Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiadau o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaed datganiad o ddiddordeb personol ond nid un a oedd yn rhagfarnu gan y Cynghorydd R.G.Parry OBE, FRAGS ynghylch eitem 12 ar y rhaglen a dywedodd, er bod ganddo hawl i wneud hynny, na fyddai’n pleidleisio ar y mater.

2.

Materion brys a ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu Swyddog a benodwyd ganddi

Dim materion brys ar adeg anfon allan y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 246 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod Arbennig o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 17 Awst 2020.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a  gynhaliwyd ar 17 Awst, 2020 i'w cymeradwyo ganddo.

 

Penderfynwyd cadarnhau fel rhai cywir, gofnodion cyfarfod arbennig y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 17 Awst 2020.

4.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 387 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn ymgorffori Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod rhwng mis Hydref, 2020 a mis Mai, 2021 a nodwyd yr eitemau newydd canlynol - 

 

           Ar gyfer cyfarfod 26 Hydref, 2020 

 

          Eitem 3 - Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2019/20

           Eitem 5 - Strategaeth Atal Corfforaethol

           Eitem 6 - Ffioedd Casglu Gwastraff Gwyrdd

          Eitem 7 - Cyflwyno Galw Gofal (Taliadau Cyswllt Gofal ar gyfer Tenantiaid Tai Cyngor)

 

           Ar gyfer cyfarfod 30 Tachwedd, 2020

 

           Eitem 9 - Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 2 2020/21

           Eitem 10 - Dogfen Gyflawni Flynyddol 2020/21

           Eitemau 11-13 - Eitemau monitro cyllideb

           Eitem 14 - Sylfaen Treth Gyngor 2021/22

          Eitem 15 - Adroddiad a Chyfrifon Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn 2019/20

          Eitem 17 - Cytundeb Twf 2 (Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru)

 

·                    Ar gyfer cyfarfod 14 Rhagfyr, 2020

 

           Eitem 19 - Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys 2020/21

           Eitem 20 - Cwrs Golff Llangefni

 

           Ar gyfer Mawrth 2021

 

          Eitemau 24 -34 - Eitemau gosod cyllideb (ar ddyddiad ym mis Mawrth i'w gadarnhau)

          Eitem 36 - Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 3 2020/21 (ar gyfer y cyfarfod a gadarnhawyd ar gyfer 22 Mawrth)

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi ei diweddaru am y cyfnod Hydref 2020 i Mai 2021 fel y’i cyflwynwyd.

5.

Monitro'r Gyllideb Refeniw – Chwarter 1, 2020/21 pdf eicon PDF 800 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau'r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 1 blwyddyn ariannol 2020/21

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod Chwarter 1 2020/21 wedi bod yn gyfnod hynod heriol i'r Cyngor, dinasyddion yr Ynys a'i busnesau gan ei fod yn cyd-ddigwydd â dyfodiad y pandemig Coronafeirws, gan olygu bod cynlluniau wedi eu rhoi ar stop am y tro yn ystod y cyfnod oherwydd canolbwyntio ar ddelio â'r sefyllfa argyfwng. Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn llwyddo i gadw ei ben uwchben y dŵr yn ariannol a hynny, i raddau helaeth, oherwydd cefnogaeth Llywodraeth Cymru sydd wedi darparu £232m hyd yma i gwrdd â chostau ychwanegol a gafodd Cynghorau yng Nghymru wrth ddelio â'r pandemig. Mae'r sefyllfa ariannol a ragwelir ar gyfer 2020/21 gan gynnwys Cyllid Corfforaethol a Chronfa'r Dreth Gyngor bron yn sefyllfa cyllideb gytbwys gyda gorwariant bach o £0.027m, sef 0.02% o gyllideb net y Cyngor. Fodd bynnag, dylid nodi ei bod yn anodd, ar y gorau, rhagweld beth fydd y sefyllfa derfynol  erbyn diwedd y flwyddyn ar ddiwedd Chwarter 1 gan y gall y sefyllfa newid yn sylweddol wrth i'r flwyddyn fynd yn ei blaen. Ar gyfer 2020/21 mae ceisio rhagweld y sefyllfa derfynol ar ddiwedd y flwyddyn hyd yn oed yn anos oherwydd ei bod yn dal yn aneglur pryd y bydd rhai o wasanaethau'r Cyngor yn dychwelyd i'w trefn arferol a beth fydd y costau ychwanegol o ddarparu'r gwasanaethau hynny mewn ffordd sy'n lleihau'r risg o ymlediad y feirws. Mae'r pwyntiau i'w nodi yn cynnwys y canlynol –

