Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiadau o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Richard Dew ddiddordeb personol a rhagfarnus mewn perthynas ag eitem 2 ar y rhaglen ac nid oedd yn bresennol pan ystyriwyd yr eitem.

 

2.

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - Ardal Llangefni: Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc ar Raglen Moderneiddion Ysgolion y Cyngor Sir mewn perthynas ag Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc yn ymgorffori papur cynnig ar foderneiddio ysgolion yn ardal Llangefni, mewn perthynas ag Ysgol Corn Hir ac Ysgol Bodffordd. Roedd yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i gynnal ymgynghoriad statudol ar y cynnig i “adleoli ac ehangu Ysgol Corn Hir ar safle arall i gymryd disgyblion Ysgol Bodffordd, cau Ysgol Bodffordd ac adolygu dalgylchoedd Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir.”

 

Gadawodd y Cynghorydd Richard Dew y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar y mater hwn gan ei fod wedi datgan diddordeb personol a rhagfarnus yn y mater.

 

Cyflwynodd y Deilydd Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid yr adroddiad a oedd yn amlinellu’r cynnig i foderneiddio ysgolion yn ardal Llangefni, ac a oedd yn ymwneud yn benodol ag Ysgol Corn Hir ac Ysgol Bodffordd. Cyfeiriodd at y penderfyniad a wnaed ym mis Mai 2019, a oedd yn benderfyniad o eiddo’r Cyngor yn unig, drwy’r Prif Weithredwr a’r Pwyllgor Gwaith, i ddiddymu’r penderfyniadau gwreiddiol mewn perthynas â moderneiddio ysgolion yn ardal Llangefni a gofyn i swyddogion edrych o’r newydd ar y materion amrywiol mewn perthynas â moderneiddio ysgolion a’r gofynion dan Gôd Trefniadaeth Ysgolion 2018, ac i adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Gwaith maes o law. Mae’r papur cynnig yn rhan o’r broses hon ac yn asesiad mewnol cychwynnol y gofynnir i’r Pwyllgor Gwaith ei gymeradwyo fel sail i ymgynghoriad statudol. Conglfaen y weledigaeth ar gyfer moderneiddio ysgolion yw dyfodol plant yr Ynys a phrif amcan y rhaglen yw creu’r amgylchedd addysgol orau bosib i ganiatáu  i athrawon a disgyblion lwyddo, a thrwy hynny hyrwyddo safonau uchel. Gall newid fod yn anodd, a hyd yma mae gweithredu’r rhaglen moderneiddio ysgolion wedi bod yn heriol ar brydiau, ac er ei fod wedi golygu cau rhai ysgolion cynradd ar y naill law, ar y llaw arall mae wedi arwain at fuddsoddiad sylweddol o £22m mewn addysg ar yr Ynys drwy greu tair ysgol newydd ar gyfer cenhedlaeth heddiw a chenedlaethau’r dyfodol. Wrth amlinellu’r broses a’r amserlen i’w dilyn ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus pe cymeradwyid y papur cynnig, anogodd yr Aelod Portffolio yr holl randdeiliaid a phawb sydd â diddordeb i gymryd rhan ac i gyflwyno eu safbwyntiau er mwyn sicrhau bod yr ymgynghoriad mor ystyrlon â phosib.

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc y papur cynnig i’r Pwyllgor Gwaith, gan amlinellu ei gynnwys, a chadarnhaodd y derbyniwyd cyngor cyfreithiol arno, mewn perthynas â’r broses a disgwyliadau’r Côd Trefniadaeth Ysgolion 2018. Amlinellodd yrwyr allweddol ar gyfer newid y Strategaeth Moderneiddio Ysgolion a’r meini prawf y mae’n rhaid eu bodloni pan gymhwysir y gyrwyr hynny i’r ddarpariaeth addysg yn ardal Llangefni. Dywedodd y rhoddwyd ystyriaeth i un ar ddeg opsiwn/opsiwn amgen rhesymol ar gyfer ardal Llangefni, sydd yn cynnwys Ysgol Gyfun Llangefni, Ysgol Bodffordd, Ysgol Corn Hir, Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn. Daeth dadansoddiad manwl o’r holl opsiynau amgen rhesymol i’r casgliad nad oes yr un datrysiad hyfyw ar gyfer ardal Llangefni gyfan  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.

