn am drosglwyddiad ased cymunedol gan y Cyngor. Mae rhan o’r gwaith hwn wedi cynnwys ymgynghoriad cyhoeddus helaeth ar waredu’r ased (y mae crynodeb ohono i’w weld yn yr adroddiad) gyda’r Pwyllgor Gwaith ym Mai 2018 wedi cefnogi mewn egwyddor argymhelliad i gael gwared ag annedd y Ffridd a’r 41 acer drwy eu gwerthu ar y farchnad agored gyda’r arian cyfalaf a dderbynnir yn cael ei glustnodi ar gyfer datblygu cyfleusterau’r canolfannau hamdden presennol. Mae Swyddogion yn parhau i fod o’r farn amodol mai’r penderfyniad hwn yw’r un cywir a’i fod yn darparu cyfle i fuddsoddi mewn cyfleusterau hamdden lleol er mwyn gallu sicrhau manteision llesiant ac iechyd ehangach.   

 

Dygodd y Rheolwr Busnes Gwasanaeth (Rheoleiddio a Datblygiad Economaidd) sylw at y ffaith bod rhaid i’r Cyngor Sir, o ystyried y sensitifrwydd sydd ynghlwm â’r broses o gael gwared ar ased, sicrhau bod yr holl brosesau o’r fath felly yn gadarn, yn drylwyr ac yn cydymffurfio’n gyfan gwbl â gofynion statudol. Rhaid i effaith y cais gael ei asesu’n ddigonol yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol ac fe argymhellir y dylai’r swyddogion, fel rhan o’r cam nesaf, ystyried a pharatoi’r asesiadau effaith angenrheidiol ynghyd ag ymgymryd ag ymarfer ymgynghori cyhoeddus pellach. Mae’r rhain yn ofynion statudol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth lawn â’r ddeddfwriaeth. Yna, bydd adroddiad llawn yn dod yn ôl i’r Pwyllgor Gwaith fel y gall ddod i benderfyniad terfynol ar y mater.   

 

Penderfynwyd  -

 

           Nodi cynnwys yr adroddiad a’r ymatebion a gafwyd i’r prosesau ymgynghori hyd yma.

           Llwyr gefnogi a chymeradwyo argymhelliad y Gwasanaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd i ymgymryd â’r gwaith o baratoi asesiadau effaith pellach yn gwbl unol â gofynion y ddeddfwriaeth berthnasol.

           Cefnogi a chymeradwyo cyfnod pellach o ymgynghori â’r cyhoedd.

12.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd

Ystyried mabwysiadu’r isod:-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohono ym Mharagraff 16, Atodlen 12A y Ddeddf”.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystriwyd, ac fe benderfynwyd o dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, i gau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y golygai rhyddhau gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 16 o Atodlen 12A y Ddeddf honno.

13.

Diweddariad Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a oedd yn darparu diweddariad ar y cynnydd a wnaed o ran ailstrwythuro Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith. 

 

Yn dilyn cyflwyno cyfrifon Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn i’r Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod 29 Ebrill, 2019, gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am i strwythur yr Ymddiriedolaeth gael ei adolygu gyda’r nod o sicrhau bod mwy o gyllid yn cael ei ddefnyddio er mwyn bodloni dibenion elusennol yr Ymddiriedolaeth h.y. cynorthwyo disgyblion presennol a chyn ddisgyblion pum ysgol Uwchradd y Cyngor i gynnal eu haddysg neu i ymgymryd â chymwysterau galwedigaethol neu broffesiynol. Yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Gwaith, cynhaliwyd trafodaethau â Phenaethiaid y 5 ysgol uwchradd er mwyn adnabod dulliau posibl ar gyfer defnyddio arian yr Ymddiriedolaeth er mwyn sicrhau budd i ddisgyblion cyfredol a chyn ddisgyblion a’r ffordd orau o ddyrannu’r cyllid i’r 5 ysgol. Mynegwyd mai’r ysgolion eu hunain sydd yn y sefyllfa orau i adnabod y disgyblion a allai elwa. Mae’r cynigion perthnasol wedi eu nodi yn yr adroddiad. Cafodd cyfreithiwr allanol hefyd ei gyflogi i gynghori ar opsiynau posibl mewn perthynas ag adolygu a diweddaru’r cynlluniau sy’n llywodraethu’r Ymddiriedolaeth Addysg Bellach ac i wella’r defnydd o’r Gronfa. Tra bo angen diweddaru’r dogfennau llywodraethiant, rhywbeth a fydd yn golygu gwaith gwaith pellach a chytundeb y Comisiwn Elusennau, mae sgôp i ddefnyddio’r gronfa mewn ffordd wahanol o fewn cwmpas y cynlluniau presennol.      

 

Mae Adroddiad Blynyddol a chyfrifon 2018/19 (fel y’u cyflwynwyd o dan eitem 7 ar yr agenda), yn dangos bod gwerth y Gronfa gyffredinol yn £3.237m ac yn cynnwys 2 gronfa benodol – y Gronfa Waddol (£2.78m) sy’n cynnwys yn bennaf arian o eiddo buddsoddiad gyda’r gweddill yn fuddsoddiadau masnachu, dyledwyr a chredydwyr ac arian parod yn y banc sy’n golygu ei fod yn anaddas ar gyfer ei ddosbarthu i fodloni amcanion elusennol yr Ymddiriedolaeth; a’r Gronfa Gyfyngedig (£455k) yn cynnwys buddsoddiadau masnachol ac arian parod yn y banc y gellir ei ddosbarthu er mwyn cwrdd ag amcanion elusennol yr Ymddiriedolaeth. Mae’r adroddiad yn nodi’r modd y bydd yr arian sy’n weddill sy’n cael ei greu gan yr Ymddiriedolaeth bob blwyddyn yn cael ei ddosbarthu rhwng Elusen David Hughes ar gyfer y tlodion (elusen ar wahân nad yw o dan reolaeth y Cyngor) a dwy is-gronfa o dan y Gronfa Gyfyngedig sydd er lles disgyblion cyfredol a chyn-ddisgyblion pum ysgol uwchradd yr Ynys. Gan nad yw’r Pwyllgor Gwaith ar hyn o bryd yn gosod cyllideb, nid yw’n bosib penderfynu ar yr arian dros ben y bydd y Gronfa efallai yn ei wneud bob blwyddyn a faint fydd ar gael ar gyfer pob cronfa ar ôl gwario ar gynnal a chadw eiddo ar y stad. Mae’r adroddiad yn cynnig cyllideb benodol ar gyfer gwaith trwsio a chynnal a chadw a fydd yn cael ei chynyddu bob blwyddyn yn unol â’r cynnydd yn chwyddiant y rhenti  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 13.