 

           Gan fod mwyafrif yr ysgolion wedi bod ar gau am bob wythnos heblaw am un yn nhymor yr haf, maent wedi cael llai o gostau nag  arfer; bydd unrhyw danwariant yn sgil hynny’n cynyddu balansau’r ysgolion gan nad yw'r Cyngor yn bwriadu crafangu'n ôl ddim o'r tanwariant hwnnw.

           Gorwariwyd £716k ar Ofal Cymdeithasol i Oedolion am y cyfnod a rhagwelir gorwariant o £195k ar gyfer y flwyddyn gyfan. Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid, wrth dynnu sylw at y ffaith nad yw hyn yn cynnwys y grant pwysau’r gaeaf posib oherwydd nad yw'r Cyngor wedi cael cynnig o grant ar gyfer pwysau'r gaeaf hyd yma, fod yr ansicrwydd hwn yn achos pryder ac yn rhwystro gwneud cynlluniau ac anogodd Lywodraeth Cymru i ymgorffori Cyllid Pwysau'r Gaeaf o fewn y setliad cyffredinol i’r Cyngor bob blwyddyn er mwyn rhoi i'r Cyngor yr eglurder sydd ei angen arno i barhau i ddarparu gwasanaethau y mae'r cyllid yn helpu i'w cefnogi.

           'Roedd tanwariant o £292k yn y Gwasanaethau Plant yn ystod y cyfnod a rhagwelir y bydd tanwariant o £1.382k ar ddiwedd y flwyddyn. Mae'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd wedi gweld gostyngiad yn nifer yr atgyfeiriadau i'r gwasanaeth a gostyngiad bach yn nifer y plant sy'n dod i ofal yr Awdurdod Lleol.

           ‘Roedd gorwariant o £32k ar y Gwasanaeth Gwastraff yn y cyfnod a rhagwelir y bydd y sefyllfa  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Monitro'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 1, 2020/21 pdf eicon PDF 379 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad y Gyllideb Gyfalaf ar gyfer chwatrer cyntaf blwyddyn ariannol 2020/21

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid fod y gwariant gwirioneddol hyd at 30 Mehefin 2020 yn £1.705m yn erbyn gwariant a broffiliwyd o £3.315m ac na ddylai hynny fod yn syndod oherwydd bod cyfyngiadau cloi wedi dod i rym yn ystod y cyfnod gan olygu na allai prosiectau fwrw ymlaen fel y cynlluniwyd yn ystod yr amser hwn. Beth bynnag, mae nifer o gynlluniau cyfalaf wedi eu pwysoli i wario yn rhan olaf y flwyddyn ariannol ac mae'r cyllid sydd wedi'i glustnodi ar gyfer cynlluniau yn ddiogel. Gellir gweld effaith y pandemig hefyd yn y  costau ychwanegol a gafwyd ar gynlluniau Lliniaru Llifogydd Pentraeth a Biwmares sydd angen £49k a £39k o arian cyfatebol ychwanegol gan y Cyngor ac y gofynnir i'r Pwyllgor Gwaith ei gymeradwyo.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod gan y Cyngor gronfa arian wrth gefn a neilltuwyd i helpu i ariannu ei raglen gyfalaf ac fe'i defnyddir i gyfrannu'r arian cyfatebol ychwanegol sydd raid wrtho.  Y gobaith yw y bydd pob prosiect cyfalaf yn gwneud cynnydd yn erbyn gwariant yn ystod gweddill y flwyddyn ac eithrio'r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion sydd wedi'i seibio hyd nes y ceir penderfyniad terfynol ar gyfluniad ysgolion yn ardal Llangefni a lle nad oes disgwyl llawer o wariant , a chynlluniau datblygu tai newydd o dan gyllideb y CRT lle mae'n annhebygol y bydd gwariant yn adfer yn llawn am weddill y flwyddyn er gwaethaf bod gwaith yn ailddechrau.

