Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiadau o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

 

2.

Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig

Dim materion brys ar adeg anfon allan y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd dim materion brys i adrodd arnynt.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 309 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr, 2019 i'w cymeradwyo.

PENDERFYNWYD cadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr, 2019 fel rhai cywir.

 

4.

Cyllideb Refeniw Ddrafft 2020/21 pdf eicon PDF 571 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a oedd yn ymgorffori'r Gyllideb Refeniw ddrafft ar gyfer 2020/21 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid, er bod y sefyllfa gyllidebol ar gyfer 2020/21 yn well na'r disgwyl oherwydd setliad dros dro uwch gan Lywodraeth Cymru, mae'r amgylchiadau ariannol yn parhau i fod yn heriol. Nid yw’r setliad, mewn termau real, ond yn cymharu â lefel darpariaeth Llywodraeth Cymru yn 2012/13. Adroddodd ymhellach fod Llywodraeth Cymru yn tybio y bydd awdurdodau lleol yng Nghymru yn codi’r Dreth Gyngor 7.1% er mwyn cydbwyso’u cyllidebau er bod setliad gwell wedi'i roi. Mae cronfeydd wrth gefn y Cyngor wedi gostwng oherwydd fe’u defnyddiwyd i gwrdd â phwysau ariannol mewn gwasanaethau statudol lle mae’r galw’n parhau i gynyddu, megis y Gwasanaethau Oedolion ac Addysg. Roedd yr Aelod Portffolio o'r farn y gallai bod angen adolygu cyllideb sylfaenol y gwasanaethau hyn. Dywedodd ymhellach ei fod wedi cynghori’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd yn y bore, a’i fod yn dymuno dweud yn yr un modd wrth y Pwyllgor Gwaith, fod angen cymryd agwedd ddarbodus o ran gwneud argymhellion mewn perthynas â Chyllideb Refeniw 2020/21.

Cafodd y Pwyllgor amlinelliad manwl gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 o’r rhannau yn yr adroddiad a oedd yn ymwneud â’r gyllideb refeniw arfaethedig ar gyfer 2020/21. Amlygwyd ac adroddwyd ar y materion canlynol: -

 

  • Paratoir y gyllideb ar sail y rhagdybiaethau a nodwyd yn y Cynllun Ariannol Tymor Canol a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Gwaith ym mis Medi, 2019. Mae'r rhain wedi'u hystyried wrth gyfrifo'r gyllideb ddigyfnewid ar gyfer 2020/21;
  • Nodwyd y newidiadau yr ymrwymwyd iddynt a'r addasiadau a wnaed i'r gyllideb ym mharagraffau 3.1 i 3.10 o'r adroddiad;
  • Mae nifer o gyllidebau wrth gefn wedi'u hadeiladu i mewn i’r gyllideb i dalu costau tymor penodol a nodir y risgiau posib y gallai bod angen cyllid ar eu cyfer yn ystod y flwyddyn ym mharagraff 4.1 (Tabl 1). Mae'r sefyllfa ariannol well yn 2020/21 yn caniatáu i'r Cyngor leihau'r Gyllideb Wrth Gefn ar gyfer Cyflogau a Graddfeydd gan na ddisgwylir y bydd angen gwneud gostyngiadau sylweddol yn nifer y staff yn 2020/21;
  • Costau staff - mae ansicrwydd o ran y dyfarniad tâl i Athrawon sy'n cychwyn ym mis Medi 2020 a hefyd ynghylch y dyfarniad tâl o Ebrill 2020 ar gyfer staff nad ydynt yn athrawon - mae hyn yn risg i gyllideb y Cyngor gyda phob cynnydd o 1% yn y dyfarniad tâl i staff nad ydynt yn athrawon yn gyfwerth â baich cyllidebol ychwanegol o £450k;
  • Galw cynyddol am Ofal Cymdeithasol i Oedolion, gyda niferoedd cynyddol o gleientiaid ar draws pob maes gwasanaeth. Ar gyfer 2019/20 disgwylir i'r Gwasanaeth wario £1.21m yn uwch na’r gyllideb. Mae’r gorwariant net a amcangyfrifwyd ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion, ar ôl caniatáu ar gyfer 2 grant ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, yn £980k ac mae'r swm hwn wedi'i nodi fel yr isafswm sydd raid wrtho i fynd i'r afael â'r diffyg yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Cyllideb Cyfalaf 2020/21 pdf eicon PDF 576 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a oedd yn ymgorffori'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer 2020/21.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid bod gofyn i’r Pwyllgor Gwaith gynnig
cyllideb gyfalaf ar gyfer 2019/20 a fydd wedyn yn cael ei chyflwyno i'r Cyngor Llawn yn ei gyfarfod ar 10 Mawrth, 2020. Roedd yr adroddiad yn nodi'r brif raglen gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2020/21.

Adroddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn fanwl i'r Pwyllgor am y prif bwyntiau yn yr adroddiad, ac amlygwyd ac adroddwyd ar y materion a ganlyn: -

 

  • Mae'r Strategaeth Gyfalaf gyfredol yn nodi'r egwyddorion i'r Cyngor eu dilyn wrth bennu ei raglen gyfalaf, a dyrennir cyllid cyfalaf bob blwyddyn i sicrhau bod y Cyngor yn buddsoddi yn ei asedau cyfredol h.y. adeiladau'r Cyngor, cerbydau, offer TG, priffyrdd a ffyrdd;
  • Cyfeiriwyd at y cyllid cyfalaf (fel y dangosir yn Nhabl 1 yr adroddiad) a oedd yn dangos y cyllid cyfalaf y disgwylir iddo fod ar gael ar gyfer 2020/21 a bod y ffigyrau ar gyfer y setliad cychwynnol i lywodraeth leol yn cyfeirio at y Grant Cyfalaf Cyffredinol a Benthyca â Chymorth. Mae lefel y cyllid o dan y ddau bennawd hyn wedi aros yn weddol gyson dros nifer o flynyddoedd ac ni ragwelir y byddant yn newid yn sylweddol rhwng y setliad dros dro a'r setliad terfynol;
  • Amlinellwyd y sefyllfa o ran rhaglen gyfalaf Ysgolion yr 21ain Ganrif i'r Pwyllgor;
  • Mae cyllid y CRT wedi'i glustnodi ar gyfer prosiectau CRT yn unig. Mae'r cynllun yn caniatáu ar gyfer defnyddio £5.24m o gronfeydd wrth gefn y CRT yn 2020/21;
  • Cyfeiriwyd at y cynlluniau yr ymrwymwyd iddynt yn 2019/20 fel y dangosir yn Nhabl 2 yr adroddiad, a fydd yn cario drosodd i 2020/21 ond bydd angen cyllid cyfatebol ychwanegol o £75k mewn perthynas â Chynllun Adfywio Caergybi (Rhan II y Fenter Treftadaeth Treflun) ac argymhellir y dylid cynnwys y cynllun hwn yn rhaglen gyfalaf 2020/21;
  • Adnewyddu / Amnewid Asedau Cyfredol (fel y dangosir yn Nhabl 3 yr adroddiad). Mae lefel y cyllid yn parhau yn 2021/22 a thu hwnt a bydd rhaglen gyfalaf y Cyngor yn gyfyngedig i adnewyddu ac amnewid asedau cyfredol;
  • Cyfeiriwyd at brosiectau cyfalaf ‘Unwaith ac am Byth’ i’w hariannu yn 2020/21 (fel y dangosir yn Nhabl 4 yr adroddiad) a oedd yn werth cyfanswm o £ 2,174m;
  • ‘Roedd paragraff 5.4 yr adroddiad yn dwyn sylw at nifer o brosiectau nad oes angen cyllid arnynt yn 2020/21 ond a allai fod angen eu hariannu yn 2021/22 neu wedi hynny.

 

Adroddodd y Cynghorydd Aled M Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar drafodaethau cyfarfod y Pwyllgor hwnnw ar 13 Ionawr, 2020 lle cyflwynwyd y Gyllideb Gyfalaf ar gyfer 2020/21.  Dywedodd fod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wedi argymell cefnogi'r Rhaglen Gyfalaf o £36.903m ar gyfer 2020/21.

 

Roedd yr Arweinydd yn dymuno diolch i'r Panel Sgriwtini Cyllid am ei waith mewn perthynas â'r Gyllideb Gyfalaf a'r Gyllideb Refeniw ar gyfer 2020/21.

 

Wrth nodi'r wybodaeth a gyflwynwyd,  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.