3.

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - Ardal Llangefni : Ysgol Y Graig ac Ysgol Talwrn pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc ar Raglen Moderneiddion Ysgolion y Cyngor Sir mewn perthynas ag Ysgol Y Graig ac Ysgol Talwrn.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc yn ymgorffori papur cynnig ar foderneiddio ysgolion yn ardal Llangefni mewn perthynas ag Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig. Roedd yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i gynnal ymgynghoriad statudol ar y cynnig i “gynyddu capasiti Ysgol Y Graig i gymryd plant Ysgol Talwrn, cau Ysgol Talwrn ac adolygu dalgylchoedd Ysgol Talwrn ac Ysgol Y Graig”.

 

Cyflwynodd y Deilydd Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid yr adroddiad a oedd yn amlinellu’r cynnig i foderneiddio ysgolion yn ardal Llangefni, ac a oedd yn ymwneud yn benodol ag Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig. Fel y gwnaeth dan eitem 2, cyfeiriodd at gefndir y mater, pan benderfynodd y Cyngor, drwy’r Prif Weithredwr a’r Pwyllgor Gwaith, i ddiddymu’r penderfyniadau gwreiddiol mewn perthynas â moderneiddio ysgolion yn ardal Llangefni, gan ofyn i Swyddogion edrych o’r newydd ar y gwahanol faterion mewn perthynas â hynny a gofynion Côd Trefniadaeth Ysgolion 2018, ac adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Gwaith maes o law. Mae’r papur cynnig yn rhan o’r broses hon ac yn asesiad mewnol cychwynnol y gofynnir i’r Pwyllgor Gwaith ei gymeradwyo fel sail i ymgynghoriad statudol. Cyfeiriodd at weledigaeth yr Awdurdod a ysgogodd ei raglen foderneiddio ysgolion, a’i phrif amcan wrth geisio creu’r amgylchedd addysgol orau posib i ganiatáu i athrawon a disgyblion lwyddo, a thrwy hynny hyrwyddo safonau uchel. Wrth wneud hynny, roedd yn derbyn y gall newid fod yn anodd a hyd yma mae gweithredu’r rhaglen moderneiddio ysgolion wedi bod yn heriol ar brydiau, a’i fod wedi golygu cau rhai ysgolion cynradd ar y naill law ond, ar y llaw arall, mae wedi arwain at fuddsoddiad sylweddol o £22m mewn addysg ar yr Ynys drwy greu tair ysgol newydd ar gyfer cenhedlaeth heddiw a chenedlaethau’r dyfodol. Wrth amlinellu’r broses a’r amserlen i’w dilyn ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus pe cymeradwyid y papur cynnig, anogodd yr Aelod Portffolio yr holl randdeiliaid a phawb sydd â diddordeb i gymryd rhan ac i gyflwyno eu safbwyntiau er mwyn sicrhau bod yr ymgynghoriad mor ystyrlon â phosib.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl ifanc bod y cyflwyniad cyffredinol a roddodd dan eitem 2 ynghylch y prif yrwyr ar gyfer newid a’r meini prawf ar gyfer darpariaeth addysg yng nghyd-destun ardal ehangach Llangefni yn berthnasol yn yr achos hwn hefyd a daeth dadansoddiad o’r holl opsiynau amgen rhesymol ar gyfer y ddarpariaeth addysg yn ardal Llangefni (adran 5 o’r papur cynnig) i’r casgliad nad oes datrysiad hyfyw ar gyfer ardal Llangefni gyfan. O’r herwydd, ac oherwydd eu hagosatrwydd daearyddol, canolbwyntiwyd ar ganfod datrysiad posibl ar wahân ar gyfer dalgylchoedd Ysgol Y Graig ac Ysgol Talwrn a datrysiad ar wahân a dalgylchoedd Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir (y rhoddir sylw iddo dan eitem 2). Amlinellodd y Swyddog yr heriau allweddol sy’n wynebu Ysgol Y Graig ac Ysgol Talwrn (adran 6) a dywedodd bod deg opsiwn amgen rhesymol (gan gynnwys y cynnig) ar gyfer Ysgol Talwrn a naw opsiwn amgen rhesymol  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.