 

Penderfynwyd

 

           Nodi cynnydd gwariant a derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2020/21 yn Chwarter 1.

           Cymeradwyo £49,000 o gyllid cyfatebol ychwanegol ar gyfer cynllun Lliniaru Llifogydd Pentraeth, yn unol â pharagraff 3.1.1 yr adroddiad. Mae’r gost ychwanegol o ganlyniad uniongyrchol i Covid-19 sydd wedi cynyddu costau’r contract i gwblhau’r cynllun.

           Cymeradwyo £39,000 o gyllid cyfatebol ychwanegol ar gyfer cynllun Lliniaru Llifogydd Biwmares, yn unol â pharagraff 3.1.1 yr adroddiad. Mae’r gost ychwanegol o ganlyniad uniongyrchol i Covid-19 sydd wedi cynyddu costau’r contract i gwblhau’r cynllun.

7.

Monitro Cyllideb y CRT - Chwarter 1, 2020/21 pdf eicon PDF 470 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 1 2020/21

 

Dywedodd  yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid fod y sefyllfa ariannol refeniw ar gyfer y chwarter cyntaf yn dangos tanwariant o £220k. Mae'r incwm a ragwelir £50k yn is na'r gyllideb wreiddiol, a rhagwelir y bydd y gwariant £50k yn is na'r gyllideb wreiddiol. Mae gwariant cyfalaf £421k yn is na'r gyllideb broffiliedig ac mae'r gwariant a ragwelir £2,112k yn is na'r gyllideb. Mae'r diffyg a ragwelir felly (gan gyfuno refeniw a chyfalaf) £2,112k yn llai na'r gyllideb (gan ostwng y diffyg a gynlluniwyd i £4,976) yn bennaf o ganlyniad i wariant cyfalaf is na'r gyllideb.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod balans agoriadol cronfa wrth gefn y CRT yn £8,597k. Roedd y gyllideb ddiwygiedig yn caniatáu defnyddio £7,088km o'r balans hwn. Bydd tanwariant a ragwelir ar y gyllideb gyfalaf yn arwain at drosglwyddo £2,112k yn ychwanegol i'r gronfa wrth gefn. Bydd hyn yn rhoi balans wrth gefn o £3,621k erbyn diwedd y flwyddyn ariannol a fydd ar gael i ariannu cynlluniau tai i'r flwyddyn nesaf ac mae arian y  CRT wedi ei neilltuo’n benodol i ariannu costau sy'n gysylltiedig â stoc dai'r Cyngor. Ar yr ochr refeniw roedd incwm yn llai na'r hyn a ragwelwyd oherwydd bod llai o unedau tai newydd ar gael i'w gosod nag a ragwelwyd yn wreiddiol, ond cafodd hyn ei wrthbwyso gan lai o wariant ar waith atgyweirio a chynnal a chadw oherwydd bod yr holl waith o'r fath wedi ei atal yn ystod y cyfnod clo ar wahân i waith brys.

 

Penderfynwyd nodi’r isod -

 

          Y sefyllfa a nodir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) am Chwarter 1, 2020/21.

           Yr alldro rhagdybiedig ar gyfer 2020/21.

8.

Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2021/22 – 2023/24 pdf eicon PDF 719 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a oedd yn ymgorffori'r Cynllun Ariannol Tymor Canol (CATC) am y cyfnod 2021/22 i 2023/24 . Mae'r Cynllun yn nodi anghenion tebygol y Cyngor o ran yr adnoddau y bydd raid wrthynt ar gyfer y tair blynedd ariannol nesaf ac yn manylu ar sut mae'r Cyngor yn bwriadu cydbwyso'r gofyn am  adnoddau â'r cyllid sydd ar gael.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid fod y Cynllun wedi'i gwblhau yn ystod cyfnod o ansicrwydd ynghylch economi'r DU yn dilyn ymlaen o'r pandemig byd-eang a'r trafodaethau sy'n parhau ynghylch Brexit; bu rhoi’r Cynllun at ei gilydd o dan yr amgylchiadau hyn yn dasg heriol. Mae ystod o ffactorau yn debygol o effeithio ar y rhagdybiaethau a wnaed yn y Cynllun wrth i argyfwng Covid-19 barhau, gan gynnwys dod â'r cynllun cymorth swyddi i ben a chynnydd disgwyliedig mewn diweithdra a fydd yn cael effaith ar yr economi leol gyda goblygiadau ar gyfer refeniw treth y Cyngor a cheisiadau am arian dan y Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor. Er bod Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau cyllid ychwanegol i gynorthwyo'r Cyngor i ymateb yn lleol i'r pandemig, ni fu unrhyw arwyddion hyd yma ynglŷn â'r setliad i lywodraeth leol ar gyfer 2021/22. Yn seiliedig ar y llynedd, disgwylir cael gwybodaeth am y setliad dangosol ym mis Rhagfyr / Ionawr ond gall y ffigyrau fod wedi newid  erbyn i'r setliad terfynol gael ei gyhoeddi. Er gwaethaf yr holl ansicrwydd, bydd yn ofynnol i'r Cyngor baratoi cyllideb gytbwys.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 mai pwrpas y Cynllun Ariannol Tymor Canol yw ceisio rhagweld  costau darparu gwasanaethau yn ystod y tair blynedd nesaf yn erbyn amcangyfrif o'r adnoddau fydd ar gael, ynghyd â llywio cwrs i bontio'r bwlch cyllidebol ar gyfer pob un o'r tair blynedd. Er y gellir rhagweld y costau gan gymryd i ystyriaeth newidiadau sy'n hysbys a thrwy wneud rhagdybiaethau diwygiedig am y prif ffactorau sy'n effeithio ar gyllideb refeniw'r Cyngor gan gynnwys costau tâl, chwyddiant, pensiynau a'r galw, nid oes unrhyw wybodaeth hyd yma ynglŷn â lefel y cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer llywodraeth leol am 2021/22. Y gobaith oedd bod y setliad gwell i lywodraeth leol ar gyfer 2020/21 yn drobwynt lle byddai awdurdodau lleol yn dechrau cael eu hariannu i'r lefel sydd ei hangen arnynt i ddarparu gwasanaethau yn effeithiol ond mae argyfwng Covid 19 wedi bwrw amheuaeth ar y canlyniad hwn. Mae adran 5 yr adroddiad yn nodi'r pwysau cyllidebol cenedlaethol a lleol y mae'r Cyngor yn eu hwynebu a sut y bwriedir cynnwys y rhain yn y CATC. Mae Tabl 3 yr adroddiad yn dangos y gyllideb ddigyfnewid a ragwelir ar gyfer pob un o'r tair blynedd rhwng 2021/22 a 2023/24. Mae'r amcangyfrif (cost parhau i ddarparu gwasanaethau i'r un lefel ac yn yr un modd ag  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Adolygiad Rheoli Trysorlys Blynyddol 2019/20 pdf eicon PDF 371 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Adran 151 yn cynnwys yr Adolygiad Rheoli Trysorlys Blynyddol ar gyfer 2019/20.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid ei bod yn ofynnol i'r Cyngor, yn ôl rheoliadau a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003, gynhyrchu Adolygiad Rheoli Trysorlys Blynyddol o weithgareddau a'r dangosyddion darbodus a thrysorlys gwirioneddol ar gyfer 2019/20. Mae'r adolygiad yn ystyried gweithgareddau rheoli trysorlys y Cyngor yn ystod y flwyddyn yng nghyd-destun y ffactorau economaidd ehangach, gan gynnwys perfformiad cyfraddau llog yn ystod y cyfnod, ansicrwydd parhaus ynghylch Brexit ac effaith Covid-19.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod yr Adroddiad Adolygu wedi'i ystyried a'i dderbyn gan y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn ei gyfarfod ar 1 Medi, 2020. O safbwynt strategaeth fenthyca'r Cyngor, roedd benthyca yn ystod y flwyddyn o fewn y terfynau a osodwyd gan y Strategaeth Rheoli Trysorlys ar gyfer 2019/20 ac roedd yn unol â'r Dangosyddion Darbodus. Nid aethpwyd dros y Terfyn Benthyca Awdurdodedig (£178m) na'r Ffin Weithredol (£173m) yn ystod y flwyddyn, gyda swm y ddyled allanol yn cyrraedd £139.2m yn unig ar ei huchaf,  sydd i'w briodoli i danwariant mawr ar brosiectau cyfalaf fel yr amlinellir ym mharagraff. 3.1 o'r adroddiad. Mae'r Cyngor wedi gweithredu strategaeth fenthyca fewnol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf sy'n golygu ei fod wedi defnyddio ei falansau arian parod ei hun i ariannu gwariant cyfalaf newydd ar y sail y ceir y gwerth gorau trwy osgoi benthyca'n allanol pan fo cyfraddau buddsoddi yn is na chyfraddau benthyca tymor hir (pryd mae cost benthyca yn fwy na'r enillion ar fuddsoddiadau). Ar 31 Mawrth, 2019 roedd y Cyngor wedi defnyddio £6.2m o'i falansau arian parod i ariannu gwariant cyfalaf ond erbyn 31 Mawrth, 2020 roedd y Cyngor wedi benthyca i lefel o £2.3m yn fwy nag oedd angen o ganlyniad i gael benthyciad o £10m ym Mawrth i sicrhau bod gan y Cyngor ddigon o arian parod wrth fynd i mewn i’r argyfwng Covid-19. Bydd y benthyciad yn aeddfedu ar 18 Mawrth, 2021. Ar yr ochr fuddsoddi, cynhaliodd y Cyngor ei ddull risg isel o sicrhau mynediad rhwydd i'w arian parod pe bai angen, gan gadw at adneuon tymor byrrach (a chadw'r gallu i fuddsoddi am gyfnodau hirach hefyd) a buddsoddi arian dros ben trwy fenthyciadau tymor byr gydag awdurdodau lleol eraill i sicrhau'r enillion mwyaf mewn ffordd ddiogel.

 

Penderfynwyd

 

           Nodi y bydd y ffigyrau alldro yn yr adroddiad hwn yn parhau’n rhai dros dro hyd nes y bydd yr archwiliad o ddatganiad Cyfrifon 2019/20 wedi’i gwblhau a’i lofnodi; adroddir fel sy’n briodol ar unrhyw addasiadau sylweddol dilynol i’r ffigyrau a gynhwysir yn yr adroddiad;

           Nodi dangosyddion Pwyllog a Thrysorlys dros dro 2019/20 yn yr adroddiad;

           Trosglwyddo Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2019/20 i gyfarfod nesaf y Cyngor Llawn heb unrhyw sylwadau ychwanegol  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Diweddariad o’r Panel Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol pdf eicon PDF 408 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol yn diweddaru'r Pwyllgor Gwaith ar gynnydd yn y Gwasanaethau Cymdeithasol. 'Roedd yr adroddiad yn crynhoi datblygiadau diweddar o fewn y Gwasanaethau Plant ac Oedolion ac yn cyfeirio hefyd at effaith pandemig Covid 19 ac ymateb y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod y cyfnod clo.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd a’r Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol at gynnydd a'r hyn a gyflawnwyd yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ac Oedolion yn eu tro o dan y penawdau canlynol ac ymhelaethodd ar y gweithgareddau, y datblygiadau a’r llwyddiannau o dan bob pennawd

 

           Cynyddu nifer y Gofalwyr Maeth Awdurdod Lleol

          Agor y Cartref Clyd cyntaf a fydd yn golygu y gall plant o Ynys Môn sy'n derbyn gofal dderbyn y gofal hwnnw ar yr Ynys

          Agor fflat hyfforddi i bobl ifanc sy'n gadael gofal i'w cefnogi i fyw'n annibynnol am y tro cyntaf

          Parhau gyda'r gwaith cynllunio ar gyfer darpariaeth tai gofal ychwanegol newydd yn ne'r Ynys

          Datblygu'r Rhaglen Cysylltu Bywydau i gefnogi pobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr yn ogystal â dylunio Strategaeth Ddementia yn unol â Chynllun Dementia Llywodraeth Cymru

          Datblygu cyfleoedd i bobl ag anghenion iechyd meddwl gymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp yn y gymuned

          Cynyddu lefelau cyfranogi yn y modelau hybiau cymunedol trwy hyrwyddo a datblygu'r hybiau ar draws yr Ynys; gweithio i sefydlu 3 thîm adnoddau cymunedol yn Amlwch, Ysbyty Penrhos Stanley a Llanfairpwll

          Ymgysylltu ac ymgynghori â defnyddwyr ar y Strategaeth Cyfleon Dydd i Oedolion yn y maes Anabledd Dysgu er mwyn creu ystod ehangach o gyfleon dydd o ansawdd uchel i unigolion yn eu cymunedau.

           Cyflawni'r holl ddyletswyddau statudol yn ystod cyfnod clo Covid-19

 

Gan gyfeirio at y pandemig Covid-19, dywedodd y Cyfarwyddwr Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol fod y Gwasanaethau Cymdeithasol yn benderfynol o ddyfalbarhau â mentrau datblygu yn ystod y cyfnod argyfwng gan ddod o hyd i brosesau amgen ar gyfer eu gyrru ymlaen tra hefyd yn cwrdd â chyfrifoldebau statudol y Gwasanaeth yn ystod y cyfnod hwnnw. Amlygodd fod y pecyn budd-daliadau a gyflwynwyd i ddenu darpar ofalwyr maeth i Wasanaethau Maethu’r Cyngor wedi helpu i recriwtio 7 gofalwr maeth sy’n cynnig 13 o leoliadau maeth newydd i blant a phobl ifanc Ynys Môn sy’n ganlyniad i’w groesawu;  mae'r pecyn hwn, ynghyd â'r enw da y mae'r Tîm Maethu wedi bod yn ei adeiladu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf wrth i'r gwasanaeth barhau i ddatblygu, yn ffactorau pwysig o ran denu gofalwyr maeth newydd

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wrth adrodd o gyfarfod y Pwyllgor ar 22 Medi a oedd yn ystyried yr adroddiad cynnydd, fod y Pwyllgor Sgriwtini  Corfforaethol yn fodlon â chyflymder y cynnydd yn y Gwasanaethau Cymdeithasol fel y gwelwyd yn yr adroddiad ac roedd yn hapus i argymell yr adroddiad i'w gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Croesawodd y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr ar Effeithiolrwydd y Gwasanaethau Cymdeithasol 2019/20 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i 'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad blynyddol drafft y Cyfarwyddwr Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ar effeithiolrwydd Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2019/20 . Mae cyhoeddi'r adroddiad yn ofyniad statudol a'i bwrpas yw hyrwyddo ymwybyddiaeth ac atebolrwydd am berfformiad a chynnydd a wnaed dros y flwyddyn ddiwethaf o ran darparu Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghyngor Sir Ynys Môn, yn ogystal ag amlinellu blaenoriaethau ar gyfer gwella.

 

Diolchodd y Cadeirydd a'r Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol i Mr Alwyn Jones, y cyn- Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, a fu’n cyflawni’r  swydd am y rhan fwyaf o'r cyfnod a gwmpesir gan yr Adroddiad Blynyddol, am arwain ar y gwaith y mae'r adroddiad yn ymwneud ag ef. Diolchodd hefyd i Mr Fôn Roberts, Cyfarwyddwr Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol am drosglwyddiad llyfn a chyfeiriodd at ehangder y portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol sy'n cyffwrdd â bywydau cymaint o bobl pan fyddant mewn angen.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro fod yr adroddiad yn darparu tystiolaeth helaeth ac eang o waith a gweithgareddau'r Gwasanaethau Oedolion a'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn 2019/20 wrth ddarparu gwasanaethau i bobl Ynys Môn. Lluniwyd yr Adroddiad Blynyddol ar ffurf a benodir gan ofynion adrodd sydd wedi eu cynnwys mewn canllawiau statudol sy'n ei gwneud yn ofynnol iddo fod yn hwylus ac yn hawdd ei ddeall. Yn unol â'r gofynion hefyd, mae'r adroddiad yn dogfennu perfformiad Gwasanaethau Cymdeithasol am y flwyddyn o dan y chwe safon ansawdd y mae disgwyl i awdurdodau lleol eu cyflawni o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 gan gynnwys y camau a gymerwyd i gyflawni'r safonau ansawdd. O ran amgylchiadau lleol, tynnodd y Cyfarwyddwr Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol sylw at nifer o fentrau newydd a gynhaliwyd gan y Gwasanaethau Cymdeithasol yn Ynys Môn yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys mewn cydweithrediad gyda'r Elusen Achub Bywydau mewn perthynas â cham-drin domestig a chyda Voices from Care Cymru mewn perthynas â sefydlu grŵp cyfranogi misol ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal. Mae datblygu mecanweithiau i wrando'n well ar lais defnyddwyr gwasanaeth wedi bod yn ffocws penodol yn ystod 2019/20.

 

Adroddodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, yn dilyn trafodaeth gynhyrchiol ar yr Adroddiad Blynyddol yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 22 Medi, fod y Pwyllgor wedi penderfynu derbyn yr Adroddiad Blynyddol drafft gan ei fod yn fodlon bod yr adroddiad yn cyfleu sefyllfa bresennol y Cyngor o ran darparu Gwasanaethau Cymdeithasol; ei fod yn adlewyrchu'n gywir y blaenoriaethau gwella ar gyfer Gwasanaethau Oedolion a Phlant ar gyfer y flwyddyn i ddod ac yn adlewyrchu atebolrwydd a chyfrifoldeb y Cyngor mewn perthynas â'r Gwasanaethau Cymdeithasol a'i fod yn hapus i argymell yr adroddiad i'r Pwyllgor Gwaith.

 

Diolchodd y Pwyllgor Gwaith i'r Rheolwyr Gwasanaethau Cymdeithasol a'r staff am eu hymdrechion yn ystod y flwyddyn ddiwethaf y mae’r adroddiad yn tystio iddynt.

 

Penderfynwyd derbyn Adroddiad Blynyddol drafft y Cyfarwyddwr ar  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11.

12.

Tir ar Stad Ddiwydiannol Mona - Cais gan Gymdeithas Amaethyddol Ynys Môn i ddiwygio amodau’r brydles pdf eicon PDF 381 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) yn nodi cais gan Gymdeithas Amaethyddol Ynys Môn i amrywio elfennau o gytundeb prydles gyda Chyngor Sir Ynys Môn ar gyfer defnyddio tir yn Stad Ddiwydiannol Mona.

 

Cyflwynodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo yr adroddiad trwy egluro bod Cymdeithas Amaethyddol Ynys Môn wedi bod yn defnyddio tir y Cyngor ar Stad Ddiwydiannol Mona yn llwyddiannus fel cyfleuster parcio a theithio ar gyfer Sioe Môn bob blwyddyn. Mae'r ddarpariaeth hon wedi'i galluogi trwy amrywiol gytundebau prydles a thrwyddedau tymor byr ers 2012. Yng nghyd-destun paratoi ar gyfer Brexit dim cytundeb mae'r safle wedi'i nodi gan Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru a Llywodraeth Cymru fel lleoliad addas ar gyfer gwaith prosesu brys tymor byr ynghylch Cerbydau Nwyddau Trwm er mwyn gwirio / prosesu gwaith papur mewnforio ac allforio heb amharu ar y rhwydwaith ffyrdd a'r cyfleusterau porthladd yng Nghaergybi. Gwnaed rhywfaint o waith galluogi ym mis Hydref 2019 gan Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru ond ni chafwyd unrhyw gyswllt pellach nes i Lywodraeth Cymru gysylltu â'r Cyngor ddechrau Ebrill 2020 i ailddechrau'r drafodaeth.

 

Ym mis Mehefin 2020 derbyniodd y Cyngor ohebiaeth gan Adain Eiddo Adran Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, yn mynegi diddordeb yn y tir ar Stad Ddiwydiannol Mona er mwyn darparu cyfleuster ar gyfer 100 o gerbydau HGV ynghyd â rhai adeiladau ategol dros dro yn barod ar gyfer gadael yr UE yn derfynol; yn benodol ar gyfer ei ddefnyddio i ddibenion tollau. Byddai angen defnyddio’r safle ym Mona am gyfnod o 5 mlynedd. Anfonwyd ymateb yn amlinellu safbwynt y Cyngor mewn perthynas â’r tir ac yn awgrymu y dylid ystyried opsiynau amgen.

 

Ers hynny, daeth i sylw'r Cyngor bod trafodaethau wedi datblygu'n sylweddol rhwng Adran Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi a Chymdeithas Amaethyddol Ynys Môn i'r Gymdeithas is-osod ei fudd yn safle Mona. Amlinellodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol, ar wahoddiad yr Aelod Portffolio, delerau perthnasol y cytundeb presennol rhwng y Cyngor a Chymdeithas Amaethyddol Ynys Môn (fel y crynhoir yn yr adroddiad) gan gyfeirio'n benodol at y gwaharddiad ar is-osod a rhannu defnydd.

 

Daeth yr Aelod Portffolio ar gyfer Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo i'r casgliad, nid yn unig nad oes rheidrwydd cyfreithiol ar y Cyngor i gydsynio i unrhyw un o'r ceisiadau a wneir gan y Gymdeithas, nid oes gan y Cyngor rym i ganiatáu datblygiad arfaethedig Adran Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi oherwydd y cyfyngiadau a osodwyd gan y Weinyddiaeth Amddiffyn (y prynodd y Cyngor y tir ym Mona ganddi'n wreiddiol)  ar deitl rhydd-ddaliad y Cyngor. Yn ogystal, ystyrir y byddai defnyddio Mona at y diben hwn yn cael effaith sylweddol ar gymunedau Gwalchmai a Rhostrehwfa ac, o bosib, bentrefi eraill hefyd, a gallai’r cynnydd yn y traffig gynyddu'r risg o ddamweiniau pellach ar y B4422 a'r A5. Yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.